The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Commencement No. 6 and Transitional and Saving Provisions) Order 2021

Type Welsh-Statutory-Instrument
Publication 2021-11-09
Last updated 2023-08-21
State In force
Jurisdiction Wales
Department King's Printer of Acts of Parliament
PDF Download
articles Not indexed
Reform history JSON API

Gwnaed: 9 Tachwedd 2021

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018[^f00001], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Title and interpretation

1

  • (1) The title of this Order is the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Commencement No. 6 and Transitional and Saving Provisions) Order 2021.
  • (2) In this Order—
  • the 1996 Act” (“Deddf 1996”) means the Education Act 1996[^f00002];
  • the 2014 Act” (“Deddf 2014”) means the Children and Families Act 2014[^f00003];
  • the Act” (“y Ddeddf”) means the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018;
  • code” (“cod”) means a code on additional learning needs issued under section 4 of the Act;
  • child” (“plentyn”) means a person who is not over compulsory school age but does not include a person who is in year 11;
  • compulsory school age” (“oedran ysgol gorfodol”) has the same meaning as in section 8 of the 1996 Act;
  • EHC needs assessment” (“asesiad o anghenion AIG”) has the same meaning as in section 36(2) of the 2014 Act;
  • EHC plan” (“cynllun AIG”) has the same meaning as in section 37(2)[^f00004] of the 2014 Act;
  • individual development plan” (“cynllun datblygu unigol”) means a plan prepared and maintained under Chapter 2 of Part 2 of the Act;
  • institution in the further education sector” (“sefydliad yn y sector addysg bellach”) has the same meaning as in section 99 of the Act;
  • in the area of a local authority in England” (“yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr”) has the same meaning as in section 579(3A)[^f00005] of the 1996 Act;
  • in the area of a local authority in Wales” (“yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru”) has the same meaning as in section 579(3B)[^f00006] of the 1996 Act;
  • learning difficulty” (“anhawster dysgu”) has the same meaning as in—section 312(2)[^f00007] of the 1996 Act—in relation to a child in the area of a local authority in Wales but not a child who is a registered pupil at a mainstream school in England,in relation to a child in the area of a local authority in England who is a registered pupil at a maintained school in Wales, as if “a child in the area of a local authority in Wales” were omitted,section 20 of the 2014 Act in relation to a child in the area of a local authority in Wales who is a registered pupil at a mainstream school in England;
  • local authority” (“awdurdod lleol”) has the same meaning as in section 579[^f00008] of the 1996 Act;
  • looked after child” (“plentyn sy’n derbyn gofal”) has the same meaning as a child looked after by a local authority in section 15 of the Act;
  • mainstream school” (“ysgol brif ffrwd”) has the same meaning as in section 83(2) of the 2014 Act;
  • maintained school” (“ysgol a gynhelir”) has the same meaning as in section 99 of the Act;
  • nursery class” (“dosbarth meithrin”) means a class of pupils who are provided with nursery education;
  • nursery education” (“addysg feithrin”) has the same meaning as in section 117 of the School Standards and Framework Act 1998;
  • parent” (“rhiant”) has the same meaning as in section 576 of the 1996 Act;
  • registered pupil” (“disgybl cofrestredig”) has the same meaning as in section 434[^f00009] of the 1996 Act;
  • school year” (“blwyddyn ysgol”) has the same meaning as in section 579[^f00010] of the 1996 Act;
  • special educational provision” (“darpariaeth addysgol arbennig”) has the same meaning as in—section 312(4)[^f00011] of the 1996 Act—in relation to a child in the area of a local authority in Wales but not a child who is a registered pupil at a mainstream school in England,in relation to a child in the area of a local authority in England who is a registered pupil at a maintained school in Wales as if “in relation to a child in the area of a local authority in Wales” were omitted,section 21 of the 2014 Act in relation to a child in the area of a local authority in Wales who is a registered pupil at a mainstream school in England;
  • Tribunal” (“Tribiwnlys”) means the Education Tribunal for Wales[^f00012];
  • Tribunal Rules” (“Rheolau’r Tribiwnlys”) means Special Educational Needs Tribunal for Wales Regulations 2012[^f00013];
  • year 1” (“blwyddyn 1”) means a year group in which the majority of children will, in the school year, attain the age of 6;
  • year 3” (“blwyddyn 3”) means a year group in which the majority of children will, in the school year, attain the age of 8;
  • year 4” (“blwyddyn 4”) means a year group in which the majority of children will, in the school year, attain the age of 9;
  • year 5” (“blwyddyn 5”) means a year group in which the majority of children will, in the school year, attain the age of 10;
  • year 6” (“blwyddyn6”) means a year group in which the majority of children will, in the school year, attain the age of 11;
  • year 7” (“blwyddyn 7”) means a year group in which the majority of children will, in the school year, attain the age of 12;
  • year 8” (“blwyddyn 8”) means a year group in which the majority of children will, in the school year, attain the age of 13;
  • year 9” (“blwyddyn 9”) means a year group in which the majority of children will, in the school year, attain the age of 14;
  • year 10” (“blwyddyn 10”) means a year group in which the majority of children will, in the school year, attain the age of 15;
  • year 11” (“blwyddyn 11”) means a year group in which the majority of children will, in the school year, attain the age of 16;
  • year group” (“grŵp blwyddyn”) means a group of children at a school the majority of whom will, in a particular school year, attain the same age.
  • (3) References in this Order to “the old law” are to Chapter 1 of Part 4 of the 1996 Act but excluding—
  • (a) section 323;
  • (b) section 329;
  • (c) section 329A.
  • (4) References in this Order to “the new law” are to—
  • (a) the Act,
  • (b) a regulation or the code made under that Act, and
  • (c) any other provision of or made under an Act that has effect for the purposes of or in relation to—
  • (i) a provision of that Act or such regulations or code, or
  • (ii) a person to whom that Act or such regulations or code applies.
  • (5) For the purposes of this Order an appeal is finally determined if—
  • (a) a decision is made by a tribunal or court on the appeal, and
  • (b) if a request may be made to review the decision or it may be further appealed, and the period (or each of the periods) for doing so expires without a review being requested or further appeal being brought.
  • (6) For the purposes of this Order, a local authority is responsible for a child if he or she is in the area of the authority.
  • (7) For the purposes of this Order, where a child is—
  • (a) a looked after child, the appropriate local authority is the local authority that looks after the child;
  • (b) not a looked after child, the appropriate local authority is the local authority responsible for the child.

