The Care Planning, Placement and Case Review (Wales) Regulations 2015
Words in reg. 12(8) substituted (2.4.2018) by The Care Planning, Placement and Case Review (Wales) (Amendment) Regulations 2018 (S.I. 2018/111), regs. 1(2), 2(3)
Words in reg. 31(7)(b) inserted (2.4.2018) by The Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (Consequential Amendments to Secondary Legislation) Regulations 2018 (S.I. 2018/48), reg. 1(2), Sch. 1 para. 35(4)
Words in Sch. 6 heading substituted (29.4.2019) by The Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (Consequential Amendments to Secondary Legislation) Regulations 2019 (S.I. 2019/237), reg. 1(2), Sch. 1 para. 25(9)
Words in reg. 2(1) substituted (29.4.2019) by The Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (Consequential Amendments to Secondary Legislation) Regulations 2019 (S.I. 2019/237), reg. 1(2), Sch. 1 para. 25(2)(a)
Words in reg. 2(1) substituted (29.4.2019) by The Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (Consequential Amendments to Secondary Legislation) Regulations 2019 (S.I. 2019/237), reg. 1(2), Sch. 1 para. 25(2)(b)(i)
Word in reg. 2(1) substituted (29.4.2019) by The Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (Consequential Amendments to Secondary Legislation) Regulations 2019 (S.I. 2019/237), reg. 1(2), Sch. 1 para. 25(2)(b)(ii)
Words in reg. 22(1) omitted (29.4.2019) by virtue of The Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (Consequential Amendments to Secondary Legislation) Regulations 2019 (S.I. 2019/237), reg. 1(2), Sch. 1 para. 25(3)(a)
Words in reg. 22(1) inserted (29.4.2019) by The Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (Consequential Amendments to Secondary Legislation) Regulations 2019 (S.I. 2019/237), reg. 1(2), Sch. 1 para. 25(3)(b)
Words in reg. 29 heading substituted (29.4.2019) by The Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (Consequential Amendments to Secondary Legislation) Regulations 2019 (S.I. 2019/237), reg. 1(2), Sch. 1 para. 25(7)
Words in reg. 29(1) substituted (29.4.2019) by The Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (Consequential Amendments to Secondary Legislation) Regulations 2019 (S.I. 2019/237), reg. 1(2), Sch. 1 para. 25(5), (6)(a)
Words in reg. 29(2) substituted (29.4.2019) by The Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (Consequential Amendments to Secondary Legislation) Regulations 2019 (S.I. 2019/237), reg. 1(2), Sch. 1 para. 25(5), (6)(a)
Words in reg. 29(3) substituted (29.4.2019) by The Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (Consequential Amendments to Secondary Legislation) Regulations 2019 (S.I. 2019/237), reg. 1(2), Sch. 1 para. 25(5), (6)(a)
Words in reg. 63(2)(e) substituted (29.4.2019) by The Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (Consequential Amendments to Secondary Legislation) Regulations 2019 (S.I. 2019/237), reg. 1(2), Sch. 1 para. 25(8)
Word in reg. 23(2)(c) substituted (29.4.2019) by The Regulation and Inspection of Social Care (Wales) Act 2016 (Consequential Amendments to Secondary Legislation) Regulations 2019 (S.I. 2019/237), reg. 1(2), Sch. 1 para. 25(4)
Words in reg. 54(1) substituted (2.12.2019) by The Children and Social Work Act 2017 (Consequential Amendments) (Social Workers) Regulations 2019 (S.I. 2019/1094), reg. 1, Sch. 3 para. 38(a); S.I. 2019/1436, reg. 2(b)
Words in reg. 26(1) substituted (temp.) (1.11.2020) by virtue of The Adoption and Fostering (Wales) (Miscellaneous Amendments) (Coronavirus) Regulations 2020 (S.I. 2020/1082), regs. 1(2), 8 (with reg. 9) (as amended (30.3.2021) by The Adoption and Fostering (Wales) (Miscellaneous Amendments) (Coronavirus) (Amendment) Regulations 2021 (S.I. 2021/251), regs. 1(2), 2(2))
Pt. 1A inserted (1.9.2021) by The Care Planning, Placement and Case Review (Wales) (Amendment) Regulations 2021 (S.I. 2021/860), regs. 1, 5
Words in reg. 2(1) substituted (1.9.2021) by The Care Planning, Placement and Case Review (Wales) (Amendment) Regulations 2021 (S.I. 2021/860), regs. 1, 3
Words in reg. 3 substituted (1.9.2021) by The Care Planning, Placement and Case Review (Wales) (Amendment) Regulations 2021 (S.I. 2021/860), regs. 1, 4
Reg. 5(1)(b)(ii) omitted (1.9.2021) by virtue of The Care Planning, Placement and Case Review (Wales) (Amendment) Regulations 2021 (S.I. 2021/860), regs. 1, 6(a)
Words in reg. 2(1) substituted (1.7.2022) by The Health and Care Act 2022 (Consequential and Related Amendments and Transitional Provisions) Regulations 2022 (S.I. 2022/634), regs. 1(2), 84(2)
Words in reg. 14(2)(f) substituted (1.7.2022) by The Health and Care Act 2022 (Consequential and Related Amendments and Transitional Provisions) Regulations 2022 (S.I. 2022/634), regs. 1(2), 84(3)
Words in reg. 2(1) inserted (with effect in accordance with reg. 11(2) of the amending S.I.) by The Curriculum and Assessment (Wales) Act 2021 (Consequential Amendments) (Secondary Legislation) (No. 1) Regulations 2022 (S.I. 2022/666), regs. 1(2), 11(3)
Words in reg. 11(1) substituted (with effect in accordance with reg. 11(2) of the amending S.I.) by The Curriculum and Assessment (Wales) Act 2021 (Consequential Amendments) (Secondary Legislation) (No. 1) Regulations 2022 (S.I. 2022/666), regs. 1(2), 11(4)
Words in reg. 2(1) substituted (6.11.2023) by The Health and Care Act 2022 (Further Consequential Amendments) (No. 2) Regulations 2023 (S.I. 2023/1071), regs. 1(1), 82(2)
Words in reg. 14(2)(f) substituted (6.11.2023) by The Health and Care Act 2022 (Further Consequential Amendments) (No. 2) Regulations 2023 (S.I. 2023/1071), regs. 1(1), 82(3)
18
Details of any care plan or health treatment plan for P.
19
Details of any support or services provided for P by any person.
20
Any changes in P’s capacity to care for children, and in particular in relation to C, as a result of the health or social care services provided by any person, or as a result of any other factors.
21
Any changes in the family circumstances since the last review.
22
Any significant events outside the family which are relevant.
23
Any difficulties which the family may have had in engaging with the IFS team.
24
Whether there is any conflict between the needs of C and the needs of P, or any other member of P’s household, and how this can be resolved.
25
The need to prepare for the ending of the involvement of the IFS team.
26
In paragraphs 18 to 25—
- “P” is to be construed as though it were a reference to “parent” within the meaning given in regulation 18(5) of the Partnership Regulations.
Independent fostering services – discharge of authority functions
PART 1A — CHILDREN FOR WHOM NO PERSONAL EDUCATION PLAN IS TO BE PREPARED
3A
The following categories of looked after child are prescribed for the purposes of section 83(2B) of the 2014 Act—
- (a) any child who has been placed for adoption under the Adoption and Children Act 2002 unless the child falls within regulation 56;
- (b) any child in relation to whom the circumstances set out in regulation 62(2) apply;
- (c) any child who is looked after only by reason of being remanded to youth detention accommodation.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1
- (1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015, a deuant i rym ar 6 Ebrill 2016.
