The Building Safety Act 2022 (Commencement No. 4, Transitional and Saving Provisions) (Wales) Regulations 2024
Gwnaed: 22 Chwefror 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 170(4)(a)(ii), (4)(a)(iii), (4)(a)(iv), (4)(a)(v), (4)(b)(iii), (4)(b)(iv), (4)(b)(v), (4)(b)(vi), (4)(b)(viii), (4)(b)(ix), (7) ac (8) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022[^f00001].
Title and interpretation
1
- (1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2024.
- (2) Yn y Rheoliadau hyn—
- ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Adeiladu 1984[^f00002];
- ystyr “Deddf 2022” (“the 2022 Act”) yw Deddf Diogelwch Adeiladau 2022;
- mae i “gwaith adeiladu” (“building work”) yr un ystyr ag a roddir yn rheoliad 3 o Reoliadau Adeiladu 2010[^f00003].
- (3) At ddibenion rheoliadau 3 a 4 o’r Rheoliadau hyn, mae cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu yn meddu ar gymwysterau addas os yw’r gwaith y mae’n bwriadu ei wneud o fewn cwmpas cofrestriad y cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu[^f00004].
- (4) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae i ymadroddion Cymraeg yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Neddf 1984 yr un ystyr â’r ymadroddion hynny yn y Ddeddf honno.
Provisions coming into force on 6 April 2024
2
Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2022 i rym ar 6 Ebrill 2024—
- (a) adran 32(3) (awdurdodau rheolaeth adeiladu) at yr holl ddibenion sy’n weddill, i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 91ZD o Ddeddf 1984[^f00005];
- (b) adran 42 (rheoleiddio’r proffesiwn rheolaeth adeiladu), i’r graddau y mae’n ymwneud â mewnosod adran 58Z2 yn Neddf 1984[^f00006];
- (c) paragraff 56 o Atodlen 5 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn cysylltiad â Rhan 3 o Ddeddf 2022);
- (d) o ran Cymru—
- (i) adran 40 (atebolrwydd swyddogion corff corfforedig);
- (ii) adran 42 (rheoleiddio’r proffesiwn rheolaeth adeiladu) at yr holl ddibenion sy’n weddill, ac eithrio i’r graddau y mae’n ymwneud ag adrannau 58Z7 a 58Z10 o Ddeddf 1984 a mewnosod adran 58Z2 yn Neddf 1984;
- (iii) adran 43 (trosglwyddo swyddogaethau arolygwyr cymeradwy i gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu);
- (iv) adran 44 (swyddogaethau nad ydynt yn arferadwy ond drwy arolygwyr cofrestredig adeiladu, neu gyda eu cyngor) at yr holl ddibenion sy’n weddill;
- (v) adran 46 (gwaith adeilad risg uwch: cymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu) at yr holl ddibenion sy’n weddill;
- (vi) adran 50 (canslo hysbysiad cychwynnol) at yr holl ddibenion sy’n weddill;
- (vii) adran 51 (hysbysiadau cychwynnol newydd) at yr holl ddibenion sy’n weddill;
- (viii) adran 52 (casglu gwybodaeth) at yr holl ddibenion sy’n weddill;
- (ix) adran 53(2) a (3)(a)(ii) a (iii) a (3)(b) (gwybodaeth);
- (x) Atodlen 4 (trosglwyddo swyddogaethau arolygwyr cymeradwy i gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu);
- (xi) Atodlen 5 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn cysylltiad â Rhan 3 o Ddeddf 2022) ac eithrio’r paragraffau a restrir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn ac yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn adran 170(4)(b)(viii)(A) a (B) o Ddeddf 2022;
- (xii) Atodlen 6 (apelau a phenderfyniadau eraill) at yr holl ddibenion sy’n weddill, yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn adran 170(4)(b)(ix) o Ddeddf 2022.
Transitional provision: approved inspectors who become registered building control approvers
3
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo arolygydd cymeradwy[^f00007] wedi dod yn gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu sy’n meddu ar gymwysterau addas cyn 6 Ebrill 2024 ac wedi cyflwyno hysbysiad cychwynnol sydd wedi ei dderbyn, neu y bernir ei fod wedi ei dderbyn, cyn 6 Ebrill 2024.
