The Welsh Development Agency (Transfer of Functions to the National Assembly for Wales and Abolition) Order 2005
Wedi'i wneud: 22 Tachwedd 2005
Yn dod i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[^f00001] ac Atodlen 4 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Title, commencement and interpretation
1
- (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu) 2005 a daw i rym drannoeth y diwrnod y gwneir ef.
- (2) Yn y Gorchymyn hwn—
- mae i “aliwn” (“alien”) yr ystyr a roddir i “alien” gan adran 51(4) o Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981[^f00002];
- ystyr yr “Awdurdod” (the “Agency”) yw Awdurdod Datblygu Cymru;
- ystyr “cyflogai perthnasol” (“relevant employee”) yw unrhyw berson a oedd, yn union cyn y dyddiad trosglwyddo, yn cael ei gyflogi gan yr Awdurdod o dan gontract cyflogaeth;
- ystyr y “Cynulliad” (the “Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
- ystyr “Deddf 1975” (“1975 Act”) yw Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975[^f00003]; ac
- ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw 1 Ebrill 2006.
Transfer of functions, property, rights and liabilities of the Agency to the Assembly
2
- (1) Ar y dyddiad trosglwyddo mae swyddogaethau'r Awdurdod yn cael eu trosglwyddo i'r Cynulliad yn unol â darpariaethau Atodlenni 1 a 2 sy'n diwygio'r deddfiadau sy'n ymwneud â'r Awdurdod er mwyn—
- (a) trosglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad, a
- (b) gwneud darpariaeth sy'n ganlyniad i'r trosglwyddo neu'n atodol neu'n ategol iddo.
- (2) Ar y dyddiad trosglwyddo, trosglwyddir i'r Cynulliad a breinir ynddo yn rhinwedd y paragraff hwn yr holl eiddo, hawliau a rhwymedigaethau yr oedd yr Awdurdod â hawl iddynt neu yr oedd yn ddarostyngedig iddynt yn union cyn y dyddiad hwnnw.
- (3) Mae'r hawliau a'r rhwymedigaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) uchod yn cynnwys rhai sydd yn codi o dan gontract cyflogaeth a wnaed rhwng cyflogai perthnasol a'r Awdurdod.
- (4) Mae Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981[^f00004] yn gymwys i drosglwyddo swyddogaethau'r Awdurdod i'r Cynulliad boed ar wahân i'r ddarpariaeth hon ai peidio, y byddai cyflawni'r swyddogaethau hyn yn cael eu trin fel ymgymeriad o natur fasnachol at ddibenion y Rheoliadau hynny.
- (5) Er gwaethaf unrhyw beth mewn unrhyw ran arall o'r Gorchymyn hwn neu yn Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981, os effaith yr erthygl hon yw bod person sydd yn aliwn yn dod yn aelod o staff y Cynulliad, nid yw adran 34(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gymwys i gontract cyflogaeth y person hwnnw cyn y dyddiad trosglwyddo.
- (6) Mae tystysgrif a ddyroddwyd gan y Cynulliad bod unrhyw eiddo wedi'i drosglwyddo o dan baragraff (2) yn dystiolaeth bendant a diymwad o'r trosglwyddiad.
- (7) Mae paragraff (2) yn cael effaith mewn perthynas â'r eiddo, hawliau neu rwymedigaethau y mae yn gymwys iddynt er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth (o ba natur bynnag) a fyddai'n atal trosglwyddo'r eiddo, yr hawliau neu'r rhwymedigaethau neu'n cyfyngu ar eu trosglwyddo heblaw gan y paragraff hwnnw.
Transitional provisions
3
- (1) Nid oes dim yn erthygl 2 nac Atodlenni 1 a 2 yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth sydd wedi cael ei wneud gan yr Awdurdod neu mewn perthynas ag ef cyn bod ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo.
