The Education Tribunal for Wales Regulations 2021
Gwnaed: am 2.10 p.m. ar 24 Mawrth 2021
Yn dod i rym: 1 Medi 2021
Yn unol ag adran 98(3) o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 ac adran 209(6) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru[^f00003], ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
Title and commencement
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021 a deuant i rym ar 1 Medi 2021.
Interpretation
2
- (1) Yn y Rheoliadau hyn—
- ystyr “apêl” (“appeal”) yw— yn ddarostyngedig i baragraff (b), apêl i’r Tribiwnlys o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 yn erbyn penderfyniad awdurdod lleol neu gorff llywodraethu SAB; yn rheoliadau 55 i 57, apêl i’r Uwch Dribiwnlys yn erbyn penderfyniad y panel tribiwnlys;
- ystyr “apelydd” (“appellant”) yw person a chanddo hawlogaeth i apelio i’r Tribiwnlys o dan Ran 2 o Ddeddf 2018;
- ystyr “awdurdod” (“authority”) yw awdurdod ac eithrio’r awdurdod lleol a wnaeth y penderfyniad a herir;
- ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru a wnaeth y penderfyniad a herir;
- ystyr “Cadeirydd” (“Chair”) yw’r Llywydd neu berson a benodir o dan adran 91(4) o Ddeddf 2018 i’r panel o bersonau a gaiff wasanaethu fel cadeirydd cyfreithiol y Tribiwnlys;
- ystyr “clerc i’r panel tribiwnlys” (“clerk to the tribunal panel”) yw’r person a benodir gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys i weithredu fel clerc mewn un neu ragor o wrandawiadau;
- ystyr “Cofrestr” (“Register”) yw’r gofrestr y mae’n ofynnol ei chadw o dan reoliad 71;
- mae i “corff cyfrifol” yr ystyr a roddir i “responsible body” gan adran 85(9) o Ddeddf 2010;
- ystyr “corff llywodraethu SAB” (“FEI governing body”) yw corff llywodraethu sefydliad addysg bellach yng Nghymru a wnaeth y penderfyniad a herir ac mae iddo’r ystyr a roddir gan adran 90 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[^f00004] fel y cyfeirir ati yn adran 99 o Ddeddf 2018;
- ystyr “cyfaill achos” (“case friend”) yw person a benodir gan y Tribiwnlys yn unol ag adran 85 o Ddeddf 2018 a rheoliadau 60 i 62, i arfer hawl y plentyn i wneud apêl neu hawliad ar ran y plentyn;
- ystyr “cyfeiriad e-bost” (“e-mail address”) yw cyfeiriad post electronig person;
- ystyr “cyfnod datganiad achos” (“case statement period”) yw’r cyfnod a bennir yn rheoliad 17;
- ystyr “datganiad achos” (“case statement”) yw’r datganiad achos a gyflwynir yn unol â rheoliad 18 neu 19;
- ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996[^f00005];
- ystyr “Deddf 2010” (“the 2010 Act”) yw Deddf Cydraddoldeb 2010;
- ystyr “Deddf 2018” (“the 2018 Act”) yw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018;
- ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio— dydd Sadwrn, dydd Sul, unrhyw ddiwrnod o 25 Rhagfyr i 1 Ionawr yn gynwysedig, dydd Gwener y Groglith, y dydd Llun cyntaf ym mis Mai, unrhyw ddiwrnod ym mis Awst, neu diwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971[^f00006];
- ystyr “dogfen” (“document”) yw unrhyw beth y cofnodir gwybodaeth o unrhyw ddisgrifiad ynddo;
- ystyr “gwrandawiad” (“hearing”) yw gwrandawiad gerbron y Llywydd, Cadeirydd neu’r panel tribiwnlys at ddiben galluogi’r Llywydd, Cadeirydd neu’r panel tribiwnlys i wneud penderfyniad ar apêl, hawliad, cais neu unrhyw gwestiwn neu fater y mae hawlogaeth gan y partïon i fod yn bresennol a chael eu clywed ynddo, ac mae’n cynnwys gwrandawiad a gynhelir yn gyfan gwbl neu’n rhannol drwy gyswllt fideo, ar y ffôn neu drwy ddull arall o gyfathrebu electronig dwyffordd disymwth;
- ystyr “gwŷs tyst” (“witness summons”) yw dogfen a ddyroddir gan y Llywydd neu’r panel tribiwnlys sy’n ei gwneud yn ofynnol i dyst fod yn bresennol mewn gwrandawiad o apêl neu hawliad, i roi tystiolaeth, neu ddangos dogfennau, mewn perthynas ag apêl neu hawliad i’r Tribiwnlys;
- ystyr “hawliad” (“claim”) yw hawliad ar gyfer gwahaniaethu ar sail anabledd o dan Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2010 ac Atodlen 17 iddi;
- ystyr “hawlydd” (“claimant”) yw person a chanddo hawlogaeth i wneud hawliad i’r Tribiwnlys o dan Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2010 ac Atodlen 17 iddi;
- mae i “llofnod electronig” yr ystyr a roddir i “electronic signature” gan adran 7 o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000[^f00007];
- ystyr “panel tribiwnlys” (“tribunal panel”) yw panel o’r Tribiwnlys a gaiff benderfynu apêl neu hawliad neu unrhyw gwestiwn neu fater mewn perthynas ag apêl neu hawliad;
- ystyr “parti” (“party”) yw— mewn apêl, yr apelydd, yr awdurdod lleol neu gorff llywodraethu’r SAB, a mewn hawliad, yr hawlydd neu’r corff cyfrifol;
- ystyr “penderfyniad a herir” (“disputed decision”) yw’r penderfyniad neu’r weithred, neu’r methiant i benderfynu neu weithredu, y dygir yr apêl neu’r hawliad mewn cysylltiad ag ef neu hi;
- ystyr “person ifanc” (“young person”) yw— mewn apêl, person sy’n destun yr apêl neu’r hawliad, a mewn hawliad, person sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol ac sy’n destun yr hawliad;
- ystyr “plentyn” (“child”) yw person sy’n destun yr apêl neu’r hawliad;
- mae i “rhiant” yr ystyr a roddir i “parent” gan adran 576 o Ddeddf 1996;
- mae “sylwadau llafar” (“oral representations”) yn cynnwys tystiolaeth a roddir, oherwydd amhariad ar leferydd neu glyw, gan berson sy’n defnyddio iaith arwyddion;
- ystyr “sylwedydd” (“observer”) yw person a gaiff fod yn bresennol mewn gwrandawiad at ddiben arsylwi ar y gwrandawiad, ond ni chaniateir iddo gymryd rhan yn y gwrandawiad, na gwneud unrhyw nodiadau o’r gwrandawiad, na gwneud unrhyw recordiad o’r gwrandawiad drwy ddull clyweledol neu drwy unrhyw ddull arall;
- ystyr “Tribiwnlys Haen Gyntaf” (“First-tier Tribunal”) yw’r tribiwnlys a sefydlwyd o dan adran 3 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007[^f00008], sydd ag awdurdodaeth yn Lloegr dros apelau a hawliadau;
- mae “tystiolaeth” (“evidence”) yn cynnwys deunydd o unrhyw ddisgrifiad a gofnodir ar unrhyw ffurf;
- ystyr “Uwch Dribiwnlys” (“Upper Tribunal”) yw’r tribiwnlys apeliadol a sefydlwyd o dan adran 3 o Ddeddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007;
- ystyr “Ysgrifennydd y Tribiwnlys” (“Secretary of the Tribunal”) yw’r person sydd am y tro yn gweithredu fel Ysgrifennydd swyddfa’r Tribiwnlys.
- (2) Mae i’r geiriau a’r ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Neddf 2018 yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf honno, ac eithrio i’r graddau yr ymddengys bwriad i’r gwrthwyneb.
Application
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i apêl neu hawliad a gofnodir yn y Gofrestr ar neu ar ôl 1 Medi 2021.
The overriding objective
4
- (1) Prif amcan y Rheoliadau hyn yw galluogi’r Llywydd, a’r panel tribiwnlys, i ymdrin ag apelau a hawliadau yn deg ac yn gyfiawn.
- (2) Mae ymdrin ag achos yn deg ac yn gyfiawn yn cynnwys—
- (a) ymdrin â’r apêl neu’r hawliad mewn ffyrdd sy’n gymesur â phwysigrwydd yr achos a chymhlethdod y materion,
- (b) osgoi, i’r graddau y bo’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys yn ystyried eu bod yn briodol, ffurfioldeb diangen yn yr achosion o dan y Rheoliadau hyn,
- (c) sicrhau, i’r graddau y bo’n ymarferol, y trinnir y partïon yn gyfartal o ran trefniadaeth ac y gallant gymryd rhan lawn yn yr achos, gan gynnwys hwyluso unrhyw barti i gyflwyno unrhyw apêl neu hawliad, ond heb argymell pa drywydd y dylai’r parti hwnnw ei ddilyn,
- (d) defnyddio arbenigedd neilltuol y Llywydd neu’r panel tribiwnlys yn effeithiol, ac
- (e) osgoi oedi, i’r graddau y mae hynny’n gyson â rhoi ystyriaeth briodol i’r materion.
- (3) Rhaid i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys geisio rhoi effaith i brif amcan y Rheoliadau hyn pan fo’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys o dan y Rheoliadau hyn—
- (a) yn arfer unrhyw swyddogaeth, neu
- (b) yn dehongli unrhyw reoliad.
- (4) Rhaid i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys fynd ati’n weithredol i reoli apelau a hawliadau yn unol â phrif amcan y Rheoliadau hyn.
Parties’ obligation to co-operate
5
- (1) Rhaid i’r partïon—
- (a) cydweithredu â’i gilydd at ddibenion symud yr apêl yn ei blaen neu’r hawliad yn ei flaen,
- (b) cydweithredu wrth gyfnewid dogfennau neu wybodaeth â’i gilydd, er mwyn galluogi pob parti i lunio datganiad achos,
- (c) cynorthwyo’r Llywydd, neu’r panel tribiwnlys, i hyrwyddo prif amcan y Rheoliadau hyn, a
- (d) cydweithredu â’r Llywydd a’r panel tribiwnlys yn gyffredinol.
- (2) Caiff y Llywydd, neu’r panel tribiwnlys, ddod i unrhyw gasgliadau anffafriol y maent yn meddwl eu bod yn addas o fethiant parti i gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r rhwymedigaethau a bennir ym mharagraff (1).
- (3) Pan fo’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys wedi dod i gasgliad anffafriol o dan baragraff (2), caiff gyfarwyddo Ysgrifennydd y Tribiwnlys i gyflwyno hysbysiad i’r parti diffygiol ei fod yn bwriadu gwneud gorchymyn i ddileu—
- (a) yr apêl, pan yr apelydd yw’r parti diffygiol,
- (b) yr hawliad, pan yr hawlydd yw’r parti diffygiol, neu
- (c) y datganiad achos a’r dystiolaeth ysgrifenedig, pan yr awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol yw’r parti diffygiol.
- (4) Rhaid i’r hysbysiad ym mharagraff (3) wahodd sylwadau, a rhaid i’r Llywydd, neu’r panel tribiwnlys, ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir.
- (5) At ddibenion y rheoliad hwn—
- (a) rhaid i hysbysiad sy’n gwahodd sylwadau roi gwybod i’r parti diffygiol y caiff y parti hwnnw, o fewn cyfnod (heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r dyddiad yr anfonir yr hysbysiad) a bennir yn yr hysbysiad, naill ai cyflwyno sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i gyflwyno sylwadau llafar, a
- (b) bydd sylwadau wedi eu cyflwyno—
- (i) yn achos sylwadau ysgrifenedig, os cyflwynir hwy o fewn y cyfnod penodedig, a
- (ii) yn achos sylwadau llafar, os yw’r parti sy’n bwriadu eu cyflwyno wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod penodedig.
- (6) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y parti diffygiol, orchymyn bod achos y parti hwnnw yn cael ei ddileu.
Alternative dispute resolution
6
- (1) Rhaid i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys, pan fo’n briodol, dynnu sylw’r partïon at unrhyw weithdrefn arall sydd ar gael i ddatrys yr anghydfod.
- (2) Os yw’r partïon yn dymuno defnyddio’r weithdrefn arall i ddatrys yr anghydfod, caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys, ar yr amod bod hynny’n gyson â phrif amcan y Rheoliadau hyn, ohirio ystyriaeth o’r apêl neu’r hawliad.
Lay panel members
7
- (1) Rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni nad yw personau a benodir yn aelodau o’r panel lleyg yn gymwys i’w penodi’n Gadeirydd.
- (2) Rhaid i Weinidogion Cymru fod wedi eu bodloni bod gan ddigon o aelodau’r panel wybodaeth gyfredol a phrofiad cyfredol o blant, ac o bobl ifanc, sydd ag—
- (a) anghenion dysgu ychwanegol,
- (b) anableddau, neu
- (c) os yw’n ofynnol, y ddau.
Establishment of tribunal panels
8
- (1) Mae awdurdodaeth y Tribiwnlys i’w harfer gan y nifer hwnnw o baneli tribiwnlys y mae’r Llywydd yn penderfynu arno o bryd i’w gilydd.