Meaning of identified special educational needs

2

  • (1) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan blentyn (“P”) “anghenion addysgol arbennig a nodwyd” os yw P yn ddisgybl cofrestredig—
  • (a) mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru ac yn blentyn sy’n derbyn gofal ond nid yn blentyn sy’n derbyn gofal sydd yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr;
  • (b) mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru ac—
  • (i) yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach), a
  • (ii) y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am P;

a bod ganddo anhawster dysgu a nodwyd gan gorff llywodraethu’r ysgol y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer P.

  • (2) Ond nid yw’n cynnwys plentyn—
  • (a) y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996;
  • (b) y mae awdurdod lleol yn cynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef;
  • (c) y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;
  • (d) y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i asesu ai peidio;
  • (e) y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—
  • (i) nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
  • (ii) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu
  • (iii) dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;
  • (f) y mae awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996;
  • (g) y mae awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad mewn perthynas ag ef yn dilyn asesiad ac—
  • (i) nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
  • (ii) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
  • (iii) dygwyd apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
  • (aa) gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn, neu
  • (bb) ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
  • (h) y mae rhaid i awdurdod lleol wneud datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996 ond nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn;
  • (i) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â chynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan baragraff 11(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 mwyach ac—
  • (i) nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben, neu
  • (ii) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
  • (j) y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo;
  • (k) nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 140 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000[^f00014]—
  • (i) yn mynd rhagddo, neu
  • (ii) wedi arwain at adroddiad ar anghenion addysgol a hyfforddi y person a’r ddarpariaeth sy’n ofynnol i’w diwallu;
  • (l) y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);
  • (m) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36, beidio â sicrhau asesiad o anghenion AIG mewn perthynas ag ef ac—
  • (i) nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
  • (ii) bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
  • (iii) bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
  • (iv) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
  • (v) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;
  • (n) y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—
  • (i) nad yw’r asesiad wedi cychwyn,
  • (ii) bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu
  • (iii) nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;
  • (o) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
  • (i) nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
  • (ii) bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
  • (iii) bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
  • (iv) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
  • (v) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
  • (aa) gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn, neu
  • (bb) ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
  • (p) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 ei bod yn angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ond nad yw’r cynllun hwnnw wedi ei lunio;
  • (q) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 45 o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol mwyach gynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
  • (i) nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
  • (ii) bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
  • (iii) bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
  • (iv) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(f) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni.

