The Firefighters’ Pension Scheme (Wales) Regulations 2015

Type Welsh-Statutory-Instrument
Publication 2015-03-09
Last updated 2025-09-01
State In force
Jurisdiction Wales
Department King's Printer of Acts of Parliament
PDF Download
articles Not indexed
Reform history JSON API
  • (b) unrhyw gyfraniad ychwanegol cyflogwr a delir gan y cyflogwr mewn cysylltiad â phensiwn afiechyd haen uchaf, sy’n ofynnol gan reoliad 127(1) (cyfraniad ychwanegol cyflogwr: dyfarniad afiechyd);
  • (c) unrhyw gyfraniad ychwanegol cyflogwr a delir gan y cyflogwr mewn cysylltiad â phensiwn afiechyd haen isaf, sy’n ofynnol gan reoliad 127(3) (cyfraniad ychwanegol cyflogwr: dyfarniad afiechyd);
  • (d) unrhyw gyfraniad ychwanegol cyflogwr a delir gan y cyflogwr mewn cysylltiad ag ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr, sy’n ofynnol gan reoliad 129(1) (cyfraniad ychwanegol cyflogwr: ymddeoliad a ysgogir gan gyflogwr);
  • (e) unrhyw gyfraniadau aelodau a delir o dan reoliad 119 (cyfraniadau aelodau), rheoliad 120 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith oherwydd salwch, anaf, anghydfod undebol neu absenoldeb awdurdodedig), rheoliad 121 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn), neu reoliad 122 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb cysylltiedig â phlentyn);
  • (f) unrhyw gyfraniadau aelodau ar gyfer pensiwn ychwanegol a delir o dan Atodlen 1 (taliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol);
  • (g) unrhyw daliad gwerth trosglwyddiad clwb a dderbynnir; ac
  • (h) unrhyw daliad gwerth trosglwyddiad a dderbynnir.

Taliadau sydd i’w gwneud allan o Gronfa Bensiwn y Diffoddwyr Tân

133

Rhaid i’r rheolwr cynllun wneud taliadau allan o’r CBDT mewn cysylltiad â’r canlynol—

  • (a) unrhyw ad-daliad o gyfraniadau a thaliadau aelod sy’n ofynnol gan reoliad 125 (ad-dalu holl gyfraniadau aelod a’r holl daliadau ar gyfer pensiwn ychwanegol a wnaed gan aelod);
  • (b) unrhyw ad-daliad o swm cyfraniad ychwanegol cyflogwr ar gyfer dyfarniad afiechyd o dan reoliad 128 (ad-dalu cyfraniad ychwanegol cyflogwr ar gyfer dyfarniad afiechyd, yn dilyn adolygiad);
  • (c) unrhyw bensiwn neu ddyfarniad sy’n daladwy o dan y cynllun hwn;
  • (d) unrhyw daliad gwerth trosglwyddiad clwb sydd i’w dalu mewn cysylltiad â buddion cronedig aelod yn y cynllun hwn; ac
  • (e) unrhyw daliad gwerth trosglwyddiad y mae’n ofynnol ei dalu mewn cysylltiad â buddion cronedig aelod yn y cynllun hwn.

Gwybodaeth sydd i’w darparu i Weinidogion Cymru

134
  • (1) Rhaid i’r rheolwr cynllun, ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy’n diweddu ar neu ar ôl 31 Mawrth 2016 (“blwyddyn ariannol berthnasol”) anfon yr wybodaeth ganlynol mewn ysgrifen at Weinidogion Cymru—
  • (a) y cyfanswm a amcangyfrifir gan y rheolwr cynllun a fydd yn daladwy allan o’r CBDT yn y flwyddyn ariannol honno;
  • (b) y cyfanswm a amcangyfrifir gan y rheolwr cynllun a gredydir i’r CBDT yn y flwyddyn ariannol honno;
  • (c) y cyfrifon nas archwiliwyd mewn perthynas â’r CBDT am y flwyddyn ariannol honno;
  • (d) y cyfrifon archwiliedig mewn perthynas â’r CBDT am y flwyddyn ariannol honno;
  • (e) y cyfanswm a dalwyd allan o’r CBDT yn y flwyddyn ariannol honno; ac
  • (f) y cyfanswm a dalwyd i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn ariannol honno.
  • (2) Rhaid anfon yr wybodaeth ym mharagraff (1) yn y ffurf a bennir mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru.
  • (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), rhaid i’r rheolwr cynllun anfon yr amcangyfrif ar gyfer pob blwyddyn ariannol berthnasol at Weinidogion Cymru erbyn pa bynnag ddyddiad, cyn dechrau’r flwyddyn ariannol berthnasol, a bennir mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru.
  • (4) Os bydd y rheolwr cynllun yn diwygio unrhyw ran o’r wybodaeth a anfonir yn yr amcangyfrif, rhaid i’r rheolwr cynllun anfon yr wybodaeth ddiwygiedig (“yr amcangyfrif diwygiedig”) at Weinidogion Cymru erbyn pa bynnag ddyddiad yn ystod y flwyddyn ariannol berthnasol, a bennir mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru.
  • (5) Rhaid i’r rheolwr cynllun anfon yr wybodaeth nas archwiliwyd at Weinidogion Cymru erbyn pa bynnag ddyddiad ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol a bennir mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru.
  • (6) Rhaid i’r rheolwr cynllun anfon yr wybodaeth archwiliedig at Weinidogion Cymru erbyn pa bynnag ddyddiad ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol a bennir mewn ysgrifen gan Weinidogion Cymru.
  • (7) Mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol sy’n diweddu ar 31 Mawrth 2016, rhaid i’r rheolwr cynllun anfon yr amcangyfrif at Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl dechrau’r flwyddyn ariannol honno.

Amcangyfrifon o ddiffygion

135
  • (1) Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth yr amcangyfrif ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, y bydd y cyfanswm sy’n debygol o fod yn daladwy allan o’r CBDT yn y flwyddyn ariannol berthnasol yn fwy na’r cyfanswm sy’n debygol o fod yn daladwy i mewn i’r CBDT honno yn y flwyddyn honno, rhaid i Weinidogion Cymru dalu swm i’r rheolwr cynllun sy’n hafal i 80% o’r diffyg tebygol.
  • (2) Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw amcangyfrif diwygiedig ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, y bydd—
  • (a) y cyfanswm sy’n debygol o fod yn daladwy allan o’r CBDT yn y flwyddyn ariannol berthnasol yn fwy na’r cyfanswm sy’n debygol o fod yn daladwy i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn honno; a
  • (b) 80% o’r diffyg tebygol yn fwy nag—
  • (i) y swm a dalwyd neu sy’n daladwy gan Weinidogion Cymru i’r rheolwr cynllun o dan baragraff (1) mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, neu
  • (ii) os nad oedd unrhyw swm o’r fath wedi ei dalu neu’n daladwy gan Weinidogion Cymru, sero,

caiff Gweinidogion Cymru dalu i’r rheolwr cynllun ba bynnag swm a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru.

  • (3) Os yw Gweinidogion Cymru wedi talu swm i reolwr cynllun o dan baragraffau (1) a (2), rhaid i gyfanswm y symiau hynny beidio â bod yn fwy nag 80% o ddiffyg tebygol yr CBDT am y flwyddyn honno.
  • (4) Os telir swm gan Weinidogion Cymru i reolwr cynllun o dan baragraff (2), nid yw unrhyw swm a dalwyd neu a fyddai wedi bod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol gan y rheolwr cynllun i Weinidogion Cymru o dan reoliad 136(1) (amcangyfrifon o wargedion), i’w dalu, neu, os talwyd swm o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu’r swm hwnnw.
  • (5) Rhaid i Weinidogion Cymru wneud y taliad i’r rheolwr cynllun o dan baragraff (1) cyn diwedd Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol berthnasol neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.
  • (6) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud taliad o dan baragraff (2) neu ad-daliad o dan baragraff (4), rhaid gwneud y taliad neu ad-daliad cyn diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.

Amcangyfrifon o wargedion

136
  • (1) Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth yr amcangyfrif ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, y bydd y cyfanswm sy’n debygol o gael ei dalu i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn ariannol berthnasol yn fwy na’r cyfanswm sy’n debygol o fod yn daladwy allan o’r CBDT yn y flwyddyn honno, rhaid i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod rheolwr cynllun yn talu i Weinidogion Cymru swm sy’n hafal i 80% o’r gwarged tebygol.
  • (2) Os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth unrhyw amcangyfrif diwygiedig ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, y bydd—
  • (a) y cyfanswm sy’n debygol o gael ei dalu i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn ariannol berthnasol yn fwy na’r cyfanswm sy’n debygol o fod yn daladwy allan o’r CBDT yn y flwyddyn honno; a
  • (b) 80% o’r gwarged tebygol yn fwy nag—
  • (i) y swm a dalwyd neu sy’n daladwy gan y rheolwr cynllun i Weinidogion Cymru o dan baragraff (1) mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol, neu
  • (ii) os nad oedd unrhyw swm o’r fath wedi ei dalu neu’n daladwy gan y rheolwr cynllun, sero,

caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn talu i Weinidogion Cymru ba bynnag swm y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu drwy hysbysiad ysgrifenedig.

  • (3) Os yw’r rheolwr cynllun wedi talu swm i Weinidogion Cymru o dan baragraffau (1) a (2), rhaid i gyfanswm y symiau hynny beidio â bod yn fwy nag 80% o warged tebygol yr CBDT am y flwyddyn honno.
  • (4) Os yw Gweinidogion Cymru yn ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn talu swm o dan baragraff (2), nid yw unrhyw swm a dalwyd neu a fyddai wedi bod yn daladwy mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol gan Weinidogion Cymru i’r rheolwr cynllun o dan reoliad 135(1) (amcangyfrifon o ddiffygion), i’w dalu, neu, os talwyd swm o’r fath, rhaid i’r rheolwr cynllun ei ad-dalu.
  • (5) Rhaid i Weinidogion Cymru roi i’r rheolwr cynllun, ar neu cyn 3 Mawrth yn y flwyddyn ariannol berthnasol, hysbysiad ysgrifenedig o swm unrhyw daliad neu ad-daliad y mae’n ofynnol gan Weinidogion Cymru fod y rheolwr cynllun yn ei wneud o dan baragraff (1), (2) neu (4).
  • (6) Pan ei gwneir yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn gwneud taliad o dan baragraffau (1) neu (2) neu ad-daliad o dan baragraff (4), rhaid gwneud y taliad neu ad-daliad cyn diwedd y flwyddyn ariannol berthnasol neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.

Diffygion gwirioneddol

137
  • (1) Pan yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth yr wybodaeth nas archwiliwyd ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, y bydd y cyfanswm sy’n debygol o fod yn daladwy allan o’r CBDT yn y flwyddyn ariannol berthnasol yn fwy na’r cyfanswm sy’n debygol o gael ei dalu neu o fod yn daladwy i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn honno—
  • (a) os yw’r diffyg tebygol (“y diffyg nas archwiliwyd”) yn fwy na chyfanswm unrhyw symiau a dalwyd neu sy’n daladwy i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan reoliad 135(1) neu (2) (amcangyfrifon o ddiffygion) (“y cyfanswm rheoliad 135”), rhaid i Weinidogion Cymru dalu i’r rheolwr cynllun swm y diffyg nas archwiliwyd llai’r cyfanswm rheoliad 135;
  • (b) os yw’r diffyg nas archwiliwyd yn llai na’r cyfanswm rheoliad 135, nid yw swm y cyfanswm rheoliad 135 llai’r diffyg nas archwiliwyd yn daladwy o dan reoliad 135(1) neu (2), ac os talwyd y swm hwnnw eisoes, rhaid i’r rheolwr cynllun ad-dalu’r swm hwnnw i Weinidogion Cymru;
  • (c) os nad oedd unrhyw swm wedi ei dalu neu’n daladwy gan Weinidogion Cymru i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol o dan reoliad 135(1) neu (2), rhaid i Weinidogion Cymru dalu i’r rheolwr cynllun swm y diffyg nas archwiliwyd; a
  • (d) nid yw unrhyw swm yn daladwy, a dalwyd neu a oedd yn daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan reoliad 136(1) neu (2), ac os talwyd swm o’r fath eisoes, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu’r swm hwnnw i’r rheolwr cynllun.
  • (2) Pan yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth yr wybodaeth archwiliedig ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, fod y cyfanswm a dalwyd neu sy’n daladwy allan o’r CBDT yn y flwyddyn berthnasol yn fwy na’r cyfanswm a dalwyd neu sy’n daladwy i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn honno—
  • (a) os yw’r gwahaniaeth rhwng y cyfansymiau hynny (“y diffyg archwiliedig”) yn fwy na chyfanswm unrhyw symiau a dalwyd (nad ydynt wedi eu had-dalu nac yn ad-daladwy) neu sy’n daladwy i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan baragraff (1)(a) neu (c) neu reoliad 135(1) neu (2) (“y cyfanswm nas archwiliwyd”), rhaid i Weinidogion Cymru dalu i’r rheolwr cynllun swm y diffyg archwiliedig llai’r cyfanswm nas archwiliwyd;
  • (b) os yw’r diffyg archwiliedig yn llai na’r cyfanswm nas archwiliwyd, nid yw swm y cyfanswm nas archwiliwyd llai’r diffyg archwiliedig yn daladwy o dan baragraffau (1)(a) neu (c) na rheoliad 135(1) neu (2), ac os talwyd y swm hwnnw eisoes, rhaid i’r rheolwr cynllun ei ad-dalu i Weinidogion Cymru;
  • (c) os nad oedd unrhyw swm wedi ei dalu neu’n daladwy gan Weinidogion Cymru i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol o dan baragraffau (1)(a) neu (c) neu reoliad 135(1) neu (2), rhaid i Weinidogion Cymru dalu i’r rheolwr cynllun swm y diffyg archwiliedig; a
  • (d) nid yw unrhyw swm yn daladwy, a dalwyd neu a oedd yn daladwy i Weinidogion Cymru mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol o dan reoliad 136(1) neu (2) neu reoliad 138(1)(a) neu (c), ac os talwyd swm o’r fath eisoes, rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu’r swm hwnnw i’r rheolwr cynllun.
  • (3) Pan yw’n ofynnol bod Gweinidogion Cymru, neu’r rheolwr cynllun, yn ôl fel y digwydd, yn gwneud taliad neu ad-daliad o dan baragraff (1), rhaid ei wneud cyn diwedd Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol berthnasol (“yr ail flwyddyn”) neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.
  • (4) Pan yw’n ofynnol bod Gweinidogion Cymru, neu’r rheolwr cynllun, yn ôl fel y digwydd, yn gwneud taliad neu ad-daliad o dan baragraff (2), rhaid ei wneud cyn diwedd Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn yr ail flwyddyn neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.

