The Plant Health (Wales) Order 2018
| (1)Eitem | (2)Disgrifiad o’r deunydd perthnasol | (3)Gofynion glanio |
|---|---|---|
| 37. | Planhigion, ac eithrio hadau, o’r rhywogaethau Prunus L. a ganlyn, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Firws brech eirin yn bresennol:Prunus amygdalus Batsch,Prunus armeniaca L.,Prunus blireiana Andre,Prunus brigantina Vill.,Prunus cerasifera Ehrh.,Prunus cistena Hansen,Prunus curdica Fenzl a Fritsch.,Prunus domestica spp. domestica L.,Prunus domestica spp. Insititia (L.) C.K. Schneid.,Prunus domestica spp. Italica (Borkh.) Hegi.,Prunus glandulosa Thunb.,Prunus holosericea Batal.,Prunus hortulana Bailey,Prunus japonica Thunb.,Prunus mandshurica (Maxim.) Koehne,Prunus maritima Marsh.,Prunus mume Sieb a Zucc.,Prunus nigra Ait.,Prunus persica (L.) Batsch,Prunus salicina L.,Prunus sibirica L.,Prunus simonii Carr.,Prunus spinosa L.,Prunus tomentosa Thunb.,Prunus triloba Lindl., neurhywogaethau eraill Prunus L. sy’n dueddol o gael Firws brech eirin | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:ac eithrio’r planhigion a dyfwyd o hadau, eu bod:wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf Firws brech eirin gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; neuyn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf Firws brech eirin gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw; ana welwyd unrhyw symptomau’r clefydau a achosir gan Firws brech eirin ar blanhigion yn y man cynhyrchu, neu ar blanhigion yn ei gyffiniau agos sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; neubod planhigion yn y man cynhyrchu sydd wedi dangos symptomau clefydau a achosir gan firysau eraill neu bathogenau sy’n debyg i firysau wedi eu clirio |
| 38. | Planhigion Prunus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu:sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Firws crwn tomatos yn bresennol ar Prunus L.;ac eithrio hadau, sy’n tarddu ounrhyw drydedd wlad lle ygwyddys bod y plâu planhigion a ganlyn yn bresennol:Firws rhathellddail ceirios (Americanaidd),Firws amryliw eirin gwlanog (Americanaidd),Rickettsia ffug eirin gwlanog,Mycoplasm roséd eirin gwlanog,Mycoplasm melynu eirin gwlanog,Firws patrwm llinellog eirin (Americanaidd), neuMycoplasm clefyd-X eirin gwlanog;ac eithrio hadau, sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i Ewrop lle y gwyddys bod pathogen Ceirios bychan yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod:wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion perthnasol yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; neuyn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion perthnasol a restrir yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; ana welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan y plâu planhigion perthnasol a restrir yng ngholofn 2 o’r eitem hon ar y planhigion yn y man cynhyrchu, neu ar blanhigion yn ei gyffiniau agos sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
| 39. | Planhigion Rubus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu:sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod y plâu planhigion a ganlyn yn bresennol ar Rubus L.:Firws crwn tomatos,Firws cudd mafon duon,Firws crychni dail ceirios, neuFirws crwn necrotig eirinwyddac eithrio hadau, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod y plâu planhigion a ganlyn yn bresennol:Firws deildro mafon (Americanaidd), neuFirws rhathellddail ceirios (Americanaidd) | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod wedi eu hardystio yn swyddogol o dan gynllun ardystio sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt ddeillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu’n destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion perthnasol yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; neueu bod yn deillio drwy linach uniongyrchol o ddeunydd a gadwyd o dan amodau priodol ac a fu, o leiaf unwaith yn ystod y tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, yn destun profion swyddogol ar gyfer o leiaf y plâu planhigion perthnasol yng ngholofn 2 o’r eitem hon gan ddefnyddio dangosyddion priodol neu ddulliau cyfatebol ac y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny; acna welwyd unrhyw symptomau clefydau a achosir gan y plâu planhigion perthnasol yng ngholofn 2 o’r eitem hon ar blanhigion yn y man cynhyrchu, neu ar blanhigion yn ei gyffiniau agos sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau, ers dechrau’r tri chylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
| 40. | Cloron Solanum tuberosum L. sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival yn bresennol | Rhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival (pob hil ac eithrio Hil 1, sef yr hil Ewropeaidd gyffredin) ac na welwyd unrhyw symptomau Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau cyfnod digonol |
| 41. | Cloron Solanum tuberosum L. sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o wlad y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Clavibacter michiganensis spp. sepedonicus (Spieckermann a Kottoff) Davis et al. |
| 42. | Cloron Solanum tuberosum L., ac eithrio tatws cynnar, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Firoid y gloronen bigfain yn bresennol | Rhaid i’r gyneddf egino fod wedi ei hatal yn y cloron |
| 43. | Cloron Solanum tuberosum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o gae y gwyddys ei fod yn rhydd rhag Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens a Globodera pallida (Stone) Behrens;eu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. yn bresennol; aceu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Meloidogyne chitwoodi Golden et al. (pob poblogaeth) a Meloidogyne fallax Karssen yn bresennol; neumewn ardaloedd lle y gwyddys bod Meloidogyne chitwoodi Golden et al. (pob poblogaeth) a Meloidogyne fallax Karssen yn bresennol:eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag Meloidogyne chitwoodi Golden et al. (pob poblogaeth) a Meloidogyne fallax Karssen yn seiliedig ar arolwg blynyddol o’r cnydau cynhaliol drwy gynnal arolygiad gweledol o’r planhigion cynhaliol ar adegau priodol a thrwy arolygiad gweledol allanol a thrwy dorri’r cloron ar ôl eu cynaeafu o gnydau tatws a dyfwyd yn y man cynhyrchu; neubod y cloron, ar ôl cynaeafu, wedi eu hapsamplu a, naill ai wedi eu gwirio am bresenoldeb symptomau ar ôl defnyddio dull priodol i achosi symptomau, neu wedi bod yn destun profion labordy, yn ogystal ag arolygiad gweledol allanol a thrwy dorri’r cloron, ar adegau priodol ac ym mhob achos ar adeg selio’r pecynnau neu’r cynwysyddion cyn eu marchnata yn unol â’r darpariaethau ynghylch selio yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 2002/56/EC ar farchnata tatws hadyd, ac na chanfuwyd unrhyw symptomau Meloidogyne chitwoodi Golden et al. (pob poblogaeth) neu Meloidogyne fallax Karssen |
| 44. | Cloron Solanum tuberosum L., ac eithrio’r rhai a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. yn bresennol |
| 45. | Cloron Solanum tuberosum L. sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o:gwlad lle y gwyddys nad yw Scrobipalpopsis solanivora Povolny yn bresennol; neuardal sy’n rhydd rhag Scrobipalpopsis solanivora Povolny, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4 |