Provisions coming into force on 1 January 2022

3

Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ionawr 2022 mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022—

  • (a) adrannau 2 i 4;
  • (b) adrannau 6 i 14;
  • (c) adrannau 17 i 36;
  • (d) adran 38;
  • (e) adrannau 40 i 44;
  • (f) adrannau 47 i 49;
  • (g) adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
  • (h) adran 50(4) i (5);
  • (i) adrannau 51 i 53;
  • (j) adran 55;
  • (k) adran 59;
  • (l) adrannau 63 i 66;
  • (m) adrannau 68 i 69;
  • (n) adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
  • (o) yn yr Atodlen—
  • (i) paragraff 1;
  • (ii) paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (x);
  • (iii) paragraff 4(2) i 4(8);
  • (iv) paragraff 4(9);
  • (v) paragraff 4(10);
  • (vi) paragraff 4(13) i 4(18);
  • (vii) paragraff 4(19)(b);
  • (viii) paragraff 4(20) a 4(21);
  • (ix) paragraff 4(23) i 4(29);
  • (x) paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);
  • (xi) paragraff 7;
  • (xii) paragraff 8;
  • (xiii) paragraff 11(a);
  • (xiv) paragraff 12(a);
  • (xv) paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvi);
  • (xvi) paragraff 14(2) a (3);
  • (xvii) paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xviii);
  • (xviii) paragraff 19(5)(e)(ii);
  • (xix) paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xx);
  • (xx) paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);
  • (xxi) paragraff 22;
  • (xxii) paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiii);
  • (xxiii) paragraff 23(4);
  • (xxiv) paragraff 24(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxv);
  • (xxv) paragraff 24(3) a (6)(a).

Saving provision

4

Yn ddarostyngedig i erthyglau 9 i 12 a 14 i 19, er bod Pennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996[^f00015] wedi ei datgymhwyso gan adran 96 o’r Ddeddf a pharagraff 4(9) o’r Atodlen iddi mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd—

  • (a) mae’r hen gyfraith yn parhau i gael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw, a
  • (b) nid yw’r gyfraith newydd yn cael effaith mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.

IDP notice

5

Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad CDU sy’n cadarnhau—

  • (a) bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf, a
  • (b) y bydd cynllun datblygu unigol yn cael ei lunio ar gyfer y plentyn.

No IDP notice

6

Hysbysiad a roddir i blentyn a rhiant plentyn yw hysbysiad Dim CDU sy’n cadarnhau bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf.

Effect of IDP notice

7

Effaith yr hysbysiad CDU yw—

  • (a) y bernir bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf,
  • (b) bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw, ac
  • (c) bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.

Effect of No IDP notice

8

Effaith yr hysbysiad Dim CDU yw—

  • (a) y bernir bod yr awdurdod lleol priodol wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf,
  • (b) bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw, ac
  • (c) bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar y dyddiad hwnnw.

Duty to give a notice

9

  • (1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022 ac sydd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 3, blwyddyn 5, blwyddyn 7 neu flwyddyn 10.
  • (2) Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022 neu’r flwyddyn ysgol 2022-2023.

10

  • (1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022 ac sydd ym mlwyddyn10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023.
  • (2) Oni bai bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, rhaid i’r awdurdod lleol priodol roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn a rhiant y plentyn yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023.

11

  • (1) This article applies to a child who on 1 September 2023 has identified special educational needs and who did not come within article 9, 10 or 10A .
  • (2) Unless the new law applies in relation to the child, the appropriate local authority must either give an IDP notice or a No IDP notice to the child and the child’s parent during the 2023-2024 school year or the 2024-2025 school year.

Right to request an IDP notice or a No IDP notice

12

Caiff plentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022 neu riant y plentyn hwnnw ofyn i’r awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU a rhaid i’r awdurdod roi naill ai hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU o fewn 15 niwrnod gwaith i’r cais.