- (2) Gydag effaith o 6 Ebrill 2024, bydd unrhyw hysbysiad cychwynnol a gyflwynwyd gan yr arolygydd cymeradwy cyn 6 Ebrill 2024 yn cael ei drin fel pe bai wedi ei roi yn lle hynny gan y person hwnnw yn rhinwedd ei swydd fel cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu.
- (3) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i hysbysiadau cychwynnol sy’n ymwneud â gwaith adeiladu a gwaith adeilad risg uwch[^f00008].
- (4) Caiff arolygydd cymeradwy barhau i oruchwylio gwaith adeilad risg uwch ar yr amod—
- (a) bod y gwaith adeilad risg uwch yn cael ei gychwyn cyn 1 Hydref 2024, a
- (b) y bydd arolygydd cymeradwy yn parhau i fod yn gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu sy’n meddu ar gymwysterau addas hyd nes y bydd y gwaith adeilad risg uwch hwnnw wedi ei gwblhau.
- (5) Caiff arolygydd cymeradwy barhau i oruchwylio gwaith adeiladu nad yw’n waith adeilad risg uwch.
- (6) At ddibenion y rheoliad hwn, rhaid i’r arolygydd cymeradwy a’r cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu fod yr un person cyfreithiol.
Transitional provision: approved inspectors who do not become registered building control approvers
4
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan nad yw arolygydd cymeradwy wedi dod yn gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu sy’n meddu ar gymwysterau addas cyn 6 Ebrill 2024.
- (2) Pan fo arolygydd cymeradwy yn goruchwylio gwaith adeilad risg uwch cyn 6 Ebrill 2024, yna—
- (a) ni chaiff arolygydd cymeradwy barhau i oruchwylio gwaith adeilad risg uwch ar 6 Ebrill 2024 neu ar ôl hynny;
- (b) bydd unrhyw hysbysiad cychwynnol a gyflwynwyd gan yr arolygydd cymeradwy mewn cysylltiad â gwaith adeilad risg uwch yn cael ei ganslo;
- (c) bydd cyfrifoldeb am oruchwylio gwaith adeilad risg uwch yn trosglwyddo i’r awdurdod lleol.
- (3) Pan fo arolygydd cymeradwy yn goruchwylio gwaith adeiladu nad yw’n waith adeilad risg uwch, yna—
- (a) caiff arolygydd cymeradwy, hyd at 1 Hydref 2024, ond heb gynnwys y dyddiad hwnnw, barhau i oruchwylio gwaith adeiladu;
- (b) bydd unrhyw hysbysiadau cychwynnol a gyflwynir gan yr arolygydd cymeradwy yn peidio â bod mewn grym ar 1 Hydref 2024;
- (c) bydd unrhyw waith adeiladu nad yw’n cael ei gwblhau cyn 1 Hydref 2024 yn trosglwyddo i’r awdurdod lleol oni bai bod cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu, nad yw yr un person â’r arolygydd cymeradwy, wedi cyflwyno hysbysiad cychwynnol newydd ar gyfer y gwaith hwnnw a bod yr hysbysiad yn cael ei dderbyn neu y bernir ei fod wedi ei dderbyn;
- (d) caiff arolygydd cymeradwy, hyd at 1 Hydref 2024 ond heb gynnwys y dyddiad hwnnw, barhau i ddyroddi tystysgrif planiau[^f00009], tystysgrif derfynol[^f00010], a hysbysiad diwygio[^f00011] mewn cysylltiad â gwaith adeiladu.
- (4) Pan gyhoeddir hysbysiad diwygio cyn 1 Hydref 2024 a phan fo’r hysbysiad hwnnw’n newid natur y gwaith adeiladu a bennir yn yr hysbysiad cychwynnol fel ei fod yn dod yn waith adeilad risg uwch, rhaid trosglwyddo gwaith o’r fath i’r awdurdod lleol.
Transitional provisions: approved inspectors
5
Hyd at 1 Hydref 2024 ond heb gynnwys y dyddiad hwnnw, er gwaethaf diwygiadau a wnaed gan adran 46 o Ddeddf 2022, mae adrannau 52A a 55(2A) a (2E) o Ddeddf 1984 yn cael effaith fel pe bai unrhyw gyfeiriad at gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu yn gyfeiriad at arolygydd cymeradwy.
