The Environmental Protection (Microbeads) (Wales) Regulations 2018
Gwnaed: 19 Mehefin 2018
Yn dod i rym: 30 Mehefin 2018
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 140(1)(b) ac (c), (3)(c) a (d), a (9) o Ddeddf 1990[^f00003] ac adrannau 36, 42, 46, 48, 49, 50, 52 i 55 a 62(2) o Ddeddf 2008[^f00004].
RHAN 1 — Cyflwyniad
Citation, commencement, extent and application
1
- (1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Microbelenni) (Cymru) 2018.
- (2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2018.
- (3) Mae’r Rheoliadau hyn yn rhychwantu Cymru a Lloegr, ond maent yn gymwys o ran Cymru yn unig.
Interpretation
2
Yn y Rheoliadau hyn—
- ystyr “cyflenwi” (“supply”), mewn perthynas â chynnyrch gofal personol i’w rinsio i ffwrdd, yw cyflenwi drwy ei werthu neu ei gyflwyno fel gwobr neu rodd hyrwyddo yng nghwrs busnes;
- ystyr “cynnyrch gofal personol i’w rinsio i ffwrdd” (“rinse-off personal care product”) yw unrhyw sylwedd, neu gymysgedd o sylweddau, a weithgynhyrchir at ddiben ei roi ar unrhyw ran berthnasol o’r corff dynol yn ystod unrhyw driniaeth gofal personol, drwy broses roi sy’n golygu bod angen gwaredu’r cynnyrch (neu unrhyw weddillion o’r cynnyrch) mewn ffordd brydlon a phenodol wrth gwblhau’r driniaeth drwy ei olchi neu ei rinsio â dŵr, yn hytrach na gadael iddo dreulio neu olchi i ffwrdd, neu gael ei amsugno neu ei ddiosg gydag amser;
- ac at y diben hwn— ystyr “triniaeth gofal personol” (“personal care treatment”) yw unrhyw broses o lanhau, diogelu neu bersawru rhan berthnasol o’r corff dynol, cynnal neu adfer cyflwr y rhan honno neu newid ei golwg; a “rhan berthnasol o’r corff dynol” (“relevant human body part”) yw— unrhyw ran allanol o’r corff dynol (gan gynnwys unrhyw ran o’r epidermis, y system gwallt a blew, yr ewinedd neu’r gwefusau); y dannedd; neu pilenni mwcaidd ceudod y geg;
- Mae i “Cymru” yr ystyr a roddir i “Wales” o dan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
- ystyr “diben awdurdodedig” (“authorised purpose”) yw at ddiben penderfynu pa un a yw trosedd o dan reoliad 3(1) neu 3(2) wedi ei chyflawni neu’n cael ei chyflawni, neu at ddiben penderfynu pa un a yw unrhyw ofyniad hysbysiad cydymffurfio, hysbysiad stop neu ymgymeriad gorfodaeth o dan y Rheoliadau hyn wedi ei dorri neu’n cael ei dorri ai peidio;
- mae i “hysbysiad cydymffurfio” (“compliance notice”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1(1)(b) o’r Atodlen;
- mae i “hysbysiad stop” (“stop notice”) yr ystyr a roddir gan baragraff 9(2) o’r Atodlen;
- ystyr “microbelen” (“microbead”) yw unrhyw ronyn plastig solet sy’n annhoddadwy mewn dŵr sy’n 5mm neu lai o faint mewn unrhyw fesuriad;
- ystyr “plastig” (“plastic”) yw sylwedd polymerig synthetig y gellir ei fowldio, ei allwthio neu ei drin yn ffisegol i lunio ffurfiau solet amrywiol ac sy’n cadw ei siâp gwneuthuredig terfynol wrth ei ddefnyddio at ei ddefnyddiau bwriadedig;
- ystyr “y rheoleiddiwr” (“the regulator”), at ddibenion gorfodi trosedd o dan reoliad 3(1), 3(2) neu 10(1), mewn perthynas ag unrhyw fan lle y gweithgynhyrchir cynnyrch gofal personol i’w rinsio i ffwrdd neu y cyflenwir y cynnyrch hwnnw, yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am yr ardal y mae’r man hwnnw ynddi;
- ac at y diben hwn ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol a gyfansoddwyd o dan adran 21 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972;
- mae i “ymgymeriad gorfodaeth” (“enforcement undertaking”) yr ystyr a roddir gan baragraff 17 o’r Atodlen; ac
- mae i “ymgymeriad trydydd parti” (“third party undertaking”) yr ystyr a roddir gan baragraff 3(1) o’r Atodlen.