Time for giving an individual development plan

13

  • (1) When an IDP notice is given pursuant to articles 9, 10, 10A, 11, or 12 the appropriate local authority must give a copy of the individual development plan to the child and the child’s parent within 12 weeks of the date of the notice, unless there are exceptional circumstances.
  • (2) If there are exceptional circumstances a copy of the individual development plan must be given as soon as is reasonably practicable.
  • (3) Any timescales in the code relating to the preparation by a local authority of an individual development plan do not apply when an individual development plan is prepared following the giving of an IDP notice.

ALN Notice

14

  • (1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022.
  • (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad ADY i blentyn a rhiant y plentyn hwnnw ar unrhyw adeg.
  • (3) Effaith yr hysbysiad ADY yw—
  • (a) bod y gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddyddiad yr hysbysiad, a
  • (b) bod yr hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn ar ddyddiad yr hysbysiad.
  • (4) Ni chaiff yr awdurdod lleol priodol ond rhoi hysbysiad ADY o dan amgylchiadau eithriadol.

Children for whom the new law does not apply by a certain date

15

  • (1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
  • (a) a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022,
  • (b) a oedd mewn dosbarth meithrin neu ym mlwyddyn 1, blwyddyn 3, blwyddyn 5, blwyddyn 7 neu flwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022, ac
  • (c) nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023.
  • (2) Ar 31 Awst 2023—
  • (a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
  • (b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

16

  • (1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn—
  • (a) a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022,
  • (b) a oedd ym mlwyddyn 10 yn ystod y flwyddyn ysgol 2022-2023, ac
  • (c) nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas ag ef ar 30 Awst 2023.
  • (2) Ar 31 Awst 2023—
  • (a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
  • (b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

17

  • (1) This article applies to a child—
  • (a) who had identified special educational needs on 1 January 2022, and
  • (b) in relation to whom the new law does not apply on 30 August 2025.
  • (2) On 31 August 2025 —
  • (a) the new law applies in relation to the child, and
  • (b) the old law ceases to apply in relation to the child.

Change of circumstances

18

  • (1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022—
  • (a) sy’n peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach),
  • (b) nad yw’n blentyn sy’n derbyn gofal,
  • (c) nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad Dim CDU ar ei gyfer, a
  • (d) y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
  • (2) Ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall—
  • (a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
  • (b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

19

  • (1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i blentyn a oedd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Ionawr 2022—
  • (a) sy’n peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal,
  • (b) nad oes cais wedi ei wneud am hysbysiad CDU nac hysbysiad Dim CDU ar ei gyfer, ac
  • (c) y mae’r hen gyfraith yn gymwys mewn perthynas ag ef.
  • (2) Ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn blentyn sy’n derbyn gofal—
  • (a) mae’r gyfraith newydd yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn, a
  • (b) mae’r hen gyfraith yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.

Regard to special educational provision when preparing an individual development plan

20

Pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol lunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn o fewn 12 wythnos i symud i’r gyfraith newydd, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw i’r ddarpariaeth addysgol arbennig a ddarparwyd i’r plentyn yn union cyn symud i’r gyfraith newydd.

Signed

Jeremy Miles — Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru — 9 November 2021

Explanatory note

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

NODYN ESBONIADOL

Mae’r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (“y Ddeddf”).

Mae’r Ddeddf yn sefydlu fframwaith statudol ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn disodli’r ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc ag anawsterau dysgu.

Daw’r darpariaethau a restrir yn erthygl 3 i rym ar 1 Ionawr 2022 mewn perthynas â’r rheini sydd ym mlwyddyn 10 ac yn is, sy’n mynychu ysgol a gynhelir (gan gynnwys uned cyfeirio disgyblion), sydd ag anghenion addysgol arbennig penodol a nodwyd ac sydd naill ai yn blant sy’n derbyn gofal neu sydd wedi cofrestru mewn sefydliad arall. Mae’n eithrio rhai eraill sy’n ymwneud â’r fframwaith statudol presennol, gan gynnwys y rheini sydd â datganiad anghenion addysgol arbennig (erthygl 2).

