The Education Tribunal for Wales Regulations 2021
- (a) i’r person, os oes un, a enwir mewn ymateb i ymholiad o dan reoliad 24(a)(vii) roi tystiolaeth ac annerch y panel tribiwnlys ar safbwyntiau a dymuniadau’r plentyn neu’r person ifanc, a
- (b) i’r awdurdod lleol neu’r corff cyfrifol holi’r person a bennir yn is-baragraff (a) mewn perthynas ag unrhyw dystiolaeth neu anerchiad a wneir i’r panel tribiwnlys.
- (5) Caniateir rhoi tystiolaeth gerbron y panel tribiwnlys—
- (a) ar lafar, neu
- (b) drwy ddatganiad ysgrifenedig os cyflwynir y dystiolaeth honno gyda’r cais apelio neu’r cais hawlio neu’r datganiad achos neu yn unol â rheoliad 47.
- (6) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys, yn ystod unrhyw gam o’r apêl neu’r hawliad, wneud presenoldeb unrhyw un sy’n gwneud unrhyw ddatganiad ysgrifenedig yn ofynnol.
- (7) Caniateir i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys gael tystiolaeth o unrhyw ffaith sy’n ymddangos yn berthnasol i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys.
- (8) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol i unrhyw barti neu dyst roi tystiolaeth ar lw neu drwy gadarnhad, ac at y diben hwnnw caniateir gweinyddu llw neu gadarnhad ar y ffurf gywir, neu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dystiolaeth a roddir drwy ddatganiad ysgrifenedig gael ei rhoi drwy ddatganiad o wirionedd.
Change of witness
44
- (1) Caiff parti newid y person a enwir yn dyst gan y parti hwnnw, mewn ymateb i ymholiad a wneir o dan reoliad 24, os yw Ysgrifennydd y Tribiwnlys yn cael hysbysiad ysgrifenedig ac os cyflwynir copi o’r hysbysiad i’r parti arall heb fod yn hwyrach na 5 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad.
- (2) Rhaid i unrhyw gais i newid tyst, a wneir llai na 5 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad, gael ei benderfynu gan y Llywydd neu’r panel tribiwnlys.
Summoning a witness
45
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (5), caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys, ar gais gan barti neu ar ysgogiad y Llywydd neu’r panel tribiwnlys ei hun, ei gwneud yn ofynnol drwy wŷs i unrhyw berson—
- (a) bod yn bresennol fel tyst mewn gwrandawiad, ar yr adeg honno ac yn y lle hwnnw a bennir yn y wŷs, ac mewn unrhyw ohiriad o’r gwrandawiad hwnnw cyn ei gychwyn neu ar ôl ei gychwyn, a
- (b) yn y gwrandawiad, iddo ateb unrhyw gwestiynau neu ddangos unrhyw ddogfennau neu ddeunydd arall sydd yng ngwarchodaeth, neu sydd o dan reolaeth, y person hwnnw ac sy’n ymwneud ag unrhyw fater o dan sylw yn yr apêl neu’r hawliad.
- (2) Ni chaniateir gorfodi unrhyw berson i roi unrhyw dystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfen neu ddeunydd arall na ellid gorfodi’r person i’w rhoi neu i’w dangos mewn treial o achos mewn llys barn.
- (3) Wrth arfer y pŵer a roddir gan y rheoliad hwn, rhaid i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys ystyried yr angen i ddiogelu unrhyw fater sy’n ymwneud ag amgylchiadau o natur bersonol agos neu amgylchiadau ariannol, neu sy’n cynnwys gwybodaeth a gyflëwyd neu a gafwyd yn gyfrinachol.
- (4) Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol drwy wŷs i berson fod yn bresennol oni roddwyd o leiaf 5 niwrnod gwaith o rybudd o’r gwrandawiad i’r person hwnnw, neu, os rhoddwyd llai na 5 niwrnod gwaith, oni fydd y person wedi rhoi gwybod i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys fod y person yn derbyn y rhybudd a roddwyd.
- (5) Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol drwy wŷs i berson fod yn bresennol a rhoi tystiolaeth neu ddangos unrhyw ddogfen, oni fydd swm o arian wedi ei dalu neu wedi ei gynnig, sy’n rhesymol ddigonol i dalu treuliau angenrheidiol presenoldeb y person hwnnw.
- (6) Rhaid i barti sy’n ceisio gwŷs tyst wneud cais ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, o leiaf 8 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad, neu’n ddiweddarach os yw’r person y mae’r wŷs i’w chyfeirio ato yn cydsynio’n ysgrifenedig.
- (7) Rhaid i wŷs tyst gynnwys—
- (a) mewn perthynas ag apêl, datganiad bod unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod yn bresennol i roi tystiolaeth ac, os yw’r wŷs yn gwneud hynny’n ofynnol, i ddangos dogfennau, yn agored o dan adran 79 o Ddeddf 2018, ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol,
- (b) mewn perthynas â hawliad, datganiad bod unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad i fod yn bresennol i roi tystiolaeth ac, os yw’r wŷs yn gwneud hynny’n ofynnol, i ddangos dogfennau, yn agored o dan baragraff 6(8) o Atodlen 17 i Ddeddf 2010, ar euogfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol, ac
- (c) datganiad o effaith paragraff (8).
- (8) Caiff person y cyfeirir gwŷs tyst ato wneud cais i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys, drwy roi hysbysiad i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, i amrywio’r wŷs neu ei gosod o’r neilltu.
- (9) Ni chaiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys amrywio’r wŷs tyst na’i gosod o’r neilltu heb yn gyntaf hysbysu’r parti a wnaeth gais am ddyroddi’r wŷs tyst ac ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y parti hwnnw.
Evidence by telephone, video link or other means
46
Caiff y Llywydd, ar gais parti neu ar ysgogiad y Llywydd neu’r panel tribiwnlys ei hun, ganiatáu i barti neu i dyst roi tystiolaeth dros y ffôn, drwy gyswllt fideo neu drwy unrhyw ddull arall o gyfathrebu, os yw wedi ei fodloni na fyddai hynny’n rhagfarnu cyflawni prif amcan y Rheoliadau hyn.
Late written evidence
47
- (1) Ar ddechrau’r gwrandawiad, caiff parti gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig bellach ar gyfer ei derbyn—
- (a) os yw’r partïon yn cytuno i dderbyn y dystiolaeth bellach, neu
- (b) os yw’r dystiolaeth yn bodloni’r amodau a nodir ym mharagraff (2).
- (2) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) yw—
- (a) nad oedd y dystiolaeth ar gael ac nad oedd modd, yn rhesymol, iddi fod ar gael i’r parti hwnnw cyn diwedd cyfnod y datganiad achos, a
- (b) y cyflwynwyd copi o’r dystiolaeth i Ysgrifennydd y Tribiwnlys a chyflwynwyd copi o’r dystiolaeth i’r parti arall o leiaf 5 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad.
- (3) Ni chaniateir derbyn tystiolaeth ysgrifenedig bellach a gyflwynir yn unol â pharagraff (1)(b), yn ddarostyngedig i baragraff (4), ond os yw’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys o’r farn, ar ôl ystyried unrhyw sylwadau gan y parti arall, nad yw graddau a ffurf y dystiolaeth honno yn debygol o rwystro cynnal y gwrandawiad yn effeithlon.
- (4) Ni chaniateir derbyn tystiolaeth ysgrifenedig bellach pe byddai ei derbyn, ym marn y Llywydd neu’r panel tribiwnlys, yn groes i fuddiannau cyfiawnder.
- (5) Os na fodlonir yr amodau ym mharagraff (2), caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys roi caniatâd i barti gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig bellach yn y gwrandawiad os yw’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys o’r farn yr achosid risg ddifrifol o ragfarn yn erbyn y parti sy’n ceisio dibynnu ar y dystiolaeth honno pe na dderbynnid hi.
Postponement of hearing
48
- (1) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys, naill ai ar ysgogiad y Llywydd neu’r panel tribiwnlys ei hun neu ar gais parti, o dan amgylchiadau eithriadol, wneud gorchymyn i ohirio gwrandawiad cyn ei gychwyn.
- (2) Rhaid i gais gan barti o dan baragraff (1)—
- (a) cael ei wneud yn ysgrifenedig, gan ddatgan y rhesymau yn llawn, a
- (b) dod i law Ysgrifennydd y Tribiwnlys, a chael ei gyflwyno gan y ceisydd i’r parti arall, o leiaf 5 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad.
- (3) Os gwneir gorchymyn o dan baragraff (1), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys roi i’r partïon rybudd nad yw’n llai na 5 niwrnod gwaith (neu unrhyw gyfnod byrrach y mae’r partïon yn cytuno arno) o ddyddiad newydd y gwrandawiad.
