The Historic Environment (Miscellaneous Amendments) (Wales) Regulations 2024
Gwnaed: 26 Tachwedd 2024
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru: 29 Tachwedd 2024
Yn dod i rym: 31 Rhagfyr 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 26(5)(b), 91(1) a (2), 92(2), 96, 97, 209(2), 211(3)(a) a (4) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023[^f00001], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
RHAN 1 — Enwi a dod i rym
Title and coming into force
1
- (1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Amgylchedd Hanesyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024.
- (2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2024.
RHAN 2 — Diwygiadau
The Forestry (Felling of Trees) Regulations 1979
2
Yn Atodlen 2 i Reoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979[^f00002], ym mharagraff (i), ar ôl “1990” mewnosoder “or under section 158 of the Historic Environment (Wales) Act 2023”.
The Areas of Archaeological Importance (Notification of Operations) (Exemption) Order 1984
3
Yn erthygl 1(2) o Orchymyn Ardaloedd o Bwysigrwydd Archaeolegol (Hysbysiad o Weithrediadau) (Esemptio) 1984[^f00003], hepgorer “or Wales”.
The Transport and Works Applications (Listed Buildings, Conservation Areas and Ancient Monuments Procedure) Regulations 1992
4
Yn Atodlen 1A i Reoliadau Ceisiadau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Henebion Hynafol) 1992[^f00004], ym mharagraff 1—
- (a) yn is-baragraff (e), yn lle’r geiriau o “after paragraph (3)” hyd at “yw—” rhodder “in regulation 6, after paragraph (5) there were inserted—
(6) At ddiben y rheoliad hwn— - ystyr “cais cydredol” (“concurrent application”) yw cais a wneir o dan adran 6 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992, sy’n ymwneud â chynigion y mae rhoi cydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth yn ofynnol ar eu cyfer; - ystyr perchennog (“owner”) yw—;
- (b) yn is-baragraff (f), yn lle’r geiriau o “after paragraph (3)” hyd at “means—” rhodder “in regulation 6, after paragraph (5) there were inserted—
(6) For the purposes of this regulation— - “concurrent application” (“cais cydredol”) means an application made under section 6 of the Transport and Works Act 1992, relating to proposals for which the granting of listed building consent or conservation consent is required; - “owner” (“perchennog”) means—
- (c) yn is-baragraff (i)(iii), ym mharagraff (5) a fewnosodwyd, yn lle’r geiriau o “ystyr “cais cydredol”” hyd at y diwedd, rhodder “mae i “cais cydredol” yr un ystyr ag yn rheoliad 6.”;
- (d) yn is-baragraff (j)(iii), ym mharagraff (5) a fewnosodwyd, yn lle’r geiriau o “means” hyd at y diwedd, rhodder “has the same meaning as in regulation 6.”
The Town and Country Planning (Environmental Impact Assessment) (Undetermined Reviews of Old Mineral Permissions) (Wales) Regulations 2009
5
Yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009[^f00005], yn y testun Cymraeg, yn is-baragraff (dd) o’r diffiniad o “ardal sensitif”, yn lle “yn yr ystyr a roddir i “scheduled monument” yn” rhodder “o fewn ystyr”.
The Town and Country Planning (Development Management Procedure) (Wales) Order 2012
6
Yn Atodlen 4 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012[^f00006], yn y testun Cymraeg, ar ôl y tabl, o dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”, ym mharagraff (h)(i), yn lle “yr ystyr a roddir i “scheduled monument”” rhodder “(“scheduled monument”) yr un ystyr ag”.
The Developments of National Significance (Procedure) (Wales) Order 2016
7
Yn Atodlen 5 i Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016[^f00007], yn y testun Cymraeg, ar ôl y tabl, o dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”, ym mharagraff (d)(i), yn lle “yr un ystyr ag a roddir i “scheduled monument”” rhodder “(“scheduled monument”) yr un ystyr ag”.
The Infrastructure Planning (Interested Parties and Miscellaneous Prescribed Provisions) Regulations 2015
8
Yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Partïon a chanddynt Fuddiant a Darpariaethau Rhagnodedig Amrywiol) 2015[^f00008]—
- (a) hepgorer y cofnod ar gyfer “Historic Environment (Wales) Act 2023” a’r testun yn y golofn gyfatebol;
- (b) ar ôl y cofnod ar gyfer “Countryside and Rights of Way Act 2000”, mewnosoder—
| Historic Environment (Wales) Act 2023 | A consent under section 12 and Schedule 3 (authorisation of classes of works) |
|---|---|
| A consent under section 13 (authorisation of works by scheduled monument consent) |
The Town and Country Planning (Referred Applications and Appeals Procedure) (Wales) Regulations 2017
9
Yn rheoliad 4A o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017[^f00009]—
- (a) yn lle “reoliadau 4” rhodder “reoliad 4”;
- (b) yn lle “na 5” rhodder “na rheoliad 5”.
The Historic Environment (Wales) Act 2023 (Consequential Provision) (Secondary Legislation) Regulations 2024
10
Yn Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024[^f00010], hepgorer rheoliadau 2 a 6, a’r penawdau italig o’u blaenau.
The Scheduled Monuments (Partnership Agreements) (Wales) Regulations 2024
11
Yn rheoliad 3(5)(b) o Reoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaethau) (Cymru) 2024[^f00011], yn y testun Cymraeg, yn lle “fuddiant” rhodder “ddiddordeb”.
The Listed Buildings and Conservation Areas (Procedure and Interest Rate) (Wales) Regulations 2024
12
Yn Atodlen 2 i Reoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024[^f00012], yn y testun Saesneg, ym mharagraff 6—
- (a) yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), hepgorer “that the building and the associated land”;
- (b) ar ddechrau paragraff (a), mewnosoder “that the building and the associated land”;
- (c) ar ddechrau paragraff (b), mewnosoder “that the building and the associated land”.