- (2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2
- (1) Yn y Rheoliadau hyn—
- mae i “anghenion addysgol arbennig” a “darpariaeth addysgol arbennig” yr ystyron a roddir, yn eu trefn, i “special educational needs” a “special educational provision” yn adran 312 o Ddeddf Addysg 19962;
- ystyr “awdurdod cyfrifol” (“responsible authority”) yw’r awdurdod lleol sy’n gofalu am C;
- ystyr “awdurdod yr ardal” (“area authority”) yw’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr3 ar gyfer yr ardal y lleolir C ynddi, neu y mae C i’w leoli ynddi, os yw’n wahanol i’r awdurdod cyfrifol;
- ystyr “C” (“C”) yw plentyn sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod cyfrifol4;
- mae i “canolfan hyfforddi ddiogel” yr ystyr a roddir i “secure training centre” yn adran 43(1)(d) o Ddeddf Carchardai 19525;
- mae i “cartref plant diogel” yr ystyr a roddir i “secure children’s home” yn adran 102(11) o Ddeddf 20126;
- mae i “cofnod achos” (“case record”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 63;
- ystyr “Cydgysylltydd Addysg PDG” (“LAC Education Co-ordinator”) yw’r person a ddynodwyd gan yr awdurdod cyfrifol i gydgysylltu cynlluniau addysg personol a rhoi sylw i anghenion addysgol plant sy’n derbyn gofal a phobl sy’n gadael gofal o fewn ardal yr awdurdod cyfrifol;
- ystyr “cyfarwyddwr” (“director”) yw’r person sy’n gyfrifol am ganolfan hyfforddi ddiogel;
- ystyr “cyfarwyddwr arweiniol ar gyfer gwasanaethau plant a phobl ifanc” (“lead director for children and young people’s services”) yw swyddog yr awdurdod cyfrifol a benodwyd at ddibenion adran 27 o Ddeddf Plant 20047;
- ystyr “cynghorydd personol” (“personal adviser”) yw’r cynghorydd personol a drefnwyd ar gyfer C yn unol ag adran 106 o Ddeddf 2014;
- mae i “cymeradwyaeth dros dro” (“temporary approval”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 26(1);
- mae i “cynllun addysg personol” (“personal education plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5(b)(ii);
- ystyr “cynllun gofal a chymorth” (“care and support plan”) yw’r cynllun, a baratoir ac a gynhelir yn unol ag adran 83 o Ddeddf 2014, ar gyfer darparu gofal a chymorth i C yn y dyfodol;
- mae i “cynllun iechyd” (“health plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 5(1)(b)(i);
- mae i “cynllun lleoli” (“placement plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10(1)(a) ac mae’n ffurfio rhan o gynllun gofal a chymorth C;
- mae i “cynllun lleoli dan gadwad” (“detention placement plan”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 58;
- mae i “cynllun llwybr” (“pathway plan”) yr ystyr a roddir yn adran 107 o Ddeddf 2014;
- ystyr “darparwr gofal iechyd” (“health care provider”), yn achos lleoliad yng Nghymru, yw bwrdd iechyd lleol8, neu, yn achos lleoliad mewn ardal awdurdod lleol yn Lloegr, Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol9 ac unrhyw grŵp comisiynu clinigol perthnasol10, ac mewn unrhyw achos arall, y corff cyfatebol yn y wlad y lleolir neu y bwriedir lleoli C ynddi;
- ystyr “darparwr gwasanaeth maethu” (“fostering service provider”) yw— darparwr gwasanaeth maethu o fewn yr ystyr a roddir i “darparydd gwasanaeth maethu” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Maethu11, a darparwr gwasanaeth maethu o fewn yr ystyr a roddir i “fostering service provider” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 201112;
- ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 198913;
- ystyr “Deddf 2012” (“the 2012 Act”) yw Deddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 201214;
- ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 201415;
- ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio— dydd Sadwrn neu ddydd Sul, dydd Nadolig neu ddydd Gwener y Groglith, neu gŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 197116;
- ystyr “F” (“F”) yw person a gymeradwywyd fel rhiant maeth awdurdod lleol17 ac y bwriedir lleoli C gydag ef neu, yn ôl y digwydd, y lleolir C gydag ef;
- ystyr “gweithiwr dolen gyswllt” (“link worker”) yw aelod o staff cartref plant a benodir yn unol â gofynion Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 200218 sydd â chyfrifoldeb penodol dros ddiogelu a hyrwyddo iechyd a llesiant addysgol plentyn, a chysylltu â darparwyr addysg a gofal iechyd ar ran y plentyn hwnnw;
- ystyr “lleoliad” (“placement”) yw— pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, trefniadau a wneir gan yr awdurdod cyfrifol i C fyw gyda P yn unol ag adran 81(2) o Ddeddf 2014, neu trefniadau a wneir gan yr awdurdod cyfrifol ar gyfer lletya a chynnal C mewn unrhyw un o’r ffyrdd a bennir yn adran 81(6) o Ddeddf 2014;
- ystyr “llywodraethwr” (“governor”) yw’r person sy’n gyfrifol am sefydliad troseddwyr ifanc;
- ystyr “P” (“P”) yw— person sy’n rhiant C; person nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C; neu pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ac os oedd gorchymyn trefniadau plentyn19, a oedd yn rheoleiddio trefniadau byw C, mewn grym yn union cyn gwneud y gorchymyn gofal, person a enwid yn y gorchymyn trefniadau plentyn fel person yr oedd C i fyw gydag ef20;
- ystyr “person cysylltiedig” (“connected person”) yw perthynas21, cyfaill neu berson arall sy’n gysylltiedig ag C;
- ystyr “person priodol” (“appropriate person”) yw— P, os yw C i fyw, neu yn byw, gyda P; F, os yw C i’w leoli, neu wedi ei leoli, gydag F; os yw C i’w leoli, neu wedi ei leoli, mewn cartref plant, y person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 200022 mewn cysylltiad â’r cartref hwnnw; neu os yw C i’w leoli, neu wedi ei leoli, yn unol â threfniadau eraill o dan adran 81(6)(d) o Ddeddf 2014, y person a fydd yn gyfrifol am C yn y llety;
- mae i “proses asesu gyflawn” (“full assessment process”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 26(2)(d);
- ystyr “R” (“R”) yw cynrychiolydd yr awdurdod cyfrifol, sy’n ymweld ag C yn unol â threfniadau a wneir gan yr awdurdod cyfrifol o dan adran 97 o Ddeddf 2014;
- mae i “remánd i lety awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “remand to local authority accommodation” yn adran 91(3) o Ddeddf 201223;
- mae i “remánd i lety cadw ieuenctid” yr ystyr a roddir i “remand to youth detention accommodation” yn adran 91(4) o Ddeddf 2012;
- ystyr “y Rheoliadau Maethu” (“the Fostering Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 200324;
- ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”) yw’r person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 200025 fel rheolwr cartref plant diogel;
- ystyr “SAA” (“IRO”) yw’r swyddog adolygu annibynnol a benodir ar gyfer achos C o dan adran 99(1) o Ddeddf 2014;
- mae i “sefydliad troseddwyr ifanc” yr ystyr a roddir i “young offenders institution” yn adran 43(1)(aa) o Ddeddf Carchardai 195226;
- ystyr “swyddog enwebedig” (“nominated officer”) yw’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol neu uwch-swyddog arall yr awdurdod cyfrifol a enwebwyd mewn ysgrifen gan y cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol i weithredu ar ei ran at ddibenion y Rheoliadau hyn;
- ystyr “tîm integredig cymorth i deuluoedd” (“IFS team”) yw tîm integredig cymorth i deuluoedd a sefydlwyd gan awdurdod lleol gyda chyfranogaeth bwrdd iechyd lleol yn unol ag adran 57 o Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 201027;
- ystyr “ymarferydd cyffredinol” (“general practitioner”) yw ymarferydd meddygol cofrestredig28 sydd— yn darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 200629, neu yn darparu gwasanaethau sy’n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran 4 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, rywfodd ac eithrio yn unol â’r Ddeddf honno;
- ystyr “ymarferydd deintyddol cofrestredig” (“registered dental practitioner”) yw person a gofrestrwyd yn y gofrestr deintyddion o dan adran 14 o Ddeddf Deintyddion 198430 sydd— yn darparu gwasanaethau deintyddol sylfaenol o dan Ran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 200631, neu yn darparu gwasanaethau sy’n cyfateb i wasanaethau a ddarperir o dan Ran 5 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006, rywfodd ac eithrio’n unol â’r Ddeddf honno; ac
- ystyr “ymwelydd annibynnol” (“independent visitor”) yw’r person annibynnol a benodir i fod yn ymwelydd ar gyfer C o dan adran 98 o Ddeddf 2014.
- (2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr unrhyw gyfeiriad i’r perwyl fod C “dan gadwad” (“detained”) yw fod C, ar ôl ei gollfarnu am drosedd, wedi—
- (a) ei gadw mewn carchar32 neu mewn llety cadw ieuenctid, neu
- (b) yn preswylio mewn mangre a gymeradwywyd, neu
- (c) yn preswylio mewn unrhyw fangre arall oherwydd bod gofyniad wedi ei osod ar C fel amod caniatáu mechnïaeth mewn achos troseddol, ac
yn union cyn ei gadw, neu osod gofyniad preswylio o’r fath arno, roedd C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol.
- (3) Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at unrhyw ddogfen neu gofnod arall yn cynnwys unrhyw ddogfen neu gofnod o’r fath a gedwir neu a ddarperir mewn ffurf sydd ar gael yn hwylus, ac yn cynnwys copïau o ddogfennau gwreiddiol yn ogystal â dulliau electronig o gofnodi gwybodaeth.
3
Nid yw’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw blentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol ac sydd wedi ei leoli ar gyfer ei fabwysiadu o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 200233 ac eithrio pan fo’r plentyn yn dod o fewn rheoliad 56.
Cynllunio gofal
4
- (1) Os nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ac os nad oes cynllun gofal a chymorth eisoes wedi ei baratoi ar gyfer C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol asesu anghenion C am wasanaethau er mwyn cyrraedd neu gynnal safon resymol o iechyd neu ddatblygiad, a pharatoi cynllun o’r fath34.
