The Care Planning, Placement and Case Review (Wales) Regulations 2015

Type Welsh-Statutory-Instrument
Publication 2015-10-21
Last updated 2023-11-06
State In force
Jurisdiction Wales
Department King's Printer of Acts of Parliament
PDF Download
articles Not indexed
Reform history JSON API
  • (2) Wrth wneud penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r awdurdod cyfrifol ystyried—
  • (a) a fyddai penodi ymwelydd annibynnol yn cyfrannu’n gadarnhaol at lesiant C;
  • (b) os yw C wedi ei leoli ymhell o’i gartref, neu os yw C wedi ei leoli yn ardal awdurdod lleol arall neu ardal awdurdod lleol yn Lloegr, a yw’r lleoliad yn gwneud cynnal y trefniadau cyswllt yn anodd;
  • (c) a yw C yn gallu mynd allan yn annibynnol, ynteu a yw C yn cael anhawster i gyfathrebu neu ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol;
  • (d) a yw C yn debygol o ymddwyn mewn ffordd sy’n ei roi mewn perygl o ffurfio perthynas anaddas;
  • (e) pan fo C wedi ei leoli mewn cartref plant, a fyddai cyfle i sefydlu perthynas gydag ymwelydd annibynnol yn hyrwyddo llesiant C.
37

Os yw’r awdurdod cyfrifol yn penderfynu, yn unol â rheoliad 36, ei bod yn briodol penodi ymwelydd annibynnol ar gyfer C, rhaid i’r awdurdod cyfrifol (yn unol ag oedran a dealltwriaeth C) esbonio rôl ymwelydd annibynnol wrth C.

Dyletswydd gyffredinol yr awdurdod cyfrifol i adolygu achos y plentyn

38
  • (1) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol adolygu achos C yn unol â’r Rhan hon.
  • (2) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol beidio â gwneud unrhyw newid sylweddol yng nghynllun gofal a chymorth C oni fydd y newid arfaethedig wedi ei ystyried yn gyntaf mewn adolygiad o achos C, ac eithrio pan nad yw hynny’n rhesymol ymarferol.
  • (3) Nid oes dim yn y Rhan hon sy’n rhwystro cynnal unrhyw adolygiad o achos C yr un pryd ag unrhyw adolygiad, asesiad neu ystyriaeth arall o achos C o dan unrhyw ddarpariaeth arall.

Amseru adolygiadau

39
  • (1) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol adolygu achos C am y tro cyntaf o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y dechreuodd C dderbyn gofal.
  • (2) Rhaid cynnal yr ail adolygiad ar ôl ysbaid o ddim mwy na thri mis ar ôl y cyntaf, a rhaid cynnal adolygiadau dilynol fesul ysbaid o ddim mwy na 6 mis.
  • (3) Nid oes dim yn rheoliad hwn sy’n rhwystro’r awdurdod cyfrifol rhag cynnal adolygiad cyn yr amser a bennir ym mharagraff (1) neu (2), a rhaid iddo wneud hynny—
  • (a) os yw’r awdurdod cyfrifol yn tybio bod C yn absennol, neu wedi bod yn absennol yn fynych, o’r lleoliad,
  • (b) os hysbysir yr awdurdod cyfrifol gan y person priodol, P neu’r awdurdod ardal ynghylch pryder bod C mewn perygl o niwed,
  • (c) yn ddarostyngedig i baragraff (4), os yw C yn gofyn iddo,
  • (d) os yw’r SAA yn gofyn iddo,
  • (e) os yw rheoliad 33 yn gymwys,
  • (f) os darparwyd llety i C o dan adran 77(2)(b) neu (c) o Ddeddf 2014 ac na fyddai adolygiad yn digwydd fel arall cyn bo C yn peidio â chael ei ddarparu â llety felly,
  • (g) os yw C yng ngofal yr awdurdod ac o dan gadwad, ac na fyddai adolygiad yn digwydd fel arall cyn bo C yn peidio â bod dan gadwad felly, neu
  • (h) os yw C yn derbyn gofal ond nid yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ac—
  • (i) yr awdurdod cyfrifol yn bwriadu peidio â darparu llety i C, a
  • (ii) na fydd llety’n cael ei ddarparu ar gyfer C wedyn gan rieni C (neu un ohonynt) nac ychwaith gan unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C,
  • (i) os yw C yn rhan o deulu yr atgyfeiriwyd ei achos at dîm integredig cymorth i deuluoedd, a’r teulu wedi ei hysbysu y bydd tîm o’r fath yn cynorthwyo ei achos.
  • (4) Ni wneir yn ofynnol bod yr awdurdod cyfrifol yn cynnal adolygiad yn unol â pharagraff (3)(c) os yw’r SAA o’r farn na ellir cyfiawnhau cynnal adolygiad cyn yr amser a bennir ym mharagraff (1) neu (2).

