The Corporate Joint Committees (General) (No. 2) (Wales) Regulations 2022
Gwnaed: 13 Gorffennaf 2022
Yn dod i rym: 15 Gorffennaf 2022
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad yn unol ag adran 174(4) a (5) o’r Ddeddf honno.
RHAN 1 — Cyflwyniad
Title and coming into force
1
- (1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022.
- (2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Gorffennaf 2022.
Interpretation
2
Yn y Rheoliadau hyn—
- ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;
- ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000[^f00002];
- ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 [^f00003].
RHAN 2 — Perfformiad a gwybodaeth sy’n gysylltiedig â pherfformiad
Amendment of the Public Audit (Wales) Act 2004 to provide for directions by the Auditor General for Wales
3
- (1) Mae Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004[^f00004] wedi ei diwygio fel a ganlyn.
- (2) Yn adran 46(1) (cyrff y caiff Archwilydd Cyffredinol Cymru eu cyfarwyddo i gyhoeddi gwybodaeth), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
(ba) a corporate joint committee;
- (3) Yn adran 47(4)(c) (edrych ar wybodaeth sy’n ymwneud â pherfformiad), ar y dechrau mewnosoder “in the case of a relevant body which is not a corporate joint committee,”.
- (4) Yn adran 48 (dulliau a ganiateir o gyhoeddi gwybodaeth o dan adran 47), yn lle is-adran (1) rhodder—
(1) The permitted methods of publication referred to in section 47(4)(b) are— (a) in the case of a relevant body which is a corporate joint committee, electronic publication; (b) in the case of a relevant body which is not a corporate joint committee, the methods mentioned in subsections (2) and (3).
Amendment of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021 to apply Chapter 1 of Part 6 to corporate joint committees
4
Ar ôl Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2021 (perfformiad cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol) mewnosoder—
(115A) Mae Atodlen 10A yn cymhwyso Pennod 1 (perfformiad, asesiadau perfformiad ac ymyrraeth: prif gynghorau), ac eithrio adrannau 113, 114 a 115, i gyd-bwyllgor corfforedig gyda’r addasiadau a nodir yn yr Atodlen honno.
5
Ar ôl Atodlen 10 i Ddeddf 2021 mewnosoder—
ATODLEN 10A (1) Mae Pennod 1 o Ran 6, ac eithrio adrannau 113, 114 a 115, yn gymwys i gyd-bwyllgor corfforedig gyda’r addasiadau a nodir yn yr Atodlen hon. (2) Ym Mhennod 1 o Ran 6— (a) mae’r cyfeiriadau at brif gyngor i’w darllen fel cyfeiriadau at gyd-bwyllgor corfforedig ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraffau 3 i 17 o’r Atodlen hon (sy’n gwneud addasiadau ychwanegol i ddarpariaethau penodol ym Mhennod 1 o Ran 6); (b) mae’r cyfeiriadau at bwyllgor llywodraethu ac archwilio prif gyngor i’w darllen fel cyfeiriadau at is-bwyllgor llywodraethu ac archwilio i gyd-bwyllgor corfforedig; (c) mae’r cyfeiriadau at ardal prif gyngor i’w darllen fel cyfeiriadau at yr ardal a bennir yn ardal cyd-bwyllgor corfforedig mewn rheoliadau o dan Ran 5 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig. (3) Mae adran 90 i’w darllen fel pe bai— (a) ym mharagraff (a) “pobl leol” yn golygu pobl sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn yr ardal a bennir yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig mewn rheoliadau o dan Ran 5 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig; (b) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (c) (ac o flaen “a”)— (ca) pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig, (cb) unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig, (4) Mae adran 91(10)(c) i’w darllen fel pe bai— (a) yn is-baragraff (ii), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod; (b) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (ii) (ac o flaen “a”)— (iia) pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig, (iib) unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig, (5) Mae adran 92 i’w darllen fel pe bai— (a) yn is-adran (1), “i brif gynghorau yng Nghymru (“y cyfnod rhyngetholiadol”)” wedi ei roi yn lle “i’r cyngor”; (b) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (1)— (1A) At ddibenion is-adran (1), y cyfnod rhyngetholiadol cyntaf yw’r cyfnod yn union ar ôl yr etholiad a grybwyllir yn is-adran (1B). (1B) Yr etholiad a grybwyllir yn yr is-adran hon yw’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i brif gynghorau yng Nghymru sy’n dilyn yr etholiad a ddigwyddodd ar 5 Mai 2022. (c) yn is-adran (3)— (i) ym mharagraff (a) “pobl leol” yn golygu pobl sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn yr ardal a bennir yn ardal y cyd-bwyllgor corfforedig mewn rheoliadau o dan Ran 5 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig; (ii) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (c) (ac