- (2) Pan fo gan C gynllun gofal a chymorth a baratowyd yn unol ag adran 54 o Ddeddf 2014, rhaid i’r awdurdod cyfrifol, yn ei asesiad o dan baragraff (1), gymryd i ystyriaeth yr wybodaeth a gofnodir yn y cynllun hwnnw.
- (3) Ac eithrio yn achos plentyn y mae adran 31A o Ddeddf 1989 (gorchmynion gofal: cynlluniau gofal) yn gymwys iddo35, rhaid paratoi’r cynllun gofal a chymorth cyn bo C yn cael ei leoli am y tro cyntaf gan yr awdurdod cyfrifol neu, os nad yw hynny’n ymarferol, o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl dechrau’r lleoliad cyntaf.
- (4) Wrth asesu anghenion C o dan baragraff (1), rhaid i’r awdurdod cyfrifol ystyried a yw’r llety a ddarperir ar gyfer C yn bodloni gofynion Rhan 6 o Ddeddf 2014.
- (5) Onid yw paragraff (6) yn gymwys, dylai’r awdurdod cyfrifol, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, gytuno ar y cynllun gofal a chymorth gydag—
- (a) unrhyw riant C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, neu
- (b) os nad oes person o’r fath, y person a oedd yn gofalu am C yn union cyn trefnu lleoliad ar gyfer C gan yr awdurdod cyfrifol.
- (6) Pan fo C yn 16 oed neu’n hŷn, ac yn cytuno i lety gael ei ddarparu iddo o dan adran 76 o Ddeddf 2014, rhaid i’r awdurdod cyfrifol gytuno ar y cynllun gofal a chymorth gydag C.
- (7) Pan fo cynllun gofal a chymorth a baratoir yn unol â’r Rhan hon yn bodloni’r gofynion ar gyfer cynllun gofal sy’n ofynnol gan adran 31A o Ddeddf 1989, caniateir ei drin fel “cynllun adran 31A”.
- (8) Os lleolwyd C gyntaf gan yr awdurdod cyfrifol cyn 6 Ebrill 2016 rhaid paratoi’r cynllun gofal a chymorth cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Paratoad a chynnwys y cynllun gofal a chymorth
5
- (1) Rhaid i’r cynllun gofal a chymorth gynnwys cofnod o’r wybodaeth ganlynol—
- (a) y cynllun hirdymor ar gyfer magwraeth C (“y cynllun ar gyfer sefydlogrwydd”);
- (b) y trefniadau a wnaed gan yr awdurdod cyfrifol i ddiwallu anghenion C mewn perthynas ag—
- (i) iechyd, gan gynnwys yr wybodaeth a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 (“y cynllun iechyd”),
- (ii) addysg a hyfforddiant, gan gynnwys yr wybodaeth a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 (“y cynllun addysg personol”),
- (iii) datblygiad emosiynol ac ymddygiadol,
- (iv) hunaniaeth, gan roi sylw penodol i argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol C,
- (v) perthnasoedd teuluol a chymdeithasol ac yn benodol yr wybodaeth a nodir ym mharagraff 3 o Atodlen 2,
- (vi) ymgyflwyniad cymdeithasol, a
- (vii) sgiliau hunanofal;
- (c) ac eithrio mewn achos pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, ond na ddarperir llety i C gan yr awdurdod cyfrifol mewn unrhyw un o’r ffyrdd y cyfeirir atynt yn adran 81 o Ddeddf 2014, manylion o’r trefniadau a wnaed a’r llety a ddarparwyd ar gyfer C (“y cynllun lleoli”);
- (d) enw’r SAA;
- (e) manylion am safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r personau hynny a ganfuwyd ac a ystyriwyd gan yr awdurdod cyfrifol yn unol ag adrannau 6(2) a (4), 7(2) a 78(3) o Ddeddf 2014 ynghylch y trefniadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (b), y cynllun lleoli ac unrhyw newid neu newid arfaethedig yn y cynllun gofal a chymorth;
- (f) pan fo C yn—
- (i) dioddefwr, neu pan fo rheswm i gredu y gallai C fod yn ddioddefwr masnachu mewn bodau dynol yn yr ystyr a roddir i “trafficking in human beings” yng Nghonfensiwn Cyngor Ewrop ar Weithredu yn erbyn Masnachu mewn Bodau Dynol,
- (ii) plentyn ar ei ben ei hunan yn ceisio lloches yn yr ystyr a roddir i “unaccompanied asylum seeking child” yn y Rheolau Mewnfudo, ac wedi gwneud cais, neu wedi dynodi wrth yr awdurdod cyfrifol ei fwriad i wneud cais, a heb gael caniatâd amhenodol i aros,
y ffaith honno.
- (2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “Rheolau Mewnfudo” (“Immigration Rules”) yw’r rheolau a bennir ar y pryd gan yr Ysgrifennydd Gwladol fel y crybwyllir yn adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 197136.
6
- (1) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gadw cynllun gofal a chymorth C o dan adolygiad yn unol â Rhan 6, ac os bydd o’r farn bod angen gwneud rhyw newid, rhaid iddo ddiwygio’r cynllun neu wneud cynllun newydd yn unol â hynny.
- (2) Oni ddarperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, rhaid i’r awdurdod cyfrifol beidio â gwneud unrhyw newid sylweddol yn y cynllun gofal a chymorth, oni fydd y newid arfaethedig wedi ei ystyried yn gyntaf mewn adolygiad o achos C, a gyflawnwyd yn unol â Rhan 6.
- (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi copi o’r cynllun gofal a chymorth—
- (a) i C, oni bai, ym marn yr awdurdod cyfrifol, na fyddai’n briodol gwneud hynny, o ystyried oedran a dealltwriaeth C,
- (b) i P,
- (c) i’r SAA,
- (d) os yw C i gael ei leoli, neu wedi ei leoli, gydag F, i’r darparwr gwasanaeth maethu a gymeradwyodd F, yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011,
- (e) os yw C i gael ei leoli, neu wedi ei leoli, mewn cartref plant, i’r person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 mewn cysylltiad â’r cartref hwnnw, ac
- (f) os yw C i gael ei leoli, neu wedi ei leoli, yn unol â threfniadau eraill o dan adran 81(6)(d) o Ddeddf 2014, i’r person a fydd yn gyfrifol am C yn y llety.
- (4) Caiff yr awdurdod cyfrifol benderfynu peidio â rhoi copi o’r cynllun gofal a chymorth, neu gopi llawn o’r cynllun gofal a chymorth, i P os yw’r awdurdod cyfrifol o’r farn y byddai hynny’n rhoi C mewn perygl o niwed37.
Gofal iechyd
7
- (1) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol, cyn bo C wedi ei leoli am y tro cyntaf ganddo neu, os nad yw hynny’n rhesymol ymarferol, cyn yr adolygiad cyntaf o achos C, drefnu i ymarferydd meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig—
- (a) cwblhau asesiad o gyflwr iechyd C, a gall hynny gynnwys archwiliad corfforol, a
- (b) darparu adroddiad ysgrifenedig o’r asesiad, gan roi sylw i’r materion a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 a chyfeirio’n benodol at gyflwr iechyd meddyliol C,
cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
- (2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys os cynhaliwyd asesiad o gyflwr iechyd C, o fewn y cyfnod o 3 mis yn union cyn y lleoliad, a’r awdurdod cyfrifol wedi cael adroddiad ysgrifenedig sy’n bodloni gofynion y paragraff hwnnw, a’r awdurdod cyfrifol yn fodlon na ddigwyddodd unrhyw newidiadau sylweddol yn ystod y cyfnod er pan wnaed yr asesiad hwnnw.
- (3) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol wneud trefniadau i ymarferydd meddygol cofrestredig neu nyrs gofrestredig neu fydwraig gofrestredig sy’n gweithredu o dan oruchwyliaeth ymarferydd meddygol cofrestredig adolygu cyflwr iechyd C a darparu adroddiad ysgrifenedig ar bob adolygiad gan roi sylw i’r materion a bennir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 a chyfeirio’n benodol at gyflwr iechyd meddyliol C—
- (a) o leiaf unwaith, ac yn amlach os yw’n ofynnol er llesiant C, yn ystod pob cyfnod o 6 mis cyn pumed pen-blwydd C , a
- (b) o leiaf unwaith, ac yn amlach os yw’n ofynnol er llesiant C, yn ystod pob cyfnod o ddeuddeng mis ar ôl pumed pen-blwydd C.
- (4) Nid yw paragraffau (1) a (3) yn gymwys os yw C yn gwrthod cydsynio i’w asesu, a bod ei oedran a’i ddealltwriaeth yn ddigonol ar gyfer hynny.
- (5) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y darperir gwasanaethau gofal iechyd priodol i C, yn unol â’r cynllun iechyd, gan gynnwys—
- (a) gofal a thriniaeth feddygol a deintyddol, a
- (b) cyngor ac arweiniad ynglŷn ag iechyd, gofal personol a materion hybu iechyd.
