The Senedd Cymru (Representation of the People) Order 2025

Type Welsh-Statutory-Instrument
Publication 2025-07-09
Last updated 2026-02-05
State In force
Jurisdiction Wales
Department King's Printer of Acts of Parliament
PDF Download
articles 1
Reform history JSON API
  • (6) Pan fo’r swyddog canlyniadau’n penderfynu bod papur enwebu unigolyn yn annilys, rhaid i’r swyddog canlyniadau arnodi ar y papur y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud a’r rhesymau drosto, a llofnodi’r arnodiad.
  • (7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi hysbysiad i bob ymgeisydd yn datgan penderfyniad y swyddog canlyniadau a yw papur enwebu’r ymgeisydd yn ddilys ynteu’n annilys.
  • (8) Mae penderfyniad y swyddog canlyniadau bod papur enwebu unigolyn yn ddilys yn derfynol ac ni chaniateir ei gwestiynu mewn unrhyw achos.
  • (9) Ac eithrio fel a ddarperir gan baragraff (8), nid oes dim yn y rheol hon yn atal dilysrwydd enwebiad rhag cael ei gwestiynu ar ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd.

Penderfyniadau ynglŷn â dilysrwydd papurau enwebu plaid

15
  • (1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan ddanfonir y canlynol yn unol â’r rheolau hyn—
  • (a) papur enwebu plaid, ynghyd â’i restr plaid,
  • (b) ffurflen cyfeiriad cartref pob ymgeisydd yn y rhestr honno,
  • (c) cydsyniad pob ymgeisydd yn y rhestr honno i gael ei enwebu, a
  • (d) yr ernes sy’n cydymffurfio â gofynion rheol 11(2) a (3).
  • (2) Mae’r blaid a phob ymgeisydd ar ei rhestr yn dal wedi eu henwebu oni bai a hyd nes y bydd y swyddog canlyniadau yn penderfynu bod y papur enwebu plaid yn annilys.
  • (3) Mae gan y swyddog canlyniadau hawlogaeth i ddyfarnu bod papur enwebu plaid yn annilys ar un o’r seiliau a ganlyn yn unig—
  • (a) ei fod yn groes i reol 6(3) neu (5),
  • (b) ei fod yn groes i reol 7(1) neu (5),
  • (c) nad yw’r papur wedi ei danysgrifio yn unol â gofynion rheol 6(8),
  • (d) bod y rhestr plaid yn cynnwys mwy nag 8 person, neu
  • (e) bod pob ymgeisydd a gynhwyswyd yn y rhestr plaid, yn unol â pharagraffau (4) a (5), wedi peidio â bod yn dal wedi ei enwebu.
  • (4) Bydd ymgeisydd ar restr plaid yn peidio â bod yn dal wedi ei enwebu—
  • (a) pan fo’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni bod yr ymgeisydd wedi marw, neu
  • (b) pan fo’r ymgeisydd yn tynnu ei ymgeisyddiaeth yn ôl yn unol â rheol 16(3).
  • (5) Mae gan y swyddog canlyniadau hawlogaeth i ddyfarnu bod ymgeisydd rhestr plaid wedi peidio â bod yn dal wedi ei enwebu—
  • (a) pan na fo manylion ymgeisydd yn unol â gofynion y gyfraith,
  • (b) pan fo ymgeisydd wedi ei anghymhwyso o dan adran 16(A1) o Ddeddf 2006 rhag bod yn aelod o’r Senedd a rhag bod yn ymgeisydd i fod yn aelod o’r Senedd, neu
  • (c) pan fo ymgeisyddiaeth ymgeisydd yn groes i adran 7(4) o Ddeddf 2006.
  • (6) Pan fo ymgeisydd ar restr plaid yn peidio â bod yn dal wedi ei enwebu yn rhinwedd paragraff (5), ni fydd hynny ohono ei hun yn atal unrhyw ymgeisydd arall sydd wedi ei gynnwys ar y rhestr plaid honno rhag parhau i fod yn dal wedi ei enwebu.
  • (7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i bob—
  • (a) papur enwebu plaid, a’r rhestr plaid sy’n mynd gydag ef,
  • (b) ffurflen cyfeiriad cartref pob ymgeisydd rhestr plaid, ac
  • (c) ffurflen cydsynio ag enwebiad pob ymgeisydd rhestr plaid,

gael eu danfon, eu harchwilio a phenderfynu a yw’r blaid wedi ei henwebu’n ddilys.

  • (8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), rhaid i’r swyddog canlyniadau benderfynu ar unrhyw wrthwynebiad i bapur enwebu plaid neu i ymgeisydd rhestr plaid—
  • (a) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo gael ei wneud, a
  • (b) beth bynnag, cyn diwedd y cyfnod o 24 awr sy’n dechrau â diwedd y cyfnod ar gyfer danfon papurau enwebu.
  • (9) Os yw papur enwebu plaid, ym marn y swyddog canlyniadau, yn groes i reol 6(3) neu (5) neu 7(1) neu (5), rhaid i’r swyddog canlyniadau roi penderfyniad i’r perwyl hwnnw—
  • (a) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r papur enwebu gael ei ddanfon, a
  • (b) beth bynnag, cyn diwedd y cyfnod o 24 awr sy’n dechrau â diwedd y cyfnod ar gyfer danfon papurau enwebu.
  • (10) Pan fo’r swyddog canlyniadau’n penderfynu—
  • (a) bod papur enwebu plaid yn annilys, neu
  • (b) bod enw a chyfeiriad ymgeisydd i’w dileu o restr plaid,

rhaid i’r swyddog canlyniadau arnodi ar y papur y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud a’r rhesymau drosto, a llofnodi’r arnodiad.

  • (11) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi hysbysiad i swyddog enwebu cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig a gyflwynodd bapur enwebu plaid a rhestr plaid yn datgan—
  • (a) penderfyniad y swyddog canlyniadau a yw papur enwebu’r blaid yn ddilys ynteu’n annilys, a
  • (b) a yw enw a chyfeiriad unrhyw ymgeiswyr i’w dileu o restr plaid.
  • (12) Mae penderfyniad swyddog canlyniadau—
  • (a) bod papur enwebu plaid yn ddilys, neu
  • (b) bod enw a chyfeiriad ymgeisydd i’w dileu o restr plaid,

yn derfynol ac ni chaniateir ei gwestiynu mewn unrhyw achos.

  • (13) Yn ddarostyngedig i baragraffau (11) a (12), nid oes dim yn y rheol hon yn atal dilysrwydd enwebiad rhag cael ei gwestiynu ar ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd.

Ymgeiswyr yn tynnu’n ôl

16
  • (1) Caiff ymgeisydd unigol neu ymgeisydd rhestr plaid dynnu ei ymgeisyddiaeth yn ôl drwy roi hysbysiad tynnu’n ôl i’r swyddog canlyniadau.
  • (2) Rhaid i’r hysbysiad tynnu’n ôl—
  • (a) cael ei lofnodi gan yr ymgeisydd ym mhresenoldeb tyst y mae rhaid iddo ardystio i lofnod yr ymgeisydd, a
  • (b) cael ei ddanfon at y swyddog canlyniadau.
  • (3) Caiff plaid wleidyddol gofrestredig dynnu’n ôl ymgeisyddiaeth unrhyw ymgeiswyr, neu bob un ohonynt, sydd wedi eu cynnwys yn un o restrau plaid y blaid honno drwy hysbysiad tynnu’n ôl—
  • (a) a lofnodwyd gan swyddog enwebu cofrestredig y blaid, a
  • (b) a ddanfonwyd at y swyddog canlyniadau.
  • (4) Caniateir danfon hysbysiad tynnu’n ôl naill ai—
  • (a) i un o’r lleoedd a bennir gan y swyddog canlyniadau yn yr hysbysiad etholiad ar gyfer danfon papurau enwebu, neu
  • (b) yn unol â’r trefniadau a nodir yn y datganiad danfon electronig (rheol 3).

