The Council Tax Reduction Schemes (Default Scheme) (Wales) Regulations 2013
but only for so long as that person does not change that election in favour of an increase of pension.
Date on which income consisting of earnings from employment as an employed earner are taken into account: persons who are not pensioners
44A
An applicant’s average weekly earnings from employment estimated pursuant to paragraph 44 (average weekly earnings of employed earners: persons who are not pensioners) must be taken into account—
- (a) in the case of an application, on the date on which the application was made or treated as made, and the first day of each reduction week thereafter, regardless of when those earnings were actually received;
- (b) in the case of an application or a reduction under a scheme where the applicant commences employment, the day on which the applicant commences that employment and the first day of the reduction week thereafter, regardless of when those earnings were actually received; or
- (c) in the case of an application or reduction under a scheme where the applicant’s average weekly earnings from employment change, the day on which the applicant’s earnings from employment change and the first day of each reduction week thereafter, regardless of when those earnings were actually received.
Average weekly earnings of self-employed earners: persons who are not pensioners
Average weekly income other than earnings: persons who are not pensioners
Calculation of weekly income of employed earners: persons who are not pensioners
Earnings of employed earners: persons who are not pensioners
Calculation of net earnings of employed earners: persons who are not pensioners
Earnings of self-employed earners: persons who are not pensioners
Calculation of income other than earnings: persons who are not pensioners
Capital treated as income: persons who are not pensioners
Notional income: persons who are not pensioners
28B
Any payment made under or by a trust, established for the purpose of giving relief and assistance to disabled persons whose disabilities were caused by the fact that during their mother’s pregnancy she had taken a preparation containing the drug known as Thalidomide, and which is approved by the Secretary of State.
64
Any payment made under or by a trust, established for the purpose of giving relief and assistance to disabled persons whose disabilities were caused by the fact that during their mother’s pregnancy she had taken a preparation containing the drug known as Thalidomide, and which is approved by the Secretary of State.
67
Any bereavement support payment under section 30 of the Pensions Act 2014 (bereavement support payment) except any such payment which is disregarded as capital under paragraph 12(1)(h) of Schedule 9 or paragraph 65 of Schedule 9.
28C
- (1) Any bereavement support payment in respect of the rate set out in regulation 3(2) or (5) of the Bereavement Support Payment Regulations 2017 (rate of bereavement support payment), but only for a period of 52 weeks from the date of receipt of the payment.
- (2) Where bereavement support payment under section 30 of the Pensions Act 2014 is paid to the survivor of a cohabiting partnership (within the meaning of section 30(6B) of that Act) in respect of a death occurring before 9 February 2023, any amount of that payment which is—
- (a) in respect of the rate set out in regulation 3(1) of the Bereavement Support Payment Regulations 2017, and
- (b) paid as a lump sum for more than one monthly recurrence of the day of the month on which their cohabiting partner died,
but only for a period of 52 weeks beginning from 1 April 2024 or from the date of receipt of the payment, whichever is the later.
65
- (1) Any bereavement support payment in respect of the rate set out in regulation 3(2) or (5) of the Bereavement Support Payment Regulations 2017 (rate of bereavement support payment), but only for a period of 52 weeks from the date of receipt of the payment.
- (2) Where bereavement support payment under section 30 of the Pensions Act 2014 is paid to the survivor of a cohabiting partnership (within the meaning of section 30(6B) of that Act) in respect of a death occurring before 9 February 2023, any amount of that payment which is—
- (a) in respect of the rate set out in regulation 3(1) of the Bereavement Support Payment Regulations 2017, and
- (b) paid as a lump sum for more than one monthly recurrence of the day of the month on which their cohabiting partner died,
but only for a period of 52 weeks beginning from 1 April 2024 or from the date of receipt of the payment, whichever is the later.
28D
Any ex gratia payment made at the discretion of the Scottish Ministers from the Advance Payment Scheme which the Scottish Ministers set up in respect of cases of historical child abuse in care.
28E
Any redress payment made under Part 4 of the Redress for Survivors (Historical Child Abuse in Care) (Scotland) Act 2021.
66
Any ex gratia payment made at the discretion of the Scottish Ministers from the Advance Payment Scheme which the Scottish Ministers set up in respect of cases of historical child abuse in care.
67
Any redress payment made under Part 4 of the Redress for Survivors (Historical Child Abuse in Care) (Scotland) Act 2021.
28F
Any payment of a widowed parent’s allowance made under section 39A of the SSCBA—
- (a) to the survivor of a cohabiting partnership (within the meaning of section 39A(7) of that Act) who is entitled to a widowed parent’s allowance for a period prior to 9 February 2023, and
- (b) in respect of any period of time during the period ending with the day before the survivor makes a claim for a widowed parent’s allowance.
68
Any payment of a widowed parent’s allowance made under section 39A of the SSCBA—
- (a) to the survivor of a cohabiting partnership (within the meaning of section 39A(7) of that Act) who is entitled to a widowed parent’s allowance for a period prior to 9 February 2023, and
- (b) in respect of any period of time during the period ending with the day before the survivor makes a claim for a widowed parent’s allowance.
Applications: universal credit claimants
7A
An application may be treated as made where—
- (a) a person has made a claim for universal credit,
- (b) the Secretary of State has supplied relevant information in relation to that person in accordance with section 131 of the Welfare Reform Act 2012 to the authority administering a council tax reduction, and
- (c) that person is liable to pay council tax to that authority.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dirymu
Cynllun diofyn
Enwi
Dehongli
Cymhwyso’r cynllun: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr
Ystyr “cwpl”
Priodasau amlbriod
Ystyr “teulu”
Amgylchiadau pan fo person i gael ei drin fel un sy’n gyfrifol neu ddim yn gyfrifol am berson arall
Aelwydydd
Annibynyddion
Gwaith am dâl
Gweithdrefn ar gyfer ceisiadau am ostyngiad ac apelau yn erbyn penderfyniadau ynghylch gostyngiad
Dosbarthiadau o bersonau sydd â hawl i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn
Dosbarth A: pensiynwyr â’u hincwm yn llai na’r swm cymwysadwy
Dosbarth B: pensiynwyr â’u hincwm yn fwy na’r swm cymwysadwy
Dosbarth C: personau nad ydynt yn bensiynwyr, â’u hincwm yn llai na’r swm cymwysadwy
Dosbarth D: personau nad ydynt yn bensiynwyr, â’u hincwm yn fwy na’r swm cymwysadwy
Cyfnodau o absenoldeb o annedd
Dosbarthiadau o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn
Dosbarth o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn: personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr
Dosbarth o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn: personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo
Dosbarth o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn: terfyn cyfalaf
Dosbarth o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn: myfyrwyr
Symiau cymwysadwy: pensiynwyr (gan gynnwys pensiynwyr mewn priodasau amlbriod)
Symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Priodasau amlbriod: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Swm cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr, sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol
Uchafswm y gostyngiad treth gyngor o dan y cynllun hwn: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr
Didyniadau annibynyddion : pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr
Swm y gostyngiad o dan y cynllun hwn: Dosbarthiadau A i D
Cyfrifo incwm a chyfalaf: teulu’r ceisydd a phriodasau amlbriod
Amgylchiadau pan fo cyfalaf ac incwm annibynnydd i gael eu trin fel eiddo i’r ceisydd
Pensiynwyr sy’n cael credyd gwarant
Cyfrifo incwm pensiynwr mewn achosion o gredyd cynilion yn unig
Cyfrifo incwm a chyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr, sydd â dyfarniad o gredyd cynhwysol
Cyfrifo incwm a chyfalaf pan nad yw credyd pensiwn y wladwriaeth yn daladwy: pensiynwyr
Ystyr “incwm”: pensiynwyr
Cyfrifo incwm wythnosol: pensiynwyr
Enillion enillwyr cyflogedig: pensiynwyr
Cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: pensiynwyr
Cyfrifo enillion enillwyr hunangyflogedig: pensiynwyr
Enillion enillwyr hunangyflogedig: pensiynwyr
Incwm tybiannol: pensiynwyr
Incwm a delir i drydydd partïon: pensiynwyr
Enillion wythnosol cyfartalog enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Enillion wythnosol cyfartalog enillwyr hunangyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Incwm wythnosol cyfartalog ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Cyfrifo incwm wythnosol enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Enillion enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Cyfrifo enillion net enillwyr cyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Enillion enillwyr hunangyflogedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Cyfrifo incwm ac eithrio enillion: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Cyfalaf a drinnir fel incwm: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Incwm tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Cyfrifo incwm ar sail wythnosol
Trin costau gofal plant
Cyfrifo incwm wythnosol cyfartalog o gredydau treth
Diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etc
Cyfrifo elw net enillwyr hunangyflogedig
Cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig
Cyfrifo cyfalaf
Incwm a drinnir fel cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Cyfrifo cyfalaf yn y Deyrnas Unedig
Cyfrifo cyfalaf y tu allan i’r Deyrnas Unedig
Cyfalaf tybiannol
Rheol lleihau cyfalaf tybiannol: pensiynwyr
Rheol lleihau cyfalaf tybiannol: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Cyfalaf a ddelir ar y cyd
Cyfrifo incwm tariff o gyfalaf: pensiynwyr
Cyfrifo incwm tariff o gyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Dehongli
Trin myfyrwyr
Myfyrwyr a eithrir o’r hawlogaeth i gael gostyngiad treth gyngor o dan y cynllun hwn
Cyfrifo incwm grant
Cyfrifo incwm cyfamod pan asesir cyfraniad
Incwm cyfamod pan nad asesir incwm grant neu nad asesir cyfraniad
Y berthynas â symiau sydd i’w diystyru o dan Atodlen 7
Symiau eraill sydd i’w diystyru
Trin benthyciadau myfyriwr
Trin benthyciadau ffioedd
Trin taliadau o gronfeydd mynediad
Diystyru cyfraniad
Diystyriad pellach o incwm myfyriwr
Incwm a drinnir fel cyfalaf
Diystyru newidiadau sy’n digwydd yn ystod gwyliau’r haf
Gostyngiadau estynedig: pensiynwyr
Gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): pensiynwyr
Parhad y cyfnod gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): pensiynwyr
Swm y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): pensiynwyr
Gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) – symudwyr: pensiynwyr
Y berthynas rhwng gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) a hawlogaeth i ostyngiad treth gyngor yn rhinwedd perthyn i ddosbarth A neu B
Gostyngiadau parhaus pan hawlir credyd pensiwn y wladwriaeth: pensiynwyr
Gostyngiadau estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr (cyffredinol)
Gostyngiadau estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Parhad y cyfnod gostyngiad estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Swm y gostyngiad estynedig: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Gostyngiadau estynedig – symudwyr: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Y berthynas rhwng gostyngiad estynedig a hawlogaeth i ostyngiad yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D
Gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): personau nad ydynt yn bensiynwyr
Parhad y cyfnod gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): personau nad ydynt yn bensiynwyr
Swm y gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys): personau nad ydynt yn bensiynwyr
Gostyngiadau estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) – symudwyr: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Y berthynas rhwng gostyngiad estynedig (budd-daliadau cyfrannol cymwys) a hawlogaeth i ostyngiad yn rhinwedd perthyn i ddosbarth C neu D
Gostyngiadau estynedig: symudwyr i mewn i ardal awdurdod: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Y dyddiad pan fo hawlogaeth yn dechrau
Y dyddiad pan fo newid yn yr amgylchiadau yn cael effaith
Newid yn yr amgylchiadau pan delir credyd pensiwn y wladwriaeth
Pwy gaiff wneud cais
Y dyddiad pan wneir cais
Ôl-ddyddio ceisiadau: pensiynwyr
Ôl-ddyddio ceisiadau: personau nad ydynt yn bensiynwyr
Tystiolaeth a gwybodaeth
Diwygio cais a thynnu cais yn ôl
Dyletswydd i hysbysu ynghylch newidiadau yn yr amgylchiadau
Penderfyniad gan awdurdod
Hysbysu ynghylch penderfyniad
Dyfarniad neu daliad o ostyngiad o dan y cynllun hwn
Gweithdrefn y caiff person ei dilyn i wneud cais am ostyngiad o dan y cynllun hwn
Gweithdrefn y caiff person ei dilyn i apelio yn erbyn penderfyniadau penodol yr awdurdod
Gweithdrefn ar gyfer gwneud cais i awdurdod am ostyngiad o dan adran 13A(1)(c) o Ddeddf 1992
Dehongli
Amodau ar gyfer defnyddio cyfathrebu electronig
Defnyddio cyfryngwyr
Effaith cyflenwi gwybodaeth drwy gyfathrebu electronig
Profi adnabyddiaeth o anfonwr neu dderbynnydd gwybodaeth
Prawf o gyflenwi gwybodaeth
Prawf o gynnwys gwybodaeth
RHAN 1 — Lwfansau personol
Lwfans personol
1
Y swm a bennir yng ngholofn (2) isod mewn perthynas â phob person neu gwpl a bennir yng ngholofn (1) yw’r swm a bennir at ddibenion paragraff 23(1)(a) o’r cynllun hwn.
