The Water Resources (Control of Agricultural Pollution) (Wales) Regulations 2021
[^key-c6c6dcdf1310291d2a092b4fe4db8a0a]: Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
[^key-c2648e186fc3a1afe4f2303817584059]: Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
[^key-c5df2aee020a771287588555167673c3]: Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
[^key-22ba1c9fc4717aca39ef808274c9cce9]: Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
[^key-ff7415d05dd08b178d529737ecc2a5f3]: Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
[^key-8d7a2aa1bd80d6c6d0f566ac6a7b61c2]: Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
[^key-dae3ea5758afdcda7b20995825073b5e]: Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
[^key-1d6fb4ed19a1789ff2aa2b00365b0409]: Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
[^key-9f98360c2a9a0765fbc9a980600ce571]: Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
[^key-2580ac0114345aec578414150631f693]: Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
[^key-5646eefb4848a235b386c8856782ef5f]: Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
[^key-4f6d95d827ddf4fac18dcd52ef5c0d57]: Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
[^key-474f659ae7f6827e5dd39890b456b3d9]: Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
[^key-f9047d888150fc1cd52ec712ed56857d]: Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
[^key-d6f964af05fd6e18a01c341be6a1e9bd]: Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
[^key-56124b64d47df490649444f7d1f93382]: Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
[^key-f44bd9d7e99eef94737b8cb24a3342e0]: Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
[^key-213ad2a33b3caf9454bfbfd1ca698f60]: Atod. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
[^key-78f7b479e46912ea31bd2c4ef5a290aa]: Atod. 2 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
[^key-2948f3f89ef86763b358f74d8966e1bb]: Atod. 3 Rhn. 1 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
[^key-27d7f4fa95b05bb8e55e7333bac269c3]: Atod. 4 mewn grym ar 1.4.2021, gweler rhl. 1(3)
[^key-1492030d77ae96e90d8e2be58feeba9e]: Gair yn Atod. 1 Table 1 wedi ei amnewid (31.12.2022) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1305), rhlau. 1(2), 2(6)(a)
[^key-5d314b9b0af4792f4d37777599d81c29]: Gair yn Atod. 1 Table 1 wedi ei amnewid (31.12.2022) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1305), rhlau. 1(2), 2(6)(b)
[^key-2735708d44c1ba70dcf3a37f72a05cf9]: Gair yn Atod. 3 Rhn. 1 Table wedi ei amnewid (31.12.2022) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1305), rhlau. 1(2), 2(7)
[^key-3ab35ed38960abf0d56599d184e16715]: Geiriau yn rhl. 2 wedi eu mewnosod (31.12.2022) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1305), rhlau. 1(2), 2(2)(a)
[^key-4774cc5e6b44e1b6994aa8cfa0ba4310]: Rhlau. 2(a)-(c) wedi eu hamnewid ar gyfer rhl. 2(a)(b) (31.12.2022) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1305), rhlau. 1(2), 2(2)(b)
[^key-6aa5a2ad60b0889d5b7d37d0675ed667]: Geiriau yn rhl. 3(1) wedi eu mewnosod (31.12.2022) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1305), rhlau. 1(2), 2(3)
[^key-b2fa2fc75abe9c96944767bc88b5a990]: Rhl. 36(6) wedi ei fewnosod (31.12.2022) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1305), rhlau. 1(2), 2(5)(c)
[^key-83d5505787f8f67f69791e9ac6218f46]: Geiriau yn rhl. 36(1) wedi eu hamnewid (31.12.2022) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1305), rhlau. 1(2), 2(5)(a)
[^key-f76f08d23de07061a1133b620875c9f1]: Geiriau yn rhl. 36(1)(a) wedi eu hamnewid (31.12.2022) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022 (O.S. 2022/1305), rhlau. 1(2), 2(5)(b)
[^key-a0136e885091a2936796d99871cd339d]: Geiriau yn rhl. 2(b) wedi eu hamnewid (31.10.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 (O.S. 2023/1070), rhlau. 1(2), 2(2)
[^key-8c5a359504a9cab3c157e26513063b46]: Geiriau yn rhl. 4(1) wedi eu hamnewid (31.10.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 (O.S. 2023/1070), rhlau. 1(2), 2(3)(a)
[^key-5109ae4c5c0972b463021620c07e4a48]: Rhl. 4(4) wedi ei hepgor (31.10.2023) yn rhinwedd Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 (O.S. 2023/1070), rhlau. 1(2), 2(3)(b)
[^key-32ee7f642b03c6d53dc385bedcfefbbe]: Geiriau yn rhl. 36(6) wedi eu hamnewid (31.10.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 (O.S. 2023/1070), rhlau. 1(2), 2(4)(a)(i)
[^key-376281c3a1a8f59fbfb01e5de2c3442a]: Geiriau yn rhl. 36(6) wedi eu hamnewid (31.10.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 (O.S. 2023/1070), rhlau. 1(2), 2(4)(a)(ii)
[^key-5a7867b4c28e4e652bcf22a9c6a29f79]: Geiriau yn rhl. 36(6) wedi eu hamnewid (31.10.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2023 (O.S. 2023/1070), rhlau. 1(2), 2(4)(b)
[^key-22b6990b15f9df7db8aafcce657dc017]: Rhlau. 4A, 4B wedi eu mewnosod (31.12.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 (O.S. 2023/1393), rhlau. 1, 5
[^key-0273888976dc335b1773a022d557efcb]: Atod. 1A wedi ei fewnosod (31.12.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 (O.S. 2023/1393), rhl. 1, Atod.
