The Plant Health (Wales) Order 2018

Type Welsh-Statutory-Instrument
Publication 2018-10-09
Last updated 2020-03-27
State In force
Jurisdiction Wales
Department King's Printer of Acts of Parliament
PDF Download
articles Not indexed
Reform history JSON API
(1)Eitem (2)Disgrifiad o’r deunydd perthnasol (3)Gofynion glanio
1. Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, coed conwydd (Coniferales), sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i Ewrop Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu cynhyrchu mewn meithrinfa, a bod y man cynhyrchu yn rhydd rhag Pissodes spp. (heb fod yn rhai Ewropeaidd)
2. Planhigion, ac eithrio hadau, Pinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Scirrhia acicola (Dearn.) Siggers neu Scirrhia pini Funk a Parker yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
3. Planhigion, ac eithrio hadau, Abies Mill., Larix Mill., Picea A. Dietr., Pinus L., Pseudotsuga Carr. neu Tsuga Carr., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Melampsora medusae Thümen yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
4. Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Quercus L. sy’n tarddu o UDA Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Ceratocystis fagacearum (Bretz) Hunt.
5. Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Castanea Mill. neu Quercus L., sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i Ewrop Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw arwyddion Cronartium spp. (heb fod yn rhai Ewropeaidd) yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
6. Planhigion, ac eithrio hadau, Castanea Mill, neu Quercus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr; neuna welwyd unrhyw symptomau Cryphonectria parasitica (Murrill) Barr yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
7. Planhigion, ac eithrio hadau, Corylus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o Ganada neu UDA Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu tyfu mewn meithrinfa ac:yn tarddu o ardal a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn ardal sy’n rhydd rhag Anisogramma anomala (Peck) E. Müller, yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; neuyn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn fan sy’n rhydd rhag Anisogramma anomala (Peck) E. Müller o gynnal arolygiadau swyddogol yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” a datganiad ei fod yn rhydd rhag Anisogramma anomala (Peck) E. Müller
8. Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, ond gan gynnwys canghennau wedi eu torri, gyda deiliach neu hebddo, Fraxinus L., Juglans ailantifolia Carr., Juglans mandshurica Maxim., Ulmus davidiana Planch. neu Pterocarya rhoifolia Siebold a Zucc., sy’n tarddu o Ganada, Tsieina, Gweriniaeth Ddemocrataidd Pobl Korea, Japan, Mongolia, Gweriniaeth Korea, Rwsia, Taiwan neu UDA Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o ardal y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Agrilus planipennis Fairmaire at ddibenion pwynt 11.4 o Adran I o Atodiad IV Rhan A, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio
8A. Planhigion, ac eithrio hadau, Juglans L. neu Pterocarya Kunth, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o UDA Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Geosmithia morbida Kolarik, Freeland, Utley a Tisserat a’i fector Pityophthorus juglandis Blackman;eu bod:yn tarddu o fan cynhyrchu lle na welwyd symptomau Geosmithia morbida Kolarik, Freeland, Utley a Tisserat na’i fector Pityophthorus juglandis Blackman, neu bresenoldeb y fector, yn ystod arolygiadau swyddogol o’r man cynhyrchu a’i gyffiniau (sef, o leiaf, yr ardal o fewn radiws o 5km i’r man cynhyrchu) a gynhelir yn y cyfnod o ddwy flynedd cyn eu hallforio;eu bod wedi eu harolygu yn union cyn eu hallforio; aeu bod wedi eu trin a’u pecynnu mewn ffyrdd sy’n atal eu heigio ar ôl iddynt adael y man cynhyrchu; neueu bod:yn tarddu o fan cynhyrchu sydd wedi ei ynysu yn ffisegol yn llwyr;eu bod wedi eu harolygu yn union cyn eu hallforio; aeu bod wedi eu trin a’u pecynnu mewn ffyrdd sy’n atal eu heigio ar ôl iddynt adael y man cynhyrchu.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration”
9. Planhigion Betula L., ac eithrio ffrwythau neu hadau, ond gan gynnwys canghennau wedi eu torri Betula L., gyda deiliach neu hebddo, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o wlad y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Agrilus anxius Gory
10. Planhigion, ac eithrio hadau, Platanus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o Albania, Armenia, y Swistir, Twrci neu UDA Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y maent yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr.; neuna welwyd unrhyw symptomau Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr. yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration”
11. Planhigion, ac eithrio hadau, Populus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Melampsora medusae Thümen yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
12. Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Populus L., sy’n tarddu o unrhyw wlad ar gyfandir America Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Mycosphaerella populorum G.E. Thompson yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf.
