The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Act 2018 (Commencement No. 14 and Transitional and Saving Provisions) Order 2022
Gwnaed: 16 Awst 2022
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 100(3) a (4) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018[^f00001], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Title and interpretation
1
- (1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 14 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2022.
- (2) Yn y Gorchymyn hwn—
- mae i “addysg feithrin” yr un ystyr â “nursery education” yn adran 117 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[^f00002];
- mae i “anhawster dysgu” yr un ystyr â “learning difficulty” yn—adran 312(2)[^f00003] o Ddeddf 1996—mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, fel pe bai “a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,adran 20 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;
- mae i “asesiad o anghenion AIG” yr un ystyr ag “EHC needs assessment” yn adran 36(2) o Ddeddf 2014;
- mae i “awdurdod lleol” yr un ystyr â “local authority” yn adran 579[^f00004] o Ddeddf 1996;
- ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 7 oed;
- ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 9 oed;
- ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 11 oed;
- ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 13 oed;
- ystyr “blwyddyn 10” (“year 10”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 15 oed;
- ystyr “blwyddyn 11” (“year 11”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 16 oed;
- mae i “blwyddyn ysgol” yr un ystyr â “school year” yn adran 579[^f00005] o Ddeddf 1996;
- ystyr “cod” (“code”) yw cod ar anghenion dysgu ychwanegol a ddyroddir o dan adran 4 o’r Ddeddf;
- mae i “cynllun AIG” yr un ystyr ag “EHC plan” yn adran 37(2)[^f00006] o Ddeddf 2014;
- ystyr “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yw cynllun a lunnir ac a gynhelir o dan Bennod 2 o Ran 2 o’r Ddeddf;
- mae i “darpariaeth addysgol arbennig” yr un ystyr â “special educational provision” yn—adran 312(4)[^f00007] o Ddeddf 1996—mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru ond nid plentyn sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr,mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru fel pe bai “in relation to a child in the area of a local authority in Wales” wedi ei hepgor,adran 21 o Ddeddf 2014 mewn perthynas â phlentyn yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru sy’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol brif ffrwd yn Lloegr;ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996[^f00008];
- ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Plant a Theuluoedd 2014[^f00009];
- mae i “disgybl cofrestredig” yr un ystyr â “registered pupil” yn adran 434[^f00010] o Ddeddf 1996;
- ystyr “dosbarth derbyn” (“reception class”) yw grŵp blwyddyn y bydd mwyafrif y plant, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 5 oed;
- ystyr “dosbarth meithrin” (“nursery class”) yw dosbarth o ddisgyblion y mae addysg feithrin yn cael ei darparu iddynt mewn ysgol a gynhelir;
- ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
- ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, mewn blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;
- mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf 1996;
- ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol;
- ystyr “plentyn a addysgir ac eithrio yn yr ysgol” (“a child educated other than at school”) yw plentyn y mae awdurdod lleol yng Nghymru wedi gwneud trefniadau i ddarparu addysg ac eithrio yn yr ysgol ar ei gyfer sydd o fewn ardal yr awdurdod ac—sydd o oedran ysgol gorfodol,na all, oherwydd salwch, gwaharddiad o’r ysgol neu fel arall, gael addysg addas am gyfnod oni bai bod trefniadau o’r fath yn cael eu gwneud ar gyfer y plentyn, acnad yw’n ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir;
- mae i “plentyn sy’n derbyn gofal” (“looked after child”) yr un ystyr ag yn adran 15 o’r Ddeddf;
- ystyr “Rheolau’r Tribiwnlys” (“Tribunal Rules”) yw Rheoliadau Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru 2012[^f00011];
- mae i “rhiant” yr un ystyr â “parent” yn adran 576[^f00012] o Ddeddf 1996;
- mae i “sefydliad yn y sector addysg bellach” (“institution in the further education sector”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf;
- ystyr “Tribiwnlys” (“Tribunal”) yw Tribiwnlys Addysg Cymru[^f00013];
- mae i “yn ardal awdurdod lleol yng Nghymru” yr un ystyr ag ““in the area” of a local authority in Wales” yn adran 579(3B)[^f00014] o Ddeddf 1996;
- mae i “yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr” yr un ystyr ag ““in the area” of a local authority in England” yn adran 579(3A)[^f00015] o Ddeddf 1996;
- mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr un ystyr ag yn adran 99 o’r Ddeddf;
- mae i “ysgol brif ffrwd” yr un ystyr â “mainstream school” yn adran 83(2) o Ddeddf 2014.
- (3) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “yr hen gyfraith” yn gyfeiriadau at Bennod 1 o Ran 4 o Ddeddf 1996 ond ac eithrio—
- (a) adran 323;
- (b) adran 329;
- (c) adran 329A.