[^key-abac78238a6a7a7f8c250a89f1853a39]: Gair yn Atod. 6 wedi ei amnewid (31.12.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 (O.S. 2023/1393), rhlau. 1, 7(f)
[^key-7fa48da0c3740e47afee9e47399ac6cb]: Geiriau yn rhl. 2(b) wedi eu mewnosod (31.12.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 (O.S. 2023/1393), rhlau. 1, 3
[^key-e34d3634c4046f3791c27333b45d00b1]: Geiriau yn rhl. 3 wedi eu mewnosod (31.12.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 (O.S. 2023/1393), rhlau. 1, 4(a)
[^key-792ea2e4f1bc3688d7b485cbdcbdb520]: Geiriau yn rhl. 3 wedi eu hamnewid (31.12.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 (O.S. 2023/1393), rhlau. 1, 4(b)
[^key-fb7083d830f84ad0d3b48ce0aad0f8c7]: Geiriau yn rhl. 3 wedi eu mewnosod (31.12.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 (O.S. 2023/1393), rhlau. 1, 4(c)
[^key-18865f8d61dee497bca8d0eba47c7106]: Geiriau yn rhl. 3 wedi eu mewnosod (31.12.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 (O.S. 2023/1393), rhlau. 1, 4(d)
[^key-eecaca4f73500b3d625134fd573d9df2]: Geiriau yn rhl. 14(1) wedi eu mewnosod (31.12.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 (O.S. 2023/1393), rhlau. 1, 6(a)
[^key-512367bd630930545fec30b23c6b89de]: Rhl. 14(4) wedi ei hepgor (31.12.2023) yn rhinwedd Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 (O.S. 2023/1393), rhlau. 1, 6(b)
[^key-b2abd7e1a2d66e8ab16c94dda251bc5b]: Gair yn rhl. 24(1)(c)(i) wedi ei amnewid (31.12.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 (O.S. 2023/1393), rhlau. 1, 7(a)
[^key-61ce96236516122321cabfeca7539439]: Gair yn rhl. 30 wedi ei amnewid (31.12.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 (O.S. 2023/1393), rhlau. 1, 7(b)
[^key-d4fcb3f16c3fe81793c67871bb966062]: Gair yn rhl. 31 wedi ei amnewid (31.12.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 (O.S. 2023/1393), rhlau. 1, 7(c)
[^key-c3114a26fefe61771ee3534f293997d6]: Gair yn rhl. 32(2) wedi ei amnewid (31.12.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 (O.S. 2023/1393), rhlau. 1, 7(d)
[^key-daf73715639743e5377844b3f37e7219]: Gair yn rhl. 47 wedi ei amnewid (31.12.2023) gan Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2023 (O.S. 2023/1393), rhlau. 1, 7(e)
[^key-a846309e19dad658f43a9cdd2b666891]: Gair yn Atod. 1A para. 1 wedi ei amnewid (1.8.2025) gan Rheoliadau Diwygio Is-ddeddfwriaeth (Cywiriadau Amrywiol) (Cymru) 2025 (O.S. 2025/805), rhlau. 1(2), 7
Application of grazing and non-grazing livestock manure on qualifying grassland holdings during the relevant period
4A
- (1) Rhaid i feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol sicrhau yn ystod y cyfnod perthnasol—
$$A≥Ngl/250±Nngl/170$lle— A yw arwynebedd y daliad (hectarau), fel y bo’n bodoli ar 1 Ionawr 2024; Ngl yw cyfanswm y nitrogen (kg) mewn tail da byw sy’n pori a ddodir ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, wedi ei gyfrifo yn unol â thabl 1 yn Atodlen 1; Nngl yw cyfanswm y nitrogen (kg) mewn tail da byw nad ydynt yn pori a ddodir ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, wedi ei gyfrifo yn unol â thabl 2 yn Atodlen 1.$
- (2) Pan fo meddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol yn bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau, rhaid iddo—
- (a) cyflwyno hysbysiad i CNC yn unol â rheoliad 4B, a
- (b) cydymffurfio â’r gofynion rheoli maethynnau uwch yn Atodlen 1A.
- (3) Wrth gyfrifo arwynebedd y daliad at ddibenion canfod maint y nitrogen sydd i’w daenu ar y daliad, diystyrir dyfroedd wyneb, unrhyw loriau caled, adeiladau, ffyrdd ac unrhyw goetir (oni ddefnyddir y coetir hwnnw ar gyfer pori).
Notice requirements
4B
- (1) Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn gynnwys—
- (a) enw meddiannydd y daliad glaswelltir cymhwysol,
- (b) cyfeiriad y daliad glaswelltir cymhwysol,
- (c) datganiad ysgrifenedig bod y meddiannydd yn bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau, a
- (d) datganiad ysgrifenedig y bydd y meddiannydd yn cydymffurfio â’r gofynion ychwanegol a nodir yn Atodlen 1A.
- (2) Rhaid cyflwyno hysbysiad i CNC erbyn 31 Mawrth 2024 a rhaid i’r cynllun rheoli maethynnau uwch ar gyfer y daliad glaswelltir cymhwysol fynd gydag ef.