- (4) Nid oes dim ym mharagraff (3) sy’n gosod rhwymedigaeth ar Ysgrifennydd y Tribiwnlys i ymgynghori ag unrhyw berson nad oes hawlogaeth ganddo i gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad neu anfon hysbysiad at unrhyw berson o’r fath.
Adjournments and directions
49
- (1) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys ohirio gwrandawiad ar ôl ei gychwyn.
- (2) Pan ohirir gwrandawiad ar ôl ei gychwyn—
- (a) caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys roi cyfarwyddydau y mae rhaid cydymffurfio â hwy cyn ailgychwyn y gwrandawiad, neu yn y gwrandawiad ar ôl ailgychwyn, a
- (b) caiff y Cadeirydd gyhoeddi casgliadau dros dro a wnaed gan y panel tribiwnlys. Nid yw’r casgliadau dros dro yn benderfyniad gan y panel tribiwnlys.
- (3) Caiff cyfarwyddyd o dan baragraff (2)(a) ei gwneud yn ofynnol i barti ddarparu unrhyw fanylion, unrhyw dystiolaeth neu unrhyw ddatganiadau sy’n rhesymol ofynnol ar gyfer penderfynu’r apêl neu’r hawliad.
- (4) Os yw parti yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a wneir o dan baragraff (2)(a), caiff y panel tribiwnlys ystyried y ffaith honno wrth benderfynu’r apêl neu’r hawliad neu wrth benderfynu pa un ai i wneud gorchymyn ar gyfer costau.
- (5) Os cyhoeddir lleoliad ac amser y gwrandawiad a ohiriwyd ar ôl ei gychwyn yn y gwrandawiad cyn ei ohirio felly, ni fydd unrhyw hysbysiad pellach yn ofynnol.
Representation at hearing
50
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mewn unrhyw wrandawiad neu ran o wrandawiad—
- (a) caiff yr apelydd neu’r hawlydd gynnal yr apêl neu’r hawliad (gyda chymorth gan un person os yw’r apelydd neu’r hawlydd yn dymuno hynny), neu caniateir iddo ymddangos a chael ei gynrychioli gan un person, pa un a oes cymhwyster cyfreithiol gan y person hwnnw ai peidio;
- (b) caiff yr awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol ymddangos a chael ei gynrychioli gan un person, pa un a oes cymhwyster cyfreithiol gan y person hwnnw ai peidio.
- (2) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys roi caniatâd—
- (a) i’r apelydd neu’r hawlydd gael cymorth neu gael ei gynrychioli gan fwy nag un person;
- (b) i’r awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol gael ei gynrychioli gan fwy nag un person.
- (3) Os nad yw parti yn bwriadu bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad, caiff y parti hwnnw, heb fod yn hwyrach na 5 niwrnod gwaith cyn y gwrandawiad, anfon at Ysgrifennydd y Tribiwnlys sylwadau ysgrifenedig ychwanegol i gefnogi achos y parti hwnnw.
Failure to attend hearing
51
- (1) Os yw parti yn methu â bod yn bresennol neu’n methu â chael ei gynrychioli mewn gwrandawiad yr hysbyswyd y parti hwnnw amdano, caiff y panel tribiwnlys—
- (a) oni bai ei fod wedi ei fodloni bod rheswm digonol dros absenoldeb o’r fath, wrando a phenderfynu’r apêl neu’r hawliad yn absenoldeb y parti, neu
- (b) gohirio’r gwrandawiad cyn ei gychwyn neu ar ôl ei gychwyn, fel y bo’n briodol.
- (2) Cyn penderfynu apêl neu hawliad yn absenoldeb parti, rhaid i’r panel tribiwnlys ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y parti hwnnw mewn ymateb i’r hysbysiad o wrandawiad ac, at ddiben y rheoliad hwn, trinnir y cais apelio neu’r cais hawlio a datganiadau achos y partïon fel pe baent yn sylwadau ysgrifenedig.
Tribunal panel’s decision
52
- (1) At ddibenion gwneud ei benderfyniad rhaid i’r panel tribiwnlys, ac at ddibenion trafod mater gweithdrefnol, caiff y panel tribiwnlys, er gwaethaf unrhyw beth a gynhwysir yn y Rheoliadau hyn, orchymyn i bob person adael eisteddiad y panel tribiwnlys ac eithrio aelodau’r panel tribiwnlys ac unrhyw un neu ragor o’r personau a grybwyllir yn rheoliad 40(4)(c) i (f), neu, fel sy’n ofynnol gan eu priod ddyletswyddau, reoliad 40(4)(g) ac (h).
- (2) Caiff panel tribiwnlys a chanddo dri aelod wneud penderfyniad drwy fwyafrif, a phan fo gan y panel tribiwnlys ddau aelod, bydd gan y Cadeirydd ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
- (3) Caniateir rhoi penderfyniad y panel tribiwnlys ar lafar ar ddiwedd y gwrandawiad neu ohirio’r penderfyniad ac, ym mhob achos, pa un a gynhaliwyd gwrandawiad ai peidio, rhaid cofnodi’r penderfyniad ar unwaith mewn dogfen y mae rhaid cynnwys ynddi hefyd, neu fel atodiad iddi, ac eithrio mewn achos a benderfynir drwy gydsyniad, ddatganiad o’r rhesymau (ar ffurf gryno) dros benderfyniad y panel tribiwnlys, a rhaid i’r ddogfen honno gael ei llofnodi a’i dyddio gan y Cadeirydd.
- (4) Ni chaiff penderfyniad a roddir ar lafar na’r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (3) gynnwys unrhyw gyfeiriad at wneud y penderfyniad drwy fwyafrif (os dyna a ddigwyddodd) nac at unrhyw farn lleiafrif.
- (5) Rhaid cofnodi pob penderfyniad y panel tribiwnlys yn y Gofrestr.
- (6) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o’r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (3), cyn gynted ag y bo’n ymarferol, at bob parti ynghyd â chanllawiau, ar ffurf a gymeradwyir gan y Llywydd, ar yr amgylchiadau pan fo hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y panel tribiwnlys ac ar y weithdrefn i’w dilyn.
- (7) Pan fo rheoliad 13(11)(a) neu 62(2) yn gymwys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6) at yr apelydd neu’r hawlydd yn ogystal ag at y cynrychiolydd neu’r cyfaill achos.
- (8) Mae pob penderfyniad i’w drin fel pe bai wedi ei wneud ar y dyddiad yr anfonir copi o’r ddogfen sy’n ei gofnodi at yr apelydd neu’r hawlydd (pa un a gyhoeddwyd y penderfyniad yn flaenorol ar ddiwedd y gwrandawiad ai peidio).
Ar ôl y gwrandawiad
Application or proposal for review of the Tribunal’s decision
53
- (1) Caiff parti wneud cais i Ysgrifennydd y Tribiwnlys i benderfyniad y Llywydd neu’r panel tribiwnlys gael ei adolygu ar y seiliau—
- (a) bod y penderfyniad wedi ei wneud yn anghywir o ganlyniad i wall perthnasol ar ran gweinyddiaeth y Tribiwnlys,
- (b) bod gan barti a oedd â hawlogaeth i gael ei glywed yn y gwrandawiad, ond a fethodd ag ymddangos neu gael ei gynrychioli, reswm da a digonol dros beidio ag ymddangos,
- (c) bod gwall amlwg a pherthnasol yn y penderfyniad, neu
- (d) bod buddiannau cyfiawnder yn gwneud hynny’n ofynnol.
- (2) Rhaid i gais am adolygu penderfyniad y Llywydd neu’r panel tribiwnlys gael ei wneud—
- (a) yn ysgrifenedig, gan ddatgan y seiliau, a
- (b) heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad at y partïon.
- (3) Caiff y Llywydd—
- (a) ar gais parti neu ar ysgogiad y Llywydd ei hun, adolygu a gosod o’r neilltu neu amrywio unrhyw benderfyniad a wneir gan y Llywydd, ar un o’r seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), neu
- (b) gwrthod cais am adolygiad o benderfyniad y Llywydd yn unol â pharagraff (6).
- (4) Caiff y Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos—
- (a) ar gais parti, neu ar ysgogiad y Llywydd neu’r Cadeirydd ei hun, adolygu a gosod o’r neilltu neu amrywio unrhyw benderfyniad a wneir gan y panel tribiwnlys ar un o’r seiliau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), neu
- (b) gwrthod cais am adolygiad o benderfyniad y panel tribiwnlys yn unol â pharagraff (6).
- (5) Caiff Cadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos orchymyn cynnal ail wrandawiad, gerbron yr un panel tribiwnlys neu gerbron panel tribiwnlys sydd wedi ei gyfansoddi’n wahanol.
- (6) Caiff Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos wrthod y cais am adolygiad yn gyfan gwbl neu’n rhannol os, ym marn y Llywydd neu’r Cadeirydd, nad oes siawns resymol i’r cais cyfan hwnnw neu’r rhan honno lwyddo.