- (2) Caniateir i unrhyw beth (gan gynnwys achos cyfreithiol) gael ei barhau gan y Cynulliad neu mewn perthynas â'r Cynulliad os yw—
- (a) yn ymwneud ag unrhyw un o swyddogaethau'r Awdurdod neu ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2), a
- (b) wrthi'n cael ei wneud gan yr Awdurdod neu mewn perthynas ag ef pan fo'r swyddogaethau a enwyd yn cael eu trosglwyddo.
- (3) Mae unrhyw beth—
- (a) a wnaed gan yr Awdurdod at ddibenion unrhyw un o'i swyddogaethau neu mewn cysylltiad â'r swyddogaeth honno neu gan yr Awdurdod at ddibenion unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2) neu mewn cysylltiad â hwy, a
- (b) sy'n effeithiol yn union cyn bod ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo,
i gael effaith fel petai wedi'i wneud gan y Cynulliad, ac er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth bernir bod unrhyw orchmynion prynu gorfodol a wnaed gan yr Awdurdod mewn perthynas â thir yng Nghymru o dan adran 2(2) o Ddeddf Caffael Tir 1981[^f00005] ac na chawsant eu cadarnhau cyn y dyddiad trosglwyddo yn orchmynion prynu gorfodol a wnaed mewn drafft gan y Cynulliad o dan y weithdrefn a nodir yn Atodlen 1 i'r Ddeddf honno.
- (4) Mae'r Cynulliad yn cael ei roi yn lle'r Awdurdod mewn unrhyw offerynnau, contractau neu achosion cyfreithiol sy'n ymwneud—
- (a) ag unrhyw un o swyddogaethau'r Awdurdod, a
- (b) ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2),
ac sydd wedi'u gwneud neu wedi'u cychwyn cyn i'w swyddogaethau gael eu trosglwyddo.
- (5) Caiff y Cynulliad—
- (a) barhau i ddal eiddo a ddelir gan yr Awdurdod, a
- (b) parhau i ymgymryd â gweithgareddau yr oedd yr awdurdod yn ymgymryd â hwy,
yn ddibynnol ar adran 21(2) o Ddeddf Diwydiant 1980[^f00006].
- (6) Ar y dyddiad trosglwyddo, bydd rhwymedigaethau'r Awdurdod, y Cynulliad ac Archwilydd Cyffredinol Cymru y cyfeirir atynt isod a gynhywsir ym mharagraff 8 o Atodlen 3 (Darpariaethau ariannol a gweinyddol sy'n ymwneud â'r Awdurdod) i Ddeddf 1975 yn effeithiol o ran y flwyddyn ariannol 2005 i 2006 yn unig ond fel arall diddymir hwy—
- (a) rhwymedigaeth yr Awdurdod o dan is-baragraff (1) i baratoi datganiad o gyfrif, gyda'r arbediad bod y rhwymedigaeth yn cael ei throsglwyddo i'r Cynulliad;
- (b) rhwymedigaeth y Cynulliad o dan is-baragraff (3) i drosglwyddo'r datganiad o gyfrif i Archwilydd Cyffredinol Cymru; ac
- (c) rhwymedigaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan is-baragraff (4) i archwilio ac ardystio'r datganiad o gyfrif a gosod copïau o'r datganiad o gyfrif gerbron y Cynulliad ynghyd ag adroddiad arno.
Industrial buildings allowances
4
- (1) Nid yw trosglwyddo eiddo oddi wrth yr Awdurdod i'r Cynulliad o dan y Gorchymyn hwn yn peri unrhyw lwfansau neu ffioedd o dan Ddeddf Lwfansau Cyfalafol 2001.
- (2) O ran yr eiddo a gynhwysir yn y trosglwyddo, at ddibenion cyfrifo lwfansau adeilad diwydiannol o dan y Ddeddf honno mae unrhyw beth a wneir i'r Awdurdod neu ganddo cyn y trosglwyddo i'w drin ar ôl y trosglwyddo fel pe bai wedi ei wneud i'r Cynulliad neu ganddo.