Cynnal yr adolygiadau

Polisi’r awdurdod cyfrifol ar adolygiadau

40
  • (1) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig ar y modd y bydd yn adolygu achosion yn unol â’r Rhan hon.
  • (2) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol ddarparu copi o’i bolisi i—
  • (a) C, oni fydd yn amhriodol gwneud hynny o ystyried oedran a dealltwriaeth C,
  • (b) rhieni C, neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, ac
  • (c) unrhyw berson arall yr ystyrir ei safbwyntiau’n berthnasol gan yr awdurdod cyfrifol.

Ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt

41
  • (1) Yr ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu pob achos yw’r rhai a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 8.
  • (2) Mae’r ystyriaethau ychwanegol y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos C pan fo C yn rhan o deulu a gynorthwyir gan dîm integredig cymorth i deuluoedd wedi eu nodi ym mharagraff 2 o Atodlen 8.

Rôl yr SAA

42
  • (1) Rhaid i’r SAA—
  • (a) i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, fod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod a gynhelir fel rhan o’r adolygiad (“y cyfarfod adolygu”), ac os yw’n bresennol yn y cyfarfod adolygu, ei gadeirio,
  • (b) siarad ag C yn breifat am y materion sydd i’w hystyried yn yr adolygiad oni fydd C yn gwrthod, ac yn meddu dealltwriaeth ddigonol i wneud hynny, neu’r SAA yn ystyried hynny’n amhriodol oherwydd oedran a dealltwriaeth C,
  • (c) sicrhau, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, y canfyddir ac y cymerir i ystyriaeth safbwyntiau, dymuniadau a theimladau rhieni C neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, a
  • (d) sicrhau y cynhelir yr adolygiad yn unol â’r Rhan hon ac yn benodol—
  • (i) yr enwir y personau sy’n gyfrifol am weithredu unrhyw benderfyniad a wneir o ganlyniad i’r adolygiad, a
  • (ii) y tynnir sylw swyddog sydd ar lefel uwch briodol o fewn yr awdurdod cyfrifol at unrhyw fethiant i adolygu’r achos yn unol â’r Rhan hon, neu fethiant i gymryd camau priodol i weithredu penderfyniadau a wneir o ganlyniad i’r adolygiad.
  • (2) Caiff yr SAA, os na fodlonir ef fod gwybodaeth ddigonol wedi ei darparu gan yr awdurdod cyfrifol i alluogi ystyriaeth briodol o unrhyw fater yn Atodlen 8, ohirio’r cyfarfod adolygu unwaith am ddim mwy nag 20 diwrnod gwaith, ac ni chaniateir gweithredu unrhyw gynnig a ystyriwyd yn ystod yr adolygiad hyd nes cwblheir yr adolygiad.

Trefniadau ar gyfer gweithredu penderfyniadau sy’n tarddu o adolygiadau

43

Rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

  • (a) gwneud trefniadau i weithredu penderfyniadau a wneir yn ystod yr adolygiad neu o ganlyniad iddo, a
  • (b) hysbysu’r SAA ynghylch unrhyw fethiant arwyddocaol i wneud trefniadau o’r fath neu unrhyw newid arwyddocaol yn yr amgylchiadau a fydd yn digwydd ar ôl yr adolygiad ac yn effeithio ar y trefniadau hynny.

Cofnodion o’r adolygiadau

44

Rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau y paratoir cofnod ysgrifenedig o’r adolygiad, a bod yr wybodaeth a gesglir yn ystod yr adolygiad, manylion o’r trafodion yn y cyfarfod adolygu ac unrhyw benderfyniadau a wnaed yn ystod yr adolygiad neu o ganlyniad iddo wedi eu cynnwys yng nghofnod achos C.

Penderfyniad i roi’r gorau i ofalu am C

45
  • (1) Mewn unrhyw achos pan fo C yn 16 neu’n 17 oed ac nad yw yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, rhaid peidio â rhoi effaith i’r penderfyniad i roi’r gorau i ofalu am C hyd nes bo’r penderfyniad wedi ei gymeradwyo gan gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod cyfrifol.
  • (2) Cyn cymeradwyo penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r cyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol gael ei fodloni—
  • (a) y cydymffurfiwyd â rheoliad 10(1)(b)(i),
  • (b) yr ymgynghorwyd ag SAA C,
  • (c) pan fo’n briodol, yr ymgynghorwyd â pherthnasau C, a
  • (d) y cydymffurfiwyd â rheoliad 46, neu reoliadau 47 – 51 (fel sy’n briodol).

Trefniadau ar gyfer rhoi’r gorau i ofalu am blentyn nad yw’n berson ifanc categori 1

46

Mewn unrhyw achos pan nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol ac nad yw’n debygol o fod yn berson ifanc categori 155 pan fydd yr awdurdod lleol yn rhoi’r gorau i ofalu am C, rhaid i’r cynllun gofal a chymorth (neu os yw rheoliad 58 yn gymwys, y cynllun lleoli dan gadwad) gynnwys manylion am y cyngor a chymorth arall y mae’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu eu darparu i C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal ganddo.

