The Renting Homes (Supported Standard Contracts) (Supplementary Provisions) (Wales) Regulations 2022

Type Welsh-Statutory-Instrument
Publication 2022-01-07
State In force
Jurisdiction Wales
Department King's Printer of Acts of Parliament
Reform history JSON API PDF

Gwnaed: 7 Ionawr 2022

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru: 12 Ionawr 2022

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Yn unol ag adran 23(2) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol.

Title and commencement

1

The title of these Regulations is the Renting Homes (Supported Standard Contracts) (Supplementary Provisions) (Wales) Regulations 2022 and they come into force on 1 December 2022 (the day on which section 239 of the Renting Homes (Wales) Act 2016 comes into force) [^f00002].

Interpretation

2

Supplementary provisions applying to supported standard contracts

3

Mae’r darpariaethau a nodir yn rheoliadau 4 i 18, yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24(1) a (2) a 25 o’r Ddeddf, wedi eu hymgorffori fel telerau contractau safonol â chymorth.

Use of dwelling

4

Ni chaniateir i ddeiliad y contract gynnal neu ganiatáu unrhyw fasnach neu fusnes yn yr annedd heb gydsyniad y landlord.

Lodgers

5

Ni chaniateir i ddeiliad y contract ganiatáu i bersonau fyw yn yr annedd fel lletywyr heb gydsyniad y landlord.

Inventory

6

Periods when the dwelling is unfit for human habitation

7

Nid yw’n ofynnol i ddeiliad y contract dalu rhent mewn cysylltiad ag unrhyw ddiwrnod neu ran o ddiwrnod pan na fo’r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi[^f00003], ac eithrio pan fo’r contract safonol â chymorth yn gontract safonol â chymorth cyfnod penodol o saith mlynedd neu ragor.

Receipt of rent or other consideration

8

O fewn 14 o ddiwrnodau i gais gan ddeiliad y contract, rhaid i’r landlord ddarparu i ddeiliad y contract dderbynneb ysgrifenedig am unrhyw rent neu gydnabyddiaeth arall a dalwyd o dan y contract safonol â chymorth.

Changes to the provision of utilities to the dwelling

9

Care of the dwelling

10

Nid yw deiliad y contract yn atebol am draul resymol i’r annedd na gosodiadau a ffitiadau yn yr annedd ond—

Repairs

11
12

Emergencies: landlord’s right to enter the dwelling

13

Security of the dwelling

14

Changes to the dwelling

15

Contract-holder’s obligations at the end of the supported standard contract

16

Pan fydd deiliad y contract yn gadael yr annedd pan ddaw’r contract safonol â chymorth i ben, rhaid i ddeiliad y contract—

Withdrawal notice by joint contract-holders: time limit

17

Y cyfnod amser lleiaf rhwng y dyddiad y rhoddir hysbysiad o dan adran 130 o’r Ddeddf (cyd-ddeiliaid contract: tynnu’n ôl) i’r landlord, a’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, yw un mis.

Repayment of rent or other consideration relating to any period falling after the end of the contract

18

Rhaid i’r landlord ad-dalu, o fewn cyfnod rhesymol o amser ar ôl i’r contract safonol â chymorth ddod i ben, i ddeiliad y contract unrhyw rent a dalwyd ymlaen llaw neu gydnabyddiaeth arall sy’n ymwneud ag unrhyw gyfnod ar ôl y dyddiad y daw’r contract i ben.

Signed

Julie James — Minister for Climate Change, one of the Welsh Ministers — 2022-01-07

Explanatory note

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

NODYN ESBONIADOL

Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r darpariaethau atodol sydd, yn ddarostyngedig i adrannau 21, 24 a 25 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“y Ddeddf”), wedi eu hymgorffori mewn contractau safonol â chymorth fel telerau atodol.