Cyhoeddi datganiad o’r pleidiau a’r personau eraill a enwebwyd

17
  • (1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau lunio a chyhoeddi datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd yn dangos—
  • (a) y personau a enwebwyd ac sy’n dal wedi eu henwebu fel ymgeiswyr unigol,
  • (b) y pleidiau gwleidyddol cofrestredig a enwebwyd ac sy’n dal wedi eu henwebu, ynghyd â’r rhestr o ymgeiswyr, mewn cysylltiad â phob plaid o’r fath, a gyflwynwyd ganddi ac a enwebwyd ac sy’n dal wedi eu henwebu fel ymgeiswyr y blaid honno, ac
  • (c) unrhyw bersonau neu bleidiau eraill a enwebwyd ond nad ydynt yn dal wedi eu henwebu mwyach, gyda’r rheswm nad ydynt yn dal wedi eu henwebu mwyach.
  • (2) Rhaid i’r datganiad ddangos—
  • (a) mewn cysylltiad ag ymgeiswyr unigol—
  • (i) enwau’r personau a enwebwyd, fel y’u rhoddwyd yn eu papurau enwebu,
  • (ii) eu cyfeiriadau, neu’r wybodaeth berthnasol honno a ddarparwyd yn eu gwybodaeth am eu cyfeiriad cartref (gweler paragraff (3)), a
  • (iii) yr wybodaeth a gynhwyswyd yn eu datganiadau o aelodaeth plaid, fel y’i rhoddwyd yn eu cydsyniadau i gael eu henwebu;
  • (b) mewn cysylltiad â’r pleidiau gwleidyddol cofrestredig sydd wedi cyflwyno rhestr plaid, enwau’r pleidiau hynny, ynghyd â’r canlynol, mewn cysylltiad â phob plaid o’r fath—
  • (i) yr enw, yr enwau neu’r disgrifiadau y cyfeirir atynt yn rheol 6(3),
  • (ii) enwau’r personau a enwebwyd, fel y maent yn ymddangos yn rhestr y blaid honno,
  • (iii) cyfeiriadau’r personau hynny, neu’r wybodaeth berthnasol honno a ddarparwyd yn yr wybodaeth am gyfeiriad cartref y personau hynny (gweler paragraff (3)), a
  • (iv) yr wybodaeth a gynhwyswyd yn natganiadau’r personau hynny o aelodaeth plaid fel y’i rhoddwyd yn eu cydsyniadau i gael eu henwebu.
  • (3) Yn y rheolau hyn, mae cyfeiriadau at yr wybodaeth am gyfeiriad cartref person a enwebwyd yn gyfeiriadau at yr wybodaeth a ganlyn fel y’i rhoddwyd yn y ffurflen cyfeiriad cartref sy’n mynd gyda’r papur enwebu—
  • (a) pan fo’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref, yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 8(5);
  • (b) pan na fo’r ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys datganiad o’r fath, cyfeiriad y person a enwebwyd.
  • (4) Mae rheol 18 (defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin) a rheol 19 (enwau sydd yr un fath neu’n debyg) yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch cynnwys y datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd.
  • (5) Rhaid i’r datganiad ddangos—
  • (a) yr ymgeiswyr unigol sy’n dal wedi eu henwebu gyda’i gilydd yn nhrefn yr wyddor;
  • (b) y pleidiau gwleidyddol cofrestredig sydd wedi cyflwyno rhestr plaid gyda’i gilydd yn nhrefn yr wyddor ac, mewn cysylltiad â phob plaid o’r fath, yr ymgeiswyr sy’n dal wedi eu henwebu, yn union ar ôl y cofnod ar gyfer y blaid berthnasol, yn y drefn y maent yn ymddangos ar y rhestr plaid.
  • (6) Mae trefn y pleidiau gwleidyddol cofrestredig y cyfeirir ati ym mharagraff (5)(b) i’w dangos yn y datganiad cyn dangos trefn yr ymgeiswyr unigol y cyfeirir ati ym mharagraff (5)(a).
  • (7) At ddibenion paragraff (5)(a), pennir trefn yr wyddor drwy gyfeirio at gyfenwau’r ymgeiswyr unigol, ac os oes dau neu ragor ohonynt â’r un cyfenw, rhaid i’r datganiad ddangos y personau hynny yn nhrefn yr wyddor yn ôl eu henwau eraill.
  • (8) At ddibenion paragraff (5)(b)—
  • (a) mae plaid wleidyddol gofrestredig i’w dangos yn y datganiad drwy gyfeirio at yr enw neu’r enwau, neu’r disgrifiad, y cyfeirir ato neu atynt yn rheol 6(3) mewn cysylltiad â’r blaid, a
  • (b) mae trefn yr wyddor i’w phennu drwy ddiystyru’r fannod benodol neu’r fannod amhenodol a, phan fo dau neu ragor o eiriau yn yr enw neu’r enwau, neu’r disgrifiad, wedi diystyru’r fannod benodol neu’r fannod amhenodol, drwy gyfeirio at y cyntaf o’r geiriau hynny ac, os oes dwy neu ragor o bleidiau â’r un gair cyntaf, o’r geiriau eraill.
  • (9) Yn achos person a enwebir gan fwy nag un papur enwebu unigolyn, rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y manylion sy’n ofynnol gan ddarpariaethau blaenorol y rheol hon oddi ar y papur hwnnw y mae’r ymgeisydd, neu’r swyddog canlyniadau yn absenoldeb yr ymgeisydd, yn ei ddewis.
  • (10) Yn achos plaid wleidyddol gofrestredig sydd wedi danfon mwy nag un papur enwebu plaid, a phan fo ymgeiswyr rhestr plaid y blaid honno yn dal wedi eu henwebu gan fwy nag un rhestr plaid a gyflwynwyd gyda’r papurau hynny, rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y manylion sy’n ofynnol gan ddarpariaethau blaenorol y rheol hon oddi ar y papur enwebu plaid hwnnw a’r rhestr plaid gyda’r papur hwnnw y mae swyddog enwebu cofrestredig y blaid, neu’r swyddog canlyniadau yn absenoldeb y swyddog enwebu cofrestredig, yn ei ddewis.
  • (11) Pan ddangosir bod ymgeisydd yn dal wedi ei enwebu gan restr nas dewisir yn unol â pharagraff (10), ni fydd yr ymgeisydd hwnnw yn dal wedi ei enwebu mwyach.
  • (12) Rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon i’r Comisiwn Etholiadol gopi o’r datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd.

Defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin yn y datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd

18
  • (1) Mae’r rheol hon yn gymwys—
  • (a) pan fo papur enwebu unigolyn person yn rhoi enwau blaen neu gyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin yn unol â rheol 5(5), a
  • (b) pan fo rhestr plaid yn rhoi enw blaen neu gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer ymgeisydd ar y rhestr honno yn unol â rheol 6(7).
  • (2) Rhaid i’r datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd ddangos enwau blaen neu gyfenwau’r person a ddefnyddir yn gyffredin, yn hytrach na’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddatganwyd yn y papur enwebu yn unol â rheolau 5(4)(a) a 6(6), oni bai bod y swyddog canlyniadau’n penderfynu—
  • (a) y gallai defnyddio enwau blaen neu gyfenwau’r person a ddefnyddir yn gyffredin fod yn debygol o gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu
  • (b) bod yr enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin yn anweddus neu’n dramgwyddus.
  • (3) Pan fo paragraff (2)(a) neu (b) yn gymwys—
  • (a) rhaid i’r datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd ddangos enwau blaen neu gyfenwau eraill y person fel y’u datganwyd yn y papur enwebu yn unol â rheolau 5(4)(a) a 6(6), yn hytrach na’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin, a
  • (b) rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i’r ymgeisydd yn datgan y rhesymau dros wrthod caniatáu defnyddio’r enwau blaen neu’r cyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin.