- (2) Mae’r paneli tribiwnlys sy’n arfer yr awdurdodaeth a roddir iddynt yn unol â pharagraff (1) i eistedd ar yr adegau hynny ac yn y mannau hynny y mae’r Llywydd yn penderfynu arnynt o bryd i’w gilydd.
Membership of tribunal panel
9
- (1) Rhaid i banel tribiwnlys gael Cadeirydd ynghyd â naill ai un neu ddau aelod o’r panel lleyg.
- (2) Ar gyfer pob gwrandawiad—
- (a) rhaid i’r Cadeirydd fod naill ai’r Llywydd neu’n berson a ddewisir gan y Llywydd o’r panel cadeirydd cyfreithiol, a
- (b) rhaid i’r aelod arall neu’r aelodau eraill fod yn bersonau a ddewisir gan y Llywydd o’r panel lleyg.
- (3) Pan fo’r panel wedi ei gyfansoddi o un Cadeirydd ac un aelod o’r panel lleyg, bydd gan y Cadeirydd bleidlais fwrw os bydd aelodau’r panel yn anghytuno â’i gilydd.
Period within which proceedings must be commenced
10
- (1) O ran apêl i’r Tribiwnlys—
- (a) rhaid iddi gael ei gwneud yn ysgrifenedig yn unol â’r Rheoliadau hyn, a
- (b) rhaid i’r Tribiwnlys ei chael heb fod yn hwyrach na’r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod o 8 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad pan roddwyd—
- (i) yr hysbysiad o benderfyniad yr awdurdod lleol, neu gorff llywodraethu’r SAB, a
- (ii) yr hawl i apelio o dan Ran 2 o Ddeddf 2018 yn erbyn y penderfyniad.
- (2) Mewn perthynas ag apêl neu apêl arfaethedig, os cyfeirir yr anghydfod dan sylw ar gyfer datrys anghydfodau o dan adran 68 o Ddeddf 2018 cyn diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (1)(b), estynnir am 8 wythnos y cyfnod a ganiateir gan y paragraff hwnnw.
- (3) O ran hawliad i’r Tribiwnlys—
- (a) rhaid iddo gael ei wneud yn ysgrifenedig yn unol â’r Rheoliadau hyn, a
- (b) rhaid i’r Tribiwnlys ei gael heb fod yn hwyrach na’r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod a ddatgenir ym mharagraff 4(1) o Atodlen 17 i Ddeddf 2010[^f00009].
- (4) Mewn perthynas â hawliad neu hawliad arfaethedig, os cyfeirir yr anghydfod dan sylw ar gyfer datrys anghydfodau o dan baragraff 6C o Atodlen 17 i Ddeddf 2010 cyn diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (3)(b), estynnir y cyfnod a ganiateir gan y paragraff hwnnw yn unol â pharagraff 4(2A) o Atodlen 17 i Ddeddf 2010.
- (5) Yn ddarostyngedig i reoliad 14, ni chaiff y Tribiwnlys ystyried—
- (a) cais apelio, oni chychwynnir achos yn unol â pharagraff (1);
- (b) cais hawlio, oni chychwynnir achos yn unol â pharagraff (3).
Appeal application
11
- (1) Rhaid i’r cais apelio ddatgan—
- (a) enw a chyfeiriad y person sy’n gwneud yr apêl ac, os ydynt ar gael, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost y person hwnnw,
- (b) enw a dyddiad geni’r plentyn neu’r person ifanc,
- (c) os yw’n berthnasol, y berthynas neu’r cysylltiad rhwng y person sy’n gwneud yr apêl a’r plentyn neu’r person ifanc,
- (d) enw a chyfeiriad pob person—
- (i) y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu
- (ii) sy’n rhannu cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, neu
- (iii) sy’n gofalu am y plentyn,
neu’r rhesymau pam na ddarperir enwau a chyfeiriadau’r personau hynny,
- (e) enw a chyfeiriad unrhyw gynrychiolydd neu gyfaill achos ar gyfer y person sy’n gwneud yr apêl ac, os ydynt ar gael, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost y cynrychiolydd neu’r cyfaill achos,
- (f) cyfeiriad ac, os oes un ar gael, cyfeiriad e-bost, lle y dylid anfon hysbysiadau a dogfennau ar gyfer y person sy’n gwneud yr apêl,
- (g) enw a chyfeiriad yr awdurdod lleol neu gorff llywodraethu’r SAB a wnaeth y penderfyniad a herir,
- (h) y dyddiad pan gafodd y person sy’n gwneud yr apêl gadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad a herir,
- (i) y rheswm neu’r rhesymau dros wneud yr apêl,
- (j) y canlyniad a geisir,
- (k) y camau, os oes rhai, a gymerwyd eisoes i ddatrys yr anghydfod, ac
- (l) unrhyw ofynion a dymuniadau cyfathrebu y plentyn neu’r person ifanc.
- (2) Os yw’r person sy’n gwneud yr apêl yn ceisio gorchymyn—
- (a) bod cynllun datblygu unigol yn cael ei ddiwygio, rhaid i’r cais apelio bennu pa adran neu adrannau o’r cynllun datblygu unigol y mae’r apêl yn ymwneud â hi neu â hwy, a
- (b) ar gyfer lleoliad mewn ysgol neu sefydliad arall, rhaid i’r cais apelio ddatgan enw a chyfeiriad yr ysgol neu’r sefydliad arall.
- (3) Caniateir cyflwyno’r canlynol gyda’r cais apelio—
- (a) copi o’r penderfyniad a herir,
- (b) pan fo’r apêl yn cael ei gwneud o dan adran 70 neu 72 o Ddeddf 2018, copi o gynllun datblygu unigol y plentyn neu’r person ifanc, unrhyw ddogfennaeth sydd wedi ei hatodi i’r cynllun datblygu unigol neu sy’n ffurfio rhan ohono ac, os yw ar gael, copi o’r adolygiad diweddaraf o dan adran 23 neu 24 o Ddeddf 2018, ac
- (c) y datganiad achos yn unol â rheoliadau 17 a 18.
- (4) Rhaid cyflwyno’r canlynol gyda’r cais apelio—
- (a) cadarnhad ysgrifenedig bod y person sy’n gwneud yr apêl wedi hysbysu’r personau, os oes rhai, a enwir yn unol â pharagraff (1)(d) fod y person yn bwriadu gwneud apêl i’r Tribiwnlys, neu gadarnhad ysgrifenedig sy’n esbonio pam nad yw’r person sy’n gwneud yr hawliad wedi hysbysu’r personau hynny,
- (b) pan fo’r cais apelio yn datgan enw ysgol neu ddarpariaeth ddysgu ychwanegol mewn sefydliad arall yn unol â pharagraff (2)(b), gadarnhad ysgrifenedig bod y person sy’n gwneud yr apêl wedi rhoi gwybod i bennaeth yr ysgol, neu i gorff llywodraethu neu berchennog y sefydliad arall, fod y person yn bwriadu gofyn i’r ysgol neu i’r sefydliad arall gael ei henwi neu ei enwi yn y cynllun datblygu unigol, ac
- (c) pan fo’r cais apelio, o dan baragraff (2)(b), yn datgan enw—
- (i) ysgol a gynhelir, gadarnhad ysgrifenedig bod y person sy’n gwneud yr apêl wedi rhoi gwybod i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol, a all fod yr awdurdod lleol a wnaeth y penderfyniad a herir neu awdurdod lleol gwahanol, fod y person yn bwriadu gofyn i’r ysgol a gynhelir gael ei henwi yn y cynllun datblygu unigol;
- (ii) ysgol annibynnol, gadarnhad ysgrifenedig bod y person sy’n gwneud yr apêl wedi rhoi gwybod i berchennog yr ysgol fod y person yn bwriadu gofyn i’r ysgol annibynnol gael ei henwi yn y cynllun datblygu unigol;
- (iii) ysgol annibynnol, gadarnhad ysgrifenedig gan berchennog yr ysgol fod lle ar gael yn yr ysgol i’r plentyn;
- (iv) unrhyw sefydliad arall, gadarnhad ysgrifenedig bod y person sy’n gwneud yr apêl wedi cadarnhau pa un a oes darpariaeth addas ar gael yn y sefydliad ai peidio.
- (5) Rhaid i’r cais apelio gael ei lofnodi gan y person sy’n gwneud yr apêl, neu gan unrhyw gynrychiolydd neu gyfaill achos ar ran y person hwnnw.
- (6) Yn unol â rheoliad 35, caiff y cais apelio gynnwys archiad i’r apêl gael ei gwrando ar y cyd â hawliad yn erbyn corff cyfrifol.
Claim application
12
- (1) Rhaid i’r cais hawlio ddatgan—
- (a) enw a chyfeiriad y person sy’n gwneud yr hawliad ac, os ydynt ar gael, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost y person hwnnw,
- (b) enw a dyddiad geni’r plentyn neu’r person ifanc,
- (c) os yw’n berthnasol, y berthynas neu’r cysylltiad rhwng y person sy’n gwneud yr hawliad a’r plentyn,
- (d) enwau a chyfeiriadau pob person y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant neu sy’n rhannu cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn neu sy’n gofalu am y plentyn, neu’r rhesymau pam na ddarperir enwau a chyfeiriadau’r personau hynny,
- (e) enw a chyfeiriad unrhyw gynrychiolydd neu gyfaill achos a benodir gan y person sy’n gwneud yr hawliad ac, os ydynt ar gael, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost y cynrychiolydd neu’r cyfaill achos,
- (f) cyfeiriad ac, os oes un ar gael, cyfeiriad e-bost, lle y dylid anfon hysbysiadau a dogfennau ar gyfer y person sy’n gwneud yr hawliad,
- (g) enw a chyfeiriad—
- (i) yr ysgol neu’r awdurdod lleol a wnaeth y penderfyniad a herir, neu
- (ii) yr awdurdod ar gyfer yr ysgol a enwir o dan baragraff (1)(g)(i) os yw’r ysgol honno yn ysgol a gynhelir,
- (h) manylion y penderfyniad a herir y mae’r hawliad yn ymwneud ag ef,
- (i) y dyddiad neu’r dyddiadau y digwyddodd y penderfyniad a herir arno neu arnynt,
- (j) y rheswm neu’r rhesymau dros wneud yr hawliad,
- (k) y canlyniad a geisir, ac
- (l) y camau, os oes rhai, a gymerwyd eisoes i ddatrys yr anghydfod.
- (2) Rhaid i’r cais hawlio gynnwys disgrifiad o anabledd y disgybl ysgol.
- (3) Rhaid i’r cais hawlio gynnwys disgrifiad o unrhyw ofynion a dymuniadau cyfathrebu y plentyn neu’r person ifanc.
- (4) Os yw ar gael, dylid cyflwyno gyda’r cais hawlio dystiolaeth o ddiagnosis meddygol neu ddiagnosis proffesiynol arall mewn perthynas ag anabledd y disgybl.
- (5) Rhaid cyflwyno gyda’r cais hawlio gadarnhad ysgrifenedig bod y person sy’n gwneud yr hawliad wedi hysbysu’r personau, os oes rhai, a enwir yn unol â pharagraff (1)(d), fod y person wedi gwneud hawliad i’r Tribiwnlys, neu gadarnhad ysgrifenedig sy’n esbonio pam nad yw’r person sy’n gwneud yr hawliad wedi hysbysu’r personau hynny.
- (6) Rhaid i’r cais hawlio gael ei lofnodi gan y person sy’n gwneud yr hawliad neu gan unrhyw gynrychiolydd neu gyfaill achos ar ran y person hwnnw.
- (7) Yn unol â rheoliad 35, caiff y cais hawlio gynnwys archiad i’r hawliad gael ei wrando ar y cyd ag apêl yn erbyn awdurdod lleol.
Action by the Secretary of the Tribunal
13
- (1) Ar ôl cael y cais apelio neu’r cais hawlio, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys—
- (a) cofnodi ei fanylion yn y Gofrestr, a
- (b) anfon at yr apelydd neu’r hawlydd—
- (i) cydnabyddiaeth o gael y cais a nodyn o rif yr achos a gofnodwyd yn y Gofrestr,
- (ii) nodyn o’r cyfeiriad y dylid anfon hysbysiadau a chyfathrebiadau iddo ar gyfer y Tribiwnlys,
- (iii) hysbysiad y gellir cael cyngor ynghylch y weithdrefn apelio neu’r weithdrefn hawlio o swyddfa’r Tribiwnlys,
- (iv) hysbysiad bod gan awdurdodau lleol ddyletswyddau i roi trefniadau yn eu lle ar gyfer gwasanaethau eirioli annibynnol i blant a phobl ifanc y maent yn gyfrifol amdanynt,
- (v) datganiad o’r canlyniadau posibl i’r apêl neu’r hawliad os yw parti yn methu â chydymffurfio â rheoliad 5 (rhwymedigaeth ar y partïon i gydweithredu), a
- (vi) hysbysiad y caiff partïon gyflwyno datganiadau tyst ysgrifenedig a galw tystion yn unol â rheoliad 43.