| 45A. | Cloron Solanum tuberosum sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Swistir | Rhaid i’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol nad yw’r llwyth neu’r lot yn cynnwys mwy nag 1% o bridd a chyfrwng tyfu o ran pwysau net |
| 46. | Planhigion, ac eithrio hadau, Solanaceae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Mycoplasm stolbur tatws yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Mycoplasm stolbur tatws ar y planhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
| 47. | Planhigion Solanaceae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio cloron Solanum tuberosum L. neu hadau Solanum lycopersicum L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Firoid y gloronen bigfain yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Firoid y gloronen bigfain ar blanhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
| 48. | Planhigion, ac eithrio hadau, Capsicum annuum L., Solanum lycopersicum L., Musa L., Nicotiana L. neu Solanum melongena L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o ardal y canfuwyd ei bod yn rhydd rhag Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al.; neuna welwyd unrhyw symptomau Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. ar y planhigion yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
| 49. | Planhigion, ac eithrio ffrwythau neu hadau, Solanum lycopersicum L. neu Solanum melongena L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Keiferia lycopersicella (Walsingham) yn unol ag ISPM Rhif 4; neueu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Keiferia lycopersicella (Walsingham) yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” |
| 50. | Ffrwythau Solanum lycopersicum L. neu Solanum melongena L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Keiferia lycopersicella (Walsingham) yn unol ag ISPM Rhif 4;eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn ardal sy’n rhydd rhag Keiferia lycopersicella (Walsingham) yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; neueu bod yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn fan sy’n rhydd rhag Keiferia lycopersicella (Walsingham) ar sail arolygiadau ac arolygon swyddogol a gynhaliwyd yn ystod y tri mis diwethaf cyn eu hallforio, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” |
| 50A. | Ffrwythau Capsicum annuum L., Solanum aethiopicum L., Solanum lycopersicum L. neu Solanum melongena L. sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Neoleucinodes elegantalis (Guenée) yn unol â’r mesurau a bennir yn ISPM Rhif 4;eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y maent yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Neoleucinodes elegantalis (Guenée);eu bod:yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y maent yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 10 yn fan cynhyrchu sy’n rhydd rhag Neoleucinodes elegantalis (Guenée); ayn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw fel y dangosir gan arolygiadau swyddogol a gynhelir yn y man cynhyrchu ar adegau priodol yn ystod y tymor tyfu, a oedd yn cynnwys o leiaf un archwiliad gweledol o samplau cynrychioliadol o’r ffrwythau; neueu bod yn tarddu o fan cynhyrchu sy’n ddiogel rhag pryfed, a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn safle cynhyrchu sy’n rhydd rhag Neoleucinodes elegantalis (Guenée) ar sail arolygiadau ac arolygon swyddogol a gynhelir yn ystod y tri mis cyn allforio.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid i’r Comisiwn Ewropeaidd fod wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch statws y wlad o ran bod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (b), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig am hynny yn flaenorol gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) neu (d), rhaid cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd ar y dystysgrif hefyd. |
| 50B. | Ffrwythau Solanaceae sy’n tarddu o Awstralia, cyfandiroedd America neu Seland Newydd | Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o wlad y cydnabyddir ei bod yn rhydd rhag Bactericera cockerelli (Sulc.) yn unol â’r mesurau a bennir yn ISPM Rhif 4;eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Bactericera cockerelli (Sulc.);eu bod:yn tarddu o fan cynhyrchu lle y cynhaliwyd arolygiadau ac arolygon swyddogol ar gyfer presenoldeb Bactericera cockerelli (Sulc.) yn y man cynhyrchu ac yn ei gyffiniau agos yn ystod y tri mis cyn allforio;wedi bod yn destun triniaethau effeithiol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag y pla planhigion; abod samplau cynrychioliadol o’r ffrwythau wedi eu harchwilio cyn allforio; neueu bod yn tarddu o fan cynhyrchu sy’n ddiogel rhag pryfed, a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r ffrwythau yn tarddu ohoni yn fan cynhyrchu sy’n rhydd rhag Bactericera cockerelli (Sulc.) ar sail arolygiadau ac arolygon swyddogol a gynhelir yn ystod y tri mis cyn allforio.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid i’r Comisiwn Ewropeaidd fod wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig yn flaenorol ynghylch statws y wlad o ran bod yn rhydd rhag y pla planhigion hwnnw gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (b), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration” a rhaid bod y Comisiwn Ewropeaidd wedi ei hysbysu yn ysgrifenedig amdano yn flaenorol gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol perthnasol.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (c) neu (d), rhaid cynnwys gwybodaeth ynghylch olrheiniadwyedd ar y dystysgrif hefyd |
| 51. | Planhigion, ac eithrio hadau, Humulus lupulus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydeddwlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Verticillium alboatrum Reinke a Berthold neu Verticillium dahliae Klebahn ar hopys yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
| 52. | Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul., Dianthus L. neu Pelargonium L’Hérit. ex Ait., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o ardal sy’n rhydd rhag Helicoverpa armigera (Hübner) a Spodoptera littoralis (Boisd.), sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad cenedlaethol diogelu planhigion yn unol ag ISPM Rhif 4;na welwyd unrhyw arwyddion Helicoverpa armigera (Hübner) neu Spodoptera littoralis (Boisd.) yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; neuy bu’r planhigion yn destun triniaeth briodol i’w diogelu rhag y plâu planhigion hynny |
| 53. | Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul., Dianthus L. neu Pelargonium L’Hérit. ex Ait., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o ardal sy’n rhydd rhag Spodoptera eridania (Cramer), Spodoptera frugiperda Smith a Spodoptera litura (Fabricius), sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4;na welwyd unrhyw arwyddion Spodoptera eridania (Cramer), Spodoptera frugiperda Smith neu Spodoptera litura (Fabricius) yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf; neuy bu’r planhigion yn destun triniaeth briodol i’w diogelu rhag y plâu planhigion hynny |