- (7) Oni wrthodir cais am adolygiad yn unol â pharagraff (6), rhaid i’r adolygiad gael ei benderfynu ar ôl rhoi cyfle i’r partïon i gael eu clywed—
- (a) gan y Llywydd, pan wnaed y penderfyniad gan y Llywydd, neu
- (b) pan wnaed y penderfyniad gan banel tribiwnlys, gan y Llywydd neu’r panel tribiwnlys a wnaeth y penderfyniad neu gan banel tribiwnlys arall a benodir gan y Llywydd.
- (8) Os yw Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos, ar ysgogiad y Llywydd neu’r Cadeirydd ei hun, yn cynnig y dylid adolygu penderfyniad—
- (a) rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gyflwyno hysbysiad i’r partïon heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad at y partïon, a
- (b) rhaid rhoi cyfle i’r partïon i gael eu clywed.
- (9) Wrth benderfynu cais neu gynnig ar gyfer adolygiad o dan baragraff (3), (4) neu (7), caiff y Llywydd neu’r Cadeirydd roi cyfarwyddydau y mae rhaid cydymffurfio â hwy cyn neu yn ystod y gwrandawiad o’r adolygiad.
- (10) Os yw parti yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a wneir o dan baragraff (9), caiff y panel tribiwnlys ystyried y ffaith honno wrth benderfynu’r adolygiad neu wrth benderfynu pa un ai i wneud gorchymyn ar gyfer costau.
- (11) Caiff y Llywydd neu’r Cadeirydd, ar gais parti, roi caniatâd i’r parti hwnnw newid tyst at ddiben y gwrandawiad adolygu.
- (12) Rhaid i gais a wneir o dan baragraff (11) ddod i law Ysgrifennydd y Tribiwnlys, a rhaid i’r ceisydd gyflwyno’r cais i’r parti arall, heb fod yn hwyrach na 14 o ddiwrnodau cyn y gwrandawiad adolygu.
- (13) Rhaid i’r Llywydd neu’r Cadeirydd roi cyfle i’r partïon i gael eu clywed ynghylch unrhyw gais a wneir o dan baragraff (11).
- (14) Os gosodir penderfyniad o’r neilltu neu os amrywir penderfyniad yn dilyn adolygiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys newid y cofnod yn y Gofrestr a rhaid iddo hysbysu’r partïon yn unol â hynny.
Review of Tribunal’s decision not to extend the period in which proceedings must be commenced
54
- (1) Caniateir i benderfyniad gan y Llywydd i beidio ag estyn yr amser a ganiateir o dan reoliad 14 ar gyfer cyflwyno cais apelio gael ei adolygu o dan reoliad 53 ar gais person fel pe bai’r person hwnnw yn barti yn yr apêl.
- (2) Pan fo’r Llywydd yn penderfynu peidio ag ystyried hawliad sydd y tu allan i’r amser, o dan baragraff 4(3) o Atodlen 17 i Ddeddf 2010, caniateir adolygu’r penderfyniad hwnnw o dan reoliad 53 ar gais person fel pe bai’r person hwnnw yn barti yn yr hawliad.
- (3) Os gwneir cais am adolygiad o dan baragraff (1) neu (2), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gyflwyno copi o’r cais i’r awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol ynghyd â hysbysiad sy’n gwahodd sylwadau ysgrifenedig o fewn cyfnod penodedig.
Application for permission to appeal to the Upper Tribunal
55
- (1) Rhaid i barti sy’n ceisio caniatâd i apelio ar bwynt cyfreithiol o dan adran 81 o Ddeddf 2018 neu baragraff 6AA o Atodlen 17 i Ddeddf 2010 (apelau o Dribiwnlys Addysg Cymru i’r Uwch Dribiwnlys) wneud cais ysgrifenedig i’r Tribiwnlys Addysg am ganiatâd i apelio.
- (2) Rhaid i gais o dan baragraff (1) gael ei anfon at Ysgrifennydd y Tribiwnlys heb fod yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau ar ôl y diweddaraf o’r dyddiadau yr anfonodd Ysgrifennydd y Tribiwnlys at y parti sy’n gwneud y cais—
- (a) hysbysiad o’r penderfyniad,
- (b) hysbysiad bod cais i’r penderfyniad gael ei adolygu wedi bod yn aflwyddiannus, neu
- (c) hysbysiad bod y penderfyniad wedi ei amrywio yn dilyn adolygiad.
- (3) Rhaid i gais o dan baragraff (1)—
- (a) nodi’r penderfyniad y mae’n ymwneud ag ef,
- (b) nodi’r gwall cyfreithiol honedig neu’r gwallau cyfreithiol honedig yn y penderfyniad, ac
- (c) datgan y canlyniad a geisir gan y parti sy’n gwneud y cais.
- (4) Caiff y Llywydd neu’r Cadeirydd roi cyfarwyddydau mewn perthynas â phenderfynu’r cais, a chaiff wneud ei benderfyniad ar y cais gyda gwrandawiad neu hebddo.
- (5) Wrth gael cais am ganiatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys rhaid i Lywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos ystyried yn gyntaf, gan gymryd i ystyriaeth y prif amcan yn rheoliad 4, pa un ai i adolygu penderfyniad y Tribiwnlys yn unol â rheoliad 53, oni fydd y Llywydd neu’r Cadeirydd eisoes wedi adolygu’r penderfyniad, neu wedi penderfynu peidio ag adolygu’r penderfyniad.
- (6) Os yw’r Llywydd neu’r Cadeirydd yn penderfynu peidio ag adolygu’r penderfyniad, neu’n adolygu’r penderfyniad ac yn penderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau gweithredu mewn perthynas â’r penderfyniad, neu ran ohono, rhaid i’r Llywydd neu’r Cadeirydd ystyried wedyn pa un ai i roi caniatâd i apelio mewn perthynas â’r penderfyniad, neu’r rhan honno o’r penderfyniad.
- (7) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad y Llywydd neu’r Cadeirydd ar y cais at y partïon cyn gynted ag y bo’n ymarferol gan gynnwys manylion unrhyw benderfyniad i roi caniatâd i apelio a wneir o dan baragraff (6).
- (8) Os yw’r Llywydd neu’r Cadeirydd wedi gwrthod y cais rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (7) hefyd gynnwys—
- (a) y rhesymau dros wrthodiad o’r fath, a
- (b) hysbysiad o’r hawl i wneud cais i’r Uwch Dribiwnlys am ganiatâd i apelio ac o fewn pa gyfnod o amser, a thrwy ba ddull, y mae rhaid gwneud cais o’r fath.
- (9) Caiff y Llywydd neu’r Cadeirydd roi caniatâd i apelio ar seiliau cyfyngedig, ond rhaid iddo gydymffurfio â pharagraff (8) mewn perthynas ag unrhyw seiliau y mae wedi gwrthod caniatâd arnynt.
Power to suspend Tribunal’s decision
56
Caiff Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos, ar gais, neu ar ysgogiad y Llywydd neu’r Cadeirydd ei hun, wneud gorchymyn i atal dros dro effaith penderfyniad y panel tribiwnlys hyd nes y ceir penderfyniad gan y Llywydd neu’r Cadeirydd neu’r Uwch Dribiwnlys ar gais am ganiatâd i apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw ac unrhyw apêl neu adolygiad ohono.
Orders of the Upper Tribunal or the Court
57
- (1) Os caiff unrhyw benderfyniad gan y Tribiwnlys ei osod o’r neilltu, ei amrywio neu ei newid mewn unrhyw ffordd drwy orchymyn gan yr Uwch Dribiwnlys neu’r Llys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys newid y cofnod yn y Gofrestr i gyfateb i’r gorchymyn hwnnw, a rhaid iddo hysbysu’r partïon yn unol â hynny.
- (2) Os ailgyflwynir yr apêl neu’r hawliad i’r Tribiwnlys, drwy orchymyn gan yr Uwch Dribiwnlys neu’r Llys, i’w hailglywed neu i’w ailglywed, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu’r partïon y caiff pob parti, yn ystod cyfnod o 15 niwrnod gwaith (neu gyfnod byrrach y mae’r partïon yn cytuno arno), gyflwyno datganiad achos atodol a thystiolaeth ysgrifenedig bellach.
- (3) Os caiff gorchymyn i ddileu’r cais apelio neu’r cais hawlio ei ddiddymu neu ei osod o’r neilltu gan yr Uwch Dribiwnlys neu’r Llys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu’r partïon—
- (a) mewn achos pan nad oedd cyfnod y datganiad achos wedi dod i ben cyn i’r gorchymyn i ddileu gael effaith—
- (i) bod cyfnod datganiad achos newydd i ddechrau, a
- (ii) y caiff y partïon, o fewn cyfnod y datganiad achos newydd, gyflwyno’r ddogfennaeth y cyfeirir ati yn is-baragraff (b) mewn cysylltiad â datganiad achos neu dystiolaeth a gyflwynwyd cyn i’r dileu gymryd effaith, neu
- (b) pan na fo is-baragraff (a) yn gymwys, fod gan bob parti 15 niwrnod gwaith (neu gyfnod byrrach y mae’r partïon yn cytuno arno) i gyflwyno datganiad achos atodol a thystiolaeth ysgrifenedig bellach.