- (3) Rhaid cyflwyno’r hysbysiad a’r cynllun rheoli maethynnau uwch sy’n mynd gydag ef i CNC drwy e-bost.
Spreading organic manure — nitrogen limits per hectare
ATODLEN 1A — Gofynion rheoli maethynnau uwch
Application of Schedule 1A
1
Mae’r gofynion rheoli maethynnau uwch a ganlyn yn gymwys i feddiannydd daliad glaswelltir cymhwysol sy’n bwriadu dodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, gyfanswm o nitrogen mewn tail da byw sy’n pori sy’n fwy na 170 kg wedi ei luosi ag arwynebedd y daliad mewn hectarau.
Interpretation
2
Yn yr Atodlen hon—
- ystyr “dadansoddiad samplu pridd” (“soil sampling analysis”) yw dadansoddiad o sampl pridd a wneir gan labordy profi pridd i ddadansoddi priddoedd ar gyfer ffosfforws;
- ystyr “mynegai ffosfforws pridd” (“soil phosphorus index”) yw cyfeiriad at y rhif mynegai a neilltuwyd i’r pridd yn unol â Thabl 1 o’r Atodlen hon, i ddynodi lefel y ffosfforws sydd ar gael o’r pridd.
Livestock manure to be applied to the holding during relevant period
3
Rhaid i’r meddiannydd sicrhau mai’r unig dail da byw sydd i’w ddodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, boed yn uniongyrchol gan anifail neu drwy daenu, yw tail a gynhyrchir gan y da byw ar y daliad.
Soil sampling analysis
4
- (1) Rhaid i’r meddiannydd, at ddibenion pennu’r mynegai ffosfforws pridd ar gyfer pob ardal o’r daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd, ymgymryd â dadansoddiad samplu pridd o bob pumed hectar o leiaf o ardal amaethyddol y daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd.
- (2) Caiff meddiannydd ddibynnu ar ganlyniadau dadansoddiad samplu pridd blaenorol o ardal amaethyddol y daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd at ddibenion is-baragraff (1), ar yr amod y cynhaliwyd y dadansoddiad samplu hwnnw o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2020 ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2023.
- (3) Pan na fo dadansoddiad samplu pridd ffosfforws o ardal amaethyddol y daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd wedi ei gynnal o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (2), rhaid cynnal y dadansoddiad samplu hwnnw o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2024 ac yn dod i ben â 30 Mawrth 2024.
Determining the soil phosphorus index
5
Rhaid i’r meddiannydd bennu’r mynegai ffosfforws pridd ar gyfer pob ardal o’r daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd trwy ddefnyddio canlyniadau’r dadansoddiad samplu pridd o dan baragraff 4 a’r gwerthoedd yn y tabl a ganlyn.
| Mynegai ffosfforws | Ffosfforws (P) mg / L Olsen (P) |
|---|---|
| 0 | 0-9 |
| 1 | 10-15 |
| 2 | 16-25 |
| 3 | 26-45 |
| 4 | 46-70 |
| 5 | 71-100 |
| 6 | 101-140 |
| 7 | 141-200 |
| 8 | 201-280 |
| 9 | Dros 280 |
Planning the spreading of phosphate fertiliser
6
Yn ogystal â llunio cynlluniau taenu nitrogen o dan reoliad 6 (cynllunio’r modd y taenir gwrtaith nitrogen) rhaid i’r meddiannydd, o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Ionawr 2024 ac yn dod i ben â 30 Mawrth 2024—
- (a) cyfrifo’r maint optimwm o wrtaith ffosffad (kg) y dylid ei daenu ar y cnwd yn ystod y cyfnod perthnasol, gan gymryd i ystyriaeth y mynegai ffosfforws pridd, a
- (b) llunio cynllun (“cynllun rheoli maethynnau uwch”) ar gyfer taenu gwrtaith ffosffad yn ystod y cyfnod perthnasol.
Requirements for enhanced nutrient management plans
7
- (1) Rhaid i’r cynllun rheoli maethynnau uwch ar gyfer y daliad—
- (a) cynnwys map risg, a lunnir yn unol â pharagraff 11(1), sy’n nodi lleoliad y caeau y mae’r cynllun yn ymwneud â hwy, a
- (b) datgan yn glir mewn perthynas ag unrhyw gae y cyfeirir ato yn y cynllun y math o wrtaith sydd i’w ddefnyddio.
- (2) Rhaid i’r cynllun rheoli maethynnau uwch gofnodi—
- (a) y mynegai ffosfforws pridd ar gyfer pob ardal o’r daliad sydd â’r un drefn gnydio, yr un drefn rheoli maethynnau a’r un math o bridd,
- (b) y maint optimwm o wrtaith ffosffad (kg) y dylid ei daenu ar y cnwd, gan gymryd i ystyriaeth y mynegai ffosfforws pridd,
- (c) faint o nitrogen (kg) sy’n debygol o fod ar gael i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig y bwriedir ei daenu i’r cnwd ei amsugno yn y tymor tyfu yn ystod y cyfnod perthnasol,
- (d) faint o ffosffad (kg) sy’n debygol o gael ei gyflenwi i fodloni gofyniad y cnwd o unrhyw dail organig a daenir neu y bwriedir ei daenu yn ystod y cyfnod perthnasol, wedi ei gyfrifo yn unol ag—
- (i) tablau 1 a 2 (fel y bo’n gymwys) o Atodlen 1,
- (ii) samplu a dadansoddi yn unol â Rhan 2 o Atodlen 3, neu
- (iii) dadansoddiadau technegol a ddarperir gan y cyflenwr,
- (e) faint o wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd (kg) sy’n ofynnol (hynny yw, y maint optimwm o nitrogen sy’n ofynnol gan y cnwd llai maint y nitrogen a fydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir yn ystod y cyfnod perthnasol), ac
- (f) faint o wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd (kg) sy’n ofynnol (hynny yw, y maint optimwm o ffosffad sy’n ofynnol gan y cnwd llai maint y ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir at ddiben gwrteithio’r cnwd yn ystod y cyfnod perthnasol).