o flaen “a”)— (ca) pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig, (cb) unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig, (d) yn is-adran (5)— (i) ym mharagraff (c), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod; (ii) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (c) (ac o flaen “a”)— (ca) pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig, (cb) unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig, (e) yn is-adran (7), “i brif gynghorau yng Nghymru” wedi ei roi yn lle “i’r cyngor”. (f) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (7)— (7A) Y cyntaf o’r etholiadau a grybwyllir yn is-adran (7) yw’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i brif gynghorau yng Nghymru sy’n dilyn yr etholiad a grybwyllir yn is-adran (1B). (6) Mae adran 93 i’w darllen fel pe bai— (a) yn is-adran (6)(b)— (i) yn is-baragraff (iii), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod; (ii) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (iii) (ac o flaen “a”)— (iiia) pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig, (iiib) unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig, (b) yn is-adran (7), “i brif gynghorau yng Nghymru” wedi ei roi yn lle “i’r cyngor”. (c) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-adran (7)— (7A) Y cyntaf o’r etholiadau a grybwyllir yn is-adran (7) yw’r etholiad cyffredin nesaf ar gyfer cynghorwyr i brif gynghorau yng Nghymru sy’n dilyn yr etholiad a grybwyllir yn adran 92(1B). (7) Mae adran 95 i’w darllen fel pe bai— (a) yn is-adran (7)(b)— (i) yn is-baragraff (ii), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod; (ii) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (ii) (ac o flaen “a”)— (iia) pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig, (iib) unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig, (b) is-adran (9) wedi ei hepgor. (8) Mae adran 96(7)(b) i’w darllen fel pe bai— (a) yn is-baragraff (i), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod, (b) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (i) (ac o flaen “a”)— (ia) pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig, (ib) unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig, (9) Mae adran 97(2)(b) i’w darllen fel pe bai— (a) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl is-baragraff (ii) (ac o flaen “a”)— (iia) pob cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw, (iib) unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw, (b) yn is-baragraff (iii), ar y dechrau, “os oes gan y cyd-bwyllgor corfforedig swyddogaeth sy’n ymwneud ag addysg,” wedi ei fewnosod. (10) Mae adran 98 i’w darllen fel pe bai— (a) y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)— (1) Caiff arolygydd, ar unrhyw adeg resymol, fynd i unrhyw fangre— (a) cyd-bwyllgor corfforedig; (b) cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig; (c) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo drwy reoliadau o dan Ran 5 benodi aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, a gwneud unrhyw beth y mae’r arolygydd yn ystyried ei fod yn angenrheidiol at ddibenion arolygiad arbennig o’r cyd-bwyllgor corfforedig, gan gynnwys arolygu dogfen a ddelir gan yr awdurdod y mae’r arolygydd wedi mynd i’w fangre. (b) y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (2)— (2) Caiff arolygydd ei gwneud yn ofynnol i awdurdod a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c) o is-adran (1) ddarparu i’r arolygydd unrhyw un neu ragor o’r canlynol y mae’r arolygydd yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddibenion arolygiad arbennig o’r cyd-bwyllgor corfforedig— (a) dogfen y mae’r awdurdod yn ei dal; (b) cyfleusterau a chymorth. (c) y canlynol wedi ei roi yn lle paragraff (b) o is-adran (4)— (b) ei gwneud yn ofynnol i awdurdod a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c) o is-adran (1) ddarparu i’r arolygydd gopi darllenadwy, gan gynnwys copi electronig darllenadwy, o ddogfen a arolygir yn ei fangre o dan is-adran (1) neu a ddarparwyd ganddo o dan is-adran (2)(a); (11) Mae adran 99 i’w darllen fel pe bai— (a) y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)— (1) Caiff arolygydd fynd i fangre awdurdod a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c) o adran 98(1) wrth arfer y pwerau o dan yr is-adran honno o dan yr amgylchiadau a ganlyn yn unig — (a) pan fo arolygydd wedi rhoi rhybudd ysgrifenedig i’r awdurdod, a (b) pan fo o leiaf dri diwrnod gwaith rhwng y diwrnod y mae’r arolygydd yn rhoi’r rhybudd a’r diwrnod y mae’r arolygydd yn mynd i’r fangre. (b) yn is-adran (2), “awdurdod” wedi ei roi yn lle “cyngor”, yn y ddau le y mae’n digwydd; (c) y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (3)— (3) Nid yw’r gofyniad yn is-adran (1) yn gymwys os yw arolygydd yn