Enwau sydd yr un fath neu’n debyg

19
  • (1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau, wrth lunio datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd, yn penderfynu—
  • (a) bod dau neu ragor o’r enwau a fyddai’n cael eu dangos ar y datganiad yr un fath neu mor debyg nes eu bod yn debygol o achosi dryswch,
  • (b) bod pob un o’r personau o dan sylw wedi gwneud datganiad eu bod yn ei gwneud yn ofynnol i’w cyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi (gweler rheol 8(4)), ac
  • (c) bod yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 8(5) yr un fath ar gyfer pob un ohonynt.
  • (2) Caiff y swyddog canlyniadau drefnu i unrhyw un neu ragor o’u manylion gael ei ddangos neu eu dangos ar y datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd gydag unrhyw ddiwygiadau neu ychwanegiadau y mae’r swyddog canlyniadau yn meddwl eu bod yn briodol er mwyn lleihau’r tebygolrwydd o ddryswch.
  • (3) Wrth benderfynu a ddylid gwneud diwygiadau neu ychwanegiadau o dan y rheol hon, rhaid i’r swyddog canlyniadau roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan y Comisiwn Etholiadol at ddibenion y rheol hon.
  • (4) Pan fo’n ymarferol gwneud hynny cyn cyhoeddi’r datganiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau ymgynghori ag unrhyw bersonau y bwriedir diwygio’u manylion neu ychwanegu at eu manylion o dan y rheol hon.
  • (5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i unrhyw berson y diwygiwyd ei fanylion neu yr ychwanegwyd at ei fanylion o dan y rheol hon, yn nodi’r diwygiadau neu’r ychwanegiadau.
  • (6) Ni chaniateir i unrhyw beth a wneir gan swyddog canlyniadau o dan y rheol hon gael ei gwestiynu mewn unrhyw achos ac eithrio achos ar ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd.

Cywiro mân wallau mewn papurau enwebu, ffurflenni cyfeiriad cartref neu ffurflenni cydsynio ag enwebiad

20
  • (1) Caiff swyddog canlyniadau, unrhyw bryd cyn cyhoeddi’r datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd, gywiro mân wallau mewn papur enwebu, ffurflen cyfeiriad cartref neu ffurflen cydsynio ag enwebiad.
  • (2) Mae’r gwallau y caniateir eu cywiro yn cynnwys—
  • (a) gwallau sillafu amlwg;
  • (b) gwallau o ran yr wybodaeth a roddwyd yn unol â rheol 8(5) (gwybodaeth y mae rhaid ei chynnwys pan fo’r ymgeisydd wedi datgan na chaniateir cyhoeddi’r cyfeiriad cartref).
  • (3) Ni chaniateir i unrhyw beth a wneir gan swyddog canlyniadau o dan y rheol hon gael ei gwestiynu mewn unrhyw achos ac eithrio achos ar ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd.
  • (4) Wrth benderfynu a ddylid cywiro mân wallau o dan y rheol hon, rhaid i swyddog canlyniadau roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddwyd gan y Comisiwn Etholiadol at ddibenion y rheol hon.

Edrych ar bapurau enwebu a ffurflenni cydsynio ag enwebiad

21
  • (1) Yn ystod yr amser ar gyfer edrych, caiff unrhyw berson edrych ar bapurau enwebu a ffurflenni cydsynio ag enwebiad sydd wedi eu danfon.
  • (2) Ym mharagraff (1), ystyr “yr amser ar gyfer edrych” yw oriau swyddfa arferol ar unrhyw ddiwrnod ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu a chyn diwrnod y pôl, ac eithrio diwrnod eithriedig.
  • (3) Caiff person sy’n edrych ar bapurau enwebu neu ffurflenni cydsynio ag enwebiad gymryd copi o’r papurau, neu godi dyfyniadau ohonynt.
  • (4) Pan fo papurau enwebu wedi eu danfon yn unol â’r datganiad danfon electronig, rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd camau rhesymol i sicrhau eu bod ar gael i edrych arnynt.

Edrych ar ffurflenni cyfeiriad cartref

22
  • (1) Yn ystod yr amser ar gyfer edrych, caniateir i unrhyw un neu ragor o’r canlynol sy’n dymuno gwneud hynny, edrych ar ffurflen cyfeiriad cartref ymgeisydd unigol neu ymgeisydd rhestr plaid sy’n dal wedi ei enwebu (“ymgeisydd A”)—
  • (a) ymgeisydd unigol neu ymgeisydd rhestr plaid arall (“ymgeisydd B”) sy’n dal wedi ei enwebu yn yr un etholaeth ag ymgeisydd A,
  • (b) asiant etholiad neu danysgrifiwr ymgeisydd B, neu
  • (c) pan fo ymgeisydd B yn ymgeisydd unigol ac yn gweithredu fel ei asiant etholiad ei hun, person arall a ddewisir gan ymgeisydd B.
  • (2) Pan fo person wedi ei enwebu gan fwy nag un papur enwebu, mae’r cyfeiriad at y tanysgrifiwr ym mharagraff (1)(b) yn cyfeirio at—
  • (a) y tanysgrifiwr ar y papur enwebu a ddewisir gan yr ymgeisydd, neu
  • (b) yn absenoldeb dewis o’r fath, y papur enwebu a ddanfonwyd gyntaf yn unol â rheol 5(2) neu 6(2).
  • (3) Ym mharagraff (1), ystyr “yr amser ar gyfer edrych” yw oriau swyddfa arferol ar unrhyw ddiwrnod ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu a chyn diwrnod y pôl, ac eithrio diwrnod eithriedig.
  • (4) Pan fo ffurflen cyfeiriad cartref wedi ei danfon yn unol â’r datganiad danfon electronig, rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y ffurflen honno ar gael i’r personau a grybwyllir ym mharagraff (1) i edrych arnynt.
  • (5) Ni chaiff ymgeisydd neu berson arall sy’n edrych o dan y rheol hon gymryd copi o ffurflen cyfeiriad cartref na chodi dyfyniadau ohoni.
  • (6) Ni chaiff y swyddog canlyniadau ganiatáu edrych ar ffurflen cyfeiriad cartref ac eithrio yn unol â’r rheol hon neu at ryw ddiben arall a awdurdodir gan y gyfraith.
  • (7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddinistrio ffurflen cyfeiriad cartref pob ymgeisydd—
  • (a) drannoeth y pymthegfed diwrnod ar hugain ar ôl i’r swyddog canlyniadau ddychwelyd enw’r aelod a etholwyd, neu
  • (b) os cyflwynir deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd sy’n cwestiynu’r etholiad neu’r dychweliad cyn y diwrnod hwnnw, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r achos ynglŷn â’r ddeiseb neu’r apêl sy’n deillio o’r achos hwnnw ddod i ben.
  • (8) At ddibenion paragraff (7)(a), rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod sy’n ddiwrnod eithriedig.

Gohirio gweithdrefnau enwebu os ceir terfysg

23
  • (1) Mae’r rheol hon yn gymwys os torrir ar draws gweithdrefnau ar gyfer enwebu, neu mewn cysylltiad ag enwebu, neu os rhwystrir y gweithdrefnau hynny, ar unrhyw ddiwrnod gan derfysg neu drais agored.
  • (2) Rhaid rhoi’r gorau i’r gweithdrefnau am y diwrnod hwnnw.
  • (3) Os y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu yw’r diwrnod y rhoddir y gorau i’r gweithdrefnau, rhaid ailddechrau’r gweithdrefnau drannoeth.
  • (4) Pan fo paragraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol bod y gweithdrefnau yn ailddechrau drannoeth, mae’r dyddiadau cau a bennir yn ail golofn yr amserlen yn rheol 1 ar gyfer danfon papurau enwebu, danfon hysbysiadau tynnu ymgeisyddiaeth yn ôl a chyhoeddi’r datganiad o’r personau a enwebwyd i gyd yn cael eu hestyn un diwrnod.
  • (5) Pan roddir y gorau i weithdrefnau o dan y rheol hon—
  • (a) ni chaniateir i ddim byd gael ei wneud ar ôl ailddechrau’r gweithdrefnau os oedd yr amser ar gyfer ei wneud wedi mynd heibio pan roddwyd y gorau i’r gweithdrefnau, a
  • (b) nid yw dim byd a wnaed cyn rhoi’r gorau i’r gweithdrefnau yn annilys oherwydd rhoi’r gorau iddynt.