Total phosphorus spread on a holding during relevant period
8
Ni waeth beth fo’r ffigur a gofnodir yn y cynllun rheoli maethynnau uwch yn unol â pharagraff 7(2)(b), rhaid i’r meddiannydd sicrhau na fydd cyfanswm—
- (a) y ffosffad o wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd, a
- (b) y ffosffad o dail organig, yn y tymor tyfu y’i taenir ynddo,
yn fwy, yn ystod y cyfnod perthnasol, na’r terfynau a bennir ym mharagraff 9.
Maximum phosphate limits by crop
9
- (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ni chaiff cyfanswm y ffosffad a daenir ar unrhyw gnwd a restrir yng ngholofn gyntaf unrhyw un o’r tablau isod fod yn fwy na’r ffigur o dan y rhif mynegai ffosfforws pridd cymwys yn yr un tabl.
| Mynegai ffosfforws pridd (kg P2O5 / ha) | Mynegai ffosfforws pridd (kg P2O5 / ha) | Mynegai ffosfforws pridd (kg P2O5 / ha) | Mynegai ffosfforws pridd (kg P2O5 / ha) | Mynegai ffosfforws pridd (kg P2O5 / ha) | |
|---|---|---|---|---|---|
| 0 | 1 | 2 | 3 | 4+ | |
| Wrth i’r borfa ymsefydlu | 120 | 80 | 50 | 30 | 0 |
| Pori | 80 | 50 | 20 | 0 | 0 |
| Gwair | 80 | 55 | 30 | 0 | 0 |
| Silwair | |||||
| Toriad cyntaf | 100 | 70 | 40 | 20 | 0 |
| Ail doriad | 25 | 25 | 25 | 0 | 0 |
| Trydydd toriad | 15 | 15 | 15 | 0 | 0 |
| Pedwerydd toriad | 10 | 10 | 10 | 0 | 0 |
| Mynegai-P | 0 | 1 | 2 | 3 | 4 |
| --- | --- | --- | --- | --- | --- |
| (a)Pan fo Mynegai P yn 4 a 5, gellir defnyddio hyd at 60 kg P2 O5/ha fel gwrtaith cychwynnol, yn agos at yr had. Ni ddylai faint o ffosffad a ddodir fel dos cychwynnol, ynghyd â faint a ychwanegir yn y gwrtaith sylfaen, fod yn fwy na faint o ffosffad sy’n ofynnol i gymryd lle’r hyn a dynnwyd gan y cnwd blaenorol. | (a)Pan fo Mynegai P yn 4 a 5, gellir defnyddio hyd at 60 kg P2 O5/ha fel gwrtaith cychwynnol, yn agos at yr had. Ni ddylai faint o ffosffad a ddodir fel dos cychwynnol, ynghyd â faint a ychwanegir yn y gwrtaith sylfaen, fod yn fwy na faint o ffosffad sy’n ofynnol i gymryd lle’r hyn a dynnwyd gan y cnwd blaenorol. | (a)Pan fo Mynegai P yn 4 a 5, gellir defnyddio hyd at 60 kg P2 O5/ha fel gwrtaith cychwynnol, yn agos at yr had. Ni ddylai faint o ffosffad a ddodir fel dos cychwynnol, ynghyd â faint a ychwanegir yn y gwrtaith sylfaen, fod yn fwy na faint o ffosffad sy’n ofynnol i gymryd lle’r hyn a dynnwyd gan y cnwd blaenorol. | (a)Pan fo Mynegai P yn 4 a 5, gellir defnyddio hyd at 60 kg P2 O5/ha fel gwrtaith cychwynnol, yn agos at yr had. Ni ddylai faint o ffosffad a ddodir fel dos cychwynnol, ynghyd â faint a ychwanegir yn y gwrtaith sylfaen, fod yn fwy na faint o ffosffad sy’n ofynnol i gymryd lle’r hyn a dynnwyd gan y cnwd blaenorol. | (a)Pan fo Mynegai P yn 4 a 5, gellir defnyddio hyd at 60 kg P2 O5/ha fel gwrtaith cychwynnol, yn agos at yr had. Ni ddylai faint o ffosffad a ddodir fel dos cychwynnol, ynghyd â faint a ychwanegir yn y gwrtaith sylfaen, fod yn fwy na faint o ffosffad sy’n ofynnol i gymryd lle’r hyn a dynnwyd gan y cnwd blaenorol. | (a)Pan fo Mynegai P yn 4 a 5, gellir defnyddio hyd at 60 kg P2 O5/ha fel gwrtaith cychwynnol, yn agos at yr had. Ni ddylai faint o ffosffad a ddodir fel dos cychwynnol, ynghyd â faint a ychwanegir yn y gwrtaith sylfaen, fod yn fwy na faint o ffosffad sy’n ofynnol i gymryd lle’r hyn a dynnwyd gan y cnwd blaenorol. |
| Cnwd | Ffosffad (kg / ha) | Ffosffad (kg / ha) | Ffosffad (kg / ha) | Ffosffad (kg / ha) | Ffosffad (kg / ha) |
| Cnydau porthi | Cnydau porthi | Cnydau porthi | Cnydau porthi | Cnydau porthi | Cnydau porthi |
