The Local Government Investigations (Functions of Monitoring Officers and Standards Committees) (Wales) (Amendment) Regulations 2022
Gwnaed: 13 Gorffennaf 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru: 15 Gorffennaf 2022
Yn dod i rym: 5 Awst 2022
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 73(1), (2)(b), (2)(d) a (2)(e), ac adran 105(2)(a) a (2)(b) a (3), o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[^f00001].
Title and coming into force
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022 a deuant i rym ar 5 Awst 2022.
Amendments to the Local Government Investigations (Functions of Monitoring Officers and Standards Committees) (Wales) Regulations 2001
2
Mae Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001[^f00002] wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3
Yn rheoliad 2, yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol”—
- (a) ar ôl “gynllun y mae adran 4 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddo,” hepgorer “ac”;
- (b) yn lle “1995;” rhodder “1995, a”;
- (c) ar y diwedd mewnosoder “chyd-bwyllgor corfforedig;”.
4
Yn rheoliad 3, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—
(2A) Pan fo’r awdurdod perthnasol dan sylw yn gyd-bwyllgor corfforedig, yn achos aelod neu aelod cyfetholedig sydd hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o— (a) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig; (b) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021[^f00003] benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig, rhaid i swyddog monitro’r cyd-bwyllgor corfforedig hefyd anfon copi o unrhyw adroddiad ac unrhyw argymhellion a ddyroddwyd o dan baragraff (1)(b) neu unrhyw argymhellion a wnaed o dan baragraff (2) at swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw.
5
Yn rheoliad 6, ar ôl paragraff (a) mewnosoder—
(aa) pan fo unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o— (i) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig; (ii) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig, anfon copi o’r adroddiad ac unrhyw argymhellion at swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;
6
Yn rheoliad 7(1)(a), ar ôl paragraff (i) mewnosoder—
(ia) pan fo’r person sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o— (aa) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig; (bb) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig, swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;
7
Yn rheoliad 7A(1), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—
(aa) pan fo testun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o— (i) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig; (ii) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig, swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;
8
Yn rheoliad 8—
- (a) ym mharagraff (4), yn lle “Rheoliad 7(b)” rhodder “rheoliad 7(1)(b)”;
- (b) ym mharagraff (6)(b), yn lle “Rheoliad 12(a)(i)” rhodder “rheoliad 12(1)(a)(i)”;
- (c) ym mharagraff (6)(c), yn lle “Reoliad 12(a)(ii)” rhodder “reoliad 12(1)(a)(ii)”.
9
Yn rheoliad 9—
- (a) ym mharagraff (2), yn lle “Rheoliad 12(a)(ii)” rhodder “rheoliad 12(1)(a)(ii)”;
- (b) ar ôl paragraff (3)(a), mewnosoder—
(aa) pan fo testun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o— (i) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig; (ii) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig, swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;
10
Yn rheoliad 10(10), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—
(aa) pan fo’r person sy’n ceisio caniatâd i apelio yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o— (i) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig; (ii) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig, swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw;
11
Yn rheoliad 12—
- (a) daw’r ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);
- (b) ym mharagraff (1), hepgorer y geiriau o “, a rhaid iddo roi gwybod” hyd at “penderfyniad”;
- (c) ar ôl paragraff (1), mewnosoder—
(2) Ar ôl gwneud penderfyniad yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r tribiwnlys apelau roi hysbysiad o’r penderfyniad hwnnw ynghyd â’r rhesymau dros y penderfyniad i: (a) unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad, (b) Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, (c) Pwyllgor Safonau’r awdurdod perthnasol, a (d) pan fo unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o— (i) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig; (ii) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig, swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw.