RHAN 2 — Troseddau
Offences
3
- (1) Mae person sy’n defnyddio microbelenni fel cynhwysyn wrth weithgynhyrchu unrhyw gynnyrch gofal personol i’w rinsio i ffwrdd yn euog o drosedd.
- (2) Mae person sy’n cyflenwi neu’n cynnig cyflenwi unrhyw gynnyrch gofal personol i’w rinsio i ffwrdd sy’n cynnwys microbelenni yn euog o drosedd.
- (3) Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) neu (2) yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.
Defence of due diligence for suppliers
4
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), mewn achos am drosedd o dan reoliad 3(2), mae’n amddiffyniad i berson (“P”) ddangos bod P wedi cymryd pob cam rhesymol ac wedi arfer pob diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni’r drosedd.
- (2) Ni chaniateir i P ddibynnu ar amddiffyniad o dan baragraff (1) sy’n cynnwys honiad trydydd parti oni bai bod P wedi—
- (a) cyflwyno hysbysiad yn unol â pharagraff (3); neu
- (b) cael caniatâd y llys.
- (3) Rhaid i’r hysbysiad—
- (a) rhoi unrhyw wybodaeth sydd ym meddiant P sy’n enwi’r person, neu sydd o gymorth o ran cael gwybod pwy oedd y person—
- (i) a gyflawnodd y weithred neu ddiffyg; neu
- (ii) a gyflenwodd yr wybodaeth yr oedd P yn dibynnu arni; a
- (b) cael ei gyflwyno i’r person sy’n dwyn yr achos nid llai na 7 diwrnod clir cyn gwrandawiad yr achos.
- (4) Ni chaniateir i P ddibynnu ar amddiffyniad o dan baragraff (1) sy’n cynnwys honiad y cyflawnwyd y drosedd o ganlyniad i ddibynnu ar wybodaeth a gyflenwyd gan berson arall, oni bai ei bod yn rhesymol i P ddibynnu ar yr wybodaeth, gan roi sylw penodol i—
- (a) y camau a gymerwyd gan P, a’r rheini y gellid yn rhesymol bod wedi eu cymryd, at ddiben gwirhau’r wybodaeth; a
- (b) pa un a oedd gan P unrhyw reswm i beidio â chredu’r wybodaeth.
- (5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “honiad trydydd parti” yw honiad y cyflawnwyd y drosedd o ganlyniad i—
- (a) gweithred neu ddiffyg person arall; neu
- (b) dibynnu ar wybodaeth a gyflenwyd gan berson arall.
Time limit for the prosecution of offences
5
- (1) Caniateir i unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â throsedd o dan reoliad 3 neu 10 y gellir ei rhoi ar brawf gan lys ynadon gael ei rhoi ar brawf os caiff ei gosod o fewn 12 mis ar ôl y dyddiad y daw’r erlynydd i wybod am dystiolaeth sy’n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau’r achos.
- (2) Ni chaniateir dwyn unrhyw achos fwy na thair blynedd ar ôl cyflawni’r drosedd.
RHAN 3 — Gorfodaeth a Sancsiynau Sifil
Enforcement
6
- (1) Caiff y rheoleiddiwr awdurdodi unrhyw berson i arfer, at ddiben awdurdodedig ac yn unol â thelerau’r awdurdodiad, unrhyw un neu ragor o’r pwerau a bennir yn rheoliadau 8 a 9, os ymddengys i’r rheoleiddiwr bod y person hwnnw yn addas i’w arfer neu i’w harfer.
- (2) Rhaid i awdurdodiad o dan baragraff (1) fod yn ysgrifenedig.
- (3) Yn y Rhan hon, ystyr “swyddog gorfodaeth” yw person a awdurdodir o dan baragraff (1).
Civil sanctions
7
Mae’r Atodlen (sancsiynau sifil) yn cael effaith at ddiben gorfodi trosedd o dan reoliad 3(1), 3(2) neu 10(1).