| Indrawn porthi | 115 | 85 | 55 | 20 | 0 |
| Ydau cnwd cyfan | 115 | 85 | 55 | 0 | 0 |
| Swêds a maip porthi (wedi eu codi) | 105 | 75 | 45 | 0 | 0 |
| Betys porthiant (wedi eu codi) | 120 | 90 | 60 | 0 | 0 |
| Rêp, swêds a maip sofl porthi (a borir) | 85 | 55 | 25 | 0 | 0 |
| Cêl (a borir) | 80 | 50 | 20 | 0 | 0 |
| Rhygwellt a heuir ar gyfer hadau | 90 | 60 | 30 | 0 | 0 |
| Cnydau âr (Gwellt wedi ei ymgorffori) | Cnydau âr (Gwellt wedi ei ymgorffori) | Cnydau âr (Gwellt wedi ei ymgorffori) | Cnydau âr (Gwellt wedi ei ymgorffori) | Cnydau âr (Gwellt wedi ei ymgorffori) | Cnydau âr (Gwellt wedi ei ymgorffori) |
| Gwenith y gaeaf | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 |
| Rhygwenith y gaeaf | 125 | 95 | 65 | 0 | 0 |
| Haidd y gaeaf | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 |
| Haidd y gwanwyn | 105 | 75 | 45 | 0 | 0 |
| Gwenith y gwanwyn/rhygwenith y gwanwyn/rhyg/ceirch | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 |
| Cnydau âr (Gwellt wedi ei dynnu ymaith) | Cnydau âr (Gwellt wedi ei dynnu ymaith) | Cnydau âr (Gwellt wedi ei dynnu ymaith) | Cnydau âr (Gwellt wedi ei dynnu ymaith) | Cnydau âr (Gwellt wedi ei dynnu ymaith) | Cnydau âr (Gwellt wedi ei dynnu ymaith) |
| Gwenith y gaeaf | 115 | 85 | 55 | 0 | 0 |
| Rhygwenith y gaeaf | 130 | 100 | 70 | 0 | 0 |
| Haidd y gaeaf | 115 | 85 | 55 | 0 | 0 |
| Haidd y gwanwyn> | 105 | 75 | 45 | 0 | 0 |
| Gwenith y gwanwyn | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 |
| Rhygwenith y gwanwyn/rhyg | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 |
| Ceirch | 115 | 85 | 55 | 0 | 0 |
| Hadau olew | Hadau olew | Hadau olew | Hadau olew | Hadau olew | Hadau olew |
| Rêp had olew y gaeaf | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 |
| Rêp had olew y gwanwyn neu had llin | 90 | 60 | 30 | 0 | 0 |
| Pys (sych a dringo) a ffa | 100 | 70 | 40 | 0 | 0 |
| Betys siwgr | 110 | 80 | 50 | 0 | 0 |
| Tatws | 250 | 210 | 170 | 100 | 0 |
| Llysiau a bylbiau | |||||
| Merllys (ymsefydlu) | 175 | 150 | 125 | 100 | 75 |
| Merllys (y blynyddoedd dilynol ar ôl ymsefydlu) | 75 | 75 | 50 | 50 | 25 |
| Ysgewyll Brwsel, bresych storio, bresych pen a bresych llyfnddail | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 |
| Blodfresych a calabrese | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 |
| Seleri | 250 | 200 | 150 | 100 | 50 |
| Pys (cynhaeaf y farchnad) | 185 | 135 | 85 | 35 | 0 |
| Ffa llydan, corffa a ffa dringo | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 |
| Radis ac india-corn | 175 | 125 | 75 | 25 | 0 |
| Letys a dail berwr | 250 | 200 | 150 | 100 | 60[^f01000] |
| Winwns a chennin | 200 | 150 | 100 | 50 | 60[^f01000] |
| Betys (coch) swêds, maip, pannas a moron | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 |
| Bylbiau a blodau bwlb | 200 | 150 | 100 | 50 | 0 |
| Coriander a mintys | 175 | 125 | 75 | 25 | 0 |
| Courgettes | 175 | 125 | 75 | 25 | 0 |
| Ffrwythau a gwinwydd cyn plannu | 200 | 100 | 50 | 50 | 0 |
| Hopys cyn plannu | 250 | 175 | 125 | 100 | 50 |
| Ffrwythau coed sefydledig | 80 | 40 | 20 | 20 | 0 |
| Cyrens duon, cyrens cochion, eirin Mair, mafon, mwyar logan, mafonfwyar, mwyar duon, mefus a gwinwydd | 110 | 70 | 40 | 40 | 0 |
| Hopys sefydledig | 250 | 200 | 150 | 100 | 50 |
- (2) Caniateir taenu ffosffad ar borfa a chnydau eraill uwchben y gwerthoedd a nodir yn y tablau uchod yn ddarostyngedig i gael cyngor ysgrifenedig ymlaen llaw gan berson sy’n aelod o’r Cynllun Ardystio a Hyfforddi Cynghorwyr am Wrteithiau.
