The Cancellation of Student Loans for Living Costs Liability (Wales) Regulations 2018

Type Welsh-Statutory-Instrument
Publication 2018-07-04
State In force
Jurisdiction Wales
Department King's Printer of Acts of Parliament
articles Not indexed
Reform history JSON API PDF

Gwnaed: 4 Gorffennaf 2018

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 11 Gorffennaf 2018

Yn dod i rym: 1 Awst 2018

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 22 a 42(6) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[^f00001]ac sydd bellach yn arferadwy ganddynt hwy[^f00002].

Title and commencement

1
  • (1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2018.
  • (2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2018.

Application

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ac mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyrwyr mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2018/2019.

Interpretation

3

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “Atebolrwydd sydd heb ei Dalu” (“Outstanding Liability”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 7;
  • ystyr “benthyciad at gostau byw” (“loan for living costs”) yw benthyciad a geir gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â Blwyddyn Academaidd 2018/2019 o dan Ran 6 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017[^f00003] neu o dan Ran 8 o Reoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018[^f00004] mewn cysylltiad â chwrs llawnamser;
  • ystyr “benthyciwr” (“borrower”) yw person sydd wedi cael benthyciad at gostau byw;
  • ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw’r cyfnod o ddeuddeng mis sy’n dechrau ar 1 Medi, 1 Ionawr, 1 Ebrill neu 1 Gorffennaf yn y flwyddyn galendr y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn ôl a yw’r flwyddyn academaidd honno yn dechrau ar neu ar ôl 1 Awst ond cyn 1 Ionawr, ar neu ar ôl 1 Ionawr ond cyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill ond cyn 1 Gorffennaf, neu ar neu ar ôl 1 Gorffennaf ond cyn 1 Awst, yn y drefn honno;
  • ystyr “Blwyddyn Academaidd 2018/2019” (“Academic Year 2018/2019”) yw blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2018 ond cyn 1 Medi 2019;
  • ystyr “Deddf 1998” (“the 1998 Act”) yw Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998;
  • ystyr “Deddf 2008” (“the 2008 Act”) yw Deddf Gwerthu Benthyciadau Myfyrwyr 2008[^f00005];
  • ystyr “Dyddiad Ad-dalu” (“Repayment Date”) yw’r diwrnod ar ôl y dyddiad yr ystyrir bod ad-daliad cyntaf y benthyciwr ar ei fenthyciad wedi ei gael naill ai gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi neu gan Weinidogion Cymru, pa un bynnag yr ystyrir iddo ei gael gyntaf (yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998[^f00006]);
  • mae i “Dyddiad Bodloni” (“Satisfaction Date”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 9;
  • mae “Gweinidogion Cymru” (“Welsh Ministers”) yn cynnwys unrhyw berson y mae Gweinidogion Cymru wedi trosglwyddo neu wedi dirprwyo eu swyddogaethau iddo o dan adran 23 o Ddeddf 1998[^f00007] neu unrhyw berson y maent wedi trosglwyddo eu hawliau iddo o dan adran 9 o Ddeddf 2008; ac
  • mae i “Swm Penodedig” (“Specified Amount”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 6.

Qualification for cancellation

4

Mae benthyciwr yn gymwys i gael y Swm Penodedig o’i Atebolrwydd sydd heb ei Dalu wedi ei ddileu o dan yr amgylchiadau a nodir yn rheoliad 5 (“yr Amgylchiadau”).

Circumstances

5

Yr Amgylchiadau at ddibenion rheoliad 4 yw bod Gweinidogion Cymru yn ystyried, ar y Dyddiad Ad-dalu—

  • (a) nad yw’r benthyciwr wedi torri unrhyw rwymedigaeth a geir mewn unrhyw gytundeb ar gyfer benthyciad myfyriwr neu mewn unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf 1998;
  • (b) nad oes gan y benthyciwr gosbau, costau, treuliau neu ffioedd sydd heb eu talu mewn perthynas ag unrhyw fenthyciad o’r fath yn unol ag unrhyw gytundeb neu reoliadau o’r fath; ac
  • (c) nad yw’r benthyciwr wedi cael unrhyw o’i atebolrwydd i dalu mewn cysylltiad â benthyciad a gafwyd gan Weinidogion Cymru wedi ei ddileu o dan ddarpariaethau Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2010[^f00008], Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2011[^f00009], Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2012[^f00010], Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2013[^f00011], Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2014[^f00012], Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2015[^f00013], Rheoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2016[^f00014], neu Reoliadau Dileu Atebolrwydd dros Fenthyciadau i Fyfyrwyr at Gostau Byw (Cymru) 2017[^f00015].

Specified Amount

6

Y Swm Penodedig yw’r swm lleiaf o’r canlynol—

  • (a) £1,500; neu
  • (b) yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu.

Outstanding Liability

7
  • (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw’r cyfanswm yr ystyrir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Ad-dalu mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw log sydd wedi cronni nac unrhyw gosbau, costau, treuliau neu ffioedd yr aed iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o’r fath.
  • (2) At ddibenion rheoliad 9, yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu yw’r cyfanswm yr ystyrir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr ar y Dyddiad Bodloni mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad at gostau byw, ond nid yw’n cynnwys unrhyw log sydd wedi cronni nac unrhyw gosbau, costau, treuliau neu ffioedd yr aed iddynt mewn cysylltiad ag unrhyw fenthyciad o’r fath.
  • (3) At ddibenion cyfrifo’r Atebolrwydd sydd heb ei Dalu ym mharagraffau (1) a (2), cyfrifir y swm yr ystyrir ei fod yn daladwy gan y benthyciwr yn unol â rheoliadau a wneir yn unol ag adran 22 o Ddeddf 1998[^f00016].