12
Yn rheoliad 13—
- (a) ym mharagraff (1)—
- (i) yn is-baragraff (b), yn lle “Rheoliad 12(a)(i) neu (b)” rhodder “rheoliad 12(1)(a)(i) neu (b)”;
- (ii) yn is-baragraff (c), yn lle “Reoliad 12(a)(ii)” rhodder “reoliad 12(1)(a)(ii)”;
- (iii) hepgorer y geiriau o “ac anfon” hyd at “a arweiniodd at yr ymchwiliad”;
- (b) ar ôl paragraff (1), mewnosoder—
(1A) Rhaid i’r Pwyllgor Safonau anfon copi o’r adroddiad at: (a) unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad, (b) Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, (c) swyddog monitro’r awdurdod perthnasol dan sylw, a (d) pan fo unrhyw berson sy’n destun yr ymchwiliad yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o gyd-bwyllgor corfforedig, a’i fod hefyd yn aelod neu’n aelod cyfetholedig o— (i) cyngor cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig; (ii) awdurdod Parc Cenedlaethol y mae’n ofynnol iddo gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 benodi aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig, swyddog monitro’r cyngor cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw. (1B) Rhaid i’r Pwyllgor Safonau hefyd gymryd camau rhesymol i anfon copi o’r adroddiad at unrhyw berson a wnaeth unrhyw honiad a arweiniodd at yr ymchwiliad.
- (c) ym mharagraff (2), yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), ar ôl “awdurdod perthnasol” mewnosoder “dan sylw”.
Signed
Rebecca Evans — Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru — 13 Gorffennaf 2022
Explanatory note
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
NODYN ESBONIADOL
Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig, a sefydlir drwy reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, at y diffiniad o “awdurdod perthnasol” yn Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”).
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau 2001 i ddarparu, pan fo aelod o gyd-bwyllgor corfforedig (neu aelod cyfetholedig) yn destun ymchwiliad, a’i fod hefyd yn aelod (neu’n aelod cyfetholedig) o gyngor cyfansoddol neu awdurdod Parc Cenedlaethol, fod yn rhaid anfon gwybodaeth benodedig, adroddiadau penodedig ac argymhellion penodedig i’r cyngor neu’r awdurdod hwnnw hefyd.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig, a rheoliadau a gorchmynion cysylltiedig. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar adeg gwneud y rheoliadau sefydlu hynny, a dibynnir arno at ddiben y Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Footnotes
[^f00001]: 2000 p. 22. Mae swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru bellach wedi eu breinio yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi. Mewnosododd rheoliad 3(2)(a) o O.S. 2022/372 (Cy. 92) gyd-bwyllgorau corfforedig yn y diffiniad o “relevant authority” yn adran 49 o Ddeddf 2000. Mae adran 49 wedi ei chynnwys yn Rhan 3 o Ddeddf 2000 ac mae’n ymwneud ag ymddygiad aelodau a chyflogeion llywodraeth leol.
[^f00002]: O.S. 2001/2281 (Cy. 171); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2005/2929 (Cy. 214), 2006/362 (Cy. 48), 2016/85 (Cy. 39).
[^f00003]: 2021 dsc 1.
Editorial notes
[^key-7a559ecbc9d1ed873a4c5432d043af9d]: Reg. 1 in force at 5.8.2022, see reg. 1
[^key-9ac8ad21bc172b5f5f9d73703b7975b8]: Reg. 2 in force at 5.8.2022, see reg. 1
[^key-75047be6f591b7d99093c2a26f198f27]: Reg. 3 in force at 5.8.2022, see reg. 1
[^key-35f7a8df963f666a10222e4abe7098fc]: Reg. 4 in force at 5.8.2022, see reg. 1
[^key-17410c9c09978f48971f9e0aeff063d3]: Reg. 5 in force at 5.8.2022, see reg. 1
[^key-00d64cfce154ec0117cbd74431a18164]: Reg. 6 in force at 5.8.2022, see reg. 1
[^key-5364ab20b75f8ed8bb739e0f9472df0c]: Reg. 7 in force at 5.8.2022, see reg. 1
[^key-6769fbced0d8ca5c92b50491a51d9a9c]: Reg. 8 in force at 5.8.2022, see reg. 1
[^key-d6354f119006d060f95791a4d243f9d6]: Reg. 9 in force at 5.8.2022, see reg. 1
[^key-3105470779edd2d3421c28639e05ecda]: Reg. 10 in force at 5.8.2022, see reg. 1
[^key-3730f17a35b18785a15173001d55bf17]: Reg. 11 in force at 5.8.2022, see reg. 1
[^key-7e2b3f322dbf595d56acc2bfc4aa5b20]: Reg. 12 in force at 5.8.2022, see reg. 1
Enwi a dod i rym
Diwygiadau i Reoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.