Additional information to be recorded during the relevant period
10
- (1) Yn ogystal â’r wybodaeth sydd i’w chofnodi o dan reoliad 7 (yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y flwyddyn) rhaid i’r meddiannydd—
- (a) cyn taenu tail organig yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi cyfanswm y ffosffad (kg) sydd yn y tail organig; a
- (b) cyn taenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi—
- (i) faint o ffosffad (kg) sy’n ofynnol (hynny yw, y maint optimwm o ffosffad sy’n ofynnol gan y cnwd llai maint y ffosffad a gyflenwir i’r cnwd ei amsugno o unrhyw dail organig a daenir), a
- (ii) y mis arfaethedig ar gyfer taenu.
Risk maps – additional requirements
11
- (1) Yn ychwanegol at y gofynion o dan reoliad 11 (mapiau risg), rhaid i’r map risg—
- (a) dangos pob cae wedi ei farcio â rhif cyfeirnod neu rif i alluogi croesgyfeirio at gaeau a gofnodwyd mewn cynlluniau gwrteithio,
- (b) cyfateb i ardal amaethyddol y daliad, ac
- (c) cael ei gwblhau erbyn 31 Mawrth 2024.
- (2) Pan fo newid mewn amgylchiadau yn effeithio ar fater y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a) neu (b), rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r map o fewn un mis i’r newid, gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y newid.
Maintaining the holding as a qualifying grassland holding
12
Rhaid i’r meddiannydd gynnal y daliad i sicrhau bod o leiaf 80% o’r ardal amaethyddol wedi ei hau â phorfa yn ystod y cyfnod perthnasol.
Closed period for ploughing grass on the holding
13
Rhaid i’r meddiannydd sicrhau nad yw unrhyw berson—
- (a) yn aredig glaswelltir dros dro ar briddoedd tywodlyd ar y daliad o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Gorffennaf 2024 ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2024,
- (b) yn aredig porfa ar briddoedd tywodlyd cyn 16 Ionawr 2024 ar y daliad pan fo tail da byw wedi ei daenu ar y borfa honno o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 1 Medi ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr yn y flwyddyn galendr flaenorol, ac
- (c) yn aredig porfa ar briddoedd nad ydynt yn briddoedd tywodlyd ar y daliad cyn 16 Ionawr 2024 pan fo tail da byw wedi ei daenu ar y borfa honno o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 15 Hydref yn y flwyddyn galendr flaenorol ac yn dod i ben â 15 Ionawr 2024.
Sowing of crops following grass on the holding
14
Pan fo unrhyw borfa ar y daliad yn cael ei haredig yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid—
- (a) hau’r tir â chnwd â galw mawr am nitrogen o fewn pedair wythnos sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa, neu
- (b) hau’r tir â phorfa o fewn chwe wythnos, sy’n dechrau drannoeth dyddiad aredig y borfa.
Crop rotation on the holding
15
Ni chaiff cylchdro cnydau ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol gynnwys codlysiau na phlanhigion eraill sy’n trosi nitrogen atmosfferig ac eithrio porfa sydd â llai na 50% ohono yn feillion, neu unrhyw godlysiau eraill gyda phorfa wedi ei hau oddi tanynt.
Recording the size of the holding
16
- (1) Rhaid i’r meddiannydd gofnodi cyfanswm yr ardal amaethyddol ac ardal y borfa o fewn y daliad erbyn 1 Mawrth 2024.
- (2) Os bydd maint y daliad neu ardal y borfa o fewn iddo yn newid, rhaid i’r meddiannydd ddiweddaru’r cofnod o fewn un mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y newid.
Record of nitrogen and phosphate produced by animals
17
- (1) Rhaid i’r meddiannydd wneud cofnod o nifer a chategori (yn unol â’r categorïau yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1) disgwyliedig y da byw sydd i’w cadw ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol.
- (2) Yn dilyn y gofynion i wneud cofnod yn is-baragraff (1), rhaid i’r meddiannydd wedyn gyfrifo a chofnodi faint o nitrogen a ffosffad (kg) mewn tail y disgwylir i’r da byw ar y daliad ei gynhyrchu yn ystod y cyfnod perthnasol gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 (fel y bo’n gymwys) yn Atodlen 1.
- (3) Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud yn unol ag is-baragraffau (1) a (2) gael eu gwneud cyn 1 Mawrth 2024.
Livestock manure intended to be sent off the holding
18
- (1) Rhaid i’r meddiannydd—
- (a) gwneud cofnod o fath a maint y tail da byw (tunelli neu fetrau ciwbig fel y bo’n gymwys) y bwriedir ei anfon o’r daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, a
- (b) asesu a chofnodi maint y nitrogen (kg) sydd yn y tail da byw a gofnodir o dan baragraff (a) yn unol â rheoliad 36(4) a Rhannau 1 a 2 o Atodlen 3.
- (2) Rhaid i’r cofnodion sydd i’w gwneud o dan is-baragraff (1) gael eu gwneud erbyn 1 Mawrth 2024.
Records of crops sown
19
Yn ogystal â gofynion rheoliad 39 (cofnodion o’r cnydau a heuwyd), os yw’r meddiannydd yn bwriadu taenu gwrtaith ffosffad yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid i’r meddiannydd o fewn un wythnos i hau cnwd gofnodi—
- (a) y cnwd a heuir, a
- (b) dyddiad ei hau.