Personau ifanc categori 1

Ystyr person ifanc categori 1

47
  • (1) At ddibenion adran 104(2) o Ddeddf 2014 y cyfnod rhagnodedig yw 13 wythnos a’r oedran rhagnodedig yw 14.
  • (2) At ddibenion adran 104(6)(b) o Ddeddf 2014, os yw C yn blentyn y mae rheoliad 62 yn gymwys iddo, nid yw C yn berson ifanc categori 1 er gwaethaf dod o fewn adran 104(2) o’r Ddeddf honno.

Dyletswyddau cyffredinol

48

Os yw C yn berson ifanc categori 1, rhaid i’r awdurdod cyfrifol—

  • (a) asesu anghenion C yn unol â rheoliad 49, a
  • (b) paratoi cynllun llwybr C yn unol â rheoliad 51.

Asesu anghenion

49
  • (1) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol gwblhau’r asesiad o anghenion C yn unol ag adran 107(1) o Ddeddf 2014 o fewn dim mwy na 3 mis ar ôl y dyddiad y mae C yn cyrraedd 16 oed neu’n dod yn berson ifanc categori 1 ar ôl yr oedran hwnnw.
  • (2) Wrth wneud ei asesiad o anghenion tebygol C pan fydd C yn peidio â derbyn gofal, rhaid i’r awdurdod cyfrifol gymryd i ystyriaeth y materion canlynol—
  • (a) cyflwr iechyd C (gan gynnwys ei iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol) a’i ddatblygiad;
  • (b) angen parhaus C am addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth;
  • (c) os yw C yn dod o fewn rheoliad 5(1)(f), unrhyw anghenion sydd gan C o ganlyniad i’r statws hwnnw;
  • (d) y cymorth a fydd ar gael i C gan ei rieni a phersonau cysylltiedig eraill;
  • (e) pan fo C yn berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gyda rhiant maeth awdurdod lleol—
  • (i) a yw C ac F wedi penderfynu eu bod yn dymuno gwneud trefniant byw ôl-1856, neu
  • (ii) pa wybodaeth y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol ei darparu i C ac F i’w cynorthwyo i wneud penderfyniad o’r fath;
  • (f) adnoddau ariannol presennol a disgwyliedig C a’i allu i reoli ei adnoddau ariannol personol yn annibynnol;
  • (g) i ba raddau y mae C yn meddu’r sgiliau ymarferol a’r sgiliau eraill sydd eu hangen ar gyfer byw’n annibynnol;
  • (h) angen C am ofal parhaus, cymorth a llety;
  • (i) safbwyntiau, dymuniadau a theimladau—
  • (i) C,
  • (ii) unrhyw riant i C ac unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C,
  • (iii) y person priodol;
  • (j) safbwyntiau—
  • (i) unrhyw berson neu sefydliad addysgol sy’n darparu addysg neu hyfforddiant i C, ac os oes gan C ddatganiad anghenion addysgol arbennig, yr awdurdod cyfrifol sy’n cynnal y datganiad,
  • (ii) yr SAA,
  • (iii) unrhyw berson sy’n darparu gofal neu driniaeth iechyd (pa un ai iechyd corfforol, meddyliol neu emosiynol) neu ofal neu driniaeth ddeintyddol i C,
  • (iv) y cynghorydd personol a benodwyd ar gyfer C a
  • (v) unrhyw berson arall yr ystyrir ei safbwyntiau yn berthnasol, gan yr awdurdod cyfrifol neu gan C.

