The Welfare of Animals at the Time of Killing (Wales) Regulations 2014
- ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrwyd yn y gofrestr o filfeddygon o dan adran 2 o Ddeddf Milfeddygon 1966[^f00008];
- ystyr “milfeddyg awdurdodedig” (“authorised veterinary surgeon”) yw milfeddyg a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at y diben o gyflawni asesiadau yn unol â rheoliad 16(c);
- ystyr “Rheoliad UE” (“EU Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1099/2009 a fabwysiadwyd ar 24 Medi 2009 ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd[^f00009] fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd;
- ystyr “Rheoliadau 1995” (“the 1995 Regulations”) yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995[^f00010];
- ystyr “Rheoliadau Cymwysterau Proffesiynol 2023” (“the Professional Qualifications Regulations 2023”) yw Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023;
- mae i “stynio syml” (“simple stunning”) yr un ystyr a roddir i “simple stunning” yn Erthygl 4(1) a rhaid dehongli “a styniwyd yn syml” (“simple stunned”) yn unol â hynny;
- ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded fel sy’n ofynnol gan reoliad 12;
- ystyr “trwydded LlACL” (“WASK licence”) yw trwydded gofrestredig sy’n ofynnol gan, neu a roddir yn unol ag, Atodlen 1 i Reoliadau 1995;
- ystyr “tystiolaeth o hyfforddi ac arholi” (“evidence of training and examination”) yw—tystysgrif a roddir gan gorff, a gydnabyddir ac a reoleiddir gan Weinidogion Cymru sy’n goruchwylio’r modd yr hyfforddir ac asesir personau sy’n ymgymryd â lladd anifeiliaid a gweithrediadau perthynol, yn cadarnhau pasio arholiad annibynnol fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 21,dogfen sy’n ardystio bod arholiad terfynol annibynnol wedi ei basio, a ddyroddir gan—dogfen sy’n ardystio bod arholiad terfynol annibynnol wedi ei basio, a ddyroddir gan—corff y mae’r swyddogaeth o gynnal yr arholiad terfynol neu ddyroddi tystysgrifau wedi cael ei dirprwyo iddo yng Ngweriniaeth Iwerddon yn unol ag Erthygl 21(2) o Reoliad yr UE, fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd,tystysgrif a ddyroddir yng Ngweriniaeth Iwerddon drwy ddibynnu ar Erthygl 29(2) o Reoliad yr UE fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE,trwydded a roddir gan y Comisiwn Rabinaidd at y diben o ladd anifeiliaid yn unol â’r dull Iddewig (Shechita) ac yn cadarnhau pasio arholiad annibynnol fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 21, neucymhwyster milfeddygol ffurfiol, a gydnabyddir gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS)[^f00011], ar y cyd â chofnod datblygiad proffesiynol parhaus yr RCVS;
- cymhwyster sydd wedi ei gydnabod o dan Reoliadau Cymwysterau Proffesiynol 2023 mewn perthynas â gweithrediad a bennir yn rheoliad 6,
- ystyr “tystysgrif” (“certificate”) (ac eithrio yn y term “tystysgrif dros dro” neu reoliad 41) yw tystysgrif cymhwysedd yn yr ystyr a roddir i “certificate of competence” fel y crybwyllir yn Erthygl 21, ac mae’n cynnwys cymhwyster a gydnabyddir gan yr awdurdod cymwys fel cymhwyster sy’n gyfwerth â thystysgrif yn unol ag Erthygl 21(7);
- ystyr “tystysgrif dros dro” (“temporary certificate”) yw tystysgrif cymhwysedd dros dro yn yr ystyr a roddir i “temporary certificate of competence” fel y crybwyllir yn Erthygl 21(5).
- (2) Mae i’r termau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir y termau ac ymadroddion Saesneg sy’n cyfateb iddynt yn y Rheoliad UE yn ogystal, yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag y sydd i’r termau a’r ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn y Rheoliad UE, oni phennir yn wahanol.
- (3) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at Erthygl, neu Bennod neu Atodiad yn gyfeiriad at yr Erthygl neu’r Bennod honno o’r Rheoliad UE neu’r Atodiad hwnnw i’r Reoliad UE.
- (4) . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
Yr awdurdod cymwys
4
- (1) Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw’r awdurdod cymwys at ddibenion—
- (a) Rhan 2 (tystysgrifau, tystysgrifau dros dro a thrwyddedau), oni phennir yn wahanol;
- (b) cymeradwyo llociau ffrwyno yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 3; ac
- (c) mewn perthynas â lladd anifeiliaid mewn lladd-dy—
- (i) cael ac asesu dogfennau, cofnodion neu wybodaeth yn unol ag Erthyglau 6(4), 9(1), 14(2) a 17(5);
- (ii) cael ac asesu dogfennau, cofnodion neu wybodaeth arall yn unol â’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn; a
- (iii) gweithredu os digwydd unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn, yn unol ag Erthygl 138 (camau gweithredu os cadarnheir achos o fethu â chydymffurfio) o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion.
- (2) Fel arall, Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys... at ddibenion y Rheoliad UE a’r Rheoliadau hyn.
- (3) Caiff Gweinidogion Cymru weithredu fel yr awdurdod cymwys mewn perthynas ag—
- (a) atal dros dro neu ddirymu tystysgrifau, tystysgrifau dros dro neu drwyddedau o dan Ran 2; a
- (b) penodi arolygwyr yn unol â rheoliad 34.
Gofyniad i gael tystysgrif neu dystysgrif dros dro
5
- (1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 23(2) a 44, ni chaiff neb gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 ac eithrio o dan dystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys neu dystysgrif dros dro, a hynny i’r graddau a awdurdodir gan y dystysgrif neu’r dystysgrif dros dro honno.