Mae erthygl 1 yn cynnwys diffiniadau, gan gynnwys y “gyfraith newydd” yn y Ddeddf a’r “hen gyfraith” yn Rhan 4 o Ddeddf Addysg 1996. Hyd nes y caiff plentyn ei drosglwyddo i’r gyfraith newydd, bydd yr hen gyfraith yn parhau i fod yn gymwys i’r plentyn ac ni fydd y gyfraith newydd yn cael effaith (erthygl 4).

Mae’r Gorchymyn hwn yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol priodol (gweler erthygl 1(7)) roi hysbysiad i blentyn mewn grŵp blwyddyn penodol mewn blwyddyn ysgol benodol (erthyglau 9 i 11). Er enghraifft, bydd plentyn sydd mewn dosbarth meithrin, neu sydd ym mlwyddyn 1, 3, 5, 7 neu 10 yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd yn ystod y flwyddyn ysgol 2021-2022. Dyddiad yr hysbysiad a roddir i blentyn penodol fydd y dyddiad y mae’r plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd.

Caiff yr awdurdod lleol priodol roi hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU i’r plentyn. Mae hysbysiad CDU yn golygu y bernir bod gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf ar ddyddiad yr hysbysiad ac y bwriedir llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y plentyn (erthygl 5). Mae hysbysiad Dim CDU yn golygu y bernir nad oes gan y plentyn anghenion dysgu ychwanegol at ddibenion Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf ar ddyddiad yr hysbysiad (erthygl 6).

Caiff plentyn ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd neu riant y plentyn ofyn bod hysbysiad yn cael ei roi (erthygl 12). Pan fo cynllun datblygu unigol wedi ei lunio yn dilyn hysbysiad CDU, rhaid rhoi copi o’r cynllun datblygu unigol i’r plentyn a rhiant y plentyn o fewn 12 wythnos i ddyddiad yr hysbysiad oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn gymwys (erthygl 13).

Caiff yr awdurdod lleol priodol hefyd, o dan amgylchiadau eithriadol, roi i unrhyw blentyn a rhiant y plentyn hwnnw hysbysiad ADY a fydd yn trosglwyddo’r plentyn i’r gyfraith newydd (erthygl 14).

Os nad yw’r plentyn wedi trosglwyddo i’r gyfraith newydd erbyn diwedd y flwyddyn ysgol y dylai’r plentyn fod wedi trosglwyddo, mae’r hen gyfraith yn peidio â chael effaith ac mae’r gyfraith newydd yn cael effaith ar ddiwrnod olaf y flwyddyn ysgol berthnasol (erthyglau 15 i 17).

Mae erthygl 18 yn gymwys pan fo plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall ac na fo’n derbyn gofal. Bydd y plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â bod yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall.

Mae erthygl 19 yn gymwys i blentyn sy’n peidio â derbyn gofal. Bydd y plentyn yn trosglwyddo i’r gyfraith newydd ar y dyddiad y mae’r plentyn yn peidio â derbyn gofal gan yr awdurdod lleol.

Wrth lunio cynllun datblygu unigol ar gyfer plentyn ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd, o dan amgylchiadau penodol, rhaid rhoi sylw i’r ddarpariaeth addysgol arbennig yr oedd y plentyn yn ei chael yn union cyn trosglwyddo i’r gyfraith newydd (erthygl 20).

Footnotes

[^f00001]: 2018 dccc 2.

[^f00002]: Diwygiwyd gan Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22), adran 59 a pharagraffau 1 a 6 o Atodlen 2, gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 ac 11 o Atodlen 3, gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 a pharagraff 7 o Atodlen 2, gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 57, paragraff 23 o Atodlen 7 ac Atodlen 8.

[^f00003]: Amnewidiwyd y diffiniad o “awdurdod lleol” gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 3.

[^f00004]: Mewnosodwyd diffiniad o “blwyddyn ysgol” gan Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), adran 57, paragraff 43 o Atodlen 7.

[^f00005]: Diwygiwyd gan Ddeddf Gofal 2014 a Gorchymyn Deddf Plant a Theuluoedd 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) 2015 (O.S. 2015/914), erthygl 2 a pharagraff 97 o’r Atodlen.