Dull ethol

24
  • (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw’r datganiad o’r pleidiau a’r personau sy’n dal wedi eu henwebu mewn etholiad etholaethol yn dangos mwy o ymgeiswyr, pa un ai fel ymgeiswyr unigol neu ymgeiswyr rhestr plaid, na nifer y seddi ar gyfer yr etholaeth honno, rhaid cynnal pôl yn unol â Rhan 3 o’r rheolau hyn.
  • (2) Pan fo pob ymgeisydd wedi ei gynnwys ar yr un rhestr plaid, datgenir bod yr ymgeiswyr hynny wedi eu hethol yn unol â Rhan 4 o’r rheolau hyn yn y drefn y maent wedi eu cynnwys ar y rhestr honno, gan ddechrau gyda’r uchaf, hyd at nifer y seddi ar gyfer yr etholaeth.
  • (3) Ond os yw’r datganiad o’r pleidiau a’r personau sy’n dal wedi eu henwebu yn dangos bod nifer yr ymgeiswyr, pa un ai fel ymgeiswyr unigol neu ymgeiswyr rhestr plaid, yr un fath â nifer y seddi ar gyfer yr etholaeth, neu’n llai na’r nifer hwnnw, rhaid datgan bod yr ymgeiswyr hynny wedi eu hethol yn unol â Rhan 4 o’r rheolau hyn.
  • (4) Mae paragraff (2) neu (3) hefyd yn gymwys pan fo hysbysiad y pôl mewn etholiad etholaethol yn cael ei ddiddymu neu pan roddir y gorau i’r pôl o dan reol 72(1) (etholiad yn dod yn un nas ymleddir drwy farwolaeth ymgeisydd).

Y pôl i’w gynnal drwy bleidlais gudd

25
  • (1) Rhaid i’r pleidleisiau yn y pôl gael eu rhoi drwy bleidlais gudd.
  • (2) Rhaid canfod y canlyniad ar ôl cyfrif y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd unigol neu bob plaid wleidyddol gofrestredig ym mhob etholaeth.
  • (3) Rhaid datgan bod yr ymgeiswyr a ddychwelir yn aelodau o’r Senedd, yn unol ag adrannau 8 a 9 o Ddeddf 2006115, wedi eu hethol.

Y papurau pleidleisio

26
  • (1) Rhaid i bleidlais gudd pob pleidleisiwr fod yn bapur pleidleisio.
  • (2) Dim ond y canlynol, a neb arall, sydd â hawlogaeth i gael eu henwau a’u disgrifiadau wedi eu gosod ar bapur pleidleisio—
  • (a) y pleidiau gwleidyddol cofrestredig sydd wedi cyflwyno rhestr plaid ac a ddangosir yn y datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd, ynghyd â’r ymgeiswyr rhestr plaid sy’n ymddangos ar restr plaid pob plaid o’r fath ac fel ymgeiswyr sy’n dal wedi eu henwebu, a
  • (b) y personau a ddangosir yn y datganiad hwnnw fel rhai sy’n dal wedi eu henwebu fel ymgeiswyr unigol.
  • (3) Rhaid i bapur pleidleisio—
  • (a) bod yn ffurf 12 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, a
  • (b) bod wedi ei argraffu yn unol â’r cyfarwyddiadau yn ffurf 13 yn yr Atodlen honno.
  • (4) Rhaid i’r papur pleidleisio—
  • (a) cynnwys enwau’r ymgeiswyr unigol a ddangosir yn y datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd, ond ni chaiff gynnwys gwybodaeth am gyfeiriad cartref ymgeisydd,
  • (b) cynnwys enwau neu ddisgrifiadau’r pleidiau gwleidyddol cofrestredig a ddangosir yn y datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd, ynghyd ag enwau’r ymgeiswyr sydd wedi eu cynnwys ar restrau’r pleidiau hynny,
  • (c) pan fo plaid wleidyddol gofrestredig wedi dewis defnyddio’r gair “Wales”, “Welsh”, “Cymru” neu “Cymreig” yn enw’r blaid gofrestredig fel a nodir yn rheolau 6(4) a 7(2) a (3), arddangos y gair hwnnw neu’r geiriau hynny ar y papur pleidleisio,
  • (d) gallu cael ei blygu, ac
  • (e) bod â rhif a marc adnabod unigryw arall wedi eu hargraffu ar y cefn.
  • (5) Rhaid i drefn—
  • (a) enwau neu ddisgrifiadau’r pleidiau gwleidyddol cofrestredig, a
  • (b) yr ymgeiswyr unigol,

yn y papur pleidleisio fod yr un fath ag yn y datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd.

  • (6) Os bydd tystysgrif sy’n dod i law’r swyddog canlyniadau o dan reol 7(1) yn gofyn am i arwyddlun plaid wleidyddol gofrestredig, neu un o arwyddluniau cofrestredig y blaid, gael ei ddangos ar y papur pleidleisio, rhaid i’r papur pleidleisio hefyd gynnwys yr arwyddlun hwnnw i’r dde i enw’r blaid.

Rhestr rhifau cyfatebol

27
  • (1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau lunio rhestr (“y rhestr rhifau cyfatebol”) yn unol â’r rheol hon.
  • (2) Rhaid i’r rhestr rhifau cyfatebol fod mewn dwy ran.
  • (3) Rhaid i Ran 1 gynnwys rhifau a marciau adnabod unigryw yr holl bapurau pleidleisio sydd i’w dyroddi yn unol â rheol 32(1) (papurau pleidleisio drwy’r post).
  • (4) Rhaid i Ran 2 gynnwys rhifau, ond nid marciau adnabod unigryw, yr holl bapurau pleidleisio sydd i’w darparu yn unol â rheol 37(1) (darparu blychau pleidleisio a phapurau pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio).
  • (5) Rhaid i’r rhestr rhifau cyfatebol fod yn ffurf 14 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, neu ffurf i’r un perwyl.

Y marc swyddogol

28
  • (1) Rhaid i bob papur pleidleisio gynnwys marc diogelwch priodol (“y marc swyddogol”).
  • (2) Rhaid cadw’r marc swyddogol yn gyfrinachol.
  • (3) Rhaid i gyfnod o ddim llai na saith mlynedd fynd heibio rhwng defnyddio’r un marc swyddogol mewn etholiad ar gyfer yr un etholaeth Senedd.
  • (4) Caiff y swyddog canlyniadau ddefnyddio marc swyddogol gwahanol at ddibenion gwahanol yn yr un etholiad.

Gwahardd datgelu pleidlais

29

Ni chaniateir ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi pleidleisio yn yr etholiad ddatgan dros bwy y pleidleisiodd mewn unrhyw achos cyfreithiol i gwestiynu’r etholiad.

Defnyddio ysgolion ac ystafelloedd cyhoeddus

30
  • (1) Caiff y swyddog canlyniadau ddefnyddio unrhyw un neu ragor o’r ystafelloedd a ganlyn yn rhad ac am ddim at ddiben cynnal y pôl neu gyfrif y pleidleisiau—
  • (a) ystafell mewn ysgol a gynhelir neu a gynorthwyir gan gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
  • (b) ystafell mewn ysgol y mae grantiau’n cael eu rhoi mewn cysylltiad â hi o arian a ddarperir gan y Senedd i’r person neu’r corff sy’n gyfrifol am reoli’r ysgol;
  • (c) unrhyw ystafell arall os yw cost cynnal a chadw’r ystafell yn daladwy yn gyfan gwbl neu’n bennaf o arian cyhoeddus.
  • (2) Pan ddefnyddir ystafell a ddisgrifir ym mharagraff (1) er mwyn cynnal y pôl neu gyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
  • (a) cywiro unrhyw ddifrod i’r ystafell sy’n deillio o’i defnyddio at y diben hwnnw, a
  • (b) talu unrhyw gost y mae’r person neu’r corff sydd â rheolaeth dros yr ystafell yn mynd iddi oherwydd ei defnyddio at y diben hwnnw.
  • (3) Nid yw defnyddio ystafell mewn adeilad heb ei feddiannu at y diben hwnnw yn peri bod person yn agored i dalu unrhyw dreth gyngor neu drethi annomestig.

