The Children Act 2004 (Children Missing Education Database) (Pilot) (Wales) Regulations 2025
Gwnaed: 3 Ebrill 2025
Yn dod i rym: 8 Ebrill 2025
Mae drafft o’r Rheoliadau hyn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 66(3) o Ddeddf Plant 2004[^f00003].
Title, commencement, expiry and application
1
- (1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Cronfa Ddata Plant sy’n Colli Addysg) (Peilota) (Cymru) 2025.
- (2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Ebrill 2025 ac maent yn peidio â chael effaith ar 8 Ebrill 2026.
- (3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Interpretation
2
- (1) Yn y Rheoliadau hyn—
- mae i “addysg addas” yr un ystyr â “suitable education” yn adran 436A(3) o Ddeddf 1996;
- mae i “anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs”) yr un ystyr ag yn adran 2 o Ddeddf 2018;
- ystyr “awdurdod lleol peilot” (“pilot local authority”) yw awdurdod lleol yng Nghymru a restrir yn Atodlen 1;
- ystyr “awdurdod lleol yng Nghymru” (“local authority in Wales”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
- ystyr “awdurdod lleol yn Lloegr” (“local authority in England”) yw— cyngor sir yn Lloegr; cyngor dosbarth metropolitanaidd; cyngor dosbarth anfetropolitanaidd ar gyfer ardal nad oes cyngor sir ar ei chyfer; cyngor bwrdeistref yn Llundain; ac Cyngor Cyffredin Dinas Llundain (yn rhinwedd ei swyddogaeth fel awdurdod lleol);
- ystyr “cofnod PCA” (“CME record”), mewn perthynas â phlentyn, yw’r wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y gronfa ddata PCA ac sy’n ymwneud â’r plentyn hwnnw;
- mae i “darpariaeth ddysgu ychwanegol” (“additional learning provision”) yr un ystyr ag yn adran 3 o Ddeddf 2018;
- ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996[^f00004];
- ystyr “Deddf 2018” (“the 2018 Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018[^f00005];
- ystyr “disgybl cofrestredig” (“registered pupil”) yw plentyn sydd wedi ei gofrestru yn ddisgybl mewn ysgol mewn cofrestr a gedwir o dan adran 434 o Ddeddf 1996;
- ystyr “y gronfa ddata PCA” (“the CME database”) yw’r gronfa ddata sydd wedi ei sefydlu a’i gweithredu, neu sydd i’w sefydlu a’i gweithredu, gan awdurdod lleol peilot o dan reoliad 3;
- mae i “oedran ysgol gorfodol” yr un ystyr â “compulsory school age” yn adran 8 o Ddeddf 1996[^f00006];
- ystyr “PCA” (“CME”) yw plant sy’n colli addysg;
- ystyr “plentyn” (“child”) yw person o oedran ysgol gorfodol;
- ystyr “rhiant” (“parent”) yw unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn (o fewn yr ystyr a roddir i “parental responsiblity” yn adran 3 o Ddeddf Plant 1989[^f00007]) neu sydd â gofal am y plentyn ar unrhyw adeg;
- mae i “ysgol” yr un ystyr â “school” yn adran 4 o Ddeddf 1996[^f00008].
- (2) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at berson sydd wedi ei gyflogi yn cynnwys person sydd wedi ei gyflogi pa un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, a pherson sydd wedi ei secondio i’r awdurdod lleol peilot o dan sylw.
Establishment of CME database
3
- (1) Rhaid i awdurdod lleol peilot sefydlu a gweithredu cronfa ddata PCA.
- (2) Pan fodlonir yr amodau ym mharagraff (3) mewn perthynas â phlentyn penodol, rhaid i’r gronfa ddata PCA gynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 2 ac sydd ar gael i’r awdurdod lleol peilot mewn perthynas â’r plentyn hwnnw.
- (3) Yr amodau yw—
- (a) bod y plentyn yn preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol peilot,
- (b) nad yw’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig, ac
- (c) ei bod yn ymddangos i’r awdurdod lleol peilot nad yw’r plentyn yn cael addysg addas, neu nad yw’r plentyn o bosibl yn cael addysg addas.