[^f00006]: Diwygiwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 ac 11 o Atodlen 3, gan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 5 a pharagraff 7 o Atodlen 2, gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 71 o Atodlen 30 ac Atodlen 31.

[^f00007]: 1996 p. 56.

[^f00008]: 2014 p. 6.

[^f00009]: Diwygiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), adran 140 a pharagraff 111 o Atodlen 30 a chan Orchymyn Awdurdodau Addysg Lleol ac Awdurdodau Gwasanaethau Plant (Integreiddio Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/1158), erthygl 3.

[^f00010]: O.S. 2012/322 (Cy. 53).

[^f00011]: Arferai Tribiwnlys Addysg Cymru gael ei alw’n Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Gweler adran 91 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.

[^f00012]: Mewnosodwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 a 59 o Atodlen 3 a diwygiwyd gan adran 95 o’r Ddeddf.

[^f00013]: Mewnosodwyd gan Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6), adran 82 a pharagraffau 1 a 59 o Atodlen 3 a diwygiwyd gan adran 95 o’r Ddeddf.

[^f00014]: 2000 p. 21.

[^f00015]: Gweler erthygl 3 o’r Gorchymyn hwn a gychwynnodd y darpariaethau hynny.

[^f00016]: Gweler Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021 (O.S. 2021/1243 (Cy. 315) (C. 68)) a Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 7) 2021 (O.S. 2021/1245 (Cy. 317) (C. 70)) sy’n dwyn i rym ddarpariaethau at ddibenion penodol ar yr un dyddiad â’r Gorchymyn hwn.

[^f00017]: Diwygiwyd gan O.S. 2021/735 (Cy. 184) (C. 34).

[^f00018]: Diwygiwyd gan O.S. 2021/735 (Cy. 184) (C. 34).

Editorial notes

[^key-cc425d5eed94f9d25740b9d8cd5a9bd3]: Art. 1 in force at made date

[^key-d683972c0e79052a033df95588ba4794]: Art. 2 in force at made date

[^key-ee842d262d7ba892820711f9700199b1]: Art. 3 in force at made date

[^key-a9aea0c867dec444697affced2de8289]: Art. 4 in force at made date

[^key-5eff71c2d12c2e047283ee25e08947c1]: Art. 5 in force at made date

[^key-c0d2544ff572a3360238b4f1512aa671]: Art. 6 in force at made date

[^key-3c36d15f2b378538062bd5620b993267]: Art. 7 in force at made date

[^key-0a9ea5ab54a25ee7cd0d59954f3c9a57]: Art. 8 in force at made date

[^key-b01af79f853498dba7dcf7bf1dab2615]: Art. 9 in force at made date

[^key-0535e3acb4941fc144e22fcd4afd9adf]: Art. 10 in force at made date

[^key-7414710e2d031a953ad4f70eece921ac]: Art. 11 in force at made date

[^key-c4c98c875583813da27181c541ca72e7]: Art. 12 in force at made date

[^key-acc42ea86ae14af98ee67e3c7a0a9214]: Art. 13 in force at made date

[^key-095215407bf01d538574736cf7ef17d2]: Art. 14 in force at made date

[^key-01cc3b5acc689b360881964f5676ec22]: Art. 15 in force at made date

[^key-bbb987c7afba2f384f262e397ee56c57]: Art. 16 in force at made date

[^key-0719e2e133f30c1495fbb0be055df474]: Art. 17 in force at made date

[^key-66e297e6603c40d36c8916ddedafb7ba]: Art. 18 in force at made date

[^key-5b4e0235eee3ba21c898d2d61950d213]: Art. 19 in force at made date

[^key-3296557081f2e0d6cc90e5832382a73e]: Art. 20 in force at made date

[^key-8d03204bcb1b81345fde75e58940c42c]: Art. 21 inserted (14.12.2021) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Order No. 5 and Commencement Order No. 6) Order 2021 (S.I. 2021/1428), art. 3(2)

[^key-83d1c03767cdd8422230fb1991ede1fc]: Words in art. 10(1) omitted (10.6.2022) by virtue of The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Order No. 5 and Commencement Order No. 6) Order 2022 (S.I. 2022/663), art. 3(3)

[^key-089f70636fc32ab5aa9d7fabf40c92ae]: Words in art. 9(2) inserted (10.6.2022) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Order No. 5 and Commencement Order No. 6) Order 2022 (S.I. 2022/663), art. 3(2)