13. Planhigion, ac eithrio hadau, Ulmus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw wlad yng Ngogledd America Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Candidatus Phytoplasma ulmi yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
14. Planhigion, ac eithrio impynnau, toriadau, planhigion mewn meithriniad meinwe, paill neu hadau, Amelanchier Medik., Aronia Medik., Cotoneaster Medik., Crataegus L., Cydonia Mill., Malus Mill., Prunus L., Pyracantha M. Roem., Pyrus L. neu Sorbus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o Ganada neu UDA Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal sy’n rhydd rhag Saperda candida Fabricius, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohono yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; neueu bod wedi eu tyfu yn ystod cyfnod o ddwy flynedd o leiaf cyn eu hallforio, neu yn achos planhigion sy’n iau na dwy flynedd, wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd, mewn man cynhyrchu a sefydlwyd yn fan sy’n rhydd rhag Saperda candida Fabricius yn unol ag ISPM Rhif 10:sydd wedi ei gofrestru a’i oruchwylio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni;a fu’n destun dau arolygiad swyddogol bob blwyddyn ar gyfer unrhyw arwyddion Saperda candida Fabricius a gynhaliwyd ar adegau priodol;lle mae’r planhigion wedi eu tyfu mewn safle sydd wedi ei ddiogelu’n llwyr yn ffisegol rhag cyflwyno Saperda candida Fabricius neu drwy gymhwyso triniaethau ataliol priodol ac a amgylchynir gan barth clustogi sydd o leiaf 500 m o led lle y cadarnhawyd nad yw Saperda candida Fabricius yn bresennol gan arolygon swyddogol a gynhelir yn flynyddol ar adegau priodol; ayn union cyn eu hallforio, bod y planhigion, ac yn enwedig eu coesynnau, wedi bod yn destun arolygiad manwl ar gyfer presenoldeb Saperda candida Fabricius, a oedd yn cynnwys samplu dinistriol, pan fo’n briodol
14A. Planhigion, ac eithrio planhigion mewn meithriniad meinwe neu hadau, Crataegus L., Cydonia Mill., Malus Mill., Prunus L., Pyrus L. neu Vaccinium L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o Ganada, Mecsico neu UDA Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Grapholita packardi Zeller;eu bod:wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn man cynhyrchu a sefydlwyd yn unol ag ISPM Rhif 10 yn fan cynhyrchu sy’n rhydd rhag Grapholita packardi Zeller, sydd wedi ei gofrestru ac sy’n cael ei oruchwylio gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni ac sydd wedi bod yn destun arolygiadau blynyddol ar gyfer unrhyw arwyddion Grapholita packardi Zeller a gynhelir ar adegau priodol;wedi eu tyfu mewn safle lle defnyddir triniaethau ataliol priodol, pan fo arolygon swyddogol a gynhelir yn flynyddol ar adegau priodol wedi cadarnhau nad yw Grapholita packardi Zeller yn bresennol; awedi bod yn destun arolygiad manwl ar gyfer presenoldeb Grapholita packardi Zeller yn union cyn eu hallforio; neueu bod wedi eu tyfu ar safle sydd wedi ei ddiogelu yn ffisegol yn llwyr rhag cyflwyno Grapholita packardi Zeller.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration” a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig amdano yn flaenorol gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol
15. Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r ffrwythau fod yn rhydd rhag pedynclau a dail, a rhaid i’r deunydd pecynnu, unrhyw label a osodir ar y deunydd pecynnu neu unrhyw ddogfen a ddefnyddir fel arfer at ddibenion masnach sy’n dod gyda’r llwyth ddwyn nod tarddiad priodol (caiff y nod hwnnw fod yn gyfeiriad at enw’r wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni)
16. Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Microcitrus Swingle, Naringi Adans., neu Swinglea Merr., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii yn unol ag ISPM Rhif 4, ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol;eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol;eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn fan sy’n rhydd rhag Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”;eu bod:wedi eu trin â sodiwm orthoffenylffenad neu unrhyw driniaeth effeithiol arall yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig amdani yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol;yn tarddu o safle cynhyrchu sy’n ddarostyngedig, ynghyd â’i gyffiniau agos, i driniaethau ac arferion meithrin priodol i atal Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii; ayn rhydd rhag symptomau Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolli, fel y dangosir o gynnal arolygiadau swyddogol ar adegau priodol cyn allforio; asy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd; neuyn achos ffrwythau sydd i’w hanfon i greu sudd drwy brosesu diwydiannol yn yr Undeb