Local Health Board and GMS contractor duty to disclose
4
- (1) Mae paragraff (2) yn gymwys pan fo Bwrdd Iechyd Lleol, wrth arfer ei swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf 2006, neu gontractwr GMC, yn dal unrhyw wybodaeth a bennir ym mharagraffau 1 i 3 o Atodlen 2 mewn perthynas â phlentyn sy’n preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol peilot.
- (2) Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol a chontractwr GMC sicrhau bod yr wybodaeth a ddelir ganddo, a bennir ym mharagraffau 1 i 3 o Atodlen 2 mewn perthynas â phlentyn, yn cael ei datgelu i awdurdod lleol peilot perthnasol y plentyn, a hynny erbyn 30 Ebrill 2025.
- (3) “Awdurdod lleol peilot perthnasol” y plentyn yw’r awdurdod lleol peilot y mae’r plentyn yn preswylio fel arfer yn ei ardal.
- (4) Yn y rheoliad hwn—
- ystyr “contract GMC” (“GMS contract”) yw contract gwasanaethau meddygol cyffredinol o dan adran 42 o Ddeddf 2006 (contractau gwasanaethau meddygol cyffredinol: rhagarweiniol);
- ystyr “contractwr GMC” (“GMS contractor”) yw parti i gontract GMC, ac eithrio’r Bwrdd Iechyd Lleol;
- ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006[^f00009];
- mae i “preswylio fel arfer” (“usually resident”) yr un ystyr ag yn rheoliad 2(2) a (3) o Reoliadau’r Byrddau Iechyd Lleol (Swyddogaethau a Gyfarwyddir) (Cymru) 2009[^f00010].
Procedure for ensuring the accuracy of information in the CME database
5
Pan fo’n ymddangos i awdurdod lleol peilot fod cofnod PCA y mae’n gyfrifol amdano yn anghywir neu’n anghyflawn, neu y gall fod yn anghywir neu’n anghyflawn, rhaid i’r awdurdod lleol peilot gymryd camau rhesymol i gywiro neu gwblhau’r cofnod.
Removal of a CME record: child is ordinarily resident elsewhere
6
Pan ddaw awdurdod lleol peilot yn ymwybodol bod plentyn y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y gronfa ddata PCA bellach yn preswylio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall yng Nghymru neu awdurdod lleol yn Lloegr (“yr awdurdod lleol derbyn”), neu fod hynny’n debygol o ddigwydd, rhaid iddo—
- (a) hysbysu’r awdurdod lleol derbyn am gofnod PCA y plentyn o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad y daeth yn ymwybodol, a
- (b) dileu cofnod PCA y plentyn hwnnw o’r gronfa ddata PCA cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r plentyn adael ei ardal.
Removal of a CME record: child has left area
7
Pan ddaw awdurdod lleol peilot yn ymwybodol bod plentyn y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y gronfa ddata PCA wedi gadael ei ardal ac nad yw’n gwybod ymhle y mae’r plentyn bellach yn preswylio fel arfer, rhaid i’r awdurdod lleol peilot ddileu cofnod PCA y plentyn hwnnw o’r gronfa ddata PCA cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Removal of a CME record: child becomes registered pupil
8
Pan ddaw awdurdod lleol peilot yn ymwybodol bod plentyn y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y gronfa ddata PCA bellach yn ddisgybl cofrestredig, rhaid i’r awdurdod lleol peilot ddileu cofnod PCA y plentyn hwnnw o’r gronfa ddata PCA cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Removal of a CME record: child is receiving suitable education
9
Pan fo awdurdod lleol peilot wedi ei fodloni bod plentyn y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y gronfa ddata PCA yn cael addysg addas, rhaid i’r awdurdod lleol peilot ddileu cofnod PCA y plentyn hwnnw o’r gronfa ddata PCA cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Removal of a CME record: child has died
10
Pan ddaw awdurdod lleol peilot yn ymwybodol bod plentyn y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y gronfa ddata PCA wedi marw, rhaid i’r awdurdod lleol peilot ddileu cofnod PCA y plentyn hwnnw o’r gronfa ddata PCA cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Removal of a CME record: child ceases to be of compulsory school age
11
Pan ddaw awdurdod lleol peilot yn ymwybodol bod plentyn y mae ei enw wedi ei gynnwys yn y gronfa ddata PCA yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol, rhaid i’r awdurdod lleol peilot ddileu cofnod PCA y plentyn hwnnw o’r gronfa ddata PCA cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Access to the CME database
12
- (1) Dim ond person sydd wedi ei gyflogi gan awdurdod lleol peilot, neu sy’n gweithredu ar ran awdurdod o’r fath, mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau a bennir ym mharagraff (2) a gaiff gael mynediad at y gronfa ddata PCA at ddiben ychwanegu neu ddarllen gwybodaeth.
