The Education (European University Institute) (Wales) Regulations 2014
- (7) Nid yw myfyriwr cymwys y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau mewn cysylltiad ag ef ar neu ar ôl 1 Medi 2000, ar unrhyw un adeg, yn cymhwyso i gael cymorth at fwy nag un cwrs dynodedig.
- (8) Er gwaethaf paragraffau (2) a (3) ac yn ddarostyngedig i baragraffau (2B) a (9) i (10D), mae person (“A” yn y paragraff hwn) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn yr Athrofa—
- (a) os cymhwysodd A fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad—
- (i) â blwyddyn academaidd gynharach ar y cwrs cyfredol; neu
- (ii) â chwrs dynodedig yr oedd A yn bresennol arno yn yr Athrofa ac y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
- (b) os nad yw statws A fel myfyriwr cymwys wedi ei derfynu.
- (9) Pan fo—
- (a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn ffoadur neu’n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i ffoadur, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
- (b) statws ffoadur A neu statws ffoadur priod, partner sifil, rhiant neu lysriant i A, yn ôl y digwydd, i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
- (9A) Pan fo—
- (a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth, neu’n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
- (b) y cyfnod a ganiateir i berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel person diwladwriaeth yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi ac nad oes unrhyw gais am adolygiad gweinyddol yn unol â’r rheolau mewnfudo yn yr arfaeth,
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
- (9B) Pan fo—
- (a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, neu’n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
- (b) y cyfnod y caniateir i’r person, y rhoddwyd diogelwch dyngarol iddo o dan baragraff 339C o’r rheolau mewnfudo, aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002,
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
- (10) Pan fo—
- (a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros neu’n briod, partner sifil, plentyn neu lysblentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
- (b) y cyfnod pryd y caniateir i’r person sydd â chaniatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi nac unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
- (10A) Pan fo—
- (a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A” yn y paragraff hwn), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67, neu’n blentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
- (b) y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67 aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
- (10B) Pan fo—
- (a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â hawliau a ddiogelir sydd â chaniatâd cyfyngedig i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad—
- (i) â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol; neu
- (ii) â chais am gymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
- (b) ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi yn dechrau, nad oes gan A ganiatâd cyfyngedig cyfredol mwyach i ddod i mewn neu i aros a roddwyd yn rhinwedd rheolau mewnfudo’r cynllun preswylio ac nad oes unrhyw ganiatâd pellach i ddod i mewn neu i aros wedi ei roi o dan y rheolau hynny,
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
- (10C) Pan fo—
- (a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod yn berson sydd â chaniatâd Calais, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
- (b) y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd Calais aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi,
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
- (10D) Pan fo—
- (a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y faith ei fod yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo aros fel partner a ddiogelir neu’n blentyn i berson o’r fath, yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer un o flynyddoedd cynharach y cwrs cyfredol neu mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer cwrs dynodedig yn yr Athrofa y trosglwyddwyd statws A fel myfyriwr cymwys ohono i’r cwrs cyfredol; a
- (b) y cyfnod y caniateir i berson sydd â chaniatâd i aros fel partner a ddiogelir aros yn y Deyrnas Unedig i fod i ddod i ben cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi ac nad oes, ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd honno’n dechrau, unrhyw ganiatâd pellach i aros wedi ei roi ac nad oes unrhyw apêl yn yr arfaeth (o fewn ystyr adran 104 o Ddeddf Cenedligrwydd, Mewnfudo a Lloches 2002),
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu ar y diwrnod cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
- (10E) Pan fo—
- (a) Gweinidogion Cymru wedi penderfynu bod person (“A”), yn rhinwedd y ffaith ei fod—
- (i) yn dod o fewn paragraff (a)(iii), (iv) neu (v) o’r diffiniad o “person sydd â hawliau gwarchodedig”; neu
- (ii) yn bodloni’r amodau ym mharagraff 3(1)(a)(iii) neu (iv) yn Rhan 2 o Atodlen 1,
yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chais am gymorth ar gyfer blwyddyn academaidd o gwrs dynodedig, a
- (b) ar y diwrnod cyn bod y flwyddyn academaidd yn dechrau, nad yw A yn berson sydd â hawliau gwarchodedig,
mae statws A fel myfyriwr cymwys yn terfynu yn union cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae A yn gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
- (11) Nid yw paragraffau (9), (9A), (9B), (10) a (10A) yn gymwys os dechreuodd y myfyriwr y cwrs y penderfynodd Gweinidogion Cymru mewn cysylltiad â’r cwrs hwnnw fod y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys cyn 1 Medi 2007.
