The Local Government and Elections (Wales) Act 2021 (Commencement No. 1 and Saving Provision) Order 2021
Gwnaed: 3 Mawrth 2021
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 175(7) ac (8) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021[^f00001].
Title and interpretation
1
- (1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaeth Arbed) 2021.
- (2) Yn y Gorchymyn hwn—
- ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000[^f00002];
- ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
Provisions coming into force on the day after the day on which this Order is made
2
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn—
- (a) adran 28;
- (b) adran 30(3);
- (c) adran 35;
- (d) adran 46(1)(b), (c) a (2)(b) i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
- (e) adran 46(3), (4) ac (8) i (10);
- (f) adran 47(8);
- (g) adran 59;
- (h) adran 161(1).
Provisions coming into force on 1 April 2021
3
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2021—
- (a) adran 163;
- (b) adran 164.
Provisions coming into force on 1 November 2021
4
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Tachwedd 2021—
- (a) adrannau 24 i 27;
- (b) adran 29;
- (c) Rhan 1 o Atodlen 3.
Provision coming into force on 1 April 2022
5
Daw adran 52 o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2022.
Provisions coming into force on 5 May 2022
6
The following provisions of the Act come into force on 5 May 2022—
- (a) section 30 to the extent not already in force;
- (b) sections 31 to 34;
- (c) sections 36 and 37;
- (d) Chapter 2 of Part 3;
- (e) section 45;
- (f) section 46 to the extent not already in force;
- (g) section 48;
- (h) section 54;
- (i) section 56;
- (j) section 57;
- (k) section 58;
- (l) section 62;
- (m) section 63;
- (n) sections 65 and 66;
- (o) section 67;
- (p) section 161 to the extent not already in force;
- (q) section 162;
- (r) Part 2 of Schedule 3;
- (s) Schedule 5;
- (t) paragraphs 1, 3 to 5 and 6(1) to (4) of Schedule 6;
- (u) Schedule 7;
- (v) Schedule 13.
Saving provision relating to the power to promote well-being
7
Er bod erthygl 6 yn dod â Rhan 2 o Atodlen 3 i’r Ddeddf i rym, mae adrannau 2 a 3 o Ddeddf 2000 yn parhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir gan gyngor cymuned cyn 5 Mai 2022 yn unol â’i bŵer yn adran 2 o Ddeddf 2000, hyd nes y bo—
- (a) y peth hwnnw wedi ei gwblhau; neu
- (b) y cyngor cymuned wedi penderfynu dod yn gyngor cymuned cymwys o dan adran 30(1) o’r Ddeddf.
Signed
Julie James — Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru — 3 Mawrth 2021
Explanatory note
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
NODYN ESBONIADOL
Hwn yw’r gorchymyn cychwyn cyntaf a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”).
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn—
- (a) adran 28 (pŵer cymhwysedd cyffredinol: pwerau i wneud darpariaeth atodol);
- (b) adran 30(3) (amod cymhwystra mewn perthynas â’r pŵer cymhwysedd cyffredinol ar gyfer cynghorau cymuned a phŵer Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â’r amod hwnnw);
- (c) adran 35 (pŵer i ddiwygio neu addasu Pennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf);
- (d) adran 46(1)(b), (c) a (2)(b) (pwerau Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â darllediadau electronig o gyfarfodydd awdurdodau lleol penodol) i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol at ddiben gwneud rheoliadau;
- (e) adran 46(3), (4) ac (8) i (10) (pwerau Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau mewn perthynas â darllediadau electronig o gyfarfodydd awdurdodau lleol penodol);
- (f) adran 47(8) (pŵer Gweinidogion Cymru i ddiwygio adran 47 o’r Ddeddf mewn perthynas â mynychu cyfarfodydd awdurdod lleol);
- (g) adran 59 (cynnwys canllawiau o dan adran 38 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”), a dyletswydd i roi sylw iddynt);
- (h) adran 161(1) (pennaeth gwasanaethau democrataidd: diwygiadau i Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 (“Mesur 2011”)).
Mae erthygl 3 yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2021—
- (a) adran 163 (y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol yn penodi ei brif weithredwr);
- (b) adran 164 (cyfarwyddydau o dan adran 48 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013).
Mae erthygl 4 yn dwyn i rym ddarpariaethau sy’n ymwneud â’r pŵer cymhwysedd cyffredinol ar 1 Tachwedd 2021.
Mae erthygl 5 yn dwyn adran 52 (adroddiadau blynyddol gan gynghorau cymuned) o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2022.
