The Additional Learning Needs (Wales) Regulations 2021
Gwnaed: am 1.40 p.m. ar 24 Mawrth 2021
Yn dod i rym: 1 Medi 2021
Yn unol ag adran 98(3) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad[^f00002].
RHAN 1 — CYFFREDINOL
Title, commencement and revocation
1
- (1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2021.
- (2) Deuant i rym ar 1 Medi 2021.
- (3) Mae Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020[^f00003] wedi eu dirymu.
General interpretation
2
- (1) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2018” yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.
- (2) Mae i gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at berson sy’n ddarostyngedig i orchymyn cadw (sut bynnag y’i mynegir) yr ystyr a roddir i’r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw gan adran 562(1A)(a), (2) a (3) o Ddeddf Addysg 1996[^f00004].
- (3) Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf 2018 ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
- (4) Pan fo’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cyfnod y mae’n ofynnol gwneud rhywbeth ynddo, neu cyn ei ddiwedd, ac na fo diwrnod olaf y cyfnod hwnnw yn ddiwrnod gwaith, mae’r cyfnod yn cael ei estyn i gynnwys y diwrnod gwaith canlynol.
Giving notice etc. under these Regulations
3
- (1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol (ar ba delerau bynnag) i gorff llywodraethu, awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru, neu’n awdurdodi (ar ba delerau bynnag) corff llywodraethu, awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru i—
- (a) hysbysu person am rywbeth, neu
- (b) rhoi dogfen i berson (gan gynnwys hysbysiad neu gopi o ddogfen).
- (2) Mae adran 88 o Ddeddf 2018 (rhoi hysbysiad etc. o dan y Rhan hon) yn gymwys i’r ddarpariaeth—
- (a) fel pe bai’n ddarpariaeth yn Rhan 2 o Ddeddf 2018,
- (b) fel pe bai’r cyfeiriadau yn yr adran honno at gorff llywodraethu neu awdurdod lleol yn gyfeiriadau at gorff llywodraethu, awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru, ac
- (c) fel pe bai’r cyfeiriad yn adran 88(4) at adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978[^f00005] (cyfeiriadau at gyflwyno drwy’r post) yn gyfeiriad at adran 13 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019[^f00006] (cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronig).
Giving notice etc. under Part 2 of the 2018 Act: amendment of section 88
4
Ar ddiwedd adran 88 o Ddeddf 2018 mewnosoder—
(6) Mae hysbysiad neu ddogfen a roddir i berson drwy ei anfon neu ei hanfon yn electronig yn unol â’r adran hon i gael ei drin neu ei thrin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai wedi ei roi neu ei rhoi, oni phrofir i’r gwrthwyneb, ar y diwrnod yr anfonwyd y cyfathrebiad electronig.
RHAN 2 — CYNLLUNIAU DATBLYGU UNIGOL
Categories of looked after child prescribed under section 15 of the 2018 Act
5
Nid yw plentyn i’w drin fel pe bai’n derbyn gofal at ddibenion Deddf 2018 os nad yw’n ofynnol, gan neu o dan adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014[^f00007] (plant sy’n derbyn gofal a phlant sy’n cael eu lletya), i gynllun addysg personol (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 83(2A) o’r Ddeddf honno) gael ei gynnwys fel rhan o gynllun gofal a chymorth y plentyn o dan yr adran honno.
Local authority decisions on necessity of individual development plans for young people
Interpretation of regulations 6 to 9 and Schedule 1
6
- (1) Yn y rheoliad hwn, rheoliadau 7 i 9 ac Atodlen 1—
- ystyr “addysg bellach neu hyfforddiant” (“further education or training”) yw addysg neu hyfforddiant sy’n addas i ofynion personau sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol a gweithgaredd amser hamdden wedi ei drefnu sy’n gysylltiedig ag addysg neu hyfforddiant o’r fath, ond nid yw’n cynnwys unrhyw addysg neu hyfforddiant a geir gan berson ifanc tra bo’n ddarostyngedig i orchymyn cadw (gweler rheoliad 2(2) ar gyfer pa bryd y mae person yn ddarostyngedig i orchymyn cadw);
- ystyr “deilliannau” (“outcomes”) yw deilliannau sy’n gysylltiedig â pharatoi ar gyfer gwaith, symud ymlaen i addysg arall, gan gynnwys addysg uwch, neu gyfleoedd hyfforddi neu ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol neu sgiliau neu nodweddion defnyddiol eraill ar gyfer bod yn oedolyn;
- ystyr “rhaglen astudio” (“programme of study”) yw un neu ragor o gyrsiau o addysg bellach neu hyfforddiant, pa un a yw’n arwain at gymhwyster ai peidio ac yn achos mwy nag un cwrs, pa un a yw’r cyrsiau yn cael eu dilyn yn gydredol neu’n olynol ai peidio (ond os ydynt yn cael eu dilyn yn olynol rhaid iddynt fod yn rhan o raglen astudio gyffredinol).