| 54. | Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn stoc o’r drydedd genhedlaeth, neu’n iau, sy’n deillio o ddeunydd y canfuwyd ei fod yn rhydd rhag Firoid arafu twf ffarwelau haf yn ystod profion firolegol, neu eu bod yn deillio yn uniongyrchol o ddeunydd y canfuwyd bod sampl gynrychioliadol o 10% ohono o leiaf yn rhydd rhag Firoid arafu twf ffarwelau haf o gynnal arolygiad swyddogol yn ystod y cyfnod blodeuo;bod y planhigion neu’r toriadau:wedi dod o fangreoedd sydd wedi eu harolygu yn swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn eu hanfon, ac na welwyd unrhyw symptomau Puccinia horiana Hennings yn ystod y cyfnod hwnnw, ac na wyddys fod unrhyw symptomau Puccinia horiana Hennings wedi digwydd yn y cyffiniau agos yn ystod y tri mis cyn eu hallforio; neuy buont yn destun triniaeth briodol i atal Puccinia horiana Hennings; acyn achos toriadau heb wreiddiau, na welwyd unrhyw symptomau Didymella ligulicola (Baker, Dimock a Davis) v. Arx naill ai ar y toriadau neu ar y planhigion yr oedd y toriadau yn deillio ohonynt, neu, yn achos toriadau â gwreiddiau, na welwyd unrhyw symptomau Didymella ligulicola (Baker, Dimock a Davis) v. Arx naill ai ar y toriadau neu ar y gwely gwreiddio |
| 55. | Planhigion, ac eithrio hadau, Dendranthema (DC.) Des Moul. neu Solanum lycopersicum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn gwlad sy’n rhydd rhag Firws necrosis coesynnau ffarwelau haf;eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad sy’n allforio yn ardal sy’n rhydd rhag Firws necrosis coesynnau ffarwelau haf yn unol ag ISPM Rhif 4; neubod y planhigion wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn man cynhyrchu a sefydlwyd yn fan sy’n rhydd rhag Firws necrosis coesynnau ffarwelau haf ac y gwiriwyd hynny drwy arolygiadau swyddogol a, phan fo hynny’n briodol, drwy brofion |
| 56. | Planhigion, ac eithrio hadau, Dianthus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn deillio drwy linach uniongyrchol o blanhigion tarddiol y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Erwinia chrysanthemi pv. dianthicola (Hellmers) Dickey, Pseudomonas caryophylli (Burkholder) Starr a Burkholder a Phialophora cinerescens (Wollenw.) Van Beyma o ganlyniad i brofion a gymeradwyir yn swyddogol, a gynhaliwyd o leiaf unwaith yn ystod y ddwy flynedd flaenorol; ana welwyd unrhyw symptomau’r plâu planhigion hynny ar y planhigion |
| 57. | Bylbiau Tulipa L. neu Narcissus L. ac eithrio’r rhai y ceir tystiolaeth ar eu deunydd pecynnu, neu drwy ddulliau eraill, a fwriedir ar gyfer eu gwerthu i ddefnyddwyr terfynol nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu blodau wedi eu torri yn broffesiynol, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r bylbiau ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev ar y planhigion ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
| 58. | Planhigion, ac eithrio hadau, Pelargonium L’Hérit. ex Ait., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad:lle y gwyddys bod Firws crwn tomatos yn bresennol, alle y gwyddys nad yw Xiphinema americanum Cobb sensu lato (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) neu fectorau eraill Firws crwn tomatos yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn deillio yn uniongyrchol o fan cynhyrchu y gwyddys ei fod yn rhydd rhag Firws crwn tomatos; neueu bod yn stoc o’r bedwaredd genhedlaeth, neu’n iau, sy’n deillio o blanhigion tarddiol y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Firws crwn tomatos o dan system o brofion firolegol a gymeradwyir yn swyddogol |
| 59. | Planhigion, ac eithrio hadau, Pelargonium L’Hérit. ex Ait., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad:lle y gwyddys bod Firws crwn tomatos yn bresennol, alle y gwyddys nad yw Xiphinema americanum Cobb sensu lato (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) neu fectorau eraill Firws crwn tomatos yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn deillio yn uniongyrchol o fan cynhyrchu y gwyddys ei fod yn rhydd rhag Firws crwn tomatos yn y pridd neu’r planhigion; neueu bod yn stoc o’r ail genhedlaeth, neu’n iau, sy’n deillio o blanhigion tarddiol y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Firws crwn tomatos o dan system o brofion firolegol a gymeradwyir yn swyddogol |
| 60. | Planhigion rhywogaethau llysieuol, ac eithrio: bylbiau, cormau, planhigion o’r teulu Gramineae, rhisomau, hadau, neu cloron,a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Liriomyza sativae (Blanchard) neu Amauromyza maculosa (Malloch) yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu tyfu mewn meithrinfa a’u bod:yn tarddu o ardal a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn ardal sy’n rhydd rhag Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch), yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”;yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn fan sy’n rhydd rhag Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch), yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” ac y datganwyd eu bod yn rhydd rhag Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch) o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn allforio;yn union cyn eu hallforio, wedi bod yn destun triniaeth briodol i atal Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch) ac wedi eu harolygu yn swyddogol ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch). Rhaid crybwyll manylion y driniaeth ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio; neuyn tarddu o ddeunydd planhigion (allblaniad) sy’n rhydd rhag Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch), wedi eu tyfu in vitro mewn cyfrwng tyfu sterilaidd o dan amodau sterilaidd sy’n atal y posibilrwydd o heigio â Liriomyza sativae (Blanchard) neu Amauromyza maculosa (Malloch) ac yn cael eu cludo mewn cynwysyddion tryloyw o dan amodau sterilaidd |
| 61. | Blodau Dendranthema wedi eu torri (DC.) Des Moul., Dianthus L., Gypsophila L., Solidago L. neu lysiau deiliog Apium graveolens L. neu Ocimum L, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r blodau wedi eu torri a’r llysiau deiliog ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o wlad sy’n rhydd rhag Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch); neuyn union cyn eu hallforio, eu bod wedi eu harolygu yn swyddogol a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Liriomyza sativae (Blanchard) ac Amauromyza maculosa (Malloch) |
| 62. | Planhigion rhywogaethau llysieuol, ac eithrio: bylbiau, cormau, planhigion o’r teulu Gramineae, rhisomau, hadau, neu cloron,a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess);na welwyd unrhyw arwyddion Liriomyza huidobrensis (Blanchard) neu Liriomyza trifolii (Burgess) yn y man cynhyrchu, o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn cynaeafu;yn union cyn eu hallforio, eu bod wedi eu harolygu yn swyddogol a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess) ac wedi bod yn destun triniaeth briodol i atal Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess); neueu bod yn tarddu o ddeunydd planhigion (allblaniad) sy’n rhydd rhag Liriomyza huidobrensis (Blanchard) a Liriomyza trifolii (Burgess), wedi eu tyfu in vitro mewn cyfrwng tyfu sterilaidd o dan amodau sterilaidd sy’n atal y posibilrwydd o heigio â Liriomyza huidobrensis (Blanchard) neu Liriomyza trifolii (Burgess) ac yn cael eu cludo mewn cynwysyddion tryloyw o dan amodau sterilaidd |