Mae erthygl 6 yn dwyn y darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 5 Mai 2022—
- (a) adrannau 30 (i’r graddau nad yw eisoes mewn grym), 31 i 34, a 36 a 37 (pŵer cymhwysedd cyffredinol: cynghorau cymuned cymwys);
- (b) Pennod 2 o Ran 3 (cyfranogiad y cyhoedd pan fo prif gynghorau yn gwneud penderfyniadau);
- (c) adran 45 (dyletswydd ar brif gynghorau i gyhoeddi cyfansoddiad ac arweiniad i’r cyfansoddiad);
- (d) adran 46 (darllediadau electronig o gyfarfodydd awdurdodau lleol penodol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
- (e) adran 48 (cyfranogi yng nghyfarfodydd cynghorau cymuned);
- (f) adran 54 (prif weithredwyr);
- (g) adran 56 (diwygiadau i Fesur 2011 yn ymwneud ag ailystyried cydnabyddiaeth ariannol yn dilyn cyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru);
- (h) adran 57 (penodi cynorthwywyr gweithrediaeth);
- (i) adran 58 (rhannu swydd: arweinyddion gweithrediaeth ac aelodau gweithrediaeth);
- (j) adran 62 (dyletswyddau ar arweinyddion grwpiau gwleidyddol mewn perthynas â safonau ymddygiad);
- (k) adran 63 (dyletswydd ar bwyllgor safonau i wneud adroddiad blynyddol);
- (l) adrannau 65 a 66 (pwyllgorau trosolwg a chraffu);
- (m) adran 67 (cynlluniau hyfforddi cynghorau cymuned);
- (n) adran 161 (pennaeth gwasanaethau democrataidd: diwygiadau pellach i Fesur 2011 a diwygiadau i Ddeddf Lleoliaeth 2011) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
- (o) adran 162 (diddymu’r pŵer i gynnal pleidleisiau o ganlyniad i gyfarfod cymunedol);
- (p) Rhan 2 o Atodlen 3 (diwygiadau mewn perthynas â’r pŵer cymhwysedd cyffredinol: cynghorau cymuned cymwys);
- (q) Atodlen 5 (diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â phrif weithredwyr);
- (r) Atodlen 6 (diwygiadau canlyniadol etc. mewn perthynas â chynorthwywyr gweithrediaethau awdurdodau lleol) ac eithrio paragraff 6(5);
- (s) Atodlen 7 (rhannu swyddi gan arweinyddion gweithrediaeth ac aelodau gweithrediaeth);
- (t) Atodlen 13 (diddymu’r pŵer i gynnal pleidleisiau o ganlyniad i gyfarfodydd cymunedol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972).
Mae erthygl 7 yn arbed adrannau 2 a 3 o Ddeddf 2000 mewn perthynas ag unrhyw beth a wneir gan gyngor cymuned cyn 5 Mai 2022 yn unol â’i bŵer yn adran 2 o’r Ddeddf honno hyd nes y bo’r peth hwnnw wedi ei gwblhau neu’r cyngor cymuned wedi penderfynu dod yn gyngor cymuned cymwys o dan adran 30(1) o’r Ddeddf.
Footnotes
[^f00001]: 2021 dsc 1.
[^f00002]: 2000 p. 22.
Editorial notes
[^key-5d217a9f79ecc95b311598f4cf478740]: Art. 1 in force at 3.3.2021
[^key-90553be920df1c634f63b19029a9ce4e]: Art. 2 in force at 3.3.2021
[^key-08d0675a76533c6ba828d33cf7a4dba6]: Art. 3 in force at 3.3.2021
[^key-f613f1e3542c053be7cd317cde3a016a]: Art. 4 in force at 3.3.2021
[^key-1dddea7b43efd295fe0585533664ce82]: Art. 5 in force at 3.3.2021
[^key-d0ba22fba99d8bbb93276c0181750124]: Art. 6 in force at 3.3.2021
[^key-581e69703aba157965684e713a54ccf9]: Art. 7 in force at 3.3.2021
[^key-9d0f25d2fea0067e7555af20dab39e0f]: Art. 6(t) substituted (9.11.2021) by The Local Government and Elections (Wales) Act 2021 (Commencement No. 4 and Transitional Provision and Amendment of Commencement Order No. 1) Order 2021 (S.I. 2021/1249), art. 3(2)
Enw a dehongli
Y darpariaethau sy’n dod i rym drannoeth y diwrnod y gwneir y Gorchymyn hwn
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2021
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Tachwedd 2021
Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 1 Ebrill 2022
Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 5 Mai 2022
Darpariaeth arbed sy’n ymwneud â’r pŵer i hybu llesiant
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.