Enforcement Officer Powers
8
- (1) Y pwerau y caniateir awdurdodi swyddog gorfodaeth i’w harfer yw—
- (a) cynnal yr archwiliadau a’r ymchwiliadau hynny a all fod yn angenrheidiol o dan unrhyw amgylchiadau;
- (b) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae gan swyddog gorfodaeth sail resymol i gredu y gall roi unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o dan baragraff (a) uchod i ateb (yn absenoldeb personau ac eithrio person a enwebir gan y person hwnnw i fod yn bresennol ac unrhyw bersonau y caiff y person awdurdodedig ganiatáu iddynt fod yn bresennol) y cwestiynau hynny y mae’r swyddog gorfodaeth yn meddwl ei bod yn addas i’w gofyn ac i lofnodi datganiad o wirionedd ei atebion; ac
- (c) ei gwneud yn ofynnol i ddangos unrhyw gofnodion y mae’n angenrheidiol i’r swyddog gorfodaeth eu gweld at ddibenion archwiliad neu ymchwiliad o dan baragraff (a) uchod, ac i weld unrhyw gofnod yn y cofnodion a chymryd copïau ohono neu ohonynt, neu pan fo’r wybodaeth honno wedi ei chofnodi ar ffurf gyfrifiadurol, ei gwneud yn ofynnol i gyflwyno detholiadau o’r cofnodion hynny.
- (2) Nid oes dim yn yr adran hon yn gorfodi unrhyw berson i ddangos dogfen y byddai gan y person hwnnw hawl ar sail braint broffesiynol gyfreithiol i atal ei dangos o gael gorchymyn datgelu mewn achos yn yr Uchel Lys.
Powers of entry and examination etc.
9
- (1) Y pwerau y caniateir awdurdodi swyddog gorfodaeth i’w harfer yw—
- (a) mynd ar unrhyw adeg resymol i unrhyw fangre (ac eithrio mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd) y mae gan y swyddog gorfodaeth reswm i gredu ei bod yn angenrheidiol i fynd iddi at ddiben awdurdodedig;
- (b) pan fydd yn mynd i unrhyw fangre o dan is-baragraff (a)—
- (i) mynd yng nghwmni swyddog gorfodaeth arall; a
- (ii) dod ag unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau sy’n ofynnol at y diben awdurdodedig o dan sylw;
- (c) wrth fynd i unrhyw fangre o dan is-baragraff (a)—
- (i) arfer y pwerau yn rheoliad 8(2); a
- (ii) cymryd unrhyw fesuriadau, tynnu unrhyw ffotograffau a gwneud unrhyw recordiadau y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o’r fath.
- (d) o ran unrhyw fangreoedd y mae gan swyddog gorfodaeth y pŵer i fynd iddynt o dan is-baragraff (a), roi cyfarwyddyd bod rhaid gadael y mangreoedd hynny neu unrhyw ran ohonynt, neu unrhyw beth ynddynt, heb ymyrryd â hwy (pa un ai’n gyffredinol neu o ran agweddau penodol) am gyhyd ag sy’n rhesymol angenrheidiol at ddiben archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c);
- (e) cymryd unrhyw samplau, neu beri i samplau gael eu cymryd, o unrhyw eitemau neu sylweddau a geir mewn neu ar unrhyw fangre y mae gan swyddog gorfodaeth y pŵer i fynd iddi o dan is-baragraff (a), a pheri i unrhyw eitemau neu sylweddau o’r fath gael eu dadansoddi neu eu profi;
- (f) yn achos unrhyw sampl o’r fath, cymryd meddiant ohoni a’i chadw am gyhyd ag sy’n angenrheidiol at yr holl ddibenion a ganlyn, neu unrhyw un neu ragor ohonynt—
- (i) ei harchwilio, a chynnal unrhyw broses neu brofion arni, neu beri iddi gael ei harchwilio;
- (ii) sicrhau nad ymyrrir â’r sampl cyn cwblhau’r archwiliad;
- (iii) sicrhau ei bod ar gael i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn.
- (2) Ac eithrio mewn achos brys, pan fo swyddog gorfodaeth yn bwriadu mynd i unrhyw fangre a—
- (a) bod mynediad wedi ei wrthod neu fod y swyddog gorfodaeth yn dirnad ar sail resymol bod mynediad yn debygol o gael ei wrthod, a
- (b) bod y swyddog gorfodaeth yn dirnad ar sail resymol y gall y defnydd o rym rhesymol fod yn angenrheidiol i gael mynediad,
ni chaniateir mynd i’r mangreoedd hynny yn rhinwedd paragraff (1)(a) ond o dan awdurdod gwarant.