- (2) Wrth benderfynu ar gyfnod para rhaglen astudio at ddibenion rheoliad 9 ac Atodlen 1—
- (a) mae rhaglen astudio yn cael ei thrin fel pe bai’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person ifanc yn cychwyn, neu y disgwylir iddo gychwyn, ar y rhaglen astudio ac yn dod i ben â’r diwrnod y disgwylir i’r person ei chwblhau, a
- (b) os yw’r rhaglen, neu ran ohoni, yn para am o leiaf 38 o wythnosau mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn, mae’r rhaglen, neu’r rhan honno ohoni, yn cael ei thrin fel pe bai’n cael ei chynnal dros flwyddyn.
- (3) Wrth benderfynu ar gyfnod para addysg bellach neu hyfforddiant arall a ddilynir gan berson ifanc at ddibenion rheoliad 9 ac Atodlen 1—
- (a) mae’r addysg bellach neu’r hyfforddiant yn cael ei thrin neu ei drin fel pe bai wedi dechrau â diwrnod cyntaf y mis y cychwynnodd y person ifanc arni neu arno ac yn dod i ben â diwrnod olaf y mis—
- (i) y cwblhaodd y person ifanc yr addysg bellach neu’r hyfforddiant neu y peidiodd fel arall â chael yr addysg bellach neu’r hyfforddiant, neu
- (ii) y disgwylir i’r person ifanc gwblhau’r addysg bellach neu’r hyfforddiant neu y disgwylir fel arall iddo beidio â chael yr addysg bellach neu’r hyfforddiant;
- (b) os yw’r addysg bellach neu’r hyfforddiant, neu ran ohoni neu ohono, yn para am o leiaf 38 o wythnosau mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn, mae’n cael ei thrin neu ei drin, neu mae’r rhan honno ohoni neu ohono yn cael ei thrin, fel pe bai’n cael ei chynnal neu ei gynnal dros flwyddyn.
Potential programme of study
7
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i benderfyniad awdurdod lleol o dan adran 14(1)(c)(ii) neu 31(6)(b) o Ddeddf 2018 o ran a yw cynllun datblygu unigol yn angenrheidiol ar gyfer person ifanc nad yw’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru nac wedi ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru.
- (2) Rhaid i’r awdurdod lleol—
- (a) nodi deilliannau dymunol y person ifanc, os oes rhai, a
- (b) ystyried pa raglenni astudio a all fod ar gael ac a fyddai’n addas i alluogi’r person ifanc i gyflawni’r deilliannau dymunol hynny.
- (3) Wrth ystyried y mater ym mharagraff (2)(b)—
- (a) yn gyntaf rhaid i’r awdurdod lleol ystyried rhaglenni astudio mewn ysgolion prif ffrwd a gynhelir neu sefydliadau yn y sector addysg bellach;
- (b) ni chaiff yr awdurdod lleol ystyried rhaglenni astudio mewn sefydliadau ac eithrio’r rheini a grybwyllir ym mharagraff (7) ond pan fo’n ymddangos yn debygol na ellir diwallu anghenion rhesymol y person ifanc am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol i ddilyn rhaglen astudio addas oni bai bod yr awdurdod lleol yn sicrhau ar gyfer y person ifanc—
- (i) lle mewn sefydliad ac eithrio un a grybwyllir ym mharagraff (7), neu
- (ii) bwyd a llety.
- (4) Wrth benderfynu a yw rhaglen astudio a ddarperir gan sefydliad ac eithrio un a grybwyllir ym mharagraff (7) yn addas ar gyfer person ifanc, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried, yn unol â pharagraffau 1 a 2 o Atodlen 1, a oes posibilrwydd realistig y byddai’r person ifanc yn cyflawni deilliannau dymunol y person drwy ddilyn y rhaglen astudio neu drwy barhau i ddilyn y rhaglen astudio (gydag unrhyw addasiadau arfaethedig).
- (5) Pan fo’r person ifanc eisoes yn dilyn rhaglen astudio, nid yw paragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol ystyried rhaglenni astudio eraill os yw wedi ei fodloni bod y rhaglen y mae’r person ifanc yn ei dilyn yn parhau i fod yn addas, neu y byddai’n addas gydag addasiadau, i alluogi’r person ifanc i gyflawni deilliannau dymunol y person.