Gwargedion gwirioneddol

138
  • (1) Pan yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth yr wybodaeth nas archwiliwyd ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, y bydd y cyfanswm a delir i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn ariannol berthnasol yn fwy na’r cyfanswm a delir allan o’r CBDT yn y flwyddyn honno—
  • (a) os yw’r gwahaniaeth rhwng y cyfansymiau hynny (“y gwarged nas archwiliwyd”) yn fwy na chyfanswm unrhyw symiau a dalwyd neu sy’n daladwy i Weinidogion Cymru gan y rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan reoliad 136(1) neu (2) (“y cyfanswm rheoliad 136”), rhaid i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn talu i Weinidogion Cymru swm y gwarged nas archwiliwyd llai’r cyfanswm rheoliad 136;
  • (b) os yw’r gwarged nas archwiliwyd yn llai na’r cyfanswm rheoliad 136, nid yw swm y cyfanswm rheoliad 136 llai’r gwarged nas archwiliwyd yn daladwy o dan reoliad 136(1) neu (2), ac os talwyd y swm hwnnw eisoes, rhaid i Weinidogion Cymru ei ad-dalu i’r rheolwr cynllun;
  • (c) os nad oedd unrhyw swm wedi ei dalu neu’n daladwy i Weinidogion Cymru gan y rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol o dan reoliad 136(1) neu (2), rhaid i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn talu i Weinidogion Cymru swm y gwarged nas archwiliwyd; a
  • (d) nid yw unrhyw swm yn daladwy, a dalwyd neu a oedd yn daladwy gan Weinidogion Cymru i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan reoliad 135(1) neu (2), ac os talwyd swm o’r fath eisoes, rhaid i’r rheolwr cynllun ei ad-dalu i Weinidogion Cymru.
  • (2) Pan yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru, ar ôl cymryd i ystyriaeth yr wybodaeth archwiliedig ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall, fod y cyfanswm a dalwyd i mewn i’r CBDT yn y flwyddyn ariannol berthnasol yn fwy na’r cyfanswm taladwy allan o’r CBDT honno yn y flwyddyn honno—
  • (a) os yw’r gwahaniaeth rhwng y cyfansymiau hynny (“y gwarged archwiliedig”) yn fwy na chyfanswm unrhyw symiau a dalwyd (nad ydynt wedi eu had-dalu nac yn ad-daladwy) neu sy’n daladwy i Weinidogion Cymru gan y rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan baragraff (1)(a) neu (c) neu reoliad 136(1) neu (2) (“y cyfanswm rheoliad 136 nas archwiliwyd”), rhaid i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn talu i Weinidogion Cymru allan o’r CBDT swm y gwarged archwiliedig llai’r cyfanswm rheoliad 136 nas archwiliwyd;
  • (b) os yw’r gwarged archwiliedig yn llai na’r cyfanswm rheoliad 136 nas archwiliwyd, nid yw swm y cyfanswm rheoliad 136 nas archwiliwyd llai’r gwarged archwiliedig yn daladwy o dan baragraffau (1)(a) neu (c) neu reoliad 136(1) neu (2), ac os talwyd y swm hwnnw eisoes, rhaid i Weinidogion Cymru ei ad-dalu i’r rheolwr cynllun;
  • (c) os nad oedd unrhyw swm wedi ei dalu neu’n daladwy i Weinidogion Cymru gan y rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol berthnasol o dan baragraffau (1)(a) neu (c) neu reoliad 136(1) neu (2), rhaid i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn talu i Weinidogion Cymru swm y gwarged archwiliedig; a
  • (d) nid yw unrhyw swm yn daladwy, a dalwyd neu a oedd yn daladwy gan Weinidogion Cymru i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r flwyddyn honno o dan reoliad 135(1) neu (2) neu reoliad 137(1)(a) neu (c), ac os talwyd swm o’r fath eisoes, rhaid i’r rheolwr cynllun ei ad-dalu i Weinidogion Cymru.
  • (3) Rhaid i Weinidogion Cymru roi i’r rheolwr cynllun, ar neu cyn 3 Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol berthnasol (“yr ail flwyddyn”), hysbysiad ysgrifenedig o swm y taliad y mae’n ofynnol gan Weinidogion Cymru fod y rheolwr cynllun yn ei wneud o dan baragraff (1)(a) neu (c).
  • (4) Pan yw’n ofynnol bod Gweinidogion Cymru, neu’r rheolwr cynllun, yn ôl fel y digwydd, yn gwneud taliad neu ad-daliad o dan baragraff (1), rhaid ei wneud cyn diwedd Gorffennaf yn yr ail flwyddyn neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.
  • (5) Rhaid i Weinidogion Cymru roi i’r rheolwr cynllun, ar neu cyn 3 Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol sydd yr ail flwyddyn ariannol yn dilyn y flwyddyn ariannol berthnasol (“y drydedd flwyddyn”), hysbysiad ysgrifenedig o swm unrhyw daliad y mae’n ofynnol gan Weinidogion Cymru fod y rheolwr cynllun yn ei wneud o dan baragraff (2)(a) neu (c).
  • (6) Pan yw’n ofynnol bod Gweinidogion Cymru, neu’r rheolwr cynllun, yn ôl fel y digwydd, yn gwneud taliad neu ad-daliad o dan baragraff (2), rhaid ei wneud cyn diwedd Gorffennaf yn y drydedd flwyddyn neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl hynny.

Dyletswydd i ddarparu gwybodaeth

139
  • (1) Rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu i Weinidogion Cymru ba bynnag wybodaeth sy’n berthnasol ar gyfer arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru o dan y Rhan hon, fel y caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol.
  • (2) Rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu’r wybodaeth sy’n ofynnol o fewn y cyfnod o amser a bennir gan Weinidogion Cymru yn yr hysbysiad hwnnw, neu o fewn pa bynnag gyfnod ychwanegol a ganiateir gan Weinidogion Cymru.

Cymhwyso’r Rhan hon

140

Mae’r Rhan hon—

  • (a) yn ychwanegu at yr hawliau a roddir gan neu o dan Bennod 4 o Ran 4 o DCauP 1993 (gwerthoedd trosglwyddo) ac nid yw’n lleihau dim ar effaith y Bennod honno; a
  • (b) yn ychwanegu at yr hawliau a roddir gan neu o dan Bennod 5 o’r Rhan honno (ymadawyr cynnar: trosglwyddo symiau ariannol ac ad-dalu cyfraniadau)[^f00062] ac nid yw’n lleihau dim ar effaith y Bennod honno.

Dehongli mewn perthynas â’r Rhan hon

141

Yn y Rhan hon—

  • ystyr “cyfwerth ariannol” (“cash equivalent”) yw swm a gyfrifir yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 97 o DCauP 1993; ystyr “cyfwerth ariannol gwarantedig” (“guaranteed cash equivalent”), mewn perthynas â chyfrifo gwerth trosglwyddiad o hawliau cronedig i gael buddion o dan y cynllun hwn, yw cyfwerth ariannol y buddion hynny fel ar y dyddiad gwarant, fel y’i pennir mewn datganiad o hawlogaeth; ystyr “datganiad o hawlogaeth” (“statement of entitlement”), mewn perthynas â hawliau cronedig aelod actif neu aelod gohiriedig i gael buddion o dan y cynllun hwn, yw datganiad gan y rheolwr cynllun o gyfwerth ariannol neu werth trosglwyddiad clwb y buddion hynny fel ar y dyddiad gwarant; mae i “dyddiad gwarant” (“guarantee date”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 144 (datganiad o hawlogaeth); ystyr “gwerth trosglwyddiad” (“transfer value”), mewn perthynas â hawliau cronedig i gael buddion ac eithrio pensiwn enilledig cronedig sy’n destun trosglwyddiad clwb, yw— yn achos hawliau cronedig i fuddion o dan y cynllun hwn, swm sy’n hafal i— cyfwerth ariannol gwarantedig y buddion hynny, neu y cyfwerth ariannol gwarantedig ynghyd ag unrhyw gynnydd sy’n daladwy o dan reoliad 146 (cyfrifo swm gwerth trosglwyddiad neu werth trosglwyddiad clwb), a yn achos hawliau cronedig i fuddion o dan gynllun pensiwn arall, swm— a benderfynir gan actiwari cynllun y cynllun hwnnw, a a bennir mewn datganiad o hawliau cronedig a ddarperir gan reolwr cynllun y cynllun hwnnw; ac ystyr “gwerth trosglwyddiad clwb” (“club transfer value”), mewn perthynas â swm pensiwn enilledig cronedig o dan y cynllun hwn neu o dan gynllun clwb arall, yw swm a gyfrifir gan y rheolwr cynllun— yn unol â’r trefniadau trosglwyddiadau clwb, a drwy gyfeirio at y canllawiau a thablau a ddarperir gan Actiwari’r Llywodraeth at y diben hwn, sydd mewn defnydd ar y dyddiad a ddefnyddir ar gyfer y cyfrifiad.

Taliadau trosglwyddo a wneir i gynlluniau neu drefniadau pensiwn eraill

142
  • (1) Ni chaniateir gwneud taliad trosglwyddo ac eithrio mewn cysylltiad â hawliau cronedig i gael buddion aelod actif neu aelod gohiriedig o’r cynllun hwn.
  • (2) Ni chaniateir gwneud taliad trosglwyddo ac eithrio i’r canlynol—
  • (a) cynllun pensiwn cofrestredig nad yw’n gynllun cysylltiedig; neu
  • (b) trefniant pensiwn sy’n gynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymwys at ddibenion Rhan 4 o DC 2004 (gweler adran 169(2) o’r Ddeddf honno)[^f00063].
  • (3) Ni chaniateir gwneud taliad trosglwyddo mewn cysylltiad â hawliau sy’n briodoladwy (yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol) i gredyd pensiwn.
  • (4) Ni chaiff aelod ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn defnyddio taliad trosglwyddo mewn unrhyw ffordd ac eithrio ffordd a bennir yn adran 95(2) o DCauP 1993[^f00064].
  • (5) Ni chaiff aelod ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn gwneud taliad gwerth trosglwyddiad clwb ac eithrio yn ystod y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau gyda’r diwrnod y daw’r aelod yn gymwys i fod yn aelod actif o’r cynllun y gwneir y taliad iddo.
  • (6) Rhaid gwneud y cyfan o’r taliad trosglwyddo yn unol â darpariaethau’r rheoliad hwn.
  • (7) Os yw adran 96(2) o DCauP 1993 (ymddiriedolwyr neu reolwyr cynlluniau neu drefniadau penodol sy’n derbyn, nad ydynt yn alluog a bodlon i dderbyn taliad trosglwyddo, ac eithrio mewn cysylltiad â hawliau eraill yr aelod) yn gymwys[^f00065], caniateir eithrio o’r taliad trosglwyddo unrhyw fuddion sy’n briodoladwy i’r canlynol—
  • (a) hawliau cronedig yr aelod i leiafswm pensiwn gwarantedig; a
  • (b) hawliau cronedig yr aelod sy’n briodoladwy i wasanaeth mewn cyflogaeth a gontractiwyd allan o fewn ystyr Rhan 3 o DCauP 1993, ar neu ar ôl 6 Ebrill 1997.

Cais am ddatganiad o hawlogaeth

143
  • (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag aelod actif neu ohiriedig o’r cynllun hwn (P) sy’n gofyn am i daliad trosglwyddo gael ei wneud mewn cysylltiad â’i hawliau cronedig i gael buddion o dan y cynllun hwn.
  • (2) Cyn gofyn am daliad trosglwyddo, rhaid i P wneud cais am ddatganiad o hawlogaeth, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun.
  • (3) Caiff P dynnu’n ôl y cais drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun ar unrhyw adeg cyn darparu’r datganiad.
  • (4) Caiff P wneud ail gais yn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau gyda dyddiad y cais cyntaf.

Datganiad o hawlogaeth

144
  • (1) Yn y datganiad o hawlogaeth, rhaid i’r rheolwr cynllun bennu’r dyddiad y cyfrifir y cyfwerth ariannol neu’r gwerth trosglwyddiad clwb drwy gyfeirio ato (“y dyddiad gwarant”).
  • (2) Ac eithrio pan fo paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r dyddiad gwarant fod o fewn y ddau gyfnod canlynol—
  • (a) y cyfnod o dri mis sy’n dechrau gyda dyddiad cais yr aelod am y datganiad o hawlogaeth (“y cyfnod o dri mis”); a
  • (b) y cyfnod o 10 diwrnod sy’n diweddu gyda’r dyddiad pan ddarperir y datganiad hwnnw i’r aelod (“y cyfnod o 10 diwrnod”).
  • (3) Wrth gyfrif y cyfnod o 10 diwrnod, rhaid peidio â chynnwys dyddiau Sadwrn, dyddiau Sul, Dydd Nadolig, Dydd Calan na Dydd Gwener y Groglith.
  • (4) Caiff y rheolwr cynllun, yn y datganiad o hawlogaeth, bennu dyddiad gwarant sy’n dod o fewn y chwe mis sy’n dechrau gyda dyddiad cais yr aelod am ddatganiad o hawlogaeth—
  • (a) os, am resymau sydd y tu hwnt i reolaeth y rheolwr cynllun, na ellir cael yr wybodaeth sydd ei hangen i gyfrifo swm y cyfwerth ariannol neu’r gwerth trosglwyddiad clwb cyn diwedd y cyfnod o dri mis; a
  • (b) os yw’r rheolwr cynllun o’r farn ei bod yn rhesymol pennu dyddiad gwarant sydd y tu allan i’r cyfnod o dri mis.

