The Council Tax Reduction Schemes (Prescribed Requirements and Default Scheme) (Wales) (Amendment) Regulations 2022
Gwnaed: 19 Ionawr 2022
Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(2)
Yn unol ag adran 13A(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad[^f00002].
Title, commencement and interpretation
1
- (1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2022.
- (2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.
- (3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2022 neu ar ôl hynny.
- (4) Yn y Rheoliadau hyn—
- mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” yn adran 1(2)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”);
- ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013[^f00003], neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf 1992.
Amendments to the Council Tax Reduction Schemes and Prescribed Requirements (Wales) Regulations 2013
2
Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 10.
3
- (1) Mae rheoliad 28(5) (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).
- (2) Yn is-baragraff (e)—
- (a) ar ôl paragraff (ii) hepgorer “neu”;
- (b) ar ddiwedd paragraff (iii) yn lle “;” rhodder “,”;
- (c) ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—
neu (iv) caniatâd a roddwyd o dan Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan[^f00004];
- (3) Ar ôl is-baragraff (k) hepgorer “neu”.
- (4) Ar ddiwedd is-baragraff (l) yn lle “.” rhodder “;”.
- (5) Ar ôl is-baragraff (l) mewnosoder—
(m) yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo yn unol â’r rheolau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (e), pan fo caniatâd o’r fath yn cael ei roi yn rhinwedd— (i) y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid[^f00005], neu (ii) y cynllun blaenorol ar gyfer staff cyflogedig lleol yn Affganistan (y cyfeirir ato weithiau fel y cynllun ex-gratia)[^f00006]; neu (n) yn berson ym Mhrydain Fawr nad yw’n dod o fewn is-baragraff (e)(iv) neu (m) a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021.
4
Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr), ym mharagraff 3 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr)—
- (a) yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£15.35” rhodder “£15.95”;
- (b) yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£5.10” rhodder “£5.30”;
- (c) yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£217.00” rhodder “£224.00”;
- (d) yn is-baragraff (2)(b), yn lle “£217.00”, “£377.00” a “£10.20” rhodder “£224.00”, “£389.00” a “£10.60” yn y drefn honno;
- (e) yn is-baragraff (2)(c), yn lle “£377.00”, “£469.00” a “£12.85” rhodder “£389.00”, “£484.00” a “£13.35” yn y drefn honno.
5
In Schedule 2 (applicable amounts: pensioners)—
- (a) for the Table in paragraph 1 (personal allowance) substitute—
| Column (1) | Column (2) |
|---|---|
| Person, couple or polygamous marriage | Amount |
| 1Single applicant or lone parent who has attained pensionable age | £197.10 |
| 2Couple where one or both members have attained pensionable age | £294.90 |
| 3If the applicant is a member of a polygamous marriage and one or more members of the marriage have attained pensionable age—afor the applicant and the other party to the marriage;bfor each additional spouse who is a member of the same household as the applicant. | £294.90£97.80 |
- (b) in column (2) of the Table in paragraph 2(1) (child or young person amounts), for “£66.90”, in each place it occurs, substitute “£70.80”;
- (c) in paragraph 3 (family premium), for “£17.45” substitute “£17.85”;
- (d) in the Table in Part 4 (amounts of premium specified in Part 3), in the second column—
- (i) in sub-paragraph (1), for “£67.30”, in each place it occurs, substitute “£69.40” and for “£134.60” substitute “£138.80”;
- (ii) in sub-paragraph (2), for “£26.67” substitute “£27.44”;
- (iii) in sub-paragraph (3), for “£65.94” substitute “£68.04”;
- (iv) in sub-paragraph (4), for “£37.70” substitute “£38.85”.