| 63. | Planhigion â gwreiddiau, a blannwyd neu a fwriedir ar gyfer eu plannu, sydd wedi eu tyfu yn yr awyr agored, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:y gwyddys bod y man cynhyrchu yn rhydd rhag Clavibacter michiganensis ssp. sepedonicus (Spieckermann a Kotthoff) Davis et al. a Synchytrium endobioticum (Schilbersky) Percival; abod y planhigion yn tarddu o gae y gwyddys ei fod yn rhydd rhag Globodera pallida (Stone) Behrens a Globodera rostochiensis (Wollenweber) Behrens |
| 64. | Cyfrwng tyfu, sydd ynghlwm â phlanhigion neu’n gysylltiedig â hwy, a fwriedir i gynnal bywiogrwydd y planhigion hynny, ac eithrio unrhyw gyfrwng tyfu sterilaidd ar gyfer planhigion in-vitro, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Swistir | Rhaid i’r planhigion cysylltiedig ddod gyda datganiad swyddogol:ar adeg eu plannu, bod y cyfrwng tyfu:yn rhydd rhag pridd a deunydd organig a heb ei ddefnyddio yn flaenorol i dyfu planhigion neu at unrhyw ddibenion amaethyddol;ar ffurf mawn neu ffibr Cocos nucifera L. yn gyfan gwbl a heb ei ddefnyddio yn flaenorol i dyfu planhigion neu at unrhyw ddibenion amaethyddol; neuwedi bod yn destun triniaeth effeithiol i sicrhau ei fod yn rhydd rhag plâu planhigion niweidiol;bod y cyfrwng tyfu wedi ei storio a’i gadw o dan amodau priodol i’w gadw’n rhydd rhag plâu planhigion niweidiol; acnaill ai:bod mesurau priodol wedi eu rhoi ar waith ers plannu i sicrhau bod y cyfrwng tyfu wedi ei gadw’n rhydd rhag plâu planhigion niweidiol, gan gynnwys o leiaf ynysu’r cyfrwng tyfu yn ffisegol rhag pridd a ffynonellau halogi posibl eraill, defnyddio dŵr sy’n rhydd rhag plâu planhigion niweidiol a rhoi mesurau hylendid ar waith; neuyn y cyfnod o ddwy wythnos cyn allforio:bod y cyfrwng tyfu (gan gynnwys, pan fo’n briodol, unrhyw bridd) wedi ei symud ymaith yn llwyr drwy olchi â dŵr sy’n rhydd rhag plâu planhigion niweidiol; apan fo’r planhigion cysylltiedig wedi eu hailblannu, bod y cyfrwng tyfu wedi bodloni’r gofynion a bennir ym mharagraff (a) ar adeg eu hailblannu a bod mesurau priodol wedi eu rhoi ar waith ers ailblannu i sicrhau bod y cyfrwng tyfu wedi ei gadw’n rhydd rhag plâu planhigion niweidiol yn unol ag is-baragraff (i).Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a)(iii), rhaid hefyd grybwyll manylion data’r driniaeth ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration” |
| 64A. | Bylbiau, cormau, rhisomau neu gloron, a fwriedir ar gyfer eu plannu, ac eithrio cloron Solanum tuberosum, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Swistir | Rhaid i’r bylbiau, y cormau, y rhisomau neu’r cloron ddod gyda datganiad swyddogol nad yw’r llwyth neu’r lot yn cynnwys mwy nag 1% o bridd a chyfrwng tyfu o ran pwysau net |
| 64B. | Gwreiddlysiau neu lysiau cloron sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Swistir | Rhaid i’r llysiau ddod gyda datganiad swyddogol nad yw’r llwyth neu’r lot yn cynnwys mwy nag 1% o bridd a chyfrwng tyfu o ran pwysau net |
| 64C. | Peiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth a fewnforiwyd o unrhyw drydedd wlad ac eithrio’r Swistir | Rhaid i’r peiriannau neu’r cerbydau ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu glanhau a’u bod yn rhydd rhag pridd a gweddillion planhigion |
| 64D. | Peiriannau neu gerbydau sydd wedi eu gweithredu at ddibenion amaethyddol neu goedwigaeth, a fewnforiwyd o’r Swistir | Rhaid i’r peiriannau neu’r cerbydau ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod wedi eu hallforio o ardal a sefydlwyd gan sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol y Swistir yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr.; neuyn achos unrhyw beiriannau neu gerbydau a allforir o ardal sydd wedi ei heigio â Ceratocystis platani (J.M. Walter) Engelbr. a T.C. Harr., eu bod wedi eu glanhau a’u bod yn rhydd rhag pridd a gweddillion planhigion cyn allforio |
| 65. | Planhigion, ac eithrio hadau, Beta vulgaris L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Firws crych betys (arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd) ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
| 66. | Planhigion, ac eithrio hadau, Beta vulgaris L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Firws deildro betys yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:y gwyddys nad yw Firws deildro betys yn bresennol yn yr ardal gynhyrchu; ana welwyd unrhyw symptomau Firws crych betys yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf |
| 67. | Planhigion, ac eithrio: bylbiau, cormau, rhisomau, hadau, neucloron,a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu tyfu mewn meithrinfa ac:eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn ardal sy’n rhydd rhag Thrips palmi Karny, yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”;eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn fan sy’n rhydd rhag Thrips palmi Karny, yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol, neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”, ac y datganwyd ei fod yn rhydd rhag Thrips palmi Karny o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn allforio;yn union cyn eu hallforio, y buont yn destun triniaeth briodol i atal Thrips palmi Karny, a’u bod wedi eu harolygu yn swyddogol ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Thrips palmi Karny. Rhaid crybwyll manylion y driniaeth ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio; neueu bod yn tarddu o ddeunydd planhigion (allblaniad) sy’n rhydd rhag Thrips palmi Karny, eu bod wedi eu tyfu in vitro mewn cyfrwng tyfu sterilaidd o dan amodau sterilaidd sy’n atal y posibilrwydd o heigio â Thrips palmi Karny a’u bod yn cael eu cludo mewn cynwysyddion tryloyw o dan amodau sterilaidd |
| 68. | Blodau Orchidaceae sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad, ac eithrio Gwlad Thai; wedi eu torri neu ffrwythau Momordica L. neu Solanum melongena L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r blodau wedi eu torri a’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o wlad sy’n rhydd rhag Thrips palmi Karny; neuyn union cyn eu hallforio, eu bod wedi eu harolygu yn swyddogol a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Thrips palmi Karny |
| 69. | Ffrwythau Capsicum L., sy’n tarddu o Belize, Costa Rica, y Weriniaeth Ddomenicaidd, El Salvador, Guatemala, Honduras, Jamaica, Mecsico, Nicaragua, Panama, Puerto Rico, UDA neu Polynesia Ffrengig lle y gwyddys bod Anthonomus eugenii Cano yn bresennol | Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o ardal sy’n rhydd rhag Anthonomus eugenii Cano, sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”; neueu bod yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn fan sy’n rhydd rhag Anthonomus eugenii Cano yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”, ac y datganwyd ei fod yn rhydd rhag Anthonomus eugenii Cano o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y ddau fis cyn eu hallforio yn y man cynhyrchu ac yn ei gyffiniau agos |
| 70. | Planhigion, ac eithrio hadau, Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i Ewrop | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Mycoplasm melynu marwol palmwydd a Firoid Cadang-Cadang, ac na welwyd unrhyw symptomau yn y man cynhyrchu neu yn ei gyffiniau agos ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf;na welwyd unrhyw symptomau Mycoplasm melynu marwol palmwydd neu Firoid Cadang-Cadang ar y planhigion ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, a bod unrhyw blanhigion yn y man cynhyrchu sydd wedi dangos symptomau sy’n codi amheuon ynghylch halogi gan y clefydau hynny wedi eu clirio o’r man hwnnw, ac y bu’r planhigion yn destun triniaeth briodol i gael gwared ar Myndus crudus Van Duzee; neuyn achos planhigion mewn meithriniad meinwe, bod y planhigion yn deillio o blanhigion sydd wedi bodloni’r gofynion ym mharagraffau (a) neu (b) |