Cais am wneud taliad trosglwyddo

145
  • (1) Caiff aelod actif neu ohiriedig o’r cynllun hwn, y darparwyd iddo ddatganiad o hawlogaeth, wneud cais am wneud taliad trosglwyddo mewn cysylltiad â hawliau cronedig yr aelod i gael buddion o dan y cynllun hwn.
  • (2) Rhaid gwneud y cais am daliad trosglwyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun, a phennu’r cynllun pensiwn neu’r trefniant pensiwn arall y gwneir y taliad trosglwyddo i mewn iddo.
  • (3) Rhaid i aelod gohiriedig arfer yr hawl i wneud cais am daliad o werth trosglwyddiad clwb ar neu cyn y cynharaf o’r canlynol, sef y diwrnod cyn bo’r aelod gohiriedig yn cyrraedd yr oedran pensiwn gohiriedig, a diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau gyda’r dyddiad y peidiodd yr aelod gohiriedig â bod yn aelod actif o’r cynllun.
  • (4) Rhaid i aelod gohiriedig arfer yr hawl i wneud cais am daliad o werth drosglwyddo ar neu cyn y dyddiad cyn y diwrnod y mae’r aelod gohiriedig yn cyrraedd yr oedran pensiwn gohiriedig.
  • (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), caiff yr aelod, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun, dynnu’r cais yn ôl ar unrhyw adeg cyn gwneud y taliad trosglwyddo.
  • (6) Ni chaiff yr aelod dynnu’r cais yn ôl os ymunwyd eisoes mewn cytundeb gyda thrydydd parti ar gyfer defnyddio’r cyfan neu ran o’r taliad trosglwyddo.

Cyfrifo swm gwerth trosglwyddiad neu werth trosglwyddiad clwb

146
  • (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid cyfrifo swm y gwerth trosglwyddo yn unol â chanllawiau actiwaraidd, fel ar y dyddiad gwarant.
  • (2) Os telir gwerth trosglwyddo yn ddiweddarach na chwe mis ar ôl y dyddiad gwarant, rhaid cynyddu swm y cyfwerth ariannol gwarantedig yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 97 (cyfrifo cyfwerthoedd ariannol) o DCauP 1993[^f00066].
  • (3) Os telir gwerth trosglwyddiad clwb yn ddiweddarach na chwe mis ar ôl y dyddiad gwarant, yna, os bydd angen, rhaid cynyddu swm y gwerth trosglwyddiad clwb fel y’i pennir yn y datganiad o hawlogaeth, fel bo’r swm yn hafal i’r hyn y byddai wedi bod, pe bai’r taliad wedi ei wneud ar y dyddiad gwarant.
  • (4) Os yw’r gwerth trosglwyddiad neu’r gwerth trosglwyddiad clwb yn llai na’r lleiafswm gwerth trosglwyddo, rhaid cynyddu swm y gwerth trosglwyddiad neu’r gwerth trosglwyddiad clwb fel y bo’n hafal i’r lleiafswm gwerth trosglwyddo.
  • (5) Yn y rheoliad hwn—
  • ystyr “y lleiafswm gwerth trosglwyddo” (“the minimum transfer value”) yw cyfanswm y canlynol— swm yr holl gyfraniadau aelod a thaliadau pensiwn ychwanegol a wnaed gan yr aelod; a swm yr holl daliadau trosglwyddo a dderbyniwyd gan y cynllun hwn mewn perthynas â’r aelod.

Effaith trosglwyddiadau allan

147

Os gwneir taliad trosglwyddo o dan y Bennod hon mewn cysylltiad â hawliau cronedig aelod i gael buddion o dan y cynllun hwn, mae’r hawliau hynny’n cael eu diddymu.

Cymhwyso’r Bennod

148

Mae’r Bennod hon yn gymwys mewn perthynas ag aelod actif o’r cynllun hwn sydd â hawliau cronedig o dan gynllun pensiwn arall (P).

Dehongli’r Bennod

149

Yn y Bennod hon—

  • ystyr “cais am daliad trosglwyddo” (“transfer payment request”) yw cais i’r rheolwr cynllun o dan y Bennod hon am dderbyn taliad trosglwyddo oddi wrth gynllun pensiwn arall; ystyr “cynllun pensiwn arall” (“another pension scheme”) yw— cynllun pensiwn galwedigaethol arall sy’n gynllun pensiwn cofrestredig ond nad yw’n gynllun cysylltiedig, cynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymwys at ddibenion Rhan 4 o DC 2004, neu cynllun pensiwn personol; ystyr “datganiad gwerth trosglwyddiad clwb” (“club transfer value statement”) yw datganiad o dan reoliad 153 (datganiad gwerth trosglwyddiad clwb) o swm pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb; ystyr “datganiad trosglwyddo” (“transfer statement”) yw datganiad o dan reoliad 151 (datganiad trosglwyddo); ac ystyr “dyddiad trosglwyddo” (“transfer date”) yw’r cynharaf o’r canlynol— os yw’r rheolwr cynllun wedi darparu datganiad trosglwyddo neu ddatganiad gwerth trosglwyddiad clwb, y diwrnod olaf o’r cyfnod o ddau fis sy’n dechrau gyda dyddiad y datganiad, neu y diwrnod pan fo’r rheolwr cynllun yn cael y taliad trosglwyddo.

Cais am dderbyn taliad trosglwyddo

150
  • (1) Caiff P, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun, wneud cais am dderbyn taliad trosglwyddo mewn cysylltiad â rhai neu’r cwbl o hawliau cronedig P o dan gynllun pensiwn arall.
  • (2) O ran cais taliad trosglwyddo—
  • (a) rhaid iddo bennu—
  • (i) y cynllun pensiwn y gwneir cais am i’r taliad trosglwyddo gael ei dderbyn allan ohono, a
  • (ii) swm disgwyliedig y taliad trosglwyddo; a
  • (b) yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid iddo gael ei wneud cyn dechrau’r cyfnod o un flwyddyn sy’n diweddu gyda’r dyddiad pan fo’r aelod yn cyrraedd oedran pensiwn arferol.
  • (3) Rhaid gwneud cais am dderbyn taliad trosglwyddo oddi wrth gynllun pensiwn analwedigaethol yn ystod y cyfnod o un flwyddyn sy’n dechrau gyda’r diwrnod pan ddaw’r aelod yn aelod actif, neu pa bynnag gyfnod hwy a ganiateir gan y rheolwr cynllun.
  • (4) Ar ôl cael cais am daliad trosglwyddo, caiff y rheolwr cynllun dderbyn y taliad trosglwyddo.

Datganiad trosglwyddo

151
  • (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag—
  • (a) cais am dderbyn taliad trosglwyddo oddi wrth gynllun pensiwn arall nad yw’n gynllun clwb; a
  • (b) cais am dderbyn taliad trosglwyddo mewn cysylltiad â phensiwn ychwanegol oddi wrth gynllun clwb arall.
  • (2) Caiff y rheolwr cynllun ei gwneud yn ofynnol bod P, cyn gwneud cais am daliad trosglwyddo, yn gofyn i reolwr cynllun y cynllun arall ddarparu datganiad o swm y pensiwn trosglwyddedig, wedi ei gyfrifo yn unol â chanllawiau actiwaraidd, y bydd hawl gan P i’w gyfrif o dan reoliad 152 (swm y pensiwn a drosglwyddir), ar yr amod bod y dyddiad trosglwyddo yn digwydd o fewn y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau gyda dyddiad y datganiad hwnnw.

Swm pensiwn trosglwyddedig

152
  • (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag—
  • (a) unrhyw daliad trosglwyddo a geir mewn perthynas â P oddi wrth gynllun pensiwn arall nad yw’n gynllun clwb; a
  • (b) unrhyw daliad trosglwyddo mewn cysylltiad â phensiwn ychwanegol a geir mewn perthynas â P oddi wrth gynllun clwb arall.
  • (2) Ar gyfer y flwyddyn gynllun y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi, swm y pensiwn trosglwyddedig y mae hawl gan P i’w gyfrif mewn cysylltiad â’r taliad trosglwyddo yw—
  • (a) y swm a bennir yn y datganiad trosglwyddo; neu
  • (b) os na ddarparwyd datganiad o’r fath neu os na chyfrifwyd y swm yn unol â chanllawiau actiwaraidd, swm a gyfrifir gan y rheolwr cynllun yn unol â chanllawiau actiwaraidd.

Datganiad o werth trosglwyddiad clwb

153
  • (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â chais am dderbyn taliad gwerth trosglwyddiad clwb oddi wrth gynllun clwb arall.
  • (2) Caiff y rheolwr cynllun ei gwneud yn ofynnol bod P, cyn gwneud y cais am daliad trosglwyddo, yn gofyn i reolwr cynllun y cynllun sy’n anfon ddarparu datganiad o swm y pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb, wedi ei gyfrifo yn unol â chanllawiau actiwaraidd, y bydd hawl gan P i’w gyfrif o dan reoliad 154 (swm pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb), ar yr amod bod y dyddiad trosglwyddo yn digwydd o fewn y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau gyda dyddiad y datganiad hwnnw.
  • (3) Rhaid i’r datganiad bennu ar ba sail yr ailbrisiwyd swm o bensiwn enilledig cronedig o dan y cynllun sy’n anfon tra oedd yr aelod mewn gwasanaeth pensiynadwy o dan y cynllun hwnnw.

Swm pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb

154
  • (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â thaliad gwerth trosglwyddiad clwb a gafwyd oddi wrth gynllun clwb arall.
  • (2) Ar gyfer y flwyddyn gynllun y mae’r dyddiad trosglwyddo yn digwydd ynddi, swm y pensiwn enilledig trosglwyddiad clwb y mae hawl gan P i’w gyfrif yw—
  • (a) y swm a bennir yn y datganiad gwerth trosglwyddiad clwb; neu
  • (b) os na ddarparwyd datganiad o’r fath neu os nad yw wedi ei gyfrifo yn unol â chanllawiau actiwaraidd, swm a gyfrifir gan y rheolwr cynllun yn unol â chanllawiau actiwaraidd.

Gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif

155
  • (1) Yn achos aelod actif y peidiodd â bod yn gyflogedig mewn cyflogaeth gynllun gydag un cyflogwr ac a ddechreuodd mewn cyflogaeth gynllun gydag awdurdod arall, rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu tystysgrif sy’n datgan—
  • (a) y cofnodion yn y cyfrif pensiwn, neu’r cyfrifon pensiwn os oes mwy nag un, ar ddyddiad y dystysgrif;
  • (b) y cyfnod o wasanaeth pensiynadwy yn y gyflogaeth neu’r cyflogaethau cynllun, gyda’r cyflogwr; ac
  • (c) y dyddiad y rhoddir y dystysgrif.
  • (2) Pan fo aelod gohiriedig wedi dechrau mewn cyflogaeth gynllun gydag awdurdod arall ar ôl bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy nad yw’n hwy na phum mlynedd, rhaid i’r aelod ofyn i’r rheolwr cynllun mewn perthynas â’r cyfnod cynharaf o wasanaeth pensiynadwy ddarparu i’r aelod dystysgrif sy’n datgan—
  • (a) y cofnodion yn y cyfrif pensiwn, neu’r cyfrifon pensiwn os oes mwy nag un, ar ddyddiad y dystysgrif;
  • (b) y cyfnod o wasanaeth pensiynadwy yn y gyflogaeth neu’r cyflogaethau cynllun, gyda’r cyflogwr hwnnw;
  • (c) y dyddiad y peidiodd yr aelod â bod yn gyflogedig mewn cyflogaeth gynllun gan y cyflogwr hwnnw; a
  • (d) y dyddiad y rhoddir y dystysgrif.
  • (3) Pan yw’n ofynnol bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif o dan baragraff (1) a’r rheolwr cynllun wedi sefydlu cyfrif pensiwn ychwanegol ar gyfer yr aelod hwnnw, rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu tystysgrif i’r aelod, sy’n datgan—
  • (a) y cofnodion yn y cyfrif pensiwn ychwanegol ar ddyddiad y dystysgrif;
  • (b) y dyddiad y rhoddir y dystysgrif; ac
  • (c) manylion dewisiad pensiwn ychwanegol yr aelod os nad yw’r cyfnod cyfraniadau wedi dod i ben.
  • (4) Pan yw’n ofynnol bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif o dan baragraff (2), neu pan fo aelod gohiriedig yn bwriadu gwneud dewisiad pensiwn ychwanegol ar ôl dechrau cyflogaeth gynllun yn dilyn bwlch mewn gwasanaeth pensiynadwy sy’n hwy na phum mlynedd, a’r rheolwr cynllun mewn perthynas â chyfnod blaenorol o wasanaeth pensiynadwy wedi sefydlu cyfrif pensiwn ychwanegol, rhaid i’r rheolwr cynllun, os gofynnir iddo gan yr aelod, ddarparu tystysgrif i’r aelod, sy’n datgan—
  • (a) y cofnodion yn y cyfrif pensiwn ar ddyddiad y dystysgrif;
  • (b) y dyddiad y peidiodd yr aelod â bod yn gyflogedig mewn cyflogaeth gynllun gan y cyflogwr hwnnw; ac
  • (c) y dyddiad y rhoddir y dystysgrif.
  • (5) Pan fo gan aelod actif ddau neu ragor o gyfrifon aelod actif gyda dau neu ragor o reolwyr cynllun gwahanol, a’r aelod yn bwriadu gwneud, neu wedi gwneud, dewisiad pensiwn ychwanegol, caiff yr aelod ofyn am dystysgrif gan y rheolwr cynllun a sefydlodd y cyfrif pensiwn ychwanegol er mwyn gallu darparu’r dystysgrif honno i reolwr cynllun arall (B) mewn cysylltiad â chyfrif aelod actif gwahanol, fel y gellir trosglwyddo’r cofnodion i gyfrif pensiwn ychwanegol a sefydlir gan B.
  • (6) Rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu tystysgrif o dan y rheoliad hwn—
  • (a) o fewn tri mis wedi’r dyddiad y mae’r aelod actif yn gadael cyflogaeth gynllun; neu
  • (b) o fewn tri mis wedi’r dyddiad y mae’r aelod gohiriedig yn hysbysu’r rheolwr cynllun o’r gyflogaeth gynllun newydd.