Ewropeaidd:y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag symptomau Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii yn ystod arolygiadau swyddogol a gynhaliwyd cyn eu hallforio;eu bod yn tarddu o safle cynhyrchu a oedd yn ddarostyngedig, ynghyd â’i gyffiniau agos, i driniaethau ac arferion meithrin priodol i atal Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii;eu bod yn ddarostyngedig i drwydded a roddir o dan erthygl 40(1) o’r Gorchymyn hwn sy’n awdurdodi eu symud o fewn Cymru a, phan fo’n gymwys, eu prosesu a’u storio yng Nghymru;eu bod yn cael eu cludo mewn pecynnau unigol sy’n dwyn label sy’n cynnwys cod olrheiniadwyedd ac sy’n dangos bod y ffrwythau yn cael eu hanfon i’w prosesu’n ddiwydiannol; asy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd
17. Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Cercospora angolensis Carv. et Mendes yn unol ag ISPM Rhif 4, ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol;eu bod yn tarddu o ardal y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Cercospora angolensis Carv. et Mendes yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol; neuna welwyd unrhyw symptomau Cercospora angolensis Carv. et Mendes yn y safle cynhyrchu nac yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant diweddaraf ac nad oes unrhyw un o’r ffrwythau a gynaeafwyd yn y safle cynhyrchu wedi dangos, mewn archwiliad swyddogol priodol, symptomau o’r pla planhigion hwn
18. Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., ac eithrio ffrwythau Citrus aurantium L. neu Citrus latifolia Tanaka, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad, ac eithrio’r Ariannin, Brasil, De Affrica neu Uruguay Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn unol ag ISPM Rhif 4, ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol;eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol;eu bod:yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn fan sy’n rhydd rhag Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; ay canfuwyd eu bod yn rhydd rhag symptomau Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa gan arolygiad swyddogol o sampl gynrychioliadol a ddiffiniwyd yn unol ag ISPM Rhif 31;eu bod yn tarddu o safle cynhyrchu fu’n destun:triniaethau a mesurau meithrin priodol i atal Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa; acynhaliwyd arolygiadau swyddogol yn y safle cynhyrchu yn ystod y tymor tyfu ers dechrau’r cylch llystyfiant diweddaraf, ac ni chanfuwyd unrhyw symptomau Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn y ffrwythau; ay canfuwyd bod y ffrwythau a gynaeafwyd o’r safle cynhyrchu hwnnw yn rhydd rhag symptomau Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn ystod arolygiad swyddogol, cyn allforio, o sampl gynrychioliadol, a ddiffiniwyd yn unol ag ISPM Rhif 31; asy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd; neuyn achos ffrwythau sydd i’w hanfon i greu sudd drwy brosesu diwydiannol yn yr Undeb Ewropeaidd:y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag symptomau Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa cyn eu hallforio yn ystod arolygiad swyddogol o sampl gynrychioliadol a ddiffiniwyd yn unol ag ISPM Rhif 31;eu bod yn tarddu o safle cynhyrchu a oedd yn destun triniaethau priodol i atal Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa ar adegau priodol ac a grybwyllwyd ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”;eu bod yn ddarostyngedig i drwydded a roddir o dan erthygl 40(1) o’r Gorchymyn hwn sy’n awdurdodi eu symud o fewn Cymru a, phan fo’n gymwys, eu prosesu a’u storio yng Nghymru;eu bod yn cael eu cludo mewn pecynnau unigol sy’n dwyn label sy’n cynnwys cod olrheiniadwyedd ac sy’n dangos bod y ffrwythau i’w hanfon i’w prosesu’n ddiwydiannol; asy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd
19. Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., ac eithrio ffrwythau Citrus aurantium L. neu Citrus latifolia Tanaka, sy’n tarddu o’r Ariannin, Brasil, De Affrica neu Uruguay ac nad ydynt i’w hanfon i greu sudd drwy brosesu diwydiannol yn unig Rhaid i’r ffrwythau:dod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio, ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol;...yn achos ffrwythau sy’n tarddu o Dde Affrica neu Uruguay, dod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn Erthyglau 5 a 7 o Benderfyniad (EU) 2016/715;yn achos ffrwythau sy’n tarddu o’r Ariannin neu Frasil , dod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional Declaration” eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir yn Erthyglau 5a a 7 o Benderfyniad (EU) 2016/715
20. Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., ac eithrio ffrwythau Citrus aurantium L. neu Citrus latifolia Tanaka, sy’n tarddu o’r Ariannin, Brasil, De Affrica neu Uruguay ac sydd i’w hanfon i greu sudd drwy brosesu diwydiannol yn unig Rhaid i’r ffrwythau:dod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol; neueu bod:yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn fan sy’n rhydd rhag Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; ay canfuwyd eu bod yn rhydd rhag symptomau Phyllosticta citricarpa (McAlpine) Van der Aa gan arolygiad swyddogol o sampl gynrychioliadol a ddiffiniwyd yn unol ag ISPM Rhif 31;yn achos ffrwythau a gyflwynir i’r Undeb Ewropeaidd o dan y rhanddirymiad a bennir yn Erthygl 8 o Benderfyniad (EU) 2016/715, rhaid iddynt:dod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol ag Erthyglau 9(1) a 10 o Benderfyniad (EU) 2016/715 a’r wybodaeth a bennir yn Erthygl 9(2) o’r Penderfyniad hwnnw;bod wedi eu pecynnu a’u labelu yn unol ag Erthygl 17 o’r Penderfyniad hwnnw; abod yn ddarostyngedig i drwydded a roddir o dan erthygl 40(1) o’r Gorchymyn hwn yn awdurdodi eu symud o fewn Cymru a, phan fo’n gymwys, eu prosesu a’u storio yng Nghymru
21. Ffrwythau Citrus L., Fortunella Swingle, Poncirus Raf., Mangifera L. neu Prunus L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd) yn unol â’r mesurau a bennir yn ISPM Rhif 4;eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y maent yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd);na welwyd unrhyw arwyddion Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd) yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn cynaeafu, ac nad oes unrhyw un o’r ffrwythau a gynaeafwyd yn y man cynhyrchu wedi dangos, mewn archwiliadau swyddogol priodol, arwyddion Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd); neueu bod wedi bod yn destun triniaeth effeithiol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Tephritidae (heb fod yn rhai Ewropeaidd).Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid i’r Comisiwn Ewropeaidd fod wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch statws y wlad o ran bod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (b), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration” a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig amdano yn flaenorol gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (c), rhaid cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd ar y dystysgrif hefyd.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (d), rhaid hefyd grybwyll manylion data’r driniaeth ar y dystysgrif, a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch y dull trin gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol
22. Ffrwythau Capsicum (L.), Citrus L., ac eithrio Citrus limon (L.) Osbeck. neu Citrus aurantiifolia (Christm.) Swingle, Prunus persica (L.) Batsch neu Punica granatum L., sy’n tarddu o unrhyw wlad ar gyfandir Affrica, Cape Verde, Saint Helena, Madagasgar, La Reunion, Mauritius neu Israel Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Thaumatotibia leucotreta (Meyrick) yn unol â’r mesurau a bennir yn ISPM Rhif 4;eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y maent yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Thaumatotibia leucotreta (Meyrick);eu bod:yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y maent yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 10 yn fan cynhyrchu sy’n rhydd rhag Thaumatotibia leucotreta (Meyrick); aeu bod yn rhydd rhag Thaumatotibia leucotreta (Meyrick) fel y dangosir gan arolygiadau swyddogol a gynhelir yn y man cynhyrchu ar adegau priodol yn ystod y tymor tyfu, a oedd yn cynnwys o leiaf un archwiliad gweledol o samplau cynrychioliadol o’r ffrwythau; neueu bod wedi bod yn destun triniaeth oer effeithiol neu driniaeth arall i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Thaumatotibia leucotreta (Meyrick).Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid i’r Comisiwn Ewropeaidd fod wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch statws y wlad o ran bod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (b), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration” a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig amdano yn flaenorol gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (c), rhaid cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd ar y dystysgrif hefyd.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (d), rhaid hefyd grybwyll manylion data’r driniaeth ar y dystysgrif, a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch y dull trin, ynghyd â thystiolaeth ddogfennol o’i effeithiolrwydd, gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol
22A. Ffrwythau Malus Mill. sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Enarmonia prunivora Walsh, Grapholita inopinata Heinrich a Rhagoletis pomonella (Walsch) yn unol â’r mesurau a bennir yn ISPM Rhif 4;eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y maent yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Enarmonia prunivora Walsh, Grapholita inopinata Heinrich a Rhagoletis pomonella (Walsch);eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu lle y cynhelir arolygiadau ac arolygon swyddogol ar gyfer presenoldeb Enarmonia prunivora Walsh, Grapholita inopinata Heinrich a Rhagoletis pomonella (Walsch) ar adegau priodol yn ystod y tymor tyfu, gan gynnwys o leiaf un archwiliad gweledol o samplau cynrychioliadol o’r ffrwythau, a bod hynny wedi dangos bod y ffrwythau yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; neueu bod wedi bod yn destun triniaeth effeithiol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Enarmonia prunivora Walsh, Grapholita inopinata Heinrich a Rhagoletis pomonella (Walsch).Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid i’r Comisiwn Ewropeaidd fod wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch statws y wlad o ran bod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (b), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration” a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig amdano yn flaenorol gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (c), rhaid cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd ar y dystysgrif hefyd.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (d), rhaid hefyd gynnwys manylion data’r driniaeth ar y dystysgrif, a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch y dull trin gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.
22B. Ffrwythau Malus Mill. neu Pyrus L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Guignardia piricola (Nosa) Yamamoto yn unol â’r mesurau a bennir yn ISPM Rhif 4;eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y maent yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Guignardia piricola (Nosa) Yamamoto;eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu lle y cynhelir arolygiadau ac arolygon swyddogol ar gyfer presenoldeb Guignardia piricola (Nosa) Yamamoto ar adegau priodol yn ystod y tymor tyfu, gan gynnwys o leiaf un archwiliad gweledol o samplau cynrychioliadol o’r ffrwythau, a bod hynny wedi dangos bod y ffrwythau yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; neueu bod wedi bod yn destun triniaeth effeithiol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Guignardia piricola (Nosa) Yamamoto.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid i’r Comisiwn Ewropeaidd fod wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch statws y wlad o ran bod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (b), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration” a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig amdano yn flaenorol gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (c), rhaid cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd ar y dystysgrif hefyd.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (d), rhaid hefyd gynnwys manylion data’r driniaeth ar y dystysgrif, a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch y dull trin gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol
22C. Ffrwythau Malus Mill. neu Pyrus L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Tachypterellus quadrigibbus Say yn unol â’r mesurau a bennir yn ISPM Rhif 4;eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y maent yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Tachypterellus quadrigibbus Say;eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu lle y cynhelir arolygiadau ac arolygon swyddogol ar gyfer presenoldeb Tachypterellus quadrigibbus Say ar adegau priodol yn ystod y tymor tyfu, gan gynnwys o leiaf un archwiliad gweledol o samplau cynrychioliadol o’r ffrwythau, a bod hynny wedi dangos bod y ffrwythau yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; neueu bod wedi bod yn destun triniaeth effeithiol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Tachypterellus quadrigibbus Say.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid i’r Comisiwn Ewropeaidd fod wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch statws y wlad o ran bod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (b), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration” a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig amdano yn flaenorol gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (c), rhaid cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd ar y dystysgrif hefyd.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (d), rhaid hefyd gynnwys manylion data’r driniaeth ar y dystysgrif, a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch y dull trin gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.