- (2) Y swyddogaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw swyddogaethau o dan—
- (a) Rhan 6 (derbyniadau ysgol, presenoldeb yn yr ysgol a ffioedd ysgol) o Ddeddf 1996,
- (b) adran 175 o Ddeddf Addysg 2002[^f00011] (dyletswyddau awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu mewn perthynas â lles plant), neu
- (c) Rhan 2 (anghenion dysgu ychwanegol) o Ddeddf 2018.
ATODLEN 1 — Awdurdodau Lleol Peilot
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Cyngor Sir Caerdydd
Cyngor Sir Caerfyrddin
Cyngor Sir Fynwy
Cyngor Sir Gwynedd
Cyngor Sir Powys
Cyngor Sir Ynys Môn
ATODLEN 2 — Yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yn y gronfa ddata PCA
1
Enw’r plentyn (gan gynnwys unrhyw enw blaenorol).
2
Cyfeiriad y plentyn (neu ei gyfeiriad hysbys diwethaf), gan gynnwys cod post.
3
Dyddiad geni’r plentyn.
4
Enw, cyfeiriad a chod post, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost holl rieni’r plentyn.
5
Enw a chyfeiriad y person sy’n darparu’r cyfan neu ran o’r addysg.
6
Unrhyw anghenion dysgu ychwanegol a allai fod gan y plentyn ac unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol y gelwir amdani.
Signed
Lynne Neagle — Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru — 3 Ebrill 2025
Explanatory note
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
NODYN ESBONIADOL
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i sefydlu a gweithredu cronfa ddata plant sy’n colli addysg (“PCA”) yng Nghymru.
Bydd yn ofynnol i awdurdod lleol peilot (fel y’i diffinnir yn rheoliad 2(1) ac Atodlen 1) sefydlu a gweithredu cronfa ddata PCA (rheoliad 3) a fydd yn cynnwys yr wybodaeth a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau mewn cysylltiad â phlant o oedran ysgol gorfodol sy’n preswylio fel arfer yn ardal yr awdurdod lleol peilot.
Bydd yn ofynnol i Fwrdd Iechyd Lleol a chontractwr gwasanaethau meddygol cyffredinol yng Nghymru ddatgelu i awdurdod lleol peilot wybodaeth benodol a bennir yn Atodlen 2 ac a ddelir ganddynt (rheoliad 4). Rhaid i awdurdod lleol peilot gymryd camau rhesymol i sicrhau bod yr wybodaeth yn y gronfa ddata yn gywir (rheoliad 5).
Mae rheoliadau 6 i 11 yn manylu ar yr achlysuron pan fydd rhaid dileu enw plentyn o gronfa ddata PCA.
Mae rheoliad 12 yn manylu ar bwy y caniateir iddo gael mynediad at y gronfa ddata ac ar gyfer pa swyddogaethau addysg y caniateir ei defnyddio.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Tegwch mewn Addysg, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.
Footnotes
[^f00001]: 2004 p. 31. Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan yr adrannau hyn i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Gweler adran 65(1) o Ddeddf Plant 2004 am y diffiniad o “the Assembly”.
[^f00002]: Gweler adran 29(12) o Ddeddf Plant 2004.
[^f00003]: Mae paragraff 34 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 p. 32 (fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2007/1388) yn darparu bod y cyfeiriad at ddau Dŷ Senedd y Deyrnas Unedig yn adran 66(3) o Ddeddf Plant 2004 i’w ddarllen fel cyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru (Senedd Cymru bellach).
[^f00004]: 1996 p. 56.
[^f00005]: 2018 dccc 2.
[^f00006]: Diwygiwyd adran 8 gan adran 52 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44).
[^f00007]: 1989 p. 41.