Cais am gadarnhau manylion ar dystysgrif

156

Pan fo tystysgrif wedi ei darparu i aelod o dan reoliad 155 (gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif) a’r aelod yn anfodlon ar yr wybodaeth a ddatgenir ar y dystysgrif, caiff yr aelod, o fewn y cyfnod o dri mis sy’n cychwyn ar y dyddiad y cafwyd y dystysgrif, ofyn i’r rheolwr cynllun a ddarparodd y dystysgrif i gadarnhau cywirdeb yr wybodaeth a gynhwysir ynddi neu i ddarparu tystysgrif ddiwygiedig.

Apêl ynghylch cofnodion ar dystysgrif

157
  • (1) Os nad yw aelod (P) yn fodlon ar y cofnodion sydd ar y dystysgrif, neu’r dystysgrif ddiwygiedig, wedi i P wneud cais o dan reoliad 156 (cais am gadarnhau manylion ar dystysgrif), caiff P, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun a ddarparodd y dystysgrif o fewn 28 i’r dyddiad hysbysu, ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn ymdrin â’r anghytundeb o dan drefniadau a gyflawnwyd gan y rheolwr cynllun yn unol â gofynion adran 50 o Ddeddf Pensiynau 1995[^f00067] (datrys anghydfodau) a Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gweithdrefnau Mewnol i Ddatrys Anghydfodau, Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2008[^f00068].
  • (2) Ym mharagraff (1), “y dyddiad hysbysu” (“the notification date”) yw’r dyddiad a drinnir fel y dyddiad pan oedd P wedi cael gan y rheolwr cynllun naill ai gadarnhad o’r dystysgrif a ddarparwyd o dan reoliad 155 neu dystysgrif ddiwygiedig a ddarparwyd yn dilyn cais gan P o dan reoliad 156 (cais am gadarnhau manylion ar dystysgrif).

Trosglwyddo cofnodion cyfrif pensiwn

158
  • (1) Rhaid i aelod y darparwyd tystysgrif iddo o dan baragraff (1), , (3) neu (4) o reoliad 155 (gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif) roi’r dystysgrif i gyflogwr cynllun newydd yr aelod.
  • (2) Rhaid i’r cyflogwr cynllun newydd ofyn i’r rheolwr cynllun a roddodd y dystysgrif gadarnhau bod yr aelod wedi darparu tystysgrifau mewn cysylltiad â’r holl gyfrifon pensiwn yr oedd y cyflogwr hwnnw’n rheolwr cynllun ar eu cyfer.
  • (3) Rhaid i’r rheolwr cynllun a roddodd y dystysgrif ddarparu cadarnhad i’r cyflogwr newydd fod yr aelod wedi darparu tystysgrifau mewn cysylltiad â phob cyfrif pensiwn yr oedd y cyflogwr hwnnw’n rheolwr cynllun ar eu cyfer.
  • (4) Wedi i’r cadarnhad gael ei ddarparu gan y rheolwr cynllun, rhaid i’r rheolwr cynllun newydd drosglwyddo’r cofnodion priodol o’r dystysgrif i gyfrif pensiwn newydd yr aelod actif a sefydlwyd o dan reoliad 40 (sefydlu cyfrif aelod actif), ac os oedd gan yr aelod gyfrif pensiwn ychwanegol, trosglwyddo’r cofnodion priodol o’r dystysgrif a ddarparwyd mewn cysylltiad â’r cyfrif hwnnw i’r cyfrif pensiwn ychwanegol newydd a sefydlwyd o dan reoliad 47 (sefydlu cyfrif pensiwn ychwanegol).
  • (5) Ar ôl cwblhau trosglwyddo’r cofnodion o dan baragraff (4), rhaid i’r rheolwr cynllun newydd roi gwybod i’r rheolwr cynllun blaenorol fod y trosglwyddo wedi ei wneud a rhaid i’r rheolwr cynllun blaenorol gau’r holl gyfrifon pensiwn sy’n gysylltiedig â’r tystysgrifau a ddarparwyd mewn cysylltiad â’r aelod.
  • (6) Os yw nifer y cyfrifon pensiwn, y darparwyd manylion mewn cysylltiad â hwy gan y rheolwr cynllun blaenorol o dan baragraff (1) neu (2) o reoliad 155 (gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif), yn fwy na nifer y cyfrifon aelod actif a sefydlwyd gan y rheolwr cynllun newydd, rhaid i’r aelod benderfynu, ar ôl ymgynghori â’r rheolwr cynllun newydd, o ba gyfrifon pensiwn y bydd rhaid trosglwyddo cofnodion i’r cyfrif neu gyfrifon aelod actif newydd, a hysbysu’r rheolwr cynllun blaenorol.
  • (7) Pan fo paragraff (6) yn gymwys ac na throsglwyddir cofnodion o un neu ragor o gyfrifon pensiwn, rhaid cau’r cyfrifon hynny a rhaid i’r rheolwr cynllun blaenorol sefydlu cyfrif aelod gohiriedig mewn cysylltiad â phob un o’r cyfrifon hynny.
  • (8) Pan fo aelod wedi ymgymryd â chyflogaeth gynllun gyda dau neu ragor o gyflogwyr ac yn bwriadu gwneud dewisiad pensiwn ychwanegol, caiff yr aelod ddewis i ba reolwr cynllun y rhoddir y dystysgrif a ddarperir o dan baragraff (3) neu (4) o reoliad 155 (gofyniad bod rheolwr cynllun yn darparu tystysgrif).
  • (9) Nid yw’n ofynnol i reolwr cynllun wneud unrhyw daliad i’r rheolwr cynllun newydd mewn cysylltiad â throsglwyddo cyfrif pensiwn.

Penodi actiwari’r cynllun a phrisiadau actiwaraidd

159
  • (1) Rhaid i Weinidogion Cymru benodi unigolyn i ddarparu gwasanaeth ymgynghori ar faterion actiwaraidd mewn perthynas â’r cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig.
  • (2) Actiwari’r cynllun sy’n gyfrifol am—
  • (a) cyflawni prisiadau o’r cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig; a
  • (b) paratoi adroddiadau ar y prisiadau.
  • (3) Cyn penodi unigolyn yn actiwari’r cynllun, rhaid i Weinidogion Cymru fodloni eu hunain bod gan yr unigolyn gymwysterau priodol i gwblhau prisiadau o’r cynllun hwn ac unrhyw gynllun cysylltiedig yn unol â chyfarwyddiadau’r Trysorlys a wnaed o dan adran 11 o Ddeddf 2013 (“cyfarwyddiadau’r Trysorlys”).
  • (4) Rhaid i reolwr cynllun ddarparu i actiwari’r cynllun unrhyw ddata sy’n ofynnol gan actiwari’r cynllun er mwyn cyflawni prisiad a pharatoi adroddiad ar y prisiad hwnnw.
  • (5) Rhaid cyflawni prisiad o’r cynllun ac unrhyw gynllun cysylltiedig a pharatoi adroddiad ar y prisiad yn unol â chyfarwyddiadau’r Trysorlys.
  • (6) Rhaid cyflawni prisiadau o’r cynllun o fewn ffrâm amser sy’n galluogi bodloni’r gofynion yng nghyfarwyddiadau’r Trysorlys mewn perthynas â dyddiadau sy’n gymwys i’r prisio.

Cap ar gostau cyflogwyr

160
  • (1) Y cap ar gostau cyflogwyr ar gyfer y cynllun hwn yw 17.1% o enillion pensiynadwy aelodau o’r cynllun hwn.
  • (2) Os bydd cost y cynllun hwn, a gyfrifir yn dilyn prisiad yn unol â chyfarwyddiadau’r Trysorlys, yn uwch neu’n is na’r cap ar gostau cyflogwyr, o fwy na’r gorsymiau a bennir mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 12(5) o Ddeddf 2013[^f00069] (“y Rheoliadau Cap Costau”), rhaid i Weinidogion Cymru ddilyn y weithdrefn a bennir ym mharagraff (3) ar gyfer cyrraedd cytundeb gyda rheolwyr cynllun, cyflogwyr ac aelodau (neu gynrychiolwyr cyflogwyr ac aelodau) ynglŷn â’r camau sy’n ofynnol er mwyn cyrraedd y targed cost a bennir yn y Rheoliadau Cap Costau.
  • (3) Y weithdrefn a bennir at ddibenion adran 12(6)(a) o Ddeddf 2013 yw ymgynghori gyda Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân Cymru am unrhyw gyfnod a ystyrir yn briodol gan Weinidogion Cymru gyda golwg ar gyrraedd cytundeb a gymeradwyir gan holl aelodau’r Bwrdd hwnnw.
  • (4) Yn dilyn ymgynghoriad o’r fath, os na chyrhaeddir cytundeb o fewn 3 mis ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau i addasu’r gyfradd y mae buddion yn crynhoi yn unol â hi o dan reoliad 43 (swm y pensiwn ar gyfer blwyddyn gynllun) er mwyn cyrraedd y targed cost ar gyfer y cynllun hwn.

Penderfyniadau gan y rheolwr cynllun

161

Rhaid i’r rheolwr cynllun benderfynu a oes hawl gan berson i gael dyfarniad neu i gadw dyfarniad.

Rôl YMCA mewn penderfyniadau gan y rheolwr cynllun

162
  • (1) Wrth benderfynu a oes hawl gan berson i gael dyfarniad, neu i gadw dyfarniad, pan fo’r penderfyniad ynglŷn â’i hawlogaeth yn dibynnu yn rhannol ar afiechyd neu alluogrwydd y person y byddai ganddo’r hawlogaeth honno, rhaid i’r rheolwr cynllun gael barn ysgrifenedig yr YMCA ar unrhyw fater sydd o natur feddygol, yn gyfan gwbl neu’n rhannol.
  • (2) Rhaid i’r rheolwr cynllun ofyn i YMCA ddarparu barn ar y materion canlynol at y diben o benderfynu unrhyw gwestiwn sy’n codi o dan y cynllun hwn—
  • (a) a yw person yn analluog i gyflawni unrhyw rai o ddyletswyddau’r rôl y cyflogid y person hwnnw ynddi ddiwethaf, oherwydd anallu meddyliol neu gorfforol;
  • (b) a yw’r anallu yn is-baragraff (a) uchod yn debygol o barhau tan yr oedran pensiwn arferol neu’r oedran pensiwn gohiriedig, yn ôl fel y digwydd;
  • (c) a yw person wedi dod yn alluog i gyflawni unrhyw rai o ddyletswyddau’r rôl yr ymddeolodd y person hwnnw ohoni ar sail afiechyd;
  • (d) a yw person yn alluog, neu wedi dod yn alluog i ymgymryd â chyflogaeth reolaidd; neu
  • (e) unrhyw fater arall sydd o natur feddygol, yn gyfan gwbl neu’n rhannol.
  • (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i’r YMCA ardystio o dan baragraff (2) nad yw’r—
  • (a) YMCA, yn flaenorol, wedi cynghori, wedi mynegi barn, nac wedi bod yn ymwneud rywfodd arall, yn yr achos penodol y gofynnwyd am farn ar ei gyfer; a
  • (b) YMCA yn gweithredu, ac na fu ar unrhyw adeg yn gweithredu, fel cynrychiolydd yr aelod, y rheolwr cynllun, nac unrhyw barti arall mewn cysylltiad â’r un achos.
  • (4) Mae barn YMCA o dan baragraff (2) yn rhwymo’r rheolwr cynllun onis disodlir gan ymateb yr YMCA o dan reoliad 163(2) (adolygu barn feddygol) neu ganlyniad apêl o dan reoliad 164 (apelau yn erbyn penderfyniadau ar sail tystiolaeth feddygol).
  • (5) Mae ymateb yr YMCA o dan reoliad 163 (adolygu barn feddygol) neu ganlyniad apêl o dan reoliad 164 (apelau yn erbyn penderfyniadau ar sail tystiolaeth feddygol), yn ôl fel y digwydd, yn rhwymo’r rheolwr cynllun.
  • (6) Pan fo aelod, o ganlyniad i farn a roddwyd o dan baragraff (2), wedi ymddeol ar sail afiechyd, caiff yr YMCA a roddodd y farn, os gofynnir iddo wneud hynny gan y rheolwr cynllun at ddibenion adolygiad o dan reoliad 77(1) (adolygu dyfarniad afiechyd neu daliad o bensiwn ymddeol yn gynnar), roi barn bellach.
  • (7) Os—
  • (a) yw person, yn fwriadol neu’n esgeulus, yn methu ag ymostwng i’w archwilio yn feddygol gan yr YMCA a ddewiswyd gan y rheolwr cynllun; a
  • (b) nad yw’r YMCA yn gallu rhoi barn ar sail y dystiolaeth feddygol sydd ar gael,

caiff y rheolwr cynllun wneud penderfyniad yn y mater ar sail pa bynnag dystiolaeth feddygol arall a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun, neu heb dystiolaeth feddygol.