- (2) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon i gorff llywodraethu’r SAB, yr awdurdod lleol neu’r corff cyfrifol, yn ôl y digwydd—
- (a) copi o’r cais apelio neu’r cais hawlio ac unrhyw ddogfennau cysylltiedig,
- (b) nodyn o’r cyfeiriad y dylid anfon hysbysiadau a chyfathrebiadau iddo ar gyfer y Tribiwnlys,
- (c) pan yw datganiad achos yn ddogfen gysylltiedig o dan is-baragraff (a), neu pan geir ar wahân, hysbysiad sy’n datgan yr amser ar gyfer cyflwyno datganiad achos corff llywodraethu’r SAB, yr awdurdod lleol neu’r corff cyfrifol a thystiolaeth o dan reoliad 19, a’r canlyniadau os na wneir hynny,
- (d) datganiad o’r canlyniadau posibl i’r apêl neu’r hawliad os yw parti yn methu â chydymffurfio â rheoliad 5 (rhwymedigaeth ar y partïon i gydweithredu), ac
- (e) hysbysiad y caiff partïon gyflwyno datganiadau tyst ysgrifenedig a galw tystion yn unol â rheoliad 43.
- (3) Os yw’n angenrheidiol canfod enw’r corff cyfrifol mewn perthynas â hawliad, caiff y Llywydd neu Ysgrifennydd y Tribiwnlys wneud unrhyw ymholiadau sy’n angenrheidiol at y diben hwn.
- (4) Pan fo’n ymddangos i’r Llywydd neu Ysgrifennydd y Tribiwnlys y gall fod mwy nag un corff cyfrifol mewn perthynas â hawliad, caiff y Tribiwnlys anfon y ddogfennaeth a bennir ym mharagraff (2) i unrhyw un neu ragor neu i bob un o’r cyrff hynny, fel y bo’n briodol.
- (5) Pan fo’r Llywydd o’r farn, ar sail y cais apelio neu’r cais hawlio, fod y person sy’n gwneud yr apêl neu’r hawliad yn gofyn i’r Tribiwnlys ystyried mater sydd y tu allan i’w bwerau, caiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys roi hysbysiad i’r person—
- (a) sy’n datgan y rhesymau dros y farn honno, a
- (b) sy’n rhoi gwybod i’r person na chaniateir i’r cais apelio neu’r cais hawlio gael ei gofnodi yn y Gofrestr oni fydd y person, o fewn amser penodedig (na chaniateir iddo fod yn llai na 5 niwrnod gwaith) yn hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys fod y person yn dymuno bwrw ymlaen â’r apêl neu’r hawliad.
- (6) Os yw Ysgrifennydd y Tribiwnlys wedi rhoi hysbysiad o dan baragraff (5), mae’r cais apelio neu’r cais hawlio i’w drin fel pe bai wedi ei gael at ddibenion paragraff (1) pan fo’r person sy’n gwneud yr apêl neu’r hawliad yn hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys fod y person yn dymuno bwrw ymlaen â’r apêl neu’r hawliad.
- (7) Pan fo Ysgrifennydd y Tribiwnlys o’r farn bod gwall amlwg yn y cais apelio neu’r cais hawlio, caiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys gywiro’r gwall hwnnw.
- (8) Pan fo gwall wedi ei gywiro yn unol â pharagraff (7), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu’r person sy’n gwneud yr apêl neu’r hawliad am y cywiriad a datgan effaith paragraff (9).
- (9) Oni fydd y person sy’n gwneud yr apêl neu’r hawliad yn rhoi gwybod i Ysgrifennydd y Tribiwnlys o fewn 5 niwrnod gwaith i’r hysbysiad a roddir o dan baragraff (8) fod y person yn gwrthwynebu’r cywiriad, rhaid trin y cais apelio neu’r cais hawlio fel y’i cywirwyd fel y cais apelio neu’r cais hawlio at ddibenion y Rheoliadau hyn.
- (10) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon yr holl ddogfennau a hysbysiadau ynghylch yr apêl neu’r hawliad at yr apelydd neu’r hawlydd.
- (11) Mae paragraff (10) yn gymwys—
- (a) oni fydd yr apelydd neu’r hawlydd yn hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys fod rhaid anfon yr holl ddogfennau a hysbysiadau ynghylch yr apêl neu’r hawliad at ei gynrychiolydd yn hytrach nag at yr apelydd neu’r hawlydd;
- (b) oni bai bod cyfaill achos wedi ei benodi yn unol ag adran 85 o Ddeddf 2018 a rheoliadau 60 i 62.
- (12) Os yw paragraff (11)(a) neu (b) yn gymwys, rhaid dehongli cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn (sut bynnag y’u mynegir) at anfon dogfennau at yr apelydd neu’r hawlydd, neu at roi hysbysiad i’r apelydd neu’r hawlydd, fel pe baent yn gyfeiriadau at anfon dogfennau at y cynrychiolydd neu at y cyfaill achos, neu at roi hysbysiad i’r cynrychiolydd, neu i’r cyfaill achos, yn ôl y digwydd.
Appeal or claim made out of time
14
- (1) Caiff y Llywydd ystyried—
- (a) unrhyw apêl sydd y tu allan i’r amser os yw’r Llywydd yn ystyried, o dan holl amgylchiadau’r achos, ei bod yn deg ac yn gyfiawn gwneud hynny;
- (b) unrhyw hawliad sydd y tu allan i’r amser o dan baragraff 4(3) o Atodlen 17 i Ddeddf 2010.
- (2) Caiff y Llywydd geisio gwybodaeth bellach gan y person sy’n gwneud yr apêl neu’r hawliad cyn gwneud penderfyniad o dan baragraff (1).
Sufficiency of reasons
15
- (1) Os nad yw’r cais apelio neu’r cais hawlio yn cynnwys datganiad o’r rhesymau dros wneud yr apêl neu’r hawliad, neu os na chyflwynir datganiad o’r fath gyda’r cais apelio neu’r cais hawlio, gan gynnwys, mewn perthynas â hawliad, yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 12(1)(i) a (j) a (2) y mae’r Llywydd yn ystyried ei bod yn ddigonol i alluogi’r awdurdod lleol neu’r corff cyfrifol i ymateb i’r apêl neu’r hawliad, rhaid i’r Llywydd gyfarwyddo’r apelydd neu’r hawlydd i anfon manylion o’r rhesymau at Ysgrifennydd y Tribiwnlys o fewn 10 niwrnod gwaith i’r cyfarwyddyd.
- (2) Mae rheoliad 33 (methiant i gydymffurfio â chyfarwyddydau) yn gymwys i gyfarwyddyd o dan baragraff (1).
- (3) Mae rhesymau a anfonir wrth ymateb i gyfarwyddyd a wneir o dan baragraff (1) i’w trin fel pe baent yn rhan o’r cais apelio neu’r cais hawlio.
Appellant’s or claimant’s representatives
16
- (1) Caiff yr apelydd neu’r hawlydd, yn y cais apelio neu’r cais hawlio neu drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ar unrhyw adeg yn ddiweddarach—
- (a) penodi cynrychiolydd;
- (b) penodi cynrychiolydd arall i gymryd lle’r cynrychiolydd a benodwyd yn flaenorol ac y diddymir ei benodiad gan y penodiad diweddarach;
- (c) datgan nad oes unrhyw berson yn gweithredu fel cynrychiolydd yr apelydd neu’r hawlydd, sy’n diddymu unrhyw benodiad blaenorol.
- (2) Pan fo penodiad wedi ei wneud o dan baragraff (1), rhaid i’r apelydd neu’r hawlydd roi enw, cyfeiriad a manylion cyswllt y cynrychiolydd.
Case statement periods
17
- (1) Cyfnod y datganiad achos ar gyfer apelydd sy’n gwneud apêl yw’r cyfnod o amser perthnasol a nodir yn rheoliad 10 ac mae’n cynnwys unrhyw estyniad i’r cyfnod hwnnw o amser a orchmynnir gan y Llywydd o dan reoliad 65.
- (2) Cyfnod y datganiad achos ar gyfer hawlydd yw cyfnod o 8 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad yr ystyrir bod y gydnabyddiaeth, a roddir o dan reoliad 13(1)(b)(i), wedi ei chael yn unol â rheoliad 75(11). Mae’n cynnwys unrhyw estyniad i’r cyfnod hwnnw a orchmynnir gan y Llywydd o dan reoliad 65.
- (3) Os yw’r Llywydd yn gwneud cyfarwyddyd mewn perthynas ag—
- (a) apêl yn unol â rheoliad 15, nid yw’r cyfnod a bennir ym mharagraff (1) yn dechrau, ac ni chaiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon unrhyw ddogfennau fel sy’n ofynnol gan reoliad 13(2), hyd nes y ceir rhesymau mewn ymateb i’r cyfarwyddyd;
- (b) hawliad yn unol â rheoliad 15 neu’n gwneud ymholiadau o dan reoliad 13(3), nid yw’r cyfnod a bennir ym mharagraff (2) yn dechrau, ac ni chaiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon unrhyw ddogfennau i’r corff cyfrifol fel sy’n ofynnol gan reoliad 13(2), hyd nes y ceir rhesymau mewn ymateb i’r cyfarwyddyd neu y cwblheir yr ymholiadau.
- (4) Cyfnod y datganiad achos ar gyfer awdurdod lleol neu gorff llywodraethu SAB mewn apêl yw—
- (a) 4 wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad yr ystyrir bod yr hysbysiad, sy’n gysylltiedig â datganiad achos yr apelydd, wedi ei gael yn unol â rheoliad 75(11), a
- (b) mae’n cynnwys unrhyw estyniad i’r cyfnod hwnnw a orchmynnir gan y Llywydd o dan reoliad 65.
- (5) Cyfnod y datganiad achos ar gyfer corff cyfrifol yw—
- (a) 4 wythnos, gan ddechrau â’r dyddiad yr ystyrir bod yr hysbysiad, a roddir o dan reoliad 13(2), wedi ei gael yn unol â rheoliad 75(11), a
- (b) mae’n cynnwys unrhyw estyniad i’r cyfnod hwnnw a orchmynnir gan y Llywydd o dan reoliad 65.
Appellant or claimant’s case statement
18
- (1) Rhaid i’r apelydd neu’r hawlydd gyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, cyn diwedd cyfnod y datganiad achos, yn ôl y digwydd—
- (a) datganiad achos, a
- (b) yr holl dystiolaeth arall y bwriedir dibynnu arni ac nas cyflwynwyd eisoes.
- (2) Rhaid i’r datganiad achos gynnwys—
- (a) pan rhiant y plentyn yw’r apelydd neu’r hawlydd—
- (i) safbwyntiau’r plentyn ar y materion a godir yn yr apêl neu’r hawliad, neu
- (ii) esboniad pam nad yw’r apelydd neu’r hawlydd wedi canfod safbwyntiau’r plentyn;
- (b) pan y plentyn yw’r apelydd neu’r hawlydd—
- (i) safbwyntiau rhiant y plentyn ar y materion a godir yn yr apêl neu’r hawliad, neu
- (ii) esboniad pam nad yw’r apelydd neu’r hawlydd wedi canfod safbwyntiau’r rhiant.
- (3) Os yw’r Llywydd yn rhoi caniatâd, caiff yr apelydd neu’r hawlydd—
- (a) diwygio’r cais apelio neu’r cais hawlio;
- (b) cyflwyno datganiad atodol o resymau sy’n cefnogi’r cais apelio neu’r cais hawlio;
- (c) diwygio datganiad atodol o resymau sy’n cefnogi’r cais apelio neu’r cais hawlio;
- (d) cyflwyno datganiad achos atodol;
- (e) diwygio datganiad achos atodol.
- (4) Rhaid i’r apelydd neu’r hawlydd gyflwyno copi i Ysgrifennydd y Tribiwnlys o bob diwygiad a datganiad atodol y rhoddwyd caniatâd ar eu cyfer o dan baragraff (3) o fewn y cyfnod o amser a ganiateir.
- (5) Os diwygir cais apelio yn unol â pharagraff (3) fel bod yr apelydd yn gwneud apêl o dan adran 70(2)(f) ac (g) o Ddeddf 2018, rhaid i’r apelydd hysbysu pennaeth yr ysgol a gynhelir a enwir yn y cais apelio diwygiedig, gan ddatgan enw a dyddiad geni’r plentyn.
- (6) Os na chynhelir yr ysgol y cyfeirir ati ym mharagraff (5) gan yr awdurdod lleol, rhaid i’r apelydd hysbysu’r awdurdod sy’n cynnal yr ysgol.
- (7) Pan roddir caniatâd o dan baragraff (3), caiff y Llywydd, os bydd angen, estyn cyfnod y datganiad achos, o dan reoliad 65 neu, os yw wedi dod i ben, ganiatáu unrhyw gyfnod pellach y mae’r Llywydd yn ystyried ei fod yn briodol.
- (8) Os yw’r awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol sy’n ymateb, ar yr adeg y rhoddir caniatâd o dan baragraff (3), wedi colli ei hawlogaeth i fod yn bresennol neu i gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad yn unol â rheoliad 23 neu 33, bydd rhoi caniatâd yn adfer hawlogaeth o’r fath ac, os bydd angen, caniateir gohirio’r gwrandawiad cyn ei gychwyn neu ar ôl ei gychwyn, fel y bo’n briodol, er mwyn i’r ymatebydd allu cael ei gynrychioli.
The respondent local authority, FEI governing body or responsible body’s case statement and evidence
19
- (1) Rhaid i’r awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol sy’n ymateb (“yr ymatebydd”) gyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys cyn diwedd cyfnod y datganiad achos—
- (a) copi o’r penderfyniad a herir,
- (b) copi o gynllun datblygu unigol y plentyn neu’r person ifanc, unrhyw ddogfennaeth sydd wedi ei hatodi i’r cynllun neu sy’n ffurfio rhan ohono ac, os yw ar gael, copi o’r adolygiad diweddaraf,
- (c) datganiad achos, a
- (d) yr holl dystiolaeth arall y bwriedir dibynnu arni ac nas cyflwynwyd eisoes.
