The Exotic Disease (Application and Amendment of Enactments) (Wales) Order 2024
Gwnaed: 19 Medi 2024
Yn dod i rym: 23 Medi 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 8(1)[^f00001], 15(4), 17(1), 23(b) ac (c), 25, 32(2), 35(1), 83(2) ac 88(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981[^f00002], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Title and coming into force
1
- (1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clefydau Egsotig (Cymhwyso a Diwygio Deddfiadau) (Cymru) 2024.
- (2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 23 Medi 2024.
Extension of the definition of “disease”
2
At ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981, fel y bo’n gymwys o ran Cymru, estynnir y diffiniad o “disease” yn adran 88(1) o’r Ddeddf honno i gynnwys—
- (a) y tafod glas;
- (b) enseffalopathi sbyngffurf trosglwyddadwy;
- (c) clwy Affricanaidd y moch, a
- (d) clefyd gwaedlifol episootig.
Amendments to the Movement of Animals (Restrictions) (Wales) Order 2003
3
- (1) Mae Gorchymyn Symud Anifeiliaid (Cyfyngiadau) (Cymru) 2003[^f00003] wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
- (2) Ar ôl erthygl 5 (datgan parth rheolaeth dros dro) mewnosoder—
(5A) (1) Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod clefyd yn bodoli neu wedi bodoli yn yr 56 o ddiwrnodau blaenorol ar unrhyw safle, cânt ddatgan bod ardal yn ardal heintiedig. (2) Rhaid i ardal heintiedig a ddatgenir o dan baragraff (1) fod o’r maint y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn angenrheidiol er mwyn atal lledaeniad clefydau. (3) Rhaid i ddatganiad o dan baragraff (1) bennu un neu ragor o’r canlynol— (a) y clefyd y mae’r ardal heintiedig yn cael ei datgan mewn perthynas ag ef; (b) y rhywogaethau o anifeiliaid y mae’r datganiad yn ymwneud â hwy; (c) y safleoedd o fewn yr ardal heintiedig y mae’r datganiad yn ymwneud â hwy; (d) y mesurau bioddiogelwch y mae rhaid eu cymryd ar safleoedd o fewn yr ardal heintiedig; neu (e) unrhyw fesurau eraill sydd i’w cymhwyso o fewn yr ardal heintiedig, neu o fewn unrhyw ran o’r ardal honno, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal lledaeniad clefydau. (4) Ni chaiff neb symud anifail sy’n perthyn i rywogaeth y mae datganiad o dan baragraff (1) yn ymwneud â hi, i ardal nac o ardal sydd wedi’i datgan yn ardal heintiedig o dan y Gorchymyn hwn, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol. (5) Ni chaiff neb symud anifail i safle nac o safle o fewn ardal sydd wedi’i datgan yn ardal heintiedig o dan y Gorchymyn hwn, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol. (6) At ddibenion yr erthygl hon, bernir bod unrhyw safle sy’n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i ardal heintiedig o fewn yr ardal honno yn gyfan gwbl. (7) Pan fo anifail yn teithio drwy ardal sydd wedi’i datgan yn ardal heintiedig o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i’r anifail gael ei symud mewn cerbyd ar hyd y llwybr byrraf sydd ar gael a hynny heb gael ei ddadlwytho. (8) Caniateir i ddatganiad a wneir o dan y Gorchymyn hwn gael ei ddiwygio, ei atal dros dro neu ei ddirymu gan Weinidogion Cymru ar unrhyw adeg. (9) Rhaid i ddatganiad a wneir o dan y Gorchymyn hwn ac unrhyw achos o ddiwygio, atal dros dro neu ddirymu’r datganiad fod yn ysgrifenedig.
- (3) Yn lle erthygl 12 (yr awdurdod lleol i orfodi’r gorchymyn) rhodder—
(12) (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, ac eithrio pan ddarperir yn benodol fel arall, gael eu gweithredu a’u gorfodi gan yr awdurdod lleol. (2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn achosion o ddisgrifiad penodol neu mewn achos penodol, y caiff Gweinidogion Cymru gyflawni’r cyfrifoldeb am orfodi’r Gorchymyn hwn.