- (12) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y maent yn barnu eu bod yn angenrheidiol i benderfynu a yw person yn fyfyriwr cymwys.
- (13) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu person y rhoddwyd gwybod iddynt amdano o dan baragraff (2)(a) a yw’r person hwnnw yn cymhwyso fel myfyriwr cymwys.
- (14) Rhaid i berson sydd wedi cael hysbysiad gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (13) fod y person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs yn yr Athrofa a pherson sy’n fyfyriwr cymwys yn yr Athrofa yn rhinwedd paragraff (8), roi i Weinidogion Cymru, erbyn y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law, unrhyw wybodaeth neu ddogfennaeth y maent yn gofyn amdani er mwyn penderfynu swm y cymorth sy’n daladwy o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd.
- (15) Y dyddiad cau i wybodaeth ariannol ddod i law yw 30 Ebrill yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs cyfredol yn dechrau ynddi neu, yn achos grantiau sy’n daladwy o dan reoliad 15(6), 28 Chwefror yn y flwyddyn galendr ar ôl yr un y mae blwyddyn academaidd y cwrs cyfredol yn dechrau ynddi.
- (16) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu myfyriwr cymwys o swm y cymorth sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd, os oes unrhyw gymorth yn daladwy o gwbl.
Cyrsiau dynodedig
7
Mae cwrs yn gwrs dynodedig at ddibenion adran 22(1) o Ddeddf 1998 a rheoliad 6 os yw—
- (a) yn gwrs ôl-raddedig neu’n gwrs cyffelyb;
- (b) yn gwrs llawnamser;
- (c) yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd; a
- (d) yn cael ei ddarparu gan yr Athrofa,
oni bai ei fod yn gwrs sy’n arwain at ddyfarnu cymhwyster meistr yn y cyfreithiau.
Cyfnod cymhwystra
8
- (1) Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol a rheoliad 6, bydd statws myfyriwr fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn terfynu ar ddiwedd trydedd flwyddyn academaidd cwrs y myfyriwr (“cyfnod cymhwystra”).
- (2) Bydd cyfnod cymhwystra’r myfyriwr yn terfynu pan fo’r myfyriwr—
- (a) yn tynnu’n ôl o’r cwrs dynodedig o dan amgylchiadau pan na fydd Gweinidogion Cymru yn trosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys yn unol â rheoliad 9; neu
- (b) yn rhoi’r gorau i’r cwrs dynodedig neu’n cael ei ddiarddel oddi arno.
- (3) Caiff Gweinidogion Cymru derfynu cyfnod cymhwystra’r myfyriwr os ydynt wedi eu bodloni bod ymddygiad y myfyriwr wedi dangos bod y myfyriwr yn anffit i gael cymorth.
- (4) Os bydd cyfnod cymhwystra’r myfyriwr yn terfynu cyn diwedd y flwyddyn academaidd pryd y bydd y myfyriwr yn cwblhau’r cwrs mewn gwirionedd, caiff Gweinidogion Cymru, ar unrhyw bryd, estyn neu adnewyddu’r cyfnod cymhwystra am unrhyw gyfnod y byddant yn penderfynu arno.
- (5) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod myfyriwr cymwys wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i roi gwybodaeth o dan y Rheoliadau hyn neu ei fod wedi rhoi gwybodaeth sy’n anghywir o ran manylyn perthnasol, caiff Gweinidogion Cymru wneud un neu ragor o’r canlynol—
- (a) terfynu cyfnod cymhwystra’r myfyriwr;
- (b) penderfynu nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso mwyach i gael unrhyw fath penodol o gymorth neu unrhyw swm penodol o gymorth;
- (c) trin unrhyw gymorth sydd eisoes wedi ei dalu i’r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill yn unol â rheoliad 30.
Trosglwyddo cymhwystra
9
- (1) Pan fo myfyriwr cymwys yn trosglwyddo i gwrs dynodedig arall yn yr Athrofa, rhaid i Weinidogion Cymru drosglwyddo statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys—
- (a) os byddant yn cael cais oddi wrth y myfyriwr cymwys am wneud hynny;
- (b) os ydynt wedi eu bodloni bod y myfyriwr cymwys wedi dechrau bod yn bresennol ar y cwrs arall hwnnw ar argymhelliad yr awdurdod academaidd; ac
- (c) os nad yw statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys wedi terfynu.