- (2) Rhaid i ddatganiad achos yr ymatebydd gael ei lofnodi gan berson sydd wedi ei awdurdodi i lofnodi dogfennau o’r fath ar ran yr ymatebydd, a rhaid iddo ddatgan pa un a yw’r ymatebydd yn bwriadu gwrthwynebu’r apêl neu’r hawliad ai peidio.
- (3) Os yw’r ymatebydd yn bwriadu gwrthwynebu’r apêl neu’r hawliad, rhaid i’w ddatganiad achos ddatgan—
- (a) ar ba seiliau y gwrthwynebir yr apêl neu’r hawliad, neu unrhyw ran o’r apêl neu’r hawliad,
- (b) enw a chyfeiriad cynrychiolydd yr ymatebydd ac, os ydynt ar gael, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost y cynrychiolydd,
- (c) y cyfeiriad lle y dylid anfon neu ddanfon dogfennau ar gyfer yr ymatebydd,
- (d) crynodeb o’r ffeithiau ynghylch y penderfyniad a herir,
- (e) y rheswm neu’r rhesymau dros y penderfyniad a herir, os nad yw’r rheswm neu’r rhesymau yn gynwysedig yn y penderfyniad, ac
- (f) y camau, os oes rhai, a gymerwyd eisoes i ddatrys yr anghydfod.
- (4) Rhaid i ddatganiad achos yr ymatebydd gynnwys—
- (a) safbwyntiau’r plentyn neu’r person ifanc ynghylch y materion a godir yn yr apêl neu’r hawliad, neu
- (b) esboniad pam nad yw wedi canfod safbwyntiau’r plentyn.
- (5) Caiff yr ymatebydd ddiwygio ei ddatganiad achos, cyflwyno datganiad achos atodol, neu ddiwygio datganiad achos atodol, os rhoddir caniatâd gan y Llywydd.
- (6) Rhaid i’r ymatebydd gyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gopi o bob diwygiad a datganiad atodol y rhoddwyd caniatâd ar eu cyfer o dan baragraff (5) o fewn y cyfnod o amser a ganiateir.
- (7) Os rhoddir caniatâd o dan baragraff (5), caiff y Llywydd estyn cyfnod y datganiad achos o dan reoliad 65 neu, os yw wedi dod i ben, ganiatáu unrhyw gyfnod pellach y mae’r Llywydd yn ystyried ei fod yn briodol.
- (8) Os yw’r apelydd neu’r hawlydd, ar yr adeg y rhoddir caniatâd o dan baragraff (5), wedi colli hawlogaeth i fod yn bresennol neu i gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad yn unol â rheoliad 33, bydd rhoi’r caniatâd yn adfer hawlogaeth o’r fath ac, os bydd angen, caniateir gohirio’r gwrandawiad cyn ei gychwyn neu ar ôl ei gychwyn, fel y bo’n briodol, er mwyn i’r apelydd neu’r hawlydd allu cael ei gynrychioli.
Change of representative of respondent FEI governing body, local authority or responsible body
20
- (1) Caiff corff llywodraethu’r SAB, yr awdurdod lleol neu’r corff cyfrifol sy’n ymateb (“yr ymatebydd”), ar unrhyw adeg, newid ei gynrychiolydd at ddibenion yr apêl neu’r hawliad drwy hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys am enw a chyfeiriad ei gynrychiolydd newydd ac, os ydynt ar gael, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost y cynrychiolydd.
- (2) Mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn (sut bynnag y’u mynegir) at anfon dogfennau i gorff llywodraethu’r SAB, yr awdurdod lleol neu’r corff cyfrifol, neu roi hysbysiad iddo, i’w dehongli fel pe baent yn gyfeiriadau at anfon dogfennau at y cynrychiolydd a enwir yn unol â pharagraff (1) neu reoliad 19(3)(b) neu roi hysbysiad iddo.
Change of local authority in an appeal
21
- (1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys at ddibenion apêl os, ar ôl y dyddiad pan wnaeth yr awdurdod lleol y penderfyniad a herir, nad yw’r awdurdod lleol yn gyfrifol mwyach am y plentyn neu’r person ifanc o fewn ystyr adrannau 13 a 14, neu 18 a 19, o Ddeddf 2018 (“yr hen awdurdod”).
- (2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, caiff y Llywydd orchymyn, at holl ddibenion yr apêl ac wrth gael tystiolaeth bod y rheoliad hwn yn gymwys, y rhoddir enw’r awdurdod sy’n gyfrifol am y plentyn o fewn ystyr adran 13 o Ddeddf 2018 (“yr awdurdod newydd”) yn lle’r hen awdurdod.
- (3) Rhaid rhoi cyfle i’r hen awdurdod, yr awdurdod newydd a’r apelydd i gael eu clywed cyn gwneud gorchymyn o dan baragraff (2).
- (4) Pan wneir gorchymyn o dan baragraff (2)—
- (a) rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu’r hen awdurdod, yr awdurdod newydd a’r apelydd;
- (b) ni fydd yr hen awdurdod yn barti yn yr apêl mwyach;
- (c) bydd yr awdurdod newydd yn dod yn barti yn yr apêl;
- (d) mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys fel pe bai’r awdurdod newydd wedi gwneud y penderfyniad a herir;
- (e) rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copïau i’r awdurdod newydd o’r holl ddogfennau a thystiolaeth ysgrifenedig ynghylch yr apêl a gafodd y Tribiwnlys oddi wrth yr apelydd ac oddi wrth yr hen awdurdod;
- (f) mae’r weithdrefn ar gyfer penderfynu’r apêl yn ailddechrau ac mae rheoliad 13 yn gymwys fel pe bai’r dogfennau a’r dystiolaeth ysgrifenedig a anfonwyd yn unol ag is-baragraff (e) yn rhan o’r cais apelio y cyfeirir ato yn rheoliad 13(1).
Copy documents for parties
22
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys—
- (a) anfon copi i’r awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol o unrhyw ddiwygiad i’r cais apelio neu’r cais hawlio a geir yn ystod cyfnod y datganiad achos;
- (b) ar ddiwedd pob cyfnod datganiad achos, anfon copi o ddatganiad achos a thystiolaeth ysgrifenedig y naill barti at y llall;
- (c) anfon copïau ar unwaith o unrhyw ddiwygiadau neu ddatganiadau atodol, sylwadau ysgrifenedig, tystiolaeth ysgrifenedig (ac eithrio tystiolaeth ysgrifenedig y ceir copi ohoni yn unol â rheoliad 47 (tystiolaeth ysgrifenedig sy’n hwyr)) neu ddogfennau eraill a geir oddi wrth barti ar ôl diwedd cyfnod y datganiad achos, at y parti arall.
- (2) Os cyflwynir cais apelio neu gais hawlio, datganiad achos, diwygiad, datganiad atodol, sylw ysgrifenedig, tystiolaeth ysgrifenedig neu ddogfen arall i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ar ôl yr amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn, ni chaiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o’r hyn a gyflwynir felly at y parti arall, onid estynnir y terfyn amser gan y Llywydd o dan reoliad 65.
- (3) Pan fo Ysgrifennydd y Tribiwnlys yn anfon unrhyw gopïau o ddogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) at barti sydd eisoes wedi rhoi gwybod i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, mewn ymateb i’r ymholiadau a wneir o dan reoliad 24(a)(i) a (ii), nad yw’r parti yn dymuno bod yn bresennol na chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ofyn a yw’r parti’n dymuno newid yr ymateb hwnnw ar sail y copïau a gafwyd.
Failure to submit a case statement and absence of opposition
23
- (1) Caiff y panel tribiwnlys benderfynu’r apêl neu’r hawliad heb wrandawiad neu drwy gynnal gwrandawiad—
- (a) os na chaiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys ddatganiad achos gan yr awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol o fewn cyfnod y datganiad achos;
- (b) os yw’r awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol yn datgan yn ysgrifenedig nad yw’n gwrthwynebu—
- (i) yr apêl, neu
- (ii) yr hawliad;
- (c) os yw’r awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol yn tynnu ei wrthwynebiad yn ôl i—
- (i) yr apêl, neu
- (ii) yr hawliad.
- (2) Pan fo’r panel tribiwnlys yn penderfynu’r apêl neu’r hawliad heb wrandawiad, rhaid iddo wneud hynny ar sail y cais apelio neu’r cais hawlio ac unrhyw ddogfennaeth arall a gafwyd neu a ddiwygiwyd eisoes yn unol â rheoliad 18(3).
- (3) Os yw’r panel tribiwnlys yn penderfynu cynnal gwrandawiad yn unol â pharagraff (1), caiff ddyroddi cyfarwyddyd sy’n gwahardd yr awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol rhag bod yn bresennol yn y gwrandawiad na chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad.
- (4) Os yw’r apêl yn ymwneud ag—
- (a) yr hyn a gynhwysir mewn cynllun datblygu unigol plentyn neu berson ifanc, ni chaniateir i ddatganiad nad yw’r awdurdod lleol neu gorff llywodraethu’r SAB yn gwrthwynebu’r apêl, neu ei fod yn tynnu ei wrthwynebiad yn ôl, gael effaith hyd nes bod yr awdurdod lleol neu gorff llywodraethu’r SAB yn cyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gadarnhad ysgrifenedig o’r diwygiadau (os oes rhai) y mae’n cytuno i’w gwneud i gynllun datblygu unigol y plentyn neu’r person ifanc;
- (b) penderfyniad i beidio â chynnal cynllun datblygu unigol, ni chaniateir i ddatganiad nad yw’r awdurdod lleol neu gorff llywodraethu’r SAB yn gwrthwynebu’r apêl, neu ei fod yn tynnu ei wrthwynebiad yn ôl, gael effaith hyd nes bod yr awdurdod lleol neu gorff llywodraethu’r SAB yn cyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gadarnhad ysgrifenedig o’i benderfyniad i beidio â gwrthwynebu’r apêl neu i dynnu ei wrthwynebiad yn ôl.
Ymholiadau’r Tribiwnlys
Enquiries by the Secretary of the Tribunal
24
Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ar unrhyw adeg ar ôl cael y cais apelio neu’r cais hawlio—
- (a) gofyn i bob parti—
- (i) a yw’r parti yn bwriadu bod yn bresennol yn y gwrandawiad ai peidio;
- (ii) a yw’r parti yn dymuno cael ei gynrychioli yn y gwrandawiad yn unol â rheoliad 50 ac, os felly, enw’r cynrychiolydd;
- (iii) a yw’r parti yn bwriadu galw tystion ac, os felly, enwau’r tystion arfaethedig, eu galwedigaethau, ac a oes arbenigwr meddygol neu arbenigwr arall yn eu plith;
- (iv) a oes ar y parti, neu dyst, angen cymorth oherwydd nam cyfathrebu ac, os felly, manylion y math o gymorth cyfathrebu sy’n ofynnol;
- (v) a oes gan y parti, neu dyst y bwriedir ei alw, unrhyw anableddau a all olygu y byddai’n ofynnol gwneud addasiadau rhesymol;
- (vi) a yw’r parti yn dymuno i berson fod yn bresennol fel sylwedydd yn y gwrandawiad ac, os felly, enw’r person hwnnw;
- (vii) a yw’r parti yn dymuno i unrhyw berson fod yn bresennol yn y gwrandawiad i gyfleu safbwyntiau a dymuniadau’r plentyn neu’r person ifanc ac, os felly, enw a chyfeiriad y person hwnnw ac, os yw’n berthnasol, cysylltiad y person â’r plentyn neu’r person ifanc;
- (b) rhoi gwybod i bob parti—
- (i) am effaith rheoliad 40(6) a darpariaeth rheoliad 42(2), a
- (ii) pan fo ateb i unrhyw un neu ragor o’r ymholiadau o dan baragraff (a) yn newid ar ôl i barti ymateb i’r ymholiadau hynny, fod rhaid i’r parti o dan sylw roi gwybod yn ysgrifenedig ar unwaith i Ysgrifennydd y Tribiwnlys.
Failure to respond to enquiries made by the Secretary of the Tribunal
25
- (1) Caiff y Llywydd orchymyn—
- (a) bod y cais apelio neu’r cais hawlio yn cael ei ddileu ar y sail bod methiant yr apelydd neu’r hawlydd i gydymffurfio ag ymholiadau, a wneir gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys o dan reoliad 24, yn rhagfarnu neu’n oedi gwrandawiad teg yr apêl neu’r hawliad;
- (b) na chaiff yr awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol gymryd unrhyw gam pellach yn yr apêl neu’r hawliad na bod yn bresennol yn y gwrandawiad na chael ei gynrychioli yno ar y sail bod methiant i gydymffurfio ag ymholiadau, a wneir gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys o dan reoliad 24, yn rhagfarnu neu’n oedi gwrandawiad teg yr apêl neu’r hawliad.
- (2) Cyn gwneud gorchymyn o dan baragraff (1), rhaid i’r Llywydd roi hysbysiad i’r parti y mae’r Llywydd yn bwriadu gwneud gorchymyn yn ei erbyn, gan wahodd sylwadau ganddo, a rhaid i’r Llywydd ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir.