ystyried y byddai rhoi rhybudd i awdurdod o arfer pŵer o dan adran 98(1) yn ei erbyn yn niweidio, neu’n debygol o niweidio, arfer y pŵer hwnnw. (3A) Nid yw’r gofyniad yn is-adran (2) yn gymwys os yw arolygydd yn ystyried y byddai rhoi rhybudd i awdurdod o arfer pŵer o dan adran 98(2) yn ei erbyn yn niweidio, neu’n debygol o niweidio, arfer y pŵer hwnnw. (d) yn is-adran (4)(b)(i), “aelod o brif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol neu’n aelod o staff prif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol (pa un a yw’r person hwnnw hefyd yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig neu’n aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig ai peidio)” wedi ei roi yn lle “aelod o brif gyngor neu’n aelod o staff prif gyngor”; (e) yn is-adran (5)— (i) “awdurdod a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c) o adran 98(1)” wedi ei roi yn lle “brif gyngor”; (ii) “awdurdod” wedi ei roi yn lle “cyngor”, ym mhob lle y mae’n digwydd ym mharagraffau (a), (b) ac (c); (iii) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (c)— (d) os yw’r awdurdod y mae’r rhybudd i’w roi iddo yn gyd-bwyllgor corfforedig— (i) gadael y rhybudd ym mhrif swyddfa cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig; (ii) anfon y rhybudd drwy’r post dosbarth cyntaf, neu drwy wasanaeth arall sy’n darparu ar gyfer ei ddanfon yn ddim hwyrach na’r diwrnod gwaith nesaf, i brif swyddfa cyngor cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig. (f) yn is-adran (6)— (i) “aelod o brif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol neu aelod o staff prif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol (pa un a yw’r person hwnnw hefyd yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig neu aelod o staff cyd-bwyllgor corfforedig ai peidio)” wedi ei roi yn lle “aelod o brif gyngor neu aelod o staff prif gyngor”; (ii) ym mharagraffau (a) a (b), “prif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol” wedi ei roi yn lle “cyngor”; (g) yn is-adran (7), “aelod o brif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol neu aelod o staff prif gyngor neu awdurdod Parc Cenedlaethol” wedi ei roi yn lle “aelod o brif gyngor neu aelod o staff prif gyngor”. (12) Mae adran 101(5)(b) i’w darllen fel pe bai “cyd-bwyllgorau corfforedig” wedi ei roi yn lle “prif gynghorau”. (13) Mae adran 103 i’w darllen fel pe bai— (a) y canlynol wedi ei roi yn lle is-adran (1)— (1) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod a grybwyllir yn is-adran (1A) i ddarparu i gyd-bwyllgor corfforedig (“y cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir”) unrhyw gefnogaeth a chymorth y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol er mwyn cynyddu’r graddau y mae’r cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir yn bodloni’r gofynion perfformiad. (1A) Yr awdurdodau a grybwyllir yn yr is-adran hon yw— (a) cyd-bwyllgor corfforedig; (b) prif gyngor. (b) yn is-adran (3), “awdurdod y mae Gweinidogion Cymru yn bwriadu rhoi’r cyfarwyddyd iddo a’r cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir” wedi ei roi yn lle “ddau gyngor”; (c) yn is-adran (4)— (i) “awdurdod” wedi ei roi yn lle “prif gyngor”; (ii) “cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir” wedi ei roi yn lle “cyngor a gefnogir”, ym mhob lle y mae’n digwydd.” (14) Mae adran 104(2)(a) i’w darllen fel pe bai “awdurdod arall” wedi ei roi yn lle “cyngor arall”. (15) Mae adran 105 i’w darllen fel pe bai— (a) yn is-adran (1)— (i) “cyd-bwyllgor corfforedig (“y cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir”)” wedi ei roi yn lle “prif gyngor (“y cyngor a gefnogir”)”; (ii) ym mharagraff (b), “awdurdod” wedi ei roi yn lle “prif gyngor”; (iii) “i’r cyd-bwyllgor corfforedig a gefnogir” wedi ei roi yn lle “i’r cyngor a gefnogir”; (b) yn is-adrannau (2), (3) a (4), “cyd-bwyllgor corfforedig” wedi ei roi yn lle “cyngor”, ym mhob lle y mae’n digwydd; (c) yn is-adran (5), “ac awdurdod” wedi ei roi yn lle “a phrif gyngor”. (16) Mae adran 108 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle is-adrannau (1) i (3)— (1) Nid yw rheoliad 13 o Reoliadau Cyd-bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2021 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau) yn gymwys i swyddogaethau cyd-bwyllgor corfforedig a grybwyllir yn is-adran (4). (17) Mae adran 112 i’w darllen fel pe bai’r canlynol wedi ei fewnosod yn y lle priodol— - ystyr “cyngor cyfansoddol” (“constituent council”), mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig penodol, yw cyngor cyfansoddol fel y nodir yn y rheoliadau o dan Ran 5 sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig;
6
- (1) Yn nheitl Rhan 6 o Ddeddf 2021, ar ôl “PRIF GYNGHORAU” mewnosoder “A CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG”.