| Colofn (1)Person, cwpl neu briodas amlbriod | Colofn (2)Swm |
|---|---|
| 1Ceisydd sengl neu unig riant— | |
| o dan 65 oed; | £145.40; |
| 65 oed neu drosodd. | £163.50. |
| 2Cwpl— | |
| y ddau aelod o dan 65 oed; | £222.05; |
| un aelod neu’r ddau yn 65 oed neu drosodd | £244.95. |
| 3Os yw’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod ac nad oes yr un aelod o’r briodas wedi cyrraedd 65oed— | |
| ar gyfer y ceisydd a’r parti arall i’r briodas; | £222.05; |
| ar gyfer pob priod ychwanegol sy’n aelod o’r un aelwyd â’r ceisydd. | £76.65. |
| 4Os yw’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod ac un neu ragor o aelodau’r briodas yn 65oed neu drosodd— | |
| ar gyfer y ceisydd a’r parti arall i’r briodas; | £244.95; |
| ar gyfer pob priod ychwanegol sy’n aelod o’r un aelwyd â’r ceisydd. | £81.45. |
Symiau plentyn neu berson ifanc
2
- (1) Y symiau a bennir yng ngholofn (2) isod, mewn perthynas â phob person a bennir yng ngholofn (1), yw’r symiau ar gyfer y cyfnod perthnasol a bennir yng ngholofn (1), a bennir at ddibenion paragraff 23(1)(b) o’r cynllun hwn
| Colofn (1)Plentyn neu berson ifanc | Colofn (2)Swm |
|---|---|
| Person mewn perthynas â’r cyfnod— | |
| sy’n cychwyn ar ddyddiad geni’r person hwnnw ac yn dod i ben ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y person hwnnw; | £65.62; |
| sy’n cychwyn ar y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y person hwnnw ac yn diweddu ar y diwrnod cyn ugeinfed pen-blwydd y person hwnnw. | £65.62. |
- (2) Yng ngholofn (1) o’r tabl, ystyr “y dydd Llun cyntaf ym Medi” (“the first Monday in September”) yw’r dydd Llun sy’n digwydd gyntaf yn ystod mis Medi mewn unrhyw flwyddyn.
RHAN 2 — Premiwm teulu
Premiwm teulu
3
Y swm at ddibenion paragraff 23(1)(c) o’r cynllun hwn mewn perthynas â theulu y mae o leiaf un aelod ohono’n blentyn neu’n berson ifanc yw £17.40.
RHAN 3 — Premiymau
4
At ddibenion paragraff 23(1)(d) o’r cynllun hwn, bydd y premiymau a bennir yn Rhan 4 yn gymwysadwy i geisydd sy’n bodloni’r amod a bennir yn y Rhan hon mewn perthynas â’r premiwm hwnnw.
5
- (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), at ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon, unwaith y bydd premiwm yn gymwysadwy i geisydd o dan y Rhan hon, rhaid trin person fel pe bai’n cael unrhyw fudd-dal—
- (a) yn achos budd-dal y mae Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-daliadau sy’n Gorgyffwrdd) 1979[^f00221] yn gymwys iddo, yn ystod unrhyw gyfnod y byddai’r person, oni bai am y ddarpariaeth o’r Rheoliadau hynny, yn cael y budd-dal hwnnw; a
- (b) yn ystod unrhyw gyfnod a dreulir gan berson yn ymgymryd â chwrs o hyfforddiant neu gyfarwyddyd a ddarperir neu a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973[^f00222], neu gan Ddatblygu Sgiliau yr Alban, Menter yr Alban neu Fenter yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd o dan adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990[^f00223] neu yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’r person hwnnw’n cael lwfans hyfforddi.
- (2) At ddibenion y premiwm gofalwr o dan baragraff 9 o’r Atodlen hon, ni ddylid trin person fel pe bai’n cael lwfans gofalwr yn rhinwedd is-baragraff (1)(a) ac eithrio pan a chyhyd ag y bo’r person yr hawliwyd y lwfans mewn perthynas â’i ofal yn dal i gael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA.
Premiwm anabledd difrifol
6
- (1) Yr amod yw fod y ceisydd yn berson ag anabledd difrifol.
- (2) At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin ceisydd fel pe bai’n berson ag anabledd difrifol—
- (a) yn achos ceisydd sengl, unig riant neu geisydd a drinnir fel pe na bai ganddo bartner o ganlyniad i is-baragraff (3) os, ac yn unig os—
- (i) yw’r ceisydd yn cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; a
- (ii) yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), nad oes gan y ceisydd unrhyw annibynyddion sy’n 18 oed neu drosodd ac yn preswylio fel arfer gyda’r ceisydd, neu y mae’r ceisydd fel arfer y preswylio gyda hwy; a
- (iii) nad oes neb sydd â hawl i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr mewn perthynas â gofalu am y ceisydd;
- (b) yn achos ceisydd sydd â phartner, os ac yn unig os—
- (i) yw’r ceisydd yn cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA;
- (ii) yw partner y ceisydd hefyd yn cael lwfans o’r fath neu, pan fo’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod, pob aelod arall o’r briodas honno’n cael lwfans o’r fath; a
- (iii) yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), nad oes gan y ceisydd unrhyw annibynyddion sy’n 18 oed neu drosodd ac yn preswylio fel arfer gyda’r ceisydd, neu y mae’r ceisydd fel arfer y preswylio gyda hwy,
a naill ai mae person sydd â hawl i gael ac yn cael, lwfans gofalwr mewn perthynas â gofalu am un aelod yn unig o’r cwpl, neu, os yw’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod, am un neu ragor ond nid pob un o aelodau’r briodas, neu, yn ôl fel y digwydd, nad oes person sydd â hawl i gael ac yn cael, lwfans o’r fath mewn perthynas â gofalu am y naill na’r llall o aelodau’r cwpl, neu am unrhyw aelod o’r briodas.
- (3) Pan fo gan geisydd bartner nad yw’n bodloni’r amod yn is-baragraff (2)(b)(ii), a’r partner hwnnw’n ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall o fewn ystyr is-baragraff (4), rhaid trin y partner hwnnw at ddibenion is-baragraff (2) fel pe na bai’r partner hwnnw’n bartner i’r ceisydd.
- (4) At ddibenion is-baragraff (3), mae person yn ddall os yw’r person hwnnw wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gedwir gan awdurdod o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948[^f00224] (gwasanaethau lles) neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994[^f00225].
- (5) At ddibenion is-baragraff (4), yn achos person y peidiwyd â’i gofrestru fel person dall wedi iddo adennill ei olwg, rhaid ei drin, er gwaethaf hynny, fel pe bai’n ddall ac yn bodloni’r amod ychwanegol a bennir yn yr is-baragraff hwnnw am gyfnod o 28 wythnos yn dilyn y dyddiad y peidiwyd â chofrestru’r person felly.
- (6) At ddibenion is-baragraff (2)(a)(ii) a (2)(b)(iii) rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth—
- (a) person sy’n cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; neu
- (b) person sy’n ddall neu a drinnir fel pe bai’n ddall o fewn ystyr is-baragraffau (4) a (5).
- (7) At ddibenion is-baragraff (2)(b) rhaid trin person—
- (a) fel pe bai’n cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, os byddai’r person hwnnw’n yn cael y lwfans hwnnw neu’r elfen honno felly, pe na bai wedi bod yn glaf am gyfnod hwy na 28 diwrnod;
- (b) fel pe bai’n cael elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y gyfradd a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 os byddai’r person yn cael yr elfen honno felly, pe na bai wedi bod yn glaf am gyfnod hwy na 28 diwrnod, er gwaethaf adran 86 o’r Ddeddf honno a rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno;
- (c) fel pe bai’n cael TALlA, os byddai’r person hwnnw’n cael y taliad hwnnw felly oni bai am atal y taliad dros dro yn unol ag unrhyw delerau cynllun digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn sy’n caniatáu ataliad dros dro oherwydd bod person yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb;
- (d) fel pe bai hawl ganddo i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr, os byddai ganddo hawl i gael ac y byddai’n cael y lwfans hwnnw felly pe na bai’r person y mae’r person hwnnw’n gofalu amdano yn glaf mewn ysbyty am gyfnod hwy nag 28 diwrnod.
- (8) At ddibenion is-baragraff (2)(a)(iii) a (2)(b)—
- (a) rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth ddyfarniad o lwfans gofalwr, i’r graddau y mae taliad o’r cyfryw ddyfarniad wedi ei ôl-ddyddio ar gyfer cyfnod cyn y dyddiad y talwyd y dyfarniad gyntaf; a
- (b) mae cyfeiriadau at berson sy’n cael lwfans gofalwr yn cynnwys cyfeiriadau at berson a fyddai wedi bod yn cael y lwfans hwnnw oni bai am weithredu cyfyngiad o dan adran 6B neu 7 o Ddeddf Twyll Nawdd Cymdeithasol 2001[^f00226] (darpariaethau colli budd-dal).