- (3) At ddibenion y rheoliad hwn—
- (a) rhaid i hysbysiad sy’n gwahodd sylwadau roi gwybod i’r parti y caiff, o fewn cyfnod (nad yw’n llai na 5 niwrnod gwaith) a bennir yn yr hysbysiad, naill ai cyflwyno sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i gyflwyno sylwadau llafar;
- (b) bydd sylwadau wedi eu gwneud—
- (i) yn achos sylwadau ysgrifenedig, os cyflwynir hwy o fewn y cyfnod penodedig, a
- (ii) yn achos sylwadau llafar, os yw’r parti sy’n bwriadu eu cyflwyno wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod penodedig.
- (4) Os yw cais apelio neu gais hawlio yn cael ei ddileu o dan baragraff (1)(a), ystyrir bod yr achos y mae’r apêl neu’r hawliad yn ymwneud ag ef wedi ei derfynu.
Power to strike out the appeal or claim
26
- (1) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, yn ystod unrhyw gam yn yr apêl neu’r hawliad, os yw’r awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol yn gwneud cais neu os yw’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys yn cyfarwyddo felly, gyflwyno hysbysiad i’r apelydd neu’r hawlydd sy’n datgan bod cynnig wedi ei wneud i ddileu’r cyfan neu ran o’r apêl neu’r hawliad, ar un o’r seiliau a bennir ym mharagraff (2) neu oherwydd diffyg erlyniad.
- (2) Y seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
- (a) bod yr apêl wedi ei gwneud neu’r hawliad wedi ei wneud ac eithrio yn unol â’r Rheoliadau hyn;
- (b) nad yw’r apêl neu’r hawliad o fewn awdurdodaeth y Tribiwnlys, neu nad yw o fewn awdurdodaeth y Tribiwnlys mwyach;
- (c) nad yw’r apêl neu’r hawliad yn datgelu seiliau rhesymol;
- (d) bod yr apêl neu’r hawliad yn camddefnyddio proses y Tribiwnlys.
- (3) Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (1) wahodd yr apelydd neu’r hawlydd i gyflwyno sylwadau.
- (4) At ddibenion y rheoliad hwn—
- (a) rhaid i hysbysiad sy’n gwahodd sylwadau roi gwybod i’r apelydd neu’r hawlydd y caiff yr apelydd neu’r hawlydd, o fewn cyfnod (nad yw’n llai na 5 niwrnod gwaith) a bennir yn yr hysbysiad, naill ai cyflwyno sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i gyflwyno sylwadau llafar;
- (b) mae sylwadau wedi eu gwneud—
- (i) yn achos sylwadau ysgrifenedig, os cyflwynir hwy o fewn y cyfnod penodedig, a
- (ii) yn achos sylwadau llafar, os yw’r parti sy’n bwriadu eu cyflwyno wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod penodedig.
- (5) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir gan yr apelydd neu’r hawlydd, orchymyn bod y cyfan neu ran o’r apêl neu’r hawliad yn cael ei ddileu neu ei dileu, ar un o’r seiliau a bennir ym mharagraff (2) neu oherwydd diffyg erlyniad.
- (6) Caniateir gwneud gorchymyn o dan baragraff (5) heb gynnal gwrandawiad, oni fydd yr apelydd neu’r hawlydd yn gofyn am gyfle i gyflwyno sylwadau llafar.
- (7) Os cyflwynir sylwadau llafar yn unol â pharagraff (6), caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys ystyried y sylwadau llafar ar ddechrau’r gwrandawiad o sylwedd yr apêl neu’r hawliad.
- (8) Os yw’r cyfan o gais apelio neu gais hawlio yn cael ei ddileu o dan baragraff (5), bernir bod yr achos y mae’r apêl neu’r hawliad yn ymwneud ag ef wedi ei derfynu.
Order to amend case statement
27
- (1) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys, os yw’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys yn meddwl ei bod yn addas, yn ystod unrhyw gam o’r apêl neu’r hawliad, orchymyn bod datganiad achos parti yn cael ei ddiwygio ar y sail nad yw’n datgelu seiliau rhesymol dros wneud yr apêl neu’r hawliad neu oherwydd ei fod yn camddefnyddio proses y Tribiwnlys.
- (2) Cyn gwneud gorchymyn o dan baragraff (1), rhaid i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys roi hysbysiad i’r parti y mae’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys yn bwriadu gwneud gorchymyn yn ei erbyn, gan wahodd sylwadau ganddo, a rhaid i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir.
- (3) At ddibenion y rheoliad hwn—
- (a) rhaid i hysbysiad sy’n gwahodd sylwadau roi gwybod i’r parti y caiff, o fewn cyfnod (nad yw’n llai na 5 niwrnod gwaith) a bennir yn yr hysbysiad, naill ai cyflwyno sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i gyflwyno sylwadau llafar;
- (b) bydd sylwadau wedi eu cyflwyno—
- (i) yn achos sylwadau ysgrifenedig, os cyflwynir hwy o fewn y cyfnod a bennir felly, a
- (ii) yn achos sylwadau llafar, os yw’r parti sy’n bwriadu eu cyflwyno wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod a bennir felly.
Evidence and submissions
28
- (1) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys roi cyfarwyddydau ar—
- (a) y materion y mae’n ofynnol cael tystiolaeth neu gyflwyniadau yn eu cylch,
- (b) natur y dystiolaeth neu’r cyflwyniadau sy’n ofynnol,
- (c) pa un a ganiateir i’r partïon ddarparu tystiolaeth arbenigol ai peidio neu a yw’n ofynnol iddynt wneud hynny ac, os felly, a oes rhaid i’r partïon ar y cyd benodi un arbenigwr i ddarparu tystiolaeth o’r fath,
- (d) y modd y mae unrhyw dystiolaeth neu gyflwyniadau i’w darparu, a all gynnwys cyfarwyddyd i’w rhoi—
- (i) ar lafar mewn gwrandawiad, neu
- (ii) fel cyflwyniadau ysgrifenedig neu ddatganiad tyst ysgrifenedig, ac
- (e) yr amser erbyn pryd y mae unrhyw dystiolaeth neu gyflwyniadau i’w darparu.
- (2) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys gyfarwyddo, mewn perthynas ag apêl—
- (a) rhiant y plentyn i roi’r plentyn ar gael i’w archwilio neu ei asesu gan berson proffesiynol sydd â chymhwyster addas, neu
- (b) y person sy’n gyfrifol am ysgol neu leoliad addysgol i ganiatáu i berson proffesiynol sydd â chymhwyster addas gael mynediad i’r ysgol neu’r lleoliad addysgol at ddiben asesu’r plentyn neu’r ddarpariaeth a wneir, neu sydd i’w gwneud, ar gyfer y plentyn.
- (3) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys ystyried bod methiant gan berson, sy’n barti yn yr apêl, i gydymffurfio â gofyniad a wneir o dan baragraff (2), yn absenoldeb unrhyw reswm da dros fethiant o’r fath, yn fethiant i gydweithredu â’r Tribiwnlys.
- (4) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys—
- (a) derbyn tystiolaeth, pa un a fyddai’r dystiolaeth yn dderbyniadwy ai peidio mewn treial sifil yng Nghymru neu Loegr;
- (b) allgáu tystiolaeth a fyddai fel arall yn dderbyniadwy—
- (i) pan na ddarparwyd y dystiolaeth o fewn yr amser a ganiateid gan gyfarwyddyd,
- (ii) pan ddarparwyd y dystiolaeth fel arall mewn modd nad oedd yn cydymffurfio â chyfarwyddyd, neu
- (iii) pan fyddai’n annheg derbyn y dystiolaeth fel arall.
Case management and directions
29
- (1) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys, ar ysgogiad y Llywydd neu’r panel tribiwnlys, neu pan wneir cais gan barti, roi pa gyfarwyddydau bynnag i barti ar unrhyw fater sy’n codi mewn cysylltiad â’r apêl neu’r hawliad y mae’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys yn meddwl ei bod yn addas, gan gynnwys gohirio’r achos, neu’r cyfarwyddydau hynny a ddarperir yn rheoliadau 31 a 32, i alluogi’r partïon i baratoi ar gyfer y gwrandawiad neu i gynorthwyo’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys i benderfynu’r materion.
- (2) Rhaid i gais gan barti am gyfarwyddydau gael ei wneud yn ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Tribiwnlys.
- (3) Rhaid i barti sy’n cyflwyno cais am gyfarwyddydau i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, oni chyflwynir cydsyniad ysgrifenedig y parti arall gyda’r cais, gyflwyno copi o’r cais i’r parti arall.
- (4) Os yw’r parti arall yn gwrthwynebu’r cyfarwyddydau a geisir, rhaid i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys ystyried y gwrthwynebiad ac, os yw’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys yn ystyried bod angen hynny er mwyn penderfynu’r cais, rhaid iddo roi cyfle i’r partïon i gyflwyno sylwadau.
- (5) Pe na fyddai, ym marn y Llywydd neu’r panel tribiwnlys, amser rhesymol cyn gwrandawiad y rhoddwyd hysbysiad ohono o dan reoliad 37(1) i gydymffurfio â chyfarwyddyd y mae parti yn gwneud cais amdano, caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys—
- (a) os yw wedi ei fodloni y gall cydymffurfio â’r cyfarwyddyd gynorthwyo’r panel tribiwnlys i benderfynu’r materion, ohirio’r gwrandawiad, cyn ei gychwyn, o dan reoliad 48, neu
- (b) gwrthod y cais.
- (6) Rhaid i gyfarwyddyd—
- (a) cynnwys datganiad o’r canlyniadau posibl i’r apêl neu’r hawliad fel y’u darperir gan reoliad 33, pe bai parti yn methu â chydymffurfio â’r cyfarwyddyd o fewn yr amser a ganiateir gan y Llywydd neu’r panel tribiwnlys;
- (b) oni chafodd y person y cyfeirir y cyfarwyddyd ato gyfle i wrthwynebu’r cyfarwyddyd, neu wedi cydsynio’n ysgrifenedig i’r cais am y cyfarwyddyd, gynnwys datganiad i’r perwyl y caiff y person hwnnw wneud cais i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys o dan reoliad 30 am amrywio’r cyfarwyddyd neu ei osod o’r neilltu.
- (7) Pan fo’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys, yn unol â rheoliad 35(1), yn gorchymyn—
- (a) bod apêl i’w gwrando ar y cyd â hawliad, ni chaiff y cyfarwyddydau a roddir o dan baragraff (1) ymwneud ond â’r apêl;
- (b) bod hawliad i’w wrando ar y cyd ag apêl, ni chaiff y cyfarwyddydau a roddir o dan baragraff (1) ymwneud ond â’r hawliad.
- (8) Pan fo paragraff (7)(a) yn gymwys, caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys ystyried a yw’n fuddiol, o ran penderfynu’r apêl a’r hawliad yn effeithlon, ac er budd y partïon, roi’r un cyfarwyddydau, neu gyfarwyddydau tebyg, mewn cysylltiad â’r apêl â’r rheini a roddir yn yr hawliad.
- (9) Pan fo paragraff (7)(b) yn gymwys, caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys ystyried a yw’n fuddiol, o ran penderfynu’r hawliad a’r apêl yn effeithlon, ac er budd y partïon, roi’r un cyfarwyddydau, neu gyfarwyddydau tebyg, mewn perthynas â’r hawliad â’r rheini a roddir yn yr apêl.
- (10) Pan fo’n ymddangos i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys fod mater yn codi mewn apêl neu hawliad y mae rhaid ei benderfynu cyn y gwrandawiad ar sylwedd yr apêl neu’r hawliad, ac na ellir ei benderfynu’n briodol drwy roi cyfarwyddydau, caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys wysio’r partïon i ymddangos gerbron y Llywydd neu’r panel tribiwnlys at y diben hwn, a chaiff roi unrhyw gyfarwyddydau angenrheidiol sy’n ymwneud â’u hymddangosiad.
Varying or setting aside directions
30
- (1) Pan na chafodd parti y cyfeirir cyfarwyddyd ato gyfle i wrthwynebu rhoi’r cyfarwyddyd, ac na chydsyniodd yn ysgrifenedig â’r cais am y cyfarwyddyd hwnnw, caiff y parti hwnnw wneud cais i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys, ar unrhyw adeg drwy hysbysiad i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, i’r cyfarwyddyd gael ei amrywio neu ei osod o’r neilltu.
- (2) Ni chaiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys amrywio’r cyfarwyddyd na’i osod o’r neilltu heb yn gyntaf hysbysu’r partïon ac ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir ganddynt.
Particulars and supplementary statements
31
Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys roi cyfarwyddydau sy’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw barti ddarparu, naill ai yn neu gyda datganiad achos y parti hwnnw, unrhyw fanylion neu ddatganiadau atodol sy’n rhesymol ofynnol ar gyfer penderfynu’r apêl neu’r hawliad.