- (1A) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson sy’n fyfyriwr cymwys yn rhinwedd rheoliad 6(2)(b)(ii) ond pan na fo statws y person hwnnw fel myfyriwr cymwys wedi ei drosglwyddo ar neu ar ôl 1 Medi 2022 o’r cwrs dynodedig y cyfeirir ato yn rheoliad 6(2A)(a) i gwrs dynodedig arall.
- (2) Mae myfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) i gael mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr yn trosglwyddo iddo weddill y cymorth a aseswyd gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho.
- (3) Ni chaiff myfyriwr cymwys sy’n trosglwyddo o dan baragraff (1) ar ôl i Weinidogion Cymru asesu cymorth mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho ond cyn i’r myfyriwr gwblhau’r flwyddyn honno, mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr yn trosglwyddo iddo, wneud cais am grant arall o fath y mae’r myfyriwr eisoes wedi gwneud cais amdano o dan y Rheoliadau hyn mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd y cwrs y mae’r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho.
Gwybodaeth
10
Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais am wneud hynny, rhaid i bob ceisydd a phob myfyriwr cymwys roi i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth y mae Gweinidogion Cymru yn barnu bod arnynt ei hangen at ddibenion y Rheoliadau hyn.
11
Rhaid i bob ceisydd a phob myfyriwr cymwys roi gwybod ar unwaith i Weinidogion Cymru a rhoi’r manylion iddynt os bydd unrhyw rai o’r canlynol yn digwydd—
- (a) bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn tynnu’n ôl o’i gwrs, yn rhoi’r gorau iddo neu’n cael ei ddiarddel oddi arno;
- (b) bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn trosglwyddo i gwrs arall yn yr Athrofa;
- (c) bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn rhoi’r gorau i fod yn bresennol ar y cwrs ac nad yw’n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu nad yw’n cael caniatâd i barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd;
- (d) bod y ceisydd neu’r myfyriwr yn absennol o’i gwrs am fwy na 60 o ddiwrnodau oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall;
- (e) bod y mis ar gyfer dechrau’r cwrs neu ei gwblhau yn newid;
- (f) bod cyfeiriad cartref y ceisydd neu’r myfyriwr, neu gyfeiriad y ceisydd neu’r myfyriwr yn ystod y tymor, yn newid.
12
Rhaid i’r wybodaeth a roddir i Weinidogion Cymru yn unol â’r Rheoliadau hyn fod ar y ffurf y gwneir yn ofynnol gan Weinidogion Cymru ac, os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy’n ei rhoi, mae llofnod electronig ar y ffurf a bennir ganddynt yn bodloni’r gofyniad hwn.
Cyffredinol
13
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), y rheol gyffredinol yw bod myfyriwr cymwys sy’n bresennol ar gwrs dynodedig a ddarperir gan yr Athrofa yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael—
- (a) grantiau at gostau byw a chostau eraill yn unol â Phennod 1; a
- (b) grantiau atodol yn unol â Phennod 2.
- (2) Os yw’r flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys wedi gwneud cais am gymorth mewn cysylltiad â hi yn flwyddyn o ailadrodd astudiaethau, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu—
- (a) nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael math neu swm penodol o gymorth mewn cysylltiad â’r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau; neu
- (b) nad yw’r myfyriwr yn cymhwyso i gael unrhyw gymorth mewn cysylltiad â’r flwyddyn o ailadrodd astudiaethau.
- (3) Wrth benderfynu na fyddai myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael rhyw gymorth neu unrhyw gymorth yn unol â pharagraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i amgylchiadau’r achos ac yn benodol i’r rhesymau pam y gwnaed yn ofynnol i’r myfyriwr ailadrodd blwyddyn academaidd.
- (4) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “blwyddyn o ailadrodd astudiaethau” (“year of repeat study”) yw blwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr wedi bod yn bresennol arni o’r blaen ond y mae’r Athrofa yn ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol arni eto.
Nifer y dyfarniadau
14
- (1) Mewn cysylltiad â cheisiadau am gymorth a wneir o dan reoliad 5(1), dim ond i un myfyriwr cymwys y caiff Gweinidogion Cymru ddyfarnu cymorth ym mhob blwyddyn academaidd.