Hysbysiad pôl

31
  • (1) Rhaid i’r datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd sy’n ofynnol gan reol 17 gynnwys hysbysiad o’r pôl yn datgan y diwrnod a’r oriau a bennwyd ar gyfer y pôl.
  • (2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn cyhoeddi hysbysiad o’r pôl, neu yr un pryd, hefyd gyhoeddi hysbysiad—
  • (a) o safle pob gorsaf bleidleisio, a
  • (b) o’r disgrifiad o bleidleiswyr sydd â hawlogaeth i bleidleisio yno.
  • (3) Caniateir cyfuno’r hysbysiad sy’n ofynnol yn unol â pharagraff (2) â’r datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd sy’n ofynnol gan reol 17.
  • (4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad o dan baragraff (2), roi copi ohono i bob un o’r asiantiaid etholiad a benodir yn unol ag erthygl 39.

Papurau pleidleisio drwy’r post

32
  • (1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, yn unol ag Atodlen 2, ddyroddi i’r rhai sydd â hawlogaeth i bleidleisio drwy’r post—
  • (a) papur pleidleisio, a
  • (b) datganiad pleidlais drwy’r post,

yn y ffurfiau a nodir yn Atodlen 10, ynghyd ag unrhyw amlenni ar gyfer dychwelyd y papur pleidleisio a’r datganiad pleidlais drwy’r post a ragnodir gan Atodlen 2.

  • (2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddyroddi i’r rhai sydd â hawlogaeth i bleidleisio drwy’r post unrhyw wybodaeth y mae’r swyddog canlyniadau yn ystyried ei bod yn briodol ynghylch sut i gael—
  • (a) cyfieithiadau i ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg o unrhyw gyfarwyddiadau neu ganllawiau i bleidleiswyr a anfonir gyda’r papur pleidleisio,
  • (b) cyfieithiad i Braille o’r cyfarwyddiadau neu’r canllawiau hynny,
  • (c) delweddau graffig o’r cyfarwyddiadau neu’r canllawiau hynny, a
  • (d) y cyfarwyddiadau neu’r canllawiau ar unrhyw ffurf arall, gan gynnwys unrhyw ffurf glywadwy.
  • (3) Rhaid i’r datganiad pleidlais drwy’r post gynnwys darpariaeth—
  • (a) i’r ffurflen gael ei llofnodi gan yr etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, gan y dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad am lofnod, a
  • (b) ar gyfer datgan dyddiad geni’r etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, ddyddiad geni’r dirprwy.
  • (4) Yn achos papur pleidleisio a ddyroddir i berson mewn cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, rhaid i’r swyddog canlyniadau sicrhau bod y pleidleisiwr yn gallu dychwelyd y papur pleidleisio a’r datganiad pleidlais drwy’r post yn rhad ac am ddim.

Dychwelyd papurau pleidleisio drwy’r post

33
  • (1) Pan fo pleidlais bost wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â pherson sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr pleidleiswyr drwy’r post, rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio’r rhestr briodol yn y dull a ragnodir yn Atodlen 2.
  • (2) Pan fo pleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd mewn cysylltiad â dirprwy sydd wedi ei gofnodi ar y rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy, rhaid i’r swyddog canlyniadau farcio’r rhestr briodol yn y dull a ragnodir yn Atodlen 2.
  • (3) Nid yw rheol 58(7) yn gymwys at ddiben penderfynu, at ddibenion y rheol hon, a yw pleidlais bost neu bleidlais bost drwy ddirprwy wedi ei dychwelyd.

Darparu gorsafoedd pleidleisio

34
  • (1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau—
  • (a) darparu nifer digonol o orsafoedd pleidleisio, a
  • (b) yn ddarostyngedig i baragraff (3), dyrannu’r etholwyr i’r gorsafoedd pleidleisio.
  • (2) Caniateir darparu un neu ragor o orsafoedd pleidleisio yn yr un ystafell.
  • (3) Rhaid i’r orsaf bleidleisio a ddyrennir i etholwyr o unrhyw ddosbarth pôl fod yn y man pleidleisio ar gyfer y dosbarth hwnnw.
  • (4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob gorsaf bleidleisio unrhyw nifer o fythau sy’n angenrheidiol lle gall pleidleiswyr farcio’u pleidleisiau wedi eu sgrinio heb gael eu gweld.

Penodi swyddogion llywyddu a chlercod

35
  • (1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau benodi a thalu—
  • (a) swyddog llywyddu i fod yn bresennol ym mhob gorsaf bleidleisio, a
  • (b) unrhyw nifer o glercod sy’n angenrheidiol at ddibenion y pôl neu’r cyfrif neu fel arall at ddibenion yr etholiad.
  • (2) Ni chaiff y swyddog canlyniadau benodi’n fwriadol yn swyddog llywyddu neu glerc—
  • (a) ymgeisydd unigol,
  • (b) ymgeisydd rhestr plaid, nac
  • (c) person a gyflogwyd gan neu ar ran ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol gofrestredig mewn cysylltiad â’r etholiad.
  • (3) Caiff y swyddog canlyniadau lywyddu mewn gorsaf bleidleisio.
  • (4) Pan fo’r swyddog canlyniadau yn llywyddu mewn gorsaf bleidleisio, mae’r rheolau hyn yn gymwys i’r swyddog canlyniadau sy’n llywyddu felly gyda’r addasiadau angenrheidiol o ran pethau a wneir gan y swyddog canlyniadau mewn perthynas â’r swyddog llywyddu neu gan y swyddog llywyddu mewn perthynas â’r swyddog canlyniadau.
  • (5) Caiff swyddog llywyddu awdurdodi’r clercod i wneud unrhyw beth, gan gynnwys gofyn cwestiynau, y mae’r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu ei wneud neu’n ei awdurdodi i’w wneud, ac eithrio gorchymyn i unrhyw berson gael ei arestio, ei wahardd neu ei symud o’r orsaf bleidleisio.

Dyroddi cardiau pleidleisio swyddogol

36
  • (1) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad, rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon neu ddanfon—
  • (a) cerdyn pleidleisio swyddogol i etholwyr nad ydynt yn pleidleisio drwy’r post,
  • (b) cerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post i etholwyr sy’n pleidleisio drwy’r post ac nid drwy ddirprwy,
  • (c) cerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy i berson sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr ac nid drwy’r post, a
  • (d) cerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy i berson sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr drwy’r post.
  • (2) Rhaid i gerdyn pleidleisio swyddogol neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad cymhwysol yr etholwr.
  • (3) Rhaid i gerdyn swyddogol pleidleisio drwy ddirprwy neu gerdyn swyddogol pleidleisio drwy’r post drwy ddirprwy gael ei anfon neu ei ddanfon i gyfeiriad y dirprwy, fel y’i dangosir yn y rhestr dirprwyon.
  • (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i bob cerdyn pleidleisio fod yn y ffurf briodol a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10 neu ffurf i’r un perwyl a rhaid iddo nodi—
  • (a) enw’r etholaeth Senedd y mae’r aelodau i’w hethol iddi,
  • (b) enw, cyfeiriad cymhwysol a rhif cofrestr yr etholwr,
  • (c) dyddiad y pôl, yr oriau pleidleisio a safle gorsaf bleidleisio’r etholwr, ac
  • (d) unrhyw wybodaeth arall, nad yw’n ymwneud ag unrhyw ymgeisydd neu blaid wleidyddol gofrestredig, y mae’r swyddog canlyniadau yn ystyried ei bod yn briodol.
  • (5) Nid yw paragraff (4)(c) yn gymwys i gardiau pleidleisio a ddyroddir i bleidleiswyr drwy’r post a phleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy (ffurfiau 17 a 18 yn Atodlen 10).
  • (6) Caniateir i wybodaeth wahanol gael ei darparu o dan baragraff (4)(d) i wahanol etholwyr neu ddisgrifiadau o etholwr.
  • (7) Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw, rhaid i’r cerdyn pleidleisio—
  • (a) cynnwys unrhyw wybodaeth a bennir yn y ffurf briodol yn Atodlen 10 yn hytrach na’r wybodaeth a nodir ym mharagraff (4)(b), a
  • (b) cael ei anfon neu ei ddanfon mewn amlen neu fath arall o orchudd fel nad yw’n datgelu bod gan yr etholwr gofnod dienw.
  • (8) Yn y rheol hon, o ran “etholwr”—
  • (a) ei ystyr yw person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr ar gyfer etholaeth y Senedd ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o’r etholiad, a
  • (b) mae’n cynnwys person a ddangosir y pryd hwnnw yn y gofrestr neu, yn achos person sydd â chofnod dienw yn y gofrestr, yn y cofnod o gofnodion dienw, fel person sydd o dan yr oedran pleidleisio, ond dim ond os yw’n ymddangos o’r gofrestr, neu o’r cofnod o gofnodion dienw, y bydd y person o oedran pleidleisio ar y diwrnod a bennwyd ar gyfer y pôl.