- (4) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o’r holl ddatganiadau achos a thystiolaeth ysgrifenedig a geir gan barti yn ystod y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) a (3)(b) at y parti arall.
Compliance with tribunal panel orders - appeals
58
- (1) Os yw’r panel tribiwnlys, yn dilyn ei benderfyniad mewn perthynas ag apêl, yn gwneud gorchymyn o dan adran 71 o Ddeddf 2018 sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu SAB gyflawni’r camau gweithredu y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), rhaid i’r awdurdod lleol neu gorff llywodraethu’r SAB gyflawni’r camau gweithredu o fewn y cyfnod o amser a bennir ym mharagraff (2).
- (2) Yn achos gorchymyn—
- (a) yn erbyn awdurdod lleol i lunio cynllun datblygu unigol, rhaid iddo lunio’r cynllun datblygu unigol a rhoi copi ohono i’r plentyn, i riant y plentyn neu i’r person ifanc o fewn 7 wythnos;
- (b) yn erbyn corff llywodraethu SAB i lunio cynllun datblygu unigol, rhaid iddo lunio’r cynllun datblygu unigol a rhoi copi ohono i’r person ifanc o fewn 35 o ddiwrnodau amser tymor;
- (c) yn erbyn awdurdod lleol i ddiwygio cynllun datblygu unigol, rhaid iddo ddiwygio’r cynllun datblygu unigol a rhoi copi ohono i’r plentyn, i riant y plentyn neu i’r person ifanc o fewn 7 wythnos;
- (d) yn erbyn corff llywodraethu SAB i ddiwygio cynllun datblygu unigol, rhaid iddo ddiwygio’r cynllun datblygu unigol a rhoi copi ohono i’r person ifanc o fewn 35 o ddiwrnodau amser tymor;
- (e) i barhau i gynnal cynllun datblygu unigol (gyda diwygiadau neu hebddynt), gydag effaith ar unwaith;
- (f) yn erbyn awdurdod lleol i gymryd drosodd y cyfrifoldeb am gynnal cynllun datblygu unigol, gan ddechrau â’r dyddiad a bennir gan y tribiwnlys;
- (g) yn erbyn awdurdod lleol i adolygu cynllun datblygu unigol, rhaid iddo gynnal yr adolygiad a hysbysu’r plentyn, rhiant y plentyn, neu’r person ifanc am ganlyniad yr adolygiad, yn ysgrifenedig, o fewn 7 wythnos;
- (h) yn erbyn corff llywodraethu SAB i adolygu cynllun datblygu unigol, rhaid iddo gynnal yr adolygiad a hysbysu’r person ifanc am ganlyniad yr adolygiad, yn ysgrifenedig, o fewn 35 o ddiwrnodau amser tymor;
- (i) i anfon yr achos yn ôl i’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y mater er mwyn iddo ailystyried, ar ôl rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir gan y tribiwnlys, a oes angen gwneud penderfyniad gwahanol neu gymryd camau gweithredu gwahanol, rhaid i’r awdurdod lleol wneud hynny, a hysbysu’r plentyn, rhiant y plentyn, neu’r person ifanc am ganlyniad yr ailystyriaeth honno o fewn 7 wythnos;
- (j) i anfon yr achos yn ôl i gorff llywodraethu’r SAB sy’n gyfrifol am y mater er mwyn iddo ailystyried, ar ôl rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir gan y tribiwnlys, a oes angen gwneud penderfyniad gwahanol neu gymryd camau gweithredu gwahanol, rhaid i gorff llywodraethu’r SAB wneud hynny, a hysbysu’r plentyn, rhiant y plentyn, neu’r person ifanc am ganlyniad yr ailystyriaeth honno o fewn 35 o ddiwrnodau amser tymor.
- (3) Os yw’r panel tribiwnlys, yn dilyn ei benderfyniad mewn perthynas ag apêl, yn gwneud gorchymyn o dan adran 73 o Ddeddf 2018 sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod cartref gyflawni gweithred y cyfeirir ati ym mharagraff (4), rhaid i’r awdurdod cartref gyflawni’r weithred honno o fewn y cyfnod o amser a bennir ym mharagraff (4).
- (4) Yn achos gorchymyn—
- (a) i lunio cynllun datblygu unigol, rhaid iddo lunio’r cynllun datblygu unigol a rhoi copi ohono i’r plentyn, i riant y plentyn neu i’r person ifanc o fewn 7 wythnos;
- (b) i ddiwygio cynllun datblygu unigol fel a bennir yn y gorchymyn, rhaid iddo ddiwygio’r cynllun datblygu unigol a rhoi copi ohono i’r plentyn, i riant y plentyn neu i’r person ifanc o fewn 7 wythnos;
- (c) i anfon yr achos yn ôl i’r awdurdod cartref sy’n gyfrifol am y mater er mwyn iddo ailystyried, ar ôl rhoi sylw i unrhyw sylwadau a wneir gan y tribiwnlys, a oes angen gwneud penderfyniad gwahanol neu gymryd camau gweithredu gwahanol, rhaid iddo wneud hynny a hysbysu’r plentyn, rhiant y plentyn, neu’r person ifanc am ganlyniad yr ailystyriaeth honno o fewn 7 wythnos.
- (5) Ym mhob achos ym mharagraffau (2) a (4), oni phennir fel arall, mae’r cyfnod yn dechrau â’r diwrnod gwaith cyntaf ar ôl gwneud y gorchymyn.
- (6) Pan fo gorchymyn wedi ei wneud mewn cysylltiad â chorff llywodraethu SAB, ystyr “diwrnod amser tymor” yw diwrnod y mae’r sefydliad addysg bellach i fod i gwrdd at ddiben addysgu myfyrwyr, ar yr amod bod y diwrnod hwnnw o fewn cyfnod o amser pan fo’r sefydliad addysg bellach yn darparu’r rhan fwyaf o’i gyrsiau llawnamser.
Plant nad oes ganddynt alluedd a chyfeillion achos
Applications under section 70(3) of the 2018 Act for a declaration under section 71(2) of the 2018 Act relating to child’s capacity to understand
59
- (1) Rhaid i blentyn neu riant i blentyn sy’n ceisio datganiad o’r tribiwnlys yn unol ag adran 71(2) o Ddeddf 2018 gyflwyno cais yn ysgrifenedig i’r tribiwnlys.
- (2) Rhaid i’r cais ddatgan—
- (a) enw a chyfeiriad y person sy’n ceisio’r datganiad ac, os ydynt ar gael, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost y person hwnnw;
- (b) enw a dyddiad geni’r plentyn;
- (c) enw a chyfeiriad ysgol y plentyn a’r awdurdod lleol perthnasol;
- (d) perthynas y ceisydd â’r plentyn;
- (e) enw a chyfeiriad pob person—
- (i) y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant dros blentyn, neu
- (ii) sy’n rhannu cyfrifoldeb rhiant dros blentyn, neu
- (iii) sy’n gofalu am y plentyn,
neu’r rhesymau pam na ddarperir enwau a chyfeiriadau’r personau hynny;
- (f) copi o benderfyniadau’r corff llywodraethu a’r awdurdod lleol o dan adran 84 o Ddeddf 2018 sy’n ymwneud â galluedd y plentyn;
- (g) y rheswm neu’r rhesymau dros wneud y cais;
- (h) tystiolaeth ategol o alluedd y plentyn, neu dystiolaeth ategol nad oes ganddo alluedd, o fewn ystyr adran 85(1) o Ddeddf 2018;
- (i) y datganiad a geisir.
- (3) Pan fo’n ymddangos i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys bod angen gwybodaeth bellach cyn y gall datganiad gael ei wneud, caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys gyfarwyddo’r ceisydd i ddarparu’r wybodaeth honno.
- (4) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gyflwyno hysbysiad ynghylch unrhyw ddatganiad a wneir o dan adran 71(2) o Ddeddf 2018 i’r ceisydd, y corff llywodraethu, yr awdurdod lleol a, phan fo’n briodol, y rheini a restrir ym mharagraff (2)(e).
- (5) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gofnodi’r penderfyniad ac unrhyw ddatganiad yn y Gofrestr.
Who may be a case friend
60
Ni chaiff person weithredu fel cyfaill achos ond os nad yw’r person hwnnw wedi ei wahardd rhag gweithgaredd rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant o dan adran 3(2)(a) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 200612.
How a person becomes a case friend
61
- (1) Rhaid i berson sy’n dymuno gweithredu fel cyfaill achos gyflwyno cais yn ysgrifenedig i’r Tribiwnlys.