Asesiadau a chynlluniau llwybr: trefniadau byw ôl-18

50
  • (1) Er mwyn cyflawni ei ddyletswydd o dan adran 108(2) o Ddeddf 201457, rhaid i awdurdod cyfrifol ddarparu’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (2) ynghylch trefniadau byw ôl-18, i’r personau canlynol—
  • (a) C, pan fo C wedi ei leoli gydag F neu mewn cartref plant, wrth baratoi neu adolygu cynllun llwybr C;
  • (b) C, pan fo C yn berson ifanc categori 1 sydd wedi ei leoli gydag F, wrth baratoi neu adolygu cynllun llwybr C;
  • (c) unrhyw F y lleolwyd C gydag ef gan yr awdurdod cyfrifol, wrth baratoi neu adolygu cynllun llwybr C;
  • (d) unrhyw gyn-riant maeth58 C;
  • (e) rhiant neu berson arall a oedd â chyfrifoldeb rhiant am C cyn lleoli C gydag F (oni fyddai gwneud hynny’n rhoi C mewn perygl o niwed);
  • (f) pan fo C wedi ei leoli mewn cartref plant, gweithiwr dolen gyswllt C;
  • (g) yr SAA;
  • (h) R;
  • (i) os penodwyd un ar gyfer C, ymwelydd annibynnol;
  • (j) person ifanc categori 3 sy’n cymryd rhan mewn trefniant byw ôl-18;
  • (k) cyn-riant maeth sy’n cymryd rhan mewn trefniant byw ôl-18;
  • (l) unrhyw berson arall y tybia’r awdurdod cyfrifol fod arno angen y cyfryw wybodaeth.
  • (2) Mae’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1)—
  • (a) yn cynnwys—
  • (i) manylion am ddyletswyddau’r awdurdod cyfrifol o dan adran 108 o Ddeddf 2014,
  • (ii) copi o bolisi’r awdurdod cyfrifol ar drefniadau byw ôl-18,
  • (iii) gwybodaeth am y goblygiadau ariannol sy’n gysylltiedig â gwneud trefniant byw ôl-18, fel y maent yn gymwys i C ac i F,
  • (iv) gwybodaeth am ddewisiadau amgen sydd ar gael i C yn hytrach na threfniant byw ôl-18, a chymhwystra ar eu cyfer,
  • (v) manylion am ffynonellau gwybodaeth, cymorth a chyngor eraill sydd ar gael i gynorthwyo C ac F i wneud penderfyniad ynghylch trefniant byw ôl-18,
  • (vi) gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i bersonau ifanc categori 3 a’u cyn-rieni maeth sy’n gwneud trefniant byw ôl-18, yn ystod trefniant o’r fath,
  • (vii) diweddariadau ynghylch unrhyw newidiadau i bolisi neu ymarfer yr awdurdod cyfrifol mewn perthynas â gwneud trefniant byw ôl-18 a’r cymorth a ddarperir yn ystod trefniant o’r fath, a
  • (b) rhaid ei darparu mewn fformat sy’n addas i oedran a dealltwriaeth y derbynnydd.

Y cynllun llwybr

51
  • (1) Rhaid paratoi’r cynllun llwybr cyn gynted ag y bo modd ar ôl yr asesiad o anghenion C, a rhaid i’r cynllun llwybr gynnwys, yn benodol—
  • (a) cynllun gofal a chymorth C, a
  • (b) yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 9.
  • (2) Rhaid i’r cynllun llwybr, mewn perthynas â phob un o’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraffau 2 i 11 o Atodlen 9, nodi—
  • (a) y modd y mae’r awdurdod cyfrifol yn bwriadu diwallu anghenion C, a
  • (b) erbyn pa ddyddiad, a chan bwy, y cyflawnir unrhyw weithred sy’n ofynnol er mwyn gweithredu unrhyw agwedd ar y cynllun.

Swyddogaethau’r cynghorydd personol

52

Swyddogaethau’r cynghorydd personol mewn perthynas ag C yw’r canlynol—

  • (a) darparu cyngor (gan gynnwys cyngor ymarferol) a chymorth,
  • (b) cymryd rhan yn yr adolygiadau o achos C a gyflawnir o dan Ran 6,
  • (c) cysylltu â’r awdurdod cyfrifol ynglŷn â gweithredu’r cynllun llwybr,
  • (d) cydgysylltu’r ddarpariaeth o wasanaethau a chymryd camau rhesymol i sicrhau bod C yn defnyddio’r cyfryw wasanaethau,
  • (e) cynnal ei wybodaeth am gynnydd a llesiant C, ac
  • (f) cadw cofnod ysgrifenedig o’i gysylltiadau ag C.