Amendments to the Bluetongue (Wales) Regulations 2008
4
- (1) Mae Rheoliadau’r Tafod Glas (Cymru) 2008[^f00004] wedi eu diwygio fel a ganlyn.
- (2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
- (a) yn y diffiniad o “anifail”, yn lle’r geiriau “(ac at ddibenion” hyd at y diwedd rhodder “neu gamelid;”;
- (b) ar ôl y diffiniad o “brechlynnau byw a wanhawyd”, mewnosoder—
- ystyr “carcas” (“carcase”) yw carcas anifail;
- (c) ar ôl y diffiniad o “parth rheoli”, mewnosoder—
- ystyr “Prif Swyddog Milfeddygol” (“Chief Veterinary Officer”) yw Prif Swyddog Milfeddygol Cymru.
- (d) ar ôl y diffiniad o “carcas”, mewnosoder—
- ystyr “cynnyrch cenhedlol” (“germinal product”) yw embryo, ofwm neu semen anifail;
- (e) yn y diffiniad o “mangre”, yn lle “fan neu le” rhodder “dir, adeilad neu fan neu le arall”.
- (3) Yn rheoliad 2(2) (dehongli), hepgorer “drwy hysbysiad”.
- (4) Yn rheoliad 7 (mangreoedd sy’n pontio parthau), ym mharagraff 4(c), yn lle “i’r parth dan gyfyngiadau” rhodder “i’r parth rheoli dros dro”.
- (5) Yn lle rheoliad 9 (mangreoedd a amheuir neu fangreoedd heintiedig) rhodder—
(9) (1) Os amheuir neu os cadarnheir presenoldeb y tafod glas neu feirws y tafod glas mewn unrhyw fangre, caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i’r meddiannydd neu i geidwad unrhyw anifeiliaid yn y fangre honno, yn gwahardd symud anifeiliaid neu gynhyrchion cenhedlol i’r fangre neu o’r fangre ac eithrio yn unol â thrwydded. (2) Caiff hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) osod y gofynion canlynol ar y meddiannydd neu’r ceidwad— (a) llunio stocrestr, a gynhelir yn ddyddiol, o’r holl anifeiliaid a chynhyrchion cenhedlol yn y fangre, gan gofnodi, ar gyfer pob rhywogaeth— (i) cyfanswm nifer yr anifeiliaid; (ii) cyfanswm nifer y cynhyrchion cenhedlol a’r mathau ohonynt; (iii) nifer yr anifeiliaid neu’r cynhyrchion cenhedlol y mae’r tafod glas neu feirws y tafod glas yn effeithio arnynt neu yr amheuir bod y tafod glas neu feirws y tafod glas yn effeithio arnynt; (iv) nifer yr anifeiliaid sy’n marw neu nifer y cynhyrchion cenhedlol a ddinistrir; (v) nifer a chyrchfan unrhyw anifeiliaid neu gynhyrchion cenhedlol a symudir o’r fangre; (b) cadw cofnod o’r stocrestr am ddwy flynedd o leiaf o’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad; (c) sicrhau y cedwir pob anifail dan do, neu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol; (d) gweithredu’r mesurau rheoli gwybed a bennir yn yr hysbysiad mewn cysylltiad â phob anifail yn y fangre. (3) Rhaid i drwydded a roddir o dan baragraff (1) osod yr amodau hynny ar symud anifeiliaid neu gynhyrchion cenhedlol y mae arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol yn ystyried eu bod yn angenrheidiol i atal lledaeniad feirws y tafod glas. (4) Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol— (a) cyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) i feddiannydd mangre neu geidwad anifeiliaid yn y fangre honno os yw’r arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol yn amau bod anifeiliaid yn y fangre wedi dod i gysylltiad â feirws y tafod glas; (b) cynnwys y mesurau hynny ym mharagraff (2) yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol i atal lledaeniad feirws y tafod glas.