- (4) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at “y gyfraith newydd” yn gyfeiriadau at—
- (a) y Ddeddf,
- (b) rheoliad neu’r cod a wneir o dan y Ddeddf honno, ac
- (c) unrhyw ddarpariaeth arall o ddeddf, neu a wneir o dan ddeddf, sy’n cael effaith at ddibenion y canlynol neu mewn perthynas â’r canlynol—
- (i) darpariaeth o’r Ddeddf neu reoliadau neu god o’r fath, neu
- (ii) person y mae’r Ddeddf neu reoliadau neu god o’r fath yn gymwys iddo.
- (5) At ddibenion y Gorchymyn hwn dyfernir yn derfynol ar apêl—
- (a) os caiff penderfyniad ei wneud gan dribiwnlys neu lys ar yr apêl, a
- (b) os caniateir gwneud cais i adolygu’r penderfyniad neu os caniateir ei apelio ymhellach, a daw’r cyfnod (neu bob un o’r cyfnodau) ar gyfer gwneud hynny i ben heb fod cais am adolygiad wedi ei wneud neu apêl bellach wedi ei wneud.
- (6) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae awdurdod lleol yn gyfrifol am blentyn os yw yn ardal yr awdurdod.
- (7) At ddibenion y Gorchymyn hwn, o ran plentyn—
- (a) pan fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am y plentyn;
- (b) pan na fo’n blentyn sy’n derbyn gofal, yr awdurdod lleol priodol yw’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y plentyn.
- (8) Nid yw’r Gorchymyn hwn yn gymwys i berson y cychwynnwyd darpariaethau’r Ddeddf mewn perthynas ag ef gan Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021[^f00016] neu Orchymyn Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Cychwyn Rhif 6 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2021[^f00017].
Meaning of identified special educational needs
2
- (1) At ddibenion y Gorchymyn hwn, mae gan blentyn “anghenion addysgol arbennig a nodwyd” os yw’r plentyn—
- (a) yn blentyn sy’n derbyn gofal ond nid yn blentyn sy’n derbyn gofal sydd yn ardal awdurdod lleol yn Lloegr;
- (b) yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru ac—
- (i) yn ddisgybl cofrestredig neu’n fyfyriwr sydd wedi ymrestru mewn sefydliad arall (a bod y sefydliad hwnnw yn ysgol neu’n sefydliad yn y sector addysg bellach), a
- (ii) y mae awdurdod lleol yng Nghymru yn gyfrifol am y plentyn hwnnw;
- (c) yn blentyn sy’n cael ei addysgu ac eithrio yn yr ysgol;
a bod ganddo anhawster dysgu a nodwyd gan berchennog yr ysgol y mae’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ynddi neu gan yr awdurdod lleol priodol sy’n galw am wneud darpariaeth addysgol arbennig ar gyfer P.
- (2) Ond nid yw’n cynnwys plentyn—
- (a) y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996;
- (b) y mae awdurdod lleol yn cynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef;
- (c) y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r asesiad wedi cychwyn ac nad oes hysbysiad wedi ei roi o dan adran 323(6) o Ddeddf 1996;
- (d) y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu pa un ai i asesu ai peidio;
- (e) y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan adran 329 neu 329A o Ddeddf 1996 am asesiad o dan adran 323 o Ddeddf 1996 a bod yr awdurdod lleol yn penderfynu peidio â chydymffurfio â’r cais ac—
- (i) nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
- (ii) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni; neu
- (iii) dyfarnwyd yn derfynol ar apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 329(2) neu 329A(8) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw wedi cychwyn;
- (f) y mae awdurdod lleol yn ymgymryd ag asesiad o anghenion addysgol mewn perthynas ag ef o dan adran 323 o Ddeddf 1996;
- (g) y mae awdurdod lleol yn bwriadu peidio â gwneud datganiad mewn perthynas ag ef yn dilyn asesiad ac—
- (i) nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben;
- (ii) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
- (iii) dygwyd apêl i’r Tribiwnlys o dan adran 325(2) o Ddeddf 1996 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
- (aa) gwneud a chynnal datganiad ac nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi cychwyn, neu
- (bb) ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
- (h) y mae rhaid i awdurdod lleol wneud datganiad mewn perthynas ag ef o dan adran 324 o Ddeddf 1996 ond nad yw’r broses o wneud y datganiad wedi dod i ben;
- (i) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu peidio â chynnal datganiad mewn perthynas ag ef o dan baragraff 11(1) o Atodlen 27 i Ddeddf 1996 mwyach ac—
- (i) nad yw’r amser y mae rhaid i apêl o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno gael ei dwyn ynddo o dan Ran B o Reolau’r Tribiwnlys wedi dod i ben, neu
- (ii) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys o dan baragraff 11(2)(b) o’r Atodlen honno mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
- (j) y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 331 o Ddeddf 1996 yn mynd rhagddo;
- (k) nad yw’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ond y mae asesiad mewn perthynas ag ef o dan adran 140 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000[^f00018]—