Swyddogaethau ychwanegol swyddogion adolygu annibynnol

53
  • (1) Rhaid i’r SAA, gan roi sylw i oedran a dealltwriaeth C, sicrhau bod yr awdurdod cyfrifol wedi rhoi gwybod i C am y camau y caiff C eu cymryd o dan Ddeddf 1989 a Deddf 2014, ac yn benodol, os yw’n briodol—
  • (a) hawl C, gyda chaniatâd, i wneud cais am orchymyn o dan adran 8 o Ddeddf 1989 (gorchmynion trefniadau plentyn a gorchmynion eraill mewn cysylltiad â phlant), ac os yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol, i wneud cais am ryddhad o’r gorchymyn gofal, a
  • (b) argaeledd y weithdrefn a sefydlwyd ganddo o dan adran 174 o Ddeddf 2014 ar gyfer ystyried unrhyw sylwadau (gan gynnwys cwynion) y gallai C ddymuno eu gwneud ynghylch y modd y mae’r awdurdod cyfrifol yn cyflawni ei swyddogaethau, gan gynnwys argaeledd cymorth i wneud sylwadau o’r fath o dan adran 178 o Ddeddf 2014.
  • (2) Os yw C yn dymuno dwyn achos cyfreithiol o dan Ddeddf 1989, rhaid i’r SAA—
  • (a) canfod a oes oedolyn priodol sy’n alluog a bodlon i gynorthwyo C i gael cyngor cyfreithiol neu ddwyn achos ar ran C, a
  • (b) os nad oes person o’r fath, cynorthwyo C i gael cyngor o’r fath.
  • (3) Yn yr amgylchiadau canlynol rhaid i’r SAA ystyried a fyddai’n briodol atgyfeirio achos C at swyddog achosion teuluol Cymru59—
  • (a) pan fo’r awdurdod cyfrifol, mewn unrhyw fodd sylweddol, ym marn yr SAA, wedi—
  • (i) methu â pharatoi cynllun gofal a chymorth C yn unol â’r Rheoliadau hyn,
  • (ii) methu ag adolygu achos C yn unol â’r Rheoliadau hyn, neu wedi methu â gweithredu’n effeithiol unrhyw benderfyniad a wnaed o ganlyniad i adolygiad, neu
  • (iii) rywfodd arall wedi methu â chyflawni ei ddyletswyddau i C mewn unrhyw fodd perthnasol, a
  • (b) ar ôl tynnu sylw personau ar lefel uwch briodol o fewn yr awdurdod cyfrifol at y methiant, ni roddwyd sylw i’r mater er boddhad i’r SAA o fewn cyfnod rhesymol o amser.
  • (4) Rhaid i’r SAA, pan fo’r awdurdod cyfrifol yn ymgynghori ag ef ynghylch unrhyw fater sy’n ymwneud ag C, neu pan hysbysir ef o unrhyw fater sy’n ymwneud ag C yn unol â’r Rheoliadau hyn—
  • (a) sicrhau bod yr awdurdod cyfrifol wedi canfod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C ynglŷn â’r mater dan sylw, ac, yn ddarostyngedig i oedran a dealltwriaeth C, wedi rhoi ystyriaeth briodol i safbwyntiau, dymuniadau a’r teimladau C, a
  • (b) ystyried a ddylid gofyn am adolygiad o achos C.

Cymwysterau a phrofiad swyddogion adolygu annibynnol

54
  • (1) Rhaid i’r SAA fod wedi ei gofrestru fel gweithiwr cymdeithasol mewn cofrestr a gynhelir gan Gyngor Gofal Cymru neu yn Rhan 16 o’r gofrestr a gynhelir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal o dan erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd a Gwaith Cymdeithasol 200160 neu mewn cofrestr gyfatebol a gynhelir o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
  • (2) Rhaid i’r SAA feddu profiad digonol o waith cymdeithasol perthnasol gyda phlant a theuluoedd i gyflawni’r swyddogaethau swyddog adolygu annibynnol a nodir yn adran 100 o Ddeddf 2014 ac o dan y Rheoliadau hyn, mewn modd annibynnol a chan roi sylw i fudd pennaf C.
  • (3) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol beidio â phenodi unrhyw un o’r canlynol fel yr SAA—
  • (a) person a fu’n ymwneud â pharatoi cynllun gofal a chymorth C neu reoli achos C,
  • (b) R,
  • (c) cynghorydd personol C,
  • (d) person sydd â chyfrifoldebau rheoli mewn perthynas â pherson a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (c), neu
  • (e) person sydd â rheolaeth dros yr adnoddau a ddyrennir i’r achos.

Ymwelwyr annibynnol

55

Mae person a benodwyd gan yr awdurdod cyfrifol fel ymwelydd annibynnol o dan adran 98 o Ddeddf 2014 i’w ystyried yn annibynnol ar yr awdurdod hwnnw os nad yw’r person a benodwyd yn gysylltiedig â’r awdurdod cyfrifol yn rhinwedd bod—

  • (a) yn aelod o’r awdurdod cyfrifol neu unrhyw un o’i bwyllgorau neu is-bwyllgorau, boed etholedig neu gyfetholedig,
  • (b) yn swyddog yr awdurdod cyfrifol a gyflogir i arfer unrhyw un o’r swyddogaethau canlynol—
  • (i) y swyddogaethau a roddwyd i’r awdurdod cyfrifol neu sy’n arferadwy ganddo yn ei rôl fel awdurdod addysg lleol,
  • (ii) y swyddogaethau a roddwyd i’r awdurdod cyfrifol neu sy’n arferadwy ganddo sydd yn swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol (o fewn yr ystyr yn Atodlen 2 i Ddeddf 2014 i’r graddau y mae’r swyddogaethau hynny’n ymwneud â phlant),
  • (iii) y swyddogaethau a roddwyd i’r awdurdod cyfrifol o dan adrannau 61 i 63 a 103 i 118 o Ddeddf 2014 (i’r graddau nad ydynt yn dod o fewn is-baragraff (ii)),
  • (iv) y swyddogaethau a roddwyd i’r awdurdod cyfrifol gan adrannau 25, 26, 28 a 29 o Ddeddf Plant 200461,
  • (v) y swyddogaethau a roddwyd i’r awdurdod cyfrifol yn unol ag adran 33 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 200662 neu adran 75 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 200663, neu
  • (c) yn briod, partner sifil neu berson arall (pa un ai o wahanol ryw neu o’r un rhyw) sy’n byw ar yr un aelwyd fel partner person sy’n dod o fewn paragraffau (a) neu (b).