- (2) Pan fo mwy nag un myfyriwr cymwys yn gwneud cais am gymorth o dan reoliad 5(1) mewn cysylltiad â’r un flwyddyn academaidd, rhaid i Weinidogion Cymru (os ydynt wedi penderfynu dyfarnu cymorth) ddyfarnu’r cymorth hwnnw i ba un bynnag o’r myfyrwyr cymwys y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu sydd fwyaf addas i gael cymorth.
Grantiau at gostau byw a chostau eraill
15
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd i gael y grantiau at gostau byw a chostau eraill a bennir ym mharagraffau (3) i (7) ac a gyfrifir yn unol â hwy.
- (2) Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael unrhyw un o’r grantiau sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn os un neu ragor o baragraffau 2A, 9, 9A, 9BA, 9C, 9D, 10 a 10A yw’r unig baragraff neu baragraffau yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr yn dod o’i fewn neu o’u mewn.
- (3) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant at gostau byw o 18,099 ewro o ran blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2015.
- (4) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant i deithio adref o swm sy’n hafal i—
$$(A−B)$pan fo—A yw’r swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost tair siwrnai ddychwel o gyfeiriad cartref y myfyriwr i’r Athrofa Brifysgol Ewropeaidd; aB yw £105.$
- (5) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant ar gyfer teithio colegol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio o breswylfa’r myfyriwr, tra bydd yn bresennol yn yr Athrofa, i’r Athrofa.
- (6) Yn ddarostyngedig i gytundeb ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru cyn i gostau gael eu hysgwyddo, mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant at deithio ar gyfer ymchwil am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol teithio sydd wedi ei hysgwyddo er mwyn cwblhau cyfnodau o ymchwil a awdurdodwyd gan yr Athrofa yn ystod y flwyddyn academaidd y gwneir cais am gymorth mewn cysylltiad â hi.
- (7) Mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant at yswiriant meddygol am y swm y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu mai dyna gost resymol yswirio’r myfyriwr yn erbyn atebolrwydd i dalu cost triniaeth feddygol a ddarperir y tu allan i’r Deyrnas Unedig os yw cyfnod arferol y cwrs yn fwy nag un flwyddyn academaidd.
16
Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw un o’r grantiau a gyfrifir o dan baragraffau (3) i (6) o reoliad 15.
Lwfans myfyriwr anabl
17
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael lwfans myfyriwr anabl i gynorthwyo gyda’r gwariant ychwanegol y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod rhaid i’r myfyriwr ei ysgwyddo oherwydd anabledd sydd gan y myfyriwr mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig.
- (2) Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael lwfans myfyriwr anabl os un neu ragor o baragraffau 2A, 9, 9A, 9BA, 9C, 9D, 10 a 10A yw’r unig baragraff neu baragraffau yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr yn dod o’i fewn neu o’u mewn.
Swm lwfans myfyriwr anabl
18
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm y lwfans myfyriwr anabl yw’r swm y mae Gweinidogion Cymru o’r farn ei fod yn briodol yn unol ag amgylchiadau’r myfyriwr i gynorthwyo gydag un neu ragor o fathau o wariant cymwys.
- (2) Rhaid i swm lwfans myfyriwr anabl beidio â bod yn fwy na £10,590 mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd.
- (3) Y “mathau o wariant cymwys” yw—
- (a) gwariant ar gynorthwyydd personol anfeddygol;
- (b) gwariant ar eitemau pwysig o offer arbenigol;
- (c) unrhyw wariant ychwanegol a ysgwyddir—
- (i) yn yr Eidal er mwyn bod yn bresennol yn yr Athrofa; a
- (ii) yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi at ddibenion teithio i’r Athrofa er mwyn bod yn bresennol ar y cwrs perthnasol.
Grant ar gyfer dibynyddion
19
- (1) Mae’r grant ar gyfer dibynyddion yn cynnwys yr elfennau canlynol—
- (a) grant dibynyddion mewn oed; a
- (b) lwfans dysgu rhieni.
- (2) Nodir amodau cymhwyso ar gyfer pob elfen a’r symiau sy’n daladwy yn rheoliadau 20 i 24.
Grant dibynyddion mewn oed
20
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael grant dibynyddion mewn oed mewn cysylltiad â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig yn unol â’r rheoliad hwn.