Abolition
5
Ar drosglwyddo ei swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i'r Cynulliad ar y dyddiad trosglwyddo yn unol ag erthygl 2, daw bodolaeth yr Awdurdod i ben.
Winding down
6
Rhaid i'r Awdurdod roi i'r Cynulliad yr holl wybodaeth a gwneud yr holl bethau eraill sy'n ymddangos i'r Cynulliad eu bod yn briodol er mwyn hwyluso trosglwyddo ei swyddogaethau i'r Cynulliad ac er mwyn hwyluso'i ddiddymiad yn unol â'r Gorchymyn hwn.
Amendments to, repeals of and revocations of existing enactments
7
- (1) Ar y dyddiad trosglwyddo—
- (a) diwygir darpariaethau Deddf 1975 a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn unol â'r atodlen honno;
- (b) diwygir y deddfiadau a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn unol â'r atodlen honno; ac
- (c) diddymir neu dirymir y deddfiadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2 o'r Gorchymyn hwn.
- (2) Mae'r diwygiadau, y diddymu a'r dirymu deddfiadau yn estyn i'r un gradd â'r deddfiad y'i diwygir, diddymir neu y'i dirymir.
Saving provisions
8
- (1) Mae unrhyw ganiatâd cynllunio y bernir ei fod wedi'i roi yn rhinwedd adran 7 (Diddymu Corfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru) o Ddeddf 1975 yn parhau mewn grym er gwaethaf diddymiad yr adran honno.
- (2) Mae paragraff 7 o Atodlen 2 (Aelodau staff Corfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru) i Ddeddf 1975 yn parhau mewn grym o ran unrhyw aelod o staff yr Awdurdod y trosglwyddwyd eu cyflogaeth o'r Gorfforaeth Ystadau Diwydianol Cymru i gyflogaeth yr Awdurdod.
ATODLEN 1
The Welsh Development Agency Act 1975
1
Mae Deddf Awdurdod Datblygu Cymru 1975 yn effeithiol yn ddarostyngedig i'r diwygiadau canlynol.
2
Oni ddarperir fel arall yn y darpariaethau canlynol, ym mhob man y digwydd (gan gynnwys ym mhenawdau'r adrannau a'r atodlenni)—
- (a) yn lle “Agency” rhodder “Assembly”; a
- (b) yn lle “Agency's” rhodder “Assembly's”.
3
Yn adran 1 (Awdurdod Datblygu Cymru)—
- (1) yn lle is-adran (1), rhodder—
(1) The functions specified in the following provisions of this Act are conferred upon the National Assembly for Wales (in this Act referred to as the “Assembly”).
- (2) yn is-adrannau (2), (3)(j), (4), (6) (yn y lle cyntaf y digwydd), a (7)(l), yn lle “their” rhodder “its”;
- (3) yn is-adrannau (2) a (4) ar ôl “functions” rhodder “under this Act”;
- (4) yn is-adran (3), yn union o flaen “shall be” rhodder “under this Act”;
- (5) yn is-adran (7), ar ôl “have power” rhodder “in connection with its functions under this Act”;
- (6) ar ddiwedd is-adran (7)(m), mewnosoder “under this Act”;
- (7) hepgorer is-adrannau (8) i (13) a (15);
- (8) yn lle is-adran (14) rhodder—
(14) The Assembly shall, after consultation with such local authorities, National Park authorities and other bodies as appear to the Assembly to have an interest, from time to time prepare and publish programmes for the performance of such of its functions under this Act as it considers appropriate.
; a
- (9) yn lle'r pennawd i adran 1 rhodder “Welsh development”.
4
Hepgorer adran 2 (Cyfansoddiad a statws).
5
Yn adran 4 (Pwerau ategol)—
- (1) ar ôl “power” rhodder “in connection with its functions under this Act”;
- (2) ym mharagraff (a), yn lle “their services as they think” rhodder “its services as it thinks”;
- (3) ym mharagraff (b) yn lle “them” rhodder “it” ac yn lle “of their” rhodder “such”; a
- (4) ym mharagraff (c) yn lle “their” rhodder “such”.