6
Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr), ar ôl paragraff 28C mewnosoder—
(28D) Unrhyw daliad ex gratia a wneir yn ôl disgresiwn Gweinidogion yr Alban o’r Cynllun Talu Ymlaen Llaw a sefydlwyd gan Weinidogion yr Alban mewn cysylltiad ag achosion hanesyddol o gam-drin plant mewn gofal[^f00007]. (28E) Unrhyw daliad gwneud iawn am gamweddau a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf Gwneud Iawn am Gamweddau i Oroeswyr (Achosion Hanesyddol o Gam-drin Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021[^f00008].
7
Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 5 (didyniadau annibynyddion: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
- (a) yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£15.35” rhodder “£15.95”;
- (b) yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£5.10” rhodder “£5.30”;
- (c) yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£217.00” rhodder “£224.00”;
- (d) yn is-baragraff (2)(b), yn lle “£217.00”, “£377.00” a “£10.20” rhodder “£224.00”, “£389.00” a “£10.60” yn y drefn honno;
- (e) yn is-baragraff (2)(c), yn lle “£377.00”, “£469.00” a “£12.85” rhodder “£389.00”, “£484.00” a “£13.35” yn y drefn honno.
8
Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
- (a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
- (i) yn is-baragraff (1), yn lle “£79.60”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£82.10” ac yn lle “£63.05” rhodder “£65.00”;
- (ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£79.60” rhodder “£82.10”;
- (iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£125.05” rhodder “£128.95”;
- (b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3(1), yn lle “£66.90”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£70.80”;
- (c) ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£17.45” rhodder “£17.85”;
- (d) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
- (i) yn is-baragraff (1), yn lle “£35.10” a “£50.05” rhodder “£36.20” a “£51.60” yn y drefn honno;
- (ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£67.30”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£69.40” ac yn lle “£134.60” rhodder “£138.80”;
- (iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£65.94” rhodder “£68.04”;
- (iv) yn is-baragraff (4), yn lle “£37.70” rhodder “£38.85”;
- (v) yn is-baragraff (5), yn lle “£26.67”, “£17.20” a “£24.60” rhodder “£27.44”, “£17.75” a “£25.35” yn y drefn honno;
- (e) yn Rhan 6 (symiau’r elfennau)—
- (i) ym mharagraff 23, yn lle “£29.70” rhodder “£30.60”;
- (ii) ym mharagraff 24, yn lle “£39.40” rhodder “£40.60”.
9
Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ar ôl paragraff 65 mewnosoder—
(66) Unrhyw daliad ex gratia a wneir yn ôl disgresiwn Gweinidogion yr Alban o’r Cynllun Talu Ymlaen Llaw a sefydlwyd gan Weinidogion yr Alban mewn cysylltiad ag achosion hanesyddol o gam-drin plant mewn gofal. (67) Unrhyw daliad gwneud iawn am gamweddau a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf Taliadau Gwneud Iawn am Gamweddau i Oroeswyr (Achosion Hanesyddol o Gam-drin Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021.
10
Yn Atodlen 13 (pob ceisydd: materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun awdurdod - materion eraill), ym mharagraff 5—
- (a) ar ddiwedd is-baragraff (7)(c) yn lle “.” rhodder “;”;
- (b) ar ôl is-baragraff (7)(c) mewnosoder—
(d) taliad a ddiystyrir o dan baragraff 28D neu 28E o Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr) neu baragraff 66 neu 67 o Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr).
Amendments to the Council Tax Reduction Schemes (Default Scheme) (Wales) Regulations 2013
11
Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013[^f00009] wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 12 i 18.
12
- (1) Mae paragraff 19(5) (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr) wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (5).
- (2) Ym mharagraff (e)—
- (a) ar ôl is-baragraff (ii) hepgorer “neu”;
- (b) ar ddiwedd is-baragraff (iii) yn lle “;” rhodder “,”;
- (c) ar ôl is-baragraff (iii) mewnosoder—
neu (iv) caniatâd a roddwyd o dan Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan[^f00010];
- (3) Ar ôl paragraff (k) hepgorer “neu”.
- (4) Ar ddiwedd paragraff (l) yn lle “.” rhodder “;”.