- (2) Mae’r grant dibynyddion mewn oed ar gael mewn cysylltiad ag un dibynnydd myfyriwr cymwys sydd naill ai—
- (a) yn bartner y myfyriwr; neu
- (b) yn ddibynnydd mewn oed i’r myfyriwr a hwnnw’n ddibynnydd nad yw ei incwm net yn fwy na £3,923.
- (3) Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael y grant sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn os un neu ragor o baragraffau 2A, 9, 9A, 9BA, 9C, 9D, 10 a 10A yw’r unig baragraff neu baragraffau yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr yn dod o’i fewn neu o’u mewn.
21
Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 23, a’r swm sylfaenol yw—
- (a) mewn cysylltiad â’r flwyddyn academaidd gyfredol, £2,732; neu
- (b) pan fo’r person y mae’r myfyriwr yn gwneud cais mewn cysylltiad ag ef am grant dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw’n fwy na £2,732 ac sydd ym marn Gweinidogion Cymru yn rhesymol yn yr amgylchiadau.
Lwfans dysgu rhieni
22
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso, mewn cysylltiad â phresenoldeb ar gwrs dynodedig, i gael y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr un neu fwy o blant dibynnol.
- (2) Nid yw myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael y grant sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn os un neu ragor o baragraffau 2A, 9, 9A, 9BA, 9C, 9D, 10 a 10A yw’r unig baragraff neu baragraffau yn Rhan 2 o Atodlen 1 y mae’r myfyriwr yn dod o’i fewn neu o’u mewn.
- (3) Mae swm y lwfans dysgu rhieni sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 23, a’r swm sylfaenol yw £1,557.
Cyfrifo
23
- (1) Yn ddarostyngedig i’r paragraffau canlynol, y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad ag elfen benodol o’r grant ar gyfer dibynyddion y mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w gael o dan reoliadau 20 i 22 yw swm yr elfen honno sy’n weddill ar ôl cymhwyso, hyd nes y daw i ben neu hyd nes nad oes elfen yn dal yn daladwy o dan reoliadau 20 i 22, swm sy’n hafal i (A – B)fel a ganlyn ac yn y drefn ganlynol—
- (a) i ostwng swm sylfaenol y grant dibynyddion mewn oed os yw’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael yr elfen honno o dan reoliad 20; a
- (b) i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhieni os yw’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i gael yr elfen honno o dan reoliad 22.
- (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy nag A neu’n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o’r grant ar gyfer dibynyddion y mae’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w chael yn daladwy.
- (3) Os yw (A – B) yn hafal i gyfanswm y symiau sylfaenol o elfennau’r grant ar gyfer dibynyddion y mae’r myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w cael neu’n fwy na’r cyfanswm hwnnw, y swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â phob elfen yw dim.
- (4) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan baragraff (1) yn cael ei ostwng o ran dibynnydd mewn oed gan un hanner—
- (a) os yw partner y myfyriwr—
- (i) yn fyfyriwr cymwys; neu
- (ii) yn dal dyfarniad statudol; a
- (b) os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae’r partner hwnnw yn cymhwyso i’w gael, neu’r taliad y mae gan y partner hwnnw hawlogaeth i’w gael, o dan y dyfarniad statudol.
- (5) Os yw swm y lwfans dysgu rhieni a gyfrifir o dan baragraff (1) yn £0.01 neu fwy ond yn llai na £50, swm y lwfans dysgu rhieni sy’n daladwy yw £50.
- (6) At ddibenion y rheoliad hwn—
- A yw cyfanswm incwm net pob un o ddibynyddion y myfyriwr cymwys; a
- B yw—
- (a) £1,159 os nad oes gan y myfyriwr unrhyw blentyn dibynnol;
- (b) £3,473 os nad yw’r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
- (c) £4,632 os nad yw’r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol;
- (d) £4,632 os yw’r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol;
- (e) £5,797 os yw’r myfyriwr yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.
24
Caniateir didynnu yn unol â Rhan 5 o’r swm sy’n daladwy mewn cysylltiad ag elfen benodol yn y grant ar gyfer dibynyddion a gyfrifir yn unol â rheoliadau 20 i 23.
