The Education (Student Support) (Wales) (Amendment) Regulations 2018
Gwnaed: 3 Gorffennaf 2018
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 6 Gorffennaf 2018
Coming into force: 1 Awst 2018
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[^f00001] ac sy’n arferadwy bellach ganddynt hwy[^f00002], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
RHAN 1 — ENWI A CHYCHWYN
Title and commencement
1
- (1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) (Diwygio) 2018.
- (2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2018.
RHAN 2 — DIWYGIO RHEOLIADAU ADDYSG (CYMORTH I FYFYRWYR) (CYMRU) 2018
Amendments to the Education (Student Support) (Wales) Regulations 2018
2
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018[^f00003] wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.
3
Yn rheoliad 46(3)(c), ar ôl “incwm aelwyd” mewnosoder “sy’n fwy na £18,370”.
4
For regulation 56 substitute—
(56) (1) Where a full-time student qualifies for a special support payment under regulation 50, the amount of maintenance loan payable to the student is calculated in accordance with paragraph (2). (2) The amount of maintenance loan payable is calculated by applying the following steps— Identify the amount of— (a) maintenance grant payable to the student under regulation 46, and (b) base grant payable to the student under regulation 45. Identify the amount of base grant and maintenance grant to be treated as a special support payment under regulation 50. Identify the applicable amount of living support for the student by reference to Table 8, where— (a) Column 1 specifies the academic year in relation to which the amounts of living support in Column 3 apply; (b) Column 2 specifies the location in which the student is living (see paragraph 3 of Schedule 1); (c) Column 3 specifies the applicable amounts of living support for the corresponding entries in Columns 1 and 2.
| Column 1Academic year | Column 2Location of student | Column 3Applicable amount of living support for special support student |
|---|---|---|
| Beginning on or after 2018 | Living at home | £7,650 |
| Living away from home, studying in London | £11,250 | |
| Living away from home, studying elsewhere | £9,000 |
Whichever is the greater of— (a) the amount identified at Step 3, or (b) the amounts of grant identified at Step 1 plus the minimum amount of maintenance loan payable to the student as specified by reference to Table 8A, is the maximum amount of living support available to the student. Calculate the notional maximum amount of maintenance loan by deducting the amount of special support payment identified at Step 2 from the maximum amount of living support identified at Step 4. Deduct the amount of any maintenance grant payable to the student that is not treated as special support payment from the notional maximum amount of maintenance loan calculated at Step 5. The result is the amount of maintenance loan payable to the student. (3) In Table 8A— (a) Column 1 specifies the academic year in relation to which the minimum amounts of maintenance loan in Column 3 apply; (b) Column 2 specifies the location in which the student is living (see paragraph 3 of Schedule 1); (c) Column 3 specifies the minimum amounts of maintenance loan payable for the corresponding entries in Columns 1 and 2.
| Column 1Academic year | Column 2Location of student | Column 3Minimum amount of maintenance loan payable |
|---|---|---|
| Beginning on or after 2018 | Living at home | £3,325 |
| Living away from home, studying in London | £5,125 | |
| Living away from home, studying elsewhere | £4,000 |
(4) In this regulation, “living support” is the collective term for special support payment, maintenance grant and maintenance loan.
5
Yn rheoliad 58 (swm y benthyciad cynhaliaeth: myfyrwyr rhan-amser), ar y diwedd mewnosoder—
(3) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 58A.
6
Ar ôl rheoliad 58 mewnosoder—
(58A) (1) Pan fo myfyriwr rhan-amser yn cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50, cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr yn unol â pharagraff (2). (2) Cyfrifir swm y benthyciad cynhaliaeth drwy gymhwyso’r camau a ganlyn— Nodi swm y grant sylfaenol a’r grant cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr sydd i’w drin fel taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50. Cyfrifo swm cymwys y cymorth byw i’r myfyriwr drwy gyfeirio at Dabl 10A, pan fo Colofn 2 o’r tabl yn pennu swm y cymorth byw sy’n gymwys mewn perthynas â’r flwyddyn academaidd a bennir yng Ngholofn 1.
| Colofn 1 | Colofn 2 |
|---|---|
| Blwyddyn academaidd | Swm y cymorth byw i’r myfyriwr rhan-amser pan fo cymorth arbennig yn daladwy |
| Sy’n dechrau ar neu ar ôl 2018 | £6,650 wedi ei luosi â’r dwysedd astudio |
Didynnu swm y taliad cymorth arbennig a nodir yng Ngham 1 o swm cymwys y cymorth byw a nodir yng Ngham 2. Y canlyniad yw swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i’r myfyriwr. (3) Yn y rheoliad hwn, “cymorth byw” yw’r term ar gyfer y taliad cymorth arbennig, y grant cynhaliaeth a’r benthyciad cynhaliaeth ar y cyd.
7
Yn rheoliad 81(2) (cymhwyso i gael benthyciad cynhaliaeth neu grantiau yn ystod y flwyddyn academaidd), yn lle is-baragraff (a) rhodder—
(a) yn achos grant, mewn cysylltiad â gweddill diwrnodau y flwyddyn academaidd, ac, yn achos benthyciad cynhaliaeth, mewn cysylltiad â gweddill diwrnodau tymor y flwyddyn academaidd, sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r digwyddiad perthnasol yn digwydd yn y naill achos neu’r llall, a
8
Yn rheoliad 93 (cymorth wedi ei ostwng am gyfnodau a dreulir yn y carchar), yn lle paragraff (2) rhodder—
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn garcharor.