- (6) Nid oes angen i’r awdurdod lleol gydymffurfio â pharagraff (2) neu unrhyw ran ohono, os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni na fyddai cydymffurfio ag ef, neu â’r rhan honno ohono, yn effeithio ar ei benderfyniad o dan adran 14(1)(c)(ii) neu 31(6)(b) o Ddeddf 2018.
- (7) Mae rheoliad 8 yn gymwys pan fo’r person ifanc yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn unrhyw un o’r sefydliadau a ganlyn, neu pan fo’r person ifanc i fod yn ddisgybl neu’n fyfyriwr o’r fath, i ddilyn rhaglen astudio, neu i barhau i ddilyn rhaglen astudio, i gyflawni deilliannau dymunol y person ifanc—
- (a) ysgol a gynhelir yng Nghymru neu Loegr;
- (b) sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru neu Loegr;
- (c) Academi.
- (8) Mae rheoliad 9 yn gymwys i bob achos arall.
Necessity of a plan: programmes of study at maintained schools and further education institutions in Wales and certain institutions in England
8
- (1) Mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc os byddai’r awdurdod lleol, neu os yw’r awdurdod lleol, wrth lunio neu gynnal y cynllun ar gyfer y person ifanc, o dan y ddyletswydd yn adran 14(6) o Ddeddf 2018 i ddisgrifio darpariaeth o fath a restrir yn adran 14(7) o’r Ddeddf honno.
- (2) Mae hefyd yn angenrheidiol i awdurdod lleol barhau i gynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc os yw’r person ifanc i gofrestru’n ddisgybl mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru i ddilyn rhaglen astudio.
- (3) Ar gyfer achosion nad ydynt yn dod o fewn paragraff (1) neu (2), rhaid i’r awdurdod lleol ystyried—
- (a) yn achos person ifanc sydd i gofrestru’n ddisgybl mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru neu ymrestru’n fyfyriwr mewn sefydliad yn y sector addysg bellach yng Nghymru, a yw’n rhesymol i gorff llywodraethu’r ysgol neu’r sefydliad sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol;
- (b) yn achos person ifanc sy’n ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn ysgol a gynhelir yn Lloegr, Academi neu sefydliad yn y sector addysg bellach yn Lloegr, neu sydd i fod yn ddisgybl neu’n fyfyriwr o’r fath, a fyddai corff llywodraethu’r ysgol neu’r sefydliad neu, yn achos Academi, y perchennog, yn sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.
- (4) Wrth ystyried mater y cyfeirir ato ym mharagraff (3), rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r corff llywodraethu neu’r perchennog.
- (5) Mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc—
- (a) os yw’r awdurdod lleol, yn yr achos y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a), yn ystyried nad yw’n rhesymol i gorff llywodraethu’r ysgol neu’r sefydliad sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol;
- (b) os nad yw’r awdurdod lleol, yn yr achos y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(b), wedi ei fodloni y byddai’r corff llywodraethu neu’r perchennog yn sicrhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.
- (6) Fel arall nid yw’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc.
- (7) Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at ddarpariaeth ddysgu ychwanegol yn gyfeiriadau at y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y gelwir amdani gan anghenion dysgu ychwanegol y person ifanc er mwyn dilyn y rhaglen astudio neu barhau i ddilyn y rhaglen astudio.
Other cases: reasonable needs for education or training and necessity of an individual development plan
9
- (1) Mae gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant pan na fo’r rhaglen astudio addas y bwriedir i’r person ifanc ei dilyn, neu barhau i’w dilyn, ynghyd ag unrhyw addysg bellach neu hyfforddiant arall a ddilynir gan y person ifanc, yn para am fwy na 2 flynedd.
- (2) Caiff yr awdurdod lleol benderfynu bod gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant os yw unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraffau 3(1), 4(1), 5(1) a 6(1) o Atodlen 1 yn gymwys.
- (3) At ddibenion penderfynu a oes gan y person ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant o dan baragraff (2), mae paragraffau 3(2), 4(2), 5(2) a 6(2) o Atodlen 1 yn nodi’r priod ffactorau y mae rhaid i’r awdurdod lleol eu hystyried ar gyfer pob un o’r amgylchiadau sy’n gymwys.
- (4) At ddibenion adran 31(6)(b) o Ddeddf 2018, mae gan berson ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant pan fo’r person ifanc yn dilyn rhaglen astudio addas yn unol â phenderfyniad o dan baragraff (2).