Premiwm anabledd uwch
7
- (1) Yr amod yw bod—
- (a) elfen ofal y lwfans byw i’r anabl yn daladwy ar y gyfradd uchaf a ragnodir o dan adran 73(2) o DCBNC, neu y byddai’n daladwy oni bai am atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 113(2) o’r Ddeddf honno, neu oni bai am leihad oherwydd traddodi i ysbyty;
- (b) elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol yn daladwy ar y gyfradd uwch a ragnodir yn unol ag adran 78(2) o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu byddai’n daladwy oni bai am atal budd-dal dros dro yn unol â rheoliadau o dan adran 86 o’r Ddeddf honno; neu
- (c) TALlA yn daladwy,
- (d) mewn perthynas â phlentyn neu berson ifanc sy’n aelod o deulu’r ceisydd.
- (2) Os peidir â bodloni’r amod yn is-baragraff (1) oherwydd marwolaeth plentyn neu berson ifanc, yr amod yw fod hawl gan y ceisydd neu bartner i gael budd-dal plant mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc o dan adran 145A o DCBNC (hawlogaeth ar ôl marwolaeth plentyn neu berson ifanc cymwys).
Premiwm plentyn anabl
8
Yr amod yw fod plentyn neu berson ifanc y mae’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn gyfrifol amdano ac sy’n aelod o aelwyd y ceisydd—
- (a) yn cael lwfans byw i’r anabl neu daliad annibyniaeth bersonol neu nad yw bellach yn cael y cyfryw lwfans neu daliad oherwydd bod y plentyn neu berson ifanc yn glaf, ar yr amod bod y plentyn neu berson ifanc yn parhau’n aelod o’r teulu; neu
- (b) yn ddall o fewn ystyr paragraff 6(4) o’r Atodlen hon neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall yn unol â pharagraff 6(5); neu
- (c) yn blentyn neu berson ifanc y mae adran 145A o DCBNC (hawlogaeth ar ôl marwolaeth plentyn neu berson ifanc cymwys) yn gymwys at ddibenion hawlogaeth i fudd-dal plant ond yn unig am y cyfnod a ragnodir o dan yr adran honno, ac y cynhwyswyd premiwm plentyn anabl mewn perthynas ag ef yn swm cymwysadwy’r ceisydd yn union cyn marwolaeth y plentyn neu’r person ifanc hwnnw, neu peidiwyd â’i gynnwys yn swm cymwysadwy’r ceisydd oherwydd marwolaeth y plentyn neu’r person ifanc hwnnw.
Premiwm gofalwr
9
- (1) Yr amod yw fod hawl i gael lwfans gofalwr gan y ceisydd neu bartner y ceisydd, neu’r ddau ohonynt.
- (2) Os oes premiwm gofalwr wedi ei ddyfarnu, ond—
- (a) bu farw’r person y dyfarnwyd y lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal; neu
- (b) os peidiodd hawl y person y dyfarnwyd y premiwm mewn perthynas ag ef i gael lwfans gofalwr, neu os peidiodd â chael ei drin fel pe bai hawl ganddo i gael lwfans gofalwr,
rhaid trin y paragraff hwn fel pe bai wedi ei fodloni am gyfnod o wyth wythnos o’r dyddiad perthnasol a bennir yn is-baragraff (3).
- (3) Y dyddiad perthnasol at ddibenion is-baragraff (2) yw—
- (a) mewn achos o fewn is-baragraff (2)(a), y dydd Sul sy’n dilyn marwolaeth y person y dyfarnwyd y lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal (neu ddyddiad y farwolaeth os digwyddodd y farwolaeth ar ddydd Sul);
- (b) mewn achos o fewn is-baragraff (2)(b), y dyddiad y peidiodd hawl y person a oedd â hawl i gael lwfans gofalwr.
- (4) At ddibenion y paragraff hwn, rhaid trin person fel pe bai ganddo hawl i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr yn ystod unrhyw gyfnod nad oedd o fewn cyfnod dyfarniad, ond y gwnaed taliad mewn perthynas ag ef yn lle dyfarniad.
Personau sy’n cael taliadau consesiynol
10
At y diben o benderfynu a oes premiwm yn gymwysadwy i berson o dan baragraffau 6 i 9 o’r Atodlen hon, rhaid trin unrhyw daliad consesiynol, a wnaed i ddigolledu’r person hwnnw oherwydd methiant i dalu unrhyw fudd-dal a grybwyllir yn y paragraffau hynny, fel pe bai’n daliad o’r budd-dal hwnnw.
Person sy’n cael budd-dal
11
At ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae person i’w ystyried fel pe bai’n cael unrhyw fudd-dal os, ac yn unig os, telir y budd-dal mewn perthynas â’r person hwnnw ac mae’r person i’w ystyried felly yn ystod, yn unig, pa bynnag gyfnod y telir y budd-dal hwnnw mewn perthynas ag ef.
RHAN 4 — Symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3
| Premiwm | Swm |
|---|---|
| 12.-(1)Premiwm Anabledd Difrifol— | |
| pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 6(2)(a); | £59.50; |
| pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 6(2)(b)— | |
| mewn achos pan fo rhywun yn cael lwfans gofalwr neu pan fo’r person hwnnw neu unrhyw bartner yn bodloni’r amod hwnnw yn rhinwedd paragraff 6(7) yn unig; | £59.50; |
| mewn achos pan nad oes neb yn cael lwfans o’r fath. | £119.00. |
| (2) Premiwm Anabledd Uwch. | £23.45 mewn perthynas â phob plentyn neu berson ifanc y mae’r amodau a bennir ym mharagraff 7 o’r Atodlen hon wedi eu bodloni mewn perthynas ag ef. |
| (3) Premiwm Plentyn Anabl. | £57.89 mewn perthynas â phob plentyn neu berson ifanc y mae’r amod a bennir ym mharagraff 8 o’r Atodlen hon wedi ei fodloni mewn perthynas ag ef. |
| (4) Premiwm Gofalwr. | £33.30 mewn perthynas â phob person sy’n bodloni’r amod a bennir ym mharagraff 9 o’r Atodlen hon. |
RHAN 1
Lwfansau personol
1
Y symiau a bennir yng ngholofn (2) isod mewn perthynas â phob person neu gwpl a bennir yng ngholofn (1) yw’r symiau sydd i’w pennu at ddibenion paragraffau 24(1)(a) a 25(2)(a) a (b) o’r cynllun hwn
| Colofn (1)Person neu gwpl | Colofn (2)Swm |
|---|---|
| 2Ceisydd sengl— | |
| sydd â hawl i gael lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd; | £71.70; |
| nad yw’n iau na 25; | £71.70; |
| nad yw’n iau na 18 ond sy’n iau na 25. | £56.80. |
| 3Unig riant. | £71.70. |
| 4Cwpl. | £112.55. |
2
At ddibenion paragraff 1o’r Atodlen hon mae hawl gan geisydd i gael lwfans cyflogaeth a chymorth prif wedd—
- (a) os bodlonir paragraff 18 o’r Atodlen hon mewn perthynas â’r ceisydd; neu
- (b) os oes hawl gan y ceisydd i gael lwfans cyflogaeth a chymorth a droswyd.
3
- (1) Y symiau a bennir yng ngholofn (2) isod mewn perthynas â phob person a bennir yng ngholofn (1), ar gyfer y cyfnod perthnasol a bennir yng ngholofn (1), yw’r symiau a bennir at ddibenion paragraffau 24(1)(b) a 25(2)(c) o’r cynllun hwn—
| Colofn (1)Plentyn neu berson ifanc | Colofn (2)Swm |
|---|---|
| Person mewn perthynas â’r cyfnod— | |
| sy’n cychwyn ar ddyddiad geni’r person hwnnw ac yn diweddu ar y diwrnod cyn y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y person hwnnw; | £65.62; |
| sy’n cychwyn ar y dydd Llun cyntaf ym Medi sy’n dilyn unfed pen-blwydd ar bymtheg y person hwnnw ac yn diweddu ar y diwrnod cyn ugeinfed pen-blwydd y person hwnnw. | £65.62. |
- (2) Yng ngholofn (1) o’r tabl yn is-baragraff (1), ystyr “y dydd Llun cyntaf ym Medi” (“the first Monday in September”) yw’r dydd Llun sy’n digwydd gyntaf yn ystod mis Medi mewn unrhyw flwyddyn.
RHAN 2 — Premiwm teulu
4
- (1) Y swm at ddibenion paragraffau 24(1)(c) a 25(2)(d) mewn perthynas â theulu y mae o leiaf un aelod ohono’n blentyn neu’n berson ifanc fydd—
- (a) pan fo’r ceisydd yn unig riant y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, £22.20;
- (b) mewn unrhyw achos arall, £17.40.
- (2) Bydd y swm yn is-baragraff (1)(a) yn gymwys i unig riant—
- (a) yr oedd hawl ganddo i gael budd-dal treth gyngor ar 5 Ebrill 1998 ac yr oedd ei swm cymwysadwy ar y dyddiad hwnnw yn cynnwys y swm cymwysadwy dan baragraff 3(1) o Atodlen 1 i Reoliadau Budd-dal Treth Gyngor (Personau a gyrhaeddodd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth) 2006[^f00228], fel yr oedd mewn grym ar y dyddiad hwnnw; neu
- (b) pan gaiff yr hawl i gael budd-dal treth gyngor os oedd yr unig riant hwnnw —
- (i) wedi ei drin fel pe bai hawl ganddo i gael y budd-dal hwnnw yn unol ag is-baragraff (3) ar y diwrnod cyn dyddiad yr hawliad am y budd-dal hwnnw; a
- (ii) hawl ganddo i gael budd-dal tai ar ddyddiad yr hawliad am fudd-dal treth gyngor, neu byddai hawl wedi bod ganddo i gael budd-dal tai ar y dyddiad hwnnw pe na bai’r diwrnod wedi digwydd yn ystod cyfnod di-rent, yn yr ystyr a roddir i “rent free period” fel y’i diffinnir gan reoliad 81 o Reoliadau Budd-dal Tai 2006[^f00229],
ac os yw’r holl amodau a bennir yn is-baragraff (3) wedi parhau’n gymwys mewn perthynas â’r unig riant hwnnw.