Cymhwyso’r Rheoliadau hyn, gydag addasiadau, i blant sydd ar remánd a phlant sydd dan gadwad

56
  • (1) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys gyda’r addasiadau a nodir yn y Rhan hon tra bo C—
  • (a) ar remánd i lety awdurdod lleol,
  • (b) ar remánd i lety cadw ieuenctid (“LlCI”), neu
  • (c) dan gadwad64.
  • (2) Yn y Rheoliadau hyn—
  • (a) pan fo C ar remánd i lety awdurdod lleol neu LlCI, rhaid dehongli cyfeiriadau at yr “awdurdod cyfrifol” fel pe baent yn gyfeiriadau at yr awdurdod lleol a ddynodwyd gan y llys o dan adran 92(2) neu adran 102(6), yn ôl y digwydd, o Ddeddf 2012,
  • (b) pan fo C ar remánd i LlCI neu dan gadwad, rhaid dehongli cyfeiriadau at ei “leoli” fel pe baent yn gyfeiriadau at roi C ar remánd neu dan gadwad felly,
  • (c) pan fo C ar remánd i LlCI neu dan gadwad—
  • (i) rhaid darllen cyfeiriadau at y “cynllun lleoli”65 fel pe baent yn gyfeiriadau at y “cynllun lleoli dan gadwad”, a
  • (ii) pan fo C yn blentyn sy’n derbyn gofal am yr unig reswm ei fod ar remánd felly, rhaid darllen cyfeiriadau at y “cynllun gofal a chymorth” hefyd fel pe baent yn gyfeiriadau at y “cynllun lleoli dan gadwad”.

Addasiadau i Ran 2

57
  • (1) Mae Rhan 2 (trefniadau ar gyfer gofalu am blentyn) yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.
  • (2) Pan fo C yn blentyn sy’n derbyn gofal am yr unig reswm ei fod ar remánd i lety awdurdod lleol—
  • (a) yn rheoliad 4(3), rhaid paratoi’r cynllun gofal a chymorth o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl rhoi C ar remánd felly, a
  • (b) nid yw rheoliad 5(1)(a) yn gymwys.
  • (3) Pan fo C ar remánd i LlCI ac yn blentyn a oedd yn derbyn gofal yn union cyn ei roi ar remánd felly, neu pan fo C dan gadwad—
  • (a) nid yw rheoliad 5(1)(c) yn gymwys, a rhaid i’r cynllun gofal a chymorth, yn hytrach gynnwys cynllun lleoli dan gadwad,
  • (b) yn rheoliad 6(3), rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi copi hefyd o’r cynllun gofal a chymorth i gyfarwyddwr, llywodraethwr neu reolwr cofrestredig (yn ôl y digwydd) y carchar neu’r LlCI, ac
  • (c) nid yw rheoliad 7(1) i (4) yn gymwys.
  • (4) Pan fo C yn blentyn sy’n derbyn gofal am yr unig reswm ei fod ar remánd i LlCI—
  • (a) nid yw rheoliad 5 yn gymwys, ac yn hytrach rhaid i’r awdurdod cyfrifol baratoi cynllun lleoli dan gadwad, sydd hefyd yn cynnwys manylion o safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r personau a ganfyddir ac a ystyrir gan yr awdurdod cyfrifol yn unol ag adrannau 6(2) a (4), 7(2) a 78(3) o Ddeddf 2014 ynghylch y cynllun lleoli dan gadwad, a safbwyntiau, dymuniadau a theimladau’r personau hynny mewn perthynas ag unrhyw newid, neu newid arfaethedig, yn y cynllun lleoli dan gadwad,
  • (b) nid yw rheoliad 7(1) i (4) yn gymwys, ac mae rheoliad (5) yn gymwys gyda’r addasiad y rhoddir “cynllun lleoli dan gadwad” yn lle “cynllun iechyd”.