Disclosure of documents and other material
32
- (1) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys—
- (a) cyfarwyddo parti i gyflwyno i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys erbyn dyddiad penodedig unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall sy’n ofynnol gan y Llywydd neu’r panel tribiwnlys, ac y mae o fewn pŵer y parti hwnnw i’w chyflwyno neu ei gyflwyno;
- (b) rhoi cyfarwyddyd ar—
- (i) unrhyw fater y mae’n ofynnol datgelu tystiolaeth yn ei gylch,
- (ii) natur a graddau’r datgeliad,
- (iii) y modd y mae’r ddogfen neu’r dystiolaeth arall i’w darparu i’r Tribiwnlys, a
- (iv) allgáu unrhyw ddogfen neu dystiolaeth arall sy’n amherthnasol, yn ddiangen neu a gafwyd yn amhriodol.
- (2) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys osod amod ar gyflenwi copi o unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall a gyflwynir wrth gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan baragraff (1), na chaiff y parti sy’n ei gael ddefnyddio’r copi ond at ddibenion yr apêl neu’r hawliad.
- (3) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys wneud ymgymeriad ysgrifenedig i gadw’r amod y cyfeirir ato ym mharagraff (2) yn ofynnol cyn cyflenwi copi.
- (4) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys roi gorchymyn i barti ar gyfer y math o ddatgelu neu archwilio dogfennau (gan gynnwys cymryd copïau) y gellid ei ganiatáu o dan Reolau Trefniadaeth Sifil 1998[^f00010].
- (5) Rhaid i orchymyn o dan baragraff (4) gynnwys cyfeiriad—
- (a) mewn perthynas ag apêl, fod unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â’r gofynion ynghylch datgelu neu archwilio dogfennau, yn agored, o dan adran 79 o Ddeddf 2018, ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol, a
- (b) mewn perthynas â hawliad, fod unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio â’r gofynion ynghylch datgelu neu archwilio dogfennau, yn agored, o dan baragraff 6(8) o Atodlen 17 i Ddeddf 2010, ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.
Failure to comply with directions
33
- (1) Os nad yw parti wedi cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan y Rheoliadau hyn o fewn yr amser a bennir yn y cyfarwyddyd, caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys—
- (a) pan yr apelydd neu’r hawlydd yw’r parti diffygiol, wrthod yr apêl neu’r hawliad heb wrandawiad;
- (b) pan yr awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol yw’r parti diffygiol, benderfynu’r apêl neu’r hawliad heb wrandawiad;
- (c) cynnal gwrandawiad—
- (i) heb hysbysu’r parti diffygiol, lle nad yw’r parti diffygiol yn bresennol nac yn cael ei gynrychioli, neu
- (ii) pan fo’r partïon wedi eu hysbysu am y gwrandawiad yn unol â rheoliad 37(1), a chyfarwyddo nad oes hawlogaeth gan y parti diffygiol, nac unrhyw berson sy’n bwriadu cynrychioli’r parti hwnnw neu roi tystiolaeth ar ei ran, i fod yn bresennol yn y gwrandawiad.
- (2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y parti diffygiol” yw’r parti sydd wedi methu â chydymffurfio â’r cyfarwyddyd.
Consolidating appeals or claims
34
- (1) Os oes mwy nag un apêl yn ymwneud â’r un plentyn neu’r un person ifanc, neu’n galw am benderfyniad ar yr un mater i raddau sylweddol, caiff y Llywydd orchymyn bod yr apelau yn cael eu gwrando gyda’i gilydd.
- (2) Os oes mwy nag un hawliad yn ymwneud â’r un plentyn neu’r un person ifanc, neu’n galw am benderfyniad ar yr un mater i raddau sylweddol, caiff y Llywydd orchymyn bod yr hawliadau yn cael eu gwrando gyda’i gilydd.
- (3) Caiff y Llywydd wneud gorchymyn sy’n amrywio neu’n dirymu gorchymyn cynharach a wnaed o dan baragraff (1) neu (2).
- (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff y Llywydd ddyroddi gorchymyn o dan y rheoliad hwn ar gais ysgrifenedig y naill barti neu’r llall neu ar ysgogiad y Llywydd ei hunan.
- (5) Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan y rheoliad hwn ond os yw’n ymddangos, ym marn y Llywydd, ei bod yn deg ac yn gyfiawn gwneud hynny, a chyn gwneud gorchymyn, rhaid rhoi cyfle i bob parti, ym mhob un o’r apelau neu’r hawliadau yr effeithir arnynt, i gael ei glywed.
Consolidating claims together with appeals
35
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), pan fo hawliad yn ymwneud â’r un plentyn neu’r un person ifanc a’i fod naill ai’n deillio o’r un amgylchiadau neu’n galw am benderfyniad ar yr un mater, i raddau sylweddol, ag apêl, caiff y Llywydd orchymyn bod yr hawliad yn cael ei wrando ar y cyd â’r apêl.
- (2) Nid oes dim ym mharagraff (1) sy’n caniatáu i’r Llywydd wneud gorchymyn os yw person wedi methu â gwneud apêl o fewn y terfynau amser a bennir gan reoliad 10 neu gan unrhyw estyniad amser i wneud apêl o’r fath a roddir o dan y Rheoliadau hyn.
- (3) Ni chaiff y Llywydd wneud gorchymyn o dan baragraff (1) ond pe na fyddai gwneud y gorchymyn yn achosi oedi gormodol i benderfynu’r apêl, a chan gydymffurfio yn ogystal â gofynion paragraff (6).
- (4) Caiff y Llywydd wneud gorchymyn sy’n amrywio neu’n dirymu gorchymyn cynharach a wnaed o dan baragraff (1).
- (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), caiff y Llywydd ddyroddi gorchymyn o dan y rheoliad hwn ar gais ysgrifenedig y naill barti neu’r llall neu ar ysgogiad y Llywydd ei hunan.
- (6) Ni chaniateir gwneud gorchymyn o dan y rheoliad hwn ond os yw’n ymddangos, ym marn y Llywydd, ei bod yn deg ac yn gyfiawn gwneud hynny, a chyn gwneud gorchymyn, rhaid rhoi cyfle i bob parti, ym mhob un o’r hawliadau neu’r apelau yr effeithir arnynt, i gael ei glywed.
Addition and substitution of parties
36
- (1) Caiff person wneud cais i gael ei gysylltu yn barti yn yr apêl neu’r hawliad.
- (2) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys wneud gorchymyn i gysylltu person yn barti yn yr apêl neu’r hawliad—
- (a) os gwneir cais ysgrifenedig o dan baragraff (1), neu
- (b) ar ysgogiad y Llywydd neu’r panel tribiwnlys ei hun, os nad oes cais ysgrifenedig wedi ei wneud ond bod y person yn cydsynio i gael ei gysylltu yn barti yn yr apêl neu’r hawliad.
- (3) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys wneud gorchymyn i amnewid parti—
- (a) os yw’r person anghywir wedi ei enwi’n barti, neu
- (b) os yw’r amnewid wedi dod yn angenrheidiol oherwydd newid mewn amgylchiadau er pan ddechreuwyd yr apêl neu’r hawliad.
- (4) Os gwneir gorchymyn o dan baragraff (2) neu (3), caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys wneud unrhyw gyfarwyddydau canlyniadol, neu ymholiadau o dan reoliad 24, y mae’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys yn ystyried eu bod yn briodol.
- (5) Oni fydd y Llywydd neu’r panel tribiwnlys yn cyfarwyddo fel arall, rhaid trin person a benodir neu a amnewidir o dan y rheoliad hwn fel parti at ddiben unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol cyflwyno dogfen i barti yn yr apêl neu’r hawliad, anfon dogfen ato neu roi hysbysiad iddo.
Notice of date, place and time of hearings
37
- (1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (2) a rheoliad 39, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, ar ôl ymgynghori â’r partïon, bennu dyddiad, lleoliad ac amser y gwrandawiad ac anfon hysbysiad sy’n pennu dyddiad, lleoliad ac amser y gwrandawiad at bob parti.
- (2) Os yw Ysgrifennydd y Tribiwnlys wedi gofyn i barti ddarparu manylion o’r adegau y byddai ar gael i fod yn bresennol mewn gwrandawiad ac nad yw’r parti hwnnw wedi cydymffurfio â’r cais, caiff Ysgrifennydd y Tribiwnlys fwrw ymlaen i restru’r apêl neu’r hawliad ar gyfer gwrandawiad heb ymgynghori pellach.
- (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i’r hysbysiad o wrandawiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei anfon—
- (a) mewn perthynas â gwrandawiad o dan reoliad 23, 25, 26, 53 neu 54, heb fod yn hwyrach na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennir ar gyfer gwrandawiad,
- (b) mewn unrhyw achos arall, heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad, neu
- (c) mewn unrhyw achos, o fewn cyfnod o amser byrrach cyn y dyddiad a bennir ar gyfer y gwrandawiad yn is-baragraff (a) neu (b) y mae’r partïon yn cytuno arno.
- (4) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gynnwys yn yr hysbysiad o wrandawiad, neu gyda’r hysbysiad o wrandawiad—
- (a) gwybodaeth a chanllawiau, ar ffurf a gymeradwyir gan y Llywydd, ynghylch presenoldeb y partïon a’r tystion yn y gwrandawiad, dod â dogfennau, a’r hawl i gynrychiolaeth neu gymorth fel y’i darperir gan reoliad 50, a
- (b) datganiad sy’n esbonio’r canlyniadau posibl os methir â bod yn bresennol, a’r hawl sydd gan y canlynol i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig—
- (i) yr apelydd neu’r hawlydd os nad yw’r apelydd neu’r hawlydd yn bresennol nac yn cael ei gynrychioli;
- (ii) yr awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol os na chaiff ei gynrychioli ac os yw wedi cyflwyno datganiad o’i achos, oni bai ei fod wedi datgan yn ysgrifenedig nad yw’n gwrthwynebu’r apêl neu’r hawliad, neu wedi tynnu’n ôl ei wrthwynebiad i’r apêl neu’r hawliad.
- (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys newid lleoliad ac amser unrhyw wrandawiad, a rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys roi i’r partïon heb fod yn llai na 5 niwrnod gwaith (neu gyfnod llai y mae’r partïon yn cytuno arno) o rybudd ynghylch lleoliad ac amser newydd y gwrandawiad.
- (6) Os yw’r partïon yn bresennol pan fydd y Llywydd neu’r panel tribiwnlys yn cyhoeddi lleoliad ac amser newydd y gwrandawiad, ni fydd yn ofynnol rhoi hysbysiad pellach.
- (7) Nid oes dim ym mharagraff (1) neu (5) sy’n gosod rhwymedigaeth ar Ysgrifennydd y Tribiwnlys i ymgynghori ag unrhyw berson nad oes hawlogaeth ganddo i gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad, neu anfon hysbysiad at unrhyw berson o’r fath.
Transfers
38
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff y Llywydd atgyfeirio achos mewn perthynas ag apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf os oes awdurdodaeth gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf mewn perthynas â’r achos.
- (2) Ni chaniateir gwneud atgyfeiriad o dan baragraff (1) oni fydd hysbysiad wedi ei roi i’r partïon.
- (3) Os trosglwyddir achos mewn perthynas ag apêl i’r Tribiwnlys gan y Tribiwnlys Haen Gyntaf, caiff y Tribiwnlys barhau â’r achos os oes awdurdodaeth gan y Tribiwnlys mewn perthynas â’r achos hwnnw.
Power to determine the appeal or claim without a hearing
39
- (1) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys benderfynu’r apêl neu’r hawliad neu unrhyw fater penodol heb wrandawiad—
- (a) os yw’r partïon yn cytuno felly yn ysgrifenedig, neu
- (b) o dan yr amgylchiadau a ddisgrifir yn rheoliad 23 (methiant i gyflwyno datganiad achos ac absenoldeb gwrthwynebiad) neu 33 (methiant i gydymffurfio â chyfarwyddydau).
- (2) Cyn gwneud penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd eisoes gan y partïon (at ddiben y rheoliad hwn, trinnir y cais apelio neu’r cais hawlio a datganiadau achos y partïon fel pe baent yn sylwadau ysgrifenedig).
Public and private hearings: arrangements and exceptions
40
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid cynnal pob un o wrandawiadau’r Tribiwnlys yn breifat.
- (2) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys wneud gorchymyn bod gwrandawiad neu ran o wrandawiad i’w gynnal neu i’w chynnal yn gyhoeddus os yw’r partïon yn cytuno i gael gwrandawiad cyhoeddus ac os yw’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys wedi ei fodloni—
- (a) na fyddai gwrandawiad cyhoeddus yn rhagfarnu lles neu fuddiannau’r plentyn neu’r person ifanc, a
- (b) y byddai gwrandawiad cyhoeddus yn caniatáu gwrandawiad teg o’r apêl neu’r hawliad.
- (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), mae hawlogaeth gan y personau a ganlyn i fod yn bresennol mewn gwrandawiad er ei fod yn cael ei gynnal yn breifat—
- (a) y partïon,
- (b) cynrychiolwyr y partïon,
- (c) tystion y partïon, a
- (d) unrhyw berson sydd wedi ei benodi i weithredu fel cyfaill achos yn unol â rheoliad 61.
