The Firefighters’ Pension Scheme (Wales) Regulations 2015
Cyfrifo cyfnodau o aelodaeth a gwasanaeth
192
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), at ddibenion y cynllun hwn rhaid mynegi cyfnodau o aelodaeth a gwasanaeth yn gyntaf oll mewn blynyddoedd cyfan a diwrnodau neu ffracsiynau o ddiwrnod, a rhaid cydgrynhoi’r cyfnodau ar y dechrau y mae’n ofynnol eu cydgrynhoi drwy gyfeirio at gyfnodau a fynegir felly.
- (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ar ôl cydgrynhoi yr holl gyfnodau o aelodaeth neu o wasanaeth y mae’n ofynnol eu cydgrynhoi, os oes rhan o ddiwrnod dros ben y nifer o ddiwrnodau llawn, rhaid talgrynnu’r rhan dros ben honno i fyny, i wneud diwrnod llawn.
- (3) Os cyfeirir at aelodaeth neu wasanaeth yn y Rheoliadau hyn fel aelodaeth neu wasanaeth mewn blynyddoedd, rhaid trosi’r canlynol yn flynyddoedd—
- (a) y diwrnodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), a
- (b) y diwrnodau llawn y cyfeirir atynt ym mharagraff (2),
drwy rannu nifer y diwrnodau sydd dros ben y cyfnod o flynyddoedd llawn gyda 365, a defnyddio’r canlyniad i bedwar lle degol.
- (4) Os yw cyfnod o aelodaeth neu wasanaeth yn llai nag un flwyddyn, mae’r rheoliad hwn yn gymwys fel pe bai’r geiriau “blynyddoedd cyfan a” wedi eu hepgor o baragraff (1) a’r geiriau “sydd dros ben y cyfnod o flynyddoedd llawn” wedi eu hepgor o baragraff (3).
Datganiadau blynyddol o wybodaeth am fuddion
193
- (1) Rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu datganiad blynyddol o wybodaeth am fuddion i bob un o’i aelodau nad ydynt yn aelod-bensiynwyr, mewn cysylltiad â’r cyfrif pensiwn y darperir y datganiad ar ei gyfer.
- (2) Rhaid darparu’r datganiadau cyntaf o’r fath ar neu cyn 31 Awst 2016.
- (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid darparu datganiadau dilynol o leiaf unwaith y flwyddyn ar neu cyn 31 Awst ym mhob blwyddyn ddilynol.
- (4) Os digwydd i aelod wneud cais mewn ysgrifen am ddarparu datganiad iddo ar ôl diwedd blwyddyn gynllun, ond cyn 31 Awst yn y flwyddyn gynllun ddilynol, rhaid i’r rheolwr cynllun ddarparu datganiad blynyddol o wybodaeth am fuddion yn unol â chais yr aelod cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ac eithrio pan nad yw’r data perthnasol ar gael i’w alluogi i wneud hynny.
- (5) Rhaid i’r datganiad a ddarperir i aelodau actif o’r cynllun hwn fod yn unol ag adran 14 o Ddeddf 2013 (gwybodaeth am fuddion).
Tystiolaeth o hawlogaeth
194
- (1) Caiff rheolwr cynllun, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson sy’n cael pensiwn, neu a allai fod â hawlogaeth i gael pensiwn neu gyfandaliad o dan y cynllun hwn, yn darparu pa bynnag dystiolaeth ategol y gofynnir amdani’n rhesymol gan y rheolwr cynllun er mwyn cadarnhau—
- (a) enw’r person hwnnw; a
- (b) hawl y person hwnnw, sy’n parhau neu yn y dyfodol i gael taliad o unrhyw swm o dan y cynllun hwn.
- (2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) bennu erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid darparu’r wybodaeth.
- (3) Pan fo person yn methu â chydymffurfio â gofynion hysbysiad a roddir yn unol â pharagraff (1), caiff y rheolwr cynllun gadw’n ôl y cyfan neu ran o unrhyw swm y byddai’r rheolwr cynllun, fel arall, yn ei ystyried yn daladwy o dan y cynllun hwn.
Gwybodaeth sydd i’w darparu i aelod cyn absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn
195
Rhaid i’r rheolwr cynllun roi i aelod sydd ar fin cychwyn cyfnod o absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn ddatganiad sy’n nodi—
- (a) tâl pensiynadwy tybiedig yr aelod hwnnw tra bo ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn;
- (b) y gyfradd cyfraniadau aelod a fydd yn gymwys yn ystod y cyfnod hwnnw;
- (c) manylion unrhyw daliadau sydd i’w talu gan y cyflogwr i’r aelod tra bo ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn; a
- (d) y cyfraniad cyflogwr a fydd yn gymwys yn ystod y cyfnod hwnnw.
Darpariaethau trosiannol
196
Mae Atodlen 2 yn cael effaith.
Dyletswydd i roi sylw i ganllawiau
197
Rhaid i reolwr cynllun roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru at ddibenion y Rhan hon.