6
Yn is-adran (1) o adran 5 (Cymorth i'r Awdurdod gan awdurdodau cyhoeddus a phersonau eraill) yn lle “their” rhodder “its”.
7
Yn lle adran 6 (Y pŵer i ffurfio pwyllgorau) rhodder—
(6) (1) The Assembly may establish such committees for giving advice to the Assembly about the discharge of any of its functions under this Act as it considers appropriate. (2) The members of any such committee are to be appointed by the Assembly and may be either members of the Assembly or persons who are not members.
8
Hepgorer adran 7 (Diddymu Corfforaeth Ystadau Diwydiannol Cymru).
9
Hepgorer adran 8 (Trosglwyddo tir a ddelir o dan Ddeddf Cyflogaeth Leol 1972 i'r Awdurdod).
10
Yn adran 9 (Darparu safleoedd a mangreoedd ar gyfer diwydiant)—
- (1) hepgorer is-adran (1);
- (2) yn is-adran (2), yn lle “For that purpose” rhodder “For the purpose of providing or managing sites and premises for businesses and providing related facilities, or making land available for development”; a
- (3) yn lle is-adran (3), rhodder—
(3) The Assembly may, if it considers there are circumstances which justify the giving of special assistance, provide premises for the occupation of a business free of rent for such time as it thinks appropriate
11
Yn adran 10 (Gwasanaethau, etc ar gyfer datblygu diwydiant), yn lle “Secretary of State may authorise the Agency to” rhodder “Assembly may” ac yn lle “him” rhodder “it”.
12
Hepgorer adran 10A (Cymorth ariannol ar gyfer adfywio a datblygu).
13
Yn adran 13 (Bwrdd Ymgynghorol Datblygu Diwydiant Cymru)—
- (1) yn is-adran (1)—
- (a) yn lle “Secretary of State” rhodder “Assembly”,
- (b) yn lle “him” rhodder “it”, ac
- (c) yn lle “his” rhodder “its”;
- (2) yn is-adran (3), yn lle “Secretary of State” rhodder “Assembly”; a
- (3) yn lle is-adran (4) rhodder—
(4) If the Board make a recommendation with respect to any matter at the request of the Assembly and the Assembly exercises its functions under section 7 of the Industrial Development Act 1982 contrary to their recommendation, it shall, if the Board so request, publish a statement as to the matter.
14
Hepgorer adran 14 (Trosglwyddo eiddo dan berchnogaeth cyhoeddus i'r Awdurdod).
15
Yn lle adran 15 (Yr amgylchedd) rhodder—
(15) (1) The Assembly’s duty under section 1(14) above to prepare and publish, after consultation with such local authorities, National Park authorities and other bodies as appear to the Assembly to have an interest, programmes for the performance of the Assembly’s functions under this Act, includes in particular a duty to prepare and publish programmes, to be implemented either by the Assembly itself, or by the Assembly acting jointly with any other authority or person, or through persons or authorities acting on behalf of the Assembly, for the improvement, development or redevelopment of the environment in Wales. (2) The Assembly may make payments to any authority or person of such amount and in such manner as it may determine for carrying out work which the Assembly considers will contribute to the purposes of such a programme.
16
Yn adran 16 (Tir diffaith)—
- (1) yn is-adran (1), yn y geriau olaf, yn lle “they may, with the consent of the Secretary of State,” rhodder “it may”;
- (2) yn is-adran (3), ym mharagraff (a) yn lle “they” rhodder “it” ac yn y geiriau olaf yn yr is-adran yn lle “on them” rhodder “on it”;
- (3) yn is-adran (6), yn lle “Secretary of State with the consent of the Treasury” rhodder “Assembly”; a
- (4) yn lle is-adran (8) rhodder—
(8) A statutory instrument containing an order under subsection (6) above may make such transitional provision as appears to the Assembly to be necessary or expedient.