- (2) Rhaid i’r cais ddatgan—
- (a) enw a chyfeiriad y person sy’n dymuno gweithredu fel cyfaill achos y plentyn ac, os ydynt ar gael, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost y person hwnnw;
- (b) enw a dyddiad geni’r plentyn;
- (c) enw a chyfeiriad ysgol y plentyn a’r awdurdod lleol perthnasol;
- (d) perthynas neu gysylltiad y person â’r plentyn;
- (e) datganiad o addasrwydd sy’n cadarnhau bod y person yn bodloni’r amodau a’r gofynion a bennir yn y Rheoliadau hyn ac yn adran 85(6) o Ddeddf 2018;
- (f) tystiolaeth ategol nad oes gan y plentyn alluedd o fewn ystyr adran 85(1) o Ddeddf 2018.
- (3) Rhaid i’r cais gynnwys—
- (a) safbwyntiau rhiant y plentyn mewn perthynas â dymuniad y person i weithredu fel y cyfaill achos, neu
- (b) esboniad pam nad yw’r person wedi canfod safbwyntiau’r rhiant.
- (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid cyflwyno tystysgrif datgeliad manylach a ddyroddir gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gyda’r datganiad addasrwydd.
- (5) Nid yw’r gofyniad ym mharagraff (4) yn gymwys pan fo’r person sy’n dymuno gweithredu fel y cyfaill achos yn rhiant, llys-riant, brawd, llysfrawd, hanner brawd, chwaer, llyschwaer, hanner chwaer, tad-cu/taid, mam-gu/nain, ewythr, modryb, nai neu nyth i’r plentyn.
- (6) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys—
- (a) cofnodi ar gofrestr y Tribiwnlys rif y dystysgrif datgeliad manylach ynghyd â’r dyddiad dechrau a’r dyddiad dod i ben, a
- (b) defnyddio’r gwasanaeth danfon cofnodedig i ddychwelyd y dystysgrif datgeliad manylach i’r person.
- (7) Rhaid i dystiolaeth i gefnogi addasrwydd y person i weithredu fel cyfaill achos gael ei chyflwyno gyda’r cais.
- (8) Rhaid i’r cais gael ei lofnodi gan y person sy’n dymuno gweithredu fel cyfaill achos y plentyn.
- (9) Rhaid i’r person sy’n dymuno gweithredu fel cyfaill achos y plentyn gyflwyno copi o’r cais i—
- (a) y partïon yn yr achos,
- (b) rhiant y plentyn, ac
- (c) ysgol y plentyn a’r awdurdod lleol.
Steps in proceedings
62
- (1) Os yw’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys yn ystod yr apêl neu’r hawliad yn gwneud canfyddiad nad oes gan blentyn sy’n apelydd neu’n hawlydd alluedd i ddeall o fewn ystyr adran 85(1) o Ddeddf 2018, ac y mae arno angen cyfaill achos i gynnal yr achos ar ei ran, ni chaiff unrhyw barti gymryd cam pellach yn yr apêl neu’r hawliad heb ganiatâd y Llywydd neu’r panel tribiwnlys, hyd nes y bydd ac oni fydd person sy’n dymuno gweithredu fel cyfaill achos yr apelydd neu’r hawlydd wedi cyflwyno cais i’r Tribiwnlys yn unol â rheoliad 61.
- (2) Pan fo’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys wedi gorchymyn bod person yn gyfaill achos, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o’r gorchymyn at y cyfaill achos, rhiant y plentyn ac i ysgol y plentyn a’r awdurdod lleol.
- (3) Pan fo’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys wedi gorchymyn bod person yn gyfaill achos, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon yr holl ddogfennau a hysbysiadau sy’n ymwneud â’r apêl neu’r hawliad at y cyfaill achos yn hytrach nag at yr apelydd neu’r hawlydd.
- (4) Os yw paragraff (3) yn gymwys, rhaid dehongli cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn (sut bynnag y’u mynegir) at anfon dogfennau at yr apelydd neu’r hawlydd, neu at roi hysbysiad i’r apelydd neu’r hawlydd, fel cyfeiriadau at anfon dogfennau at y cyfaill achos, neu at roi hysbysiad i’r cyfaill achos.
Removing a case friend
63
- (1) Caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys ddiswyddo cyfaill achos drwy orchymyn yn unol ag adran 85(2)(b) o Ddeddf 2018 ar ysgogiad y Llywydd neu’r panel tribiwnlys ei hun neu ar gais, os yw wedi ei fodloni—
- (a) nad yw’r person yn bodloni un neu ragor o’r amodau a nodir yn adran 85(6) o Ddeddf 2018, neu
- (b) bod rheswm da arall yn bodoli.
- (2) Rhaid i gais am orchymyn i ddiswyddo cyfaill achos gael ei gefnogi gan dystiolaeth.
- (3) Pan fo gorchymyn wedi ei wneud o dan baragraff (1), caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys ohirio’r apêl neu’r hawliad hyd nes bod yr apelydd neu’r hawlydd wedi penodi cyfaill achos newydd.
- (4) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gyflwyno hysbysiad i’r partïon ynghylch unrhyw orchymyn a wneir o dan baragraff (1) gan ddatgan—
- (a) nad yw’r person yn gweithredu mwyach fel cyfaill achos yr apelydd neu’r hawlydd, a
- (b) pan fo person arall wedi ei roi yn ei le fel cyfaill achos, enw a chyfeiriad y cyfaill achos newydd ar gyfer cyflwyno hysbysiadau a dogfennau.
- (5) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gyflwyno copi o gyfarwyddyd a wneir o dan baragraff (1) i—
- (a) y person sydd wedi ei ddiswyddo fel y cyfaill achos,
- (b) rhiant y plentyn, ac
- (c) ysgol y plentyn a’r awdurdod lleol.
Miscellaneous
NHS bodies – Reports to the Tribunal
64
- (1) Rhaid i gorff GIG y gwnaed argymhelliad iddo gan y Tribiwnlys lunio adroddiad i’r Tribiwnlys cyn diwedd 6 wythnos gan ddechrau â’r dyddiad y gwneir yr argymhelliad.
- (2) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o’r adroddiad at bob parti.
Extension of time
65
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff y Llywydd, ar gais parti neu ar ysgogiad y Llywydd ei hun, gyfarwyddo bod cyfnod o amser yn y Rheoliadau hyn neu mewn cyfarwyddyd a wneir odanynt, yn cael ei estyn.
- (2) Ni chaiff y Llywydd estyn cyfnod o amser yn unol â pharagraff (1) ond os yw’r Llywydd yn ystyried ei bod yn deg ac yn gyfiawn gwneud hynny.
- (3) Caiff y Llywydd estyn cyfnod o amser yn ôl unrhyw gyfnod y mae’r Llywydd yn meddwl ei fod yn addas.
- (4) Pan fo’r Llywydd wedi estyn cyfnod o amser, rhaid dehongli cyfeiriad at y cyfnod hwnnw o amser yn y Rheoliadau hyn, neu mewn cyfarwyddyd a wneir odanynt, fel pe bai’n gyfeiriad at y cyfnod o amser a estynnwyd felly.
Withdrawal
66
Caiff person dynnu apêl neu hawliad yn ôl—
- (a) drwy roi hysbysiad i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ar unrhyw adeg cyn gwrandawiad, neu
- (b) ar lafar mewn gwrandawiad.
Orders for costs and expenses
67
- (1) Fel rheol, ni chaiff y Llywydd neu Gadeirydd y panel tribiwnlys a benderfynodd yr achos wneud gorchymyn mewn cysylltiad â chostau a threuliau, ond, yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff wneud gorchymyn o’r fath—
- (a) yn erbyn parti os yw’r Llywydd neu’r Cadeirydd o’r farn bod y parti wedi bod yn gyfrifol am weithred neu anweithred amhriodol, afresymol neu esgeulus, neu am unrhyw fethiant i gydymffurfio â chyfarwyddyd, neu am unrhyw oedi y gellid, gyda diwydrwydd, fod wedi ei osgoi, neu fod ymddygiad y parti, wrth wneud neu wrthwynebu’r apêl neu’r hawliad, yn afresymol;
- (b) yn erbyn cynrychiolydd os yw’r Llywydd neu’r Cadeirydd o’r farn bod y cynrychiolydd yn gyfrifol am weithred neu anweithred amhriodol, afresymol neu esgeulus, neu am unrhyw fethiant i gydymffurfio â chyfarwyddyd, neu am unrhyw oedi y gellid, gyda diwydrwydd, fod wedi ei osgoi;
- (c) yn erbyn parti sydd wedi methu â bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad yr hysbyswyd y parti hwnnw amdano yn briodol;
- (d) yn erbyn yr awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol pan na fo wedi cyflwyno datganiad achos o dan reoliad 19;
- (e) yn erbyn yr awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol pan fo’r Llywydd neu’r Cadeirydd yn ystyried bod y penderfyniad a herir yn afresymol.