- (2) Yn nheitl Pennod 1 o’r Rhan honno, ar ôl “YMYRRAETH” mewnosoder “: PRIF GYNGHORAU”.
Amendment of section 159 of the Local Government and Elections (Wales) Act 2021
7
Yn adran 159 o Ddeddf 2021 (rhannu gwybodaeth rhwng rheoleiddwyr, Archwilydd Cyffredinol Cymru a Gweinidogion Cymru)—
- (a) yn is-adran (1), ar ôl “phrif gyngor” mewnosoder “neu gyd-bwyllgor corfforedig”;
- (b) yn is-adran (4), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—
(ba) swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru neu Weinidogion Cymru o dan Bennod 1A o Ran 6 (perfformiad cyd-bwyllgorau corfforedig);
- (c) yn is-adran (5), yn Nhabl 2 —
- (i) ar ôl y trydydd cofnod yn yr ail golofn sy’n ymwneud ag Archwilydd Cyffredinol Cymru mewnosoder—
| Swyddogaethau o dan Bennod 1A o Ran 6 o’r Ddeddf hon (arolygiadau arbennig o berfformiad cyd-bwyllgorau corfforedig) | |
|---|---|
- (ii) yn yr ail golofn, yn yr ail gofnod sy’n ymwneud â Gweinidogion Cymru, ar ôl “(perfformiad prif gynghorau)” mewnosoder “, Pennod 1A o Ran 6 (perfformiad cyd-bwyllgorau corfforedig)”.
RHAN 3 — Trosolwg a chraffu
Duties in relation to overview and scrutiny
Duty to co-operate on overview and scrutiny
8
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
- (a) pan fo pwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol (“y pwyllgor”) yn gwneud adroddiad neu argymhellion o dan adran 21(2)(e) o Ddeddf 2000, a
- (b) pan fo’r adroddiad neu’r argymhellion yn ymwneud ag arfer swyddogaeth cyd-bwyllgor corfforedig.
- (2) Rhaid i’r cyd-bwyllgor corfforedig gydweithredu â’r pwyllgor a rhoi iddo’r cymorth rhesymol hwnnw y mae’n gofyn amdano mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau.
- (3) Caiff y cymorth a ddarperir o dan baragraff (2) gynnwys—
- (a) trefnu i aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig fynychu cyfarfod o’r pwyllgor ac ateb cwestiynau yn y cyfarfod;
- (b) trefnu i aelod o staff y cyd-bwyllgor corfforedig fynychu cyfarfod o’r pwyllgor ac ateb cwestiynau yn y cyfarfod;
- (c) darparu gwybodaeth;
- (d) darparu copïau o ddogfennau sydd ym meddiant y cyd-bwyllgor corfforedig neu o dan ei reolaeth.
- (4) Pan fo’r pwyllgor yn gwneud cais i’r cyd-bwyllgor corfforedig ddarparu gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth esempt, neu gopi o unrhyw ddogfen neu ran o ddogfen sy’n cynnwys gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth esempt, nid yw paragraff (2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r cyd-bwyllgor corfforedig ddarparu’r wybodaeth honno neu’r ddogfen honno i’r pwyllgor oni bai bod yr wybodaeth yn berthnasol.
- (5) At ddibenion paragraff (4) mae gwybodaeth yn berthnasol os yw swyddog priodol y cyd-bwyllgor corfforedig yn penderfynu bod yr wybodaeth—
- (a) yn ymwneud â gweithred neu benderfyniad sy’n cael ei adolygu neu y creffir arno gan y pwyllgor, neu
- (b) yn berthnasol i unrhyw adolygiad sydd wedi ei gynnwys yn unrhyw un o raglenni gwaith y pwyllgor.
- (6) Nid oes dim yn y rheoliad hwn yn caniatáu datgelu gwybodaeth gyfrinachol neu wybodaeth esempt gan bwyllgor trosolwg a chraffu ac eithrio fel yr awdurdodir gan unrhyw ddeddfiad arall.
- (7) At ddibenion y rheoliad hwn “pwyllgor trosolwg a chraffu perthnasol”, mewn perthynas â chyd-bwyllgor corfforedig yw—
- (a) pwyllgor trosolwg a chraffu a benodwyd gan gyngor cyfansoddol o dan adran 21(2) o Ddeddf 2000;
- (b) cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu a benodwyd o dan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 2013[^f00005] pan fo’r awdurdodau sy’n penodi yn gynghorau cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig;
- (c) is-bwyllgor i bwyllgor a ddisgrifir ym mharagraff (a) neu (b).
Duty to have regard
9
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—
- (a) rheoliad 8 yn gymwys, a
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.