- (6) Yn rheoliad 10 (parthau rheoli dros dro)—
- (a) ym mharagraff (4)—
- (i) ar ôl “anifail”, mewnosoder “na chynnyrch cenhedlol”;
- (ii) ar ôl “arolygydd milfeddygol”, mewnosoder “neu gan arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol”;
- (b) hepgorer paragraff (5).
- (7) Yn rheoliad 11 (cadarnhau bod y tafod glas mewn mangre)—
- (a) daw’r testun presennol yn baragraff (1);
- (b) hepgorer paragraff (b) a’r “a” o’i flaen;
- (c) ym mharagraff (1) (fel y’i hailrifir), yn lle “iddo” rhodder “i’r arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol”;
- (d) ar ôl paragraff (1) (fel y’i hailrifir), mewnosoder—
(2) Caiff hysbysiad o dan baragraff (1) hysbysu’r meddiannydd (er gwaethaf rheoliad 8) nad oes angen hysbysu arolygydd milfeddygol am unrhyw achosion pellach a amheuir o’r tafod glas yn y fangre.
- (8) Yn rheoliad 12 (y mesurau pan fo presenoldeb feirws y tafod glas wedi ei gadarnhau)—
- (a) ym mharagraff (1)—
- (i) yn lle “rhaid i Weinidogion Cymru” rhodder “caiff Gweinidogion Cymru”;
- (ii) hepgorer “ar sail epidemiolegol, daearyddol, ecolegol neu feteorolegol,”;
- (b) ym mharagraff (3)—
- (i) ar ôl “anifail” mewnosoder “na chynnyrch cenhedlol”;
- (ii) ar ôl “na’i symud ohoni” mewnosoder “ac eithrio yn unol â thrwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu gan arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol”.
- (9) Ar ôl rheoliad 12 (y mesurau pan fo presenoldeb feirws y tafod glas wedi ei gadarnhau) mewnosoder—
(12A) (1) Mae adran 32 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (sy’n ymwneud â chigydda a digolledu) yn gymwys i’r tafod glas.
- (10) Yn rheoliad 13 (cyfyngiadau mewn parthau diogelu a pharthau goruchwyliaeth)—
- (a) ym mharagraff (1)(a), yn lle “rhaid i Weinidogion Cymru” rhodder “caiff Gweinidogion Cymru”;
- (b) ym mharagraff (2)—
- (i) yn lle “, semen, ofwm nac embryo” rhodder “na chynnyrch cenhedlol”;
- (ii) yn lle “arolygydd” rhodder “arolygydd milfeddygol neu gan arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol”;
- (c) ym mharagraff (3)—
- (i) ar ôl “anifail” mewnosoder “na chynnyrch cenhedlol”;
- (ii) ar ôl “gwarchod” mewnosoder “neu barth gwyliadwriaeth”;
- (iii) yn lle “arolygydd” rhodder “arolygydd milfeddygol neu gan arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol”;
- (d) ar ôl paragraff (3), mewnosoder—
(3A) Caiff datganiad o dan baragraff (1) gynnwys gwaharddiad ar symud anifeiliaid neu gynhyrchion cenhedlol i fangre neu o fangre o fewn parth, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu gan arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
- (e) hepgorer paragraff (4).
