The Local Authorities (Model Code of Conduct) (Wales) (Amendment) Order 2022
Gwnaed: 13 Gorffennaf 2022
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru: 15 Gorffennaf 2022
Yn dod i rym: 5 Awst 2022
Yn unol ag adran 49(5) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, cynrychiolwyr awdurdodau perthnasol, a’r personau eraill hynny yr oeddent yn ystyried eu bod yn briodol.
Title and coming into force
1
- (1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2022.
- (2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Awst 2022.
Amendment of the Schedule to the Local Authorities (Model Code of Conduct) (Wales) Order 2008
2
Yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol” yn Rhan 1 (Dehongli) o’r Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008[^f00003] ar ôl “cyngor cymuned” mewnosoder—
(ca) cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wnaed o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1)[^f00004],
Signed
Rebecca Evans — Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru — 13 Gorffennaf 2022
Explanatory note
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
NODYN ESBONIADOL
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Rhan 1 o’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol fel y’i nodir yn yr Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008 (“y Gorchymyn”) er mwyn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) at y rhestr o awdurdodau perthnasol. Effaith y diwygiad fyddai gwneud y Cod Ymddygiad Enghreifftiol gorfodol yn gymwys i aelodau cyd-bwyllgorau corfforedig.
Mae’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol yn llywodraethu ymddygiad aelodau awdurdodau perthnasol yng Nghymru.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol pan wnaed y rheoliadau sefydlu hynny a dibynnir arno at ddiben y Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Footnotes
[^f00001]: Diwygiwyd adran 50 gan p. 20 Atodlen 25(5) para. 1 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (mae’r diwygiad yn cael effaith fel O.S. 2012/1463 yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol, darpariaethau darfodol a darpariaethau arbed a bennir yn O.S. 2012/1463 erthygl 7(3) a (4)). Trosglwyddwyd y pwerau a roddwyd gan adran 50(2) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Lywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.
[^f00002]: 2000 p. 22.
[^f00003]: O.S. 2008/788.
[^f00004]: dsc 1.
Editorial notes
[^key-e55488231da2db2c8381ad324d696b1d]: Art. 1 in force at 5.8.2022, see art. 1(2)
[^key-716381239f615d03526e2f3d98c6e34d]: Art. 2 in force at 5.8.2022, see art. 1(2)
Enwi a dod i rym
Diwygio’r Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.