- (5) Ar ôl paragraff (l) mewnosoder—
(m) yn berson y rhoddwyd caniatâd iddo yn unol â’r rheolau y cyfeirir atynt ym mharagraff (e), pan fo’r caniatâd hwnnw wedi ei roi yn rhinwedd— (i) y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid[^f00011], neu (ii) y cynllun blaenorol ar gyfer staff cyflogedig lleol yn Affganistan (y cyfeirir ato weithiau fel y cynllun ex-gratia)[^f00012]; neu (n) yn berson ym Mhrydain Fawr nad yw’n dod o fewn paragraff (e)(iv) neu (m) a adawodd Affganistan mewn cysylltiad â chwymp llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021.
13
Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—
- (a) yn is-baragraff (1)(a), yn lle “£15.35” rhodder “£15.95”;
- (b) yn is-baragraff (1)(b), yn lle “£5.10” rhodder “£5.30”;
- (c) yn is-baragraff (2)(a), yn lle “£217.00” rhodder “£224.00”;
- (d) yn is-baragraff (2)(b), yn lle “£217.00”, “£377.00” a “£10.20” rhodder “£224.00”, “£389.00” a “£10.60” yn y drefn honno;
- (e) yn is-baragraff (2)(c), yn lle “£377.00”, “£469.00” a “£12.85” rhodder “£389.00”, “£484.00” a “£13.35” yn y drefn honno.
14
Ym mharagraff 111 (tystiolaeth a gwybodaeth)—
- (a) ar ddiwedd is-baragraff (7)(c) yn lle “.” rhodder “;”;
- (b) ar ôl is-baragraff (7)(c) mewnosoder—
(d) taliad a ddiystyrir o dan baragraff 28D neu 28E o Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr) neu baragraff 66 neu 67 o Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr).
15
In Schedule 2 (applicable amounts: pensioners)—
- (a) in paragraph 1 (personal allowance), for the Table substitute—
| Column (1) | Column (2) |
|---|---|
| Person, couple or polygamous marriage | Amount |
| 1Single applicant or lone parent who has attained pensionable age | £197.10 |
| 2Couple where one or both members have attained pensionable age | £294.90 |
| 3If the applicant is a member of a polygamous marriage and one or more members of the marriage have attained pensionable age—afor the applicant and the other party to the marriage;bfor each additional spouse who is a member of the same household as the applicant. | £294.90£97.80 |
- (b) in column (2) of the Table in paragraph 2(1) (child or young person amounts), for “£66.90”, in each place it occurs, substitute “£70.80”;
- (c) in paragraph 3 (family premium), for “£17.45” substitute “£17.85”;
- (d) in the Table in Part 4 (amounts of premium specified in Part 3), in the second column—
- (i) in sub-paragraph (1), for “£67.30” in each place it occurs, substitute “£69.40” and for “£134.60” substitute “£138.80”;
- (ii) in sub-paragraph (2), for “£26.67” substitute “£27.44”;
- (iii) in sub-paragraph (3), for “£65.94” substitute “£68.04”;
- (iv) in sub-paragraph (4), for “£37.70” substitute “£38.85”.
16
Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
- (a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
- (i) yn is-baragraff (1), yn lle “£79.60”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£82.10” ac yn lle “£63.05” rhodder “£65.00”;
- (ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£79.60” rhodder “£82.10”;
- (iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£125.05” rhodder “£128.95”;
- (b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£66.90”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£70.80”;
- (c) ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£17.45” rhodder “£17.85”;
- (d) yn y Tabl yn Rhan 4 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3), yn yr ail golofn—
- (i) yn is-baragraff (1), yn lle “£35.10” a “£50.05” rhodder “£36.20” a “£51.60” yn y drefn honno;
- (ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£67.30”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “£69.40” ac yn lle “£134.60” rhodder “£138.80”;
- (iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£65.94” rhodder “£68.04”;
- (iv) yn is-baragraff (4), yn lle “£37.70” rhodder “£38.85”;
- (v) yn is-baragraff (5), yn lle “£26.67”, “£17.20” a “£24.60” rhodder “£27.44”, “£17.75” a “£25.35” yn y drefn honno;
- (e) yn Rhan 6 (symiau’r elfennau)—
- (i) ym mharagraff 23, yn lle “£29.70” rhodder “£30.60”;
- (ii) ym mharagraff 24, yn lle “£39.40” rhodder “£40.60”.