Cyfarpar gorsaf bleidleisio

37
  • (1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i bob swyddog llywyddu unrhyw nifer o flychau pleidleisio a phapurau pleidleisio y mae’r swyddog canlyniadau yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
  • (2) Rhaid i bob blwch pleidleisio fod wedi ei adeiladu fel y gellir rhoi papurau pleidleisio ynddo, ond na ellir eu tynnu’n ôl ohono, heb i’r blwch gael ei ddatgloi neu, pan nad oes clo ar y blwch, heb i’r sêl gael ei thorri.
  • (3) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu i’r swyddog llywyddu ym mhob gorsaf bleidleisio—
  • (a) deunyddiau i alluogi’r pleidleiswyr i farcio’r papurau pleidleisio,
  • (b) copïau o’r gofrestr etholwyr berthnasol,
  • (c) copïau o unrhyw hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983116 i’r graddau y maent yn ymwneud â’r gofrestr etholwyr berthnasol (hysbysiadau mewn cysylltiad ag addasiadau i’r gofrestr),
  • (d) copïau o’r rhannau o unrhyw restrau o bersonau sydd â hawlogaeth i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy sy’n cyfateb i’r gofrestr etholwyr berthnasol, ac
  • (e) rhestr (“rhestr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio”) sy’n cynnwys y rhan honno o Ran 2 o’r rhestr rhifau cyfatebol a luniwyd o dan reol 27 sy’n cynnwys y rhifau, ond nid y marciau adnabod unigryw eraill, sy’n cyfateb i’r rhai ar y papurau pleidleisio a ddarperir i’r swyddog llywyddu o dan baragraff (1).
  • (4) Caniateir darparu’r dogfennau a ddarperir yn unol â pharagraff (3)(b), (d) ac (e) ar ffurf papur neu ar ffurf electronig.
  • (5) Ym mharagraff (3), ystyr “y gofrestr etholwyr berthnasol” yw’r gofrestr etholwyr ar gyfer yr etholaeth neu unrhyw ran ohoni sy’n cynnwys y cofnodion sy’n ymwneud â’r etholwyr a ddyrannwyd i’r orsaf bleidleisio.
  • (6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau achosi i gopi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio sy’n cydymffurfio ag erthygl 138(4) a (6) gael ei arddangos ym mhob gorsaf bleidleisio.
  • (7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd ddarparu i bob gorsaf bleidleisio—
  • (a) copi sampl wedi ei ehangu o’r papur pleidleisio i’w ddal yn y llaw sy’n cydymffurfio ag erthygl 138(6), er mwyn cynorthwyo pleidleiswyr sy’n rhannol ddall, a
  • (b) unrhyw gyfarpar y mae’n rhesymol ei ddarparu at ddibenion galluogi personau perthnasol i bleidleisio’n annibynnol, neu ei gwneud yn haws iddynt wneud hynny, yn y dull a gyfarwyddir gan reol 48, gan gynnwys mewn perthynas â phleidleisio’n gyfrinachol.
  • (8) Yn y rheol hon, ystyr “personau perthnasol” yw personau sy’n ei chael yn anodd neu’n amhosibl pleidleisio yn y dull a gyfarwyddir gan reol 46 oherwydd—
  • (a) amhariad difrifol ar y golwg neu ddallineb rhannol, neu
  • (b) anabledd arall.
  • (9) Rhaid i’r copi sampl o’r papur pleidleisio y mae’n ofynnol ei arddangos a’i ddarparu o dan baragraffau (6) a (7)(a) gael ei farcio’n glir fel sbesimen a’i ddarparu i arwain y pleidleiswyr yn unig.
  • (10) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd achosi i hysbysiad yn ffurf 19 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, yn rhoi cyfarwyddiadau i arwain y pleidleiswyr wrth bleidleisio, gael ei arddangos—
  • (a) y tu mewn i bob gorsaf bleidleisio, ond y tu allan i’r bythau pleidleisio, a
  • (b) y tu allan i bob gorsaf bleidleisio.
  • (11) Rhaid i’r datganiad priodol o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd y cyfeirir ato yn rheol 17 gael ei argraffu mewn nodau amlwg a’i dangos y tu mewn a’r tu allan i bob gorsaf bleidleisio.
  • (12) Rhaid dangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn y tu mewn i bob bwth pleidleisio ym mhob gorsaf bleidleisio—
  • “Pleidleisiwch unwaith yn unig ar y papur pleidleisio. Peidiwch â rhoi unrhyw farc arall ar y papur pleidleisio, neu mae’n bosibl na chaiff eich pleidlais ei chyfrif.
  • Vote only once on the ballot paper. Put no other mark on the ballot paper or your vote may not be counted.”
  • (13) Rhaid i’r Comisiwn Etholiadol roi canllawiau i swyddogion canlyniadau mewn perthynas â’r ddyletswydd a osodir gan baragraff (7)(b).
  • (14) Cyn rhoi canllawiau o dan baragraff (13), rhaid i’r Comisiwn Etholiadol ymgynghori ag unrhyw bersonau, gan gynnwys cyrff sy’n cynrychioli buddiannau personau perthnasol, y mae’n ystyried eu bod yn briodol.
  • (15) Wrth gyflawni’r ddyletswydd a osodir gan baragraff (7)(b), rhaid i swyddog canlyniadau roi sylw i ganllawiau a roddir o dan baragraff (13).

Penodi asiantiaid pôl ac asiantiaid cyfrif

38
  • (1) Cyn i’r pôl ddechrau, caiff ymgeisydd unigol ac asiant etholiad plaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu benodi—
  • (a) asiantiaid pôl i fod yn bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio er mwyn canfod cambersonadu, a
  • (b) asiantiaid cyfrif i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif.
  • (2) Caiff y swyddog canlyniadau gyfyngu ar nifer yr asiantiaid cyfrif y caniateir eu penodi o dan baragraff (1)—
  • (a) fel bod y nifer yr un fath ar gyfer pob ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol gofrestredig, a
  • (b) fel nad yw’r nifer a ganiateir i ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol gofrestredig, ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig, yn llai na’r nifer a geir drwy rannu nifer y clercod a gyflogir yn y cyfrif â nifer yr ymgeiswyr unigol a’r pleidiau gwleidyddol cofrestredig sy’n dal wedi eu henwebu.
  • (3) Rhaid i’r person sy’n gwneud penodiad o dan baragraff (1) roi hysbysiad mewn ysgrifen o’r penodiad i’r swyddog canlyniadau.
  • (4) Rhaid i’r hysbysiad—
  • (a) rhoi enwau, cyfeiriadau post a chyfeiriadau e-bost, pan fônt ar gael, y personau a benodwyd, a
  • (b) cael ei roi dim hwyrach na’r pumed diwrnod cyn diwrnod y pôl, gan ddiystyru unrhyw ddiwrnod eithriedig.
  • (5) Os bydd asiant pôl neu asiant cyfrif yn marw neu’n dod yn analluog i weithredu—
  • (a) caiff y person a wnaeth y penodiad benodi asiant arall yn ei le, a
  • (b) rhaid i’r person hwnnw roi hysbysiad i’r swyddog canlyniadau ar unwaith yn datgan enw, cyfeiriad post a chyfeiriad e-bost yr asiant arall, pan fônt ar gael.