- (2) Ni chaiff neb gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 o dan dystysgrif dros dro onid yw’r person hwnnw yn gweithio ym mhresenoldeb, ac o dan oruchwyliaeth uniongyrchol, person sy’n dal tystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys mewn perthynas â’r gweithrediad hwnnw.
Gweithrediadau y mae tystysgrif neu dystysgrif dros dro yn ofynnol ar eu cyfer
6
Y gweithrediadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 5 yw—
- (a) unrhyw un o’r gweithrediadau canlynol a gyflawnir mewn lladd-dy—
- (i) gweithrediad a bennir mewn unrhyw un o’r is-baragraffau (a) i (g) o Erthygl 7(2); a
- (ii) pithio anifail a styniwyd ac asesu effeithiolrwydd pithio; a
- (b) goruchwylio lladd anifeiliaid ffwr yn unol ag Erthygl 7(3).
Tystysgrifau
7
Rhaid i’r awdurdod cymwys roi a chofrestru tystysgrif—
- (a) os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 8; a
- (b) os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif.
Amodau ar gyfer tystysgrif
8
Rhaid i’r ceisydd—
- (a) peidio â bod yn iau na 18 mlwydd oed, oni ofynnir am y dystysgrif ar gyfer y gweithrediadau canlynol—
- (i) trin a gofalu am anifeiliaid cyn eu ffrwyno; neu
- (ii) gefynnu neu godi dofednod byw cyn eu stynio;
- (b) yn ddarostyngedig i reoliad 44, cyflwyno tystiolaeth o hyfforddiant ac arholi mewn perthynas â’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y ceisir tystysgrif ar eu cyfer;
- (c) cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn unol ag Erthygl 21(6);
- (d) darparu manylion ysgrifenedig—
- (i) os collfarnwyd y ceisydd am unrhyw drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid;
- (ii) os gwrthodwyd trwydded i’r ceisydd o dan Ddeddf 1967, Deddf 1974, unrhyw reoliadau a wnaed o dan y naill neu’r llall o’r Deddfau hynny neu Reoliadau 1995 mewn perthynas â lladd anifail neu weithrediad cysylltiedig; neu
- (iii) os dirymwyd neu os ataliwyd dros dro unrhyw drwydded o’r fath a fu ganddo; ac
- (e) talu ffi yn unol â rheoliad 24.
Tystysgrifau dros dro
9
Rhaid i’r awdurdod cymwys roi tystysgrif dros dro—
- (a) os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 10; a
- (b) os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif dros dro.
Amodau ar gyfer tystysgrif dros dro
10
Rhaid i’r ceisydd—
- (a) peidio â bod yn iau na 18 mlwydd oed, oni ofynnir am y dystysgrif dros dro ar gyfer y gweithrediadau canlynol—
- (i) trin a gofalu am anifeiliaid cyn eu ffrwyno; neu
- (ii) gefynnu neu godi dofednod byw cyn eu stynio;
- (b) cyflwyno tystiolaeth o gofrestru ar gwrs o hyfforddiant mewn perthynas â’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y ceisir tystysgrif dros dro ar eu cyfer;
- (c) cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn unol ag Erthygl 21(5)(d) a (6);
- (d) darparu manylion ysgrifenedig—
- (i) os collfarnwyd y ceisydd am unrhyw drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid;
- (ii) os gwrthodwyd trwydded i’r ceisydd o dan Ddeddf 1967, Deddf 1974, unrhyw reoliadau a wnaed o dan y naill neu’r llall o’r Deddfau hynny neu Reoliadau 1995 mewn perthynas â lladd anifail neu weithrediad cysylltiedig; neu
- (iii) os dirymwyd neu os ataliwyd dros dro unrhyw drwydded o’r fath a fu ganddo.
Rhoi tystysgrifau a thystysgrifau dros dro
11
- (1) Rhaid i dystysgrif neu dystysgrif dros dro bennu’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y’i rhoddwyd ar eu cyfer.
- (2) Ni chaniateir rhoi tystysgrif neu dystysgrif dros dro mewn perthynas â gweithrediad, categori o anifail ac (os yw’n briodol) math o gyfarpar onid yw—
- (a) yn achos tystysgrif, y dystiolaeth o hyfforddiant ac arholi a gyflwynwyd gyda’r cais am y dystysgrif yn ymwneud â’r gweithrediad hwnnw, y categori hwnnw o anifail a’r math hwnnw o gyfarpar; neu
- (b) yn achos tystysgrif dros dro, y cwrs hyfforddi y cofrestrodd y ceisydd arno yn darparu hyfforddiant sy’n ymwneud â’r gweithrediad hwnnw, y categori hwnnw o anifail a’r math hwnnw o gyfarpar.
- (3) Bydd tystysgrifau neu dystysgrifau dros dro a roddir yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, ar gyfer gweithrediadau y mae tystysgrif neu dystysgrif dros dro yn ofynnol ar eu cyfer yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn, yn cael effaith yng Nghymru fel pe baent yn dystysgrifau neu dystysgrifau dros dro a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.
Gofyniad i gael trwydded
12
Yn ddarostyngedig i reoliadau 14 a 23(2), ni chaiff neb gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 13 ac eithrio o dan drwydded a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys, a hynny i’r graddau a awdurdodir gan y drwydded honno.