| 71. | Planhigion Palmae, a fwriedir ar gyfer eu plannu, y mae diamedr bôn y coesyn yn fwy na 5 cm ac sy’n perthyn i’r genera a ganlyn: Brahea Mart, Butia Becc., Chamaerops L., Jubaea Kunth, Livistona R. Br., Phoenix L., Sabal Adans., Syagrus Mart., Trachycarpus H. Wendl., Trithrinax Mart., Washingtonia Raf. | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn gwlad lle y gwyddys nad yw Paysandisia archon (Burmeister) yn bresennol;eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal sy’n rhydd rhag Paysandisia archon (Burmeister), sef ardal a sefydlwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn unol ag ISPM Rhif 4;eu bod wedi eu tyfu, yn ystod cyfnod o ddwy flynedd o leiaf cyn eu hallforio, mewn man cynhyrchu:sydd wedi ei gofrestru ac sy’n cael ei oruchwylio gan sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni;lle mae’r planhigion wedi eu gosod mewn safle a oedd wedi ei ddiogelu yn ffisegol yn llwyr rhag cyflwyno Paysandisia archon (Burmeister) neu drwy gymhwyso triniaethau atal priodol; alle na welwyd unrhyw arwyddion Paysandisia archon (Burmeister) yn ystod tri arolygiad swyddogol y flwyddyn a gynhaliwyd ar adegau priodol, gan gynnwys yn union cyn allforio |
| 72. | Planhigion, ac eithrio hadau, Fuchsia L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o UDA neu Frasil | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Aculops fuchsiae Keifer yn y man cynhyrchu, a bod y planhigion wedi eu harolygu yn union cyn eu hallforio a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Aculops fuchsiae Keifer |
| 73. | Coed neu lwyni, ac eithrio hadau neu blanhigion mewn meithriniad meinwe, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio gwlad yn ardal Ewrop a Môr y Canoldir | Rhaid i’r coed a’r llwyni ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod wedi eu tyfu mewn meithrinfa;eu bod yn rhydd rhag malurion planhigion, blodau a ffrwythau; aceu bod wedi eu harolygu ar adegau priodol a chyn eu hallforio, a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag symptomau bacteria niweidiol, firysau, ac organeddau sy’n debyg i firysau, a naill ai y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag arwyddion neu symptomau nematodau, pryfed, gwiddon a ffyngau niweidiol, neu y buont yn destun triniaeth briodol i ddileu organeddau o’r fath |
| 74. | Coed neu lwyni collddail, ac eithrio hadau neu blanhigion mewn meithriniad meinwe, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio gwlad yn ardal Ewrop a Môr y Canoldir | Rhaid i’r coed a’r llwyni ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn blanhigion cwsg ac yn rhydd rhag dail |
| 75. | Planhigion unflwydd neu eilflwydd, ac eithrio planhigion Gramineae neu hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio gwlad yn ardal Ewrop a Môr y Canoldir | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod wedi eu tyfu mewn meithrinfa;eu bod yn rhydd rhag malurion planhigion, blodau a ffrwythau; aceu bod wedi eu harolygu ar adegau priodol a chyn eu hallforio; acy canfuwyd eu bod yn rhydd rhag symptomau bacteria niweidiol, firysau ac organeddau sy’n debyg i firysau; ay canfuwyd eu bod yn rhydd rhag arwyddion neu symptomau nematodau, pryfed, gwiddon a ffyngau niweidiol, neu y buont yn destun triniaeth briodol i ddileu organeddau o’r fath |
| 76. | Planhigion, ac eithrio hadau, o’r teulu Gramineae, glaswelltoedd lluosflwydd addurniadol o’r is-deuluoedd Bambusoideae, Panicoideae neu o’r genera Buchloe, Bouteloua Lag., Calamagrostis, Cortaderia Stapf., Glyceria R. Br., Hakonechloa Mak. ex. Honda, Hystrix, Molinia, Phalaris L. Shibataea, Spartina Schreb., Stipa L. neu Uniola L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio gwlad yn ardal Ewrop a Môr y Canoldir | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod wedi eu tyfu mewn meithrinfa;eu bod yn rhydd rhag malurion planhigion, blodau a ffrwythau;eu bod wedi eu harolygu ar adegau priodol a chyn eu hallforio; acy canfuwyd eu bod yn rhydd rhag symptomau bacteria niweidiol, firysau ac organeddau sy’n debyg i firysau; ay canfuwyd eu bod yn rhydd rhag arwyddion neu symptomau nematodau, pryfed, gwiddon a ffyngau niweidiol, neu y buont yn destun triniaeth briodol i ddileu organeddau o’r fath |
| 77. | Planhigion sydd wedi eu corachu yn naturiol neu’n artiffisial, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad y tu allan i Ewrop | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:bod y planhigion, gan gynnwys y rheini a gasglwyd yn uniongyrchol o gynefinoedd naturiol, wedi eu tyfu, eu cadw a’u hyfforddi am ddwy flynedd yn olynol o leiaf cyn eu hanfon mewn meithrinfa a gofrestrwyd yn swyddogol sy’n ddarostyngedig i gyfundrefn reoli a oruchwylir yn swyddogol; ayn ystod y cyfnod hwnnw bod y planhigion wedi, o leiaf:eu plannu mewn potiau sydd wedi eu gosod ar silffoedd sydd o leiaf 50 cm uwchben lefel y ddaear;bod yn destun triniaethau priodol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag rhydni heb fod yn Ewropeaidd (a rhaid crybwyll cynhwysyn gweithredol a chrynodiad y triniaethau hyn, a’r dyddiadau y’u defnyddiwyd, ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “disinfestation and/or disinfection treatment”);cael eu harolygu yn swyddogol o leiaf chwe gwaith y flwyddyn ar adegau priodol ar gyfer presenoldeb y plâu planhigion a grybwyllir yn yr Atodlenni i’r Gorchymyn hwn, ynghyd â’r planhigion yng nghyffiniau agos y feithrinfa, drwy archwiliad gweledol o bob rhes yn y cae neu’r feithrinfa a phob rhan o’r planhigion uwchben y cyfrwng tyfu, gan ddefnyddio hapsampl o 300 o blanhigion o leiaf o genws penodol lle nad oes mwy na 3,000 o blanhigion o’r genws hwnnw, neu 10% o’r planhigion os oes mwy na 3,000 o blanhigion o’r genws hwnnw;eu canfod, yn yr arolygiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (iii), yn rhydd rhag y plâu planhigion perthnasol, neu pan fo heigiad, eu bod wedi eu symud ymaith, a bod y planhigion sy’n weddill wedi eu trin yn effeithiol, eu cadw am gyfnod priodol a’u harolygu i sicrhau eu bod yn rhydd rhag plâu planhigion o’r fath;eu plannu mewn cyfrwng tyfu artiffisial sydd heb ei ddefnyddio neu mewn cyfrwng tyfu naturiol sydd wedi ei drin â mygdarthiad neu wedi ei drin yn briodol â gwres, a bod archwiliad ar ôl hynny wedi canfod eu bod yn rhydd rhag unrhyw blâu planhigion; aeu cadw o dan amodau sy’n sicrhau bod y cyfrwng tyfu wedi ei gadw’n rhydd rhag plâu planhigion ac o fewn dwy wythnos cyn eu hanfon, eu bod:wedi eu hysgwyd a’u golchi â dŵr glân i symud ymaith y cyfrwng tyfu gwreiddiol a chadw’r gwreiddiau yn noeth; neuwedi eu hysgwyd a’u golchi â dŵr glân i symud ymaith y cyfrwng tyfu gwreiddiol ac wedi eu hailblannu mewn cyfrwng tyfu sy’n bodloni’r gofynion ym mharagraff (v); neuwedi bod yn destun triniaethau priodol i sicrhau bod y cyfrwng tyfu yn rhydd rhag plâu planhigion (a rhaid crybwyll y cynhwysyn gweithredol, y crynodiad a’r dyddiad y cymhwyswyd y triniaethau hyn ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “disinfestation and/or disinfection treatment”); acbod y planhigion wedi eu pecynnu mewn cynwysyddion caeedig sydd wedi eu selio yn swyddogol ac sy’n dwyn rhif cofrestru’r feithrinfa gofrestredig, a rhaid nodi’r rhif cofrestru ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” at ddibenion adnabod |