Dehongli
25
- (1) At ddibenion rheoliadau 20 i 24—
- (a) ystyr “dibynnydd mewn oed” (“adult dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy’n dibynnu ar y myfyriwr ac eithrio plentyn y myfyriwr, partner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru o’r farn bod y myfyriwr wedi gwahanu oddi wrtho) neu gyn-bartner y myfyriwr;
- (b) mae “plentyn” (“child”) mewn perthynas â myfyriwr cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i bartner y myfyriwr sy’n ddibynnol ar y myfyriwr ac unrhyw blentyn y mae gan y myfyriwr gyfrifoldeb rhiant drosto sy’n ddibynnol ar y myfyriwr;
- (c) ystyr “dibynnydd” (“dependant”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed i’r myfyriwr, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol;
- (d) ystyr “dibynnol” (“dependent”) yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu’n bennaf;
- (e) ystyr “plentyn dibynnol” (“dependent child”), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw plentyn sy’n ddibynnol ar y myfyriwr;
- (f) ystyr “rhiant unigol” (“lone parent”) yw myfyriwr cymwys nad oes ganddo bartner ac sydd â phlentyn dibynnol neu blant dibynnol;
- (g) mae i “incwm net” (“net income”) yr ystyr a roddir ym mharagraff (2);
- (h) yn ddarostyngedig i is-baragraffau (i), (j), (k) ac (l), ystyr “partner” (“partner”) yw unrhyw un o’r canlynol—
- (i) priod myfyriwr;
- (ii) partner sifil myfyriwr;
- (iii) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai’r person hwnnw yn briod i’r myfyriwr—
- (aa) os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau’r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi; a
- (bb) os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000;
- (iv) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr fel pe bai’r person hwnnw yn bartner sifil i’r myfyriwr—
- (aa) os oedd y myfyriwr hwnnw yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau’r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi; a
- (bb) os dechreuodd y myfyriwr hwnnw y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
- (i) oni nodir fel arall, nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (h) i’w drin fel partner—
- (i) os yw’r person hwnnw a’r myfyriwr, ym marn Gweinidogion Cymru, wedi eu gwahanu; neu
- (ii) os yw’r person yn byw fel arfer y tu allan i’r Deyrnas Unedig ac nad yw’n cael ei gynnal gan y myfyriwr;
- (j) at ddibenion diffinio “dibynnydd mewn oed”, mae person i’w drin fel partner pe bai’r person yn bartner o dan is-baragraff (h) oni bai am y ffaith nad oedd y myfyriwr y mae’r person yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau’r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi;
- (k) at ddibenion diffinio “plentyn” a “rhiant unigol”, mae person i’w drin fel partner pe bai’r person yn bartner o dan is-baragraff (h) oni bai am y dyddiad y dechreuodd y myfyriwr y cwrs dynodedig neu’r ffaith nad oedd y myfyriwr y mae’r person fel arfer yn byw gydag ef yn 25 oed neu drosodd ar ddechrau’r flwyddyn academaidd y mae cyfraniad y myfyriwr i fod i gael ei asesu mewn cysylltiad â hi;
- (l) yn ddarostyngedig i is-baragraff (m), at ddibenion diffinio “dibynnydd mewn oed”, caiff Gweinidogion Cymru drin oedolyn neu blentyn fel rhai sy’n ddibynnol ar fyfyriwr cymwys os ydynt wedi eu bodloni o ran yr oedolyn neu’r plentyn—
- (i) nad yw’n ddibynnol ar—
- (aa) y myfyriwr cymwys; neu
- (bb) partner y myfyriwr cymwys; ond
- (ii) ei fod yn ddibynnol ar y myfyriwr cymwys a phartner y myfyriwr cymwys gyda’i gilydd;
- (m) rhaid i Weinidogion Cymru beidio â thrin oedolyn (“A”) fel dibynnydd ar fyfyriwr cymwys yn unol ag is-baragraff (l), os A yw—
- (i) priod neu bartner sifil partner y myfyriwr cymwys (gan gynnwys priod neu bartner sifil y mae Gweinidogion Cymru yn barnu bod partner y myfyriwr cymwys wedi gwahanu oddi wrtho); neu
- (ii) partner blaenorol partner y myfyriwr cymwys;
- (n) at ddibenion penderfynu a yw person yn bartner blaenorol i bartner myfyriwr cymwys, ystyr “partner” o ran partner myfyriwr cymwys yw—
- (i) priod partner myfyriwr cymwys;
- (ii) partner sifil partner myfyriwr cymwys;
- (iii) os dechreuodd y myfyriwr cymwys y cwrs dynodedig penodedig ar neu ar ôl 1Medi 2000, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr cymwys (“B”) fel pe bai A yn briod i B;
- (iv) os dechreuodd y myfyriwr cymwys y cwrs dynodedig penodedig ar neu ar ôl 1Medi 2005, person (“A”) sydd fel arfer yn byw gyda phartner myfyriwr cymwys (“B”) fel pe bai A yn bartner sifil i B.