Gweithrediadau y mae trwydded yn ofynnol ar eu cyfer
13
Y gweithrediadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 12 yw unrhyw rai o’r gweithrediadau canlynol a gyflawnir yn rhywle ac eithrio mewn lladd-dy—
- (a) gweithrediad a bennir yn unrhyw un o is-baragraffau (b) i (f) o Erthygl 7(2), a gyflawnir at y dibenion a bennir yn Erthygl 10 (bwyta gartref yn breifat), gan berson ac eithrio perchennog yr anifail;
- (b) gweithrediad a bennir yn unrhyw un o is-baragraffau (b) i (f) o Erthygl 7(2), a gyflawnir at y dibenion a bennir yn Erthygl 11 (cyflenwi yn uniongyrchol feintiau bach o ddofednod, cwningod ac ysgyfarnogod);
- (c) mewn perthynas â lladd anifeiliaid carngaled, cilgnowyr, moch, cwningod, dofednod neu ratidau ac eithrio ar gyfer eu bwyta gan bobl—
- (i) ffrwyno anifeiliaid at y diben o’u stynio;
- (ii) stynio anifeiliaid;
- (iii) asesu effeithiolrwydd stynio;
- (iv) gefynnu neu godi anifeiliaid a styniwyd, ac eithrio dofednod;
- (v) gwaedu anifeiliaid byw; a
- (d) pithio anifail a styniwyd ac asesu effeithiolrwydd pithio.
Eithriadau i’r gofyniad am drwydded
14
Nid yw rheoliad 12 yn gymwys i unrhyw berson—
- (a) sy’n dal tystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys, ar yr amod bod cwmpas y dystysgrif yn cynnwys y gweithrediad a gyflawnir;
- (b) sy’n gweithio ym mhresenoldeb, ac o dan oruchwyliaeth uniongyrchol, person sy’n dal tystysgrif neu drwydded a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys, ar yr amod bod cwmpas y dystysgrif neu’r drwydded yn cynnwys y gweithrediad a gyflawnir;
- (c) sy’n gweithio ym mhresenoldeb, ac o dan oruchwyliaeth uniongyrchol, milfeddyg;
- (d) yn ymgymryd â lladd anifail mewn argyfwng;
- (e) yn lladd anifail at ddiben ac eithrio diben masnachol;
- (f) at ddibenion heblaw bwyta gan bobl, yn lladd anifail yn y maes gan ddefnyddio bwled rydd;
- (g) at ddibenion heblaw bwyta gan bobl, yn lladd dofednod drwy ysigo gyddfau (pan nad oes dulliau eraill ar gael ar gyfer stynio) mewn mangre sy’n ffurfio rhan o ddaliad amaethyddol y megir y dofednod ynddi;
- (h) yn lladd anifail at y diben o ddiboblogi;
- (i) yn lladd cywion neu embryonau dros ben mewn gwastraff deorfa;
- (j) sy’n filfeddyg yn gweithredu wrth ymarfer ei broffesiwn; neu
- (k) yn lladd anifail mewn amgylchiadau sydd y tu allan i gwmpas y Rheoliad UE yn rhinwedd Erthygl 1(3)(a).
Trwyddedau
15
Rhaid i’r awdurdod cymwys roi a chofrestru trwydded—
- (a) os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 16; a
- (b) os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad trwydded.
Amodau ar gyfer trwydded
16
Rhaid i’r ceisydd—
- (a) peidio â bod yn iau na 18 mlwydd oed;
- (b) darparu manylion ysgrifenedig—
- (i) os collfarnwyd y ceisydd am unrhyw drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid;
- (ii) os gwrthodwyd trwydded i’r ceisydd o dan Ddeddf 1967, Deddf 1974, unrhyw reoliadau a wnaed o dan y naill neu’r llall o’r Deddfau hynny neu Reoliadau 1995 mewn perthynas â lladd anifail neu weithrediad cysylltiedig; neu
- (iii) os dirymwyd neu os ataliwyd dros dro unrhyw drwydded o’r fath a fu ganddo;
- (c) darparu tystiolaeth ysgrifenedig fod milfeddyg awdurdodedig wedi asesu’r ceisydd ac o’r farn bod y ceisydd—
- (i) yn gymwys i gyflawni’r gweithrediad mewn perthynas â’r categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar y ceisir trwydded ar eu cyfer heb achosi poen, trallod na dioddefaint diangen i anifail, a
- (ii) bod ganddo wybodaeth ddigonol o ddarpariaethau’r holl ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol sy’n ymwneud â’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y ceisir trwydded ar eu cyfer; a
- (d) talu ffi yn unol â rheoliad 24.
Rhoi trwyddedau
17
- (1) Rhaid i drwydded bennu’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar y’i rhoddwyd ar eu cyfer.
- (2) Ni chaniateir rhoi trwydded mewn perthynas â gweithrediad, categori o anifail ac (os yw’n briodol) math o gyfarpar onid yw’r asesiad y cyfeirir ato yn rheoliad 16(c) yn ymwneud â’r gweithrediad hwnnw, y categori hwnnw o anifail a’r math hwnnw o gyfarpar.
- (3) Bydd tystysgrifau neu drwyddedau a roddir yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, ar gyfer gweithrediadau y mae’n rhaid eu trwyddedu yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn, yn cael effaith yng Nghymru fel pe baent yn drwyddedau a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.
Gwrthod rhoi tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded
18
- (1) Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrthod rhoi tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded os bodlonir ef—
- (a) bod y ceisydd wedi methu â bodloni unrhyw un o’r amodau yn rheoliadau 8, 10 neu 16 (yn ôl fel y digwydd); neu
- (b) nad yw’r ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded.
- (2) Rhaid i’r hysbysiad—
- (a) rhoi rhesymau am y gwrthodiad; a
- (b) rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.
Atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded
19
- (1) Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro ... neu drwydded os bodlonir ef—
- (a) bod deiliad y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;
- (b) nad yw’r deiliad bellach yn berson addas a phriodol i ddal y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded;
- (c) nad yw’r deiliad yn gymwys, neu nad yw bellach yn gymwys, i gyflawni’r gweithrediadau a awdurdodir gan y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded; neu
- (d) bod deiliad y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded wedi ei gollfarnu am drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid.
- (2) Rhaid i’r hysbysiad—
- (a) rhoi rhesymau am yr ataliad dros dro neu’r dirymiad;
- (b) datgan pa bryd y mae’r ataliad dros dro neu’r dirymiad yn cael effaith ac, yn achos ataliad dros dro, datgan ar ba ddyddiad neu ddigwyddiad y bydd yn peidio â chael effaith; ac
- (c) rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.
- (3) Rhaid i unrhyw berson, yr ataliwyd dros dro neu y dirymwyd ei dystysgrif, ei dystysgrif dros dro neu’i drwydded, boed yr ataliad dros dro neu’r dirymiad hwnnw yn destun apêl yn unol â rheoliad 22 ai peidio, ildio’r dystysgrif, tystysgrif dros dro neu’r drwydded honno i’r awdurdod cymwys o fewn 14 diwrnod ar ôl cael yr hysbysiad sy’n rhoi gwybod i’r person hwnnw am yr ataliad dros dro neu’r dirymiad.
Addasu tystysgrif neu drwydded
20
Rhaid i’r awdurdod cymwys addasu tystysgrif neu drwydded mewn perthynas â gweithrediad, y categori o anifail neu (pan fo’n briodol) y math o gyfarpar yn unol â chais gan geisydd—
- (a) os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 8 neu 16 (yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â’r addasiad; a
- (b) os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif neu drwydded, fel y’i haddesir.
Gwrthod addasu tystysgrif neu drwydded
21
- (1) Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrthod addasu tystysgrif neu drwydded os bodlonir ef—
- (a) bod y ceisydd wedi methu â bodloni unrhyw un o’r amodau yn rheoliad 8 neu 16 (yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â’r addasiad; neu
- (b) nad yw’r ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif neu drwydded, fel y’i haddesid.
- (2) Rhaid i’r hysbysiad—
- (a) rhoi rhesymau am y gwrthodiad; a
- (b) rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.
Apelau
22
- (1) Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad yr awdurdod cymwys i wrthod, atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded, neu wrthod addasu tystysgrif neu drwydded, apelio yn erbyn y penderfyniad.
- (1A) Caiff person sydd wedi gwneud cais am gydnabyddiaeth i gymhwyster o dan Reoliadau Cymwysterau Proffesiynol 2023 mewn perthynas â gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 apelio yn erbyn penderfyniad yr awdurdod cymwys i beidio â chydnabod cymhwyster y person at y dibenion hynny.
- (2) Mae’r hawl i apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf.
- (3) Ni fydd penderfyniad i atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded yn cael ei atal dros dro tra bo apêl yn yr arfaeth, oni fydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gorchymyn yn wahanol.
- (4) Yn dilyn apêl, caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf naill ai wrthdroi neu gadarnhau’r penderfyniad, gydag addasiadau neu hebddynt.
- (5) Ym mharagraff (1A), mae’r cyfeiriad at benderfyniad gan yr awdurdod cymwys i beidio â chydnabod cymhwyster person o dan Reoliadau Cymwysterau Proffesiynol 2023 i’w drin fel pe bai’n cynnwys unrhyw fethiant gan yr awdurdod cymwys i hysbysu’r ceisydd am ei benderfyniad ynghylch cais y person o fewn y cyfnod o bedwar mis sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y cyflwynodd y person gais cyflawn i’r awdurdod cymwys o dan Reoliadau Cymwysterau Proffesiynol 2023.
Trwyddedau LlACL
23
- (1) Pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, bydd trwydded LlACL a oedd yn parhau mewn grym yn union cyn 20 Mai 2014 yn parhau mewn bodolaeth fel cymhwyster cyfwerth â thystysgrif yn unol ag Erthygl 21(7).
- (2) Caiff deiliad trwydded LlACL gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 neu 13 heb ddal tystysgrif neu drwydded a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys ar yr amod bod y deiliad trwydded LlACL, erbyn 8 Rhagfyr 2015—
- (a) yn cofrestru’r drwydded LlACL gyda’r awdurdod cymwys, fel tystysgrif; a
- (b) yn talu ffi yn unol â rheoliad 24.
Ffioedd
24
- (1) Mewn perthynas â chais o fath a ddisgrifir yng ngholofn 1 o’r Tabl, rhaid i’r ceisydd dalu i’r Asiantaeth Safonau Bwyd y ffi a bennir yng ngholofn 2 mewn perthynas â’r math hwnnw o gais.
| Colofn 1Math o gais | Colofn 2Ffi (£) |
|---|---|
| Cais am dystysgrif | 25 |
| Cais am gofrestru trwydded LlACL fel tystysgrif | 25 |
| Cais am addasu tystysgrif | 8 |
| Cais am drwydded | 25 |
| Cais am addasu trwydded | 8 |
- (2) Mewn perthynas ag asesiad o dan reoliad 16(c) gan filfeddyg awdurdodedig sy’n arfer swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru, rhaid i’r ceisydd dalu ffi a gyfrifir yn unol â pharagraff (3) i Weinidogion Cymru.
- (3) Y ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (2) yw—
- (a) £76 am yr hanner awr neu ran o hanner awr cyntaf a dreulir gan filfeddyg awdurdodedig ar asesiad, gan gynnwys amser a dreulir ar y ddogfennaeth gysylltiedig;
- (b) £21 am bob hanner awr neu ran o hanner awr ychwanegol a dreulir gan filfeddyg awdurdodedig ar asesiad, gan gynnwys amser a dreulir ar y ddogfennaeth gysylltiedig; ac
- (c) gwir gost teithio, llety ac unrhyw dreuliau eraill yr eir iddynt yn rhesymol gan y milfeddyg awdurdodedig.