- (2) Caniateir gwneud unrhyw orchymyn mewn cysylltiad â chostau a threuliau—
- (a) mewn perthynas ag unrhyw gostau a threuliau yr eir iddynt, neu unrhyw lwfansau a delir, neu
- (b) mewn perthynas â’r cyfan, neu unrhyw ran, o unrhyw lwfans (ac eithrio lwfansau a delir i aelodau o’r Tribiwnlys) a delir gan Weinidogion Cymru i unrhyw berson at ddibenion presenoldeb person mewn gwrandawiad Tribiwnlys neu mewn cysylltiad â’r presenoldeb hwnnw.
- (3) Caniateir gwneud gorchymyn ar gyfer costau ar gais parti neu ar ysgogiad y Llywydd neu’r Cadeirydd ei hun.
- (4) Rhaid i barti sy’n gwneud cais am orchymyn o dan baragraff (3)—
- (a) cyflwyno cais ysgrifenedig a rhestr o’r costau a hawlir i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, a
- (b) cyflwyno copi o’r cais a’r rhestr o gostau i’r person y bwriedir gwneud y gorchymyn yn ei erbyn.
- (5) Caniateir gwneud cais am orchymyn o dan baragraff (3) ar unrhyw adeg yn ystod yr apêl neu’r hawliad ond ni chaniateir ei wneud yn hwyrach nag 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r dyddiad—
- (a) pan ddyroddodd y panel tribiwnlys yr hysbysiad o benderfyniad a oedd yn cofnodi’r penderfyniad a oedd yn penderfynu’n derfynol ar yr holl faterion yn yr apêl neu’r hawliad,
- (b) ar ôl tynnu’n ôl yr apêl neu’r hawliad, pan wnaeth y panel tribiwnlys orchymyn a oedd yn gwrthod yr apêl neu’r hawliad, neu
- (c) yn dilyn ildiad yr awdurdod lleol i’r apêl, pan ddyroddodd y panel tribiwnlys yr hysbysiad o benderfyniad.
- (6) Yn achos cais am orchymyn o dan baragraff (3)—
- (a) rhaid i’r Llywydd neu’r Cadeirydd ei wrthod os yw parti yn gofyn i’r Tribiwnlys ystyried mater sydd y tu allan i’w bwerau;
- (b) caiff y Llywydd neu’r Cadeirydd ei wrthod yn gyfan gwbl neu’n rhannol os, ym marn y Llywydd neu’r Cadeirydd, nad oes siawns resymol i’r cais cyfan hwnnw neu’r rhan honno lwyddo.
- (7) Oni wrthodir cais am orchymyn o dan baragraff (6), rhaid ei benderfynu ar ôl rhoi cyfle i’r parti a’r person y bwriedir gwneud y gorchymyn ei erbyn i gael eu clywed gan y Llywydd neu’r Cadeirydd.
- (8) Os gwneir gorchymyn o dan baragraff (3), caiff y Llywydd neu’r Cadeirydd roi cyfarwyddydau y mae rhaid cydymffurfio â hwy cyn neu yn ystod y gwrandawiad costau.
- (9) Os yw parti yn methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan baragraff (8), caiff y Llywydd neu’r Cadeirydd ystyried y ffaith honno wrth benderfynu pa un ai i wneud gorchymyn ar gyfer costau.
- (10) Caiff gorchymyn o dan baragraff (3) ei gwneud yn ofynnol i’r parti neu’r cynrychiolydd y gwneir y gorchymyn yn ei erbyn dalu i barti naill ai swm penodedig mewn cysylltiad â’r costau a’r treuliau y mae’r parti arall hwnnw yn mynd iddynt mewn cysylltiad â’r apêl neu’r hawliad, neu’r cyfan neu ran o’r costau hynny, fel y’u hasesir, os na chytunir arnynt fel arall.
- (11) Rhaid i orchymyn o dan y rheoliad hwn ar gyfer asesu costau ganiatáu i’r llys sirol wneud asesiad manwl o gostau yn unol â Rheolau Trefniadaeth Sifil 1998, naill ai ar y sail safonol neu, os pennir hynny yn y gorchymyn, ar sail indemniad.
Power to exercise the functions of the President and Chair
68
- (1) Caiff Cadeirydd arfer unrhyw swyddogaeth y mae’n ofynnol i’r Llywydd ei harfer, neu yr awdurdodir y Llywydd i’w harfer, o dan y Rheoliadau hyn.
- (2) Pan, yn unol â pharagraff (1)—
- (a) bo’n ofynnol i Gadeirydd ddewis Cadeirydd i banel tribiwnlys, caiff Cadeirydd ddewis ei hunan;
- (b) bo Cadeirydd yn gwneud penderfyniad, mae rheoliadau 53 a 55 yn gymwys mewn perthynas â’r penderfyniad hwnnw fel pe baent yn cyfeirio at Gadeirydd yn lle’r Llywydd.
- (3) Yn ddarostyngedig i reoliad 73(6), os bydd farw’r Cadeirydd neu os â’n analluog, neu os yw’n peidio â bod yn aelod o’r panel cadeirydd cyfreithiol, yn dilyn penderfyniad o’r panel tribiwnlys, caiff y Llywydd neu Gadeirydd arall a benodir o’r panel cadeirydd cyfreithiol arfer swyddogaethau’r Cadeirydd.
Power to exercise the functions of a panel member in relation to a review
69
- (1) Os bydd farw aelod o’r panel tribiwnlys ac eithrio’r Cadeirydd, neu os â’n analluog, neu os yw person yn peidio â bod yn aelod o’r panel lleyg, yn dilyn penderfyniad o’r panel tribiwnlys, caiff y ddau aelod arall o’r panel ymgymryd â swyddogaethau’r panel tribiwnlys mewn perthynas ag unrhyw adolygiad o benderfyniad.
- (2) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i banel tribiwnlys—
- (a) a gyfansoddir o ddau aelod;
- (b) yr awdurdodir unrhyw berson i weithredu yn lle’r Cadeirydd ynddo yn unol â rheoliad 68.
The Secretary of the Tribunal
70
Caiff aelod arall o staff y Tribiwnlys a awdurdodir gan y Llywydd gyflawni unrhyw un neu ragor o swyddogaethau Ysgrifennydd y Tribiwnlys.
Register
71
- (1) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gadw Cofrestr o’r apelau a’r hawliadau a gofrestrir gan y Tribiwnlys.
- (2) Rhaid gwneud cofnod yn y Gofrestr o bob apêl a hawliad a gofrestrir, a rhaid i’r cofnod ym mhob achos gynnwys y manylion a ganlyn pan fo’n briodol—
- (a) enwau a chyfeiriadau’r partïon,
- (b) manylion cryno am natur yr apêl neu’r hawliad,
- (c) dyddiad unrhyw wrandawiad, gan gynnwys unrhyw wrandawiad ar faterion rhagarweiniol neu gysylltiedig, a phan fo’n briodol, natur y gwrandawiad,
- (d) manylion unrhyw gyfarwyddydau neu orchmynion a ddyroddir,
- (e) y ddogfen y cofnodwyd penderfyniad y panel tribiwnlys ynddi o dan reoliad 52(3), ac
- (f) a yw’r apêl neu’r hawliad wedi ei thynnu neu ei dynnu yn ôl.
- (3) Caniateir cadw’r Gofrestr neu unrhyw ran ohoni ar ffurf electronig.
Publication
72
- (1) Caiff y Llywydd wneud unrhyw drefniadau y mae’r Llywydd yn ystyried eu bod yn briodol ar gyfer cyhoeddi penderfyniadau’r panel tribiwnlys.
- (2) Caniateir cyhoeddi penderfyniadau yn electronig.
- (3) Caniateir cyhoeddi penderfyniad ar ffurf sydd wedi ei golygu, neu’n ddarostyngedig i unrhyw ddileadau, pan fo’r Llywydd yn ystyried bod hynny’n briodol, ar ôl rhoi sylw i—
- (a) yr angen i ddiogelu lles a buddiannau’r plentyn, y person ifanc, neu unrhyw berson arall,
- (b) yr angen i barchu bywyd preifat unrhyw berson, neu
- (c) unrhyw sylwadau ar y mater a ddarparwyd yn ysgrifenedig gan unrhyw berson i’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys ar unrhyw adeg cyn cyhoeddi, o dan y trefniadau a wneir o dan baragraff (1).
- (4) Rhaid cyhoeddi penderfyniad y panel tribiwnlys mewn modd a fydd yn sicrhau bod enw’r plentyn neu’r person ifanc yn parhau’n anhysbys.
Irregularities
73
- (1) Ni chaiff afreoleidd-dra, sy’n deillio o fethiant i gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, o gyfarwyddyd ymarfer13, neu o unrhyw gyfarwyddyd gan y Llywydd neu’r panel tribiwnlys cyn i’r panel tribiwnlys wneud ei benderfyniad beri, ynddo’i hun, fod yr achos yn ddi-rym.