22D. Ffrwythau Malus Mill., Prunus L., Pyrus L. neu Vaccinium L., sy’n tarddu o Ganada, Mecsico neu UDA Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y maent yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Grapholita packardi Zeller;eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu lle y cynhelir arolygiadau ac arolygon swyddogol ar gyfer presenoldeb Grapholita packardi Zeller ar adegau priodol yn ystod y tymor tyfu, gan gynnwys o leiaf un archwiliad gweledol o samplau cynrychioliadol o’r ffrwythau, a bod hynny wedi dangos bod y ffrwythau yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; neueu bod wedi bod yn destun triniaeth effeithiol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Grapholita packardi Zeller.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration” a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig amdano yn flaenorol gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (b), rhaid cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd ar y dystysgrif hefyd.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (c), rhaid hefyd gynnwys manylion data’r driniaeth ar y dystysgrif, a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch y dull trin gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol
23. Planhigion, ac eithrio hadau, Amelanchier Med., Chaenomeles Lindl., Cotoneaster Ehrh., Crataegus L., Cydonia Mill., Eriobotrya Lindl., Malus Mill., Mespilus L., Photinia davidiana (Dcne.) Cardot, Pyracantha Roem., Pyrus L. neu Sorbus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol bod y planhigion yn y cae cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos sydd wedi dangos symptomau Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. et al. wedi eu symud ymaith
24. Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., neu blanhigion Araceae, Marantaceae, Musaceae, Persea spp. neu Strelitziaceae, sydd â gwreiddiau neu sy’n gysylltiedig â chyfrwng tyfu neu yr ymddengys iddynt fod mewn cysylltiad â chyfrwng tyfu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o wlad y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Radopholus citrophilus Huettel et al. a Radopholus similis (Cobb) Thorne; neuy bu samplau cynrychioliadol o bridd a gwreiddiau o’r man cynhyrchu yn destun, ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, brofion nematolegol swyddogol ar gyfer o leiaf Radopholus citrophilus Huettel et al. a Radopholus similis (Cobb) Thorne ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny
25. Planhigion, ac eithrio ffrwythau ond gan gynnwys hadau, Aegle Corrêa, Aeglopsis Swingle, Afraegle Engl., Atalantia Corrêa, Balsamocitrus Stapf, Burkillanthus Swingle, Calodendrum Thunb., Choisya Kunth, Clausena Burm. f., Limonia L., Microcitrus Swingle, Murraya J. Koenig ex L., Pamburus Swingle, Severinia Ten., Swinglea Merr., Triphasia Lour. neu Vepris Comm., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad; neu hadau Citrus L., Fortunella Swingle neu Poncirus Raf., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Candidatus Liberibacter spp., sef cyfrwng achosol clefyd Huanglongbing ffrwythau sitrws/ gwyrddu ffrwythau sitrws
26. Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau Casimiroa La Llave, Choisya Kunth, Clausena Burm. f., Murraya J. Koenig ex L., Vepris Comm, Zanthoxylum L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o wlad lle y gwyddys nad yw Trioza erytreae Del Guercio yn bresennol;eu bod yn tarddu o ardal sy’n rhydd rhag Trioza erytreae Del Guercio, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; neueu bod wedi eu tyfu mewn man cynhyrchu:sydd wedi ei gofrestru ac sy’n cael ei oruchwylio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni;lle gosodwyd y planhigion mewn safle sydd wedi ei ddiogelu yn llwyr yn ffisegol rhag cyflwyno Trioza erytreae Del Guercio; alle y cynhaliwyd dau arolygiad swyddogol ar adegau priodol yn ystod y cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf cyn eu symud o’r safle, ac na welwyd unrhyw arwyddion o’r pla planhigion hwnnw yn y safle hwnnw neu yn yr ardal oddi amgylch hyd at o leiaf 200m o led
27. Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Aegle Corrêa, Aeglopsis Swingle, Afraegle Engl., Amyris P. Browne, Atalantia Corrêa, Balsamocitrus Stapf, Choisya Kunth, Citropsis Swingle a Kellermen, Clausena Burm. f., Eremocitrus Swingle, Esenbeckia Kunth., Glycosmis Corrêa, Limonia L., Merrillia Swingle, Microcitrus Swingle, Murraya J. Koenig ex L., Naringi Adans., Pamburus Swingle, Severinia Ten., Swinglea Merr., Tetradium Lour., Toddalia Juss., Triphasia Lour, Vepris Comm. neu Zanthoxylum L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o:gwlad lle y gwyddys nad yw Diaphorina citri Kuway yn bresennol; neuardal sy’n rhydd rhag Diaphorina citri Kuway, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4, a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”
28. Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Microcitrus Swingle, Naringi Adans. neu Swinglea Merr., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii yn unol ag ISPM Rhif 4, ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig amdani gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol; neueu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Xanthomonas citri pv. citri a Xanthomonas citri pv. aurantifolii yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd yn ysgrifenedig amdani gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol
29. Planhigion, ac eithrio hadau, Crataegus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Phyllosticta solitaria Ell. ac Ev. Yn bresennol Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Phyllosticta solitaria Ell. ac Ev. ar blanhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
30. Planhigion, ac eithrio hadau, Cydonia Mill., Fragaria L., Malus Mill., Prunus L., Pyrus L., Ribes L. neu Rubus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod y plâu planhigion a ganlyn yn bresennol ar y genera a ganlyn:ar Fragaria L.:Phytophthora fragariae Hickman, var. fragariae,Firws amryliw Arabis,Firws crwn mafon,Firws crych mefus,Firws crwn cudd mefus,Firws minfelyn ysgafn mefus,Firws crwn du tomatos, neuXanthomonas fragariae Kennedy a King;ar Malus Mill.:Phyllosticta solitaria Ell. Ac Ev.;ar Prunus L.:Mycoplasm crychni’r dail clorotig bricyll, neuXanthomonas arboricola pv. pruni (Smith) Vauterin et al;ar Prunus persica (L.) Batsch:Pseudomonas syringae pv. persicae (Prunier et al.) Young et al.;ar Pyrus L.:Phyllosticta solitaria Ell. Ac Ev.;ar Rubus L.:Firws amryliw berwr,Firws crwn mafon,Firws crwn cudd mefus, neuFirws crwn du tomatos; neupob rhywogaeth:firysau heb fod yn rhai Ewropeaidd neu organeddau sy’n debyg i firysau Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan y plâu planhigion a restrir yng ngholofn 2 o’r eitem hon ar y planhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
31. Planhigion, ac eithrio hadau, Cydonia Mill. neu Pyrus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Mycolpasma dirywiad gellyg yn bresennol Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol bod planhigion yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos sydd wedi dangos symptomau sy’n codi amheuon ynghylch halogi gan Fycoplasma dirywiad gellyg wedi eu clirio o’r man hwnnw o fewn y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
32. Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod y plâu planhigion a ganlyn yn bresennol:Firws “C” cudd mefus,Firws bandio gwythiennau mefus, neuMycoplasm ysgub y gwrachod mefus Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:bod y planhigion, ac eithrio’r rhai a dyfwyd o hadau:wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; neuyn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; ana welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan y plâu planhigion a restrir yng ngholofn 2 o’r eitem hon ar blanhigion yn y man cynhyrchu, neu ar blanhigion yn ei gyffiniau agos sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
33. Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Aphelenchoides besseyi Christie yn bresennol Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:na welwyd unrhyw symptomau Aphelenchoides besseyi Christie ar blanhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; neuyn achos planhigion mewn meithriniad meinwe, bod y planhigion yn deillio o blanhigion a oedd yn cydymffurfio â pharagraff (a) neu fod profion swyddogol wedi eu cynnal arnynt drwy ddulliau nematolegol priodol a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Aphelenchoides besseyi Christie
34. Planhigion, ac eithrio hadau, Fragaria L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Anthonomus signatus Say ac Anthonomus bisignifer (Schenkling)
35. Planhigion, ac eithrio hadau, Malus Mill., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod y plâu planhigion a ganlyn yn bresennol ar Malus Mill.:Firws rhathellddail ceirios (Americanaidd), neuFirws crwn tomatos Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod:wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; neuyn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; neuna welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan y plâu planhigion a restrir yng ngholofn 2 o’r eitem hon ar blanhigion yn y man cynhyrchu, neu ar blanhigion yn ei gyffiniau agos sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf
36. Planhigion, ac eithrio hadau, Malus Mill., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Mycoplasm ymlediad afalau yn bresennol Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Mycoplasm ymlediad afalau; neuac eithrio planhigion a dyfwyd o hadau, eu bod:wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf Mycoplasm ymlediad afalau gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; neuyn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y chwe chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf Mycoplasm ymlediad afalau gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd, yn y profion hynny, ei fod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; ana welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan Fycoplasma ymlediad afalau ar blanhigion yn y man cynhyrchu, neu ar blanhigion yn ei gyffiniau agos sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf

Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.

This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence. legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.