Gofynion ychwanegol ar gyfer lladd-dai
25
Mae Atodlen 1 yn cael effaith.
Gofynion ychwanegol ar gyfer lladd anifeiliaid ac eithrio mewn lladd-dai
26
Mae Atodlen 2 yn cael effaith.
Gofynion ychwanegol ar gyfer lladd anifeiliaid yn unol â defodau crefyddol
27
Mae Atodlen 3 yn cael effaith.
Lladd anifeiliaid ac eithrio’r rhai y mae’r Rheoliad UE yn gymwys iddynt
28
Mae Atodlen 4 yn cael effaith.
Gweithrediadau diboblogi
29
Pan fo’r awdurdod cymwys yn caniatáu rhanddirymiad o dan Erthygl 18(3), rhaid i’r awdurdod cymwys gyhoeddi hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad hwnnw, y caniateir—
- (a) ei wneud yn ddarostyngedig i amodau;
- (b) ei gyhoeddi ym mha bynnag fodd yr ystyria’r awdurdod cymwys yn briodol; ac
- (c) ei ddiwygio, ei atal dros dro neu ei ddirymu mewn ysgrifen.
Troseddau
30
- (1) Cyflawnir trosedd os yw person yn torri, neu’n peri neu’n caniatáu i berson dorri—
- (a) rheoliad 5(1) neu (2) (gofyniad i gael tystysgrif neu dystysgrif dros dro);
- (b) rheoliad 12 (gofyniad i gael trwydded);
- (c) unrhyw un o baragraffau 3 i 32 o Atodlen 1 (gofynion ychwanegol ar gyfer lladd-dai);
- (d) unrhyw un o baragraffau 4 i 44 o Atodlen 2 (gofynion ychwanegol ar gyfer lladd anifeiliaid ac eithrio mewn lladd-dai);
- (e) unrhyw un o baragraffau 2 i 8 o Atodlen 3 (gofynion ychwanegol ar gyfer lladd anifeiliaid yn unol â defodau crefyddol);
- (f) paragraff 4 neu 5 o Atodlen 4 (lladd anifeiliaid ac eithrio’r rhai y mae’r Rheoliad UE yn gymwys iddynt);
- (g) darpariaeth o’r Rheoliad UE a bennir yn Atodlen 5, ac eithrio pan nad oes angen cydymffurfio â’r ddarpariaeth, yn rhinwedd—
- (i) esemptiad neu ddarpariaeth drosiannol a bennir yn y Rheoliad UE; neu
- (ii) rhanddirymiad a ganiateir gan yr awdurdod cymwys o dan Erthygl 18(3) mewn perthynas â gweithrediad diboblogi; neu
- (h) tan 8 Rhagfyr 2019, unrhyw un o baragraffau 1 i 7 o Atodlen 8, i’r graddau y maent yn gymwys yn rhinwedd rheoliad 45 (darpariaeth drosiannol: lladd-dai).
- (2) Cyflawnir trosedd os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi o dan reoliad 38.
Troseddau rhwystro
31
Mae’n drosedd—
- (a) rhwystro’n fwriadol unrhyw berson sy’n ymgymryd â gweithredu’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;
- (b) heb esgus rhesymol, i fethu â rhoi unrhyw gymorth neu wybodaeth i unrhyw berson o’r fath sy’n gofyn yn rhesymol am y cyfryw gymorth neu wybodaeth;
- (c) rhoi i unrhyw berson o’r fath unrhyw wybodaeth gan wybod ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol; neu
- (d) methu â dangos dogfen neu gofnod i unrhyw berson o’r fath sy’n gofyn am weld y cyfryw ddogfen neu gofnod.
Troseddau gan gyrff corfforaethol
32
- (1) Pan fo corff corfforaethol yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y drosedd honno wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu’n briodoladwy i unrhyw esgeulustod, ar ran unrhyw un o’r canlynol—
- (a) cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff corfforaethol, neu
- (b) person a oedd yn honni gweithredu mewn unrhyw swydd o’r fath,
bydd y person hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd.
- (2) Ym mharagraff (1) ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol.
Cosbau
33
- (1) Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 30 neu 31, yn dilyn collfarn ddiannod, yn atebol i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol, ac eithrio fel y pennir ym mharagraff (2).
- (2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 30(1)(g) mewn perthynas â thorri Erthygl 3, yn dilyn collfarn ddiannod, yn atebol i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu ei garcharu am gyfnod na fydd yn hwy na thri mis.
Arolygwyr
34
Caiff yr awdurdod cymwys neu awdurdod lleol benodi arolygwyr at y diben o orfodi’r Rheoliad UE a’r Rheoliadau hyn.
Pŵer i fynd i mewn i fangreoedd
35
- (1) Caiff arolygydd, ar ôl rhoi cyfnod rhesymol o rybudd, fynd i mewn i unrhyw fangre ar adeg resymol o’r dydd at y diben o weithredu neu orfodi’r Rheoliad UE a’r Rheoliadau hyn; ac yn y Rhan hon, mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, adeilad, sied, lloc, daliedydd neu gerbyd o unrhyw ddisgrifiad.
- (2) Nid yw’r gofyniad i roi rhybudd yn gymwys—
- (a) pan fo’r gofyniad wedi ei hepgor gan y meddiannydd;
- (b) pan fo ymdrechion rhesymol i gytuno ar apwyntiad wedi methu;
- (c) pan fo arolygydd yn amau’n rhesymol y methir â chydymffurfio â’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;
- (d) pan fo arolygydd yn credu’n rhesymol y byddai rhoi rhybudd yn tanseilio’r diben o fynd i mewn; neu
- (e) mewn argyfwng, pan yw’n ofynnol mynd i mewn ar frys.