Y sefyllfa ddiofyn yw bod darpariaethau atodol yn cael eu hymgorffori fel telerau atodol contract meddiannaeth. Fodd bynnag, wrth lunio’r contract meddiannaeth, caiff y partïon gytuno bod darpariaeth atodol wedi ei haddasu neu nad yw wedi ei chynnwys yn y contract meddiannaeth.

Ni chaniateir i addasiad neu hepgoriad wneud y contract meddiannaeth yn anghydnaws ag unrhyw un o delerau sylfaenol y contract.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract gael cydsyniad y landlord cyn cynnal masnach neu fusnes yn yr annedd.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract gael cydsyniad y landlord cyn caniatáu i letywyr fyw yn yr annedd.

Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord ddarparu rhestr eiddo i ddeiliad y contract, o fewn cyfnod amser penodedig. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth sy’n galluogi deiliad y contract i wneud sylwadau ar y rhestr eiddo, a sut y caiff y landlord ymateb i’r sylwadau hynny.

Mae rheoliad 7 yn darparu nad yw deiliad y contract yn atebol am rent ar gyfer pob diwrnod (neu ran o ddiwrnod) pan na fo’r annedd yn ffit i bobl fyw ynddi. Mae rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 94 o’r Ddeddf (Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bobl Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/6 (Cy. 4)) yn rhagnodi materion ac amgylchiadau y mae rhaid rhoi sylw iddynt wrth benderfynu, at ddibenion adran 91(1) o’r Ddeddf, a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi. Os na chydymffurfir â’r materion a’r amgylchiadau hynny, caiff yr annedd ei thrin fe pe na bai’n ffit i bobl fyw ynddi.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord ddarparu, o fewn 14 o ddiwrnodau i unrhyw gais gan ddeiliad y contract, dderbynneb ysgrifenedig am rent neu gydnabyddiaeth arall a dalwyd gan ddeiliad y contract.

Mae rheoliad 9 yn nodi sut y caiff deiliad contract newid darparwyr cyfleustodau i’r annedd.

Mae rheoliad 10 yn gosod nifer o ofynion ar ddeiliad y contract mewn perthynas â gofalu am yr annedd, gosodiadau a ffitiadau yn yr annedd ac unrhyw eitemau a restrir yn y rhestr eiddo. Mae hyn yn cynnwys ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract gael cydsyniad y landlord cyn symud o’r annedd unrhyw osodiadau a ffitiadau neu unrhyw eitemau a restrir yn y rhestr eiddo. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract gadw’r annedd wedi ei haddurno mewn cyflwr rhesymol. Mae hefyd yn gwahardd deiliad y contract rhag cadw unrhyw beth yn yr annedd a fyddai’n peri risg iechyd a diogelwch.

Mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract adrodd i’r landlord am unrhyw nam, diffyg, difrod neu adfeiliad yn yr annedd y mae deiliad y contract yn credu’n rhesymol fod y landlord yn gyfrifol amdano. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract wneud yr atgyweiriadau hynny y mae deiliad y contract yn credu’n rhesymol nad yw’r landlord yn gyfrifol amdanynt.

Mae rheoliad 12 yn rhoi hawl i’r landlord, ar ôl rhoi rhybudd o 24 awr, fynd i’r annedd ar unrhyw adeg resymol at ddiben gwneud yr atgyweiriadau hynny yr oedd deiliad y contract yn gyfrifol amdanynt nas gwnaed.

Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract roi i’r landlord fynediad i’r annedd yn syth i ymdrin ag argyfwng. Mae’n nodi y caiff y landlord fynd i’r annedd mewn argyfwng os nad yw deiliad y contract yn rhoi mynediad iddo.

Mae hawl y landlord i fynd i’r annedd a ddarperir gan reoliadau 12 a 13 yn ychwanegol at yr amgylchiadau a nodir yn y Ddeddf y mae gan y landlord yr hawl i fynd i’r annedd oddi tanynt.