| 78. | Planhigion llysieuol lluosflwydd, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, o’r teuluoedd Caryophyllaceae (ac eithrio Dianthus L.), Compositae (ac eithrio Dendranthema (DC.) Des Moul., Cruciferae, Leguminosae neu Rosaceae (ac eithrio Fragaria L.), sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad ac eithrio unrhyw wlad yn ardal Ewrop a Môr y Canoldir | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod wedi eu tyfu mewn meithrinfa;eu bod yn rhydd rhag malurion planhigion, blodau a ffrwythau; aceu bod wedi eu harolygu ar adegau priodol a chyn eu hallforio, a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag:symptomau bacteria niweidiol, firysau ac organeddau sy’n debyg i firysau; aarwyddion neu symptomau nematodau, pryfed, gwiddon a ffyngau niweidiol, neu eu bod wedi bod yn destun triniaeth briodol i ddileu organeddau o’r fath |
| 79. | Planhigion, ac eithrio bylbiau, cormau, rhisomau, hadau neu gloron, rhywogaethau llysieuol neu blanhigion Ficus L. neu Hibiscus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i Ewrop | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o ardal a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn wlad honno yn ardal sy’n rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd), yn unol ag ISPM Rhif 4, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration”;eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu a sefydlwyd yn y wlad sy’n allforio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad honno yn ardal sy’n rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd), yn unol ag ISPM Rhif 10, ac a grybwyllir ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “Additional declaration” ac y datganwyd eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) o gynnal arolygiadau swyddogol o leiaf unwaith bob tair wythnos yn ystod y naw wythnos cyn allforio;mewn achosion pan fo Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) wedi ei ganfod yn y man cynhyrchu, eu bod yn cael eu cadw neu eu cynhyrchu yn y man cynhyrchu hwnnw ac wedi bod yn destun triniaeth briodol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) ac wedi hynny canfuwyd bod y man cynhyrchu hwnnw yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) o ganlyniad i roi gweithdrefnau priodol ar waith gyda’r nod o ddileu Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) mewn arolygiadau swyddogol a gynhaliwyd yn wythnosol yn ystod y naw wythnos cyn allforio ac yn y gweithdrefnau monitro drwy gydol y cyfnod. Rhaid crybwyll manylion y driniaeth ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio; neueu bod y tarddu o ddeunydd planhigion (allblaniad) sy’n rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd), yn cael eu tyfu in vitro mewn cyfrwng tyfu sterilaidd o dan amodau sterilaidd sy’n atal y posibilrwydd o heigio â Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) ac yn cael eu cludo mewn cynwysyddion tryloyw o dan amodau sterilaidd |
| 80. | Blodau wedi eu torri Aster spp., Eryngium L., Gypsophila L., Hypericum L., Lisianthus L., Rosa L., Solidago L. neu Trachelium L. neu lysiau deiliog Ocimum L., sy’n tarddu o unrhyw wlad y tu allan i Ewrop | Rhaid i’r blodau wedi eu torri a’r blodau deiliog ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o wlad sy’n rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd); neuyn union cyn eu hallforio, eu bod wedi eu harolygu yn swyddogol ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) |
| 81. | Planhigion, ac eithrio hadau, Solanum lycopersicum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Firws deildro melyn tomatos yn bresennol ac y gwyddys nad yw Bemisia tabaci Genn. yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau Firws deildro melyn tomatos ar y planhigion |
| 82. | Planhigion, ac eithrio hadau, Solanum lycopersicum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Firws deildro melyn tomatos a Bemisia tabaci Genn. yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol:na welwyd unrhyw symptomau Firws deildro melyn tomatos ar y planhigion; abod y planhigion yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn.; neuy canfuwyd bod y man cynhyrchu yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn allforio; neuna welwyd unrhyw symptomau Firws deildro melyn tomatos yn y man cynhyrchu, ac y bu’r man cynhyrchu yn destun triniaeth a chyfundrefn fonitro briodol i sicrhau ei fod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. |
| 83. | Planhigion, ac eithrio hadau, bylbiau, cloron, cormau neu risomau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod y plâu planhigion a ganlyn yn bresennol: Firws amryliw euraidd ffa, Firws brychni ysgafn pys y fuwch, Firws heintus melyn letys, Firws tigré ysgafn pupurau, Firws deildro sgwosh, neu firysau eraill a drosglwyddir ganBemisia tabaci Genn., a lle y gwyddys nad yw Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) neu fectorau eraill y plâu planhigion perthnasol yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau’r plâu planhigion perthnasol yng ngholofn 2 o’r eitem hon ar y planhigion yn ystod eu cylch llystyfiant cyflawn |
| (1)Eitem | (2)Disgrifiad o’r deunydd perthnasol | (3)Gofynion glanio |
|---|---|---|
| 84. | Planhigion, ac eithrio hadau, bylbiau, cloron, cormau neu risomau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod y plâu planhigion a ganlyn yn bresennol: Firws amryliw euraidd ffa, Firws brychni ysgafn pys y fuwch, Firws heintus melyn letys, Firws tigré ysgafn pupurau, Firws deildro sgwosh, neufirysau eraill a drosglwyddir gan Bemisia tabaci Genn., a lle y gwyddys bod Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) neu fectorau eraill y plâu planhigion perthnasol yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda datganiad swyddogol na welwyd unrhyw symptomau’r plâu planhigion perthnasol yng ngholofn 2 o’r eitem hon ar y planhigion yn ystod cyfnod digonol, ac:bod y planhigion yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. a fectorau eraill y plâu planhigion;y canfuwyd bod y man cynhyrchu yn rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. a fectorau eraill y plâu planhigion o gynnal arolygiadau swyddogol ar adegau priodol;bod y planhigion wedi bod yn destun triniaeth briodol gyda’r nod o ddileu Bemisia tabaci Genn.; neubod y planhigion yn deillio o ddeunydd planhigion (allblaniad) sy’n rhydd rhag Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) ac nad oeddent yn dangos unrhyw symptomau Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd), eu bod yn cael eu tyfu in vitro mewn cyfrwng tyfu sterilaidd o dan amodau sterilaidd sy’n atal y posibilrwydd o heigio â Bemisia tabaci Genn. (poblogaethau heb fod yn rhai Ewropeaidd) a’u bod yn cael eu cludo mewn cynwysyddion tryloyw o dan amodau sterilaidd |
| 85. | Hadau Helianthus annuus L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Plasmopara halstedii (Farlow) Berl. a de Toni; neuac eithrio’r rheini a gynhyrchwyd ar amrywogaethau sydd ag ymwrthedd i bob hil Plasmopara halstedii (Farlow) Berl. a de Toni sy’n bresennol yn yr ardal gynhyrchu, y buont yn destun triniaeth briodol i atal Plasmopara halstedii (Farlow) Berl. a de Toni |