Dehongli
Ystyr “terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol”
Cyfyngiad ar ddewisiadau
Ni chaiff swm y pensiwn ychwanegol cronedig fod yn fwy na’r terfyn cyffredinol o bensiwn ychwanegol
Dewisiad pensiwn ychwanegol sy’n arferadwy gan yr aelod
Cymhwyso’r Bennod
Dewisiad aelod i wneud taliadau cyfnodol ar gyfer pensiwn ychwanegol
Taliadau cyfnodol
Terfynu taliadau cyfnodol
Taliadau cyfnodol yn ystod cyfnodau o dâl pensiynadwy tybiedig
Swm y pensiwn ychwanegol ar gyfer blwyddyn gynllun
Cymhwyso’r Bennod
Dewisiad aelod i wneud cyfandaliad ar gyfer pensiwn ychwanegol
Swm y pensiwn ychwanegol sydd i’w gredydu i gyfrif pensiwn ychwanegol
Dehongli
Ystyr “parhad gwasanaeth”
Ystyr “dyddiad cau diogelwch taprog”
Ystyr “cymwys i fod yn aelod actif” o CPNDT
Ystyr “aelod actif o Gynllun 1992 neu CPNDT”
Ystyr “aelod actif o gynllun presennol”
Ystyr “aelod actif o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol”
Cychwyn aelodaeth actif o’r cynllun hwn
RHAN 2 — Aelodau diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT
Aelodau diogelwch llawn o Gynllun 1992 neu CPNDT
Eithriad ar gyfer aelod diogelwch llawn yn ystod y cyfnod diogelwch
Nid yw aelod diogelwch llawn yn gymwys i ymuno â’r cynllun hwn
Diogelwch llawn: aelodau o Gynllun 1992 neu CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun
Diogelwch llawn: aelodau o gynllun presennol
Diogelwch llawn: aelodau o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol
RHAN 2 — Eithriadau i adran 18(1) o Ddeddf 2013: aelodau diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT
Aelodau diogelwch taprog o Gynllun 1992 neu CPNDT
Eithriad ar gyfer aelodau diogelwch taprog yn ystod y cyfnod diogelwch
Nid yw aelod diogelwch taprog yn gymwys i ymuno â’r cynllun hwn
Diogelwch taprog: aelodau o Gynllun 1992 neu CPNDT ar ddyddiad cau’r cynllun
Diogelwch taprog: aelodau o gynllun presennol
Diogelwch taprog: aelodau o gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol
Aelodau diogelwch taprog o gynllun presennol neu gynllun pensiwn corff cyhoeddus presennol
| Dyddiad geni o | Dyddiad geni i | Dyddiad y daw diogelwch i ben |
|---|---|---|
| 02/04/1967 | 01/05/1967 | 31/03/2022 |
| 02/05/1967 | 01/06/1967 | 06/02/2022 |
| 02/06/1967 | 01/07/1967 | 14/12/2021 |
| 02/07/1967 | 01/08/1967 | 23/10/2021 |
| 02/08/1967 | 01/09/1967 | 29/08/2021 |
| 02/09/1967 | 01/10/1967 | 06/07/2021 |
| 02/10/1967 | 01/11/1967 | 15/05/2021 |
| 02/11/1967 | 01/12/1967 | 21/03/2021 |
| 02/12/1967 | 01/01/1968 | 28/01/2021 |
| 02/01/1968 | 01/02/1968 | 05/12/2020 |
| 02/02/1968 | 01/03/1968 | 11/10/2020 |
| 02/03/1968 | 01/04/1968 | 22/08/2020 |
| 02/04/1968 | 01/05/1968 | 28/06/2020 |
| 02/05/1968 | 01/06/1968 | 07/05/2020 |
| 02/06/1968 | 01/07/1968 | 14/03/2020 |
| 02/07/1968 | 01/08/1968 | 21/01/2020 |
| 02/08/1968 | 01/09/1968 | 28/11/2019 |
| 02/09/1968 | 01/10/1968 | 05/10/2019 |
| 02/10/1968 | 01/11/1968 | 13/08/2019 |
| 02/11/1968 | 01/12/1968 | 20/06/2019 |
| 02/12/1968 | 01/01/1969 | 28/04/2019 |
| 02/01/1969 | 01/02/1969 | 05/03/2019 |
| 02/02/1969 | 01/03/1969 | 10/01/2019 |
| 02/03/1969 | 01/04/1969 | 22/11/2018 |