- (i) yn mynd rhagddo, neu
- (ii) wedi arwain at adroddiad ar anghenion addysgol a hyfforddi y person a’r ddarpariaeth sy’n ofynnol i’w diwallu;
- (l) y mae cais wedi ei wneud mewn perthynas ag ef i awdurdod lleol i sicrhau asesiad o anghenion AIG o dan adran 36(1) o Ddeddf 2014 ac nad yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu ar y cais hwnnw o dan adran 36(3);
- (m) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu, o dan adran 36 o Ddeddf 2014, beidio â sicrhau asesiad o anghenion AIG mewn perthynas ag ef ac—
- (i) nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
- (ii) bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
- (iii) bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
- (iv) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
- (v) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(a) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol drefnu asesiad neu ailasesiad, ac nad yw’r asesiad hwnnw neu’r ailasesiad hwnnw wedi cychwyn;
- (n) y mae awdurdod lleol wedi cyflwyno hysbysiad mewn perthynas ag ef o dan adran 36(7) o Ddeddf 2014 ei fod yn ystyried sicrhau asesiad o anghenion AIG ac—
- (i) nad yw’r asesiad wedi cychwyn,
- (ii) bod yr asesiad yn mynd rhagddo, neu
- (iii) nad oes hysbysiad wedi ei gyflwyno o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014;
- (o) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
- (i) nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
- (ii) bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
- (iii) bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
- (iv) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni;
- (v) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(b) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw a dyfarnwyd yn derfynol arni a gorchmynnwyd i’r awdurdod lleol—
- (aa) gwneud a chynnal cynllun AIG ac nad yw’r broses o wneud y cynllun AIG wedi cychwyn, neu
- (bb) ailystyried ei benderfyniad ac nad yw’r ailystyried hwnnw wedi cychwyn;
- (p) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 36(9) o Ddeddf 2014 ei bod yn angenrheidiol gwneud darpariaeth addysgol arbennig yn unol â chynllun AIG mewn perthynas ag ef ond nad yw’r cynllun hwnnw wedi ei lunio;
- (q) y mae awdurdod lleol wedi penderfynu o dan adran 45 o Ddeddf 2014 nad yw’n angenrheidiol mwyach gynnal cynllun AIG mewn perthynas ag ef ac—
- (i) nad yw’r cyfnod ar gyfer dilyn cyfryngu mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw o dan adran 52 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
- (ii) bod cyfryngu o dan adran 55 o Ddeddf 2014 yn mynd rhagddo mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw;
- (iii) bod tystysgrif gyfryngu wedi ei dyroddi o dan adran 55(4) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ac nad yw’r cyfnod ar gyfer cyflwyno apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51 o Ddeddf 2014 wedi dod i ben;
- (iv) bod apêl wedi ei dwyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 51(2)(f) o Ddeddf 2014 mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw ond na ddyfarnwyd yn derfynol arni.
Provisions coming into force on 1 September 2022
3
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Medi 2022 mewn perthynas â phlentyn sydd ag anghenion addysgol arbennig a nodwyd ar 1 Medi 2022—
- (a) adrannau 2 i 4;
- (b) adrannau 6 i 14;
- (c) adrannau 17 i 36;
- (d) adran 38;
- (e) adrannau 40 i 44;
- (f) adrannau 47 i 49;
- (g) adran 50(1) at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (h);
- (h) adran 50(4) i (5);
- (i) adrannau 51 i 53;
- (j) adran 55;
- (k) adran 59;
- (l) adrannau 63 i 66;
- (m) adrannau 68 i 69;
- (n) adran 96 at ddibenion y darpariaethau ym mharagraff (o);
- (o) yn yr Atodlen—
- (i) paragraff 1;
- (ii) paragraff 4(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraffau (iii) i (xi);
- (iii) paragraff 4(2) i 4(6);
- (iv) paragraff 4(7) i’r graddau nad yw’r paragraff wedi ei ddiddymu mewn perthynas â’r plentyn[^f00019];
- (v) paragraff 4(8) a (9);
- (vi) paragraff 4(10);
- (vii) paragraff 4(13) i 4(18);
- (viii) paragraff 4(19)(b);
- (ix) paragraff 4(20) a 4(21);
- (x) paragraff 4(23) i 4(29);
- (xi) paragraff 4(32)(a)(i) a (ii) a pharagraff 4(32)(b);
- (xii) paragraff 7;
- (xiii) paragraff 8;
- (xiv) paragraff 11(a);
- (xv) paragraff 12(a);
- (xvi) paragraff 14(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xvii);
- (xvii) paragraff 14(2) a (3);
- (xviii) paragraff 19(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xix);
- (xix) paragraff 19(5)(e)(ii);
- (xx) paragraff 21(1) at ddibenion y darpariaethau yn is-baragraff (xxi);
- (xxi) paragraff 21(2)(a)(i) a (2)(b)(ii);
- (xxii) paragraff 22;
- (xxiii) paragraff 23(1) at ddiben y ddarpariaeth yn is-baragraff (xxiv);
- (xxiv) paragraff 23(4);
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.