| 86. | Hadau Solanum lycopersicum L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol eu bod wedi eu cael drwy ddull echdynnu ag asid priodol ac:eu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Clavibacter michiganensis ssp. michiganesnsis (Smith) Davis et al., Xanthomonas campestris pv. vesicatoria (Doidge) Dye neu Firoid y gloronen bigfain yn bresennol;na welwyd unrhyw symptomau’r clefydau a achosir gan y plâu planhigion hynny ar y planhigion yn y man cynhyrchu yn ystod eu cylch llystyfiant cyflawn; neuy bu’r hadau yn destun profion swyddogol ar gyfer y plâu planhigion hynny o leiaf, sef profion ar sampl gynrychioliadol a chan ddefnyddio dulliau priodol, ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag y plâu planhigion hynny |
| 87. | Hadau Medicago sativa L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol:na welwyd unrhyw symptomau Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev yn y man cynhyrchu ers dechrau’r cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf, ac na amlygwyd Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev gan brofion labordy ar sampl gynrychioliadol;bod yr hadau wedi eu mygdarthu cyn eu hallforio; neuy bu’r hadau yn destun triniaeth ffisegol briodol i atal Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Ditylenchus dipsaci (Kühn) Filipjev ar ôl cynnal profion labordy ar sampl gynrychioliadol |
| 88. | Hadau Medicago sativa L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Clavibacter michiganensis ssp. insidiosus Davis et al. yn bresennol | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol:y gwyddys na fu Clavibacter michiganensis ssp. insidiosus Davis et al. yn bresennol ar y fferm neu yn ei chyffiniau agos ers dechrau’r 10 mlynedd ddiwethaf;naill ai:bod y cnwd yn perthyn i amrywogaeth y cydnabyddir ei bod ag ymwrthedd uchel i Clavibacter michiganensis ssp. insidiosus Davis et al.;nad oedd wedi dechrau ei bedwerydd cylch llystyfiant cyflawn ers hau pan gafodd yr hadau eu cynaeafu, ac na fu mwy nag un cynhaeaf hadau blaenorol o’r cnwd; neunad yw cynnwys y deunydd anadweithiol a bennwyd yn unol â’r rheolau sy’n gymwys ar gyfer ardystio hadau a farchnetir yn yr Undeb Ewropeaidd yn fwy na 0.1% o ran pwysau;na welwyd unrhyw symptomau Clavibacter michiganensis ssp. insidiosus Davis et al. yn y man cynhyrchu, neu ar unrhyw gnwd Medicago sativa L. cyfagos, yn ystod y cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf neu, pan fo’n briodol, yn ystod y ddau gylch llystyfiant diweddaraf; ay tyfwyd y cnwd ar dir lle na fu unrhyw gnwd Medicago sativa L. blaenorol yn bresennol yn ystod y tair blynedd ddiwethaf cyn hau |
| 89. | Hadau Oryza sativa L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod wedi eu profi yn swyddogol gan brofion nematolegol priodol a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Aphelenchoides besseyi Christie; neuy buont yn destun triniaeth briodol â dŵr poeth neu driniaeth briodol arall i atal Aphelenchoides besseyi Christie |
| 90. | Hadau Phaseolus L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Xanthomonas campestris pv. phaseoli (Smith) Dye; neuy profwyd sampl gynrychioliadol o’r hadau a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Xanthomonas campestris pv. phaseoli (Smith) Dye |
| 91. | Hadau Zea mays L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol:eu bod yn tarddu o ardal y gwyddys ei bod yn rhydd rhag Erwinia stewartii (Smith) Dye; neuy profwyd sampl gynrychioliadol o’r hadau a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Erwinia stewartii (Smith) Dye |
| 92. | Hadau o’r genera Triticum, Secale neu X Triticosecale o Affganistan, India, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA lle y gwyddys bod Tilletia indica Mitra yn bresennol | Rhaid i’r hadau ddod gyda datganiad swyddogol eu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Tilletia indica Mitra yn bresennol, a rhaid crybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio |
| 93. | Grawn o’r genera Triticum, Secale neu X Triticosecale o Affganistan, India, Irac, Mecsico, Nepal, Pacistan, De Affrica neu UDA lle y gwyddys bod Tilletia indica Mitra yn bresennol | Rhaid i’r grawn ddod gyda datganiad swyddogol:ei fod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Tilletia indica Mitra yn bresennol, a rhaid crybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “place of origin”; neuna welwyd unrhyw symptomau Tilletia indica Mitra ar y planhigion yn y man cynhyrchu yn ystod eu cylch llystyfiant cyflawn diweddaraf ac y cymerwyd samplau cynrychioliadol o’r grawn ar adeg cynaeafu a chyn eu hanfon, a chynhaliwyd profion ar y samplau hynny a chanfuwyd eu bod yn rhydd rhag Tilletia indica Mitra, a rhaid dangos tystiolaeth o hynny drwy nodi’r datganiad “tested and found free from Tilletia indica Mitra” ar y dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio o dan y pennawd “name of produce” |
| 93A. | Blodau Orchidaceae wedi eu torri sy’n tarddu o Wlad Thai | Rhaid i’r blodau wedi eu torri ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” eu bod:wedi eu cynhyrchu mewn man cynhyrchu y canfuwyd ei fod yn rhydd rhagThrips palmi Karny o gynnal arolygiadau swyddogol yn fisol o leiaf yn ystod y tri mis cyn allforio; neuwedi bod yn destun, fel llwyth cyn allforio, i driniaeth fygdarthu briodol i sicrhau eu bod yn rhydd rhag thysanoptera.Pan fo paragraff (b) yn gymwys, rhaid i fanyleb y driniaeth fygdarthu fod wedi ei chynnwys hefyd ar y dystysgrif o dan y pennawd “Disinfestation and/or disinfection treatment”. |
| 94. | Planhigion sy’n dueddol o gael plâu neu glefydau o fewn ystyr Erthygl 1(2) o Benderfyniad 2002/757/EC sy’n tarddu o UDA | Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys:datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration”:eu bod yn bodloni’r gofynion ym mhwynt 1a(a) neu 1a(b) o Atodiad I i Benderfyniad 2002/757/EC; ay canfuwyd eu bod yn rhydd rhag arunigion heb fod yn rhai Ewropeaidd o Phytophthora ramorum Werres, De Cock a Man in’t Veld sp. nov.; apan fo pwynt 1a(a) o’r Atodiad hwnnw yn gymwys, enw’r ardal y maent yn tarddu ohoni o dan y pennawd “place of origin” |
| 95. | . . . | . . . |
| 95A. | Hadau Solanum lycopersicum L., sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r hadau ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” eu bod wedi eu cael drwy ddull echdynnu ag asid priodol ac:eu bod yn tarddu o ardal lle y gwyddys nad yw Firws amryliw pepino yn bresennol;na welwyd unrhyw symptomau Firws amryliw pepino ar y planhigion yn y man cynhyrchu yn ystod eu cylch llystyfiant cyflawn; neueu bod wedi bod yn destun profion swyddogol ar gyfer Firws amryliw pepino ar sampl gynrychioliadol a chan ddefnyddio dulliau priodol, a bod y profion hynny wedi dangos eu bod yn rhydd rhag Firws amryliw pepino. |
| 96. | Planhigion penodedig o fewn yr ystyr a roddir yn Erthygl 1(2) o Benderfyniad 2007/433/EC sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration”:eu bod yn tarddu o fan cynhyrchu sydd wedi ei gofrestru ac sy’n cael ei oruchwylio gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni; aeu bod yn bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt 1(a), (b) neu (c) o Atodiad I i Benderfyniad 2007/433/EC |