- (3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat, oni roddir yr hawl i fynd i mewn gan warant a roddwyd o dan reoliad 36.
- (4) Rhaid i arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen awdurdodi sydd wedi ei dilysu’n briodol.
- (5) Rhaid i arolygydd sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre wag adael y fangre honno wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd cyn mynd i mewn iddi.
- (6) Caiff arolygydd fynd i mewn yng nghwmni pa bynnag bersonau eraill yr ystyria’r arolygydd yn angenrheidiol.
Gwarantau
36
- (1) Caiff ynad heddwch, drwy warant lofnodedig, ganiatáu i arolygydd fynd i mewn i fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol pe bai angen, os bodlonir yr ynad heddwch, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—
- (a) bod seiliau rhesymol ar gyfer mynd i mewn i’r fangre honno at y diben o orfodi’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn; a
- (b) bod unrhyw un o’r amodau ym mharagraff (2) wedi ei fodloni.
- (2) Yr amodau yw—
- (a) bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd;
- (b) byddai gofyn am ganiatâd i fynd i mewn i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r fath, yn tanseilio’r diben o fynd i mewn;
- (c) ei bod yn ofynnol mynd i mewn ar frys; neu
- (d) bod y fangre’n wag neu’r meddiannydd yn absennol dros dro.
- (3) Mae gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn ddilys am dri mis.
Pŵer i arolygu ac ymafael
37
- (1) Caiff arolygydd, a aeth i mewn i fangre at y dibenion o weithredu a gorfodi’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn, wneud y canlynol at y dibenion hynny—
- (a) cyflawni unrhyw archwiliad, ymchwiliad neu brawf;
- (b) gwneud unrhyw ymholiadau, arsylwi ar unrhyw weithrediad neu broses, gwneud unrhyw recordiadau neu dynnu unrhyw ffotograffau;
- (c) arolygu a chwilio’r fangre;
- (d) cymryd samplau (a’u hanfon i’w profi mewn labordy) o unrhyw anifail, carcas neu ran o garcas;
- (e) ymafael mewn unrhyw garcas neu ran o garcas, a chadw’r cyfryw ar gyfer archwilio, ymholi neu brofi ymhellach;
- (f) ymafael mewn unrhyw gyfarpar neu offeryn a’i gadw ar gyfer archwilio, ymholi neu brofi ymhellach;
- (g) cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar cysylltiedig, ac arolygu a gwirio’r data sydd arnynt, a’u gweithrediad;
- (h) ymafael mewn unrhyw gyfrifiaduron a chyfarpar cysylltiedig, at y diben o gopïo data; ond hynny yn unig os yw’r arolygydd yn amau’n rhesymol fod trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei chyflawni, ac ar yr amod y dychwelir y cyfrifiaduron a’r cyfarpar cysylltiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol;
- (i) ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddogfen neu gofnod ac arolygu a gwneud copi neu echdynnu o’r cyfryw ddogfen neu gofnod; a
- (j) ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn darparu pa bynnag gymorth, gwybodaeth, cyfleusterau neu gyfarpar sy’n rhesymol.
- (2) Rhaid i arolygydd—
- (a) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ddarparu i’r person sy’n ymddangos yn gyfrifol am unrhyw eitemau yr ymafaelir ynddynt gan yr arolygydd o dan baragraff (1), dderbynneb ysgrifenedig sy’n nodi’r eitemau hynny; a
- (b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl penderfynu nad oes angen yr eitemau hynny mwyach, eu dychwelyd, ac eithrio rhai sydd i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn achos llys.
- (3) Pan fo arolygydd wedi ymafael mewn eitemau o dan baragraff (1) i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn achos llys ac yna—
- (a) penderfynir yn ddiweddarach—
- (i) na ddygir achos llys; neu
- (ii) nad oes angen yr eitemau hynny bellach fel tystiolaeth mewn achos llys; neu
- (b) cwblhawyd yr achos llys ac ni wnaed gorchymyn gan y llys mewn perthynas â’r eitemau hynny,
rhaid i’r arolygydd ddychwelyd yr eitemau cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Hysbysiadau gorfodi
38
- (1) Hysbysiad gorfodi yw hysbysiad ysgrifenedig sydd—
- (a) yn ei gwneud yn ofynnol bod person yn cymryd camau penodedig i unioni toriad o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;
- (b) yn ei gwneud yn ofynnol bod person yn lleihau’r gyfradd weithredu i ba bynnag raddau a bennir yn yr hysbysiad, hyd nes bo’r person hwnnw wedi cymryd camau penodedig i unioni toriad o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn; neu
- (c) yn gwahardd person rhag cyflawni gweithgaredd, proses neu weithrediad, neu ddefnyddio cyfleusterau neu gyfarpar, a bennir yn yr hysbysiad, hyd nes bo’r person hwnnw wedi cymryd camau penodedig i unioni toriad o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn.
- (2) Caiff arolygydd sydd o’r farn bod person wedi torri, neu ei fod yn torri, y Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn, gyflwyno hysbysiad gorfodi i’r person hwnnw.
- (3) Rhaid i hysbysiad gorfodi—
- (a) datgan bod yr arolygydd o’r farn honno;
- (b) datgan dyddiad ac amser cyflwyno’r hysbysiad;
- (c) enwi derbynnydd yr hysbysiad;
- (d) pennu’r materion sy’n cyfansoddi’r toriad;
- (e) pennu’r camau y mae’n rhaid eu cymryd i unioni’r toriad;
- (f) pennu o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid cymryd y camau hynny; ac
- (g) rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad.