- (6) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod C—
- (a) wedi cofrestru gydag ymarferydd cyffredinol cyn gynted ag y bo’n ymarferol, a beth bynnag ddim hwyrach na 10 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad; a
- (b) o dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig cyn gynted ag y bo’n ymarferol a beth bynnag ddim hwyrach nag 20 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad.
- (7) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol, i’r graddau y bo’n ymarferol, sicrhau bod C yn parhau’n gofrestredig gydag ymarferydd cyffredinol ac o dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig, drwy gydol y lleoliad.
- (8) Os lleolwyd C gyntaf gan yr awdurdod cyfrifol cyn 6 Ebrill 2016 ac nad yw paragraff (2) yn gymwys, ac na wnaed asesiad o iechyd C neu na chofrestrwyd C gydag ymarferydd cyffredinol neu na osodwyd C o dan ofal ymarferydd deintyddol cofrestredig, mae’r rheoliad hwn yn gymwys fel petai’r lleoliad hwnnw wedi ei wneud ar 6 Ebrill 2016.
Cyswllt â phlentyn mewn gofal
8
Wrth ystyried a yw cyswllt rhwng C ac unrhyw un o’r personau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (d) o adran 34(1) o Ddeddf 1989 yn gyson â diogelu a hyrwyddo llesiant C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw i gynllun gofal a chymorth C.
9
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol a’r awdurdod cyfrifol wedi penderfynu, o dan adran 34(6) o Ddeddf 1989 (gwrthod cyswllt fel mater brys), gwrthod caniatáu cyswllt a fyddai, fel arall, wedi bod yn ofynnol yn rhinwedd adran 34(1) o Ddeddf 198938 neu orchymyn o dan adran 34 o’r Ddeddf honno (cyswllt rhiant etc. â phlant mewn gofal).
- (2) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol, ar unwaith, roi hysbysiad ysgrifenedig i’r personau canlynol o’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (3) (“yr wybodaeth benodedig”)—
- (a) C, oni fyddai’n amhriodol gwneud hynny o ystyried oedran a dealltwriaeth C,
- (b) P,
- (c) os oedd person, yn union cyn gwneud y gorchymyn gofal, yn gofalu am C yn rhinwedd gorchymyn a wnaed wrth arfer awdurdodaeth gynhenid yr Uchel Lys mewn cysylltiad â phlant, y person hwnnw,
- (d) unrhyw berson arall yr ystyrir gan yr awdurdod cyfrifol fod ei safbwyntiau, ei ddymuniadau a’i deimladau yn berthnasol, ac
- (e) yr SAA.
- (3) Yr wybodaeth benodedig yw—
- (a) penderfyniad yr awdurdod cyfrifol;
- (b) dyddiad y penderfyniad;
- (c) y rhesymau am y penderfyniad;
- (d) parhad y penderfyniad (os yw’n gymwys); ac
- (e) y rhwymedïau sydd ar gael mewn achos o anfoddhad.
- (4) Caiff yr awdurdod cyfrifol wyro oddi wrth delerau unrhyw orchymyn a wneir o dan adran 34 o Ddeddf 1989 drwy gytundeb gyda’r person y gwneir y gorchymyn mewn perthynas ag ef, ar yr amod—
- (a) bod C hefyd yn cytuno a bod ei oedran a’i ddealltwriaeth yn ddigonol, a
- (b) yr anfonir hysbysiad ysgrifenedig o’r wybodaeth benodedig o fewn 5 diwrnod gwaith at y personau a restrir ym mharagraff (2).
- (5) Pan fo’r awdurdod cyfrifol wedi penderfynu amrywio neu atal dros dro unrhyw drefniadau (ac eithrio o dan orchymyn o dan adran 34 o Ddeddf 1989) a wnaed gyda’r bwriad o ganiatáu i unrhyw berson gael cyswllt ag C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol, ar unwaith, roi hysbysiad ysgrifenedig sy’n cynnwys yr wybodaeth benodedig i’r personau a restrir ym mharagraff (2).
- (6) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gofnodi unrhyw benderfyniad a wneir o dan y rheoliad hwn yng nghynllun gofal a chymorth C.
Cynllun lleoli
10
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), cyn gwneud trefniadau i leoli C yn unol ag adran 81 o Ddeddf 2014, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—
- (a) ymgorffori, o fewn cynllun gofal a chymorth C, fanylion o’r cynllun ar gyfer lleoli C (“y cynllun lleoli”) sydd—
- (i) yn nodi sut y bydd y lleoliad yn cyfrannu at ddiwallu anghenion C, a
- (ii) yn cynnwys yr holl faterion a bennir yn Atodlen 3 ac sy’n gymwys o ystyried y math o leoliad, a
- (b) sicrhau bod—
- (i) safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C wedi eu canfod ac wedi cael ystyriaeth briodol, a
- (ii) yr SAA wedi ei hysbysu.
- (2) Os nad yw’n rhesymol ymarferol i baratoi’r cynllun lleoli cyn gwneud y lleoliad, rhaid paratoi’r cynllun lleoli o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl dechrau’r lleoliad.
- (3) Rhaid i’r cynllun lleoli gael ei gytuno gyda’r person priodol a’i lofnodi ganddo.
- (4) Os gwnaed y trefniadau ar gyfer lleoli C cyn 6 Ebrill 2016, rhaid i’r awdurdod cyfrifol baratoi’r cynllun lleoli cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
Osgoi amharu ar addysg
11
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), os yw C yn ddisgybl cofrestredig mewn ysgol yng nghyfnod allweddol pedwar39, rhaid peidio â rhoi effaith i unrhyw benderfyniad i wneud unrhyw newid yn lleoliad C a fyddai’n cael yr effaith o amharu ar y trefniadau a wnaed ar gyfer addysg C, hyd nes bo’r penderfyniad wedi ei gymeradwyo gan y swyddog enwebedig.
- (2) Cyn cymeradwyo penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r swyddog enwebedig fod wedi ei fodloni—
- (a) y cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 10(1)(b)(i),
- (b) y bydd y ddarpariaeth addysgol a wnaed ar gyfer C yn y lleoliad yn hyrwyddo cyflawniad addysgol C ac yn gyson â chynllun addysg personol C,
- (c) yr ymgynghorwyd â’r person dynodedig40 yn yr ysgol,
- (d) yr ymgynghorwyd â’r Cydgysylltydd Addysg PDG,
- (e) yr ymgynghorwyd â’r SAA, ac
- (f) os lleolir C mewn cartref plant, yr ymgynghorwyd â gweithiwr dolen gyswllt C.
- (3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn unrhyw achos pan fo—
- (a) yr awdurdod cyfrifol yn terfynu lleoliad C yn unol â rheoliad 15(3), neu
- (b) pan fo angen newid lleoliad C am unrhyw reswm arall mewn argyfwng,
ac mewn achos o’r fath rhaid i’r awdurdod cyfrifol wneud trefniadau priodol i hyrwyddo cyflawniad addysgol C cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
- (4) Mewn unrhyw achos nad yw’n dod o fewn paragraff (1), ond pan fo’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu gwneud unrhyw newid yn lleoliad C a fyddai’n cael yr effaith o amharu ar y trefniadau a wnaed ar gyfer addysg neu hyfforddiant C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau y gwneir trefniadau eraill ar gyfer addysg neu hyfforddiant C sy’n bodloni anghenion C ac yn gyson â chynllun addysg personol C.
- (5) Yn y rheoliad hwn—
- (a) mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” yn adran 20(7) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 200841, a
- (b) mae i “ysgol” yr ystyr a roddir i “school” yn adran 4 o Ddeddf Addysg 199642.
Lleoliadau y tu allan i’r ardal
Penderfyniad lleoli
12
- (1) Ni chaiff awdurdod cyfrifol benderfynu lleoli C y tu allan i’w ardal ac eithrio pan fodlonir yr awdurdod cyfrifol nad oes lleoliad ar gael o fewn ei ardal, a allai ddiwallu anghenion C (“lleoliad y tu allan i’r ardal”).
- (2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol chwilio am leoliad y tu allan i’r ardal ar gyfer C, yn unol â’r drefn blaenoriaeth ganlynol—
- (a) mewn awdurdod lleol sydd â’i ardal yn ffinio ar ardal yr awdurdod cyfrifol;
- (b) mewn awdurdod lleol yn Lloegr sydd â’i ardal yn ffinio ar ardal yr awdurdod cyfrifol;
- (c) mewn unrhyw awdurdod lleol arall;
- (d) mewn awdurdod lleol yn Lloegr, neu
- (e) yn ddarostyngedig i ofynion adran 124 o Ddeddf 2014, y tu allan i Gymru a Lloegr43.