[^key-74be1d22bea2e815b7a57f88e3c41b30]: Word in art. 15(1)(c) substituted (10.6.2022) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Order No. 5 and Commencement Order No. 6) Order 2022 (S.I. 2022/663), art. 3(4)(a)

[^key-9699452152d06970c0f6084b5c14fbdc]: Word in art. 15(2) substituted (10.6.2022) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Order No. 5 and Commencement Order No. 6) Order 2022 (S.I. 2022/663), art. 3(4)(b)

[^key-189aea60d1647d8db5fb310bad3798c9]: Words in art. 16(1)(b) omitted (10.6.2022) by virtue of The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Order No. 5 and Commencement Order No. 6) Order 2022 (S.I. 2022/663), art. 3(5)

[^key-918e432bb20f6b488a012f83fbbd46ef]: Words in art. 1(2) inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 3(2)

[^key-db8bd97341ce76e5607a41a72e633e4f]: Words in art. 11(1) substituted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 3(4)(a)

[^key-a4693a0793ee716dc144384842409069]: Words in art. 11(2) inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 3(4)(b)

[^key-79f792106ece956f5c56c34875b9a453]: Word in art. 13(1) inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 3(5)

[^key-ace18f3b2e48d783a1ec30ece5614447]: Word in art. 17 substituted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 3(7)

[^key-86f24b440b2ba30d2af46a8ad7fa0616]: Word in art. 21(1)(a) inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 3(8)

[^key-9c64aa4067851cdec51e9957ab830faa]: Art. 10A inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 3(3)

[^key-be135719934da21daddc118dae4f1690]: Art. 16A inserted (21.8.2023) by The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Amendment of Commencement Orders No. 5, No. 6, No. 8, No. 13 and No. 14) Order 2023 (S.I. 2023/932), art. 3(6)

Capacity of children

21

  • (1) Paragraph (2) applies to—
  • (a) the duty to give a child an IDP notice or a No IDP notice in articles 9(2), 10(2) , 10A(2) and 11(2);
  • (b) the duty to give a notice following a request by a child under article 12;
  • (c) the duty to give a child a copy of the individual development plan within 12 weeks in article 13(1);
  • (d) the power to give a child an ALN notice in article 14(2).
  • (2) The duty or power does not apply if the appropriate local authority considers that the child does not have capacity to understand the subject matter.
  • (3) Where paragraph (2) applies in relation to the duty in paragraph (1)(a) or (b), the first reference to a child in article 5 is to be read as if it were omitted.
  • (4) Where paragraph (2) applies in relation to the duty in paragraph (1)(a) or (b), the first reference to a child in article 6 is to be read as if it were omitted.

10A

  • (1) This article applies to a child who on 1 September 2023 has identified special educational needs and who is in year 6 or in year 10 during the 2023-2024 school year.
  • (2) Unless the new law applies in relation to the child, the appropriate local authority must either give an IDP notice or a No IDP notice to the child and the child’s parent during the 2023-2024 school year.

16A

  • (1) This article applies to a child—
  • (a) who had identified special educational needs on 1 January 2022,
  • (b) who was in year 6 or in year 10 during the 2023-2024 school year, and
  • (c) in relation to whom the new law does not apply on 30 August 2024.
  • (2) On 31 August 2024—
  • (a) the new law applies in relation to the child, and
  • (b) the old law ceases to apply in relation to the child.

Enwi a dehongli

Ystyr anghenion addysgol arbennig a nodwyd

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ionawr 2022

Darpariaeth arbed

Hysbysiad CDU

Hysbysiad Dim CDU

Effaith hysbysiad CDU

Effaith hysbysiad Dim CDU

Dyletswydd i roi hysbysiad

Hawl i ofyn am hysbysiad CDU neu hysbysiad Dim CDU

Amser ar gyfer rhoi cynllun datblygu unigol

Hysbysiad ADY

Plant nad yw’r gyfraith newydd yn gymwys iddynt erbyn dyddiad penodol

Newid mewn amgylchiadau

Sylw i ddarpariaeth addysgol arbennig wrth lunio cynllun datblygu unigol

Galluedd plant

Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.

This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence. legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.