- (4) Rhaid i berson y cyflwynir hysbysiad gorfodi iddo gydymffurfio â’r hysbysiad ar gost y person hwnnw ei hunan.
- (5) Os na chydymffurfir â hysbysiad gorfodi, caiff yr arolygydd drefnu i gydymffurfio â’r hysbysiad ar gost y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.
- (6) Rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad cwblhau os bodlonir yr arolygydd, ar ôl cyflwyno’r hysbysiad gorfodi, fod y person wedi cymryd y camau a bennwyd yn yr hysbysiad ar gyfer unioni’r toriad.
- (7) Os digwydd i arolygydd beidio â chael ei fodloni fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (6), caiff yr arolygydd, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrthod cyflwyno hysbysiad cwblhau, a rhaid i’r hysbysiad—
- (a) rhoi rhesymau am y gwrthodiad; a
- (b) rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.
- (8) Mae hysbysiad gorfodi yn peidio â chael effaith pan ddyroddir hysbysiad cwblhau.
- (9) Caiff arolygydd, ar unrhyw adeg, mewn ysgrifen, dynnu’n ôl neu amrywio hysbysiad gorfodi.
Apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodi
39
- (1) Caiff person a dramgwyddwyd gan—
- (a) penderfyniad arolygydd i gyflwyno hysbysiad gorfodi; neu
- (b) penderfyniad arolygydd i wrthod dyroddi hysbysiad cwblhau,
apelio yn erbyn y penderfyniad.
- (2) Mae’r hawl i apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf.
- (3) Ni fydd hysbysiad gorfodi yn cael ei atal dros dro tra bo apêl yn yr arfaeth, oni fydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gorchymyn yn wahanol.
- (4) Yn dilyn apêl, caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf naill ai ddiddymu neu gadarnhau’r hysbysiad gorfodi, gydag addasiadau neu hebddynt, neu wneud pa bynnag orchymyn yr ystyria’n briodol ynghylch gwrthodiad i gyflwyno hysbysiad cwblhau.
Pŵer awdurdod lleol i erlyn
40
Caiff awdurdod lleol erlyn am unrhyw drosedd o dan y Rheoliadau hyn.
Terfyn amser ar gyfer erlyniadau
41
- (1) Er gwaethaf adran 127(1) o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980[^f00012], caiff llys ynadon roi unrhyw wybodaeth ar brawf sy’n ymwneud â throsedd o dan y Rheoliadau hyn os rhoddir yr wybodaeth gerbron—
- (a) cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n cychwyn gyda dyddiad cyflawni’r drosedd; a
- (b) cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n cychwyn gyda dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod am dystiolaeth a ystyrir yn ddigonol gan yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos.
- (2) At ddibenion paragraff (1)(b)—
- (a) mae tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd, ac yn datgan y dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod am dystiolaeth o’r fath yn dystiolaeth derfynol o’r ffaith honno; a
- (b) rhaid trin tystysgrif sy’n datgan y mater hwnnw ac yn honni ei bod wedi ei llofnodi felly fel pe bai wedi ei llofnodi felly, oni phrofir i’r gwrthwyneb.
Hysbysiadau
42
- (1) Caniateir rhoi unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol, neu yr awdurdodir, ei gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn i unrhyw berson drwy—
- (a) ei ddanfon i’r person;
- (b) ei adael yng nghyfeiriad priodol y person; neu
- (c) ei anfon drwy’r post at y person yn y cyfeiriad hwnnw.
- (2) Caniateir cyflwyno unrhyw hysbysiad o’r fath—
- (a) yn achos corff corfforaethol, i swyddog y corff hwnnw; neu
- (b) yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, i bartner neu i berson sydd â rheolaeth ar, neu sy’n rheoli, busnes y bartneriaeth.
- (3) At ddibenion y rheoliad hwn ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978[^f00013] (cyflwyno dogfennau drwy’r post) yn y modd y’i cymhwysir i’r rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo yw—
- (a) yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;
- (b) yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r bartneriaeth;
- (c) yn achos person y cyflwynir hysbysiad iddo gan ddibynnu ar baragraff (2), cyfeiriad priodol y corff corfforaethol neu’r bartneriaeth dan sylw; a
- (d) mewn unrhyw achos arall, y cyfeiriad olaf sy’n hysbys ar gyfer y person dan sylw.
- (4) Os yw person y mae hysbysiad i’w gyflwyno iddo o dan y Rheoliadau hyn wedi pennu cyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiad o’r fath, rhaid trin y cyfeiriad hwnnw hefyd, at ddibenion y rheoliad hwn ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978 yn y modd y’i cymhwysir i’r rheoliad hwn, fel cyfeiriad priodol y person hwnnw.
- (5) Os na ellir canfod enw neu gyfeiriad unrhyw feddiannydd mangre y mae hysbysiad i’w gyflwyno iddo o dan y Rheoliadau hyn ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno’r hysbysiad drwy ei adael mewn man amlwg ynghlwm wrth adeilad neu wrthrych yn y fangre.
- (6) Yn y rheoliad hwn—
- (a) nid yw “corff corfforaethol” (“body corporate”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig; a
- (b) mae cyfeiriadau at gyflwyno’n cynnwys cyfeiriadau at ymadroddion tebyg (megis rhoi neu anfon).
Diwygiadau canlyniadol ac atodol
43
Mae Atodlen 6 (diwygiadau canlyniadol ac atodol) yn cael effaith.
Darpariaeth drosiannol: tystysgrifau
44
Mae Atodlen 7 (darpariaethau trosiannol – tystysgrifau) yn cael effaith.