- (3) Nid oes dim ym mharagraff (1)(c)(iii) yn gorfodi unrhyw berson i ddangos dogfen y byddai gan y person hwnnw hawl ar sail braint broffesiynol gyfreithiol i atal ei dangos o gael gorchymyn datgelu mewn achos yn y Llys Sirol neu yn yr Uchel Lys.
- (4) Ni chaiff swyddog gorfodaeth arfer y pwerau ym mharagraff (1) ond ar sail cred resymol bod trosedd o dan reoliad 3 wedi ei chyflawni neu’n cael ei chyflawni.
- (5) Rhaid i swyddog gorfodaeth sy’n ceisio arfer pŵer o dan baragraff (1) ddangos tystiolaeth o bwy ydyw a thystiolaeth o’i awdurdod os gofynnir iddo gan berson sy’n, neu yr ymddengys ei fod yn—
- (a) cyflenwr cynnyrch gofal personol i’w rinsio i ffwrdd neu gyflogai cyflenwr o’r fath;
- (b) gweithgynhyrchwr cynnyrch gofal personol i’w rinsio i ffwrdd neu gyflogai gweithgynhyrchwr o’r fath; neu
- (c) perchennog neu feddiannydd unrhyw fangre y mae’r swyddog gorfodaeth yn ceisio arfer y pŵer o dan sylw ynddi.
Offences
10
- (1) Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw, wrth ymateb i bwerau a arferir o dan reoliadau 8 a 9—
- (a) yn methu â chyflenwi i swyddog gorfodaeth unrhyw wybodaeth, ddogfennau neu gofnodion y gofynnir amdanynt;
- (b) yn rhoi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i swyddog gorfodaeth; neu
- (c) yn rhwystro swyddog gorfodaeth yn fwriadol.
- (2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.
Publication of enforcement action
11
- (1) Pa fo’r rheoleiddiwr yn gosod sancsiwn sifil o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â throsedd o dan reoliad 3 neu 10, rhaid i’r rheoleiddiwr o bryd i’w gilydd gyhoeddi—
- (a) yr achosion y gosodwyd y sancsiwn sifil ynddynt;
- (b) pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol amrywiadwy neu’n hysbysiad cydymffurfio, yr achosion y derbyniwyd ymgymeriad trydydd parti ynddynt; ac
- (c) yr achosion yr ymrwymwyd i ymgymeriad gorfodaeth ynddynt.
- (2) Ym mharagraff (1)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd sancsiwn sifil ynddynt yn cynnwys achosion pan fo’r sancsiwn wedi ei osod ond wedi ei wrthdroi ar apêl.
- (3) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’r rheoleiddiwr yn ystyried y byddai cyhoeddi yn amhriodol.
RHAN 4 — Canllawiau
Guidance
12
- (1) Rhaid i’r rheoleiddiwr gyhoeddi canllawiau ar ei ddefnydd o sancsiynau sifil o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â throsedd o dan reoliad 3 neu 10.
- (2) Yn achos canllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop, rhaid i’r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol a nodir ym mharagraff (3).
- (3) Yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (2) yw gwybodaeth ynghylch—
- (a) o dan ba amgylchiadau y mae’r gofyniad yn debygol o gael ei osod;
- (b) o dan ba amgylchiadau na chaniateir ei osod;
- (c) hawliau i gyflwyno sylwadau a hawliau i apelio; a
- (d) yn achos cosb ariannol amrywiadwy, y materion y mae’r rheoleiddiwr yn debygol o’u hystyried wrth bennu swm y gosb (gan gynnwys unrhyw ddisgowntiau am adrodd yn wirfoddol am beidio â chydymffurfio gan unrhyw berson amdano’i hun).
- (4) Rhaid i’r rheoleiddiwr ddiwygio’r canllawiau pan fo’n briodol.
- (5) Rhaid i’r rheoleiddiwr ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig o dan y rheoliad hwn.
- (6) Rhaid i’r rheoleiddiwr roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau diwygiedig wrth arfer ei swyddogaethau.