- (3) Yr amodau a bennwyd at ddibenion is-baragraff (2) yw, mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar 6 Ebrill 1998—
- (a) nad yw’r ceisydd wedi peidio bod â hawl, neu ei drin fel pe bai ganddo hawl, i gael—
- (i) budd-dal treth gyngor (mewn perthynas â’r cyfnod cyn 1 Ebrill 2013), a
- (ii) gostyngiad o dan y cynllun hwn (mewn perthynas â’r cyfnod sy’n cychwyn ar 1 Ebrill 2013);
- (b) nad yw’r ceisydd wedi peidio â bod yn unig riant;
- (c) os oedd hawl gan y ceisydd i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ar 5 Ebrill 1998, bod y ceisydd, yn ddi-dor ers y dyddiad hwnnw, wedi bod â hawl i gael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm neu gyfuniad o’r budd-daliadau hynny;
- (d) os nad oedd hawl gan y ceisydd i gael cymhorthdal incwm neu lwfans ceisio gwaith ar sail incwm ar 5 Ebrill 1998, nad yw’r ceisydd wedi ennill yr hawl wedyn i gael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm; ac
- (e) nad oes premiwm o dan baragraff 9 o’r Atodlen hon, neu elfen o dan baragraff 21 neu 22 o’r Atodlen hon, wedi dod yn gymwysadwy i’r ceisydd.
- (4) At ddibenion is-baragraffau (2)(b)(i) a (3)(a), rhaid trin ceisydd fel pe bai hawl ganddo i fudd-dal treth gyngor yn ystod unrhyw gyfnod os nad oedd hawl o’r fath gan y ceisydd, neu os oedd hawl o’r fath a fu ganddo wedi dod i ben ac—
- (a) os, drwy gydol y cyfnod hwnnw, dyfarnwyd budd-dal tai i’r ceisydd ac os oedd swm cymwysadwy’r ceisydd yn cynnwys y swm cymwysadwy o dan baragraff 3(1)(a) o Atodlen 3 i Reoliadau Budd-dal Tai 2006 (cyfradd premiwm teulu unig riant); neu
- (b) os byddid wedi dyfarnu budd-dal tai i’r ceisydd yn ystod y cyfnod hwnnw pe na bai’r cyfnod hwnnw wedi bod yn gyfnod di-rent yn yr ystyr a roddir i “rent free period” fel y’i diffinnir gan reoliad 81 o Reoliadau Budd-dal Tai 2006 ac os byddai swm cymwysadwy’r ceisydd drwy gydol y cyfnod hwnnw wedi cynnwys y swm cymwysadwy o dan baragraff 3(1)(a) o Atodlen 3 i’r Rheoliadau hynny.
RHAN 3 — Premiymau
5
Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff 6 o’r Atodlen hon, bydd y premiymau a bennir yn Rhan 4 o’r Atodlen hon, at ddibenion paragraffau 24(1)(d) a 25(2)(e) o’r cynllun hwn yn gymwysadwy i geisydd sy’n bodloni’r amod a bennir ym mharagraffau 9 i 14 o’r Atodlen hon mewn perthynas â’r premiwm hwnnw.
6
Yn ddarostyngedig i baragraff 7 o’r Atodlen hon, pan fo ceisydd yn bodloni’r amodau mewn perthynas â mwy nag un premiwm yn y Rhan hon o’r Atodlen hon, un premiwm yn unig fydd yn gymwys i’r ceisydd, ac os bydd eu symiau’n wahanol, y swm uwch neu uchaf fydd yn gymwys.
7
Bydd modd i’r premiymau canlynol—
- (a) premiwm anabledd difrifol, y mae paragraff 11 o’r Atodlen hon yn gymwys iddo;
- (b) premiwm anabledd uwch, y mae paragraff 12 o’r Atodlen hon yn gymwys iddo;
- (c) premiwm plentyn anabl, y mae paragraff 13 o’r Atodlen hon yn gymwys iddo; a
- (d) premiwm gofalwr, y mae paragraff 14 o’r Atodlen hon yn gymwys iddo,
fod yn gymwysadwy, yn ychwanegol at unrhyw bremiwm arall a allai fod yn gymwys o dan yr Atodlen hon.
8
- (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), at ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon, unwaith y bydd premiwm yn gymwysadwy i geisydd o dan y Rhan hon, rhaid trin person fel pe bai’n cael unrhyw fudd-dal—
- (a) yn achos budd-dal y mae Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Budd-daliadau sy’n Gorgyffwrdd) 1979[^f00230] yn gymwys iddo, yn ystod unrhyw gyfnod y byddai’r person hwnnw, oni bai am ddarpariaethau’r Rheoliadau hynny, yn cael y budd-dal hwnnw; a
- (b) yn ystod unrhyw gyfnod a dreulir gan berson yn ymgymryd â chwrs o hyfforddiant neu gyfarwyddyd a ddarperir neu a gymeradwyir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973[^f00231], neu gan Ddatblygu Sgiliau yr Alban, Menter yr Alban neu Fenter yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd o dan adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990[^f00232] neu yn ystod unrhyw gyfnod pan fo’r person hwnnw’n cael lwfans hyfforddi.
- (2) At ddibenion y premiwm gofalwr o dan baragraff 14 o’r Atodlen hon ni ddylid trin person fel pe bai’n cael lwfans gofalwr yn rhinwedd is-baragraff (1)(a) ac eithrio pan a chyhyd ag y bo’r person yr hawliwyd y lwfans mewn perthynas â’i ofal yn dal i gael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol sy’n daladwy o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA.
Premiwm anabledd
9
Yr amod yw—
- (a) pan fo’r ceisydd yn geisydd sengl neu’n unig riant, nad yw’r ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth ac y bodlonir yr amod ychwanegol a bennir ym mharagraff 10 o’r Atodlen hon; neu
- (b) pan fo gan y ceisydd bartner, naill ai—
- (i) nad yw’r ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth a bod y ceisydd yn bodloni’r amod ychwanegol a bennir ym mharagraff 10(1)(a) neu (b); neu
- (ii) nad yw partner y ceisydd wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth a bod partner y ceisydd yn bodloni’r amod ychwanegol a bennir ym mharagraff 10(1)(a).
Amod ychwanegol ar gyfer y premiwm anabledd
10
- (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2) a pharagraff 8 o’r Atodlen hon, yr amod ychwanegol y cyfeirir ato ym mharagraff 9 o’r Atodlen hon yw naill ai—
- (a) bod y ceisydd neu, yn ôl fel y digwydd, partner y ceisydd—
- (i) yn cael un neu ragor o’r budd-daliadau canlynol: lwfans gweini, lwfans byw i’r anabl, taliad annibyniaeth bersonol, TALlA, yr elfen anabledd neu’r elfen anabledd difrifol o’r credyd treth gwaith fel y’u pennir yn rheoliad 20(1)(b) ac (f) o Reoliadau Credyd Treth Gwaith (Hawlogaeth a’r Gyfradd Uchaf) 2002[^f00233], atodiad symudedd, budd-dal analluogrwydd hirdymor o dan Ran 2 o DCBNC neu lwfans anabledd difrifol o dan Ran 3 o’r Ddeddf honno, ond, yn achos budd-dal analluogrwydd hirdymor neu lwfans anabledd difrifol, hynny yn unig pan delir y budd-dal neu’r lwfans mewn perthynas â’r ceisydd; neu
- (ii) wedi bod yn cael budd-dal analluogrwydd hirdymor o dan Ran 2 o DCBNC pan beidiodd yr hawlogaeth i’r budd-dal hwnnw oherwydd talu pensiwn ymddeol o dan y Ddeddf honno, a bod y ceisydd yn y cyfamser wedi parhau â hawlogaeth ddi-dor i—
- (aa) budd-dal treth gyngor (am y cyfnod hyd at 1 Ebrill 2013), neu
- (bb) gostyngiad o dan y cynllun hwn (am y cyfnod sy’n cychwyn ar 1 Ebrill 2013), ac,
os oedd y budd-dal analluogrwydd hirdymor yn daladwy i bartner y ceisydd, bod y partner yn parhau’n aelod o’r teulu; neu
- (iii) wedi bod yn cael lwfans gweini neu lwfans byw i’r anabl ond ataliwyd taliadau o’r budd-dal hwnnw dros dro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 113(2) o DCBNC neu lleihawyd hwy fel arall oherwydd bod y ceisydd, neu bartner y ceisydd, wedi mynd yn glaf o fewn ystyr paragraff 55(11)(i) (trin costau gofal plant); neu
- (iv) wedi bod yn cael taliad annibyniaeth bersonol, ond ataliwyd taliadau o’r budd-dal hwnnw dros dro yn unol ag adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 oherwydd bod y ceisydd wedi mynd yn glaf o fewn ystyr paragraff 55(11)(i) (trin costau gofal plant); neu
- (v) wedi bod yn cael TALlA ond ataliwyd taliadau ohono dros dro yn unol ag unrhyw delerau cynllun digolledu’r lluoedd arfog a’r lluoedd wrth gefn sy’n caniatáu ataliad dros dro oherwydd bod person yn cael triniaeth feddygol mewn ysbyty neu sefydliad cyffelyb; neu
- (vi) wedi cael, gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu grŵp comisiynu clinigol, gerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd, a ddarparwyd o dan baragraff 9 o Atodlen 1 i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 2006[^f00234], neu, yn yr Alban, o dan adran 46 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978[^f00235] (darparu gwasanaethau gan Weinidogion yr Alban), neu, yng Nghymru, o dan adran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006[^f00236] ac Atodlen 1 i’r Ddeddf honno, neu, yng Ngogledd Iwerddon, wedi cael, gan yr Adran Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Diogelwch y Cyhoedd, gerbyd ar gyfer pobl anabl neu fath arall o gerbyd, a ddarparwyd o dan erthygl 30(1) o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972, neu, yn cael taliadau ar ffurf grant, gan yr Ysgrifennydd Gwladol o dan baragraff 10(3) o Atodlen 1 i Ddeddf 2006[^f00237] (darparu cerbydau ar gyfer pobl anabl) neu, yn yr Alban, gan Weinidogion yr Alban o dan adran 46 o Ddeddf 1978; neu
- (vii) yn ddall, ac o ganlyniad wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gedwir gan awdurdod lleol o dan adran 29 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948^f00238 neu, yn yr Alban, wedi ei ardystio’n ddall ac, o ganlyniad, wedi ei gofrestru mewn cofrestr a gynhelir gan, neu ar ran, cyngor a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994[^f00239]; neu
- (b) bod y ceisydd—
- (i) yn analluog i weithio, neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio yn unol â darpariaethau Rhan 12A o DCBNC (analluedd i weithio) a rheoliadau a wnaed o dan y Rhan honno; a
- (ii) wedi bod yn analluog i weithio neu’n cael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio am gyfnod di-dor o ddim llai nag—
- (aa) yn achos ceisydd sy’n derfynol wael yn yr ystyr a roddir i “terminally ill” yn adran 30B(4) o DCBNC, 196 diwrnod;
- (bb) mewn unrhyw achos arall, 364 diwrnod.
- (2) At ddibenion is-baragraff (1)(a)(vi), yn achos person y peidiwyd â’i gofrestru fel person dall wedi iddo adennill ei olwg, rhaid ei drin, er gwaethaf hynny, fel pe bai’n ddall ac yn bodloni’r amod ychwanegol a bennir yn yr is-baragraff hwnnw am gyfnod o 28 wythnos yn dilyn y dyddiad y peidiwyd â chofrestru’r person felly.
