The Welfare of Farmed Animals (Wales) Regulations 2007
[^key-f2a37e5384d999802c9e458eed6ac2a7]: Atod. 8 para. 18 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-be5eb96a1f2608e6472c63ef5580b873]: Atod. 8 para. 19 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-89da5523056285b3f75728405019cd17]: Atod. 8 para. 20 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-a8b8c69ccc6a524739b934da3b30f676]: Atod. 8 para. 21 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-937bf155ea639c61b3d956a65efbf25c]: Atod. 8 para. 22 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-b8c35eab2bdf47ec6cd76ed2ee3bde34]: Atod. 8 para. 23 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-6d2a5653d50bda3077526d33a571c38e]: Atod. 8 para. 24 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-fd0996093f0b7c950097cf010d250e00]: Atod. 8 para. 25 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-2312f27c6dbc4824483dd89dec869b25]: Atod. 8 para. 26 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-bfd10c4f6e48887287ff36abb912ab58]: Atod. 8 para. 27 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-4304066a8dfcbd7244fbf7fac56f35d1]: Atod. 8 para. 28 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-62177aa1c1ec2a26c1fca6139e3c4235]: Atod. 8 para. 29 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-d1315e119f55bd83566e4c5c1903245d]: Atod. 8 para. 30 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-0ca4e96dbfea5c3e7cf6d0a735a06b55]: Atod. 8 para. 31 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-adda54e151f74d65d34703a7603bbbad]: Atod. 8 para. 32 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-f11d2c00c067eeaaab3f152ff5006acb]: Atod. 8 para. 33 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-605ab1d8bef7636bf0782bf1e33d456a]: Atod. 8 para. 34 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-14432d7663d647bc446e0c7c76f9251a]: Atod. 8 para. 35 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-1729ea15cdc475722f1eec3847e30c87]: Atod. 8 para. 36 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-f1b3f7cdbae899aaa8cca2d4613a5cee]: Atod. 8 para. 37 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-56a99868fb92c6d348c2e718990357e1]: Atod. 8 para. 38 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-72fc7ae68ef360a5e038f0edcf5dac58]: Atod. 8 para. 39 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-5440af4bacab604b9d3b69b6abdb1458]: Atod. 8 para. 40 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-0fab0dc1c55c655c4acd175f4c706308]: Atod. 8 para. 41 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-3b71bedf98f4d1e4f242427c99dd439f]: Atod. 8 para. 42 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-7506cd408be7e629119f50be54c40634]: Atod. 8 para. 43 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-f606e775964daa97f2f195caabcacb94]: Atod. 9 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-46cb71085325d579473c6e7c3780fd5e]: Atod. 9 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
[^key-8def8b916efbfb18bb0f27759194b932]: Rhl. 5A wedi ei fewnosod (10.11.2010) gan Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2713), rhlau. 1, 5
[^key-2a3b50840f6f81411188b83bf5d3ad7a]: Atod. 5A wedi ei fewnosod (10.11.2010) gan Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2713), rhlau. 1, 8, Atod.
[^key-84e4292412fa8bbaa18b514231f3ea95]: Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (10.11.2010) gan Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2713), rhlau. 1, 3(1)(a)
[^key-70804f26c0a8c52e0b8610866e3a939d]: Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (10.11.2010) gan Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2713), rhlau. 1, 3(1)(b)
[^key-f12659e4fde830af9f89a49bf0f53620]: Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu hamnewid (10.11.2010) gan Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2713), rhlau. 1, 3(1)(b)
[^key-090868edb12cf134b5d08fba32113781]: Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (10.11.2010) gan Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2713), rhlau. 1, 3(1)(c)
[^key-48ef0a5570935c8bcd214a26142fe75f]: Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (10.11.2010) gan Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2713), rhlau. 1, 3(1)(ch)(i)
[^key-c74249adf365f091e90f46ad7951abba]: Geiriau yn rhl. 2(1) wedi eu mewnosod (10.11.2010) gan Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2713), rhlau. 1, 3(1)(ch)(ii)