Additional guidance
13
- (1) Rhaid i ganllawiau o dan adran 64 o Ddeddf 2008 sy’n ymwneud â defnyddio cosbau am beidio â chydymffurfio a chostau adennill gorfodaeth (yn ogystal â’r materion a bennir yn adran 64(2)) bennu—
- (a) o dan ba amgylchiadau na chaniateir eu gosod;
- (b) materion i roi sylw iddynt wrth bennu’r swm o dan sylw; a
- (c) hawliau i apelio.
- (2) Yn y rheoliad hwn, mae i “cosb am beidio â chydymffurfio” yr ystyr a roddir gan baragraff 24(1) o’r Atodlen.
RHAN 5 — Adolygiad
Review
14
- (1) Rhaid i Weinidogion Cymru—
- (a) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o dair blynedd o’r dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym, gynnal adolygiad o weithrediad y darpariaethau yn Rhan 3 (Gorfodaeth a Sancsiynau Sifil) a’r Atodlen;
- (b) o bryd i’w gilydd gynnal adolygiad o’r ddarpariaeth reoleiddiol a geir yn y Rheoliadau hyn (gan gynnwys Rhan 3 a’r Atodlen); ac
- (c) cyhoeddi adroddiad sy’n nodi casgliadau unrhyw adolygiad.
- (2) Yn achos adolygiad o dan baragraff (1)(a)—
- (a) mae adran 67 o Ddeddf 2008 yn ei gwneud yn ofynnol i’r adolygiad ystyried yn benodol pa un a yw’r ddarpariaeth wedi cyflawni ei hamcanion mewn modd effeithlon ac effeithiol ai peidio;
- (b) rhaid i Weinidogion Cymru, wrth gynnal yr adolygiad, ymgynghori â’r personau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol; ac
- (c) rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o’r adroddiad a gyhoeddir o dan baragraff (1)(c) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
YR ATODLEN — Sancsiynau Sifil
RHAN 1 — Cosbau Ariannol Amrywiadwy a Hysbysiadau Cydymffurfio
Imposition of a variable monetary penalty or compliance notice
1
- (1) Mewn perthynas â throsedd o dan reoliad 3(1), 3(2) neu 10(1) caiff y rheoleiddiwr drwy hysbysiad osod—
- (a) gofyniad i dalu cosb ariannol i’r rheoleiddiwr o’r swm hwnnw y caiff y rheoleiddiwr ei bennu (“cosb ariannol amrywiadwy”); neu
- (b) gofyniad i gymryd y camau hynny y caiff y rheoleiddiwr eu pennu, o fewn y cyfnod hwnnw y caiff y rheoleiddiwr ei bennu, er mwyn sicrhau nad yw’r drosedd yn parhau neu nad yw’n digwydd eto (“hysbysiad cydymffurfio”).
- (2) Cyn gwneud hynny rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol bod y person wedi cyflawni’r drosedd.
- (3) Ni chaniateir gosod gofyniad o dan is-baragraff (1)(a) neu (b) ar berson ar fwy nag un achlysur mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.
- (4) Ni chaiff cosb ariannol amrywiadwy am y troseddau sydd wedi eu cynnwys yn rheoliad 3 neu 10(1)(a) fod yn fwy na’r swm lleiaf o 10% o drosiant blynyddol y busnes neu £5000.
- (5) Ni chaiff cosb ariannol amrywiadwy am y troseddau sydd wedi eu cynnwys yn rheoliad 10(1)(b) neu 10(1)(c) fod yn fwy na’r swm lleiaf o 10% o drosiant blynyddol y busnes neu £20,000.
- (6) Cyn cyflwyno hysbysiad sy’n ymwneud â chosb ariannol amrywiadwy i berson, caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu’r wybodaeth honno sy’n rhesymol at ddiben cadarnhau swm unrhyw fudd ariannol sy’n deillio o ganlyniad i’r drosedd honno.
Notice of intent
2
- (1) Pan fo’r rheoleiddiwr yn bwriadu cyflwyno cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio i berson, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a fwriedir (“hysbysiad o fwriad”).
- (2) Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—
- (a) y seiliau dros yr hysbysiad cydymffurfio arfaethedig neu’r gosb ariannol amrywiadwy arfaethedig;
- (b) gofynion yr hysbysiad cydymffurfio arfaethedig ac, yn achos cosb, y swm sydd i’w dalu; ac
- (c) gwybodaeth ynghylch—
- (i) yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;
- (ii) o dan ba amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb ariannol amrywiadwy neu’r hysbysiad cydymffurfio.
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.