- (2) Pan fo unrhyw afreoleidd-dra o’r fath yn dod i sylw’r panel tribiwnlys, caiff y panel tribiwnlys, os yw’n ystyried y gall unrhyw berson fod wedi ei ragfarnu gan yr afreoleidd-dra, roi unrhyw gyfarwyddydau y mae’n meddwl eu bod yn gyfiawn, cyn gwneud ei benderfyniad i gywiro’r afreoleidd-dra.
- (3) Caiff y Cadeirydd neu’r Llywydd (yn ôl y digwydd), ar unrhyw adeg, gywiro camgymeriadau clercol mewn unrhyw ddogfen sy’n cofnodi cyfarwyddyd neu benderfyniad y panel tribiwnlys neu gyfarwyddyd neu benderfyniad y Llywydd a luniwyd gan neu ar ran y Tribiwnlys, neu wallau mewn dogfennau o’r fath a achoswyd gan lithriadau neu hepgoriadau damweiniol, drwy gyfrwng tystysgrif a lofnodir gan y Cadeirydd neu’r Llywydd.
- (4) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, cyn gynted ag y bo’n ymarferol, anfon copi at bob parti o unrhyw ddogfen gywiredig sy’n cynnwys rhesymau dros benderfyniad y panel tribiwnlys.
- (5) Pan fo person wedi penodi cynrychiolydd yn unol â rheoliad 16, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys (er gwaethaf rheoliad 13(11)(a)) anfon copi o’r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff (4) at y person yn ogystal ag at y cynrychiolydd.
- (6) Pan fo’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cadeirydd lofnodi dogfen, ond na all y Cadeirydd wneud hynny oherwydd marwolaeth neu analluedd, rhaid i aelodau eraill y panel tribiwnlys lofnodi’r ddogfen ac ardystio na all y Cadeirydd ei llofnodi.
Proof of documents and certification of decisions
74
- (1) Mae dogfen sy’n honni bod yn ddogfen a ddyroddwyd gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys ar ran y Llywydd neu’r panel tribiwnlys, oni phrofir i’r gwrthwyneb, i’w hystyried yn ddogfen a ddyroddwyd felly.
- (2) Mae dogfen sy’n honni ei bod wedi ei hardystio gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys fel copi gwir o ddogfen sy’n cynnwys penderfyniad y panel tribiwnlys, oni phrofir i’r gwrthwyneb, yn dystiolaeth ddigonol o gynnwys y ddogfen honno.
Method of sending, submitting or serving notices and documents
75
- (1) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig, a rhaid i barti y mae’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddo hysbysu Ysgrifennydd y Tribiwnlys am fater, wneud hynny yn ysgrifenedig.
- (2) Rhaid i hysbysiadau a dogfennau i’w darparu o dan y Rheoliadau hyn gael—
- (a) eu hanfon drwy’r post rhagdaledig at Ysgrifennydd y Tribiwnlys neu eu danfon â llaw i swyddfa’r Tribiwnlys neu i unrhyw swyddfa arall y mae Ysgrifennydd y Tribiwnlys yn hysbysu’r partïon amdani,
- (b) eu hanfon drwy e-bost i’r cyfeiriad a bennir ar gyfer y Tribiwnlys, neu
- (c) eu hanfon neu eu danfon drwy unrhyw ddull arall a ganiateir neu a gyfarwyddir gan y Tribiwnlys.
- (3) Ni chaiff parti sy’n anfon hysbysiad neu ddogfen i’r Tribiwnlys drwy e-bost drin yr hysbysiad neu’r ddogfen fel pe bai wedi ei ddanfon neu ei danfon oni cheir cydnabyddiaeth o hynny gan y Tribiwnlys.
- (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), os yw parti yn darparu cyfeiriad e-bost neu fanylion eraill ar gyfer cyflwyno hysbysiadau neu ddogfennau iddo, rhaid i’r parti hwnnw dderbyn danfon dogfennau ato drwy’r dull hwnnw.
- (5) Os yw parti yn rhoi gwybod i’r Tribiwnlys ac i’r parti arall na chaniateir defnyddio dull cyfathrebu penodol, ac eithrio’r post rhagdaledig neu ddanfon â llaw, i ddarparu dogfennau i’r parti hwnnw, ni chaniateir defnyddio’r dull cyfathrebu hwnnw.
- (6) Os yw’r Tribiwnlys neu barti yn anfon dogfen at barti neu i’r Tribiwnlys drwy e-bost neu unrhyw ddull cyfathrebu electronig arall, caiff y derbynnydd ofyn i’r anfonwr ddarparu copi caled o’r ddogfen i’r derbynnydd. Rhaid i’r derbynnydd wneud cais o’r fath cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael y ddogfen yn electronig.
- (7) Caiff y Tribiwnlys a phob parti gymryd mai’r cyfeiriad a ddarperir gan barti neu gynrychiolydd yw’r cyfeiriad y mae rhaid anfon neu ddanfon dogfennau iddo, ac y bydd yn parhau felly, oni chânt hysbysiad ysgrifenedig i’r gwrthwyneb.
- (8) Caniateir i’r hysbysiadau a’r dogfennau y mae’r Rheoliadau hyn yn awdurdodi’r Llywydd, y panel tribiwnlys neu Ysgrifennydd y Tribiwnlys i’w hanfon, neu’n ei gwneud yn ofynnol iddo anfon, gael eu hanfon (yn ddarostyngedig i baragraff (10)), naill ai drwy’r post dosbarth cyntaf neu e-bost, neu drwy eu danfon—
- (a) yn achos parti—
- (i) i gyfeiriad y parti hwnnw ar gyfer cyflwyno a bennir yn y cais apelio neu’r cais hawlio neu mewn ateb ysgrifenedig neu mewn hysbysiad o dan baragraff (9), neu
- (ii) os nad oes cyfeiriad ar gyfer cyflwyno wedi ei bennu felly, i’r cyfeiriad diwethaf sy’n hysbys ar gyfer y parti hwnnw, a
- (b) yn achos unrhyw berson arall, i breswylfa neu fan busnes y person hwnnw, neu, os yw’r person yn gorfforaeth, i swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r gorfforaeth.
- (9) Caiff parti, ar unrhyw adeg, drwy roi hysbysiad i Ysgrifennydd y Tribiwnlys newid cyfeiriad y parti hwnnw ar gyfer cyflwyno o dan y Rheoliadau hyn.
- (10) Rhaid defnyddio’r gwasanaeth danfon cofnodedig yn lle’r post dosbarth cyntaf i gyflwyno gwŷs a ddyroddir o dan reoliad 45, sy’n gwneud presenoldeb tyst yn ofynnol.
- (11) Rhaid cymryd bod hysbysiad neu ddogfen a anfonwyd gan y Tribiwnlys drwy’r post dosbarth cyntaf yn unol â’r Rheoliadau hyn, ac nas dychwelwyd i’r Tribiwnlys, wedi ei gael neu ei chael gan y derbynnydd ar yr ail ddiwrnod gwaith ar ôl y dyddiad postio, oni ddangosir i’r gwrthwyneb.
- (12) Rhaid tybio, oni ddangosir i’r gwrthwyneb, mai’r dyddiad a ddangosir yn y marc post ar yr amlen sy’n cynnwys yr hysbysiad neu’r ddogfen yw’r dyddiad postio.
- (13) Rhaid cymryd bod hysbysiad neu ddogfen a anfonir gan y Tribiwnlys at barti drwy ddefnyddio e-bost wedi ei ddanfon neu ei danfon pan geir yr hysbysiad neu’r ddogfen ar ffurf ddarllenadwy.
- (14) Pan na ellir, am unrhyw reswm digonol, gyflwyno unrhyw ddogfen neu hysbysiad yn y dull a ragnodir o dan y rheoliad hwn, caiff y Llywydd neu’r panel tribiwnlys hepgor y cyflwyno, neu wneud gorchymyn ar gyfer cyflwyno mewn unrhyw ddull arall y mae’r Llywydd neu’r panel tribiwnlys yn barnu ei fod yn briodol, a rhaid bod cyflwyno yn y dull arall hwnnw yn cael yr un effaith â chyflwyno yn y dull a ragnodir o dan y rheoliad hwn.
Calculating time
76
- (1) Rhaid i weithred y mae’r Rheoliadau hyn, cyfarwyddyd ymarfer neu gyfarwyddyd yn ei gwneud yn ofynnol iddi gael ei gwneud ar ddiwrnod penodol neu erbyn diwrnod penodol gael ei gwneud erbyn 5pm ar y diwrnod hwnnw.
- (2) Os yw’r amser a bennir gan y Rheoliadau hyn, gan gyfarwyddyd ymarfer neu gan gyfarwyddyd ar gyfer gwneud unrhyw weithred yn gorffen ar ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod gwaith, mae’r weithred wedi ei gwneud mewn pryd os yw wedi ei gwneud ar y diwrnod gwaith canlynol.