9
Yn rheoliad 94 (cymorth wedi ei ostwng am gyfnodau eraill o absenoldeb), yn lle paragraff (2) rhodder—
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, mae swm y benthyciad cynhaliaeth neu’r grant wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn ystod y flwyddyn academaidd y mae’r myfyriwr cymwys yn absennol o’i gwrs.
10
Yn rheoliad 95 (taliadau pan fo’r cyfnod cymhwystra yn dod i ben neu’n cael ei derfynu), yn lle paragraff (1) rhodder—
(1) Pan fo cyfnod cymhwystra myfyriwr cymwys wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu, mae unrhyw swm o’r benthyciad cynhaliaeth neu’r grant sy’n daladwy mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd wedi ei ostwng yn ôl nifer y diwrnodau yn y flwyddyn academaidd pan fo cymhwystra wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu.
Signed
Kirsty Williams — Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru — 3rd Gorffennaf 2018
Explanatory note
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
NODYN ESBONIADOL
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (“Rheoliadau 2018”) yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2018. Mae Rheoliadau 2018 hefyd yn darparu cymorth ar gyfer cyrsiau sy’n dechrau cyn 1 Awst 2018 ac sy’n cael eu troi wedi hynny o gyrsiau llawnamser i gyrsiau rhan-amser neu o gyrsiau rhan-amser i gyrsiau llawnamser ar neu ar ôl 1 Awst 2018.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2018.
Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 46(3)(c) o Reoliadau 2018 fel bod uchafswm y grant cynhaliaeth sy’n daladwy, pan fo incwm aelwyd myfyriwr yn fwy na £18,370 ond yn llai na £59,200, wedi ei ostwng £1 am bob £5.750 o incwm aelwyd sy’n fwy na £18,370 pan fo’r myfyriwr yn byw oddi cartref, ac yn astudio yn rhywle ac eithrio Llundain.
Mae rheoliad 4 yn rhoi rheoliad 56 newydd yn lle rheoliad 56 o Reoliadau 2018. Mae’r rheoliad newydd yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo swm y benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyrwyr llawnamser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50 o Reoliadau 2018.
Mae rheoliad 5 yn mewnosod paragraff newydd yn rheoliad 58 o Reoliadau 2018 o ganlyniad i reoliad 6. Mae rheoliad 6 yn darparu i reoliad newydd gael ei fewnosod yn Rheoliadau 2018, sef rheoliad 58A. Mae rheoliad 58A yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfrifo’r benthyciad cynhaliaeth sy’n daladwy i fyfyrwyr rhan-amser sy’n cymhwyso i gael taliad cymorth arbennig o dan reoliad 50 o Reoliadau 2018.
Mae rheoliadau 7, 8, 9 a 10 yn diwygio yn eu trefn reoliadau 81, 93, 94 a 95 o Reoliadau 2018 sy’n ymdrin â chyfrifo’r hawlogaeth i gael benthyciad cynhaliaeth pan fo myfyriwr yn cymhwyso i gael cymorth ond, ar adeg yn ystod y flwyddyn academaidd, yn absennol o’r cwrs neu fod ei gyfnod cymhwystra yn dod i ben neu’n cael ei derfynu.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.
Footnotes
[^f00001]: 1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11; Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6; Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147; Deddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), adrannau 42 a 43 ac Atodlen 7; Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 257; Deddf Addysg 2011 (p. 21), adran 76; O.S. 2013/1881; a Deddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29), adran 88. Gweleradran 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 i gael y diffiniad o “prescribed” a “regulations”.
[^f00002]: Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 22(2)(a) i (i) a (k) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), ac mae is-adrannau (a), (c) a (k) yn cael eu harfer ar y cyd â’r Ysgrifennydd Gwladol. Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42, i’r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
[^f00003]: O.S. 2018/191 (Cy. 42), a ddiwygiwyd gan O.S. 2018/802 (Cy. 161).
Editorial notes
[^key-e1db356c8f85d15f925c548b0342cac0]: Reg. 1 in force at 1.8.2018, see reg. 1(2)
[^key-aab7ba38d87526ef89729cb89bace269]: Reg. 2 in force at 1.8.2018, see reg. 1(2)
[^key-77e755aea495e7b62b77a2d732ec2d27]: Reg. 3 in force at 1.8.2018, see reg. 1(2)
[^key-f90ebb1a0d82e18e2d533e5827197fca]: Reg. 4 in force at 1.8.2018, see reg. 1(2)
[^key-66b212101f928e1e2e03eb59b05a88e4]: Reg. 5 in force at 1.8.2018, see reg. 1(2)
[^key-56ee6fdb4a6483fb5f0b4d89da0b3a90]: Reg. 6 in force at 1.8.2018, see reg. 1(2)
[^key-624cf8a2db9f51befa0efc8de33b2103]: Reg. 7 in force at 1.8.2018, see reg. 1(2)
[^key-13fe2af919c4e58bb615cfc8bf1834c7]: Reg. 8 in force at 1.8.2018, see reg. 1(2)
[^key-20f9ea4dd5185f79c7a099e925ae77d2]: Reg. 9 in force at 1.8.2018, see reg. 1(2)
[^key-022f337219047babf9f317c7f0872d35]: Reg. 10 in force at 1.8.2018, see reg. 1(2)
Enwi a chychwyn
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.