- (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os bodlonir awdurdod cyfrifol fod lleoli y tu allan i’r ardal yn angenrheidiol yn achos C, rhaid peidio â rhoi effaith i’r penderfyniad i leoli C y tu allan i’r ardal hyd nes bo—
- (a) y penderfyniad wedi ei atgyfeirio at banel ac wedi ei gymeradwyo ganddo,
- (b) cymeradwyaeth y panel o’r penderfyniad hwnnw wedi ei gofnodi mewn ysgrifen ynghyd â’r rhesymau dros gymeradwyo, ac
- (c) y cofnod hwnnw o’r gymeradwyaeth wedi ei ardystio mewn ysgrifen gan y swyddog enwebedig, i gadarnhau ei gymeradwyaeth yntau.
- (4) Cyn cymeradwyo penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r panel a’r swyddog enwebedig ill dau fod wedi eu bodloni—
- (a) y cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 10(1)(b)(i),
- (b) mai’r lleoliad yw’r lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael ar gyfer C, a bod y lleoliad yn gyson â chynllun gofal a chymorth C,
- (c) yr ymgynghorwyd â pherthnasau44 C, os yw’n briodol,
- (d) yr ymgynghorwyd â’r SAA,
- (e) pan fo gan C anghenion addysgol arbennig y darperir ar eu cyfer mewn cynllun addysgol arbennig, fod yr awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr y bwriedir lleoli C yn ei ardal, wedi ei hysbysu ynghylch y lleoliad, ac y daethpwyd i gytundeb gyda’r awdurdod hwnnw mewn cysylltiad â diwallu anghenion addysgol arbennig C yn ystod lleoliad C yn ei ardal, ac
- (f) os oes gan C anghenion iechyd sydd angen sylw, fod y darparwr gofal iechyd ar gyfer ardal yr awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr wedi ei hysbysu, ac mewn achosion priodol, y daethpwyd i gytundeb gyda’r darparwr gofal iechyd mewn cysylltiad â diwallu anghenion iechyd C.
- (5) Yn achos lleoliad a wneir mewn argyfwng—
- (a) nid yw paragraff (3) yn gymwys;
- (b) mae paragraff (4) yn gymwys yn ddarostyngedig i’r addasiadau yn is-baragraff (c);
- (c) rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau—
- (i) y gwneir cofnod ysgrifenedig o’r penderfyniad, sy’n rhoi rhesymau dros wneud y penderfyniad,
- (ii) yr ardystir y cofnod gan y swyddog enwebedig, i gadarnhau ei fod yn cytuno â’r penderfyniad,
- (iii) y cydymffurfir â pharagraff (4)(a) a (b) cyn gwneud y lleoliad,
- (iv) y cydymffurfir â pharagraff (4)(c) a (d) o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad, a
- (v) y cydymffurfir â pharagraff (4)(e) ac (f) cyn gynted ag y bo modd ar ôl gwneud y lleoliad.
- (6) Pan wneir lleoliad yn unol â pharagraff (5)—
- (a) rhaid i’r awdurdod cyfrifol atgyfeirio’r lleoliad at banel cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl gwneud y lleoliad, a beth bynnag ddim hwyrach na 25 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad, a
- (b) rhaid hysbysu’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr, y lleolwyd C yn ei ardal, ynghylch y lleoliad, ddim hwyrach na 5 diwrnod gwaith ar ôl gwneud y lleoliad.
- (7) Rhaid i’r cofnod o unrhyw benderfyniad a wneir yn unol â’r rheoliad hwn gael ei roi ar gael i’r aelod arweiniol dros wasanaethau plant ar gyfer yr awdurdod cyfrifol.
- (8) Yn y rheoliad hwn—
- ystyr “hysbysu” (“notified”) ym mharagraff (6)(b) yw fod rhaid i’r awdurdod cyfrifol ddarparu— manylion o’i asesiad o anghenion C a’r rhesymau pam yr ystyrir mai’r lleoliad a ddewiswyd yw’r ffordd fwyaf priodol o ddiwallu anghenion C, a copi o gynllun gofal a chymorth C os na ddarparwyd copi eisoes;
- ystyr “panel” (“panel”) yw panel o gynrychiolwyr o ba asiantaethau bynnag a all gynorthwyo awdurdod cyfrifol wrth gynllunio’r lleoliad ar gyfer C a diwallu anghenion C yn ystod y lleoliad, a rhaid i banel gynnwys cynrychiolydd o’r awdurdod lleol neu’r awdurdod lleol yn Lloegr y bwriedir lleoli C yn ei ardal, ac mewn achosion priodol, cynrychiolydd unrhyw ddarparwr gofal iechyd neu addysg perthnasol.
Lleoli y tu allan i Gymru a Lloegr
13
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—
- (a) C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, a
- (b) yr awdurdod cyfrifol yn gwneud trefniadau i leoli C y tu allan i Gymru a Lloegr yn unol â darpariaethau adran 124 o Ddeddf 2014 (trefniadau i helpu plant i fyw y tu allan i Loegr a Chymru).
- (2) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gymryd camau i sicrhau, i’r graddau sy’n rhesymol ymarferol, y cydymffurfir â gofynion sy’n cyfateb i’r gofynion a fyddai wedi bod yn gymwys o dan y Rheoliadau hyn pe bai C wedi ei leoli yng Nghymru.
- (3) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gynnwys yn y cynllun gofal a chymorth fanylion y trefniadau a wnaed gan yr awdurdod cyfrifol i oruchwylio lleoliad C.
Hysbysu ynghylch lleoliad
14
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r personau a restrir ym mharagraff (2) ynghylch y trefniadau ar gyfer lleoli C cyn gwneud y lleoliad, neu, os oes angen lleoli mewn argyfwng, o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl dechrau’r lleoliad, ac eithrio pan na ellir gwneud hynny yn rhesymol ymarferol.
- (2) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
- (a) C, oni fyddai’n amhriodol gwneud hynny o ystyried oedran a dealltwriaeth C,
- (b) P,
- (c) os yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, unrhyw berson y caniateir iddo gael cyswllt ag C o dan adran 34(1) o Ddeddf 1989 ac unrhyw berson sydd â chyswllt ag C yn rhinwedd gorchymyn o dan adran 34 o’r Ddeddf honno (cyswllt rhiant etc. â phlant mewn gofal),
- (d) os yw C yn derbyn gofal ond nid yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, unrhyw berson sydd â chyswllt ag C yn unol â gorchymyn a wnaed o dan adran 8 o Ddeddf 1989 (gorchmynion trefniadau plant a gorchmynion eraill mewn cysylltiad â phlant),
- (e) unrhyw berson a oedd yn gofalu am C yn union cyn gwneud y trefniadau,
- (f) y bwrdd iechyd lleol (neu, yn achos plentyn sy’n byw neu sydd i’w leoli mewn ardal awdurdod lleol yn Lloegr, Bwrdd Comisiynu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol)45 a’r grŵp comisiynu clinigol46) ar gyfer yr ardal y mae C yn byw ynddi ac, os yw’n wahanol, ar gyfer yr ardal y bwriedir lleoli C ynddi,
- (g) ymarferydd meddygol cofrestredig C, a phan fo’n gymwys, yr ymarferydd meddygol cofrestredig y bwriedir cofrestru C gydag ef yn ystod y lleoliad,
- (h) unrhyw sefydliad addysgol a fynychir gan C, neu berson sy’n darparu addysg neu hyfforddiant i C,
- (i) y Cydgysylltydd Addysg PDG ar gyfer yr ardal y mae C yn byw ynddi ac, os yw’n wahanol, ar gyfer yr ardal y bwriedir lleoli C ynddi,
- (j) yr SAA, a
- (k) pan fo C wedi ei leoli mewn cartref plant, gweithiwr dolen gyswllt C.
- (3) Caiff yr awdurdod cyfrifol benderfynu peidio â rhoi hysbysiad i unrhyw un neu bob un o’r personau a restrir ym mharagraffau (2)(b) i (e), os byddai gwneud hynny’n achosi perygl o niwed i C.
Terfynu lleoliad gan yr awdurdod cyfrifol
15
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (5), ni chaiff yr awdurdod cyfrifol derfynu lleoliad C ac eithrio ar ôl cynnal adolygiad o achos C yn unol â Rhan 6.
- (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), cyn terfynu lleoliad C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—
- (a) gwneud trefniadau eraill ar gyfer lletya C yn unol ag adran 81 o Ddeddf 2014,
- (b) hysbysu’r SAA,
- (c) i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’i fwriad i derfynu’r lleoliad i’r canlynol—
- (i) pob un o’r personau y rhoddwyd hysbysiad o’r lleoliad iddynt o dan reoliad 14,
- (ii) y person y lleolwyd C gydag ef,
- (iii) os lleolwyd C yn ardal awdurdod lleol arall neu awdurdod lleol yn Lloegr, yr awdurdod hwnnw.