[^key-975b0abec9efeb2c4c5b87e06a48ec1f]: Rhl. 2(2)(aa) wedi ei fewnosod (10.11.2010) gan Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2713), rhlau. 1, 3(2)
[^key-f0f62b32ac919fb879d4b939a8fc9fe4]: Rhl. 5(4) wedi ei fewnosod (10.11.2010) gan Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2713), rhlau. 1, 4(3)
[^key-1aabc605c317bfa1a1c5122989919d15]: Geiriau yn rhl. 5(1)(a) wedi eu mewnosod (10.11.2010) gan Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2713), rhlau. 1, 4(1)
[^key-5373703f6f61fd4a8ad8187f6aeb58f1]: Rhl. 5(1)(ba) wedi ei fewnosod (10.11.2010) gan Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2713), rhlau. 1, 4(2)
[^key-11ce026534a623dd0321227c30354352]: Rhl. 7(1): rhl. 7 wedi ei ailrifo fel rhl. 7(1) (10.11.2010) gan Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2713), rhlau. 1, 6(1)
[^key-57c23c517f4f38c033d1da34b831623e]: Rhl. 7(2) wedi ei ychwanegu (10.11.2010) gan Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2713), rhlau. 1, 6(2)
[^key-60bc6736eaafc9b7a071ef6363182adb]: Atod. 1 para. 2(3)(aa) wedi ei fewnosod (10.11.2010) gan Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2713), rhlau. 1, 7(a)
[^M_F_acffedf9-7a42-4953-9db6-2a026c289fb0]: Geiriau yn Atod. 1 para. 5 wedi eu fewnosodwyd (10.11.2010) gan Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2713), rhlau. 1, 7(b)
[^key-0137058529a0b7caa2d533f235ef2863]: Gair yn Atod. 1 para. 7(b)(ii) wedi ei hepgor (10.11.2010) yn rhinwedd Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2713), rhlau. 1, 7(c)(i)
[^key-a142ffd9a4829403ee4a966c8e6a4860]: Atod. 1 para. 7(b), (iiia) wedi ei fewnosod (10.11.2010) gan Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2713), rhlau. 1, 7(c)(iii)
[^key-30e7b56e25773360d7e60676208c6446]: Gair yn Atod. 1 para. 7(b)(iii) wedi ei hepgor (10.11.2010) yn rhinwedd Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) (Diwygio) 2010 (O.S. 2010/2713), rhlau. 1, 7(c)(ii)
[^key-0fd2c4526a66bc7e0834cf5dc2dbbb7f]: Gair yn rhl. 2(2) wedi ei hepgor (17.12.2018) yn rhinwedd Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1216), rhlau. 1(3), 33(b)
[^key-5ce60f2c5d3e86252138bef74e7133d4]: Geiriau yn rhl. 2(2)(a) wedi eu hamnewid (17.12.2018) gan Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1216), rhlau. 1(3), 33(a)
[^key-ec62996e908ec83edcfa7c7220455fa2]: Geiriau yn rhl. 2(2)(c) wedi eu hamnewid (17.12.2018) gan Rheoliadau yr Amgylchedd, Cynllunio a Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1216), rhlau. 1(3), 33(c)
[^key-e82519ccba2df96e0b0cc9a0d0647b1e]: Geiriau yn Atod. 5A para. 1 wedi eu mewnosod (28.3.2019) gan Rheoliadau Materion Gwledig, yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Bwyd (Diwygiadau a Dirymiadau Amrywiol) (Cymru) 2019 (O.S. 2019/463), rhlau. 1(3), 9(a)
[^key-7e311cb5ca103c9645477a707db92191]: Geiriau yn Atod. 5A para. 1 wedi eu hamnewid (31.1.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/44), rhlau. 1(2), 22(2)(a)(i)
[^key-f48debcaf73040c9b4ee98edbaeb80fe]: Geiriau yn Atod. 5A para. 1 wedi eu hepgor (31.1.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/44), rhlau. 1(2), 22(2)(a)(ii)
[^key-a3780d0bb5b9ee2c7289f4ea6e63b218]: Geiriau yn Atod. 5A para. 1 wedi eu mewnosod (31.1.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/44), rhlau. 1(2), 22(2)(a)(iii)
[^key-ef63cbaad3c35b9ae1748c7556ab3f18]: Geiriau yn Atod. 5A para. 15(1) wedi eu hamnewid (31.1.2020) gan Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Ffioedd Iechyd Planhigion etc.) (Cymru) 2020 (O.S. 2020/44), rhlau. 1(2), 22(2)(b)
[^M_F_f092ae45-5a17-4d2b-e3ab-80fc3ca05ee4]: Geiriau yn Atod. 1 para. 27(2) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Reoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019 (O.S. 2019/684), rhlau. 1(2), 4(2); 2020 p. 1, Atod. 5 para. 1(1)
[^key-cd550c2beaf40d069535057b145cc361]: Atod. 5A para. 2(1)(1A) wedi ei amnewid ar gyfer Atod. 5A para. 2(1) (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/684), rhlau. 1(2), 4(3)(a); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
[^key-eb65a6d5543396d7e8cc6f2248583338]: Geiriau yn Atod. 5A para. 2(2) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/684), rhlau. 1(2), 4(3)(b); 2020 c. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Monitro a gwaith dilynol yn y lladd-dy
5A
Mae Rhan 3 o Atodlen 5A yn effeithiol.