- (4) Mae hawlogaeth gan y personau a ganlyn hefyd i fod yn bresennol mewn gwrandawiad er ei fod yn cael ei gynnal yn breifat—
- (a) y plentyn, pan na fo’r plentyn yn barti yn yr apêl neu’r hawliad;
- (b) rhiant i’r plentyn, pan na fo’r rhiant yn barti yn yr apêl neu’r hawliad;
- (c) y clerc i’r panel tribiwnlys ac Ysgrifennydd y Tribiwnlys;
- (d) y Llywydd, Cadeirydd neu aelod o’r panel lleyg (pan nad yw’n eistedd fel aelod o’r panel tribiwnlys);
- (e) person sy’n cael ei hyfforddi fel Cadeirydd, aelod o’r panel lleyg neu fel clerc i’r panel tribiwnlys;
- (f) person sy’n gweithredu ar ran y Llywydd i hyfforddi neu oruchwylio clercod i banelau tribiwnlys;
- (g) cyfieithydd ar y pryd;
- (h) unrhyw berson sy’n rhoi cymorth angenrheidiol arall i berson sy’n eistedd fel aelod o’r panel tribiwnlys neu sydd â hawlogaeth i fod yn bresennol yn y gwrandawiad o ganlyniad i’r rheoliad hwn;
- (i) unrhyw berson a enwir gan yr apelydd neu’r hawlydd wrth ymateb i’r ymholiad o dan reoliad 24(a)(vi) neu (vii) oni fydd y Llywydd neu’r panel tribiwnlys wedi penderfynu na chaiff unrhyw berson o’r fath fod yn bresennol yn y gwrandawiad ac wedi hysbysu’r apelydd neu’r hawlydd yn unol â hynny.
- (5) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys, gyda chydsyniad y partïon neu eu cynrychiolwyr sy’n bresennol mewn gwirionedd, ganiatáu i unrhyw berson arall fod yn bresennol mewn gwrandawiad a gynhelir yn breifat.
- (6) Heb ragfarnu unrhyw bwerau eraill a all fod ganddo, caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys allgáu o wrandawiad, neu o ran ohono—
- (a) person y mae ei ymddygiad, ym marn y Llywydd neu’r panel tribiwnlys, wedi amharu, neu’n debygol o amharu, ar y gwrandawiad;
- (b) person y mae ei bresenoldeb, ym marn y Llywydd neu’r panel tribiwnlys, wedi ei gwneud, neu’n debygol o’i gwneud, yn anodd i unrhyw berson roi tystiolaeth, neu gyflwyno’r sylwadau sy’n angenrheidiol ar gyfer cynnal y gwrandawiad yn briodol;
- (c) cynrychiolydd neu dyst nad oedd parti wedi ei enwi, heb esgus rhesymol, mewn ymateb i’r ymholiad gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys o dan reoliad 24.
- (7) Ac eithrio fel y’i darperir yn rheoliad 43(3) a (4), ni chaiff unrhyw un o’r personau a grybwyllir ym mharagraff (4) neu (5), ac eithrio yn achos y personau a bennir yn is-baragraffau (c), (g) ac (h) o baragraff (4) fel sy’n ofynnol gan eu priod ddyletswyddau, gymryd unrhyw ran yn y gwrandawiad nac ychwaith (pan fo ganddynt hawlogaeth neu ganiatâd i aros) yn ystyriaethau’r panel tribiwnlys.
Restricted reporting orders
41
- (1) Os yw’n ymddangos yn briodol gwneud hynny, caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys wneud gorchymyn sy’n cyfyngu ar gyhoeddi, neu’n gwahardd cyhoeddi, unrhyw fater sy’n debygol o arwain aelodau o’r cyhoedd at adnabod yr apelydd, yr hawlydd, y plentyn neu berson arall, pan ystyrir na ddylai fod modd ei adnabod.
- (2) Yn y rheoliad hwn, mae “cyhoeddi”, heb ragfarnu cyffredinolrwydd yr ymadrodd hwnnw, yn cynnwys—
- (a) cyhoeddi unrhyw fater mewn gwasanaeth rhaglenni, fel y diffinnir “programme service” gan adran 201(1) o Ddeddf Darlledu 1990[^f00011], a
- (b) peri i unrhyw fater gael ei gyhoeddi.
- (3) Caniateir gwneud gorchymyn o dan y rheoliad hwn mewn cysylltiad â chyfnod cyfyngedig, a chaiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys amrywio neu ddirymu’r gorchymyn hwnnw.
Procedure at hearing
42
- (1) Ar ddechrau’r gwrandawiad, rhaid i’r Cadeirydd esbonio’r drefn y mae’r panel tribiwnlys yn bwriadu ei mabwysiadu ar gyfer yr achos.
- (2) Rhaid i’r panel tribiwnlys gynnal y gwrandawiad mewn modd y mae’n ystyried ei fod yn briodol er mwyn egluro’r materion a thrin yr achos yn unol â’r prif amcan fel sy’n ofynnol gan reoliad 4.
- (3) Rhaid i’r panel tribiwnlys benderfynu ym mha drefn y clywir y partïon ac y penderfynir ar y materion.
- (4) Caiff y panel tribiwnlys, os yw wedi ei fodloni ei bod yn deg ac yn gyfiawn gwneud hynny, ganiatáu—
- (a) i’r apelydd neu’r hawlydd ddibynnu ar seiliau nas datganwyd yn y cais apelio neu’r cais hawlio neu’r datganiad achos, a rhoi tystiolaeth nas cyflwynwyd i’r awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol, cyn iddo wneud y penderfyniad a herir neu ar yr un pryd ag y gwnaed y penderfyniad hwnnw;
- (b) i’r awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol ddibynnu ar seiliau nas pennwyd yn ei ddatganiad achos.
- (5) Os yw aelod o’r panel tribiwnlys a chanddo dri aelod ac eithrio’r Cadeirydd yn absennol, ar ddechrau’r gwrandawiad neu ar ôl hynny—
- (a) caiff y ddau aelod arall, gyda chydsyniad y partïon, gynnal y gwrandawiad, ac os digwydd hynny mae’r panel tribiwnlys i’w ystyried fel pe bai wedi ei gyfansoddi’n briodol, a chaiff y ddau aelod hynny wneud penderfyniad y panel tribiwnlys, a
- (b) ni chaiff yr aelod sy’n absennol ailymuno â’r gwrandawiad.
Evidence at hearing
43
- (1) Yn ddarostyngedig i reoliad 40(6), mae hawlogaeth gan y partïon yn ystod y gwrandawiad i roi tystiolaeth, galw tystion, holi unrhyw dyst ac annerch y panel tribiwnlys ar y dystiolaeth, gan gynnwys y dystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd cyn y gwrandawiad, yn ogystal ag yn gyffredinol ar destun yr apêl neu’r hawliad.
- (2) Nid oes hawlogaeth gan barti i alw mwy na dau dyst i roi tystiolaeth ar lafar oni fydd y Llywydd neu’r panel tribiwnlys wedi rhoi caniatâd ar gais gan barti (yn ogystal ag unrhyw dyst y mae ei bresenoldeb yn ofynnol yn unol â pharagraff (6)).
- (3) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys ganiatáu i’r personau a ganlyn roi tystiolaeth ac annerch y panel tribiwnlys ar destun yr apêl neu’r hawliad―
- (a) y plentyn, pan na fo’r plentyn yn barti yn yr apêl neu’r hawliad;
- (b) rhiant y plentyn, pan na fo’r rhiant yn barti yn yr apêl neu’r hawliad;
- (c) person sydd wedi cyflwyno datganiad o addasrwydd i’r Tribiwnlys yn unol â rheoliad 61 er mwyn gweithredu fel cyfaill achos.
- (4) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys ganiatáu—
- (a) i’r person, os oes un, a enwir mewn ymateb i ymholiad o dan reoliad 24(a)(vii) roi tystiolaeth ac annerch y panel tribiwnlys ar safbwyntiau a dymuniadau’r plentyn neu’r person ifanc, a
- (b) i’r awdurdod lleol neu’r corff cyfrifol holi’r person a bennir yn is-baragraff (a) mewn perthynas ag unrhyw dystiolaeth neu anerchiad a wneir i’r panel tribiwnlys.
- (5) Caniateir rhoi tystiolaeth gerbron y panel tribiwnlys—
- (a) ar lafar, neu
- (b) drwy ddatganiad ysgrifenedig os cyflwynir y dystiolaeth honno gyda’r cais apelio neu’r cais hawlio neu’r datganiad achos neu yn unol â rheoliad 47.
- (6) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys, yn ystod unrhyw gam o’r apêl neu’r hawliad, wneud presenoldeb unrhyw un sy’n gwneud unrhyw ddatganiad ysgrifenedig yn ofynnol.
- (7) Caniateir i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys gael tystiolaeth o unrhyw ffaith sy’n ymddangos yn berthnasol i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys.
- (8) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol i unrhyw barti neu dyst roi tystiolaeth ar lw neu drwy gadarnhad, ac at y diben hwnnw caniateir gweinyddu llw neu gadarnhad ar y ffurf gywir, neu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dystiolaeth a roddir drwy ddatganiad ysgrifenedig gael ei rhoi drwy ddatganiad o wirionedd.
Change of witness
44
- (1) Caiff parti newid y person a enwir yn dyst gan y parti hwnnw, mewn ymateb i ymholiad a wneir o dan reoliad 24, os yw Ysgrifennydd y Tribiwnlys yn cael hysbysiad ysgrifenedig ac os cyflwynir copi o’r hysbysiad i’r parti arall heb fod yn hwyrach na 5 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad.
- (2) Rhaid i unrhyw gais i newid tyst, a wneir llai na 5 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad, gael ei benderfynu gan y Llywydd neu’r panel tribiwnlys.
Summoning a witness
45
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (5), caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys, ar gais gan barti neu ar ysgogiad y Llywydd neu’r panel tribiwnlys ei hun, ei gwneud yn ofynnol drwy wŷs i unrhyw berson—
- (a) bod yn bresennol fel tyst mewn gwrandawiad, ar yr adeg honno ac yn y lle hwnnw a bennir yn y wŷs, ac mewn unrhyw ohiriad o’r gwrandawiad hwnnw cyn ei gychwyn neu ar ôl ei gychwyn, a
- (b) yn y gwrandawiad, iddo ateb unrhyw gwestiynau neu ddangos unrhyw ddogfennau neu ddeunydd arall sydd yng ngwarchodaeth, neu sydd o dan reolaeth, y person hwnnw ac sy’n ymwneud ag unrhyw fater o dan sylw yn yr apêl neu’r hawliad.
- (2) Ni chaniateir gorfodi unrhyw berson i roi unrhyw dystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall na ellid gorfodi’r person i’w rhoi neu i’w dangos mewn treial o achos mewn llys barn.
- (3) Wrth arfer y pŵer a roddir gan y rheoliad hwn, rhaid i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys ystyried yr angen i ddiogelu unrhyw fater sy’n ymwneud ag amgylchiadau o natur bersonol agos neu amgylchiadau ariannol, neu sy’n cynnwys gwybodaeth a gyflëwyd neu a gafwyd yn gyfrinachol.
- (4) Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol drwy wŷs i berson fod yn bresennol oni roddwyd o leiaf 5 niwrnod gwaith o rybudd o’r gwrandawiad i’r person hwnnw, neu, os rhoddwyd llai na 5 niwrnod gwaith, oni fydd y person wedi rhoi gwybod i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys fod y person yn derbyn y rhybudd a roddwyd.
- (5) Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol drwy wŷs i berson fod yn bresennol a rhoi tystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfen, oni fydd swm o arian wedi ei dalu neu wedi ei gynnig, sy’n rhesymol ddigonol i dalu treuliau angenrheidiol presenoldeb y person hwnnw.
- (6) Rhaid i barti sy’n ceisio gwŷs tyst wneud cais ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, o leiaf 8 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad, neu’n ddiweddarach os yw’r person y mae’r wŷs i’w chyfeirio ato yn cydsynio’n ysgrifenedig.
- (7) Rhaid i wŷs tyst gynnwys—
- (a) mewn perthynas ag apêl, datganiad bod unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod yn bresennol i roi tystiolaeth ac, os yw’r wŷs yn gwneud hynny’n ofynnol, i ddangos dogfennau, yn agored o dan adran 79 o Ddeddf 2018, ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol,
- (b) mewn perthynas â hawliad, datganiad bod unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod yn bresennol i roi tystiolaeth ac, os yw’r wŷs yn gwneud hynny’n ofynnol, i ddangos dogfennau, yn agored o dan baragraff 6(8) o Atodlen 17 i Ddeddf 2010, ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol, ac
- (c) datganiad o effaith paragraff (8).
- (8) Caiff person y cyfeirir gwŷs tyst ato wneud cais i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys, drwy roi hysbysiad i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, i amrywio’r wŷs neu ei gosod o’r neilltu.
- (9) Ni chaiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys amrywio’r wŷs tyst na’i gosod o’r neilltu heb yn gyntaf hysbysu’r parti a wnaeth gais am ddyroddi’r wŷs tyst ac ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y parti hwnnw.
Evidence by telephone, video link or other means
46
Caiff y Llywydd, ar gais parti neu ar ysgogiad y Llywydd neu’r panel tribiwnlys ei hun, ganiatáu i barti neu i dyst roi tystiolaeth dros y ffôn, drwy gyswllt fideo neu drwy unrhyw ddull arall o gyfathrebu, os yw wedi ei fodloni na fyddai hynny’n rhagfarnu cyflawni prif amcan y Rheoliadau hyn.