- (3) At ddibenion is-baragraff (1)(b), unwaith y bydd y premiwm anabledd yn gymwysadwy i geisydd yn rhinwedd bodloni ohono’r amod ychwanegol a bennir yn y ddarpariaeth honno, os yw’r ceisydd wedyn, am gyfnod o 8 wythnos neu lai, yn peidio â chael ei drin fel pe bai’n analluog i weithio, neu’n peidio â bod yn analluog i weithio, yna, pan â’n analluog i weithio felly drachefn, rhaid ei drin ar unwaith wedyn fel pe bai’n bodloni’r amod yn is-baragraff (1)(b).
- (4) At ddibenion is-baragraff (1)(b), unwaith y bydd y premiwm anabledd yn gymwysadwy i geisydd yn rhinwedd bodloni ohono’r amod ychwanegol a bennir yn y ddarpariaeth honno, rhaid parhau i drin y ceisydd fel pe bai’n bodloni’r amod hwnnw am unrhyw gyfnod a dreulir gan y ceisydd yn ymgymryd â chwrs o hyfforddiant a ddarperir o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 neu adran 2 o Ddeddf Menter a Threfi Newydd (Yr Alban) 1990 neu am unrhyw gyfnod pan fo’r ceisydd yn cael lwfans hyfforddi.
- (5) At ddibenion is-baragraff (1)(b), pan wahenir unrhyw ddau neu ragor o gyfnodau o analluedd gan doriad o ddim mwy na 56 diwrnod, rhaid trin y cyfnodau hynny fel un cyfnod di-dor.
- (6) At ddibenion y paragraff hwn, mae cyfeiriad at berson sydd, neu a oedd, yn cael budd-dal analluogrwydd hirdymor yn cynnwys person sydd neu a oedd yn cael budd-dal analluogrwydd byrdymor ar gyfradd hafal i’r gyfradd hirdymor, yn rhinwedd adran 30B(4)(a) o DCBNC (budd-dal analluogrwydd byrdymor i berson sy’n derfynol wael), neu a fyddai’n cael neu wedi cael budd-dal analluogrwydd byrdymor ar gyfradd o’r fath pe na bai cyfradd y budd-dal analluogrwydd byrdymor sydd eisoes yn daladwy i’r person hwnnw yn hafal i’r gyfradd hirdymor neu’n uwch, neu wedi bod yn hafal i’r gyfradd honno neu’n uwch.
- (7) Yn achos ceisydd sy’n fuddiolwr cynllun ‘o fudd-dal i waith’ (sef person y mae rheoliad 13A(1) o Reoliadau Nawdd Cymdeithasol (Analluedd i Weithio) (Cyffredinol) 1995 [^f00240] yn gymwys iddo ac sydd drachefn yn mynd yn analluog i weithio at ddibenion Rhan 12A o DCBNC) rhaid trin—
- (a) y cyfeiriad at gyfnod o 8 wythnos yn is-baragraff (3); a
- (b) y cyfeiriad at gyfnod o 56 diwrnod yn is-baragraff (5),
- (c) ill dau fel cyfeiriad at gyfnod o 104 wythnos.
- (8) Nid oes hawl gan geisydd i gael y premiwm anabledd os oes gan y ceisydd, neu os trinnir ef fel pe bai ganddo, alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith.
Premiwm anabledd difrifol
11
- (1) Yr amod yw fod y ceisydd yn berson ag anabledd difrifol.
- (2) At ddibenion is-baragraff (1), rhaid trin ceisydd fel pe bai’n berson ag anabledd difrifol—
- (a) yn achos ceisydd sengl, unig riant neu geisydd a drinnir fel pe na bai ganddo bartner o ganlyniad i is-baragraff (3) os, ac yn unig os—
- (i) yw’r ceisydd yn cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; a
- (ii) yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), nad oes gan y ceisydd unrhyw annibynyddion sy’n 18 oed neu drosodd ac yn preswylio fel arfer gyda’r ceisydd, neu y mae’r ceisydd fel arfer y preswylio gyda hwy; a
- (iii) nad oes neb sydd â hawl i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr o dan adran 70 o DCBNC mewn perthynas â gofalu am y ceisydd;
- (b) yn achos ceisydd sydd â phartner, os ac yn unig os—
- (i) yw’r ceisydd yn cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; a
- (ii) partner y ceisydd hefyd yn cael lwfans o’r fath neu, pan fo’r ceisydd yn aelod o briodas amlbriod, pob aelod arall o’r briodas honno’n cael lwfans o’r fath; a
- (iii) yn ddarostyngedig i is-baragraff (4), nad oes gan y ceisydd unrhyw annibynyddion sy’n 18 oed neu drosodd ac yn preswylio fel arfer gyda’r ceisydd, neu y mae’r ceisydd fel arfer y preswylio gyda hwy,
a naill ai mae person sydd â hawl i gael ac yn cael, lwfans gofalwr mewn perthynas â gofalu am un aelod yn unig o’r cwpl, neu, yn achos priodas amlbriod, am un neu ragor ond nid pob un o aelodau’r briodas, neu, yn ôl fel y digwydd, nad oes neb sydd â hawl i gael ac yn cael lwfans o’r fath mewn perthynas â gofalu am y naill na’r llall o aelodau’r cwpl, neu am unrhyw aelod o’r briodas amlbriod.
- (3) Pan fo gan geisydd bartner nad yw’n bodloni’r amod yn is-baragraff (2)(b)(ii), a’r partner hwnnw’n ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall o fewn ystyr paragraff 10(1)(a)(vii) a (2) o’r Atodlen hon, rhaid trin y partner hwnnw at ddibenion is-baragraff (2)(b)(ii) fel pe na bai’r person hwnnw’n bartner i’r ceisydd.
- (4) At ddibenion is-baragraff (2)(a)(ii) a (2)(b)(iii) rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth—
- (a) person sy’n cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC, neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol a delir ar y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ragnodir yn unol â Rhan 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA; neu
- (b) person sy’n ddall neu a drinnir fel pe bai’n ddall o fewn ystyr paragraff 10(1)(a)(vii) a (2).
- (5) At ddibenion is-baragraff (2)(b) rhaid trin person—
- (a) fel pe bai’n cael lwfans gweini, neu elfen ofal y lwfans byw i’r anabl ar y gyfradd uchaf neu’r gyfradd ganol a ragnodir yn unol ag adran 72(3) o DCBNC neu elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol sy’n daladwy ar y naill gyfradd neu’r llall o dan Ran 4 o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu TALlA, os byddai’r person hwnnw’n yn cael lwfans neu daliad felly, pe na bai wedi bod yn glaf am gyfnod hwy na 28 diwrnod;
- (b) fel pe bai hawl ganddo i gael, ac yn cael, lwfans gofalwr, os byddai ganddo hawl i gael ac y byddai’n cael y lwfans hwnnw pe na bai’r person y mae’r person hwnnw’n gofalu amdano yn glaf mewn ysbyty am gyfnod hwy nag 28 diwrnod.
- (6) At ddibenion is-baragraff (2)(a)(iii) a (2)(b), rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth ddyfarniad o lwfans gofalwr i’r graddau y mae taliad o’r cyfryw ddyfarniad wedi ei ôl-ddyddio ar gyfer cyfnod cyn y dyddiad y talwyd y dyfarniad gyntaf.
- (7) Yn is-baragraff (2)(a)(iii) a (b), mae cyfeiriadau at berson sy’n cael lwfans gofalwr yn cynnwys cyfeiriadau at berson a fyddai wedi bod yn cael y lwfans hwnnw oni bai am weithredu cyfyngiad o dan adran 6B neu 7 o Ddeddf Twyll Nawdd Cymdeithasol 2001[^f00241] (darpariaethau colli budd-dal).
Premiwm anabledd uwch
12
- (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), yr amod yw—
- (a) bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu bod gan y ceisydd, neu fod y ceisydd i’w drin fel pe bai ganddo, alluedd cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd perthynol i waith; neu
- (b) bod elfen ofal y lwfans byw i’r anabl yn daladwy ar y gyfradd uchaf a ragnodir o dan adran 72(3) o DCBNC, neu byddai’n daladwy pe na bai budd-dal wedi ei atal dros dro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 113(2) o DCBNC neu oni bai am leihad oherwydd traddodi i ysbyty mewn perthynas ag—
- (i) y ceisydd; neu
- (ii) aelod o deulu’r ceisydd,
nad yw wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth; neu
- (c) bod elfen byw dyddiol y taliad annibyniaeth bersonol yn daladwy ar y gyfradd uwch a ragnodir yn unol ag adran 78(2) o Ddeddf Diwygio Lles 2012, neu byddai’n daladwy oni bai am atal budd-dal dros dro yn unol ag adran 86 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 mewn perthynas ag—
- (i) y ceisydd; neu
- (ii) aelod o deulu’r ceisydd,
nad yw wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth; neu
- (d) bod TALlA yn daladwy mewn perthynas ag—
- (i) y ceisydd; neu
- (ii) aelod o deulu’r ceisydd,
nad yw wedi cyrraedd yr oedran cymwys ar gyfer credyd pensiwn y wladwriaeth.
- (2) Os peidir â bodloni’r amod yn is-baragraff (1) oherwydd marwolaeth plentyn neu berson ifanc, yr amod yw fod hawl gan y ceisydd neu bartner i gael budd-dal plant mewn perthynas â’r plentyn neu’r person ifanc o dan adran 145A o DCBNC (hawlogaeth ar ôl marwolaeth plentyn neu berson ifanc cymwys).
- (3) Ni fodlonir yr amod os yw’r person y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)—
- (a) yn geisydd—
- (i) nad yw’n aelod o gwpl neu briodas amlbriod; a
- (ii) yn glaf o fewn ystyr paragraff 55(11)(e) o’r cynllun hwn (trin costau gofal plant) ac wedi bod yn glaf felly am gyfnod hwy na 52 wythnos; neu
- (b) yn aelod o gwpl neu briodas amlbriod y mae pob aelod ohono yn glaf o fewn ystyr paragraff 55(11)(e) ac wedi bod yn glaf felly am gyfnod hwy na 52 wythnos.
Premiwm plentyn anabl
13
Yr amod yw fod plentyn neu berson ifanc, sydd â’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn gyfrifol amdano ac sy’n aelod o aelwyd y ceisydd—
- (a) yn cael lwfans byw i’r anabl neu daliad annibyniaeth bersonol, neu nad yw bellach yn cael lwfans neu daliad o’r fath oherwydd bod y plentyn neu’r person ifanc yn glaf, ar yr amod bod y plentyn neu’r person ifanc yn parhau’n aelod o’r teulu; neu
- (b) yn ddall neu’n cael ei drin fel pe bai’n ddall o fewn ystyr paragraff 10 o’r Atodlen hon; neu
- (c) yn blentyn neu berson ifanc y mae adran 145A o DCBNC (hawlogaeth ar ôl marwolaeth plentyn neu berson ifanc cymwys) yn gymwys mewn perthynas ag ef at ddibenion hawlogaeth i fudd-dal plant, ond yn unig am y cyfnod a ragnodir o dan yr adran honno, ac y cynhwyswyd premiwm plentyn anabl mewn perthynas ag ef yn swm cymwysadwy’r ceisydd yn union cyn marwolaeth y plentyn neu’r person ifanc hwnnw, neu peidiwyd â’i gynnwys yn swm cymwysadwy’r ceisydd oherwydd marwolaeth y plentyn neu’r person ifanc hwnnw; neu
- (d) yn cael TALlA.