  • (8) O fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud penderfyniad o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r rheolwr cynllun—
  • (a) rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad i’r person dan sylw; a
  • (b) yn achos penderfyniad ar fater sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o natur feddygol, oni bai bod paragraff (7) yn gymwys, cyflenwi’r person hwnnw â chopi o’r farn a gafwyd o dan baragraff (2).

Adolygu barn feddygol

163
  • (1) Pan fo—
  • (a) tystiolaeth newydd ar fater sy’n gyfan gwbl neu’n rhannol o natur feddygol yn cael ei chyflwyno i’r rheolwr cynllun gan aelod (P), y gwnaed penderfyniad mewn cysylltiad ag ef o dan y Rheoliadau hyn;
  • (b) y rheolwr cynllun yn cael y dystiolaeth honno—
  • (i) os cyflenwyd copi o farn yn unol â rheoliad 162(8) (rôl YMCA mewn penderfyniadau gan y rheolwr cynllun), o fewn 28 diwrnod wedi i P gael y copi hwnnw, a
  • (ii) mewn unrhyw achos arall, o fewn 28 diwrnod wedi i P gael hysbysiad o benderfyniad y rheolwr cynllun; ac
  • (c) y rheolwr cynllun a P yn cytuno bod rhaid rhoi cyfle i’r YMCA adolygu’r farn honno yng ngoleuni’r dystiolaeth newydd,

rhaid i’r rheolwr cynllun anfon copi o’r dystiolaeth newydd at yr YMCA a gwahodd yr YMCA i ailystyried y farn honno.

  • (2) Rhaid i’r ymateb gan YMCA i wahoddiad o dan baragraff (1) fod mewn ysgrifen.
  • (3) Mae’r ymateb gan YMCA o dan baragraff (2) yn rhwymo’r rheolwr cynllun oni ddisodlir yr ymateb hwnnw gan ganlyniad apêl o dan reoliad 164 (apelau yn erbyn penderfyniadau ar sail tystiolaeth feddygol).
  • (4) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael ymateb o dan baragraff (2), rhaid i’r rheolwr cynllun ailystyried ei benderfyniad.
  • (5) O fewn 14 diwrnod ar ôl yr ailystyriaeth honno, rhaid i’r rheolwr cynllun—
  • (a) rhoi hysbysiad ysgrifenedig i P ei fod wedi cadarnhau ei benderfyniad neu wedi ei ddiwygio (yn ôl fel y digwydd);
  • (b) os yw’r rheolwr cynllun wedi diwygio ei benderfyniad, cyflenwi P â hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad diwygiedig; ac
  • (c) cyflenwi P â chopi o’r ymateb o dan baragraff (2).

Apelau yn erbyn penderfyniadau ar sail tystiolaeth feddygol

164
  • (1) Caiff aelod (P) sy’n dymuno apelio yn erbyn penderfyniad rheolwr cynllun ar fater o natur feddygol apelio felly i fwrdd o ganolwyr meddygol yn unol â darpariaethau rheoliadau 165 (hysbysiad o apêl) i 172 (hysbysiadau etc).
  • (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), pan fo penderfyniad—
  • (a) wedi ei wneud mewn cysylltiad â barn a gafwyd o dan reoliad 162(2) (rôl YMCA mewn penderfyniadau gan y rheolwr cynllun) neu dystiolaeth feddygol y dibynnwyd arni fel y crybwyllir yn rheoliad 162(7); neu
  • (b) yn cael ei ailystyried o dan reolid 163(4) (adolygu barn feddygol) mewn cysylltiad ag ymateb o dan baragraff (2) o’r rheoliad hwnnw,

rhaid i’r rheolwr cynllun, o fewn 14 diwrnod ar ôl gwneud, cadarnhau neu ddiwygio’r penderfyniad (yn ôl fel y digwydd), anfon at P y dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (4).

  • (3) Nid oes dim ym mharagraff (2) sy’n ei gwneud yn ofynnol cyflenwi dogfennau a gyflenwyd eisoes o dan reoliad 162(8) neu 163(5).
  • (4) Y dogfennau yw—
  • (a) copi o’r farn, yr ymateb neu’r dystiolaeth, (yn ôl fel y digwydd);
  • (b) esboniad o’r weithdrefn ar gyfer apelau o dan y Bennod hon; ac
  • (c) datganiad bod rhaid i P, os yw P yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad y rheolwr cynllun ar fater meddygol ei natur, roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun, sy’n datgan enw a chyfeiriad P a sail yr apêl, ddim hwyrach nag 28 diwrnod wedi i P gael yr olaf o’r dogfennau y mae’n ofynnol eu cyflenwi o dan y paragraff hwn, neu o fewn pa bynnag gyfnod hwy a ganiateir gan y rheolwr cynllun.

Hysbysiad o apêl

165
  • (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o apêl yn erbyn penderfyniad ar fater meddygol ei natur, gan ddatgan—
  • (a) enw a chyfeiriad yr apelydd (P); a
  • (b) sail yr apêl,

i’r rheolwr cynllun o fewn 28 diwrnod ar ôl y dyddiad pan fo P yn cael y dogfennau y cyfeirir atynt yn rheoliad 164(4) (apelau yn erbyn penderfyniadau ar sail tystiolaeth feddygol); ac os yw P yn cael y dogfennau hynny ar wahanol ddyddiadau, rhaid eu trin at y diben hwn fel pe bai P wedi eu cael ar y diweddaraf neu’r diweddarach o’r dyddiadau hynny.

  • (2) Os—
  • (a) na roddwyd hysbysiad o apêl o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1); ond
  • (b) ym marn y rheolwr cynllun, nad oherwydd bod bai ar P ei hunan y methwyd â rhoi’r hysbysiad o fewn y cyfnod hwnnw,

caiff y rheolwr cynllun estyn y cyfnod ar gyfer rhoi hysbysiad, am ba bynnag gyfnod, o ddim hwy na chwe mis o’r dyddiad a grybwyllir ym mharagraff (1), a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun.

Cyfeirio apêl i’r bwrdd

166
  • (1) Rhaid i’r rheolwr cynllun, pan gaiff hysbysiad o apêl, gyflenwi Gweinidogion Cymru â thri chopi o’r canlynol—
  • (a) yr hysbysiad o apêl;
  • (b) yr hysbysiad o’r penderfyniad perthnasol;
  • (c) y farn, ymateb neu dystiolaeth (yn ôl fel y digwydd) a gyflenwyd i’r apelydd (P); a
  • (d) pob dogfen arall ym meddiant neu dan reolaeth y rheolwr cynllun, sy’n ymddangos i’r rheolwr cynllun yn berthnasol i’r mater sy’n destun yr apêl.
  • (2) Rhaid i Weinidogion Cymru gyfeirio apêl i fwrdd o ganolwyr meddygol (“y bwrdd”).
  • (3) Rhaid i’r bwrdd gynnwys dim llai na thri ymarferydd meddygol a benodir gan, neu’n unol â threfniadau a wnaed gan, Weinidogion Cymru.
  • (4) Rhaid i un aelod o’r bwrdd fod yn arbenigwr mewn cyflwr meddygol sy’n berthnasol i’r apêl.
  • (5) Rhaid penodi un aelod o’r bwrdd yn gadeirydd.
  • (6) Pan fo pleidlais ymhlith aelodau’r bwrdd yn rhannu’n gyfartal, rhaid rhoi ail bleidlais neu bleidlais fwrw i’r cadeirydd.
  • (7) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyfeirio apêl i’r bwrdd, rhaid i Weinidogion Cymru gyflenwi gweinyddwr y bwrdd â thri chopi o bob dogfen a gyflenwyd o dan baragraff (1).
  • (8) Rhaid i’r bwrdd drefnu bod un o’i nifer (‘yr aelod-adolygydd’) yn adolygu’r dogfennau hynny.
  • (9) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cwblhau ei adolygiad, rhaid i’r aelod-adolygydd roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru o’r canlynol—
  • (a) unrhyw wybodaeth arall y byddai’n ddymunol ei darparu, ym marn yr aelod-adolygydd, er mwyn i’r bwrdd gael gwybodaeth ddigonol at y diben o’i alluogi i benderfynu’r apêl; a
  • (b) os yw hynny’n wir, bod yr aelod-adolygydd o’r farn y caiff y bwrdd ystyried yr apêl yn wacsaw, yn flinderus neu’n amlwg yn ddi-sail.
  • (10) Ar ôl cael hysbysiad yr aelod-adolygydd, rhaid i Weinidogion Cymru—
  • (a) os yw’r aelod-adolygydd wedi hysbysu Gweinidogion Cymru y byddai’n ddymunol cael gwybodaeth bellach, ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn ymdrechu ei orau i gael yr wybodaeth honno; a
  • (b) os yw’r hysbysiad yn cynnwys barn o’r math a ddisgrifir ac a grybwyllir ym mharagraff (9)(b), anfon copi ohono at y rheolwr cynllun.
  • (11) Rhaid i reolwr cynllun sy’n cael copi o farn aelod-adolygydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—
  • (a) anfon copi o’r farn honno at P; a
  • (b) drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i P—
  • (i) hysbysu P y gallai fod yn ofynnol bod P yn talu costau’r rheolwr cynllun, pe bai apêl P yn aflwyddiannus, a
  • (ii) ei gwneud yn ofynnol bod P yn rhoi gwybod i’r rheolwr cynllun, o fewn 14 diwrnod o ddyddiad yr hysbysiad, pa un ai yw P yn bwriadu mynd ymlaen â’r apêl neu ei thynnu’n ôl.
  • (12) Rhaid i reolwr cynllun sy’n hysbysu P o dan baragraff (11)(b) roi gwybod i Weinidogion Cymru ynghylch ymateb P i’r hysbysiad o dan is-baragraff 11(b); a rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r bwrdd yn unol â hynny.

Y weithdrefn pan wneir apêl

167
  • (1) Os eir ymlaen i wneud apêl, rhaid i’r bwrdd sicrhau bod yr apelydd (P) a’r rheolwr cynllun (“y partïon”) wedi—
  • (a) eu hysbysu bod yr apêl i gael ei phenderfynu gan y bwrdd; a
  • (b) eu hysbysu o gyfeiriad lle y gellir anfon cyfathrebiadau ynglŷn â’r apêl, ar gyfer eu cyflwyno i’r bwrdd.
  • (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (5)—
  • (a) rhaid i’r bwrdd gyfweld ac archwilio P yn feddygol unwaith o leiaf; a
  • (b) caiff y bwrdd gyfweld neu archwilio P yn feddygol neu beri bod P yn cael ei gyfweld neu ei archwilio’n feddygol ar ba bynnag achlysuron pellach a ystyrir yn angenrheidiol gan y bwrdd at y diben o benderfynu’r apêl.
  • (3) Rhaid i’r bwrdd bennu amser a lleoliad, a rhoi i’r partïon ddim llai na dau fis o rybudd o’r amser a’r lleoliad, ar gyfer pob cyfweliad ac archwiliad meddygol; ac os bodlonir y bwrdd nad yw P yn gallu teithio, rhaid i’r lleoliad fod ym man preswylio P.
  • (4) Rhaid i P fod yn bresennol ar yr amser ac yn y lleoliad a bennir ar gyfer unrhyw gyfweliad ac archwiliad meddygol gan y bwrdd, neu gan unrhyw aelod o’r bwrdd, neu unrhyw berson a benodir gan y bwrdd at y diben hwnnw.
  • (5) Os—
  • (a) yw P yn methu â chydymffurfio â pharagraff (4); a
  • (b) na fodlonir y bwrdd fod rheswm rhesymol am y methiant hwnnw,

caiff y bwrdd hepgor y cyfweliad a’r archwiliad meddygol, a chaiff benderfynu’r apêl ar sail pa bynnag wybodaeth sydd ar gael ar y pryd.

  • (6) Mewn unrhyw gyfweliad o dan y rheoliad hwn, caiff personau fod yn bresennol a benodwyd at y diben gan y rheolwr cynllun neu gan P neu gan y ddau ohonynt.
  • (7) Os yw’r naill barti neu’r llall yn bwriadu cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig neu ddatganiad ysgrifenedig mewn cyfweliad a gynhelir o dan baragraff (2), rhaid i’r parti, yn ddarostyngedig i baragraff (8), gyflwyno’r dystiolaeth neu’r datganiad i’r bwrdd ac i’r parti arall ddim llai nag 28 diwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y cyfweliad.
  • (8) Os cyflwynir unrhyw dystiolaeth neu ddatganiad ysgrifenedig o dan baragraff (7) llai nag 28 diwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y cyfweliad, caniateir cyflwyno unrhyw dystiolaeth neu ddatganiad ysgrifenedig yn ymateb gan y parti arall i’r bwrdd ac i’r parti a gyflwynodd y dystiolaeth neu’r datganiad a grybwyllwyd gyntaf, ar unrhyw adeg hyd at, a chan gynnwys, y dyddiad hwnnw.
  • (9) Os cyflwynir unrhyw dystiolaeth neu ddatganiad ysgrifenedig yn groes i baragraff (7), caiff y bwrdd ohirio’r dyddiad a bennwyd ar gyfer y cyfweliad, a gwneud yn ofynnol bod y parti a gyflwynodd y dystiolaeth neu’r datganiad yn talu pa bynnag gostau rhesymol a dynnir gan y bwrdd, a chan y parti arall, o ganlyniad i’r gohirio.