- (3) Os yw’r amser ar gyfer cychwyn achos drwy ddarparu’r cais apelio neu’r cais hawlio i’r Tribiwnlys o dan reoliad 10 yn gorffen ar ddiwrnod yn y cyfnod sy’n dechrau â 25 Rhagfyr ac sy’n dod i ben ag 1 Ionawr, neu ar unrhyw ddiwrnod ym mis Awst—
- (a) mae’r cais apelio neu’r cais hawlio wedi ei ddarparu mewn pryd os yw’r Tribiwnlys yn ei gael ar y diwrnod gwaith cyntaf ar ôl 1 Ionawr neu 31 Awst, fel y bo’n briodol, a
- (b) ni chaniateir cynnwys y diwrnodau yn y cyfnod sy’n dechrau â 25 Rhagfyr ac sy’n dod i ben ag 1 Ionawr nac unrhyw ddiwrnod ym mis Awst wrth gyfrifo’r amser erbyn pryd y mae rhaid gwneud unrhyw weithred arall.
- (4) Nid yw paragraff (3)(b) yn gymwys pan fo’r Tribiwnlys yn cyfarwyddo bod rhaid i weithred gael ei gwneud erbyn dyddiad penodedig neu ar y dyddiad hwnnw.
Signature of documents
77
Pan fo’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i ddogfen gael ei llofnodi, mae’r gofyniad hwnnw wedi ei fodloni—
- (a) os yw’r llofnod wedi ei ysgrifennu, neu
- (b) yn achos dogfen a gyfathrebir yn electronig yn unol â’r Rheoliadau hyn, gan lofnod electronig y person y mae’n ofynnol iddo ei llofnodi.
Signed
Kirsty Williams — Minister for Education, one of the Welsh Ministers — 2021-03-24
Explanatory note
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
NODYN ESBONIADOL
Mae’r Rheoliadau hyn yn nodi’r weithdrefn i’w dilyn mewn achosion gerbron Tribiwnlys Addysg Cymru. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch arfer awdurdodaeth y Tribiwnlys hwnnw o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, sy’n ymwneud ag apelau anghenion dysgu ychwanegol, a Phennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy’n ymwneud â hawliadau o wahaniaethu ar sail anabledd mewn cysylltiad â disgyblion ysgol.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru.
Footnotes
2018 dccc 2; gweler adran 99(1) am y diffiniadau o “rhagnodedig” ac “a ragnodir” a “rheoliadau”.
2010 p. 15; gweler adran 212(1) am y diffiniad o “prescribed”. Diwygiwyd Deddf 2010, gan gynnwys amnewid paragraff 6A yn Atodlen 17 iddi, gan baragraff 19 o Atodlen 1 i Ddeddf 2018.
Mae’r cyfeiriadau yn adran 98(3) o Ddeddf 2018 ac adran 209(6) o Ddeddf 2010 at Gynulliad Cenedlaethol Cymru i’w darllen bellach fel pe baent yn gyfeiriadau at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
Mae paragraff 4(1) o Atodlen 17 i Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn pennu’r cyfnod y mae rhaid gwneud hawliad i’r Tribiwnlys ynddo.
Gweler Rhan 31 – Datgelu ac Archwilio Dogfennau.
1990 p. 42; diwygiwyd adran 201(1) gan Ran 3, Pennod 6, adran 360 o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21) a pharagraff 1 o Atodlen 19 iddi.
O dan adran 3(2)(a) o Ddeddf Diogelu Grwpiau Hyglwyf 2006 (p. 47), mae person wedi ei wahardd rhag gweithgaredd rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant os yw enw’r person wedi ei gynnwys yn y rhestr yn Rhan 1 o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno (“the children’s barred list”).
Gweler adran 61(2) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4) am bwerau i wneud cyfarwyddydau ymarfer.
Editorial notes
Rhl. 1 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 2 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 3 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 4 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 5 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 6 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 7 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 8 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 9 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 10 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 11 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 12 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 13 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 14 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 15 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 16 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 17 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 18 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 19 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 20 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 21 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 22 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 23 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 24 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 25 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 26 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 27 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 28 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 29 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 30 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 31 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 32 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 33 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 34 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 35 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 36 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 37 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 38 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 39 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 40 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 41 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 42 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 43 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 44 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 45 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 46 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 47 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 48 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 49 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 50 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 51 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 52 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 53 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 54 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 55 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 56 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 57 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 58 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 59 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 60 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 61 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 62 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 63 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 64 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 65 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 66 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 67 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 68 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 69 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 70 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 71 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 72 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 73 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 74 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 75 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 76 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 77 mewn grym ar 1.9.2021, gweler rhl. 1
Rhl. 17(2) wedi ei amnewid (8.10.2021) gan Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru (Diwygio) 2021 (O.S. 2021/1121), rhlau. 1, 2
Enwi a chychwyn
Dehongli
Cymhwyso
Y prif amcan
Rhwymedigaeth ar y partïon i gydweithredu
Dulliau eraill o ddatrys anghydfod
Aelodau’r panel lleyg
Sefydlu paneli tribiwnlys
Aelodaeth panel tribiwnlys
Y cyfnod y mae rhaid i achos gael ei gychwyn ynddo
Cais apelio
Cais hawlio
Camau gweithredu gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys
Apêl neu hawliad a wneir y tu allan i’r amser
Digonolrwydd rhesymau
Cynrychiolwyr yr apelydd neu’r hawlydd
Cyfnodau’r datganiad achos
Datganiad achos yr apelydd neu’r hawlydd
Datganiad achos a thystiolaeth yr awdurdod lleol, corff llywodraethu’r SAB neu’r corff cyfrifol sy’n ymateb
Newid cynrychiolydd corff llywodraethu’r SAB, yr awdurdod lleol neu’r corff cyfrifol sy’n ymateb
Newid yr awdurdod lleol mewn apêl
Copïau o ddogfennau i’r partïon
Methiant i gyflwyno datganiad achos ac absenoldeb gwrthwynebiad
Ymholiadau gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys
Methiant i ymateb i ymholiadau a wneir gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys
Pŵer i ddileu’r apêl neu’r hawliad
Gorchymyn i ddiwygio datganiad achos
Tystiolaeth a chyflwyniadau
Rheoli’r achos a chyfarwyddydau
Amrywio cyfarwyddydau neu eu gosod o’r neilltu
Manylion a datganiadau atodol
Datgelu dogfennau a deunydd arall
Methiant i gydymffurfio â chyfarwyddydau
Cydgrynhoi apelau neu hawliadau
Cydgrynhoi hawliadau gydag apelau
Ychwanegu ac amnewid partïon
Hysbysu am ddyddiad, lleoliad ac amser gwrandawiadau
Trosglwyddiadau
Pŵer i benderfynu’r apêl neu’r hawliad heb wrandawiad
Gwrandawiadau cyhoeddus a phreifat: trefniadau ac eithriadau
Gorchmynion sy’n cyfyngu ar adrodd
Y weithdrefn mewn gwrandawiad
Tystiolaeth mewn gwrandawiad
Newid tyst
Gwysio tyst
Tystiolaeth dros y ffôn, drwy gyswllt fideo neu drwy ddulliau eraill
Tystiolaeth ysgrifenedig sy’n hwyr
Gohirio gwrandawiad cyn ei gychwyn
Gohiriadau ar ôl cychwyn a chyfarwyddydau
Cynrychiolaeth mewn gwrandawiad
Methiant i fod yn bresennol mewn gwrandawiad
Penderfyniad y panel tribiwnlys
Cais neu gynnig ar gyfer adolygiad o benderfyniad y Tribiwnlys
Adolygiad o benderfyniad y Tribiwnlys i beidio ag estyn y cyfnod a ganiateir ar gyfer cychwyn achos
Cais am ganiatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys
Pŵer i atal dros dro benderfyniad y Tribiwnlys
Gorchmynion yr Uwch Dribiwnlys neu’r Llys
Cydymffurfio â gorchmynion y panel tribiwnlys – apelau
Ceisiadau o dan adran 70(3) o Ddeddf 2018 am ddatganiad o dan adran 71(2) o Ddeddf 2018 sy’n ymwneud â galluedd plentyn i ddeall
Pwy a gaiff fod yn gyfaill achos
Sut y daw person yn gyfaill achos
Camau mewn achosion
Diswyddo cyfaill achos
Amrywiol
Cyrff GIG – Adroddiadau i’r Tribiwnlys
Estyn yr amser
Tynnu’n ôl
Gorchmynion ar gyfer costau a threuliau
Pŵer i arfer swyddogaethau’r Llywydd a’r Cadeirydd
Pŵer i arfer swyddogaethau aelod o’r panel mewn perthynas ag adolygiad
Ysgrifennydd y Tribiwnlys
Y Gofrestr
Cyhoeddi
Afreoleidd-dra
Profi dogfennau ac ardystio penderfyniadau
Y dull o anfon, rhoi neu gyflwyno hysbysiadau a dogfennau
Cyfrifo amser
Llofnodi dogfennau
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.