Premiwm gofalwr
14
- (1) Yr amod yw fod hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd, neu’r ddau ohonynt, i gael lwfans gofalwr o dan adran 70 o DCBNC.
- (2) Pan fo premiwm gofalwr wedi ei ddyfarnu ond—
- (a) bu farw’r person y dyfarnwyd y lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal; neu
- (b) mewn unrhyw achos arall, bod hawl y person, y dyfarnwyd y premiwm gofalwr mewn perthynas ag ef, i gael lwfans gofalwr yn dod i ben,
rhaid trin yr amod ar gyfer dyfarnu’r premiwm fel pe bai wedi ei fodloni am gyfnod o wyth wythnos o’r dyddiad perthnasol a bennir yn is-baragraff (3).
- (3) Y dyddiad perthnasol at ddibenion is-baragraff (2) fydd y canlynol—
- (a) os yw is-baragraff (2)(a) yn gymwys, y dydd Sul sy’n dilyn marwolaeth y person y dyfarnwyd lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal, neu ddyddiad y farwolaeth os bu farw ar ddydd Sul;
- (b) mewn unrhyw achos arall, y dyddiad y daeth i ben hawl y person, yr oedd ganddo hawl i gael lwfans gofalwr, i gael y lwfans hwnnw.
- (4) Pan fo person, y bu hawl ganddo i gael lwfans gofalwr, yn gwneud cais am ostyngiad wedi i’w hawl i gael y lwfans hwnnw ddod i ben, rhaid trin yr amod ar gyfer dyfarnu’r premiwm gofalwr fel pe bai wedi ei fodloni am gyfnod o wyth wythnos—
- (a) o’r dyddiad y bu farw’r person y dyfarnwyd y lwfans gofalwr mewn perthynas â’i ofal;
- (b) mewn unrhyw achos arall, o’r dyddiad y daeth i ben hawl y person, yr oedd ganddo hawl i gael lwfans gofalwr, i gael y lwfans hwnnw.
Personau sy’n cael taliadau consesiynol
15
At y diben o benderfynu a oes premiwm yn gymwysadwy o dan baragraffau 10 i 14 o’r Atodlen hon, rhaid trin unrhyw daliad consesiynol, a wnaed i ddigolledu’r person hwnnw oherwydd methiant i dalu unrhyw fudd-dal a grybwyllir yn y paragraffau hynny, fel pe bai’n daliad o’r budd-dal hwnnw.
Personau sy’n cael budd-dal ar gyfer rhywun arall
16
At ddibenion y Rhan hon o’r Atodlen hon, mae person i’w ystyried fel pe bai’n cael unrhyw fudd-dal os, ac yn unig os, telir y budd-dal mewn perthynas â’r person hwnnw ac mae’r person i’w ystyried felly yn ystod, yn unig, pa bynnag gyfnod y telir y budd-dal hwnnw mewn perthynas ag ef.
RHAN 4 — Symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3
| Premiwm | Swm |
|---|---|
| 17.-(1)Premiwm Anabledd— | |
| pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 9(a) o’r Atodlen hon; | £31.00; |
| pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 9(b) o’r Atodlen hon. | £44.20; |
| 5Premiwm Anabledd Difrifol— | |
| pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 11(2)(a) o’r Atodlen hon; | £59.50; |
| pan fo’r ceisydd yn bodloni’r amod ym mharagraff 11(2)(b) o’r Atodlen hon— | |
| mewn achos pan fo rhywun yn cael lwfans gofalwr neu pan fo’r person hwnnw neu unrhyw bartner yn bodloni’r amod hwnnw yn rhinwedd paragraff 11(5) o’r Atodlen hon yn unig; | £59.50; |
| mewn achos pan nad oes neb yn cael lwfans o’r fath. | £119.00. |
| 6Premiwm Plentyn Anabl. | £57.89 mewn perthynas â phob plentyn neu berson ifanc y mae’r amod a bennir ym mharagraff 13 o Ran 3 o’r Atodlen hon wedi ei fodloni mewn perthynas ag ef. |
| 7Premiwm Gofalwr. | £33.30 mewn perthynas â phob person sy’n bodloni’r amod a bennir ym mharagraff 14 o’r Atodlen hon. |
| 8Premiwm Anabledd Uwch. | £23.45 mewn perthynas â phob plentyn neu berson ifanc y bodlonir yr amodau a bennir ym mharagraff 12 o’r Atodlen hon mewn perthynas ag ef; |
| £15.15 mewn perthynas â phob person— | |
| nad yw yn blentyn neu berson ifanc, acnad yw’n aelod o gwpl neu briodas amlbriod;y bodlonir yr amodau a bennir ym mharagraff 12 o’r Atodlen hon mewn perthynas ag ef; | |
| £21.75 pan fo’r ceisydd yn aelod o gwpl neu briodas amlbriod ac y bodlonir yr amodau a bennir ym mharagraff 12 o’r Atodlen hon mewn perthynas ag aelod o’r cwpl hwnnw neu’r briodas amlbriod honno. |
RHAN 5 — Yr elfennau
18
Yn ddarostyngedig i baragraff 20 o’r Atodlen hon, mae hawl gan y ceisydd i gael un, ond nid y ddwy, o’r elfennau ym mharagraff 21 neu 22 o’r Atodlen hon os yw—
- (a) y ceisydd neu bartner y ceisydd wedi gwneud cais am lwfans cyflogaeth a chymorth;
- (b) bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu bod gan y ceisydd neu bartner y ceisydd alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith neu alluedd cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd perthynol i waith, neu fod y ceisydd neu bartner y ceisydd i’w drin felly; ac
- (c) naill ai bod—
- (i) y cyfnod asesu, yn yr ystyr o “assessment phase” fel y’i diffinnir yn adran 24(2) o Ddeddf Diwygio Lles 2007[^f00242], wedi dod i ben; neu
- (ii) rheoliad 7 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008[^f00243] (amgylchiadau pan nad yw’r amod bod y cyfnod asesu wedi dod i ben cyn bod hawlogaeth i’r elfen gymorth neu’r elfen gweithgaredd perthynol i waith yn gymwys) yn gymwys.
19
Yn ddarostyngedig i baragraff 20, mae hawl gan y ceisydd i gael un, ond nid y ddwy o’r elfennau ym mharagraffau 21 a 22 os oes hawl gan y ceisydd neu bartner y ceisydd i gael lwfans cyflogaeth a chymorth a droswyd.
20
- (1) Nid oes gan y ceisydd hawlogaeth o dan baragraff 21 neu 22 os oes hawl gan y ceisydd i gael y premiwm anabledd o dan baragraffau 9 a 10 o’r Atodlen hon.
- (2) Os yw’r ceisydd a phartner y ceisydd ill dau’n bodloni paragraff 21 neu 22, yr elfen sydd i’w chynnwys yn swm cymwysadwy’r ceisydd yw’r elfen sy’n berthynol i’r ceisydd.
Yr elfen gweithgaredd perthynol i waith
21
Mae hawl gan y ceisydd i gael yr elfen gweithgaredd perthynol i waith os yw’r Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu bod gan y ceisydd neu bartner y ceisydd alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith, neu ei fod i’w drin felly.
Yr elfen gymorth
22
Mae hawl gan y ceisydd i gael yr elfen gymorth os yw’r Ysgrifennydd Gwladol wedi penderfynu bod gan y ceisydd neu bartner y ceisydd alluedd cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd perthynol i waith, neu ei fod i’w drin felly.
RHAN 6 — Symiau’r elfennau
23
Swm yr elfen gweithgaredd perthynol i waith yw £28.45.
24
Swm yr elfen gymorth yw £34.80.
RHAN 7 — Ychwanegiad trosiannol
25
- (1) Mae hawl gan y ceisydd i gael yr ychwanegiad trosiannol a gyfrifir yn unol â pharagraff 28 yn yr amgylchiadau canlynol—
- (a) pan fo hawl gan ceisydd neu bartner y ceisydd (“y person perthnasol”) i gael lwfans cyflogaeth a chymorth a droswyd; neu
- (b) pan fo’r person perthnasol yn apelio yn erbyn penderfyniad trosi yn yr ystyr o “conversion decision” fel y’i disgrifir yn rheoliad 5(2)(b) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Darpariaethau Trosiannol, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor) (Dyfarniadau Presennol) (Rhif 2) 2010[^f00244] ac—
- (i) y’i trinnir fel pe bai ganddo alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith yn rhinwedd rheoliad 30 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008 fel y’i haddaswyd gan Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Darpariaethau Trosiannol, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor) (Dyfarniadau Presennol) (Rhif 2) 2010; a
- (ii) nad yw’n cael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm,
oni fyddai swm yr ychwanegiad trosiannol a gyfrifid yn unol â pharagraff 28 o’r Atodlen hon yn ddim.
- (2) Bydd hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn rhinwedd y paragraff hwn yn dod i ben pan ddigwydd unrhyw un o’r canlynol—
- (a) gostyngiad yr ychwanegiad trosiannol i ddim yn unol â pharagraff 29 o’r Atodlen hon;
- (b) terfynu’r dyfarniad o ostyngiad i’r ceisydd o dan y cynllun hwn;
- (c) y person perthnasol yn peidio â bodloni gofynion is-baragraff (1)(a) neu (b), yn ôl fel y digwydd;
- (d) y ceisydd neu bartner y ceisydd yn ennill yr hawl i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu gymhorthdal incwm;
- (e) 5 Ebrill 2020.
26
- (1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo—
- (a) hawl y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn dod i ben, yn rhinwedd terfynu’r dyfarniad o ostyngiad i’r ceisydd, o dan—
- (i) paragraff 25(2)(b) o’r Atodlen hon;
- (ii) is-baragraff (3)(b) o’r paragraff hwn; neu
- (iii) paragraff 27(3)(b) o’r Atodlen hon;
- (b) o fewn 12 wythnos ar ôl y terfyniad hwnnw ond cyn 5 Ebrill 2020, y ceisydd yn ennill yr hawl drachefn i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn;
- (c) yn yr wythnos ostyngiad y daw’r ceisydd yn gymwys drachefn i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn, mae hawl gan y person perthnasol i gael lwfans cyflogaeth a chymorth nad yw’n seiliedig ar incwm; a
- (d) ar y dyddiad y mae’r ceisydd yn ennill yr hawl drachefn i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn, nid oes hawl gan y ceisydd na phartner y ceisydd i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm na chymhorthdal incwm.