Records of spreading phosphate fertiliser
20
Yn ogystal â gofynion rheoliad 40 (cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen), rhaid i’r meddiannydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi—
- (a) o fewn un wythnos i daenu tail organig, gyfanswm y cynnwys ffosfforws (kg), a
- (b) o fewn un wythnos i daenu gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd—
- (i) dyddiad ei daenu, a
- (ii) maint y ffosffad a daenwyd (kg).
Recording the date of ploughing
21
Yn ogystal â gofynion rheoliad 41 (cofnodion dilynol), rhaid i’r meddiannydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, gofnodi o fewn un wythnos i aredig porfa ar y daliad ddyddiad yr aredig hwnnw.
Fertilisation accounts
22
- (1) Rhaid i’r meddiannydd, neu unrhyw berson ar ran y meddiannydd, gyflwyno cyfrifon gwrteithio ar gyfer y cyfnod perthnasol i CNC erbyn 31 Mawrth 2025.
- (2) Rhaid cyflwyno’r cyfrifon gwrteithio i CNC drwy e-bost.
- (3) Rhaid i’r cyfrif gwrteithio gofnodi—
- (a) cyfanswm ardal amaethyddol y daliad mewn hectarau;
- (b) arwynebedd y daliad mewn hectarau a orchuddir gan—
- (i) gwenith y gaeaf,
- (ii) gwenith y gwanwyn,
- (iii) haidd y gaeaf,
- (iv) haidd y gwanwyn,
- (v) rêp had olew y gaeaf,
- (vi) betys siwgr,
- (vii) tatws,
- (viii) indrawn porthi,
- (ix) porfa, a
- (x) cnydau eraill;
- (c) nifer a chategori yr anifeiliaid a gadwyd ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol yn unol â’r categorïau a ddisgrifir yn Nhablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
- (d) maint y nitrogen a’r ffosffad (kg) yn y tail a gynhyrchwyd gan yr anifeiliaid ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol gan ddefnyddio Tablau 1 a 2 yn Atodlen 1;
- (e) maint (tunelli neu fetrau ciwbig fel y bo’n gymwys), math a nodweddion y tail da byw a anfonwyd o’r daliad yn ystod y cyfnod perthnasol;
- (f) maint y nitrogen a’r ffosffad (kg) yn y tail a gofnodwyd o dan is-baragraff (3)(e), wedi ei gyfrifo yn unol ag Atodlen 1;
- (g) pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen (kg) yr holl stociau gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a gadwyd ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol;
- (h) pwysau (tunelli) a chynnwys ffosffad (kg) yr holl stociau gwrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd a gadwyd ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol;
- (i) pwysau (tunelli) a chynnwys nitrogen (kg) yr holl wrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd a ddygwyd i’r daliad ac a anfonwyd ohono yn ystod y cyfnod perthnasol;
- (j) pwysau (tunelli) a chynnwys ffosffad (kg) yr holl wrtaith ffosffad a weithgynhyrchwyd a ddygwyd i’r daliad ac a anfonwyd ohono yn ystod y cyfnod perthnasol.
Soil protection measures
23
- (1) Rhaid i’r meddiannydd ddiogelu yr holl bridd drwy sicrhau bod yr holl dir wedi ei orchuddio â chnydau, soflau, gweddillion neu lystyfiant arall bob amser, ac eithrio pan fyddai sefydlu gorchudd o’r fath yn creu risg sylweddol o erydiad pridd a risg sylweddol y bydd nitrogen a ffosfforws yn mynd i ddŵr wyneb.
- (2) Pan fo tir wedi ei gynaeafu gan ddefnyddio dyrnwr medi, cynaeafwr porthiant neu beiriant torri porfa, rhaid i’r meddiannydd sicrhau y bodlonir un o’r amodau a ganlyn ar y tir hwnnw bob amser, drwy gydol y cyfnod perthnasol sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl cynaeafu ac yn dod i ben â 31 Rhagfyr 2024—
- (a) bod sofl y cnwd a gynaeafwyd yn dal yn y tir, neu
- (b) bod y tir yn cael ei baratoi fel gwely hadau ar gyfer cnwd neu gnwd gorchudd dros dro o fewn 14 o ddiwrnodau i gynaeafu, gan ddechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl cynaeafu, ac—
- (i) bod y cnwd, neu’r cnwd gorchudd dros dro, yn cael ei hau o fewn cyfnod o 10 niwrnod gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl i’r gwely hadau gael ei baratoi yn derfynol, neu
- (ii) pe bai hau o fewn y cyfnod hwnnw o 10 niwrnod yn arwain at risg sylweddol o erydu pridd, ac o nitrogen neu ffosfforws yn mynd i ddŵr wyneb, fod y cnwd, neu’r cnwd gorchudd dros dro, yn cael ei hau cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r tir beidio â bod yn ddyfrlawn.
Locations of supplementary feeding and drinking sites for livestock
24
- (1) Rhaid i’r meddiannydd sicrhau yn ystod y cyfnod perthnasol nad yw safleoedd lle darperir cyfleuster bwydo atodol ar gyfer da byw wedi eu lleoli o fewn 20 metr i gwrs dŵr ar unrhyw dir.