Asiantiaid pôl ac asiantiaid cyfrif: darpariaeth atodol

39
  • (1) Caiff ymgeisydd unigol neu asiant etholiad ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu—
  • (a) gwneud unrhyw beth y mae asiant pôl neu asiant cyfrif yr ymgeisydd hwnnw neu’r blaid honno wedi ei awdurdodi i’w wneud, neu y byddai wedi ei awdurdodi i’w wneud, pe bai wedi ei benodi;
  • (b) cynorthwyo asiant pôl neu asiant cyfrif yr ymgeisydd hwnnw neu’r blaid honno i wneud unrhyw beth y mae’r asiant pôl neu’r asiant cyfrif wedi ei awdurdodi i’w wneud.
  • (2) Caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu yr awdurdodir ei wneud o dan y rheolau hyn ym mhresenoldeb yr asiantiaid pôl neu’r asiantiaid cyfrif gael ei wneud yn hytrach ym mhresenoldeb asiant etholiad yr ymgeisydd unigol neu’r blaid.
  • (3) Pan fo’r rheolau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i rywbeth gael ei wneud neu’n awdurdodi gwneud rhywbeth ym mhresenoldeb asiantiaid y pôl neu’r asiantiaid cyfrif, nid yw diffyg presenoldeb yr asiant neu’r asiantiaid ar yr amser ac yn y lle a benodwyd yn peri bod y peth a wneir yn annilys.
  • (4) Caniateir i unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau ei roi i asiant cyfrif gael ei anfon i’r cyfeiriad post neu’r cyfeiriad e-bost a ddarparwyd yn yr hysbysiad penodi.
  • (5) Pan nad oes gan ymgeisydd unigol sy’n dal wedi ei enwebu neu blaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu asiant cyfrif, caiff y swyddog canlyniadau roi unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol ei roi i’r asiant cyfrif o dan y rheolau hyn i’r ymgeisydd neu i’r blaid.

Hysbysiad o ofyniad cyfrinachedd

40
  • (1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol mewn gorsaf bleidleisio, ac eithrio person a ddisgrifir ym mharagraff (2), wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau erthygl 35(1), (2), (4) a (7).
  • (2) Y personau nad yw’r ddyletswydd o dan baragraff (1) yn gymwys iddynt yw—
  • (a) person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio at ddiben pleidleisio;
  • (b) person o dan 16 oed sy’n mynd yng nghwmni pleidleisiwr i’r orsaf bleidleisio;
  • (c) person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio fel cydymaith pleidleisiwr ag anableddau;
  • (d) person sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio fel cwnstabl ar ddyletswydd.
  • (3) Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002117 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).

Derbyn i’r orsaf bleidleisio

41
  • (1) Rhaid i’r swyddog llywyddu wahardd pawb o’r orsaf bleidleisio ac eithrio—
  • (a) pleidleiswyr a ddyrannwyd i’r orsaf bleidleisio,
  • (b) personau o dan 16 oed sy’n mynd yng nghwmni pleidleiswyr i’r orsaf bleidleisio,
  • (c) yr ymgeiswyr unigol a’r ymgeiswyr rhestr plaid,
  • (d) asiantiaid etholiad ymgeiswyr unigol, neu mewn perthynas ag unrhyw blaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu, asiant etholiad y blaid honno mewn cysylltiad â’r rhestr a gyflwynwyd ganddi,
  • (e) asiantiaid y pôl a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio,
  • (f) y clercod a benodwyd i fod yn bresennol yn yr orsaf bleidleisio,
  • (g) y swyddog canlyniadau neu aelodau o staff y swyddog canlyniadau,
  • (h) personau sydd â hawlogaeth i fod yn bresennol yn rhinwedd unrhyw un neu ragor o adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000118 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig),
  • (i) y cwnstabliaid ar ddyletswydd, a
  • (j) cymdeithion pleidleiswyr ag anableddau.
  • (2) Rhaid i’r swyddog llywyddu reoleiddio cyfanswm nifer y pleidleiswyr a’r personau o dan 16 oed sydd yn eu cwmni a dderbynnir i’r orsaf bleidleisio yr un pryd.
  • (3) Ni chaniateir i fwy nag un ymgeisydd rhestr plaid o’r un rhestr plaid a gyflwynwyd gan blaid wleidyddol gofrestredig gael ei dderbyn yr un pryd i orsaf bleidleisio.
  • (4) Ni chaniateir i fwy nag un asiant pôl gael ei dderbyn yr un pryd i orsaf bleidleisio ar ran yr un ymgeisydd unigol neu ar ran yr un blaid wleidyddol gofrestredig.
  • (5) Caiff cwnstabl sy’n pleidleisio’n bersonol wneud hynny naill ai—
  • (a) yn yr orsaf bleidleisio a ddyrannwyd o dan y rheolau hyn, neu
  • (b) mewn gorsaf bleidleisio arall, os yw’r cwnstabl yn dangos ac yn ildio tystysgrif ar ffurf 2 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, neu ffurf i’r un perwyl, a lofnodwyd gan swyddog heddlu sydd â gradd arolygydd neu’n uwch.
  • (6) Caiff person a gyflogir gan y swyddog canlyniadau, os yw’n pleidleisio’n bersonol, wneud hynny naill ai—
  • (a) yn yr orsaf bleidleisio a ddyrannwyd o dan y rheolau hyn, neu
  • (b) mewn gorsaf bleidleisio arall, os yw’r person yn dangos ac yn ildio tystysgrif ar ffurf 2 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, neu ffurf i’r un perwyl, a lofnodwyd gan y swyddog canlyniadau.
  • (7) Rhaid i dystysgrif sy’n cael ei hildio o dan baragraff (5) neu (6) gael ei chanslo ar unwaith.
  • (8) Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).

Cadw trefn yn yr orsaf bleidleisio

42
  • (1) Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw trefn yn yr orsaf bleidleisio.
  • (2) Os bydd person yn camymddwyn mewn gorsaf bleidleisio, neu’n methu ag ufuddhau i unrhyw orchmynion a roddir yn gyfreithlon gan y swyddog llywyddu, caiff y swyddog llywyddu orchymyn i’r person gael ei symud o’r orsaf bleidleisio.
  • (3) Pan fo’r swyddog llywyddu yn gorchymyn bod person yn cael ei symud, caniateir i’r person gael ei symud ar unwaith—
  • (a) gan gwnstabl yn yr orsaf bleidleisio neu yn ei hymyl, neu
  • (b) gan unrhyw berson arall a awdurdodir mewn ysgrifen gan y swyddog canlyniadau i symud pobl o’r orsaf bleidleisio.
  • (4) Pan fo person wedi ei symud, ni chaiff fynd yn ôl, heb ganiatâd y swyddog llywyddu, i’r orsaf bleidleisio ar ddiwrnod y pôl.
  • (5) Pan gyhuddir person sydd wedi ei symud o gyflawni trosedd yn yr orsaf bleidleisio, caniateir ymdrin â’r person fel person y mae cwnstabl wedi mynd ag ef i’r ddalfa am drosedd heb warant.
  • (6) Ni chaniateir i’r pwerau a roddir gan y rheol hon gael eu harfer er mwyn atal pleidleisiwr sydd fel arall â hawlogaeth i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio rhag cael cyfle i bleidleisio yn yr orsaf honno.