- (3) Pan fo perygl y gallai niwed ddigwydd ar unwaith i C, neu er mwyn diogelu eraill rhag anaf difrifol, rhaid i’r awdurdod cyfrifol derfynu lleoliad C, ac yn yr amgylchiadau hynny—
- (a) nid yw paragraff (1) yn gymwys, a
- (b) rhaid i’r awdurdod cyfrifol gydymffurfio â pharagraff (2)(a) a (b) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
- (4) Os nad yw’n rhesymol ymarferol hysbysu unrhyw berson yn unol â pharagraff (2)(c), yna rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person hwnnw o fewn 5 diwrnod gwaith i’r dyddiad y terfynwyd y lleoliad, o’r ffaith bod y lleoliad wedi ei derfynu.
- (5) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo lleoliad C wedi ei derfynu—
- (a) o dan reoliad 20(c)(ii) (amgylchiadau pan ganiateir lleoli plentyn gyda P cyn cwblhau asesiad),
- (b) o dan reoliad 24(2) (terfynu lleoliad argyfwng),
- (c) o dan reoliad 27(6), neu
- (d) pan fo adran 82 o Ddeddf 2014 (adolygu achos plentyn cyn gwneud trefniadau amgen o ran llety) yn gymwys.
Cymhwyso
16
- (1) Mae’r Bennod hon yn gymwys os yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, a’r awdurdod cyfrifol, gan weithredu yn unol ag adran 81(2) o Ddeddf 2014, yn bwriadu lleoli C gyda P.
- (2) Nid oes dim yn y Bennod hon sy’n ei gwneud yn ofynnol fod yr awdurdod cyfrifol yn symud C o ofal P os yw C yn byw gyda P cyn bo penderfyniad lleoli’n cael ei wneud ynghylch C.
Effaith gorchymyn cyswllt
17
Rhaid i’r awdurdod cyfrifol beidio â lleoli C gyda P os byddai gwneud hynny’n anghydnaws ag unrhyw orchymyn a wnaed gan y llys o dan adran 34 o Ddeddf 1989 (cyswllt rhiant etc. â phlant mewn gofal).
Asesu addasrwydd P i ofalu am blentyn
18
Cyn penderfynu lleoli C gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—
- (a) asesu addasrwydd P i ofalu am C, gan gynnwys addasrwydd—
- (i) y llety arfaethedig, a
- (ii) yr holl bersonau eraill 18 oed a throsodd sy’n aelodau o’r aelwyd y bwriedir i C fyw arni,
- (b) cymryd i ystyriaeth yr holl faterion a bennir yn Atodlen 447 wrth wneud ei asesiad,
- (c) ystyried a fydd y lleoliad, yn yr holl amgylchiadau a chan gymryd i ystyriaeth y gwasanaethau sydd i’w darparu gan yr awdurdod cyfrifol, yn diogelu a hyrwyddo llesiant C ac yn diwallu anghenion C fel y’u nodir yn y cynllun gofal a chymorth, a
- (d) adolygu achos C yn unol â Rhan 6.
Penderfyniad i leoli plentyn gyda P
19
- (1) Rhaid peidio â rhoi effaith i’r penderfyniad i leoli C gyda P cyn bo’r penderfyniad wedi ei gymeradwyo gan y swyddog enwebedig a’r awdurdod cyfrifol wedi paratoi cynllun lleoli ar gyfer C.
- (2) Cyn cymeradwyo penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r swyddog enwebedig fod wedi ei fodloni—
- (a) y cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 10(1)(b)(i),
- (b) y cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 18,
- (c) y bydd y lleoliad yn diogelu a hyrwyddo llesiant C,
- (d) yr ymgynghorwyd â’r SAA, ac
- (e) yr ystyriwyd safbwyntiau, dymuniadau a theimladau unrhyw berson arall a ystyrir yn berthnasol gan yr awdurdod cyfrifol.
Amgylchiadau pan ganiateir lleoli plentyn gyda P cyn cwblhau asesiad
20
Os yw’r swyddog enwebedig yn ystyried hynny’n angenrheidiol ac yn gyson â llesiant C, caiff yr awdurdod cyfrifol leoli C gyda P cyn cwblhau ei asesiad o dan reoliad 18 (“yr asesiad”), ar yr amod bod yr awdurdod cyfrifol yn—
- (a) trefnu i P gael ei gyfweld, er mwyn casglu cymaint o’r wybodaeth a bennir yn Atodlen 4, y gellir ei chasglu yn rhwydd yn y cyfweliad hwnnw, ynglŷn â P a’r personau eraill 18 oed a throsodd sy’n byw ar aelwyd P,
- (b) sicrhau y cwblheir yr asesiad ac adolygiad o achos C yn unol â’r gofynion yn rheoliad 18 o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl lleoli C gyda P, ac
- (c) sicrhau y gwneir penderfyniad yn unol â rheoliad 19 ac y’i cymeradwyir o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl cwblhau’r asesiad, ac—
- (i) os y penderfyniad yw cadarnhau’r lleoliad, adolygu’r cynllun lleoli ac, os yw’n briodol, ei ddiwygio, a
- (ii) os y penderfyniad yw peidio â chadarnhau’r lleoliad, terfynu’r lleoliad.
Cymorth i P
21
Os lleolir C gyda P, neu os bwriedir lleoli C gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol ddarparu pa wasanaethau a chymorth bynnag i P ag sy’n ymddangos i’r awdurdod cyfrifol yn angenrheidiol er mwyn diogelu a hyrwyddo llesiant C, a rhaid i’r awdurdod cyfrifol gofnodi manylion o’r cyfryw wasanaethau a chymorth yng nghynllun gofal a chymorth C.
Dehongli
22
- (1) Yn y Bennod hon—
- ystyr “cymeradwy” (“approved”) yw fod person wedi ei gymeradwyo fel rhiant maeth awdurdod lleol, naill ai— yn unol â’r Rheoliadau Maethu; neu yn unol â Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 201148; neu mewn achos o leoli C gyda darpar fabwysiadydd penodol (“A”), yn unol â rheoliad 28;neu mewn achos o leoli C gyda pherson cysylltiedig dros dro, yn unol â rheoliad 26; ac
- mae i “person cofrestredig” (“registered person”) yr un ystyr ag yn y Rheoliadau Maethu49.
- (2) Pan leolir C gyda dau berson ar y cyd, sydd ill dau wedi eu cymeradwyo fel rhiant maeth awdurdod lleol50, rhaid dehongli unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at riant maeth awdurdod lleol fel pe bai’n cyfeirio i’r un graddau at y ddau berson hynny, a rhaid i unrhyw ofyniad sydd i’w fodloni gan neu sy’n ymwneud â rhiant maeth awdurdod lleol penodol gael ei fodloni gan y ddau ohonynt, neu ei drin fel pe bai’n ymwneud â’r ddau.
Amodau y mae’n rhaid eu bodloni cyn lleoli plentyn gyda rhiant maeth awdurdod lleol
23
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu lleoli C gydag F.
- (2) Ni chaiff yr awdurdod cyfrifol leoli C gydag F ac eithrio os yw—
- (a) F wedi ei gymeradwyo gan—
- (i) yr awdurdod cyfrifol, neu
- (ii) ar yr amod y bodlonir hefyd yr amodau a bennir ym mharagraff (3), darparwr gwasanaeth maethu arall,
- (b) telerau cymeradwyaeth F yn gyson â’r lleoliad arfaethedig, ac
- (c) F wedi ymuno mewn cytundeb gofal maeth naill ai gyda’r awdurdod cyfrifol neu gyda darparwr gwasanaeth maethu arall yn unol â rheoliad 28(5)(b) o’r Rheoliadau Maethu neu’n unol â rheoliad 27(5)(b) o Reoliadau Gwasanaethu Maethu (Lloegr) 2011.
- (3) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a)(ii) yw’r canlynol—
- (a) bod y darparwr gwasanaeth maethu y cymeradwywyd F ganddo yn cydsynio â’r lleoliad, a
- (b) os oes gan unrhyw awdurdod lleol arall, neu awdurdod lleol arall yn Lloegr, blentyn wedi ei leoli ar y pryd gydag F, fod yr awdurdod hwnnw’n cydsynio â’r lleoliad.
Lleoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol mewn argyfwng
24
- (1) Pan fo’n angenrheidiol lleoli C mewn argyfwng, caiff yr awdurdod cyfrifol leoli C gydag unrhyw riant maeth awdurdod lleol sydd wedi ei gymeradwyo yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011, hyd yn oed os nad yw telerau cymeradwyaeth y person hwnnw yn gyson â’r lleoliad, ar yr amod na wneir y lleoliad am gyfnod hwy na 6 diwrnod gwaith.
- (2) Pan ddaw’r cyfnod o 6 diwrnod gwaith y cyfeirir ato ym mharagraff (1) i ben, rhaid i’r awdurdod cyfrifol derfynu’r lleoliad oni fydd telerau cymeradwyaeth y person hwnnw wedi diwygio i fod yn gyson â’r lleoliad.