Codau Ymarfer
Tramgwyddau
Erlyniadau
Cosbau
ATODLEN 5A — Amodau ychwanegol sy'n gymwys mewn perthynas ag ieir bwyta a fegir yn gonfensiynol
RHAN 1 — Dehongli
Dehongli
1
Yn yr Atodlen hon—
- ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sy'n gyfrifol am ieir neu sydd â gofal dros ieir yn nhermau contract neu yn ôl y gyfraith p'un ai ar sail barhaol yntau dros dro;
- ystyr “iâr” (“chicken”) yw iâr fwyta a fegir yn gonfensiynol;
- mae i “milfeddyg swyddogol” yr un ystyr ag sydd i (“official veterinarian”) yn Rheoliad (EU) 2017/625;
- ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid , fel y’i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EU) 2017/1981 dyddiedig 31 Hydref 2017;
- ...
- ystyr “Rheoliad (EU) 2017/625” (“Regulation (EU) 2017/625”) yw Rheoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion.
RHAN 2 — Amodau ychwanegol cyffredinol
Hyfforddiant
2
- (1) Rhaid i geidwad ddal tystysgrif gydnabyddedig.
- (1A) Yn y paragraff hwn, ystyr “tystysgrif gydnabyddedig” yw tystysgrif a gydnabyddir gan Weinidogion Cymru sy’n tystio bod unrhyw hyfforddiant wedi ei gwblhau, neu fod profiad wedi ei fagu sy’n cyfateb i unrhyw hyfforddiant, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.
- (2) Rhaid i Weinidogion Cymru, o bryd i'w gilydd ac mewn modd a ystyrir ganddynt yn briodol, gyhoeddi rhestr o dystysgrifau cydnabyddedig.
Terfynau dwysedd stocio
3
- (1) Oni fo is-baragraff (2) yn gymwys, rhaid i'r dwysedd stocio beidio â bod yn uwch na 33 cilogram i'r m² o'r lle y gellir ei ddefnyddio.
- (2) Caniateir dwysedd stocio uwch na 33 cilogram a hyd at 39 cilogram i'r m² o'r lle y gellir ei ddefnyddio os cydymffurfir â gofynion paragraff 5.
Hysbysiad o'r dwysedd stocio
4
- (1) Rhaid i geidwad sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael eu hysbysu o'r dwysedd stocio arfaethedig ar gyfer pob cwt y bwriedir cadw ieir ynddo ar ddwysedd uwch na 33 cilogram i'r m² o'r lle y gellir ei ddefnyddio, ac o unrhyw newid diweddarach i'r dwysedd hysbysedig hwnnw.
- (2) Rhaid i'r hysbysiad fod yn y cyfryw ddull a ffurf ag y dichon fod yn ofynnol gan Weinidogion Cymru.
- (3) Rhaid rhoi hysbysiad (gan gynnwys hysbysiad o unrhyw newid) o leiaf 15 diwrnod gwaith cyn bod stocio ar y dwysedd hwnnw neu ddwysedd wedi newid yn digwydd.
- (4) Yn y paragraff hwn ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod heblaw dydd Sadwrn neu ddydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sydd yn ŵyl y Banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971[^f00012].
