The Regulation and Inspection of Social Care (Qualifications) (Wales) (Amendment) (EU Exit) Regulations 2019
(1) Mae’r adran hon yn gymwys i ymgeisydd perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 15A o Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019) (“V”) sydd wedi ei sefydlu’n gyfreithlon yn y Swistir fel gweithiwr cymdeithasol.
- (ii) mae is-adran (8) i’w darllen—
- (aa) fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r diffiniad o “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”—
- ystyr “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol” (“the General Systems Regulations”) yw Rheoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 (O.S. 2015/2059)—mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, fel yr oeddent yn cael effaith ar yr adeg honno ond yn ddarostyngedig i’r addasiad bod unrhyw gyfeiriad at “the Care Council for Wales” i’w ddarllen fel pe bai “Social Care Wales” wedi ei roi yn ei le,fel arall (a dim ond i’r graddau) y maent yn cael effaith, ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, mewn perthynas â hawlogaeth a gododd cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu neu sy’n codi o ganlyniad i rywbeth a wneir cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu;
- (bb) yn y diffiniad o “gwladolyn”, fel pe bai “nad oedd, yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu” wedi ei roi yn lle “nad yw”;
- (b) mae adran 90A (rheolwyr gofal cymdeithasol sydd ar ymweliad o Wladwriaethau Ewropeaidd perthnasol) i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)—
(1) Mae’r adran hon yn gymwys i ymgeisydd perthnasol (o fewn yr ystyr a roddir yn rheoliad 15A o Reoliadau Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymwysterau) (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019) (“X”) sydd wedi ei sefydlu’n gyfreithlon yn y Swistir fel rheolwr gofal cymdeithasol.
- (c) mae adran 113 (datblygiad proffesiynol parhaus) i’w darllen fel pe bai yn is-adran (5) “yw’r Swistir” wedi ei roi yn lle “yw’r Wladwriaeth” hyd at y diwedd.
Triniaeth gyfartal a chydweithredu gweinyddol o dan y cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd
18A
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ymgeisydd perthnasol.
- (2) Wrth ymdrin ag ymgeisydd perthnasol sy’n dilyn gwaith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol yng Nghymru yn unol â rheoliad 18 (gweithwyr cymdeithasol Swisaidd sydd ar ymweliad a rheolwyr gofal cymdeithasol Swisaidd sydd ar ymweliad: arbed yr hen gyfraith) mewn perthynas ag unrhyw fater, rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru beidio â thrin y person hwnnw yn llai ffafriol nag y byddai’n trin ymgeisydd brodorol (o fewn ystyr “native applicant” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2007) sy’n darparu’n gyfreithlon wasanaethau fel gweithiwr cymdeithasol neu fel rheolwr gofal cymdeithasol yng Nghymru mewn perthynas â’r mater hwnnw.
- (3) Pan fo person yn darparu gwasanaethau a fyddai’n gyfystyr, pe baent yn cael eu darparu yng Nghymru, â gwaith cymdeithasol neu waith fel rheolwr gofal cymdeithasol ar sail dros dro ac yn achlysurol yn y Swistir yn unol ag Erthygl 23 o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd, rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru gydweithredu â’r awdurdod cymwys priodol yn y Swistir a darparu iddo unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i gyfreithlondeb ymsefydliad ac ymddygiad da yr unigolyn, yn ogystal ag absenoldeb unrhyw sancsiynau disgyblu neu droseddol o natur broffesiynol, yn unol ag adran 159 o Ddeddf 2016 (datgelu gwybodaeth am addasrwydd i ymarfer).
- (4) Pan fo person wedi gwneud neu’n gwneud cais sy’n dod o fewn Erthygl 31(1) neu 32(1) neu (5) o’r cytundeb ar hawliau dinasyddion Swisaidd i awdurdod cymwys yn y Swistir i gymhwyster proffesiynol a ddyfernir neu a gydnabyddir gan Ofal Cymdeithasol Cymru gael ei gydnabod, rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru—
- (a) cydweithredu â’r awdurdod cymwys yn y Swistir neu’r person (yn ôl y digwydd), yn unol â’r ddarpariaeth cydweithredu cyffredinol, a
- (b) darparu gwybodaeth i’r awdurdod cymwys yn y Swistir ynghylch camau disgyblu a gymerwyd neu sancsiynau troseddol a osodwyd, neu unrhyw amgylchiadau difrifol penodol sy’n debygol o gael effaith wrth i’r unigolyn hwnnw ddilyn gweithgareddau proffesiynol.