6
Hyd at 1 Hydref 2024 ond heb gynnwys y dyddiad hwnnw, er gwaethaf diwygiadau a wnaed gan baragraffau 2 i 4 a 6 i 13 o Atodlen 4 i Ddeddf 2022, mae adrannau 42(1), 47(1) a (5)(b), 50(7), 51(1), 51A(2)(a)(ii), 51C(2)(a), 52(1) a (2)(a), 56(5), 57(3), a 58(3) o Ddeddf 1984 yn cael effaith fel pe bai unrhyw gyfeiriad at gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu yn gyfeiriad at arolygydd cymeradwy.
7
Hyd at 1 Hydref 2024 ond heb gynnwys y dyddiad hwnnw, er gwaethaf diwygiadau a wnaed gan baragraff 8 o Atodlen 6 i Ddeddf 2022, mae adran 50(2) o Ddeddf 1984 yn cael effaith fel pe bai unrhyw gyfeiriad at gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu yn gyfeiriad at arolygydd cymeradwy.
Transitional provision: higher-risk building work not commenced by 1 October 2024
8
Pan fo rheoliad 3(1) o’r Rheoliadau hyn yn gymwys ac nid yw gwaith adeilad risg uwch wedi ei gychwyn cyn 1 Hydref 2024, yna—
- (a) bydd yr hysbysiad cychwynnol sy’n ymwneud â’r gwaith adeilad risg uwch yn peidio â bod mewn grym ar 1 Hydref 2024 at ddibenion adran 47(4)(b)(ii) o Ddeddf 1984, a
- (b) bydd unrhyw dystysgrif planiau sy’n ymwneud â’r hysbysiad cychwynnol hwnnw yn peidio â bod mewn grym ar 1 Hydref 2024.
Transitional provisions: initial notices
9
Pan fo gwaith adeilad risg uwch wedi cychwyn cyn 1 Hydref 2024, a phan fo’r hysbysiad cychwynnol ar gyfer y gwaith hwnnw’n cael ei ganslo gan y cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu cyn 1 Hydref 2024, ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl hynny, bydd cyfrifoldeb am y gwaith adeilad risg uwch yn trosglwyddo i’r awdurdod lleol ar y diwrnod y caiff yr hysbysiad cychwynnol ei ganslo.
10
Pan fo hysbysiad cychwynnol ar gyfer gwaith adeiladu nad yw’n waith adeilad risg uwch, yn cael ei ganslo gan arolygydd cymeradwy neu gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu cyn 1 Hydref 2024, caiff cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu gwahanol gyflwyno hysbysiad cychwynnol ar gyfer y gwaith hwnnw.
Transitional provision: new higher-risk building work
11
- (1) Any new higher-risk building work must be overseen by the local authority on or after 6 April 2024.
- (2) Initial notices for higher-risk building work must not be submitted to a local authority by an approved inspector or a registered building control authority on or after 6 April 2024.
- (3) For the purposes of paragraph (1), new higher-risk building work means higher-risk building work which is not already detailed in an initial notice only relating to building work submitted and accepted, or deemed to be accepted, before 6 April 2024.
Transitional provision: registered building inspector
12
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), caiff person barhau i weithio ar adeiladau, neu ar adeiladau risg uwch, hyd at ond heb gynnwys 1 Hydref 2024.
- (2) Rhaid bod person yn arolygydd cofrestredig adeiladu cyn 6 Ebrill 2024[^f00012]
- (3) Rhaid bod person—
- (a) yn y broses o gael asesu ei gymhwysedd—
- (i) gan gynllun asesu cymhwysedd cymeradwy, a
- (ii) i’r lefel ofynnol sy’n briodol i’r gwaith y mae’n bwriadu ei wneud, neu
- (b) wedi cael asesu ei gymhwysedd i’r lefel ofynnol sy’n briodol i’r gwaith y mae’n bwriadu ei wneud ac wedi gwneud cais i’w gofrestriad gael ei amrywio.
- (4) Pan fo’r gofrestr yn darparu ar gyfer dosbarthau gwahanol yn rhinwedd adran 58C(2) o Ddeddf 1984, a phan fo paragraffau (2) a (3) yn gymwys, mae’r dosbarthau hynny i’w hanwybyddu hyd at ond heb gynnwys 1 Hydref 2024.