[^f00008]: Mae adran 4 wedi ei diwygio gan adran 51 o Ddeddf Addysg 1997 (p. 44), Rhan 3 o Atodlen 22 i Ddeddf Addysg 2002 (p. 32), adran 95 o Ddeddf Gofal Plant 2006 (p. 21), paragraff 9 o Atodlen 13 i Ddeddf Addysg 2011 (p. 21) ac O.S. 2019/1027.
[^f00009]: 2006 p. 42.
[^f00010]: O.S. 2009/1511 (Cy. 147).
[^f00011]: 2002 p. 32, y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Enwi, cychwyn, dod i ben a chymhwyso
Dehongli
Sefydlu cronfa ddata PCA
Dyletswydd Bwrdd Iechyd Lleol a chontractwr GMC i ddatgelu
Y weithdrefn ar gyfer sicrhau cywirdeb gwybodaeth yn y gronfa ddata PCA
Dileu cofnod PCA pan fo plentyn yn preswylio fel arfer yn rhywle arall
Dileu cofnod PCA pan fo plentyn wedi gadael yr ardal
Dileu cofnod PCA pan fo plentyn yn dod yn ddisgybl cofrestredig
Dileu cofnod PCA pan fo plentyn yn cael addysg addas
Dileu cofnod PCA pan fo plentyn wedi marw
Dileu cofnod PCA pan fo plentyn yn peidio â bod o oedran ysgol gorfodol
Mynediad at y gronfa ddata PCA
Editorial notes
[^key-1007dd3fd6f173532a87001728513d30]: Rhl. 1 mewn grym ar 8.4.2025, gweler rhl. 1(2)
[^key-8ad2dbfe9d83b95b1e96545c878bc4f0]: Rhl. 2 mewn grym ar 8.4.2025, gweler rhl. 1(2)
[^key-28552a3d974caebd33c5ac9e0c532b43]: Rhl. 3 mewn grym ar 8.4.2025, gweler rhl. 1(2)
[^key-c0b674ba76c5985933669543b59776bb]: Rhl. 4 mewn grym ar 8.4.2025, gweler rhl. 1(2)
[^key-2c86d5a759657a2683cb7bf96d2e677a]: Rhl. 5 mewn grym ar 8.4.2025, gweler rhl. 1(2)
[^key-c9b8cc6cd63b6570cf7e6d268a25c9f4]: Rhl. 6 mewn grym ar 8.4.2025, gweler rhl. 1(2)
[^key-2a63df9ac0807adca7dc87968499bb43]: Rhl. 7 mewn grym ar 8.4.2025, gweler rhl. 1(2)
[^key-fe1460a9050ea478311f5dec30a1e802]: Rhl. 8 mewn grym ar 8.4.2025, gweler rhl. 1(2)
[^key-720b1e9b873b6c6911bf1db78145983a]: Rhl. 9 mewn grym ar 8.4.2025, gweler rhl. 1(2)
[^key-9656b91b3bca9e954a033462c085b690]: Rhl. 10 mewn grym ar 8.4.2025, gweler rhl. 1(2)
[^key-907cfdfbe2805b66966ffb48f1f302a1]: Rhl. 11 mewn grym ar 8.4.2025, gweler rhl. 1(2)
[^key-e79d530e5d02801b069256e1d37d688f]: Rhl. 12 mewn grym ar 8.4.2025, gweler rhl. 1(2)
[^key-cfdae9a427f9b48ad7d77a048faf9d87]: Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 8.4.2025, gweler rhl. 1(2)
[^key-4b83ea6020b195b0d7711ca41a8588f5]: Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 8.4.2025, gweler rhl. 1(2)
[^key-d398c2c2950d3402b2ec9b4d7d2fe590]: Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 8.4.2025, gweler rhl. 1(2)
[^key-a6866e36ba7595a072deb1df8515d0d6]: Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 8.4.2025, gweler rhl. 1(2)
[^key-cafe12f71df79890ad2baceffbc0686b]: Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 8.4.2025, gweler rhl. 1(2)
[^key-be62079488e109705b8aa8533edbe280]: Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 8.4.2025, gweler rhl. 1(2)
[^key-92b73b681733ae49829dfd2461ef6f72]: Atod. 1 mewn grym ar 8.4.2025, gweler rhl. 1(2)
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.