- (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi ei ostwng yn ôl swm y dreth incwm a’r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy’n daladwy mewn cysylltiad â hi ond gan anwybyddu—
- (a) unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a delir oherwydd anabledd neu analluedd sydd gan y dibynnydd;
- (b) budd-dal plant sy’n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 199212;
- (c) unrhyw gymorth ariannol sy’n daladwy i’r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 2, 3 a 4 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 200213;
- (d) unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;
- (e) yn achos dibynnydd y mae plentyn sy’n derbyn gofal awdurdod lleol wedi ei fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i’r dibynnydd hwnnw at ddibenion adran 23 o Ddeddf Plant 1989 neu adran 81 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 14;
- (f) unrhyw daliad a wnaed i’r dibynnydd o dan adran 110(6) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 neu, yn ôl y digwydd, adran 23C(5A) o Ddeddf Plant 198915;
- (g) unrhyw daliadau a wneir i’r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn cysylltiad â pherson nad yw’n blentyn i’r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o’r Ddeddf honno neu adran 104 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i’r graddau y mae’r adran honno yn gymwys i bersonau ifanc categori 5 a 6 o fewn ystyr y Ddeddf honno 16;
- (h) unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i’w gael o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 200217; ac
- (i) yn achos dibynnydd sydd â hawlogaeth i gael dyfarniad o gredyd cynhwysol o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lles 201218—
- (i) unrhyw swm sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad, o dan reoliad 27(1) o Reoliadau Credyd Cynhwysol 201319, mewn cysylltiad â’r ffaith bod gan y dibynnydd alluogrwydd cyfyngedig i weithio neu alluogrwydd cyfyngedig i weithio ac i wneud gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith; a
- (ii) unrhyw swm neu swm ychwanegol sydd wedi ei gynnwys wrth gyfrifo’r dyfarniad o dan reoliad 24 o’r Rheoliadau hynny (elfen y plentyn).
- (3) Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr cymwys yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw’r incwm net wedi ei gyfrifo yn unol â pharagraff (2) ac wedi ei ostwng yn ôl—
- (a) swm sy’n hafal i’r taliadau o dan sylw am y flwyddyn academaidd, os cafodd y rhwymedigaeth, ym marn Gweinidogion Cymru, ei hysgwyddo’n rhesymol; neu
- (b) unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei fod yn briodol pe gallai rhwymedigaeth lai, yn eu barn hwy, fod wedi ei hysgwyddo’n rhesymol.
- (4) At ddibenion paragraff (2)—
- (a) os yw’r dibynnydd yn blentyn dibynnol; a
- (b) os oes taliadau’n cael eu gwneud i’r myfyriwr tuag at gynhaliaeth y plentyn;
mae’r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm i’r plentyn.
Cyfraniad y myfyriwr
26
- (1) Cyfraniad myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd yw’r swm a gyfrifir o dan Atodlen 2, os oes unrhyw swm o gwbl.
- (2) At ddibenion arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr roi o dro i dro unrhyw wybodaeth y mae arnynt ei hangen er mwyn asesu cyfraniad y myfyriwr.
Cymhwyso cyfraniad y myfyriwr
27
Rhaid i’r cyfraniad a gyfrifir yn unol â rheoliad 26 gael ei gymhwyso yn unol â rheoliad 28.
28
- (1) Rhaid i Weinidogion Cymru gymhwyso cyfraniad y myfyriwr cymwys—
- (a) yn gyntaf, i ostwng swm y grant at gostau byw a gyfrifir yn unol â rheoliad 15(3);
- (b) yn ail—
- (i) yn achos myfyriwr sy’n gymwys i gael y grant ar gyfer dibynyddion, i ostwng yn y drefn ganlynol—
- (aa) swm unrhyw grant ar gyfer dibynyddion mewn oed a gyfrifir yn unol â rheoliad 23;
- (bb) swm unrhyw lwfans dysgu rhieni a gyfrifir yn unol â rheoliad 23; ac
- (cc) swm unrhyw grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 15(4);
- (ii) mewn unrhyw achos arall, i ostwng swm y grant ar gyfer teithio adref a gyfrifir yn unol â rheoliad 15(4);
- (c) yn drydydd, i ostwng swm y grant ar gyfer teithio colegol a gyfrifir yn unol â rheoliad 15(5);
- (d) yn bedwerydd, yn ddarostyngedig i baragraff (2), i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio a gyfrifir yn unol â rheoliad 15(6).