- (11) Ar ôl rheoliad 13, mewnosoder—
(13A) (1) Os cadarnheir feirws y tafod glas mewn anifail neu gynnyrch cenhedlol ac os yw’r Prif Swyddog Milfeddygol yn ystyried— (a) nad yw’r feirws yn cylchredeg; a (b) bod budd rheoli clefydau o wneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru ddatgan bod ardal briodol yn barth dan gyfyngiadau. (2) Rhaid i barth dan gyfyngiadau a ddatgenir o dan y rheoliad hwn— (a) canolbwyntio ar leoliad yr anifail neu’r cynnyrch cenhedlol y cadarnheir feirws y tafod glas ynddo; a (b) bod o faint a ystyrir yn angenrheidiol gan y Prif Swyddog Meddygol er mwyn atal lledaeniad feirws y tafod glas. (3) Ni chaiff neb symud anifail na chynnyrch cenhedlol o barth dan gyfyngiadau a ddatgenir o dan y rheoliad hwn ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol. (13B) (1) Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl cynnal asesiad risg, yn ystyried bod camau o’r fath yn angenrheidiol i leihau’r risg bod feirws y tafod glas yn treiddio i unrhyw ran o Gymru neu fod feirws y tafod glas yn lledaenu i anifeiliaid neu gynhyrchion cenhedlol o unrhyw ffynhonnell, caiff Gweinidogion Cymru— (a) datgan parth atal y tafod glas ledled Cymru neu mewn unrhyw ran ohoni; a (b) cyflwyno, neu ei gwneud yn ofynnol i arolygydd gyflwyno, hysbysiad i feddiannydd mangre neu geidwad anifeiliaid mewn mangre lle cedwir anifeiliaid neu gynhyrchion cenhedlol a bennir yn yr hysbysiad. (2) Caiff hysbysiad neu ddatganiad o dan baragraff (1)— (a) gosod y mesurau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol i leihau’r risg o ymlediad feirws y tafod glas i unrhyw ran o Gymru neu ledaeniad feirws y tafod glas; (b) yn ddarostyngedig i baragraff (3), gyfyngu ar symud anifeiliaid neu gynhyrchion cenhedlol— (i) o fewn parth atal y tafod glas;neu (ii) o fangre o fewn y parth atal y tafod glas i ardal nad yw yn y parth atal y tafod glas. (3) Ni chaiff neb symud anifeiliaid na chynhyrchion cenhedlol o fewn nac o barth atal y tafod glas ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu gan arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol. (4) Ni chaiff neb symud anifeiliaid o fewn nac o barth atal y tafod glas os yw’r anifail yn dangos arwyddion clinigol o’r tafod glas ar neu cyn y diwrnod cludo.
- (12) Yn rheoliad 14 (lladd-dai)—
- (a) ym mharagraff (1), yn lle “a gludir allan o barth dan gyfyngiadau” rhodder “a symudir yn unol â’r Rheoliadau hyn”;
- (b) hepgorer paragraff (3).
- (13) Ar ôl rheoliad 14, mewnosoder—
(14A) (1) Caiff Gweinidogion Cymru ddynodi unrhyw fangre at ddiben casglu, prosesu, trin neu storio cynhyrchion cenhedlol. (2) Caiff dynodiad o dan y rheoliad hwn gynnwys unrhyw fesurau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol i atal lledaeniad feirws y tafod glas.
- (14) Yn lle rheoliad 15 (symud anifeiliaid wedyn) rhodder—
(15) (1) Ar ôl symud anifail neu gynnyrch cenhedlol o fangre o fewn parth rheoli dros dro, parth gwarchod, parth gwyliadwriaeth, parth rheoli neu barth dan gyfyngiadau, caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol, drwy hysbysiad a gyflwynir i feddiannydd mangre y mae’r anifail neu’r cynnyrch cenhedlol wedi ei symud iddi— (a) gwahardd symud yr anifail neu’r cynnyrch cenhedlol hwnnw o’r fangre y symudwyd yr anifail neu’r cynnyrch cenhedlol iddi; (b) gwahardd symud unrhyw anifail neu gynnyrch cenhedlol arall i’r fangre neu oddi yno; (c) pennu’r gofynion hynny y mae arolygydd milfeddygol yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal lledaeniad clefydau. (2) Caniateir i symudiad a waherddir gan hysbysiad o dan baragraff (1) gael ei awdurdodi o dan drwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu gan arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
- (15) Yn rheoliad 19 (defnyddio brechlynnau)—
- (a) ym mharagraff (1) ar ôl “brechlynnau”, hepgorer “anweithredol neu frechlynnau byw a wanhawyd”;
- (b) ym mharagraff (2) ar ôl “gan frechlynnau”, hepgorer “anweithredol neu frechlynnau byw a wanhawyd”;
- (c) ym mharagraff (3)—
- (i) ar ôl “arolygydd milfeddygol” mewnosoder “neu arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol”;
- (ii) ar ôl “brechlynnau”, hepgorer “anweithredol neu frechlynnau byw a wanhawyd”.