- (5) Pan fo gan y person ifanc anghenion rhesymol, neu pan fo awdurdod lleol yn penderfynu bod gan y person ifanc anghenion rhesymol, am addysg neu hyfforddiant o dan y rheoliad hwn—
- (a) at ddibenion adran 14(1)(c)(ii) o Ddeddf 2018, mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc os byddai’r awdurdod lleol, pe bai’n llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y person ifanc, o dan y ddyletswydd yn adran 14(6) o’r Ddeddf honno i bennu yn y cynllun ddarpariaeth o’r math a restrir yn adran 14(7)(a) o’r Ddeddf honno;
- (b) at ddibenion adran 31(6)(b) o’r Ddeddf honno, mae’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol barhau i gynnal cynllun datblygu unigol y person ifanc os yw’r awdurdod lleol o dan y ddyletswydd yn adran 14(6) o’r Ddeddf honno i bennu yn y cynllun ddarpariaeth o’r math a restrir yn adran 14(7)(a) o’r Ddeddf honno.
- (6) Fel arall nid yw’n angenrheidiol i’r awdurdod lleol lunio a chynnal cynllun datblygu unigol, neu barhau i gynnal cynllun datblygu unigol, ar gyfer y person ifanc.
Notification of decision under section 14(1)(c)(ii) of the 2018 Act that plan not necessary
10
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn penderfynu o dan adran 14(1)(c)(ii) o Ddeddf 2018 nad oes angen llunio a chynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer person ifanc.
- (2) Rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r person ifanc am—
- (a) y penderfyniad, a
- (b) y rhesymau dros y penderfyniad.
- (3) Rhaid i’r awdurdod lleol wneud y penderfyniad a rhoi’r hysbysiad a grybwyllir ym mharagraff (2), yn brydlon ac mewn unrhyw achos cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y cydsyniodd y person ifanc i’r penderfyniad o dan adran 13(1) o Ddeddf 2018 gael ei wneud.
- (4) Nid oes angen i’r awdurdod lleol gydymffurfio â’r gofyniad i wneud y penderfyniad a rhoi’r hysbysiad cyn diwedd y cyfnod o 12 wythnos os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth.
- (5) Wrth roi’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (2), rhaid i’r awdurdod lleol hefyd roi i’r person ifanc—
- (a) manylion cyswllt ar gyfer yr awdurdod lleol;
- (b) gwybodaeth am sut i gael mynediad at drefniadau’r awdurdod lleol o dan adran 9 o Ddeddf 2018 ar gyfer darparu i bobl wybodaeth a chyngor ynghylch anghenion dysgu ychwanegol a’r system y gwneir darpariaeth ar ei chyfer gan Ran 2 o’r Ddeddf honno;
- (c) manylion ynghylch trefniadau’r awdurdod lleol ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau o dan adran 68 o Ddeddf 2018;
- (d) manylion ynghylch trefniadau’r awdurdod lleol ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli annibynnol o dan adran 69 o Ddeddf 2018;
- (e) gwybodaeth am yr hawl i apelio i’r Tribiwnlys Addysg o dan adran 70 o Ddeddf 2018 yn erbyn y penderfyniad.
Time limits for section 20 referrals and requesting reconsideration of decision to cease to maintain plans
Time limit for NHS body responding to section 20 referral
11
- (1) Rhaid i gorff GIG sydd o dan ddyletswydd i roi gwybod o dan adran 21(1) neu (2) o Ddeddf 2018 (cynlluniau datblygu unigol: Byrddau Iechyd Lleol ac ymddiriedolaethau’r GIG) gydymffurfio â’r ddyletswydd honno yn brydlon ac mewn unrhyw achos o fewn y cyfnod a ragnodir gan baragraff (2).
- (2) Mae’r cyfnod rhagnodedig—
- (a) yn dechrau â’r diwrnod y mae’r corff GIG yn cael yr atgyfeiriad o dan adran 20 o Ddeddf 2018, a
- (b) yn dod i ben ar ddiwedd 6 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (a).
- (3) Nid oes angen i’r corff GIG gydymffurfio â’r ddyletswydd i roi gwybod o dan adran 21(1) neu (2) o fewn y cyfnod a ragnodir gan baragraff (2) os yw’n anymarferol gwneud hynny oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w reolaeth.
Time limit for requesting reconsideration of decision to cease to maintain plan
12
- (1) Mae’r cyfnod a ragnodir at ddibenion adran 32(1)(b) o Ddeddf 2018 (ailystyriaeth gan awdurdodau lleol o benderfyniadau cyrff llywodraethu o dan adran 31)—
- (a) yn dechrau â’r diwrnod y mae’r corff llywodraethu yn rhoi’r hysbysiadau o dan adran 31(8) a (9) o’r Ddeddf honno, a
- (b) yn dod i ben ar ddiwedd 4 wythnos sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod a grybwyllir yn is-baragraff (a).
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.