Late written evidence
47
- (1) Ar ddechrau’r gwrandawiad, caiff parti gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig bellach ar gyfer ei derbyn—
- (a) os yw’r partïon yn cytuno i dderbyn y dystiolaeth bellach, neu
- (b) os yw’r dystiolaeth yn bodloni’r amodau a nodir ym mharagraff (2).
- (2) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw—
- (a) nad oedd y dystiolaeth ar gael ac nad oedd modd, yn rhesymol, iddi fod ar gael i’r parti hwnnw cyn diwedd cyfnod y datganiad achos, a
- (b) y cyflwynwyd copi o’r dystiolaeth i Ysgrifennydd y Tribiwnlys a chyflwynwyd copi o’r dystiolaeth i’r parti arall o leiaf 5 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad.
- (3) Ni chaniateir derbyn tystiolaeth ysgrifenedig bellach a gyflwynir yn unol â pharagraff (1)(b), yn ddarostyngedig i baragraff (4), ond os yw’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys o’r farn, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau gan y parti arall, nad yw graddau a ffurf y dystiolaeth honno yn debygol o rwystro cynnal y gwrandawiad yn effeithlon.
- (4) Ni chaniateir derbyn tystiolaeth ysgrifenedig bellach pe byddai ei derbyn, ym marn y Llywydd neu’r panel tribiwnlys, yn groes i fuddiannau cyfiawnder.
- (5) Os na fodlonir yr amodau ym mharagraff (2), caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys roi caniatâd i barti gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig bellach yn y gwrandawiad os yw’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys o’r farn yr achosid risg ddifrifol o ragfarn yn erbyn y parti sy’n ceisio dibynnu ar y dystiolaeth honno pe na dderbynnid hi.
Postponement of hearing
48
- (1) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys, naill ai ar ysgogiad y Llywydd neu’r panel tribiwnlys ei hun neu ar gais parti, o dan amgylchiadau eithriadol, wneud gorchymyn i ohirio gwrandawiad cyn ei gychwyn.
- (2) Rhaid i gais gan barti o dan baragraff (1)—
- (a) cael ei wneud yn ysgrifenedig, gan ddatgan y rhesymau yn llawn, a
- (b) dod i law Ysgrifennydd y Tribiwnlys, a chael ei gyflwyno gan y ceisydd i’r parti arall, o leiaf 5 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad.
- (3) Os gwneir gorchymyn o dan baragraff (1), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys roi i’r partïon rybudd nad yw’n llai na 5 niwrnod gwaith (neu unrhyw gyfnod byrrach y mae’r partïon yn cytuno arno) o ddyddiad newydd y gwrandawiad.
- (4) Nid oes dim ym mharagraff (3) sy’n gosod rhwymedigaeth ar Ysgrifennydd y Tribiwnlys i ymgynghori ag unrhyw berson nad oes hawlogaeth ganddo i gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad neu anfon hysbysiad at unrhyw berson o’r fath.
Adjournments and directions
49
- (1) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys ohirio gwrandawiad ar ôl ei gychwyn.
- (2) Pan ohirir gwrandawiad ar ôl ei gychwyn—
- (a) caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys roi cyfarwyddydau y mae rhaid cydymffurfio â hwy cyn ailgychwyn y gwrandawiad, neu yn y gwrandawiad ar ôl ailgychwyn, a
- (b) caiff y Cadeirydd gyhoeddi casgliadau dros dro a wnaed gan y panel tribiwnlys. Nid yw’r casgliadau dros dro yn benderfyniad gan y panel tribiwnlys.
- (3) Caiff cyfarwyddyd o dan baragraff (2)(a) ei gwneud yn ofynnol i barti ddarparu unrhyw fanylion, unrhyw dystiolaeth neu unrhyw ddatganiadau sy’n rhesymol ofynnol ar gyfer penderfynu’r apêl neu’r hawliad.
- (4) Os yw parti yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a wneir o dan baragraff (2)(a), caiff y panel tribiwnlys ystyried y ffaith honno wrth benderfynu’r apêl neu’r hawliad neu wrth benderfynu pa un ai i wneud gorchymyn ar gyfer costau.
- (5) Os cyhoeddir lleoliad ac amser y gwrandawiad a ohiriwyd ar ôl ei gychwyn yn y gwrandawiad cyn ei ohirio felly, ni fydd unrhyw hysbysiad pellach yn ofynnol.
Representation at hearing
50
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mewn unrhyw wrandawiad neu ran o wrandawiad—
- (a) caiff yr apelydd neu’r hawlydd gynnal yr apêl neu’r hawliad (gyda chymorth gan un person os yw’r apelydd neu’r hawlydd yn dymuno hynny), neu caniateir iddo ymddangos a chael ei gynrychioli gan un person, pa un a oes cymhwyster cyfreithiol gan y person hwnnw ai peidio;
- (b) caiff yr awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol ymddangos a chael ei gynrychioli gan un person, pa un a oes cymhwyster cyfreithiol gan y person hwnnw ai peidio.
- (2) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys roi caniatâd—
- (a) i’r apelydd neu’r hawlydd gael cymorth neu gael ei gynrychioli gan fwy nag un person;
- (b) i’r awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol gael ei gynrychioli gan fwy nag un person.
- (3) Os nad yw parti yn bwriadu bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad, caiff y parti hwnnw, heb fod yn hwyrach na 5 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad, anfon at Ysgrifennydd y Tribiwnlys sylwadau ysgrifenedig ychwanegol i gefnogi achos y parti hwnnw.
Failure to attend hearing
51
- (1) Os yw parti yn methu â bod yn bresennol neu’n methu â chael ei gynrychioli mewn gwrandawiad yr hysbyswyd y parti hwnnw amdano, caiff y panel tribiwnlys—
- (a) oni bai ei fod wedi ei fodloni bod rheswm digonol dros absenoldeb o’r fath, wrando a phenderfynu’r apêl neu’r hawliad yn absenoldeb y parti, neu
- (b) gohirio’r gwrandawiad cyn ei gychwyn neu ar ôl ei gychwyn, fel y bo’n briodol.
- (2) Cyn penderfynu apêl neu hawliad yn absenoldeb parti, rhaid i’r panel tribiwnlys ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y parti hwnnw mewn ymateb i’r hysbysiad o wrandawiad ac, at ddiben y rheoliad hwn, trinnir y cais apelio neu’r cais hawlio a datganiadau achos y partïon fel pe baent yn sylwadau ysgrifenedig.
Tribunal panel’s decision
52
- (1) At ddibenion gwneud ei benderfyniad rhaid i’r panel tribiwnlys, ac at ddibenion trafod mater gweithdrefnol, caiff y panel tribiwnlys, er gwaethaf unrhyw beth a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn, orchymyn i bob person adael eisteddiad y panel tribiwnlys ac eithrio aelodau’r panel tribiwnlys ac unrhyw un neu ragor o’r personau a grybwyllir yn rheoliad 40(4)(c) i (f), neu, fel sy’n ofynnol gan eu priod ddyletswyddau, reoliad 40(4)(g) ac (h).
- (2) Caiff panel tribiwnlys a chanddo dri aelod wneud penderfyniad drwy fwyafrif, a phan fo gan y panel tribiwnlys ddau aelod, bydd gan y Cadeirydd ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
- (3) Caniateir rhoi penderfyniad y panel tribiwnlys ar lafar ar ddiwedd y gwrandawiad neu ohirio’r penderfyniad ac, ym mhob achos, pa un a gynhaliwyd gwrandawiad ai peidio, rhaid cofnodi’r penderfyniad ar unwaith mewn dogfen y mae rhaid cynnwys ynddi hefyd, neu fel atodiad iddi, ac eithrio mewn achos a benderfynir drwy gydsyniad, ddatganiad o’r rhesymau (ar ffurf gryno) dros benderfyniad y panel tribiwnlys, a rhaid i’r ddogfen honno gael ei llofnodi a’i dyddio gan y Cadeirydd.
- (4) Ni chaiff penderfyniad a roddir ar lafar na’r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (3) gynnwys unrhyw gyfeiriad at wneud y penderfyniad drwy fwyafrif (os dyna a ddigwyddodd) nac at unrhyw farn lleiafrif.
- (5) Rhaid cofnodi pob penderfyniad y panel tribiwnlys yn y Gofrestr.
- (6) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o’r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (3), cyn gynted ag y bo’n ymarferol, at bob parti ynghyd â chanllawiau, ar ffurf a gymeradwyir gan y Llywydd, ar yr amgylchiadau pan fo hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y panel tribiwnlys ac ar y weithdrefn i’w dilyn.
- (7) Pan fo rheoliad 13(11)(a) neu 62(2) yn gymwys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) at yr apelydd neu’r hawlydd yn ogystal ag at y cynrychiolydd neu’r cyfaill achos.
- (8) Mae pob penderfyniad i’w drin fel pe bai wedi ei wneud ar y dyddiad yr anfonir copi o’r ddogfen sy’n ei gofnodi at yr apelydd neu’r hawlydd (pa un a gyhoeddwyd y penderfyniad yn flaenorol ar ddiwedd y gwrandawiad ai peidio).
Ar ôl y gwrandawiad
Application or proposal for review of the Tribunal’s decision
53
- (1) Caiff parti wneud cais i Ysgrifennydd y Tribiwnlys i benderfyniad y Llywydd neu’r panel tribiwnlys gael ei adolygu ar y seiliau—
- (a) bod y penderfyniad wedi ei wneud yn anghywir o ganlyniad i wall perthnasol ar ran gweinyddiaeth y Tribiwnlys,
- (b) bod gan barti a oedd â hawlogaeth i gael ei glywed yn y gwrandawiad, ond a fethodd ag ymddangos neu gael ei gynrychioli, reswm da a digonol dros beidio ag ymddangos,
- (c) bod gwall amlwg a pherthnasol yn y penderfyniad, neu
- (d) bod buddiannau cyfiawnder yn gwneud hynny’n ofynnol.
- (2) Rhaid i gais am adolygu penderfyniad y Llywydd neu’r panel tribiwnlys gael ei wneud—
- (a) yn ysgrifenedig, gan ddatgan y seiliau, a
- (b) heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad at y partïon.
- (3) Caiff y Llywydd—
- (a) ar gais parti neu ar ysgogiad y Llywydd ei hun, adolygu a gosod o’r neilltu neu amrywio unrhyw benderfyniad a wneir gan y Llywydd, ar un o’r seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), neu
- (b) gwrthod cais am adolygiad o benderfyniad y Llywydd yn unol â pharagraff (6).
- (4) Caiff y Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos—
- (a) ar gais parti, neu ar ysgogiad y Llywydd neu’r Cadeirydd ei hun, adolygu a gosod o’r neilltu neu amrywio unrhyw benderfyniad a wneir gan y panel tribiwnlys ar un o’r seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), neu
- (b) gwrthod cais am adolygiad o benderfyniad y panel tribiwnlys yn unol â pharagraff (6).
- (5) Caiff Cadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos orchymyn cynnal ail wrandawiad, gerbron yr un panel tribiwnlys neu gerbron panel tribiwnlys sydd wedi ei gyfansoddi’n wahanol.
- (6) Caiff Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos wrthod y cais am adolygiad yn gyfan gwbl neu’n rhannol os, ym marn y Llywydd neu’r Cadeirydd, nad oes siawns resymol i’r cais cyfan hwnnw neu’r rhan honno lwyddo.
- (7) Oni wrthodir cais am adolygiad yn unol â pharagraff (6), rhaid i’r adolygiad gael ei benderfynu ar ôl rhoi cyfle i’r partïon i gael eu clywed—
- (a) gan y Llywydd, pan wnaed y penderfyniad gan y Llywydd, neu
- (b) pan wnaed y penderfyniad gan banel tribiwnlys, gan y Llywydd neu’r panel tribiwnlys a wnaeth y penderfyniad neu gan banel tribiwnlys arall a benodir gan y Llywydd.
- (8) Os yw Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos, ar ysgogiad y Llywydd neu’r Cadeirydd ei hun, yn cynnig y dylid adolygu penderfyniad—
- (a) rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gyflwyno hysbysiad i’r partïon heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad at y partïon, a
- (b) rhaid rhoi cyfle i’r partïon i gael eu clywed.
- (9) Wrth benderfynu cais neu gynnig ar gyfer adolygiad o dan baragraff (3), (4) neu (7), caiff y Llywydd neu’r Cadeirydd roi cyfarwyddydau y mae rhaid cydymffurfio â hwy cyn neu yn ystod y gwrandawiad o’r adolygiad.
- (10) Os yw parti yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a wneir o dan baragraff (9), caiff y panel tribiwnlys ystyried y ffaith honno wrth benderfynu’r adolygiad neu wrth benderfynu pa un ai i wneud gorchymyn ar gyfer costau.
- (11) Caiff y Llywydd neu’r Cadeirydd, ar gais parti, roi caniatâd i’r parti hwnnw newid tyst at ddiben y gwrandawiad adolygu.
- (12) Rhaid i gais a wneir o dan baragraff (11) ddod i law Ysgrifennydd y Tribiwnlys, a rhaid i’r ceisydd gyflwyno’r cais i’r parti arall, heb fod yn hwyrach na 14 o ddiwrnodau cyn y gwrandawiad adolygu.
- (13) Rhaid i’r Llywydd neu’r Cadeirydd roi cyfle i’r partïon i gael eu clywed ynghylch unrhyw gais a wneir o dan baragraff (11).
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.