- (2) Os yw’r cyfraniad sydd ar gael i ostwng swm y grant ar gyfer teithio i ymchwilio yn unol â pharagraff (1)(d) yn fwy na swm y grant hwnnw a gyfrifir o dan reoliad 15(6), swm y grant hwnnw sy’n daladwy i’r myfyriwr yw dim.
Talu grantiau at gostau byw a chostau eraill a grantiau atodol
29
- (1) Caiff Gweinidogion Cymru dalu’r grantiau at gostau byw a chostau eraill a’r grantiau atodol y mae myfyriwr cymwys yn cymhwyso i’w cael mewn unrhyw randaliadau ac ar unrhyw adegau sy’n briodol yn eu barn hwy.
- (2) Os ydynt o’r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru dalu grant sy’n daladwy o dan reoliad 15(3) i’r awdurdod academaidd er mwyn i’r awdurdod dalu’r grant ar eu rhan.
- (3) Pan na ellir gwneud, ar sail yr wybodaeth a roddir gan y myfyriwr, asesiad terfynol o swm y grantiau at gostau byw a chostau eraill neu o grantiau atodol sy’n daladwy i fyfyriwr cymwys, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau dros dro o’r grantiau hynny hyd oni wneir yr asesiad terfynol.
- (4) Os ydynt o’r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru wneud taliad lwfans myfyriwr anabl cyn dechrau’r flwyddyn academaidd y mae’r taliad hwnnw’n ddyledus mewn cysylltiad â hi.
- (5) Pan fo’r amgylchiadau yn rheoliad 11(a) neu yn rheoliad 11(c) yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud unrhyw daliadau cymorth i fyfyriwr ar ôl y dyddiad y mae’r myfyriwr yn peidio ậ bod yn bresennol ar y cwrs onid ydynt o’r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny o ystyried amgylchiadau achos y myfyriwr.
- (6) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â gwneud unrhyw daliadau cymorth i fyfyriwr sy’n absennol o’r cwrs—
- (a) am fwy na 60 o ddiwrnodau oherwydd salwch; neu
- (b) am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall,
onid ydynt o’r farn ei bod yn briodol iddynt wneud hynny o ystyried amgylchiadau achos y myfyriwr.
Gordaliadau
30
Os yw Gweinidogion Cymru’n ei gwneud yn ofynnol iddo wneud hynny, rhaid i fyfyriwr cymwys ad-dalu unrhyw swm a dalwyd i’r myfyriwr hwnnw o dan Ran 4 ac sydd, am ba reswm bynnag, yn fwy na’r swm o gymorth y mae gan y myfyriwr hwnnw hawlogaeth i’w gael o dan Ran 4.
Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig
Ffoaduriaid
Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd
Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall
Gwladolion o’r UE
Plant gwladolion Swisaidd
Plant gweithwyr Twrcaidd
Incwm yr aelwyd
Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr
Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys
Cyfrifo cyfraniad
Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd
Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd
Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall
Gwladolion o’r UE
Plant gwladolion Swisaidd
Plant gweithwyr Twrcaidd
Personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67
Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd
Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall
Gwladolion o’r UE
Plant gwladolion Swisaidd
Plant gweithwyr Twrcaidd
Personau a ddiogelir ac aelodau o’u teuluoedd
Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel partner a ddiogelir a’u plant
Personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67
Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd
Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall
Gwladolion o’r UE
Plant gwladolion Swisaidd
Plant gweithwyr Twrcaidd
Personau y rhoddwyd caniatâd iddynt aros fel personau diwladwriaeth ac aelodau o’u teuluoedd
Personau sydd â chaniatâd i aros o dan adran 67
Gweithwyr, personau cyflogedig, personau hunangyflogedig ac aelodau o’u teuluoedd
Personau sydd wedi setlo yn y Deyrnas Unedig ac sydd wedi arfer hawl i breswylio mewn man arall
Gwladolion o’r UE etc.
Gwladolion o’r Deyrnas Unedig
Personau sy’n preswylio yn Gibraltar
Gwladolion o’r UE sy’n preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd
Plant gwladolion Swisaidd
Plant gweithwyr Twrcaidd
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.