Lleoli yn dilyn ystyriaeth yn unol ag adran 81(11) o Ddeddf 2014
25
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod cyfrifol yn penderfynu lleoli C gyda darpar fabwysiadydd penodol (“A”) yn unol ag adran 81(11) o Ddeddf 2014.
- (2) Rhaid peidio â rhoi effaith i’r penderfyniad i leoli C cyn bo’r penderfyniad wedi ei gymeradwyo gan y swyddog enwebedig a’r awdurdod cyfrifol wedi paratoi cynllun lleoli ar gyfer C.
- (3) Cyn cymeradwyo penderfyniad o dan baragraff (2) rhaid i’r swyddog enwebedig—
- (a) bod yn fodlon mai’r lleoliad yw’r lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael ar gyfer C, ac y byddai’r lleoliad gydag A er budd pennaf C,
- (b) bod yn fodlon y cydymffurfiwyd â gofynion rheoliad 10(1)(b), ac
- (c) os gŵyr yr awdurdod cyfrifol lle mae rhiant neu warcheidwad C, hysbysu rhiant neu warcheidwad C ynghylch y lleoliad arfaethedig.
Cymeradwyo dros dro berthynas, cyfaill neu berson arall sydd â chysylltiad ag C
26
- (1) Os bodlonir yr awdurdod cyfrifol—
- (a) mai’r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer C yw gyda pherson cysylltiedig, a hynny er nad yw’r person cysylltiedig wedi ei gymeradwyo fel rhiant maeth awdurdod lleol, a
- (b) bod angen lleoli C gyda’r person cysylltiedig cyn bo addasrwydd y person cysylltiedig i fod yn rhiant maeth awdurdod lleol wedi ei asesu yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011,
caiff gymeradwyo’r person hwnnw fel rhiant maeth awdurdod lleol dros dro, am gyfnod na fydd yn hwy nag 16 wythnos (“cymeradwyaeth dros dro”) ar yr amod bod yr awdurdod cyfrifol yn gyntaf yn cydymffurfio â gofynion paragraff (2).
- (2) Cyn gwneud lleoliad o dan baragraff (1), rhaid i’r awdurdod cyfrifol—
- (a) asesu addasrwydd y person cysylltiedig i ofalu am C, gan gynnwys addasrwydd—
- (i) y llety arfaethedig, a
- (ii) yr holl bersonau eraill, 18 oed a throsodd sy’n aelodau o’r aelwyd y bwriedir i C fyw arni,
gan gymryd i ystyriaeth yr holl faterion a nodir yn Atodlen 5,
- (b) darparu pa wasanaethau bynnag i gynorthwyo’r person cysylltiedig P ag sy’n ymddangos i’r awdurdod cyfrifol yn angenrheidiol er mwyn diogelu a hyrwyddo llesiant C, a rhaid i’r awdurdod cyfrifol gofnodi manylion o’r cyfryw wasanaethau a chymorth yng nghynllun gofal a chymorth C,
- (c) ystyried a fydd y trefniadau arfaethedig, yn yr holl amgylchiadau a chan gymryd i ystyriaeth y gwasanaethau sydd i’w darparu gan yr awdurdod cyfrifol, yn diogelu a hyrwyddo llesiant C ac yn diwallu anghenion C fel y’u nodir yn y cynllun gofal a chymorth,
- (d) onid yw is-baragraff (e) yn gymwys, gwneud trefniadau ar unwaith ar gyfer asesu addasrwydd y person cysylltiedig i fod yn rhiant maeth awdurdod lleol yn unol â’r Rheoliadau Maethu (“y broses asesu lawn”) cyn bo’r gymeradwyaeth dros dro yn dod i ben,
- (e) os yw, neu os bydd, y person cysylltiedig yn ceisio cael ei asesu’n berson addas i fod yn rhiant maeth awdurdod lleol o dan Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011, caiff yr awdurdod cyfrifol ofyn am gydweithrediad y darparwr gwasanaethau maethu sy’n ymgymryd â’r asesiad, i gwblhau’r broses cyn bo’r gymeradwyaeth dros dro wedi dod i ben, ac
- (f) gwneud cytundeb ysgrifenedig gyda’r person cysylltiedig, i’r perwyl bod y person cysylltiedig yn cytuno i—
- (i) gofalu am C fel pe bai C yn aelod o deulu’r person cysylltiedig,
- (ii) caniatáu i unrhyw berson a awdurdodir gan yr awdurdod cyfrifol i ymweld ag C,
- (iii) caniatáu symud C o’r lleoliad ar unrhyw adeg,
- (iv) sicrhau y cedwir yn gyfrinachol yr holl wybodaeth sy’n ymwneud ag C ac â theulu C, a
- (v) parchu trefniadau cyswllt a wneir yn unol ag unrhyw orchymyn gan y llys neu a wneir gan yr awdurdod cyfrifol.
Cymeradwyaeth dros dro yn dod i ben
27
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), caiff yr awdurdod cyfrifol estyn y gymeradwyaeth dros dro ar gyfer person cysylltiedig—
- (a) os yw’r gymeradwyaeth dros dro yn debygol o ddod i ben cyn bo’r broses asesu lawn wedi ei chwblhau, neu
- (b) os nad yw’r person cysylltiedig, ar ôl sefyll y broses asesu lawn, wedi ei gymeradwyo, ac yntau felly yn gofyn am adolygu’r penderfyniad yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 87 o Ddeddf 201451 neu o dan baragraff 12F(1)(b) o Atodlen 2 i Ddeddf 1989.
- (2) Mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (1)(a), caiff yr awdurdod cyfrifol estyn y cyfnod o gymeradwyaeth dros dro unwaith am gyfnod pellach o hyd at 8 wythnos.
- (3) Mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (1)(b), caiff yr awdurdod cyfrifol estyn y cyfnod o gymeradwyaeth dros dro hyd nes bo canlyniad yr adolygiad yn hysbys.
- (4) Cyn penderfynu a ddylid estyn y cyfnod o gymeradwyaeth dros dro yn yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (1), rhaid i’r awdurdod cyfrifol yn gyntaf—
- (a) ystyried a yw lleoliad gyda’r person cysylltiedig yn dal i fod y lleoliad mwyaf priodol sydd ar gael,
- (b) gofyn barn y panel maethu a sefydlwyd gan y darparwr gwasanaeth maethu yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu’n unol â Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011, a
- (c) hysbysu’r SAA.
- (5) Rhaid i’r penderfyniad i estyn cymeradwyaeth dros dro gael ei wneud gan y swyddog enwebedig.
- (6) Os yw’r cyfnod o gymeradwyaeth dros dro ac unrhyw estyniad i’r cyfnod hwnnw’n dod i ben, a’r person cysylltiedig heb ei gymeradwyo fel rhiant maeth awdurdod lleol yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011, rhaid i’r awdurdod cyfrifol derfynu’r lleoliad ar ôl yn gyntaf wneud trefniadau eraill i letya C.
Cymeradwyo dros dro ddarpar fabwysiadydd penodol fel rhiant maeth
28
- (1) Os bodlonir yr awdurdod cyfrifol—
- (a) mai’r lleoliad mwyaf priodol ar gyfer C yw gyda pherson nad yw wedi ei gymeradwyo fel rhiant maeth awdurdod lleol, ond mai’r person hwnnw yw’r darpar fabwysiadydd y mae’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu lleoli C gydag ef ar gyfer ei fabwysiadu (“A”), a
- (b) y byddai lleoli C gydag A er budd pennaf C,
caiff yr awdurdod cyfrifol gymeradwyo A fel rhiant maeth awdurdod lleol am gyfnod dros dro (“y cyfnod cymeradwyo dros dro”) ar yr amod bod yr awdurdod cyfrifol yn cydymffurfio yn gyntaf â gofynion paragraff (2).
- (2) Cyn cymeradwyo A fel rhiant maeth awdurdod lleol o dan baragraff (1), rhaid i’r awdurdod cyfrifol—
- (a) asesu addasrwydd A i ofalu am C fel rhiant maeth, a
- (b) ystyried a fydd y trefniadau arfaethedig, yn yr holl amgylchiadau a chan gymryd i ystyriaeth y gwasanaethau sydd i’w darparu gan yr awdurdod cyfrifol, yn diogelu a hyrwyddo llesiant C ac yn diwallu anghenion C fel y’u nodir yn y cynllun gofal a chymorth.
- (3) Bydd y cyfnod cymeradwyo dros dro yn dod i ben—
- (a) pan derfynir lleoliad C gydag A gan yr awdurdod cyfrifol;
- (b) pan derfynir cymeradwyaeth A fel darpar fabwysiadydd;
- (c) pan gymeradwyir A fel rhiant maeth yn unol â’r Rheoliadau Maethu neu Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Lloegr) 2011;
- (d) os yw A wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i’r awdurdod cyfrifol nad yw A bellach yn dymuno cael ei gymeradwyo dros dro fel rhiant maeth mewn perthynas ag C, a bydd hynny’n cael effaith 28 diwrnod ar ôl y dyddiad y cafodd yr awdurdod cyfrifol yr hysbysiad; neu
- (e) pan leolir C ar gyfer ei fabwysiadu gydag A yn unol â Deddf Mabwysiadu a Phlant 200252.