| 02/04/1969 | 01/05/1969 | 29/09/2018 |
| 02/05/1969 | 01/06/1969 | 07/08/2018 |
| 02/06/1969 | 01/07/1969 | 14/06/2018 |
| 02/07/1969 | 01/08/1969 | 22/04/2018 |
| 02/08/1969 | 01/09/1969 | 27/02/2018 |
| 02/09/1969 | 01/10/1969 | 04/01/2018 |
| 02/10/1969 | 01/11/1969 | 12/11/2017 |
| 02/11/1969 | 01/12/1969 | 19/09/2017 |
| 02/12/1969 | 01/01/1970 | 29/07/2017 |
| 02/01/1970 | 01/02/1970 | 04/06/2017 |
| 02/02/1970 | 01/03/1970 | 11/04/2017 |
| 02/03/1970 | 01/04/1970 | 21/02/2017 |
| 02/04/1970 | 01/05/1970 | 29/12/2016 |
| 02/05/1970 | 01/06/1970 | 06/11/2016 |
| 02/06/1970 | 01/07/1970 | 13/09/2016 |
| 02/07/1970 | 01/08/1970 | 23/07/2016 |
| 02/08/1970 | 01/09/1970 | 29/05/2016 |
| 02/09/1970 | 01/10/1970 | 05/04/2016 |
| 02/10/1970 | 01/11/1970 | 13/02/2016 |
| 02/11/1970 | 01/12/1970 | 20/12/2015 |
| 02/12/1970 | 01/01/1971 | 29/10/2015 |
| 02/01/1971 | 01/02/1971 | 05/09/2015 |
| 02/02/1971 | 01/03/1971 | 12/07/2015 |
| 02/03/1971 | 01/04/1971 | 24/05/2015 |
| Dyddiad geni o | Dyddiad geni i | Dyddiad y daw diogelwch i ben |
| --- | --- | --- |
| 02/04/1962 | 01/05/1962 | 31/03/2022 |
| 02/05/1962 | 01/06/1962 | 06/02/2022 |
| 02/06/1962 | 01/07/1962 | 14/12/2021 |
| 02/07/1962 | 01/08/1962 | 23/10/2021 |
| 02/08/1962 | 01/09/1962 | 29/08/2021 |
| 02/09/1962 | 01/10/1962 | 06/07/2021 |
| 02/10/1962 | 01/11/1962 | 15/05/2021 |
| 02/11/1962 | 01/12/1962 | 21/03/2021 |
| 02/12/1962 | 01/01/1963 | 28/01/2021 |
| 02/01/1963 | 01/02/1963 | 05/12/2020 |
| 02/02/1963 | 01/03/1963 | 11/10/2020 |
| 02/03/1963 | 01/04/1963 | 23/08/2020 |
| 02/04/1963 | 01/05/1963 | 30/06/2020 |
| 02/05/1963 | 01/06/1963 | 09/05/2020 |
| 02/06/1963 | 01/07/1963 | 15/03/2020 |
| 02/07/1963 | 01/08/1963 | 23/01/2020 |
| 02/08/1963 | 01/09/1963 | 30/11/2019 |
| 02/09/1963 | 01/10/1963 | 06/10/2019 |
| 02/10/1963 | 01/11/1963 | 15/08/2019 |
| 02/11/1963 | 01/12/1963 | 22/06/2019 |
| 02/12/1963 | 01/01/1964 | 30/04/2019 |
| 02/01/1964 | 01/02/1964 | 07/03/2019 |
| 02/02/1964 | 01/03/1964 | 12/01/2019 |
| 02/03/1964 | 01/04/1964 | 22/11/2018 |
| 02/04/1964 | 01/05/1964 | 29/09/2018 |
| 02/05/1964 | 01/06/1964 | 07/08/2018 |
| 02/06/1964 | 01/07/1964 | 14/06/2018 |
| 02/07/1964 | 01/08/1964 | 22/04/2018 |
| 02/08/1964 | 01/09/1964 | 27/02/2018 |
| 02/09/1964 | 01/10/1964 | 04/01/2018 |
| 02/10/1964 | 01/11/1964 | 12/11/2017 |
| 02/11/1964 | 01/12/1964 | 19/09/2017 |
| 02/12/1964 | 01/01/1965 | 29/07/2017 |
| 02/01/1965 | 01/02/1965 | 04/06/2017 |
| 02/02/1965 | 01/03/1965 | 11/04/2017 |
| 02/03/1965 | 01/04/1965 | 21/02/2017 |
| 02/04/1965 | 01/05/1965 | 29/12/2016 |
| 02/05/1965 | 01/06/1965 | 06/11/2016 |
| 02/06/1965 | 01/07/1965 | 13/09/2016 |
| 02/07/1965 | 01/08/1965 | 23/07/2016 |
| 02/08/1965 | 01/09/1965 | 29/05/2016 |
| 02/09/1965 | 01/10/1965 | 05/04/2016 |
| 02/10/1965 | 01/11/1965 | 13/02/2016 |
| 02/11/1965 | 01/12/1965 | 20/12/2015 |
| 02/12/1965 | 01/01/1966 | 29/10/2015 |
| 02/01/1966 | 01/02/1966 | 05/09/2015 |
| 02/02/1966 | 01/03/1966 | 12/07/2015 |
| 02/03/1966 | 01/04/1966 | 24/05/2015 |
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.