Adroddiad y bwrdd

168
  • (1) Rhaid i’r bwrdd gyflenwi Gweinidogion Cymru â’r canlynol—
  • (a) adroddiad ysgrifenedig o’i benderfyniad ar y materion meddygol perthnasol; a
  • (b) os yw’r bwrdd o’r farn bod yr apêl yn wacsaw, yn flinderus neu’n amlwg yn ddi-sail, datganiad i’r perwyl hwnnw (a gaiff ffurfio rhan o’r adroddiad).
  • (2) Rhaid i Weinidogion Cymru gyflenwi’r partïon â chopi o’r adroddiad ac o unrhyw adroddiad ar wahân o dan baragraff (1)(b).

Ailystyried gan y bwrdd

169
  • (1) Pan fo—
  • (a) y partïon wedi cael copi o’r adroddiad a gyflenwyd o dan reoliad 168 (adroddiad y bwrdd), a
  • (b) y partïon yn cytuno bod y bwrdd wedi gwneud camgymeriad ffeithiol sy’n cael effaith berthnasol ar benderfyniad y bwrdd,
  • (c) rhaid i’r rheolwr cynllun, o fewn 28 diwrnod ar ôl cael yr adroddiad, gyflenwi Gweinidogion Cymru â dau gopi o ddatganiad a gytunir rhwng y partïon.
  • (2) Rhaid i’r datganiad a gytunir nodi—
  • (i) y camgymeriad ffeithiol,
  • (ii) y ffaith gywir, a
  • gwahodd y bwrdd i ailystyried ei benderfyniad.
  • (3) Rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn 14 diwrnod ar ôl cael y datganiad, gyflenwi’r bwrdd â chopi ohono.
  • (4) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael y datganiad, rhaid i’r bwrdd ailystyried ei benderfyniad.
  • (5) O fewn 14 diwrnod ar ôl yr ailystyriaeth honno, rhaid i’r bwrdd—
  • (a) rhoi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru ei fod wedi cadarnhau ei benderfyniad neu wedi diwygio ei benderfyniad, (yn ôl fel y digwydd); a
  • (b) os yw’r bwrdd wedi diwygio ei benderfyniad, gyflenwi Gweinidogion Cymru ag adroddiad ysgrifenedig o’i benderfyniad diwygiedig.
  • (6) Rhaid i Weinidogion Cymru gyflenwi’r partïon â chopi o’r hysbysiad ysgrifenedig sy’n cadarnhau penderfyniad y bwrdd, neu gopi o’r adroddiad ysgrifenedig o benderfyniad diwygiedig y bwrdd (yn ôl fel y digwydd).

Ffioedd a lwfansau sy’n daladwy i’r bwrdd

170
  • (1) Rhaid talu i’r bwrdd ac i’r aelod-adolygydd—
  • (a) y cyfryw ffioedd a lwfansau (gan gynnwys y rhai sy’n daladwy i’r aelod-adolygydd am waith a wnaed yn adolygu dogfennau o dan reoliad 166(8) (cyfeirio apêl i’r bwrdd)) a benderfynir yn unol â threfniadau a wnaed gan Weinidogion Cymru; neu
  • (b) os na wnaed trefniadau o’r fath, y cyfryw ffioedd a lwfansau y caiff Gweinidogion Cymru eu pennu o bryd i’w gilydd.
  • (2) Rhaid i’r ffioedd a’r lwfansau sy’n daladwy o dan baragraff(1)—
  • (a) cael eu talu gan y rheolwr cynllun; a
  • (b) cael eu trin at ddibenion rheoliad 171 (treuliau pob un o’r partïon) fel rhan o dreuliau’r rheolwr cynllun.

Treuliau pob un o’r partïon

171
  • (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 167(9) (y weithdrefn pan wneir apêl) a pharagraffau (2) i (5) isod, rhaid i bob parti unigol i’r apêl ysgwyddo ei dreuliau ei hunan.
  • (2) Pan fo’r bwrdd—
  • (a) yn penderfynu apêl o blaid y rheolwr cynllun; a
  • (b) yn datgan bod yr apêl, ym marn y bwrdd, yn wacsaw, yn flinderus neu’n amlwg yn ddi-sail,

caiff y rheolwr cynllun ei gwneud yn ofynnol bod yr apelydd (P) yn talu i’r rheolwr cynllun y cyfryw swm, na chaiff fod yn fwy na chyfanswm y ffioedd a’r lwfansau sy’n daladwy i’r bwrdd a’r aelod-adolygydd o dan reoliad 170(1) (ffioedd a lwfansau sy’n daladwy i’r bwrdd), a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun.

  • (3) Pan fo—
  • (a) P yn rhoi hysbysiad i’r bwrdd—
  • (i) yn tynnu’r apêl yn ôl, neu
  • (ii) yn gofyn am ddiddymu, gohirio neu oedi’r dyddiad a bennwyd ar gyfer cyfweliad neu archwiliad meddygol o dan reoliad 167(3), a

rhoddir yr hysbysiad llai na 22 o ddiwrnodau gwaith cyn y dyddiad a bennwyd o dan reoliad 167(3); neu

  • (b) gweithredoedd neu anweithiau P yn peri i’r bwrdd ddiddymu, gohirio neu oedi rywfodd arall y dyddiad a bennwyd o dan reoliad 167(3), llai na 22 o ddiwrnodau gwaith cyn y dyddiad penodedig,

caiff y rheolwr cynllun ei gwneud yn ofynnol bod P yn talu i’r rheolwr cynllun y cyfryw swm, na chaiff fod yn fwy na chyfanswm y ffioedd a’r lwfansau sy’n daladwy i’r bwrdd o dan reoliad 170(1) (ffioedd a lwfansau sy’n daladwy i’r bwrdd), a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun.

  • (4) Pan—
  • (a) yw’r bwrdd yn penderfynu apêl o blaid P; a
  • (b) nad yw’r bwrdd yn cyfarwyddo’n wahanol,

rhaid i’r rheolwr cynllun ad-dalu i P y swm a bennir ym mharagraff (5).

  • (5) Y swm yw cyfanswm y canlynol—
  • (a) unrhyw dreuliau personol a dynnwyd mewn gwirionedd ac yn rhesymol gan P mewn cysylltiad ag unrhyw gyfweliad o dan reoliad 167(2); a
  • (b) os oedd ymarferydd meddygol cymwysedig a benodwyd gan P yn bresennol mewn unrhyw gyfweliad o’r fath, unrhyw ffioedd a threuliau a dalwyd yn rhesymol gan P mewn cysylltiad â phresenoldeb o’r fath.
  • (6) At ddibenion paragraffau (2) a (4) rhaid i unrhyw gwestiwn sy’n codi ynglŷn ag a yw penderfyniad y bwrdd o blaid y rheolwr cynllun neu P gael ei benderfynu gan y bwrdd neu, yn niffyg hynny, gan Weinidogion Cymru.

Hysbysiadau etc.

172

Oni phrofir i’r gwrthwyneb, rhaid trin unrhyw hysbysiad, gwybodaeth neu ddogfen y mae hawl gan apelydd (P) i’w gael neu i’w chael at unrhyw ddiben yn rheoliadau 164 (apelau yn erbyn penderfyniadau ar sail tystiolaeth feddygol) i 171 (treuliau pob un o’r partïon), fel pe bai P wedi cael y cyfryw eitem os postiwyd hi mewn llythyr a oedd wedi ei gyfeirio at P ym man preswylio hysbys olaf P.

Apelau ar faterion eraill

173

Os—

  • (a) yw aelod (P) yn anghytuno â phenderfyniad rheolwr cynllun o dan reoliad 161 (penderfyniadau gan y rheolwr cynllun); a
  • (b) nad yw’r anghytundeb yn ymwneud â mater o natur feddygol,

caiff P, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r rheolwr cynllun o fewn 28 diwrnod ar ôl cael y penderfyniad, ei gwneud yn ofynnol bod y rheolwr cynllun yn ymdrin â’r anghytundeb o dan drefniadau a gyflawnwyd ganddo yn unol â gofynion adran 50 o Ddeddf Pensiynau 1995[^f00070] (gofyniad bod trefniadau i ddatrys anghydfodau) a Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Gweithdrefnau Mewnol i Ddatrys Anghydfodau, Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2008[^f00071].

Talu addasiad mynegai ymddeol yn hwyr

174

Nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol talu unrhyw ran o bensiwn sy’n briodoladwy i addasiad mynegai ymddeol cyn diwedd y flwyddyn gynllun actif olaf.

Adennill gordaliad o fuddion

175
  • (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol y pennir gostyngiad canran ar ei chyfer mewn gorchymyn a wneir o dan adran 9 o Ddeddf 2013[^f00072].
  • (2) Rhaid i’r rheolwr cynllun adennill unrhyw ordaliad o fuddion a ddigwyddodd o ganlyniad i gymhwyso’r addasiad mynegai ymddeol ar gyfer y flwyddyn honno.
  • (3) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r rheolwr cynllun hysbysu’r aelod mewn ysgrifen yr adenillir y gordaliad drwy leihau swm pob rhandaliad o bensiwn hyd nes bo swm y gordaliad wedi ei adennill, neu drwy hepgor talu unrhyw gynnydd yn swm unrhyw bensiwn sy’n ddyladwy hyd nes bo swm y gordaliad wedi ei adennill.

Lleiafswm pensiwn gwarantedig

176
  • (1) Os oes gan aelod leiafswm gwarantedig mewn perthynas â buddion o dan y cynllun hwn—
  • (a) nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n caniatáu nac yn ei gwneud yn ofynnol unrhyw beth a fyddai’n peri nad yw gofynion a wnaed gan neu o dan DCauP 1993, mewn perthynas ag aelod o’r fath a hawliau aelod o’r fath o dan y cynllun hwn, yn cael eu bodloni yn achos yr aelod;
  • (b) nid oes dim yn y Rheoliadau hyn sy’n rhwystro unrhyw beth rhag cael ei wneud, sy’n angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion bodloni gofynion o’r fath yn achos yr aelod; ac
  • (c) mae’r darpariaethau canlynol yn ddarostyngedig i gyffredinolrwydd y paragraff hwn.
  • (2) Os, oni bai am y rheoliad hwn—
  • (a) na fyddai pensiwn yn daladwy i’r aelod o dan y cynllun hwn; neu
  • (b) byddai cyfradd wythnosol y pensiynau sy’n daladwy yn llai na’r lleiafswm gwarantedig,

bydd pensiwn ar gyfradd wythnosol sy’n hafal i’r lleiafswm gwarantedig yn daladwy i’r aelod am ei oes o’r dyddiad pan fo’r aelod yn cyrraedd oedran LlPG neu, yn ôl fel y digwydd, bydd pensiynau sydd â’u cyfradd wythnosol gyfanredol yn hafal i’r lleiafswm gwarantedig yn daladwy felly.

  • (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4)—
  • (a) os yw’r aelod, pan fo’n cyrraedd oedran LlPG yn dal i barhau mewn cyflogaeth (pa un ai yn gyflogaeth gynllun ai peidio); a
  • (b) pan nad yw’r gyflogaeth yn gyflogaeth gynllun, os yw’r aelod yn cydsynio i ohirio hawlogaeth yr aelod o dan baragraff (2),

nid yw paragraff (2) yn gymwys hyd nes bo’r aelod yn gadael cyflogaeth.

  • (4) Os yw’r aelod yn parhau mewn cyflogaeth am gyfnod pellach o bum mlynedd ar ôl cyrraedd oedran LlPG ac nad yw’n gadael cyflogaeth bryd hynny, bydd gan yr aelod, o ddiwedd y cyfnod hwnnw ymlaen, yr hawl i gael cymaint o bensiwn yr aelod o dan Ran 5 (buddion ymddeol) a Rhan 7 (buddion ar gyfer aelodau â chredyd pensiwn) ag sy’n hafal i leiafswm gwarantedig yr aelod (neu, yn ôl fel y digwydd, cymaint o bensiynau’r aelod o dan Ran 5 a Rhan 7 ag sydd, ar y cyd, â chyfradd wythnosol sy’n hafal i leiafswm gwarantedig yr aelod), oni fydd yr aelod yn cydsynio i ohiriad pellach o’r hawlogaeth.
  • (5) Yn yr amgylchiadau y darperir ar eu cyfer ym mharagraff (3) neu (4), cynyddir swm y lleiafswm gwarantedig y mae hawl gan yr aelod i’w gael o dan y rheoliad hwn yn unol ag adran 15 (cynyddu lleiafswm gwarantedig pan fo cychwyn lleiafswm pensiwn gwarantedig wedi ei ohirio) o DCauP 1993.
  • (6) Os—
  • (a) yw’r aelod, cyn cyrraedd 65 mlwydd oed, yn cael yr hawl i daliad o bensiwn ar unwaith; a
  • (b) bod lleiafswm gwarantedig gan yr aelod hwnnw mewn perthynas â’r cyfan neu ran o bensiwn, o ganlyniad i’r cynllun hwn dderbyn taliad trosglwyddo oddi wrth gynllun pensiwn arall yr oedd gan yr aelod leiafswm gwarantedig o’r fath mewn cysylltiad ag ef,

rhaid i gyfradd wythnosol y pensiwn, i’r graddau y mae’n briodoladwy i’r gwasanaeth hwnnw, beidio â bod yn llai na’r lleiafswm gwarantedig, wedi ei luosi â pha bynnag ffactor a ddynodir mewn tablau a gynhwysir mewn canllawiau actiwaraidd ar gyfer person o’r un oedran a rhyw â’r aelod ar y dyddiad pan ddaw’r pensiwn yn daladwy.