Addasiadau i Ran 3

58
  • (1) Mae Rhan 3 yn gymwys gyda’r addasiadau canlynol.
  • (2) Pan fo C yn blentyn sy’n derbyn gofal am yr unig reswm ei fod ar remánd i LlCI, nid yw rheoliadau 10, 11, 12 a 15 yn gymwys, ac yn hytrach—
  • (a) rhaid i’r awdurdod cyfrifol, o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl rhoi C ar remánd i LlCI, baratoi cynllun ar gyfer y remánd (“y cynllun lleoli dan gadwad”) sydd—
  • (i) yn nodi sut y bydd y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddi yn diwallu anghenion C, a
  • (ii) yn cynnwys enw a chyfeiriad y LlCI, a’r materion a bennir yn Atodlen 10.
  • (3) Pan fo C ar remánd i LlCI ac yn blentyn a oedd yn derbyn gofal yn union cyn ei roi ar remánd felly, neu pan fo C dan gadwad—
  • (a) nid yw rheoliadau 10, 11, 12 a 15 yn gymwys, ac yn hytrach, rhaid i’r awdurdod cyfrifol baratoi cynllun lleoli dan gadwad yn unol ag is-baragraff (b);
  • (b) rhaid i’r awdurdod cyfrifol, baratoi cynllun lleoli dan gadwad (a gaiff ei gynnwys yng nghynllun gofal a chymorth C) ar gyfer y remánd neu gadwad, o fewn 10 diwrnod gwaith ar ôl rhoi C ar remánd i LlCI neu dan gadwad, a rhaid i’r cynllun—
  • (i) nodi sut y bydd y carchar, LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddi yn diwallu anghenion C, a
  • (ii) cynnwys, fel y bo’n briodol, enw a chyfeiriad y carchar, LlCI, neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddi a’r materion a bennir yn Atodlen 10;
  • (c) rhaid hysbysu’r SAA ynghylch y remánd neu gadwad.
  • (4) Pan fo C yn dod o fewn paragraff (2) neu (3)—
  • (a) rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod safbwyntiau, dymuniadau a theimladau C wedi eu canfod ac wedi cael ystyriaeth briodol;
  • (b) rhaid i’r cynllun lleoli dan gadwad gael ei gytuno a’i lofnodi gan gyfarwyddwr, llywodraethwr neu reolwr cofrestredig (yn ôl y digwydd) y carchar neu’r LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddi.
  • (5) Pan fo C ar remánd i lety awdurdod lleol, mae rheoliad 10(1) yn gymwys gyda’r addasiad fod rhaid paratoi’r cynllun lleoli o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl rhoi C ar remánd felly.

Datgymhwyso Rhan 4

59

Nid yw Rhan 4 (darpariaeth ar gyfer gwahanol fathau o leoliad) yn gymwys pan fo C ar remand i LlCI neu pan fo C dan gadwad.

Addasu Rhan 5

60

Mae Rhan 5 (ymweliadau gan gynrychiolydd yr awdurdod cyfrifol etc.) yn gymwys gyda’r addasiad, yn rheoliad 31(7)(a), fod rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C, pa fo C ar remánd i LlCI neu pan fo C dan gadwad, pa bryd bynnag y gofynnir yn rhesymol iddo wneud hynny gan gyfarwyddwr, llywodraethwr neu reolwr cofrestredig (yn ôl y digwydd) y carchar, yr LlCI neu’r fangre y mae’n ofynnol i C breswylio ynddi.

Addasu Rhan 6

61

Mae Rhan 6 (adolygiadau) yn gymwys gyda’r addasiad, yn rheoliad 41, fod yr ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos C, pan fo C ar remánd i LlCI neu pan fo C dan gadwad, wedi eu nodi ym mharagraffau 1, 4, a 6 i 13 o Atodlen 8 (ystyriaethau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol roi sylw iddynt wrth adolygu achos C).

Cymhwyso’r Rheoliadau hyn, gydag addasiadau, i seibiannau byr

62
  • (1) Yn yr amgylchiadau a nodir ym mharagraff (2), mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys gyda’r addasiadau a nodir ym mharagraff (3).
  • (2) Yr amgylchiadau yw—
  • (a) pan nad yw C yng ngofal yr awdurdod cyfrifol,
  • (b) pan fo’r awdurdod cyfrifol wedi trefnu i leoli C mewn cyfres o leoliadau byrdymor gyda’r un person neu yn yr un llety (“seibiannau byr”), ac
  • (c) trefniant wedi ei wneud fel—
  • (i) na fwriedir i unrhyw un lleoliad barhau am fwy na 4 wythnos,
  • (ii) bod C, ar ddiwedd pob lleoliad o’r fath yn dychwelyd i ofal rhiant C neu berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, a
  • (iii) na fydd cyfanswm y seibiannau byr mewn unrhyw gyfnod o 12 mis yn fwy na 120 o ddiwrnodau.
  • (3) Yr addasiadau yw—
  • (a) nid yw rheoliadau 5 a 10 yn gymwys, ond yn hytrach rhaid i’r cynllun gofal a chymorth nodi’r trefniadau sydd wedi eu gwneud i ddiwallu anghenion C gan roi sylw penodol i’r canlynol—
  • (i) iechyd a datblygiad emosiynol ac ymddygiadol C, yn enwedig mewn perthynas ag unrhyw anabledd66 a allai fod gan C,
  • (ii) hyrwyddo cyswllt rhwng C a’i rieni ac unrhyw berson arall nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C, yn ystod unrhyw gyfnod pan leolir C,
  • (iii) diddordebau hamdden C, a
  • (iv) hyrwyddo cyflawniad addysgol C,

a rhaid i’r cynllun gynnwys enw a chyfeiriad ymarferydd meddygol cofrestredig C, a’r wybodaeth a nodir ym mharagraff 3 o Atodlen 3, pan fo’n briodol,