Asiantaethau maethu annibynnol – cyflawni swyddogaethau awdurdod cyfrifol
29
- (1) Caiff awdurdod cyfrifol wneud trefniadau yn unol â’r rheoliad hwn i’r dyletswyddau a osodir arno gan reoliad 15(3) a rheoliad 23 gael eu cyflawni ar ei ran gan berson cofrestredig.
- (2) Ni chaniateir gwneud trefniadau o dan y rheoliad hwn oni fydd yr awdurdod cyfrifol wedi ymuno mewn cytundeb ysgrifenedig, gyda’r person cofrestredig, sy’n cynnwys yr wybodaeth a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 6, a phan fo’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu gwneud trefniant o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â phlentyn penodol, rhaid i’r cytundeb ysgrifenedig gynnwys hefyd y materion a nodir ym mharagraff 2 o Atodlen 6.
- (3) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol adrodd wrth Brif Arolygydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru am unrhyw bryderon sydd gan yr awdurdod cyfrifol ynglŷn â’r gwasanaethau a ddarperir gan berson cofrestredig.
Dyletswyddau cyffredinol yr awdurdod cyfrifol wrth leoli plentyn mewn trefniadau eraill
30
Cyn lleoli C mewn llety mewn lle nas rheoleiddir o dan adran 81(6)(d) (“trefniadau eraill”) o Ddeddf 2014, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—
- (a) cael ei fodloni bod y llety’n addas ar gyfer C, ar ôl ystyried y materion a nodir yn Atodlen 7,
- (b) ac eithrio pan nad yw’n rhesymol ymarferol, trefnu i C ymweld â’r llety, ac
- (c) hysbysu’r SAA.
Amlder yr ymweliadau
31
- (1) Fel rhan o’i drefniadau ar gyfer goruchwylio llesiant C rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod ei gynrychiolydd (“R”) yn ymweld ag C yn unol â’r rheoliad hwn, lle bynnag y bo C yn byw.
- (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (6), rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
- (a) o fewn un wythnos ar ôl dechrau unrhyw leoliad,
- (b) fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos yn ystod blwyddyn gyntaf unrhyw leoliad, ac
- (c) wedi hynny—
- (i) os bwriedir i’r lleoliad barhau hyd nes bo C yn 18 oed, fesul ysbaid o ddim mwy na 3 mis, a
- (ii) mewn unrhyw achos arall, fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos.
- (3) Pan fo rheoliad 20 yn gymwys, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
- (a) o leiaf unwaith bob wythnos hyd nes cynhelir yr adolygiad cyntaf yn unol â Rhan 6, a
- (b) wedi hynny, fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos.
- (4) Pan fo rheoliad 26 yn gymwys, neu pan fo gorchymyn gofal interim wedi ei wneud mewn perthynas ag C o dan adran 38 o Ddeddf 1989 (gorchmynion interim) ac C yn byw gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
- (a) o leiaf unwaith bob wythnos hyd nes cynhelir yr adolygiad cyntaf yn unol â Rhan 6, a
- (b) wedi hynny, fesul ysbaid o ddim mwy na 4 wythnos.
- (5) Pan fo gorchymyn gofal wedi ei wneud mewn perthynas ag C o dan adran 31 o Ddeddf 1989 (gorchmynion gofal a goruchwylio) ac C yn byw gyda P, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
- (a) o fewn un wythnos ar ôl gwneud y gorchymyn gofal, a
- (b) wedi hynny, fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos.
- (6) Pan fo C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ond person arall sy’n gyfrifol am y trefniadau y mae C yn byw oddi tanynt am y tro (“trefniadau byw C”), rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
- (a) o fewn un wythnos ar ôl dechrau trefniadau byw C ac o fewn un wythnos ar ôl unrhyw newid yn nhrefniadau byw C,
- (b) fesul ysbaid o ddim mwy na 6 wythnos am y flwyddyn gyntaf wedi hynny, ac
- (c) fesul ysbaid o ddim mwy na 3 mis mewn unrhyw flwyddyn ddilynol.
- (7) Yn ychwanegol at ymweliadau yn unol â pharagraffau (2) i (6), rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C—
- (a) pa bryd bynnag y gofynnir iddo wneud hynny yn rhesymol gan—
- (i) C,
- (ii) pan fo paragraffau (2), (3) neu (4) yn gymwys, y person priodol, neu
- (iii) pan fo paragraff (5) yn gymwys, y person sy’n gyfrifol am drefniadau byw C,
- (b) o fewn un wythnos ar ôl cael hysbysiad o dan adran 30A53 o Ddeddf Safonau Gofal 200054 (hysbysiad ynghylch materion yn ymwneud â phersonau sy’n cynnal neu’n rheoli sefydliadau neu asiantaethau penodol), am y tro cyntaf, pan gyfeirir yn yr hysbysiad at y cartref plant y lleolir C ynddo am y tro.
Cynnal yr ymweliadau
32
- (1) Ar bob ymweliad, rhaid i R siarad ag C yn breifat ac eithrio pan fo—
- (a) C yn gwrthod, ac yn meddu dealltwriaeth ddigonol i wneud hynny,
- (b) R o’r farn y byddai’n amhriodol gwneud hynny, o ystyried oedran a dealltwriaeth C, neu
- (c) R yn analluog i wneud hynny.
- (2) Wrth ymweld ag C yn unol â’r Rhan hon, rhaid i R—
- (a) sicrhau y canfyddir safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C ac y rhoddir ystyriaeth briodol iddynt,
- (b) ystyried a yw llesiant C yn cael ei ddiogelu a’i hyrwyddo yn ddigonol o fewn y lleoliad,
- (c) monitro cyflawniad y gweithredoedd a’r canlyniadau a nodir yn y cynllun gofal a chymorth a chyfrannu (os yw’n ofynnol) i’r adolygiad o’r cynllun gofal a chymorth,
- (d) monitro unrhyw drefniadau cyswllt sydd wedi eu sefydlu, a phan fo angen, ystyried a oes angen cymorth, neu gymorth ychwanegol, i hyrwyddo trefniadau cyswllt,
- (e) canfod a oes angen cymorth neu wasanaethau ychwanegol i gynorthwyo’r lleoliad.
Canlyniadau’r ymweliadau
33
Pan fo R, o ganlyniad i ymweliad a wnaed yn unol â’r Rhan hon, yn gwneud asesiad nad yw llesiant C yn cael ei ddiogelu a’i hyrwyddo’n ddigonol gan y lleoliad, rhaid i’r awdurdod cyfrifol adolygu achos C yn unol â Rhan 6.
Cyngor a chymorth arall i’r plentyn
34
Wrth wneud trefniadau yn unol ag adran 97(3)(b) o Ddeddf 2014 i roi cyngor a chymorth arall ar gael i C rhwng yr ymweliadau gan R, rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau—
- (a) bod y trefniadau—
- (i) yn briodol, o ystyried oedran a dealltwriaeth C, a
- (ii) yn rhoi ystyriaeth briodol i argyhoeddiad crefyddol, tarddiad hiliol, cyfeiriadedd rhywiol a chefndir diwylliannol ac ieithyddol C, ac i unrhyw anabledd y gallai fod ganddo,
- (b) bod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C ynghylch y trefniadau wedi eu canfod ac wedi eu cymryd i ystyriaeth, ac
- (c) i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, o ystyried oedran a dealltwriaeth C, fod C yn gwybod sut i ofyn am gyngor priodol a chymorth arall gan yr awdurdod cyfrifol.
Cofnodion o ymweliadau a wneir gan R
35
Rhaid i R sicrhau y cedwir cofnod ysgrifenedig o unrhyw ymweliad a wneir yn unol â’r Rhan hon, a rhaid i’r cofnod gynnwys—
- (a) asesiad ysgrifenedig R, sy’n rhoi sylw i safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C, ynglŷn ag a yw llesiant C yn cael ei ddiogelu a’i hyrwyddo’n ddigonol tra bo C yn y lleoliad,
- (b) manylion o’r cyngor neu gymorth y tybia R sydd ei angen ar C.
Penodi ymwelydd annibynnol
36
- (1) Fel rhan o’i drefniadau ar gyfer goruchwylio llesiant C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol ystyried a yw’n briodol ai peidio penodi ymwelydd annibynnol i ymweld ag C ym mhle bynnag y bo C yn byw, mewn unrhyw achos—
- (a) pan nad yw C wedi byw gyda rhiant neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant yn ystod y 12 mis blaenorol,
- (b) pan na fu cyswllt rhwng C a rhiant neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant, neu pan ddigwyddodd cyswllt o’r fath yn anaml, neu
- (c) pan fyddai gwneud hynny er budd pennaf C.
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.