  • (7) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw person wedi peidio â bod mewn cyflogaeth sy’n gyflogaeth a gontractiwyd allan o fewn ystyr Rhan 3 o DCauP 1993 (ardystio cynlluniau pensiwn ac effeithiau ar hawliau a dyletswyddau aelodau o dan gynllun y wladwriaeth) drwy gyfeirio at y cynllun hwn, a naill ai—
  • (a) taliad trosglwyddo wedi ei wneud mewn cysylltiad â holl hawliau’r person i gael buddion o dan y cynllun hwn, ac eithrio hawliau’r person mewn cysylltiad â’i leiafswm gwarantedig neu ei hawliau o dan adran 9(2B)(gofynion ar gyfer ardystio cynlluniau: cyffredinol) o DCauP 1993[^f00073] (“hawliau’r person o ran contractio allan”); neu
  • (b) nad oes gan y person hawliau i gael buddion o dan y cynllun hwn ac eithrio hawliau’r person o ran contractio allan.
  • (8) Os yw paragraff (7) yn gymwys—
  • (a) o’r dyddiad y mae’r person yn cyrraedd oedran LlPG, mae hawl gan y person i gael pensiwn sy’n daladwy am ei oes ar gyfradd wythnosol sy’n hafal i leiafswm gwarantedig y person, os oes un; a
  • (b) o’r dyddiad y mae’r person yn cyrraedd oedran pensiwn arferol o dan y cynllun hwn mae hawl gan y person i gael cyfandaliad a phensiwn mewn cysylltiad â hawliau’r person hwnnw o dan adran 9(2B) o DCauP 1993,

ond nid yw person sy’n dod o fewn paragraff (7) i’w ystyried yn aelod-bensiynwr at ddibenion Rhan 6 (buddion marwolaeth).

  • (9) Nid yw paragraffau (2) i (8) yn gymwys i bensiwn—
  • (a) sydd wedi ei fforffedu—
  • (i) o ganlyniad i gollfarn am frad, neu
  • (ii) mewn achos pan fo’r drosedd berthnasol o dan reoliad 181 (fforffedu: troseddau a gyflawnir gan aelodau, partneriaid sy’n goroesi neu blant cymwys) yn dod o fewn paragraff (b) o’r diffiniad, yn y rheoliad hwnnw, o “trosedd berthnasol” (troseddau o dan y Deddfau Cyfrinachau Swyddogol);
  • (b) pan fo’r pensiwn hwnnw wedi ei gymudo o dan reoliad 177 (cymudo pensiynau bach), a phan fo’r amodau yn rheoliad 60 o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Contractio Allan) 1996[^f00074] wedi eu bodloni,

ac os oes unrhyw ddarpariaeth arall o’r cynllun hwn yn anghyson â’r rheoliad hwn, y rheoliad hwn sy’n drech.

  • (10) Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at swm pensiwn yn gyfeiriadau at ei swm ar ôl didynnu swm y cymudiad, os oes un (ond cyn didynnu swm y dyraniad, os oes un).

Cymudo pensiynau bach

177
  • (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os nad yw hawlogaeth pensiwn aelod o’r cynllun neu hawlogaeth pensiwn buddiolwr aelod yn fwy na’r uchafswm cymudo pensiynau bach.
  • (2) Onid yw’r aelod wedi cyrraedd yr oedran pensiwn gohiriedig, nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys os yw hawlogaeth pensiwn yr aelod neu hawlogaeth pensiwn buddiolwr yr aelod yn hafal i, neu’n fwy na, lleiafswm gwarantedig yr aelod.
  • (3) Caiff y rheolwr cynllun dalu i’r aelod, i bartner sy’n goroesi neu i blentyn cymwys gyfandaliad o swm sy’n cynrychioli gwerth ariannol y pensiwn a gyfrifir yn unol â chanllawiau actiwaraidd os yw—
  • (a) y person yn cydsynio i dderbyn cyfandaliad mewn cysylltiad â’r pensiwn; a
  • (b) gofynion y darpariaethau cymudo sy’n gymwys yn yr amgylchiadau wedi eu bodloni.
  • (4) Mae talu cyfandaliad o dan y rheoliad hwn yn lle pensiwn yn rhyddhau o bob rhwymedigaeth o dan y cynllun hwn mewn cysylltiad â’r pensiwn hwnnw.
  • (5) Yn y rheoliad hwn—
  • ystyr “y darpariaethau cymudo” (“the commutation provisions”) yw’r darpariaethau sy’n caniatáu cymudo pensiynau, a nodir yn— rheoliad 2 o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Galwedigaethol (Aseinio, Fforffedu, Methdalu etc.) 1997[^f00075], paragraff 7 o Atodlen 29 (cyfandaliadau awdurdodedig – atodol) i DC 2004 (sy’n diffinio cyfandaliad cymudo dibwys at ddibenion Rhan 4 o’r Ddeddf honno)[^f00076] ac, mewn perthynas â phensiwn sy’n daladwy o dan Ran 6 (buddion marwolaeth), paragraff 20 o’r Atodlen honno (sy’n diffinio budd marwolaeth cyfandaliad cymudo dibwys at ddibenion Rhan 4 o’r Ddeddf honno)[^f00077], ac rheoliad 3 o Reoliadau Rhannu Pensiynau (Budd Credyd Pensiwn) 2000[^f00078]; ac ystyr “yr uchafswm cymudo pensiynau bach” (“the small pensions commutation maximum”) yw’r swm y caniateir ei gymudo, o ystyried y darpariaethau cymudo sy’n gymwys yn yr amgylchiadau.

Taliadau ar gyfer personau sy’n analluog i reoli eu busnes eu hunain

178

Os yw’n ymddangos i’r rheolwr cynllun fod hawl gan berson ac eithrio plentyn cymwys i gael taliad o fuddion o dan y cynllun hwn, ond bod y person hwnnw, oherwydd anallu meddyliol neu rywfodd arall, yn analluog i reoli ei fusnes ei hunan—

  • (a) caiff y rheolwr cynllun dalu’r buddion, neu unrhyw ran ohonynt i berson sy’n gofalu am y person sydd â hawlogaeth, neu i unrhyw berson arall y penderfynir arno gan y rheolwr cynllun, i’w defnyddio er budd y person sydd â hawlogaeth; ac
  • (b) i’r graddau nad yw’r rheolwr cynllun yn talu’r buddion yn y modd hwnnw, caiff y rheolwr cynllun ddefnyddio’r buddion mewn modd a benderfynir gan y rheolwr cynllun, er budd y person sydd â hawlogaeth, neu unrhyw fuddiolwyr y person sydd â hawlogaeth.

Taliadau sy’n ddyledus mewn cysylltiad â phersonau a fu farw

179
  • (1) Mae paragraff (2) yn gymwys os, ar farwolaeth person, nad yw’r cyfanswm sy’n ddyladwy o dan y cynllun hwn i gynrychiolwyr personol y person hwnnw (gan gynnwys unrhyw beth a oedd yn ddyladwy ar farwolaeth y person hwnnw) yn fwy na’r swm a bennir mewn unrhyw orchymyn sydd mewn grym am y tro o dan adran 6 o Ddeddf Gweinyddu Ystadau (Taliadau Bach) 1965[^f00079] ac sy’n gymwys mewn perthynas â marwolaeth y person hwnnw.
  • (2) Caiff rheolwr cynllun dalu’r cyfan neu ran o’r swm dyladwy i—
  • (a) cynrychiolwyr personol y person; neu
  • (b) unrhyw berson neu bersonau y mae’n ymddangos i’r rheolwr cynllun sydd â hawlogaeth fel buddiolwyr yr ystad,

heb ddangos profiant na llythyrau gweinyddu ystad y person.

Cyfyngiad ar aseinio buddion

180

Mae aseiniad o ddyfarniad o dan y Rheoliadau hyn yn ddi-rym i’r graddau y’i gwneir er budd person ac eithrio dibynnydd y person sydd â hawl i gael y dyfarniad.

Fforffedu: troseddau a gyflawnir gan aelodau, partneriaid sy’n goroesi neu blant cymwys

181
  • (1) Os caiff aelod, partner sy’n goroesi neu blentyn cymwys ei gollfarnu am drosedd berthnasol, caiff y rheolwr cynllun, i’r cyfryw raddau ac am y cyfryw gyfnod a ystyria’n briodol, gadw’n ôl bensiynau sy’n daladwy o dan y cynllun hwn i—
  • (a) yr aelod;
  • (b) unrhyw berson mewn cysylltiad â’r aelod;
  • (c) partner sy’n goroesi; neu
  • (d) plentyn cymwys.
  • (2) Os yw pensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys o dan Ran 6 (buddion marwolaeth) i gael ei gadw’n ôl o dan baragraff (1), o ganlyniad i drosedd berthnasol sy’n dod o fewn is-baragraff (a) neu (b) o’r diffiniad o’r ymadrodd hwnnw ym mharagraff (5), rhaid i’r drosedd fod wedi ei chyflawni ar ôl y farwolaeth a oedd yn peri bod y person yn cael yr hawl i bensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys, yn ôl fel y digwydd.
  • (3) Ni chaiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl ddim mwy na’r rhan honno o bensiwn person sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan y person i’w gael o dan—
  • (a) adran 14 o DCauP 1993 (lleiafswm gwarantedig enillydd); neu
  • (b) adran 17 (lleiafswm pensiynau ar gyfer gwragedd a gwŷr gweddw)[^f00080] o’r Ddeddf honno.
  • (4) Caiff y rheolwr cynllun, ar unrhyw adeg ac i’r cyfryw raddau ac am y cyfryw gyfnod a ystyria’n briodol—
  • (a) defnyddio er budd unrhyw ddibynnydd yr aelod; neu
  • (b) adfer i’r aelod,

gymaint o unrhyw bensiwn ag a gadwyd yn ôl o dan y rheoliad hwn.

  • (5) Yn y rheoliad hwn—
  • ystyr “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) yw— trosedd o frad, trosedd o dan y Deddfau Cyfrinachau Swyddogol 1911 i 1989[^f00081] y dedfrydwyd yr aelod amdani ar yr un achlysur— i gyfnod o garchar am o leiaf 10 mlynedd, neu i ddau neu ragor o gyfnodau olynol o garchar sydd â’u hyd cyfanredol yn 10 mlynedd o leiaf, neu trosedd— a gyflawnwyd mewn cysylltiad â chyflogaeth gynllun yr aelod; a y dyroddwyd tystysgrif fforffedu mewn cysylltiad â hi gan Weinidogion Cymru; ystyr “tystysgrif fforffedu” (“forfeiture certificate”) yw tystysgrif sy’n datgan bod Gweinidogion Cymru o’r farn bod y drosedd— wedi peri niwed difrifol i fuddiannau’r Wladwriaeth, neu yn debygol o arwain at golled hyder ddifrifol yn y gwasanaeth cyhoeddus.

Fforffedu pensiynau: troseddau a gyflawnir gan bersonau eraill

182
  • (1) Os collfernir person (“P”) o lofruddiaeth aelod, rhaid i’r rheolwr cynllun gadw’n ôl y cyfan o unrhyw bensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys a fyddai, fel arall, yn daladwy i P mewn cysylltiad â’r aelod o dan Ran 6 (buddion marwolaeth).
  • (2) Os collfernir P o drosedd berthnasol, caiff y rheolwr cynllun, i’r cyfryw raddau yr ystyria’n briodol, gadw’n ôl unrhyw bensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys sy’n daladwy i P mewn cysylltiad ag aelod o dan Ran 6 (buddion marwolaeth).
  • (3) Os yw paragraff (1) yn gymwys, mae Rhan 6 (buddion marwolaeth) yn gymwys fel pe buasai farw P cyn yr aelod.
  • (4) O dan baragraff (2), ni chaiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl ddim mwy na’r rhan o bensiwn P sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan P i’w gael o dan adran 17 o DCauP 1993[^f00082].
  • (5) Os collfernir P o lofruddiaeth aelod a diddymir y gollfarn yn ddiweddarach yn dilyn apêl, mae unrhyw bensiwn partner sy’n goroesi neu bensiwn plentyn cymwys a gadwyd yn ôl yn daladwy o’r diwrnod ar ôl y diwrnod y bu farw’r aelod, a rhaid i’r rheolwr cynllun, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diddymu’r gollfarn, dalu’r ôl-ddyled gronedig o bensiwn.
  • (6) Os collfernir P o drosedd berthnasol a diddymir y gollfarn yn ddiweddarach yn dilyn apêl, mae unrhyw benderfyniad o dan baragraff (2) i’w drin fel pe bai wedi ei ddirymu a rhaid i’r rheolwr cynllun, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diddymu’r gollfarn, dalu’r ôl-ddyled gronedig o bensiwn o’r diwrnod ar ôl y diwrnod y bu farw’r aelod.
  • (7) Ni chaiff dim sydd ym mharagraffau (5) neu (6) effeithio ar gymhwyso paragraffau (1) neu (2) os yw’r person y diddymwyd ei gollfarn yn cael ei gollfarnu yn ddiweddarach o lofruddiaeth yr aelod, neu o drosedd berthnasol.
  • (8) Yn y rheoliad hwn, ystyr “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) yw—
  • (a) dynladdiad yr aelod; neu
  • (b) unrhyw drosedd arall, ac eithrio llofruddiaeth, y mae lladd yr aelod yn anghyfreithlon yn elfen ynddi.