- (2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae hawl gan y ceisydd, yn effeithiol o’r diwrnod y mae’r ceisydd yn ennill yr hawl drachefn i gael gostyngiad o dan y cynllun hwn, i gael ychwanegiad trosiannol o swm yr ychwanegiad trosiannol y byddid wedi ei ddyfarnu pe na bai hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol wedi dod i ben (ond gan gymryd i ystyriaeth yr effaith y byddai unrhyw newid yn yr amgylchiadau, a ddigwyddodd yn y cyfamser wedi ei gael yn rhinwedd paragraff 29), oni fyddai swm yr ychwanegiad trosiannol yn ddim.
- (3) Bydd hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn rhinwedd y paragraff hwn yn dod i ben pan ddigwydd unrhyw un o’r canlynol—
- (a) gostyngiad yr ychwanegiad trosiannol i ddim yn unol â pharagraff 29 o’r Atodlen hon;
- (b) terfynu’r dyfarniad o ostyngiad i’r ceisydd o dan y cynllun hwn;
- (c) hawl y person perthnasol i gael y lwfans cyflogaeth a chymorth y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(c) yn dod i ben;
- (d) y ceisydd neu bartner y ceisydd yn ennill yr hawl i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu gymhorthdal incwm;
- (e) 5 Ebrill 2020.
27
- (1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan ddigwydd yr amgylchiadau canlynol—
- (a) hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn dod i ben yn rhinwedd terfynu hawl y person perthnasol i gael lwfans cyflogaeth a chymorth, o dan—
- (i) paragraff 25(2)(c) o’r Atodlen hon;
- (ii) paragraff 26(3)(c) o’r Atodlen hon; neu
- (iii) is-baragraff (3)(c) o’r paragraff hwn;
- (b) y person perthnasol, cyn 5 Ebrill 2020, yn ennill yr hawl drachefn i gael lwfans cyflogaeth a chymorth nad yw’n seiliedig ar incwm;
- (c) ar y dyddiad y mae’r person perthnasol yn ennill yr hawl drachefn i gael lwfans cyflogaeth a chymorth nad yw’n seiliedig ar incwm, rheoliad 145(1) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008 yn gymwys i’r person perthnasol; a
- (d) ar y dyddiad y mae’r person perthnasol yn ennill yr hawl drachefn i gael lwfans cyflogaeth a chymorth nad yw’n seiliedig ar incwm, nid oes hawl gan y ceisydd na phartner y ceisydd i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm na chymhorthdal incwm.
- (2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, mae hawl gan y ceisydd, yn effeithiol o’r diwrnod y bydd hawlogaeth y person perthnasol i gael lwfans cyflogaeth a chymorth yn cael effaith at ddibenion gostyngiad o dan y cynllun hwn, i gael ychwanegiad trosiannol o swm yr ychwanegiad trosiannol y byddid wedi ei ddyfarnu pe na bai hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol wedi dod i ben (ond gan gymryd i ystyriaeth yr effaith y byddai unrhyw newid yn yr amgylchiadau, a ddigwyddodd yn y cyfamser wedi ei gael yn rhinwedd paragraff 29 o’r Atodlen hon), oni fyddai swm yr ychwanegiad trosiannol yn ddim.
- (3) Bydd hawlogaeth y ceisydd i gael ychwanegiad trosiannol yn rhinwedd y paragraff hwn yn dod i ben pan ddigwydd unrhyw un o’r canlynol—
- (a) gostyngiad yr ychwanegiad trosiannol i ddim yn unol â pharagraff 29 o’r Atodlen hon;
- (b) terfynu’r dyfarniad o ostyngiad i’r ceisydd o dan y cynllun hwn;
- (c) hawl y person perthnasol i gael y lwfans cyflogaeth a chymorth y cyfeirir ato yn is-baragraff (1)(b) yn dod i ben;
- (d) y ceisydd neu bartner y ceisydd yn ennill yr hawl i gael lwfans cyflogaeth a chymorth ar sail incwm, lwfans ceisio gwaith ar sail incwm neu gymhorthdal incwm;
- (e) 5 Ebrill 2020.
RHAN 8 — Swm yr ychwanegiad trosiannol
28
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff 29 o’r Atodlen hon, swm yr ychwanegiad trosiannol yw’r gwahaniaeth rhwng y Swm A a’r Swm B (A>B).
- (2) Pan wneir penderfyniad trosi yn yr ystyr o “conversion decision” fel y’i disgrifir yn rheoliad 5(2)(a) o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (Darpariaethau Trosiannol, Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Gyngor) (Dyfarniadau Presennol) (Rhif 2) 2010 (“Rheoliadau 2010”) mewn perthynas â’r person perthnasol—
- (a) Swm A yw’r swm sylfaenol y byddid wedi ei gymhwyso ar y diwrnod yr oedd y penderfyniad yn cael effaith, pe na bai’r penderfyniad hwnnw wedi ei wneud; a
- (b) Swm B yw’r swm sylfaenol a gymhwyswyd ar y diwrnod hwnnw o ganlyniad i’r penderfyniad.
- (3) Pan fo’r person perthnasol yn apelio yn erbyn penderfyniad trosi fel y’i disgrifir yn rheoliad 5(2)(b) o Reoliadau 2010 a thrinnir y person perthnasol fel pe bai ganddo alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith yn rhinwedd rheoliad 30 o Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008 fel y’i haddaswyd gan Reoliadau 2010—
- (a) Swm A yw’r swm sylfaenol y byddid wedi ei gymhwyso ar y diwrnod y triniwyd y person perthnasol gyntaf fel pe bai ganddo alluedd cyfyngedig ar gyfer gwaith, pe na bai’r person perthnasol wedi ei drin felly; a
- (b) Swm B yw’r swm sylfaenol a gymhwyswyd ar y diwrnod hwnnw o ganlyniad i drin y person perthnasol felly.
- (4) Yn y paragraff hwn a pharagraff 29, ystyr “swm sylfaenol” (“basic amount”) yw swm cyfanredol y cyfryw symiau a allai fod yn gymwys yn achos y ceisydd yn unol â pharagraff 24(1)(a) i (e) neu baragraff 25(2)(a) i (f) o’r cynllun hwn.
29
- (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), os digwydd unrhyw newid yn yr amgylchiadau sy’n arwain at gynnydd yn swm sylfaenol y ceisydd, rhaid lleihau’r ychwanegiad trosiannol a oedd yn gymwys yn union cyn y newid yn yr amgylchiadau, o swm sy’n hafal i’r gwahaniaeth rhwng Swm C a Swm D (C>D).
- (2) Os yw’r gwahaniaeth rhwng Swm C a Swm D yn fwy na swm yr ychwanegiad trosiannol a oedd yn gymwys yn union cyn y newid yn yr amgylchiadau, rhaid lleihau’r ychwanegiad trosiannol hwnnw i ddim.
- (3) Swm C yw’r swm sylfaenol sy’n gymwys o ganlyniad i’r cynnydd.
- (4) Swm D yw’r swm sylfaenol a oedd yn gymwys yn union cyn y cynnydd.
1
Yn ychwanegol at unrhyw swm sydd i’w ddiystyru yn unol â pharagraffau 2 i 6 o’r Atodlen hon, £10 o unrhyw rai o’r canlynol—
- (a) pensiwn anabledd rhyfel (ac eithrio i’r graddau y mae pensiwn o’r fath i gael ei ddiystyru o dan baragraff 2 neu 3 o’r Atodlen hon);
- (b) pensiwn rhyfel gwraig weddw neu bensiwn rhyfel gŵr gweddw;
- (c) pensiwn sy’n daladwy i berson fel gwraig weddw, gŵr gweddw neu bartner sifil sy’n goroesi, o dan unrhyw bŵer Ei Mawrhydi, ac eithrio o dan ddeddfiad, i wneud darpariaeth ynglŷn â phensiynau ar gyfer neu mewn perthynas â phersonau a wnaed yn anabl neu a fu farw o ganlyniad i wasanaethu fel aelodau o luoedd arfog y Goron;
- (d) taliad incwm gwarantedig ac, os yw swm y taliad hwnnw wedi ei ostwng i lai na £10 gan bensiwn neu daliad sy’n dod o fewn erthygl 39(1)(a) neu (b) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011[^f00259], cymaint o’r pensiwn neu’r taliad hwnnw na fyddai, o’i gydgrynhoi â swm unrhyw daliad incwm gwarantedig a ddiystyrwyd, yn fwy na £10;
- (e) taliad a wnaed i ddigolledu am fethiant i dalu unrhyw bensiwn neu daliad a grybwyllir yn unrhyw un o’r is-baragraffau blaenorol;
- (f) pensiwn a delir gan lywodraeth gwlad y tu allan i Brydain Fawr, sy’n cyfateb i unrhyw un o’r pensiynau neu’r taliadau a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (d) uchod;
- (g) pensiwn a delir i ddioddefwyr erledigaeth gan Sosialwyr Cenedlaethol, o dan unrhyw ddarpariaeth arbennig a wneir gan gyfraith Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, neu unrhyw ran ohoni, neu Weriniaeth Awstria.
2
Y cyfan o unrhyw swm a gynhwysir mewn pensiwn y mae paragraff 1 yn ymwneud ag ef mewn perthynas ag—
- (a) angen y ceisydd am weini cyson;
- (b) anabledd eithriadol o ddifrifol y ceisydd.
3
Unrhyw atodiad symudedd o dan erthygl 20 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006[^f00260] (gan gynnwys atodiad o’r fath yn rhinwedd unrhyw gynllun neu orchymyn arall) neu o dan erthygl 25A o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983[^f00261] neu unrhyw daliad y bwriedir iddo ddigolledu am fethiant i dalu atodiad o’r fath.
4
Unrhyw bensiwn atodol o dan erthygl 23(2) o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006 (pensiynau i wŷr priod a gwragedd priod sy’n goroesi, a phartneriaid sifil sy’n goroesi) ac unrhyw daliad cyfatebol a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Amddiffyn i unrhyw berson nad oes hawl ganddo o dan y Gorchymyn hwnnw.
5
Yn achos pensiwn a ddyfarnwyd ar y gyfradd atodol o dan erthygl 27(3) o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983 (pensiynau i wŷr priod a gwragedd priod sy’n goroesi, a phartneriaid sifil sy’n goroesi), y swm a bennir ym mharagraff 1(c) o Atodlen 4 i’r Cynllun hwnnw.
6
- (1) Unrhyw daliad—
- (a) a wneir o dan unrhyw un o’r Offerynnau Dosbarthu i wraig neu ŵr gweddw, neu bartner sifil sy’n goroesi person—
- (i) yr oedd ei farwolaeth i’w briodoli i wasanaeth mewn swyddogaeth gyfatebol i wasanaeth fel aelod o luoedd arfog y Goron; a
- (ii) y terfynodd ei wasanaeth yn y cyfryw swyddogaeth cyn 31 Mawrth 1973; a
- (b) sy’n hafal i’r swm a bennir yn erthygl 23(2) o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006.