Y gofynion ar gyfer dwyseddau stocio uwch
5
Gofynion y paragraff hwn yw bod rhaid i'r ceidwad—
- (a) cynnal a chadw ac, os gofynnir iddo wneud hynny, peri bod dogfennau ar gael i Weinidogion Cymru yn y cwt yn disgrifio'n fanwl y systemau cynhyrchu, ac yn benodol yn rhoi gwybodaeth ar fanylion technegol y cwt a'r offer ynddo, gan gynnwys—
- (i) plan o'r cwt gan gynnwys mesurau'r arwynebeddau y mae'r ieir yn eu meddiannu;
- (ii) gwyntylliad ac unrhyw system oeri a chynhesu berthnasol (gan gynnwys eu lleoliad), a phlan gwyntyllu, sy'n dangos paramedrau ansawdd aer yr anelir atynt (megis y llif aer, cyflymder yr aer a thymheredd);
- (iii) systemau bwydo a dyfrio (a'u lleoliadau);
- (iv) systemau larwm ac wrth gefn os digwydd i unrhyw offer sy'n hanfodol er iechyd a lles yr ieir dorri i lawr;
- (v) math y llawr a'r llaesodr a ddefnyddir fel rheol; a
- (vi) cofnodion o archwiliadau technegol o'r systemau gwyntyllu a'r systemau larwm;
- (b) peri bod y dogfennau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) yn cael eu cadw'n gyfredol;
- (c) sicrhau bod yna offer gwyntyllu ym mhob cwt ac, os oes angen, systemau gwresogi ac oeri sydd wedi'u dylunio, wedi'u hadeiladu ac yn cael eu gweithredu yn y fath fodd—
- (i) fel nad yw'r dwysedd o amonia yn uwch na 20 rhan i'r filiwn ac nad yw dwysedd y carbon deuocsid yn uwch na 3,000 rhan i'r filiwn wrth gael ei fesur ar lefel pennau'r ieir;
- (ii) pan fo'r tymheredd y tu allan wrth gael ei fesur yn y cysgod yn uwch na 30°C, nad yw'r tymheredd y tu mewn yn uwch na'r tymheredd y tu allan o fwy na 3°C; a
- (iii) pan fo'r tymheredd y tu allan islaw 10°C, nad yw'r lleithder cymharol cyfartaledig pan gaiff ei fesur y tu mewn i'r cwt yn ystod cyfnod parhaus o 48 awr yn uwch na 70%.
Diod a bwyd anifeiliaid
6
- (1) Rhaid i ddalwyr diod fod wedi'u lleoli a bod yn cael eu cynnal a'u cadw yn y fath fodd fel mai'r ychydig lleiaf sy'n gorlifo ohonynt.
- (2) Rhaid i fwyd anifeiliaid fod ar gael naill ai yn barhaus neu ar adegau bwydo.
- (3) Rhaid peidio â rhoi'r gorau i fwydo'r ieir â bwyd anifeiliaid fwy na 12 awr cyn amser disgwyliedig eu cigydda.
Llaesodr
7
Rhaid i bob iâr fedru cael at laesodr bob amser sy'n sych ac yn hyfriw ar yr wyneb.
Gwyntyllu a gwresogi
8
- (1) Rhaid i'r gwyntyllu fod yn ddigonol i osgoi gorboethi.
- (2) Rhaid i wyntyllu, o'i gyfuno â'r systemau awyru, fod yn ddigonol i gael gwared â gorleithder.
Sŵn
9
Ym mhob cwt—
- (a) rhaid i lefel y sŵn fod ar ei isaf posibl; a
- (b) rhaid i ffaniau gwyntyllu, peirianwaith bwydo neu beirianwaith arall fod wedi eu hadeiladu a'u lleoli, ac yn cael eu gweithredu a'u cynnal a'u cadw yn y fath fodd fel eu bod yn peri cyn lleied o sŵn ag sy'n bosibl.
Golau
10
- (1) Rhaid bod golau ym mhob cwt a'i ddwyster yn o leiaf 20 lux yn ystod y cyfnodau goleuo, o'i fesur ar lefel llygad yr adar ac sy'n goleuo o leiaf 80% o'r lle y gellir ei ddefnyddio.
- (2) Caniateir gostyngiad dros dro o'r lefel hwnnw o oleuo pan fo angen yn dilyn cyngor milfeddygol.
- (3) O fewn 7 diwrnod o'r adeg pan gaiff yr ieir eu rhoi yn y cwt a hyd 3 diwrnod cyn adeg ddisgwyliedig eu cigydda, rhaid i'r golau ddilyn rhythm 24 awr a rhaid iddo gynnwys cyfnodau o dywyllwch sy'n para am gyfanswm o o leiaf 6 awr, gydag o leiaf un cyfnod di-dor o dywyllwch o o leiaf 4 awr, heb gynnwys cyfnodau pylu.
Arolygu
11
- (1) Rhaid i geidwad sicrhau bod yr holl ieir a gedwir ar y daliad yn cael eu harolygu o leiaf ddwywaith y dydd.
- (2) Rhaid talu sylw arbennig i arwyddion sy'n dynodi gostyngiad yn safon iechyd neu les yr anifeiliaid.