Mae rheoliad 14 yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract gadw’r annedd yn ddiogel ac yn nodi y caiff deiliad y contract newid y cloeon yn yr annedd, ar yr amod nad yw’r newidiadau yn darparu llai o ddiogelwch, a bod copïau o unrhyw allweddi newydd yn cael eu rhoi i’r landlord.

Mae rheoliad 15 yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract gael cydsyniad y landlord cyn gwneud addasiadau i’r annedd ac yn diffinio “addasiad” at ddibenion y rheoliad hwn.

Mae rheoliad 16 yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y contract, pan fydd y contract meddiannaeth yn dod i ben, symud o’r annedd ei holl eiddo ac eiddo unrhyw feddianwyr a ganiateir. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol dychwelyd unrhyw eiddo sy’n berchen i’r landlord i’r safle lle yr oedd ar ddechrau’r contract meddiannaeth, ac yn ei gwneud yn ofynnol dychwelyd allweddi.

Mae rheoliad 17 yn rhagnodi’r cyfnod rhybudd i’w roi i’r landlord gan gyd-ddeiliad contract sy’n dymuno tynnu’n ôl o’r contract meddiannaeth.

Mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol i’r landlord ad-dalu (o fewn cyfnod rhesymol) i ddeiliad y contract unrhyw rent a dalwyd ymlaen llaw neu unrhyw gydnabyddiaeth arall sy’n ymwneud ag unrhyw gyfnod ar ôl i’r contract ddod i ben.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Adran Dai, Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhyd-y-car, Merthyr Tudful, CF48 1UZ.

Footnotes

[^f00001]: 2016 dccc 1. Gweler adran 252 am y diffiniad o “rhagnodedig”.

[^f00002]: Daw adran 239 o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

[^f00003]: Gweler Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Ffitrwydd Annedd i Bob Fyw Ynddi) (Cymru) 2022 (O.S. 2022/6 (Cy. 4)) a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 94(1) o’r Ddeddf, sy’n rhagnodi materion ac amgylchiadau y mae rhaid rhoi sylw iddynt wrth benderfynu a yw annedd yn ffit i bobl fyw ynddi. Gweler hefyd adran 91(1) o’r Ddeddf, sy’n ei gwneud yn ddarpariaeth sylfaenol i landlord sicrhau bod yr annedd yn ffit i bobl fyw ynddi.

[^f00004]: Mae adran 96(3) o’r Ddeddf yn diffinio “diffyg gofal”.

Editorial notes

[^key-d5b9b2290425be27ccdd770f04c183ab]: Reg. 1 in force at 1.12.2022, see reg. 1 (as amended by The Renting Homes (Wales) Act 2016 (Commencement No. 2 and Consequential Amendments) Order 2022 (S.I. 2022/906), art. 6)

[^key-923899dd02f573533f35a136c8d85401]: Reg. 2 in force at 1.12.2022, see reg. 1 (as amended by The Renting Homes (Wales) Act 2016 (Commencement No. 2 and Consequential Amendments) Order 2022 (S.I. 2022/906), art. 6)

[^key-123d4ea966e53b4cbc04bc564d095e6b]: Reg. 3 in force at 1.12.2022, see reg. 1 (as amended by The Renting Homes (Wales) Act 2016 (Commencement No. 2 and Consequential Amendments) Order 2022 (S.I. 2022/906), art. 6)

[^key-70f59d595cea4e622bff9d26a2fa7a40]: Reg. 4 in force at 1.12.2022, see reg. 1 (as amended by The Renting Homes (Wales) Act 2016 (Commencement No. 2 and Consequential Amendments) Order 2022 (S.I. 2022/906), art. 6)

[^key-df0737b4ff8a09495eb83e7d75b93591]: Reg. 5 in force at 1.12.2022, see reg. 1 (as amended by The Renting Homes (Wales) Act 2016 (Commencement No. 2 and Consequential Amendments) Order 2022 (S.I. 2022/906), art. 6)

Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.