Cancellation

8

O dan yr Amgylchiadau yn rheoliad 5, rhaid i Weinidogion Cymru ddileu’r Swm Penodedig gydag effaith o’r Dyddiad Ad-dalu.

9

Os oes unrhyw un neu ragor o’r Amgylchiadau yn rheoliad 5 heb ei fodloni neu heb eu bodloni ar y Dyddiad Ad-dalu, ond ei fod yn cael ei fodloni neu eu bod yn cael eu bodloni ar ddyddiad diweddarach, caiff Gweinidogion Cymru ddileu’r Swm Penodedig gydag effaith o’r dyddiad y maent yn ystyried y cafodd yr Amgylchiadau eu bodloni (“y Dyddiad Bodloni”).

Signed

Kirsty Williams — Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru — 4 Gorffennaf 2018

Explanatory note

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

NODYN ESBONIADOL

Mae’r Rheoliadau hyn yn llywodraethu atebolrwydd dros fenthyciad myfyrwyr sydd gan fyfyrwyr llawnamser sy’n cael benthyciadau at gostau byw gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â blwyddyn academaidd 2018/2019.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer dileu hyd at £1,500 o atebolrwydd benthyciwr dros fenthyciad at gostau byw o dan amgylchiadau penodol, gydag effaith o’r diwrnod ar ôl y dyddiad yr ystyrir bod ei ad-daliad cyntaf ar ei fenthyciad wedi ei gael.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Addysg Uwch, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Footnotes

[^f00001]: 1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan adran 146 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21) ac Atodlen 11 iddi, paragraff 236 o Atodlen 6(2) i Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), adran 147 o Ddeddf Cyllid 2003 (p. 14), adrannau 42 a 43 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8) ac Atodlen 7 iddi, adran 257 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 76 o Ddeddf Addysg 2011 (p. 21), a pharagraff 6 o’r Atodlen i Orchymyn Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 (Gweithgareddau a Reoleiddir) (Diwygio) (Rhif 2) 2013/1881.

[^f00002]: Trosglwyddwyd swyddogaethau’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (ac eithrio i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud unrhyw ddarpariaeth a awdurdodir gan is-adran (2)(j), (3)(e) neu (f) neu (5) o adran 22) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’r graddau y maent yn ymwneud â gwneud darpariaeth o ran Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004 (p. 8), gyda’r swyddogaethau o dan is-adran (2)(a), (c) a (k) yn arferadwy ar y cyd â’r Ysgrifennydd Gwladol. Trosglwyddwyd swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol yn adran 42, i’r graddau y mae’n arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.

[^f00003]: O.S. 2017/47 (Cy. 21).

[^f00004]: O.S. 2018/191 (Cy. 42).

[^f00005]: 2008 p. 10.

[^f00006]: Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn, penderfynir ar y dyddiad yr ystyrir bod ad-daliad benthyciwr wedi ei gael yn unol â rheoliad 17 o Reoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (O.S. 2009/470).

[^f00007]: Diwygiwyd adran 23 gan adran 146 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), O.S. 2002/808 ac O.S. 2010/1158.

[^f00008]: O.S. 2010/1704 (Cy. 164).

[^f00009]: O.S. 2011/1654 (Cy. 189).

[^f00010]: O.S. 2012/1518 (Cy. 201).

[^f00011]: O.S. 2013/1396 (Cy. 135).

[^f00012]: O.S. 2014/1314 (Cy. 134).

[^f00013]: O.S. 2015/1418 (Cy. 142).

[^f00014]: O.S. 2016/48 (Cy. 20).

[^f00015]: O.S. 2017/489 (Cy. 102).

[^f00016]: Ar adeg gwneud y Rheoliadau hyn penderfynir ar y swm yr ystyrir bod benthyciwr wedi ei ad-dalu ac felly’r swm yr ystyrir ei fod yn dal yn daladwy yn unol â Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) 2009 (O.S. 2009/470). Gweler yn benodol reoliadau 17, 29, 44 a 76.

Editorial notes

[^key-692d1c4f661c2317a6344d43e3f43a45]: Reg. 1 in force at 1.8.2018, see reg. 1(2)

[^key-d970e2ddbca29f6e3e9942dda67b0a05]: Reg. 2 in force at 1.8.2018, see reg. 1(2)

[^key-763ff31bc5e3f4dde499575fa8c951c8]: Reg. 3 in force at 1.8.2018, see reg. 1(2)

[^key-0e315f0b93f4127538e8170758d2091e]: Reg. 4 in force at 1.8.2018, see reg. 1(2)

[^key-9da8111f9ba79f5df8a277937af72b38]: Reg. 5 in force at 1.8.2018, see reg. 1(2)

[^key-1d005160983a7b63d73fc4df4ce5bd17]: Reg. 6 in force at 1.8.2018, see reg. 1(2)

[^key-d4a7524970961544d0813c90f2c7b40d]: Reg. 7 in force at 1.8.2018, see reg. 1(2)

[^key-5cfb4fa181e886082b73a3a4e4a578b8]: Reg. 8 in force at 1.8.2018, see reg. 1(2)

[^key-802d489ef0bc6c73ecd15978a4360e5d]: Reg. 9 in force at 1.8.2018, see reg. 1(2)

Enwi a chychwyn

Cymhwyso

Dehongli

Y cymhwyster ar gyfer dileu

Yr Amgylchiadau

Y Swm Penodedig

Yr Atebolrwydd sydd heb ei Dalu

Dileu

Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.