  • (b) nid yw rheoliadau 7, 14 a 63(2)(b) yn gymwys,
  • (c) nid yw rheoliad 31(2) yn gymwys, ond yn hytrach rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau bod R yn ymweld ag C ar ddiwrnodau pan fo C yn y lleoliad mewn gwirionedd, a hynny fesul ysbeidiau rheolaidd sydd i’w cytuno gyda’r SAA a rhieni C (neu unrhyw berson nad yw’n rhiant C ond sydd â chyfrifoldeb rhiant am C) a’u cofnodi yn y cynllun gofal a chymorth cyn dechrau’r lleoliad cyntaf, a beth bynnag—
  • (i) rhaid i’r ymweliad cyntaf ddigwydd o fewn y 7 diwrnod lleoli cyntaf ar ôl dechrau’r lleoliad cyntaf, neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol wedi hynny, a
  • (ii) rhaid i ymweliadau dilynol ddigwydd fesul ysbaid o ddim mwy na 6 mis, am gyhyd ag y bo’r seibiannau byr yn parhau,
  • (d) nid yw rheoliad 39 yn gymwys, ond yn hytrach—
  • (i) rhaid i’r awdurdod cyfrifol adolygu achos C am y tro cyntaf o fewn 3 mis ar ôl dechrau’r lleoliad cyntaf, a
  • (ii) rhaid cynnal yr ail adolygiad ac adolygiadau dilynol fesul ysbaid o ddim mwy na 6 mis.

Cofnodion – sefydlu cofnodion

63
  • (1) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol sefydlu a chynnal cofnod achos ysgrifenedig ar gyfer C (“cofnod achos C”), os nad oes un yn bodoli eisoes.
  • (2) Rhaid i’r cofnod achos gynnwys—
  • (a) cynllun gofal a chymorth C, gan gynnwys unrhyw newidiadau a wnaed i’r cynllun gofal a chymorth ac unrhyw gynlluniau dilynol,
  • (b) adroddiadau a gafwyd o dan reoliad 7,
  • (c) unrhyw ddogfen arall a grëwyd neu a ystyriwyd yn rhan o unrhyw asesiad o anghenion C neu unrhyw adolygiad o achos C,
  • (d) unrhyw orchymyn llys yn ymwneud ag C,
  • (e) manylion unrhyw drefniadau sydd wedi eu gwneud gan yr awdurdod cyfrifol gydag unrhyw awdurdod lleol arall neu gydag asiantaeth faethu annibynnol o dan reoliad 29 ac Atodlen 6, neu gyda darparwr gwasanaethau gwaith cymdeithasol, y cyflawnir oddi tanynt unrhyw rai o swyddogaethau’r awdurdod cyfrifol mewn perthynas ag C, gan yr awdurdod lleol hwnnw neu’r asiantaeth faethu annibynnol honno neu’r darparwr gwasanaethau gwaith cymdeithasol hwnnw.

Cofnodion – dal gafael ar gofnodion a chyfrinachedd

64
  • (1) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol ddal ei afael ar gofnod achos C naill ai—
  • (a) tan bymthegfed pen-blwydd a thrigain C, neu
  • (b) os bydd farw C cyn cyrraedd 18 oed, am y cyfnod o bymtheng mlynedd sy’n dechrau gyda dyddiad marwolaeth C.
  • (2) Rhaid i’r awdurdod cyfrifol sicrhau y cedwir cofnod achos C yn ddiogel, a chymryd unrhyw gamau angenrheidiol i sicrhau y trinnir yr wybodaeth sydd ynddo yn gyfrinachol, yn ddarostyngedig yn unig i’r canlynol—
  • (a) unrhyw ddarpariaeth mewn statud, neu a wneir o dan neu yn rhinwedd statud, y caniateir cael neu roi mynediad i gofnod neu wybodaeth o’r fath oddi tani,
  • (b) unrhyw orchymyn llys y caniateir cael neu roi mynediad i gofnod neu wybodaeth o’r fath oddi tano.

Dirymiadau

65

Mae’r Rheoliadau a nodir yn Atodlen 11 i’r Rheoliadau hyn wedi eu dirymu i’r graddau a bennir yn yr Atodlen honno.

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cynllun iechyd

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yn y cynllun addysg personol

Perthnasoedd teuluol a chymdeithasol

Gwybodaeth sydd i’w chynnwys yng nghynllun lleoli C

Gwybodaeth ychwanegol sydd i’w chynnwys pan leolir C gyda P

Gwybodaeth ychwanegol sydd i’w chynnwys pan leolir C gydag F, mewn cartref plant neu mewn trefniadau eraill

Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.

This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence. legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.