- (5) Nid yw paragraff (1) yn gymwys pan fo person, ar ôl cwblhau asesiad cymhwysedd, wedi methu ei asesiad ar y lefel ofynnol sy’n briodol i’r gwaith yr oedd yn bwriadu ei wneud.
Saving provision: approved inspectors
13
Hyd at 1 Hydref 2024, ond heb gynnwys y dyddiad hwnnw, er bod adran 49 o Ddeddf 1984 wedi ei hepgor gan baragraff 5 o Atodlen 4 i Ddeddf 2022, mae adran 49 yn parhau i fod yn gymwys pan fo rheoliad 4(1) yn gymwys ac am y cyfnod pryd y caiff arolygydd cymeradwy barhau i oruchwylio gwaith adeiladu yn unol â rheoliad 4(3)(a) o’r Rheoliadau hyn.
Saving provision: repeal of powers to make regulations
14
Er bod paragraffau 2 i 4B o Atodlen 1 i Ddeddf 1984[^f00013] wedi eu hepgor gan baragraff 83(3) o Atodlen 5 i Ddeddf 2022, mae unrhyw ddarpariaethau yn y rheoliadau a ganlyn a wnaed o dan baragraffau 2 i 4B o Atodlen 1 i Ddeddf 1984 yn parhau i fod mewn grym ac yn cael effaith fel pe baent wedi eu gwneud o dan baragraffau 1A, 1B, 1C, 1D, 1F ac 1G o Atodlen 1 i Ddeddf 1984 a chaniateir iddynt gael eu hamrywio neu eu dirymu yn unol â hynny—
- (a) Rheoliadau Adeiladu (Taliadau Awdurdodau Lleol) 2010[^f00014];
- (b) Rheoliadau Adeiladu 2010;
- (c) Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010[^f00015].
YR ATODLEN — Ni ddaw’r darpariaethau a ganlyn o Atodlen 5 i Ddeddf 2022 i rym ar 6 Ebrill 2024 yn unol â rheoliad 2(d)(xi)—
1
Paragraff 14(8).
2
Paragraff 15(10).
3
Paragraff 20.
4
Paragraff 21(3), (4), a (5).
5
Paragraff 22(3), (4), (5) a (6).
6
Paragraff 23(3) a (4).
7
Paragraff 24(3).
8
Paragraff 26(3) a (4).
9
Paragraff 27(3), (4) a (5).
10
Paragraff 28.
11
Paragraff 29.
12
Paragraff 31.
13
Paragraff 32.
14
Paragraff 40(2).
15
Paragraff 41(3).
16
Paragraff 42(2).
17
Paragraff 43.
18
Paragraff 45.
19
Paragraff 46(3).
20
Paragraff 55(3).
21
Paragraff 79.
22
Paragraff 90.
Signed
Julie James — Y Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru — 22 Chwefror 2024
Explanatory note
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
NODYN ESBONIADOL
Mae’r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau cychwyn, darpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed a wneir o dan Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (p. 30) (“Deddf 2022”).
Mae rheoliad 2 yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol o Ran 3 o Ddeddf 2022, ac Atodlenni 4, 5 a 6 iddi, ar 6 Ebrill 2024. Mae’r darpariaethau hyn yn ymwneud â’r drefn reoleiddio newydd ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu.
Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth drosiannol i ddarparu y caiff arolygydd cymeradwy, sy’n dod yn gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu cyn 6 Ebrill 2024, barhau i oruchwylio gwaith adeilad risg uwch ar 6 Ebrill 2024 neu ar ôl hynny.
Mae rheoliad 4 yn cynnwys darpariaeth drosiannol sy’n darparu na chaiff arolygydd cymeradwy nad yw’n dod yn gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu oruchwylio gwaith adeilad risg uwch ar 6 Ebrill 2024 neu ar ôl hynny. Fodd bynnag, mae’r rheoliad hwn yn darparu y caiff arolygydd cymeradwy barhau i oruchwylio gwaith adeiladu nad yw’n waith adeilad risg uwch am gyfnod cyfyngedig.