Darpariaeth drosiannol: lladd-dai (llunwedd, adeiladwaith a chyfarpar)
45
- (1) Mae paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â lladd-dy sy’n gweithredu yn union cyn 1 Ionawr 2013, ond nid yw’n gymwys mewn perthynas ag—
- (a) unrhyw lunwedd neu adeiladwaith newydd mewn lladd-dy o’r fath (neu walfeydd cysylltiedig) a roddir ar waith ar ôl y dyddiad hwnnw; neu
- (b) unrhyw gyfarpar newydd a ddefnyddir mewn lladd-dy o’r fath ac a roddir ar waith ar ôl y dyddiad hwnnw.
- (2) Mewn perthynas â lladd-dy y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, tan 8 Rhagfyr 2019—
- (a) nid yw Erthygl 14(1) ac Atodiad II yn gymwys; a
- (b) mae Atodlen 8 yn gymwys.
Dirymiadau
46
Mae’r offerynnau a’r deddfiadau canlynol wedi eu dirymu mewn perthynas â Chymru—
- (a) Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995[^f00014];
- (b) Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) (Diwygio) 1999[^f00015];
- (c) rheoliad 10(3) o Reoliadau Deddf Safonau Bwyd 1999 (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol ac Arbedion) (Cymru a Lloegr) 2000[^f00016] a Rhan 3 o Atodlen 8 i’r Rheoliadau hynny; a
- (d) Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) (Diwygio) (Cymru) 2007[^f00017].
Dehongli
Cwmpas
Gofynion cyffredinol
Anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynwysyddion
Gwalfeydd ac eithrio gwalfeydd mewn caeau
Gwalfeydd mewn caeau
Llinellau gefynnu
Llociau stynio
Cyfleusterau ar gyfer ceffylau
Gofynion cyffredinol
Arolygu anifeiliaid
Anifeiliaid sydd wedi profi poen neu ddioddefaint ac anifeiliaid nas diddyfnwyd
Anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynwysyddion
Gyrru anifeiliaid
Symud anifeiliaid â gofal
Offerynnau ar gyfer arwain anifeiliaid
Gwalfeydd ar gyfer anifeiliaid
Gofyniad cyffredinol
Ffrwyno anifeiliaid buchol
Hongian dofednod
Llinellau gefynnu
Gweithrediadau ffrwyno
Gofynion cyffredinol
Bolltau caeth treiddiol
Bolltau caeth anhreiddiol
Ergyd tarawol i’r pen
Stynio trydanol ac eithrio gyda bath dŵr
Stynio trydanol gan ddefnyddio bath dŵr
Dod i gysylltiad â nwy – moch
Dod i gysylltiad â nwy – dofednod
Gwaedu neu bithio
Ceffylau
Dehongli
Cwmpas
Esemptiadau
Gofynion cyffredinol
Anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynwysyddion
Gwalfeydd ac eithrio gwalfeydd mewn caeau
Gwalfeydd mewn caeau
Llinellau gefynnu
Llociau stynio
Cyfleusterau ar gyfer ceffylau
Gofynion cyffredinol
Arolygu anifeiliaid
Anifeiliaid sydd wedi profi poen neu ddioddefaint ac anifeiliaid nas diddyfnwyd
Lladd mewn argyfwng
Anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynwysyddion
Codi neu lusgo anifeiliaid
Gyrru anifeiliaid
Symud anifeiliaid â gofal
Offerynnau ar gyfer arwain anifeiliaid
Offerynnau ar gyfer gwneud i anifeiliaid symud
Trin anifeiliaid
Gwalfeydd ar gyfer anifeiliaid
Trin anifeiliaid a ddanfonir mewn cynwysyddion
Lladd anifeiliaid a ddanfonir mewn cynwysyddion
Dofednod sy’n aros i’w lladd yn y man lle’u prynir
Gofyniad cyffredinol
Ffrwyno anifeiliaid buchol
Ceryntau trydanol
Clymu coesau
Hongian anifeiliaid
Llinellau gefynnu
Gweithrediadau ffrwyno
Gofynion cyffredinol
Bolltau caeth treiddiol
Bolltau caeth anhreiddiol
Ergyd tarawol i’r pen
Stynio trydanol ac eithrio gyda bath dŵr
Stynio trydanol gan ddefnyddio bath dŵr
Dod i gysylltiad â nwy – gwaharddiad
Dod i gysylltiad â nwy – moch
Dod i gysylltiad â nwy – dofednod
Gwaedu neu bithio
Ceffylau
Cywion dros ben mewn gwastraff deorfa
Dehongli
Gwaharddiad cyffredinol
Ffrwyno anifeiliaid buchol llawn-dwf
Defnyddio a chynnal llociau ffrwyno
Y dull o ladd
Trin defaid, geifr ac anifeiliaid buchol yn ystod y lladd
Y dull o ladd
Trin adar yn ystod y lladd
Aelodaeth
Atodol
Dehongli
Cwmpas
Esemptiadau
Lladd heb beri dioddefaint diangen
Gwaedu dofednod, cwningod neu ysgyfarnogod ar gyfer eu bwyta gartref yn breifat
Rheoliadau Cig (Ffioedd Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2009
Gweithrediadau mewn lladd-dy yn union cyn 1 Ionawr 2013
Gweithdrefn symlach ar gyfer personau sydd â thair blynedd o brofiad proffesiynol
Anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynwysyddion
Gwalfeydd ac eithrio gwalfeydd mewn caeau
Gwalfeydd mewn caeau
Llinellau gefynnu
Stynio trydanol ac eithrio gyda bath dŵr
Stynio trydanol gan ddefnyddio bath dŵr
Dod i gysylltiad â nwy
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.