- (2) Yn y paragraff hwn ystyr “yr Offerynnau Dosbarthu” (“the Dispensing Instruments”) yw Gorchymyn y Cyfrin Gyngor ar 19 Rhagfyr 1881, Y Warant Frenhinol ar 27 Hydref 1884 a’r Gorchymyn gan Ei Fawrhydi ar 14 Ionawr 1922 (dyfarniadau eithriadol o dâl, tâl aneffeithiol a lwfansau).
7
£15 o unrhyw lwfans rhiant gweddw y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 39A o DCBNC.
8
£15 o unrhyw lwfans mam weddw y mae hawl gan y ceisydd i’w gael o dan adran 37 o DCBNC.
9
Pan fo ceisydd yn meddiannu annedd fel ei gartref, a’r ceisydd, yn yr annedd honno, yn darparu prydau bwyd a llety, swm, mewn perthynas â phob person y darperir llety o’r fath iddo am y cyfan neu unrhyw ran o wythnos, sy’n hafal i—
- (a) pan nad yw swm cyfanredol unrhyw daliadau a wneir mewn perthynas ag unrhyw un wythnos mewn perthynas â llety o’r fath a ddarperir i berson o’r fath yn fwy nag £20, 100 y cant o’r cyfryw daliadau; neu
- (b) pan fo swm cyfanredol unrhyw daliadau o’r fath yn fwy nag £20, £20 a 50 y cant o’r swm dros ben £20.
10
Os yw’r ceisydd—
- (a) yn berchen buddiant rhydd-ddaliad neu lesddaliad unrhyw eiddo neu’n denant unrhyw eiddo; a
- (b) yn meddiannu rhan o’r eiddo hwnnw; ac
- (c) â chytundeb rhyngddo a pherson arall sy’n caniatáu i’r person hwnnw feddiannu rhan arall o’r eiddo hwnnw yn gyfnewid am dalu rhent ac—
- (i) y swm a delir gan y person hwnnw yn llai nag £20 yr wythnos, y cyfan o’r swm hwnnw; neu
- (ii) y swm a delir yn £20 neu ragor yr wythnos, £20.
11
Pan fo ceisydd yn cael incwm o dan flwydd-dal a brynwyd gyda benthyciad, sy’n bodloni’r amodau canlynol—
- (a) bod y benthyciad wedi ei wneud fel rhan o gynllun a oedd yn peri bod dim llai na 90 y cant o dderbyniadau’r benthyciad yn cael eu defnyddio gan y person y rhoddwyd y benthyciad iddo i brynu blwydd-dal a ddaw i ben ar ddiwedd oes y person hwnnw, neu ddiwedd oes yr un sy’n goroesi o blith dau neu ragor o bersonau (y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn fel “y derbynyddion blwydd-dal”) sy’n cynnwys y person y rhoddwyd y benthyciad iddo;
- (b) ar yr adeg y gwnaed y benthyciad, bod y person y’i rhoddwyd iddo neu bob un o’r derbynyddion blwydd-dal, wedi cyrraedd 65 oed;
- (c) bod y benthyciad wedi ei sicrhau ar annedd ym Mhrydain Fawr, a bod y person y gwnaed y benthyciad iddo, neu un o’r derbynyddion blwydd-dal, yn berchen ystâd neu fuddiant yn yr annedd honno;
- (d) bod y person y gwnaed y benthyciad iddo, neu un o’r derbynyddion blwydd-dal, yn meddiannu’r annedd y sicrhawyd y benthyciad arni, fel cartref y person neu’r derbynnydd blwydd-dal hwnnw ar yr adeg y telir y llog; ac
- (e) y telir y llog sy’n daladwy ar y benthyciad gan y person y rhoddwyd y benthyciad iddo neu gan un o’r derbynyddion blwydd-dal,
- (f) y swm, a gyfrifir ar sail wythnosol, sy’n hafal i—
- (i) pan fo adran 369 o Ddeddf Trethi Incwm a Chorfforaeth 1988[^f00262] (llog morgais sy’n daladwy ar ôl didynnu treth) yn gymwys i’r taliadau o’r llog ar y benthyciad, y llog sy’n daladwy ar ôl didynnu swm sy’n hafal i’r dreth incwm ar y cyfryw daliadau yn unol â’r ganran gymwysadwy o dreth incwm, o fewn yr ystyr a roddir i “the applicable percentage of income tax” gan adran 369(1A) o’r Ddeddf honno;
- (ii) mewn unrhyw achos arall, y llog sy’n daladwy ar y benthyciad heb ddidynnu swm o’r fath.
12
- (1) Unrhyw daliad, ac eithrio taliad y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, a wneir i’r ceisydd gan Ymddiriedolwyr wrth arfer disgresiwn sy’n arferadwy gan yr Ymddiriedolwyr.
- (2) Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i daliadau a wneir i’r ceisydd gan Ymddiriedolwyr wrth arfer disgresiwn sy’n arferadwy ganddynt at y diben o—
- (a) caffael bwyd, dillad neu esgidiau cyffredin neu danwydd cartref;
- (b) talu rhent, treth gyngor neu daliadau dŵr y mae’r ceisydd neu bartner y ceisydd yn atebol i’w talu;
- (c) talu costau tai o fath a bennir yn Atodlen 2 i Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002[^f00263].
- (3) Mewn achos y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, £20 neu—
- (a) os yw’r taliad yn llai nag £20, y cyfan o’r taliad;
- (b) os, yn achos y ceisydd, diystyrir £10 yn unol â pharagraff 1(a) i (g) o’r Atodlen hon, £10 neu’r taliad cyfan os yw’n llai na £10; neu
- (c) os, yn achos y ceisydd, diystyrir £15 o dan baragraff 7 neu baragraff 8 o’r Atodlen hon ac—
- (i) nad oes gan y ceisydd ddiystyriad o dan baragraff 1(a) i (g) o’r Atodlen hon, £5 neu’r taliad cyfan os yw’n llai na £5;
- (ii) pan fo gan y ceisydd ddiystyriad o dan baragraff 1(a) i (g) o’r Atodlen hon, dim.
13
Unrhyw gynnydd mewn pensiwn neu lwfans o dan Ran 2 neu 3 o Orchymyn Pensiynau Gwasanaethu’r Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr Etc (Anabledd a Marwolaeth) 2006 a delir mewn perthynas â dibynnydd ac eithrio partner y pensiynwr.
14
Unrhyw daliad y mae llys wedi gorchymyn ei wneud i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd o ganlyniad i unrhyw ddamwain, anaf neu glefyd a ddioddefwyd gan y person neu blentyn y person y gwneir y taliad iddo neu mewn perthynas ag ef.
15
Taliadau cyfnodol a wneir i’r ceisydd neu i bartner y ceisydd o dan gytundeb yr ymunwyd ynddo i setlo hawliad a wnaed gan y ceisydd neu, yn ôl fel y digwydd, partner y ceisydd, am anaf a ddioddefwyd gan y ceisydd neu bartner y ceisydd.
16
Unrhyw incwm sy’n daladwy y tu allan i’r Deyrnas Unedig, yn ystod unrhyw gyfnod pan fo gwaharddiad yn erbyn trosglwyddo’r incwm hwnnw i’r Deyrnas Unedig.
17
Unrhyw gostau bancio neu gomisiwn sy’n daladwy am drosi taliadau incwm, a wneir mewn arian cyfredol ac eithrio sterling, i sterling.
18
Pan fo’r ceisydd yn gwneud cyfraniad rhiant mewn perthynas â myfyriwr sy’n dilyn cwrs mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu’n ymgymryd ag addysg yn y Deyrnas Unedig, a’r cyfraniad hwnnw wedi ei asesu at y diben o gyfrifo—
- (a) o dan, neu’n unol â rheoliadau a wnaed o dan bwerau a roddir gan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[^f00264], dyfarniad y myfyriwr hwnnw;
- (b) o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 49 o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980[^f00265], bwrsari, ysgoloriaeth neu lwfans arall y myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno, neu o dan reoliadau a wnaed wrth arfer y pwerau a roddir gan adran 73 o’r Ddeddf 1980 honno, unrhyw daliad i’r myfyriwr hwnnw o dan yr adran honno; neu
- (c) benthyciad myfyriwr y myfyriwr hwnnw,
swm sy’n hafal i swm wythnosol y cyfraniad rhiant hwnnw, ond hynny mewn perthynas, yn unig, â’r cyfnod yr asesir bod y cyfraniad hwnnw’n daladwy ar ei gyfer.
19
- (1) Pan fo’r ceisydd yn rhiant myfyriwr sydd o dan 25 oed, mewn addysg uwch, a naill ai—
- (a) ddim yn cael unrhyw ddyfarniad, grant na benthyciad myfyriwr mewn perthynas â’r addysg honno; neu
- (b) yn cael dyfarniad a roddir yn rhinwedd Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, neu reoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno, neu fwrsari, ysgoloriaeth neu lwfans arall o dan adran 49(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980, neu daliad o dan adran 73 o’r Ddeddf 1980 honno,
a’r ceisydd yn gwneud taliadau i gyfrannu tuag at gynnal y myfyriwr, ac eithrio cyfraniad rhiant sy’n dod o fewn paragraff 18, swm a bennir yn is-baragraff (2) mewn perthynas â phob wythnos yn ystod tymor y myfyriwr.
- (2) At ddibenion is-baragraff (1), bydd y swm yn hafal i—
- (a) swm wythnosol y taliadau; neu
- (b) y swm ar gyfer lwfans personol i geisydd sengl sydd o dan 25 oed llai swm wythnosol unrhyw ddyfarniad, bwrsari, ysgoloriaeth, lwfans neu daliad y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(b),
pa un bynnag yw’r lleiaf.
- (3) Yn y paragraff hwn a pharagraff 18 mae cyfeiriad at “benthyciad myfyriwr” (“student loan”) neu “grant” (“grant”) yn gyfeiriad at fenthyciad myfyriwr neu grant o fewn ystyr Rhan 10 o’r cynllun hwn.
20
- (1) Pan fo swm cymwysadwy ceisydd yn cynnwys swm ar gyfer premiwm teulu, £15 o unrhyw daliad cynnal, boed o dan orchymyn llys ai peidio, a wnaed neu sy’n ddyladwy, gan briod, partner sifil, cyn-briod neu gyn-bartner sifil y ceisydd, neu briod, partner sifil, cyn-briod neu gyn-bartner sifil partner y ceisydd.
- (2) At ddibenion is-baragraff (1), os oes mwy nag un taliad cynnal i’w gymryd i ystyriaeth mewn unrhyw wythnos, rhaid cydgrynhoi’r holl daliadau o’r fath a’u trin fel pe baent yn daliad sengl.
21
Ac eithrio mewn achos sy’n dod o dan baragraff 10 o Atodlen 4, pan fo’r ceisydd yn berson sy’n bodloni unrhyw un o’r amodau yn is-baragraff (2) o’r paragraff hwnnw, unrhyw swm o gredyd treth gwaith i fyny at £17.10.
22
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.