| 97. | Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad 2012/138/EU sy’n tarddu o Tsieina | Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys:datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol â phwynt 1 o Adran 1(B) o Atodiad I i Benderfyniad 2012/138/EU; apan fo pwynt 1(b) o’r Adran honno yn gymwys, rhaid i fan cynhyrchu’r planhigion fodloni’r gofynion a bennir yn Erthygl 1(c) o Benderfyniad 2012/138/EU |
| 98. | Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad 2012/138/EU sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Anoplophora chinensis (Forster) yn bresennol, ac eithrio Tsieina | Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys:datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol â phwynt 1 o Adran 1(A) o Atodiad I i Benderfyniad 2012/138/EU; apan fo pwynt 1(a) o’r Adran honno yn gymwys, enw’r ardal berthnasol sy’n rhydd rhag plâu o dan y pennawd “place of origin” |
| 99. | Cloron Solanum tuberosum L., a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Epitrix cucumeris (Harris), Epitrix papa sp.n, Epitrix subcrinita (Lec.) neu Epitrix tuberis (Gentner) yn bresennol | Rhaid i’r cloron ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol ag Adran 1 o Atodiad I i Benderfyniad 2012/270/EU |
| 100. | Planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, na allant ond tyfu mewn dŵr neu bridd sydd wedi ei drwytho â dŵr yn barhaol, ac sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol ag Adran I o Atodiad I i Benderfyniad 2012/697/EU |
| 101. | Paill byw Actinidia Lindl. neu blanhigion, ac eithrio hadau, Actinidia Lindl, a fwriedir ar gyfer eu plannu, sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r paill byw neu’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol ag Adran I o Atodiad I i Benderfyniad (EU) 2017/198 |
| 102. | Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(c) o Benderfyniad (EU) 2015/789 sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad, ac eithrio trydedd wlad lle y gwyddys bod Xylella fastidiosa (Wells et al.) yn bresennol | Rhaid i’r planhigion:tarddu o drydedd wlad yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd amdani gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol yn unol ag Erthygl 16(a) o Benderfyniad (EU) 2015/789; adod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration”;yn unol ag Erthygl 16(b) o’r Penderfyniad hwnnw; neuyn achos planhigion, ac eithrio hadau, a fwriedir ar gyfer eu plannu, Coffea, Lavandula dentata L., Nerium oleander L., Olea europaea L., Polygala myrtifolia L. neu Prunus dulcis (Mill.) D.A. Webb, yn unol ag Erthygl 16(b) a’r ail is-baragraff o Erthygl 16 o’r Penderfyniad hwnnw |
| 103. | Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(c) o Benderfyniad (EU) 2015/789 sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Xylella fastidiosa (Wells et al.) yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol sy’n cynnwys:yn achos planhigion sy’n tarddu o ardal a sefydlwyd fel ardal sy’n rhydd rhag Xylella fastidiosa (Wells et al.) yn unol ag ISPM Rhif 4 ac yr hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd amdani gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol perthnasol yn unol ag Erthygl 17(2)(a) o Benderfyniad (EU) 2015/789, enw’r ardal o dan y pennawd “place of origin”;yn achos planhigion sy’n tarddu o ardal lle y gwyddys bod Xylella fastidiosa (Wells et al.) yn bresennol a phan na fo’r planhigion wedi eu tyfu in vitro am eu cylch cynhyrchu cyfan:datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol ag Erthygl 17(3) o’r Penderfyniad hwnnw; aenw’r safle y mae’r planhigion yn tarddu ohono o dan y pennawd “place of origin”;yn achos planhigion sy’n tarddu o ardal lle y gwyddys bod Xylella fastidiosa (Wells et al.) yn bresennol a’u bod wedi eu tyfu in vitro am eu cylch cynhyrchu cyfan:datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” yn unol ag Erthygl 17(3a) o’r Penderfyniad hwnnw; aenw’r safle y mae’r planhigion yn tarddu ohono o dan y pennawd “place of origin” |
| 104. | . . . | . . . |
| 105. | Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(a) o Benderfyniad (EU) 2015/893 sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Anoplophora glabripennis (Motschulsky) yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys—datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt (1)(a), (b) neu (c) o Adran 1(A) o Atodiad II i Benderfyniad (EU) 2015/893; apan fo pwynt (1)(a) o’r Adran honno yn gymwys, enw’r ardal berthnasol sy’n rhydd rhag plâu o dan y pennawd “place of origin” |
| 105A. | Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad (EU) 2018/638 | Rhaid i’r ffrwythau ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys datganiad swyddogol yn unol ag Erthygl 3(b) o Benderfyniad (EU) 2018/638. |
| 105B. | Planhigion penodedig o fewn ystyr Erthygl 1(b) o Benderfyniad (EU) 2018/1503 sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad lle y gwyddys bod Aromia bungii (Faldermann) yn bresennol | Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys:datganiad swyddogol o dan y pennawd “Additional declaration” eu bod yn bodloni’r gofynion a bennir ym mhwynt (a), (b) neu (c) o Erthygl 11 o Benderfyniad (EU) 2018/1503; apan fo pwynt (a) o’r Erthygl honno yn gymwys, enw’r ardal sy’n rhydd rhag plâu o dan y pennawd “place of origin”; |
| 106. | Planhigion Fraxinus L., a fwriedir ar gyfer eu plannu sy’n tarddu o unrhyw drydedd wlad | Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol a ddyroddwyd gan y sefydliad diogelu planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni ac sy’n cynnwys datganiad swyddogol, o dan y pennawd “Additional declaration”, bod y planhigion wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal a sefydlwyd yn ardal sy’n rhydd, ac y cedwir yn rhydd, rhag Chalara fraxinea T. Kowalski (gan gynnwys ei deleomorff Hymenoscyphus pseudoalbidus) yn unol ag ISPM Rhif 4 |
| 107. | Planhigion, ac eithrio hadau, Rosa sp., sy’n tarddu o Ganada, India, Mecsico neu UDA | Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys datganiad swyddogol:eu bod wedi eu tyfu drwy gydol eu bywyd mewn ardal a sefydlwyd gan y sefydliad gwarchod planhigion cenedlaethol yn y wlad y mae’r planhigion yn tarddu ohoni yn unol ag ISPM Rhif 4 yn ardal sy’n rhydd rhag Firws roséd rhosynnau a Phyllocoptes fructiphilus (Keifer 1940); aeu bod wedi eu pecynnu mewn ffordd sy’n atal heigio gan Phyllocoptes fructiphilus (Keifer 1940) wrth eu cludo.Pan fo’r dystysgrif ffytoiechydol neu’r dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio yn cynnwys y datganiad swyddogol y cyfeirir ato ym mharagraff (a), rhaid hefyd grybwyll enw’r ardal ar y dystysgrif o dan y pennawd “Additional declaration” |
| 108. | Planhigion mewn meithriniad meinwe Rosa sp., sy’n tarddu o Ganada, India, Mecsico neu UDA | Rhaid i’r planhigion ddod gyda thystysgrif ffytoiechydol neu dystysgrif ffytoiechydol ar gyfer ailallforio sy’n cynnwys datganiad swyddogol eu bod wedi eu cynhyrchu o blanhigion tarddiol a brofwyd ac y canfuwyd eu bod yn rhydd rhag Firws roséd rhosynnau |
PART B — Relevant material, from the European Union, which may only be introduced into or moved within Wales if special requirements are complied with
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.