Mae rheoliadau 5 i 7 yn gwneud darpariaethau trosiannol i sicrhau y caniateir darllen cyfeiriadau at gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu, a fewnosodwyd yn Neddf Adeiladu 1984 (p. 55) (“Deddf 1984”) gan adran 46 o Ddeddf 2022, ac Atodlenni 4 a 6 iddi, fel cyfeiriadau at arolygwyr cymeradwy hyd at 1 Hydref 2024.
Mae rheoliad 8 yn cynnwys darpariaeth drosiannol sy’n ymwneud â chychwyn gwaith adeilad risg uwch. Mae’r rheoliad hwn yn darparu y bydd yr hysbysiad cychwynnol a’r dystysgrif planiau sy’n gysylltiedig â gwaith adeilad risg uwch yn peidio â bod mewn grym ar 1 Hydref 2024 pan na fydd gwaith o’r fath yn cael ei gychwyn cyn 1 Hydref 2024 gan gymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu.
Mae rheoliadau 9 a 10 yn gwneud darpariaethau trosiannol sy’n ymwneud â hysbysiadau cychwynnol sy’n cael eu canslo cyn 1 Hydref 2024 mewn cysylltiad â gwaith adeiladu, gan gynnwys gwaith adeilad risg uwch.
Mae rheoliad 11 yn cynnwys darpariaeth drosiannol ar gyfer gwaith adeilad risg uwch newydd. Mae’r rheoliad hwn yn darparu y bydd gwaith adeilad risg uwch newydd, ar 6 Ebrill 2024 neu ar ôl hynny, yn cael ei oruchwylio gan awdurdod lleol.
Mae rheoliad 12 yn gwneud darpariaeth drosiannol i anwybyddu’r dosbarthau gwahanol o arolygydd adeiladu ar y gofrestr ac i ganiatáu i berson barhau i weithio ar adeiladau, gan gynnwys adeiladau risg uwch, hyd at 1 Hydref 2024. Nid yw’r rheoliad hwn ond yn gymwys pan fo person wedi cofrestru yn arolygydd adeiladu a phan fo yn y broses o gael asesiad o’i gymhwysedd, neu pan fo ei gymhwysedd wedi ei asesu’n llwyddiannus, ar y lefel ofynnol sy’n briodol i’r gwaith y mae’n bwriadu ei wneud.
Mae rheoliad 13 yn gwneud darpariaeth arbed sy’n deillio o hepgor adran 49 o Ddeddf 1984 i sicrhau bod adran 49, hyd at 1 Hydref 2024, yn dal i fod yn gymwys i arolygwyr cymeradwy pan fodlonir yr amodau yn rheoliad 4(1) a (3).
Mae rheoliad 14 yn gwneud darpariaeth arbed sy’n deillio o hepgor paragraffau 2 i 4B o Atodlen 1 i Ddeddf 1984.
Footnotes
[^f00001]: 2022 p. 30.
[^f00002]: 1984 p. 55.
[^f00003]: O.S. 2010/2214.
[^f00004]: Gweler y diffiniad o “initial notice” yn adran 47(1) o Ddeddf Adeiladu 1984. Gweler hefyd y diffiniad o “registered building control approver” yn adran 58N o’r un Ddeddf.
[^f00005]: I’r graddau y mae adran 32(2) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn ymwneud ag adran newydd 91ZD o Ddeddf Adeiladu 1984, nid yw pŵer Gweinidogion Cymru i benodi diwrnod ar gyfer dod i rym wedi ei gyfyngu i fod o ran Cymru yn unig.
[^f00006]: I’r graddau y mae adran 42 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn ymwneud ag adran 58Z2 newydd o Ddeddf Adeiladu 1984, nid yw pŵer Gweinidogion Cymru i benodi diwrnod ar gyfer dod i rym wedi ei gyfyngu i fod o ran Cymru yn unig.
[^f00007]: Gweler y diffiniad o “approved inspector” yn adran 49 o Ddeddf Adeiladu 1984.
[^f00008]: Gweler y diffiniad o “higher-risk building work” yn adran 120I o Ddeddf Adeiladu 1984.
[^f00009]: Gweler y diffiniad o “plans certificate” yn adran 50 o Ddeddf Adeiladu 1984.
[^f00010]: Gweler y diffiniad o “final certificate” yn adran 51 o Ddeddf Adeiladu 1984.
[^f00011]: Gweler y diffiniad o “amendment notice” yn adran 51A o Ddeddf Adeiladu 1984.
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.