Fforffedu cyfandaliad budd marwolaeth: troseddau a gyflawnir gan bersonau eraill

183
  • (1) Os collfernir person o drosedd berthnasol, rhaid i’r rheolwr cynllun gadw’n ôl y cyfan o unrhyw gyfandaliad budd marwolaeth sy’n daladwy i’r person hwnnw mewn cysylltiad ag aelod o dan Bennod 4 o Ran 6 (buddion marwolaeth).
  • (2) yn y rheoliad hwn, ystyr “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) yw—
  • (a) llofruddiaeth yr aelod;
  • (b) dynladdiad yr aelod; neu
  • (c) unrhyw drosedd arall y mae lladd yr aelod yn anghyfreithlon yn elfen ynddi.
  • (3) Os yw paragraff (1) yn gymwys a’r rheolwr cynllun yn cadw’n ôl yr holl fuddion, mae Rhan 6 (buddion marwolaeth) yn gymwys fel pe buasai’r person hwnnw farw cyn yr aelod.
  • (4) Os collfernir person o drosedd berthnasol a diddymir y gollfarn yn ddiweddarach yn dilyn apêl, caiff y rheolwr cynllun, i’r cyfryw raddau ac am y cyfryw gyfnod yr ystyria’n briodol, adfer i’r person hwnnw gymaint o unrhyw fudd ag a gadwyd yn ôl o dan y rheoliad hwn.
  • (5) Ni chaiff dim sydd ym mharagraff (4) effeithio ar gymhwyso paragraff (1) os yw’r person y diddymwyd ei gollfarn yn cael ei gollfarnu yn ddiweddarach o drosedd berthnasol.

Fforffedu: rhwymedigaethau ariannol perthnasol a cholledion ariannol perthnasol

184
  • (1) Os oes gan aelod (P) rwymedigaeth ariannol berthnasol neu os yw wedi achosi colled ariannol berthnasol, caiff y rheolwr cynllun, i’r cyfryw raddau ac am y cyfryw gyfnod yr ystyria’n briodol, gadw’n ôl buddion sy’n daladwy i P o dan y cynllun hwn.
  • (2) Caiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl fuddion i’r graddau yr ystyria’r rheolwr cynllun yn briodol, ond ni chaiff gadw’n ôl ddim mwy na’r rhan honno o bensiwn P sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan P i’w gael o dan adran 14 o DCauP 1993.
  • (3) Ni chaiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl ddim mwy na’r lleiaf o’r canlynol—
  • (a) swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol neu’r golled ariannol berthnasol; a
  • (b) gwerth hawlogaeth P i gael buddion.
  • (4) Ni chaiff y rheolwr cynllun gadw buddion yn ôl ac eithrio—
  • (a) os oes anghytundeb ynglŷn â swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol neu’r golled ariannol berthnasol; neu
  • (b) os yw’r rhwymedigaeth ariannol berthnasol neu’r golled ariannol berthnasol yn orfodadwy fel a ganlyn—
  • (i) o dan orchymyn gan lys cymwys, neu
  • (ii) o ganlyniad i ddyfarniad gan gymrodeddwr.
  • (5) Yn y rheoliad hwn—
  • ystyr “colled ariannol berthnasol” (“relevant monetary loss”) yw colled ariannol— a achoswyd i’r cynllun hwn, a a oedd yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P; ac ystyr “rhwymedigaeth ariannol berthnasol” (“relevant monetary obligation”) yw rhwymedigaeth ariannol— a achoswyd i gyflogwr P, a achoswyd wedi i P ddod yn aelod actif o’r cynllun hwn, a oedd yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P, a a oedd yn tarddu o, neu’n gysylltiedig â gwasanaeth yn y gyflogaeth gynllun y mae P yn aelod o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â hi.

Gwrthgyfrif

185
  • (1) Caiff y rheolwr cynllun wrthgyfrif rhwymedigaeth ariannol berthnasol yn erbyn hawlogaeth aelod i gael buddion o dan y cynllun hwn.
  • (2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “rhwymedigaeth ariannol berthnasol” (“relevant monetary obligation”) yw rhwymedigaeth ariannol sy’n ddyledus gan aelod (P) ac sy’n bodloni’r amodau ym mharagraffau (3), (4) neu (5).
  • (3) Yr amodau yn y paragraff hwn yw fod y rhwymedigaeth ariannol—
  • (a) wedi ei hachosi i gyflogwr P;
  • (b) wedi ei hachosi ar ôl i P ddod yn aelod actif o’r cynllun hwn;
  • (c) yn tarddu o, neu’n gysylltiedig â’r gyflogaeth gynllun y mae P yn aelod o’r cynllun hwn mewn cysylltiad â hi; a
  • (d) yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P.
  • (4) Yr amodau yn y paragraff hwn yw fod y rhwymedigaeth ariannol—
  • (a) wedi ei hachosi i’r cynllun hwn; a
  • (b) yn tarddu o weithred neu anwaith droseddol, esgeulus neu dwyllodrus gan P.
  • (5) Yr amodau yn y paragraff hwn yw fod y rhwymedigaeth ariannol—
  • (a) wedi ei hachosi i’r cynllun hwn; a
  • (b) yn tarddu o daliad a wnaed i P mewn camgymeriad gan y rheolwr cynllun.
  • (6) Mae paragraff (7) yn gymwys os bwriedir gweithredu gwrthgyfrif o ganlyniad i rwymedigaeth ariannol berthnasol sy’n ddyledus gan P ac yn bodloni’r amodau ym mharagraff (3).
  • (7) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, ni chaiff y rheolwr cynllun wrthgyfrif yn erbyn y rhan honno o hawlogaeth P i gael buddion sy’n cynrychioli credydau trosglwyddo, yn yr ystyr a roddir i “transfer credits” yn adran 124(1) (dehongli Rhan 1) o Ddeddf Pensiynau 1995[^f00083], ac eithrio credydau trosglwyddo rhagnodedig at ddibenion adran 91(5)(d) (eithrio o anaralladwyedd pensiynau galwedigaethol) o’r Ddeddf honno[^f00084].
  • (8) Ni chaiff y rheolwr cynllun weithredu gwrth gyfrif ac eithrio yn erbyn y rhan honno o bensiwn aelod sydd dros ben unrhyw leiafswm gwarantedig y mae hawl gan yr aelod hwnnw i’w gael o dan adran 14 o DCauP 1993.
  • (9) Ni chaiff gwerth y gwrthgyfrif a weithredir fod yn fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
  • (a) swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol; a
  • (b) gwerth hawlogaeth P i gael buddion.
  • (10) Ni chaiff y rheolwr cynllun wrthgyfrif rhwymedigaeth ariannol berthnasol yn erbyn hawlogaeth P i gael buddion ac eithrio—
  • (a) pan nad oes anghytundeb ynglŷn â swm y rhwymedigaeth ariannol berthnasol; neu
  • (b) pan fo’r rhwymedigaeth ariannol berthnasol yn orfodadwy fel a ganlyn—
  • (i) o dan orchymyn llys cymwys, neu
  • (ii) o ganlyniad i ddyfarniad gan gymrodeddwr.

Fforffedu a gwrthgyfrif: gweithdrefn

186
  • (1) Os yw’r rheolwr cynllun yn bwriadu cadw buddion yn ôl neu weithredu gwrthgyfrif yn erbyn hawlogaeth person i gael buddion, rhaid i’r rheolwr cynllun hysbysu’r person o’i fwriad mewn ysgrifen.
  • (2) Os yw’r rheolwr cynllun yn cadw buddion yn ôl o dan reoliad 184 (fforffedu: rhwymedigaethau ariannol perthnasol a cholledion ariannol perthnasol) neu’n gweithredu gwrthgyfrif yn erbyn hawlogaeth i gael buddion o dan reoliad 185 (gwrthgyfrif), rhaid i’r rheolwr cynllun roi i’r aelod dystysgrif sy’n dangos—
  • (a) y swm a gedwir yn ôl neu a wrthgyfrifir; a
  • (b) effaith y cadw’n ôl neu’r gwrthgyfrif ar fuddion yr aelod, partner sy’n goroesi neu blentyn cymwys o dan y cynllun hwn.

Gweinyddwr cynllun at ddibenion Deddf Cyllid 2004

187

Penodir y rheolwr cynllun i fod yn gyfrifol am yr holl rwymedigaethau a chyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â’r swyddogaethau a roddir i, neu a osodir ar, y gweinyddwr cynllun gan neu o dan Ran 4 o DC 2004, ac yr ymgymerir â hwy gan y rheolwr cynllun fel gweinyddwr is-gynllun o dan reoliad 3 o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn Cofrestredig (Hollti Cynlluniau) 2006 ac Atodlen 3 i’r Rheoliadau hynny[^f00085].

Talu’r tâl lwfans oes ar ran aelodau

188
  • (1) Caiff aelod ofyn i weinyddwr y cynllun dalu, ar ran yr aelod, unrhyw swm sy’n daladwy fel tâl lwfans oes o dan adran 214 o DC 2004 pan fo—
  • (a) digwyddiad sy’n ddigwyddiad crisialu budd a restrir yn y tabl yn adran 216(1) o DC 2004 yn digwydd mewn perthynas â’r aelod; a
  • (b) yr aelod a’r rheolwr cynllun yn atebol ar y cyd ac yn unigol mewn perthynas â’r digwyddiad hwnnw.
  • (2) Ni chaniateir gwneud cais o’r fath ac eithrio drwy hysbysiad i’r gweinyddwr cynllun ymlaen llaw cyn y digwyddiad.
  • (3) Ni chaiff y rheolwr cynllun gydymffurfio â chais o’r fath onid yw’r aelod—
  • (a) yn talu’r swm sydd dan sylw iddo ar neu cyn dyddiad y digwyddiad; neu
  • (b) yn awdurdodi didynnu’r swm sydd dan sylw allan o gyfandaliad sy’n dod yn daladwy i’r aelod o dan y cynllun hwn yr un pryd â’r digwyddiad.

Lleihau buddion pan fo tâl lwfans oes yn daladwy

189
  • (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—
  • (a) os yw’r digwyddiad sy’n ddigwyddiad crisialu budd a restrir yn y tabl yn adran 216(1) o DC 2004 (“y tabl”) yn digwydd mewn perthynas ag aelod[^f00086];
  • (b) os yw’r aelod a’r rheolwr cynllun yn atebol ar y cyd ac yn unigol mewn perthynas â’r digwyddiad hwnnw; ac
  • (c) os na wnaed cais yn briodol o dan reoliad 188 (talu’r tâl lwfans oes ar ran aelodau) mewn perthynas â’r digwyddiad neu, os gwnaed cais o’r fath, rhwystrwyd y rheolwr cynllun rhag cydymffurfio â’r cais hwnnw gan baragraff (3) o’r rheoliad hwnnw.
  • (2) Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys—
  • (a) rhaid i’r rheolwr cynllun dalu’r dreth sy’n daladwy ar y digwyddiad;
  • (b) os y digwyddiad yw digwyddiad crisialu budd rhif 8 yn y tabl (trosglwyddo i gynllun pensiwn tramor cydnabyddedig cymwys),rhaid lleihau swm neu werth y symiau neu asedau a drosglwyddir; ac
  • (c) yn achos unrhyw ddigwyddiad arall yn y tabl hwnnw, rhaid lleihau swm neu werth y buddion sy’n daladwy i’r aelod neu mewn cysylltiad â’r aelod.
  • (3) Rhaid i swm neu werth y lleihad—
  • (a) adlewyrchu swm cyflawn y dreth a dalwyd felly; a
  • (b) yn achos unrhyw ostyngiad mewn buddion pensiwn, cael ei gyfrifo yn unol â chanllawiau actiwaraidd.

Gwybodaeth ynghylch talu’r tâl lwfans blynyddol

190
  • (1) Os yw swm mewnbwn cynllun pensiwn aelod ar gyfer y cynllun hwn am gyfnod mewnbwn pensiwn yn fwy na swm y lwfans blynyddol ar gyfer y flwyddyn dreth y mae’r cyfnod mewnbwn pensiwn hwnnw yn diweddu ynddi, mae paragraff (2) yn gymwys mewn cysylltiad â’r aelod ar gyfer y flwyddyn dreth honno.
  • (2) Rhaid i’r rheolwr cynllun, ddim hwyrach na 6 Hydref ar ôl diwedd y flwyddyn dreth, ddarparu i’r aelod y cyfryw wybodaeth a ystyrir yn briodol gan y rheolwr cynllun i gynorthwyo’r aelod i drefnu taliad o’r tâl lwfans blynyddol am y flwyddyn dreth honno, ynghyd â’r wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 14A o Reoliadau Cynlluniau Pensiwn (Darparu Gwybodaeth) 2006[^f00087].
  • (3) Yn y rheoliad hwn—
  • mae i “cyfnod mewnbwn pensiwn” (“pension input period”) yr ystyr a roddir yn adran 238 (cyfnod mewnbwn pensiwn) o DC 2004[^f00088]; mae i “swm mewnbwn cynllun pensiwn” (“pension scheme input amount”) yr ystyr a roddir yn adran 237B(2) (atebolrwydd gweinyddwr cynllun) o DC 2004[^f00089].

Lleihau buddion pan fo tâl lwfans blynyddol wedi ei dalu gan reolwr cynllun

191
  • (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—
  • (a) aelod wedi rhoi hysbysiad dilys i’r rheolwr cynllun o’u hatebolrwydd ar y cyd ac yn unigol am dâl lwfans blynyddol o dan adran 237B(3) o DC 2004; a
  • (b) y rheolwr cynllun yn bodloni’r atebolrwydd a bennir yn yr hysbysiad.
  • (2) Rhaid i reolwr cynllun leihau swm neu werth y buddion sy’n daladwy i’r aelod, neu mewn cysylltiad â’r aelod, ar gyfer y flwyddyn dreth y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi, yn unol â pharagraff (3).
  • (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i swm neu werth y gostyngiad mewn buddion—
  • (a) adlewyrchu’r swm cyflawn a dalwyd gan y rheolwr cynllun; a
  • (b) cael ei benderfynu yn unol â chanllawiau actiwaraidd.
  • (4) Ni chaniateir lleihau buddion o dan y rheoliad hwn ac eithrio i’r graddau na fyddai’r lleihad yn peri colli unrhyw ran o leiafswm pensiwn gwarantedig y mae hawl gan y person i’w gael.

Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.

This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence. legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.