17
Yn Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr), ar ôl paragraff 28C mewnosoder—
(28D) Unrhyw daliad ex gratia a wneir yn ôl disgresiwn Gweinidogion yr Alban o’r Cynllun Talu Ymlaen Llaw a sefydlwyd gan Weinidogion yr Alban mewn cysylltiad ag achosion hanesyddol o gam-drin plant mewn gofal[^f00013]. (28E) Unrhyw daliad gwneud iawn am gamweddau a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf Taliadau Gwneud Iawn am Gamweddau i Oroeswyr (Achosion Hanesyddol o Gam-drin Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021[^f00014].
18
Yn Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ar ôl paragraff 65 mewnosoder—
(66) Unrhyw daliad ex gratia a wneir yn ôl disgresiwn Gweinidogion yr Alban o’r Cynllun Talu Ymlaen Llaw a sefydlwyd gan Weinidogion yr Alban mewn cysylltiad ag achosion hanesyddol o gam-drin plant mewn gofal. (67) Unrhyw daliad gwneud iawn am gamweddau a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf Taliadau Gwneud Iawn am Gamweddau i Oroeswyr (Achosion Hanesyddol o Gam-drin Plant mewn Gofal) (Yr Alban) 2021.
Signed
Rebecca Evans — Minister for Finance and Local Government, one of the Welsh Ministers — 2022-01-19
Explanatory note
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
NODYN ESBONIADOL
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig”) a Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 (“y Rheoliadau Cynllun Diofyn”) a wnaed o dan adran 13A(4) a (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ac Atodlen 1B iddi.
Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod bilio yng Nghymru wneud cynllun sy’n pennu’r gostyngiadau sydd i fod yn gymwys i symiau o’r dreth gyngor sy’n daladwy gan bersonau, neu gan ddosbarthau o bersonau, y mae’r awdurdod yn ystyried eu bod mewn angen ariannol. Mae’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig hefyd yn nodi’r materion y mae rhaid eu cynnwys mewn cynllun o’r fath.
Mae’r Rheoliadau Cynllun Diofyn yn nodi cynllun a fydd yn cael effaith, mewn cysylltiad ag anheddau sydd wedi eu lleoli yn ardal awdurdod bilio, os yw’r awdurdod yn methu â gwneud ei gynllun ei hun.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig a’r Rheoliadau Cynllun Diofyn.
Mae rheoliad 3 yn mewnosod categorïau newydd yn y rhestr o bersonau nad ydynt i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr at ddiben y meini prawf preswylio a nodir yn rheoliad 28 o’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig. Y categorïau newydd yw personau y rhoddir caniatâd iddynt o dan reolau mewnfudo yn rhinwedd y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid neu’r cynllun blaenorol ar gyfer staff cyflogedig lleol yn Affganistan (a elwir hefyd y cynllun ex-gratia), personau y rhoddir caniatâd iddynt o dan Gynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan, a phersonau nad ydynt yn dod o fewn y cynlluniau hynny, ond a gyrhaeddodd Brydain Fawr o Affganistan mewn cysylltiad â chwymp llywodraeth Affganistan a ddigwyddodd ar 15 Awst 2021. Gwneir yr un diwygiadau i Reoliadau’r Cynllun Diofyn gan reoliad 12.
Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 4, 5(b) i (d), 7 ac 8 yn cynyddu rhai o’r ffigurau a ddefnyddir wrth gyfrifo a oes gan berson hawlogaeth i gael gostyngiad a’i peidio, a swm y gostyngiad hwnnw. Mae’r ffigyrau uwchraddedig yn ymwneud â didyniadau annibynyddion (sef addasiadau i uchafswm y gostyngiad y mae hawlogaeth gan berson i’w gael, er mwyn cymryd i ystyriaeth oedolion sy’n byw yn yr annedd ac nad ydynt yn ddibynyddion y ceisydd); ac â’r swm cymwysadwy mewn perthynas â chais am ostyngiad (sef y swm y cymherir incwm ceisydd ag ef, er mwyn penderfynu swm y gostyngiad y mae hawlogaeth gan y ceisydd i’w gael). Mae ffigurau eraill wedi eu huwchraddio hefyd i adlewyrchu newidiadau dros amser i hawlogaethau amrywiol. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 13, 15(b) i (d) ac 16.
Mae’r diwygiad a wneir gan reoliad 5(a) yn amnewid y tabl presennol ym mharagraff 1 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig er mwyn dileu cyfeiriadau diangen at bersonau o dan 65 oed. Gwneir yr un diwygiad i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliad 15(a). Effaith y diwygiadau hyn yw estyn y gyfradd uchaf o lwfans personol i bensiynwyr.
Mae’r diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig gan reoliadau 6, 9 a 10 yn darparu ar gyfer sut y mae taliadau digollediad a wneir gan Weinidogion yr Alban mewn perthynas ag achosion hanesyddol o gam-drin plant i’w cymryd i ystyriaeth wrth benderfynu cymhwystra am ostyngiad a swm unrhyw ostyngiad. Gwneir yr un diwygiadau i’r Rheoliadau Cynllun Diofyn gan reoliadau 14, 17 a 18.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Footnotes
[^f00001]: 1992 p. 14. Amnewidiwyd adran 13A gan adran 10(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p. 17) a mewnosodwyd Atodlen 1B gan adran 10(2) o’r Ddeddf honno ac Atodlen 4 iddi. Gweler adran 116 am y diffiniad o “prescribed”.
[^f00002]: Mae’r cyfeiriad yn adran 13A(8) at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru, yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), fel y’i diwygiwyd gan adran 9 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (dccc 1) ac Atodlen 1 iddi.
[^f00003]: O.S. 2013/3029 (Cy. 301), a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/66 (Cy. 6), O.S. 2014/825 (Cy. 83), O.S. 2015/44 (Cy. 3), O.S. 2015/971, O.S. 2016/50 (Cy. 21), O.S. 2017/46 (Cy. 20), O.S. 2018/14 (Cy. 7), O.S. 2019/11 (Cy. 5), O.S. 2020/16 (Cy. 2) ac O.S. 2021/34 (Cy. 9).
[^f00004]: Cyhoeddwyd Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 18 Awst 2021 ac fe’i cyhoeddwyd ar:https://www.gov.uk/guidance/afghan-citizens-resettlement-scheme.
[^f00005]: Cyhoeddwyd y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 29 Rhagfyr 2020 ac fe’i cyhoeddwyd ar: https://www.gov.uk/government/publications/afghan-relocations-and-assistance-policy/afghan-relocations-and-assistance-policy-information-and-guidance.
[^f00006]: Gweler Rhan 7 o’r rheolau a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo1971 (p. 77); y rheolau perthnasol yw rheolau 276BA1 – 276BS2.
[^f00007]: Cyhoeddwyd y Cynllun Talu Ymlaen Llaw gan Lywodraeth yr Alban ar 25 Ebrill 2019 ac fe’i cyhoeddwyd ar: https://www.gov.scot/publications/financial-redress-for-survivors-of-child-abuse-in-care-advance-payment-scheme/.
[^f00008]: 2021 dsa 15.
[^f00009]: O.S. 2013/3035 (Cy. 303), a ddiwygiwyd gan O.S. 2014/66 (Cy. 6), O.S. 2014/825 (Cy. 83), O.S. 2015/44 (Cy. 3), O.S. 2015/971, O.S. 2016/50 (Cy. 21), O.S. 2017/46 (Cy. 20), O.S. 2018/14 (Cy. 7), O.S. 2019/11 (Cy. 5), O.S. 2020/16 (Cy. 2) ac O.S. 2021/34 (Cy. 9).