- (3) Rhaid i ieir sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol neu sy'n dangos arwyddion amlwg o afiechyd (gan gynnwys y rheini sy'n cael anhawster i gerdded, rhai â dropsi'r bol difrifol neu rhai sydd â chamffurfiadau difrifol), ac sy'n debygol o ddioddef, gael triniaeth briodol neu gael eu difa'n syth.
Glanhau
12
Wedi diboblogi cwt yn derfynol a chyn cyflwyno haid newydd—
- (a) rhaid glanhau'n llwyr a diheintio unrhyw ran o gwt, ac unrhyw gyfarpar neu declyn a fu mewn cysylltiad â'r ieir; a
- (b) rhaid clirio ymaith bob llaesodr a gosod llaesodr lân.
Cadw cofnodion
13
- (1) Rhaid i geidwad gadw cofnod ar gyfer bob cwt—
- (a) o nifer yr ieir a gyflwynir iddo;
- (b) o'r lle y gellir ei ddefnyddio;
- (c) o groesryw neu frîd yr ieir (os yw'n hysbys);
- (ch) o nifer yr ieir a gafwyd yn farw, gan nodi achosion y farwolaeth (os yw'n hysbys), ynghyd â nifer yr ieir a gafodd eu difa, gyda'r achos, ar bob arolygiad; a
- (d) o nifer yr ieir sydd ar ôl yn yr haid wedi symud ieir ymaith i'w gwerthu neu i'w cigydda.
- (2) Rhaid dal gafael ar y cofnod am o leiaf 3 blynedd.
RHAN 3 — Monitro a gwaith dilynol yn y lladd-dy
Gwybodaeth y gadwyn fwyd ac ieir sy'n farw'n cyrraedd
14
- (1) At ddibenion Adran III (gwybodaeth y gadwyn fwyd) o Atodiad II i Reoliad 853/2004, caiff y gyfradd farwolaeth ddyddiol a'r gyfradd farwolaeth ddyddiol gronnus a chroesryw neu frîd yr ieir o haid gyda dwysedd stocio uwch na 33 cilogram i'r m² o'r lle y gellir ei ddefnyddio eu trin fel gwybodaeth iechyd bwyd berthnasol.
- (2) Rhaid i weithredydd busnes bwyd sy'n rhedeg lladd-dy—
- (a) o dan arolygiaeth y milfeddyg swyddogol, gofnodi nifer yr ieir o haid o'r fath sy'n farw pan fyddant yn cyrraedd y lladd-dy; a
- (b) rhoi'r wybodaeth honno i'r milfeddyg swyddogol os gofynnir amdani.
- (3) Yn y paragraff hwn—
- ystyr “y gyfradd farwolaeth ddyddiol” (“daily mortality rate”) yw nifer yr ieir mewn cwt sydd wedi marw ar yr un diwrnod gan gynnwys y rheini a gafodd eu difa naill ai oherwydd afiechyd neu am resymau eraill, wedi ei rannu wrth nifer yr ieir sydd yn y cwt ar y diwrnod hwnnw, a'i luosi wrth 100;
- ystyr “y gyfradd farwolaeth ddyddiol gronnus” (“cumulative daily mortality rate”) yw cyfanswm y cyfraddau marwolaeth dyddiol.
Canfod amodau lles gwael a gwaith dilynol
15
- (1) Rhaid i filfeddyg swyddogol sy'n cyflawni rheolaethau o dan Reoliad (EU) 2017/625 mewn cysylltiad ag ieir werthuso canlyniadau'r arolygiad post-mortem er mwyn canfod arwyddion posibl o amodau lles gwael ar eu daliad neu yn eu cwt gwreiddiol.
- (2) Os yw cyfradd marwolaeth yr ieir neu ganlyniadau'r arolygiad post-mortem yn gyson ag amodau lles anifeiliaid gwael, rhaid i'r milfeddyg swyddogol hysbysu'r data hwnnw i geidwad yr ieir hynny ac i Weinidogion Cymru yn ddi-oed.
Monitoring and follow-up at the slaughterhouse
Codes of Practice
Offences
Prosecutions
Penalties
Record keeping
Freedom of movement
Buildings and accommodation
Animals not kept in buildings
Automatic or mechanical equipment
Feed, water and other substances
Breeding procedures
Electrical immobilisation
Interpretation
Training
Stocking density limits
Notification of stocking density
Requirements for higher stocking densities
Drink and feed
Litter
Ventilation and heating
Noise
Light
Inspection
Cleaning
Record keeping
Food chain information and chickens dead on arrival
Identification of poor welfare conditions and follow-up
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.