- (2) Rhaid i’r meddiannydd sicrhau yn ystod y cyfnod perthnasol nad yw safleoedd lle darperir cyfleuster yfed atodol ar gyfer da byw wedi eu lleoli o fewn 10 metr i gwrs dŵr ar unrhyw dir.
Spreading of slurry during relevant period
25
Os yw’r meddiannydd yn bwriadu taenu slyri ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol, rhaid defnyddio cyfarpar taenu manwl ac eithrio pan na fyddai’n rhesymol ymarferol gwneud hynny.
Spreading organic manure near surface water during relevant period
26
Rhaid i’r meddiannydd sicrhau nad yw unrhyw berson, yn ystod y cyfnod perthnasol, yn taenu tail organig o fewn 15 metr i ddŵr wyneb oni bai ei fod yn defnyddio cyfarpar taenu manwl ac os felly ni chaiff unrhyw berson daenu tail organig o fewn 10 metr i ddŵr wyneb.
Enwi, cymhwyso a chychwyn
Mesurau trosiannol ar gyfer daliadau nad oeddent gynt mewn parth perygl nitradau
Dehongli
Dodi tail da byw – y terfyn o ran cyfanswm y nitrogen ar gyfer yr holl ddaliad
Dodi tail da byw sy’n pori a da byw nad ydynt yn pori ar ddaliadau glaswelltir cymhwysol yn ystod y cyfnod perthnasol
Gofynion hysbysu
Taenu tail organig – terfynau nitrogen fesul hectar
Cynllunio’r modd y taenir gwrtaith nitrogen
Yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y flwyddyn
Cyfanswm y nitrogen sydd i’w daenu ar ddaliad
Cyfrifo maint y nitrogen sydd ar gael i’r cnwd ei amsugno o dail organig
Terfynau nitrogen uchaf fesul cnwd
Mapiau risg
Pryd i daenu gwrtaith
Taenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd ger dŵr wyneb
Taenu tail organig ger dŵr wyneb, tyllau turio, ffynhonnau neu bydewau
Rheoli’r modd y taenir gwrtaith nitrogen
Corffori tail organig yn y ddaear
Ystyr “tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd”
Cyfnodau gwaharddedig ar gyfer taenu tail organig sydd â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd
Esemptiadau: cnydau a heuir cyn 15 Medi
Esemptiadau ar gyfer daliadau organig
Cyfyngiadau ar ôl y cyfnod gwaharddedig
Adegau pan waherddir taenu gwrtaith nitrogen a weithgynhyrchwyd
Storio tail organig
Gwneud neu storio silwair
Storio slyri
Esemptiadau i’r gofynion storio
Safleoedd dros dro mewn caeau
Gwahanu slyri
Gofod ar gyfer storio
Hysbysiad yn gwneud gwaith etc. yn ofynnol
Apelau yn erbyn hysbysiadau rheoliad 30
Hysbysiad o adeiladu etc.
Cofnodi maint y daliad
Cofnodion ynglŷn â storio tail yn ystod y cyfnod storio
Cofnodion blynyddol ynglŷn â storio
Cofnod o’r nitrogen a gynhyrchwyd gan anifeiliaid ar y daliad
Tail da byw a ddygwyd i’r daliad neu a anfonwyd ohono
Samplu a dadansoddi
Cofnodion o’r cnydau a heuwyd
Cofnodion o daenu gwrtaith nitrogen
Cofnodion dilynol
Cadw cyngor
Dal gafael ar gofnodion
Monitro ac adolygu
Mesurau amgen
Troseddau a chosbau
Gorfodi
Dirymu
Diwygiadau canlyniadol
Cymhwyso Atodlen 1A
Dehongli
Tail da byw sydd i’w ddodi ar y daliad yn ystod y cyfnod perthnasol
Dadansoddiad samplu pridd
Pennu’r mynegai ffosfforws pridd
Cynllunio’r modd y taenir gwrtaith ffosffad
Gofynion ar gyfer cynlluniau rheoli maethynnau uwch
Cyfanswm y ffosfforws sydd i’w daenu ar ddaliad yn ystod y cyfnod perthnasol
Terfynau ffosffad uchaf fesul cnwd
Yr wybodaeth ychwanegol sydd i’w chofnodi yn ystod y cyfnod perthnasol
Mapiau risg – gofynion ychwanegol
Cynnal y daliad fel daliad glaswelltir cymhwysol
Cyfnod gwaharddedig ar gyfer aredig porfa ar y daliad
Hau cnydau yn dilyn porfa ar y daliad
Cylchdro cnydau ar y daliad
Cofnodi maint y daliad
Cofnod o nitrogen a ffosffad a gynhyrchir gan anifeiliaid
Tail da byw y bwriedir ei anfon o’r daliad
Cofnodion o’r cnydau a heuwyd
Cofnodion o daenu gwrtaith ffosffad
Cofnodi’r dyddiad aredig
Cyfrifon gwrteithio
Mesurau diogelu pridd
Lleoliadau safleoedd bwydo ac yfed atodol ar gyfer da byw
Taenu slyri yn ystod y cyfnod perthnasol
Taenu tail organig ger dŵr wyneb yn ystod y cyfnod perthnasol
Slyri a thail organig hylifol a lled-hylifol arall
Tail solet
Taenu tail organig – terfynau nitrogen fesul hectar
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.