[^f00010]: Cyhoeddwyd Cynllun Adsefydlu Dinasyddion Affganistan gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 18 Awst 2021 ac fe’i cyhoeddwyd ar:https://www.gov.uk/guidance/afghan-citizens-resettlement-scheme.
[^f00011]: Cyhoeddwyd y Polisi Adleoli a Chymorth i Affganiaid gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 29 Rhagfyr 2020 ac fe’i cyhoeddwyd ar: https://www.gov.uk/government/publications/afghan-relocations-and-assistance-policy/afghan-relocations-and-assistance-policy-information-and-guidance.
[^f00012]: Gweler Rhan 7 o’r rheolau a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo1971 (p. 77); y rheolau perthnasol yw rheolau 276BA1 – 276BS2.
[^f00013]: Cyhoeddwyd y Cynllun Talu Ymlaen Llaw gan Lywodraeth yr Alban ar 25 Ebrill 2019 ac fe’i cyhoeddwyd ar: https://www.gov.scot/publications/financial-redress-for-survivors-of-child-abuse-in-care-advance-payment-scheme/.
[^f00014]: 2021 dsa 15.
Editorial notes
[^key-c79c241d79c76fec28e26dd3a80f4593]: Reg. 1 in force at 20.1.2022, see reg. 1(2)
[^key-3ba248f11153e75f3d816864f48c6621]: Reg. 2 in force at 20.1.2022, see reg. 1(2)
[^key-b3beb7fae61ee47ea4cb7a9453513671]: Reg. 3 in force at 20.1.2022, see reg. 1(2)
[^key-13fdaa91c64290d59cdc9a76a42a9cd6]: Reg. 4 in force at 20.1.2022, see reg. 1(2)
[^key-9c9220b625407879b0c163f8a67256bf]: Reg. 5 in force at 20.1.2022, see reg. 1(2)
[^key-bbadb25063b8567dceb39735843ebf8c]: Reg. 6 in force at 20.1.2022, see reg. 1(2)
[^key-e55840fdea2b31b239ee6ccf7f461460]: Reg. 7 in force at 20.1.2022, see reg. 1(2)
[^key-c9fe69b16065c6b6d829edef502290da]: Reg. 8 in force at 20.1.2022, see reg. 1(2)
[^key-87213676028d20868e98a14ad7edc33e]: Reg. 9 in force at 20.1.2022, see reg. 1(2)
[^key-bf6d26aff1f999c6c0b23fdfd4d355bb]: Reg. 10 in force at 20.1.2022, see reg. 1(2)
[^key-721b13da399536f75bd32b752ce8f198]: Reg. 11 in force at 20.1.2022, see reg. 1(2)
[^key-bf8cc988c4ac6029eb6b38760d6ad436]: Reg. 12 in force at 20.1.2022, see reg. 1(2)
[^key-8c5f62cf3a72eb7676ce8a5619f6f898]: Reg. 13 in force at 20.1.2022, see reg. 1(2)
[^key-9e766893c40952c4f65af1c9067a5cdc]: Reg. 14 in force at 20.1.2022, see reg. 1(2)
[^key-04e3c4f59fd766936c1a72cf03a9b96b]: Reg. 15 in force at 20.1.2022, see reg. 1(2)
[^key-f261de85f98346abba8dbe4177c89211]: Reg. 16 in force at 20.1.2022, see reg. 1(2)
[^key-25c15a6281cc191fd1a73271dbb53a7c]: Reg. 17 in force at 20.1.2022, see reg. 1(2)
[^key-efaee0059a14a0cdb3e805afa3c11bb6]: Reg. 18 in force at 20.1.2022, see reg. 1(2)
Enwi, cychwyn a dehongli
Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Cyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013
Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.