- (16) Yn rheoliad 20 (pwerau arolygwyr milfeddygol, swyddogion ac arolygwyr), yn y testun Saesneg, ym mharagraff (5)(a), yn lle “isolate of” rhodder “isolate or”.
Amendments to the Bluetongue (Wales) (Compensation) Order 2007
5
- (1) Mae Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) (Digolledu) 2007[^f00005] wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
- (2) Yn erthygl 2 (digolledu)—
- (a) ym mharagraff (1), hepgorer “fel y’i cymhwysir i’r tafod glas gan erthygl 13 o Orchymyn y Tafod Glas 2003”;
- (b) ym mharagraff (3), ar ôl “anifail sy’n cnoi cil” rhodder “neu gamelid”.
Revocations
6
Mae Gorchymyn y Tafod Glas (Rhif 2) (Cymru) 2007[^f00006] wedi ei ddirymu, i’r graddau nad yw wedi ei ddirymu’n flaenorol.
Signed
Huw Irranca-Davies — Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru — 19 Medi 2024
Explanatory note
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
NODYN ESBONIADOL
Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru yn unig.
Mae Erthygl 2 yn estyn y diffiniad o “clefyd” yn Neddf Iechyd Anifeiliaid 1981 i gynnwys y tafod glas, enseffalopathi sbyngffurf trosglwyddadwy, clwy Affricanaidd y moch a chlefyd gwaedlifol episootig.
Mae Erthygl 3 yn diwygio Gorchymyn Symud Anifeiliaid (Cyfyngiadau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/399 (Cy. 56)) i ailfewnosod darpariaeth sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru ddatgan bod ardal yn ardal heintiedig. Mae’n darparu i’r Gorchymyn gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol ac eithrio lle nodir fel arall neu pan fo Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo bod y Gorchymyn i’w orfodi gan Weinidogion Cymru mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu achosion penodol.
Mae erthygl 4 yn diwygio Rheoliadau’r Tafod Glas (Cymru) 2008 (O.S. 2008/1090 (Cy. 116)) i ychwanegu ac egluro rhai diffiniadau penodol; caniatáu diwygio, atal dros dro neu ddirymu awdurdodiadau, trwyddedau, hysbysiadau neu ddynodiadau o dan y Rheoliadau hyn heb rybudd; darparu bod safleoedd sy’n pontio parth dan gyfyngiadau a pharth rheoli dros dro i’w trin fel rhai sydd o fewn parth rheoli dros dro yn gyfan gwbl; estyn y gwaharddiad ar symud anifeiliaid mewn parth rheoli i gynnwys gwahardd symud cynhyrchion cenhedlol yn y parth hwnnw ac eithrio yn unol â thrwydded; sefydlu mesurau rheoli clefyd pellach mewn achos o amau neu gadarnhau’r tafod glas, gan gynnwys pŵer i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad sy’n gwahardd symud anifeiliaid neu gynhyrchion cenhedlol i fangre neu o fangre lle mae’r tafod glas wedi ei amau neu ei gadarnhau, ac eithrio yn unol â thrwydded (y caniateir iddi fod yn ddarostyngedig i amodau); darparu pŵer i ddatgan parth dan gyfyngiadau lle cadarnheir y tafod glas ond nad yw’n cylchredeg; darparu pŵer i ddatgan parth atal y tafod glas fel mesur rhagofalus pan fo angen i leihau’r risg o ymlediad feirws y tafod glas i unrhyw ran o Gymru, a darparu pŵer i ddynodi mangre at ddiben casglu, prosesu, trin neu storio cynhyrchion cenhedlol.
Mae erthygl 5 yn diwygio Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) (Digolledu) 2007 (O.S. 2007/3010 (Cy. 261) drwy ddileu cyfeiriad at ddarpariaeth sy’n cael ei dirymu.
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.