17
Hepgorer adran 17 (Dyletswyddau ariannol yr Awdurdod).
18
Yn adran 18 (Cyllid yr Awdurdod)—
- (1) hepgorer is-adrannau (2) i (5), a
- (2) yn lle'r pennawd rhodder “Borrowing and guarantees”.
19
Hepgorer adran 19 (Yr Awdurdod a'r cyfryngau).
20
Hepgorer adran 20 (Terfynau eraill ar bwerau'r Awdurdod).
21
Hepgorer adran 21 (Treuliau).
22
Yn lle adran 21A (Pwerau caffael tir) rhodder—
(21A) (1) The powers to acquire land mentioned in sections 1(7)(h) and 16(3)(b) above are powers— (a) to acquire land by agreement; (b) in relation to land in Wales, to acquire land compulsorily; and (c) in relation to land in England, to acquire land compulsorily if authorised to do so by the Secretary of State. (2) Where the Assembly acquires or has acquired land under subsection (1) above, it has power— (a) to acquire by agreement, (b) in relation to land in Wales, to acquire compulsorily, and (c) in relation to land in England, if authorised to do so by the Secretary of State, to acquire compulsorily, the land described in subsection (2A) below. (2A) The land is— (a) any land which adjoins the land which the Assembly acquires or has acquired under subsection (1) and which is required for the purpose of executing works for facilitating its development or use; and (b) where the land which the Assembly acquires or has acquired under subsection (1) forms part of a common, an open space or a fuel or field garden allotment, any land required for the purpose of being given in exchange for it. (3) The Assembly may under subsection (1) above acquire rights over land by the creation of new rights (as well as by acquiring rights already in existence). (4) Before the Assembly acquires land under subsection (1) for the purpose of its function under section 1(3)(da) above, it shall— (a) consider whether the land would or would not in its opinion be made available for development if it did not act; (b) consider the fact that planning permission has or has not been granted in respect of the land or is likely or unlikely to be granted; (c) (in the case where no planning permission has been granted in respect of the land) consult every relevant local authority; and (d) consider the needs of those engaged in building, agriculture and forestry and of the community in general. (5) For the purposes of subsection (4)(c) above, each of the following is a relevant local authority— (a) the council of any county, county borough or district in whose area the land, or any part of the land, is situated; (b) any joint planning board in whose district the land, or any part of the land, is situated; and (c) any National Park authority which is the local planning authority for a National Park in which the land, or any part of the land, is situated. (6) Where the Assembly has acquired land under subsection (1) above for the purpose of any of its functions under this Act it may appropriate it to the purpose of any of its other functions under this Act. (7) Where the Assembly has— (a) acquired land under subsection (1) above for the purposes of its function under section 1(3)(da) above; or (b) under subsection (6) above has appropriated land to that purpose, it shall, until it either disposes of the land or appropriates the land under subsection (6) above to the purpose of any of its other functions under this Act, manage the land and turn it to account. (8) Schedule 4 to this Act shall have effect.
23
Ym mharagraff (b) o adran 21B (Gwaredu tir), yn lle “with the consent of the Secretary of State” rhodder “otherwise as it considers appropriate”.
24
Yn adran 21C (Pwerau i gynghori ar faterion tir), yn is-adran (2)—
- (a) hepgorer paragraff (b); a
- (b) ym mharagraff (i), yn lle “Secretary of State” rhodder “Assembly”.
25
Hepgorer adran 24 (Y pŵer i gael gwybodaeth).
26
Hepgorer adran 25 (Cyflwyno dogfennau).
27
Yn adran 27 (Dehongli)—
- (1) yn is-adran (1), hepgorer y diffiniad o “accounting year”; a
- (2) hepgorer is-adran (2).
28
Yn adran 28 (Gorchmynion a rheoliadau), hepgorer is-adran (1A).
29
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.