Signed
Jack Sargeant — Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru — 26 Tachwedd 2024
Explanatory note
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
NODYN ESBONIADOL
Gwnaeth Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024 ddiwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n ganlyniadol ar Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n cywiro gwallau, neu’n egluro darpariaeth a wnaed, yn y Rheoliadau hynny.
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaethau) (Cymru) 2024 a Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024.
Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979.
Mae rheoliad 3 yn diwygio Gorchymyn Ardaloedd o Bwysigrwydd Archaeolegol (Hysbysiad o Weithrediadau) (Esemptio) 1984.
Mae rheoliad 4 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Ceisiadau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Henebion Hynafol) 1992. Maent yn egluro sut y mae Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024 yn gweithredu pan fo cais wedi ei wneud o dan y ddwy set o Reoliadau.
Mae rheoliadau 5 i 7 yn gwneud diwygiadau i’r Rheoliadau a ganlyn er mwyn sicrhau cysondeb rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg—
- Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009,
- Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012, a
- Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016, yn y drefn honno.
Mae rheoliad 8 yn ail-wneud diwygiad i Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Partïon a chanddynt Fuddiant a Darpariaethau Rhagnodedig Amrywiol) 2015 fel bod rhestr o ddeddfwriaeth sylfaenol mewn trefn gronolegol.
Mae rheoliad 9 yn egluro diwygiad i Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017.
Mae rheoliad 10 yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024 sy’n ganlyniadol ar reoliadau 2 a 3 o’r Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 11 yn diwygio testun Cymraeg Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaethau) (Cymru) 2024 er mwyn cywiro gwall.
Mae rheoliad 12 yn diwygio testun Saesneg Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024 er mwyn cywiro gwall.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
Footnotes
[^f00001]: 2023 dsc 3.
[^f00002]: O.S. 1979/791, a ddiwygiwyd gan O.S. 1987/632 ac O.S. 2002/226; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
[^f00003]: O.S. 1984/1286.
[^f00004]: O.S. 1992/3138, a ddiwygiwyd gan O.S. 2024/930 (Cy. 155); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
[^f00005]: O.S. 2009/3342 (Cy. 293), a ddiwygiwyd gan O.S. 2024/924 (Cy. 151); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
[^f00006]: O.S. 2012/801 (Cy. 110); mae’r diwygiadau perthnasol i’w cael yn O.S. 2016/59 (Cy. 29) ac O.S. 2024/924 (Cy. 151).
[^f00007]: O.S. 2016/55 (Cy. 25); mae’r diwygiadau perthnasol i’w cael yn O.S. 2019/290 (Cy. 68) ac O.S. 2024/924 (Cy. 151).
[^f00008]: O.S. 2015/462, a ddiwygiwyd gan O.S. 2024/924 (Cy. 155); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
[^f00009]: O.S. 2017/544 (Cy. 121), a ddiwygiwyd gan O.S. 2024/924 (Cy. 155).
[^f00010]: O.S. 2024/924 (Cy. 151).
[^f00011]: O.S. 2024/929 (Cy. 154).
[^f00012]: O.S. 2024/930 (Cy. 155).
Editorial notes
[^key-37be35e73d643a473b5943e8860947a3]: Reg. 2 in force at 31.12.2024, see reg. 1(2)
[^key-cc05d6b6daa4337632c6710b8e929cc4]: Reg. 1 in force at 31.12.2024, see reg. 1(2)
[^key-e62182a34085be9df332d88fc9ec25a6]: Reg. 3 in force at 31.12.2024, see reg. 1(2)
[^key-5a5192a044c51cc1d8b10b709eb0ecb8]: Reg. 4 in force at 31.12.2024, see reg. 1(2)
[^key-ec899664ed280098b37decfc52b3f34b]: Reg. 12 in force at 31.12.2024, see reg. 1(2)
[^key-a20ac7ae7fd5047f63269a0721f127dd]: Reg. 5 in force at 31.12.2024, see reg. 1(2)
[^key-8539c1e531d8831ba146036973f18b18]: Reg. 6 in force at 31.12.2024, see reg. 1(2)
[^key-7d558c953024c88c26efa04258212d11]: Reg. 7 in force at 31.12.2024, see reg. 1(2)
[^key-6a8a93253220824029b462765187d95e]: Reg. 8 in force at 31.12.2024, see reg. 1(2)
[^key-a33d2caa34349cae297b61ee3a48603d]: Reg. 9 in force at 31.12.2024, see reg. 1(2)
[^key-ae50a8b4f32a1cda9748efc6abfa1de5]: Reg. 10 in force at 31.12.2024, see reg. 1(2)
[^key-35f65fa839c4c28d96ca75c00db55f7f]: Reg. 11 in force at 31.12.2024, see reg. 1(2)
Enwi a dod i rym
Rheoliadau Coedwigaeth (Cwympo Coed) 1979
Gorchymyn Ardaloedd o Bwysigrwydd Archaeolegol (Hysbysiad o Weithrediadau) (Esemptio) 1984
Rheoliadau Ceisiadau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Henebion Hynafol) 1992
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Adolygiadau Amhenderfynedig o Hen Ganiatadau Mwynau) (Cymru) 2009
Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012
Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016
Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Partïon a chanddynt Fuddiant a Darpariaethau Rhagnodedig Amrywiol) 2015
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ceisiadau Atgyfeiriedig a Gweithdrefn Apelau) (Cymru) 2017
Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024
Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaethau) (Cymru) 2024
Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.