- (5) Rhaid i Ofal Cymdeithasol Cymru brosesu gwybodaeth at ddibenion paragraffau (3) a (4) yn unol â’r ddeddfwriaeth diogelu data o fewn ystyr “the data protection legislation” yn adran 3(9) o Ddeddf Diogelu Data 201816.
- (6) Yn y rheoliad hwn—
- mae i “awdurdod cymwys” yr ystyr a roddir i “competent authority” gan reoliad 4(1) i (3) o Reoliadau 2007, ac o ran y Swistir ei ystyr yw corff yn y Swistir sy’n awdurdod cymwys at ddibenion rheoliad 4(4) o Reoliadau 2007;
- ystyr “y ddarpariaeth cydweithredu cyffredinol” (“the general cooperation provision”) yw rheoliad 5(2) i (7) o Reoliadau 2007 (swyddogaethau awdurdodau cymwys yn y Deyrnas Unedig), i’r graddau y mae’n gymwys mewn perthynas â Gofal Cymdeithasol Cymru.
- (7) At ddibenion y rheoliad hwn, mae Rheoliadau 2007 yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r addasiadau a ganlyn—
- (a) mae unrhyw gyfeiriad at “social worker in Wales” yn cael effaith fel pe bai “social worker or social care manager in Wales” wedi ei roi yn ei le,
- (b) mae unrhyw gyfeiriad at “the Care Council for Wales” yn cael effaith fel pe bai “Social Care Wales” wedi ei roi yn ei le.
Rhybuddion System Wybodaeth y Farchnad Fewnol (IMI)
19
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan—
- (a) bo person, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, yn cael hysbysiad o benderfyniad a wneir o dan reoliad 67 o Reoliadau’r Undeb Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) 2015 i anfon rhybudd ynglŷn â’r person, a
- (b) naill ai—
- (i) bo’r terfyn amser ar gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad o dan adran 105(1)(c) o Ddeddf 2016 yn dod i ben ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, neu
- (ii) bo apêl yn erbyn y penderfyniad o dan yr adran honno yn cael ei gwneud, ond ni phenderfynir yn derfynol arni, cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu.
- (2) Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed gan Ran 1, mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2016 yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r penderfyniad ar ac ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu fel yr oeddent yn gymwys cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu—
- (a) yn adran 66(1), y diffiniad o “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”;
- (b) yn adran 90(8), y diffiniad o “y Rheoliadau Systemau Cyffredinol”;
- (c) adran 105(1) (ond nid paragraffau (a) a (b) o’r is-adran honno ac yn ddarostyngedig i’r addasiad a bennir ym mharagraff (3) o’r rheoliad hwn).
- (3) At ddibenion paragraff (2)(c), mae adran 105(1)(c) o Ddeddf 2016 i’w darllen fel pe bai “Rheoliadau Systemau Cyffredinol (fel yr oeddent yn cael effaith ar yr adeg y gwnaed penderfyniad GCC16)” wedi ei roi yn lle “Rheoliadau hynny”.
- (4) Wrth waredu apêl yn erbyn y penderfyniad ar neu ar ôl diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, mae gan y tribiwnlys (yn lle’r pwerau a bennir yn adran 105(5) o Ddeddf 2016) y pŵer—
- (a) i gadarnhau’r penderfyniad, neu
- (b) os yw’r tribiwnlys yn ystyried y dylai’r rhybudd gael ei dynnu’n ôl neu ei ddiwygio, i gyfarwyddo Gofal Cymdeithasol Cymru i gymryd unrhyw gamau y mae’r tribiwnlys yn meddwl eu bod yn addas i hysbysu’r Comisiwn Ewropeaidd am benderfyniad y tribiwnlys.
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.