Selio’r blychau pleidleisio

43
  • (1) Rhaid i’r swyddog llywyddu gymryd y camau a ganlyn yn union cyn i’r pôl ddechrau.
  • (2) Rhaid i’r swyddog llywyddu ddangos y blwch pleidleisio gwag i’r bobl hynny, os oes rhai, sy’n bresennol yn yr orsaf bleidleisio, fel y gallant weld ei fod yn wag.
  • (3) Yna rhaid i’r swyddog llywyddu—
  • (a) cloi’r blwch, os oes iddo glo, a
  • (b) gosod sêl y swyddog llywyddu arno, mewn modd sy’n ei atal rhag cael ei agor heb dorri’r sêl.
  • (4) Yna rhaid i’r swyddog llywyddu osod y blwch, o fewn golwg y swyddog llywyddu, i dderbyn papurau pleidleisio.
  • (5) Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw’r blwch dan glo a than sêl neu, os nad oes iddo glo, ei gadw dan sêl.

Cwestiynau i’w gofyn i bleidleiswyr

44
  • (1) Adeg cais am bapur pleidleisio, ond nid wedyn, caiff y swyddog llywyddu ofyn i unrhyw berson a ddisgrifir yng ngholofn (1) o Dabl 1 (a nodir ym mharagraff (4)), neu yng ngholofn (1) o Dabl 2 (a nodir ym mharagraff (5)), un neu ragor o’r cwestiynau a nodir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofnau (2) a (3).
  • (2) Os bydd ymgeisydd neu asiant etholiad neu asiant pôl ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu yn ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu wneud hynny, rhaid i’r swyddog llywyddu ofyn i unrhyw berson a ddisgrifir yng ngholofn (1) o Dabl 1 un neu ragor o’r cwestiynau a nodir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofnau (2) a (3).
  • (3) Caniateir gofyn cwestiwn yn Saesneg (fel a nodir yng ngholofn (2) o’r Tablau) neu yn Gymraeg (fel a nodir yng ngholofn (3) o’r Tablau).
  • (4) Mae Tabl 1 yn nodi’r cwestiynau y caiff swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (1) ac y caiff ymgeisydd, neu asiant etholiad neu asiant pôl ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu, ei gwneud yn ofynnol iddynt gael eu gofyn o dan baragraff (2).
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3)
Disgrifiad Y cwestiwn sydd i’w ofyn yn Saesneg Y cwestiwn sydd i’w ofyn yn Gymraeg
1. Person sy’n gwneud cais fel etholwr 1(a) “Are you the person registered in the register of local government electors as follows?”Notes to 1(a)The presiding officer must then read the whole entry from the copies of the registration records.1(b) “Have you already voted, here or elsewhere, at this election, otherwise than as proxy for some other person?” 1(a) “Ai chi yw’r person sydd wedi ei gofrestru yn y gofrestr etholwyr llywodraeth leol fel a ganlyn?”Nodiadau ar 1(a)Yna rhaid i’r swyddog llywyddu ddarllen y cofnod cyfan o’r copïau o’r cofnodion cofrestru.1(b) “Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, fan hyn neu rywle arall, yn yr etholiad hwn, heblaw fel dirprwy ar ran rhyw berson arall?”
2. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ar ran etholwr ac eithrio etholwr sydd â chofnod dienw 2(a) “Are you the person whose name appears as AB in the list of proxies for this election as entitled to vote as proxy on behalf of CD?”2(b) “Have you already voted, here or elsewhere, at this election, as proxy on behalf of CD?”2(c) “Are you the spouse, civil partner, parent, grandparent, brother, sister or grandchild of CD?”Notes to 2(a) to (c)Where a question refers to AB, the presiding officer reads out the name as it appears in the list of proxies. Where a question refers to CD, the presiding officer reads out the name of the elector. 2(a) “Ai chi yw’r person y mae ei enw’n ymddangos fel AB yn y rhestr dirprwyon ar gyfer yr etholiad hwn fel person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran CD?”2(b) “Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, fan hyn neu rywle arall, yn yr etholiad hwn, fel dirprwy ar ran CD?”2(c) “Ai chi yw priod, partner sifil, rhiant, taid/tad-cu, nain/mam-gu, brawd, chwaer, ŵyr neu wyres CD?”Nodiadau ar 2(a) i (c)Pan fo cwestiwn yn cyfeirio at AB, mae’r swyddog llywyddu’n darllen yr enw fel y mae’n ymddangos yn y rhestr dirprwyon. Pan fo cwestiwn yn cyfeirio at CD, mae’r swyddog llywyddu’n darllen enw’r etholwr.
3. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ar ran etholwr sydd â chofnod dienw, yn hytrach na’r cwestiynau yng nghofnod 2. 3(a) “Are you the person entitled to vote as proxy on behalf of the elector whose number on the register of electors is [X]?”3(b) “Have you already voted, here or elsewhere, at this election, as proxy on behalf of the elector whose number on the register of electors is [X]?”3(c) “Are you the spouse, civil partner, parent, grandparent, brother, sister, child or grandchild of the elector whose number on the register of electors is [X]?”Note to 3(a) to (c)Where the questions in this entry refer to [X], the presiding officer must read the elector’s number from the copies of the registration records. 3(a) “Ai chi yw’r person sydd â hawl i bleidleisio fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif [X] yn y gofrestr etholwyr?”3(b) “Ydych chi eisoes wedi pleidleisio, fan hyn neu rywle arall, yn yr etholiad hwn, fel dirprwy ar ran yr etholwr sydd â’r rhif [X] yn y gofrestr etholwyr?”3(c) “Ai chi yw priod, partner sifil, rhiant, taid/tad-cu, nain/mam-gu, brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres yr etholwr sydd â’r rhif [X] yn y gofrestr etholwyr?”Nodiadau ar 3(a) i (c)Pan fo’r cwestiynau yn y cofnod hwn yn cyfeirio at [X], rhaid i’r swyddog llywyddu ddarllen rhif yr etholwr o’r copïau o’r cofnodion cofrestru.
4. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy y gofynnwyd y cwestiwn sydd wedi ei rifo 2(c) neu 3(c) iddo ac nad yw wedi ateb “ie” 4 “At this election, have you already voted in this constituency on behalf of two persons of whom you are not the spouse, civil partner, parent, grandparent, brother, sister, child or grandchild?” 4. “Yn yr etholiad hwn, ydych chi eisoes wedi pleidleisio yn yr etholaeth hon ar ran dau berson nad ydych yn briod, yn bartner sifil, yn rhiant, yn daid/tad-cu neu’n nain/mam-gu, yn frawd, yn chwaer, yn blentyn, yn ŵyr neu’n wyres iddynt?”
  • (5) Mae Tabl 2 yn nodi’r cwestiynau y caiff swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (1), ond na chaniateir ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog llywyddu eu gofyn o dan baragraff (2).
Colofn (1) Colofn (2) Colofn (3)
Disgrifiad Y cwestiwn sydd i’w ofyn yn Saesneg Y cwestiwn sydd i’w ofyn yn Gymraeg
1. Person sy’n gwneud cais fel etholwr y ceir cofnod mewn perthynas ag ef yn y rhestr pleidleiswyr drwy’r post 1(a) “Did you apply to vote by post?”1(b) “Why have you not voted by post?” 1(a) “Wnaethoch chi gais am bleidleisio drwy’r post?”1(b) “Pam nad ydych chi wedi pleidleisio drwy’r post?”
2. Person sy’n gwneud cais fel dirprwy ac sydd wedi ei enwi yn y rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy 2(a) “Did you apply to vote by post as proxy?”2(b) “Why have you not voted by post as proxy?” 2(a) “Wnaethoch chi gais am bleidleisio drwy’r post fel dirprwy?”2(b) “Pam nad ydych chi wedi pleidleisio drwy’r post fel dirprwy?”
  • (6) Ni chaniateir rhoi papur pleidleisio i unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo ateb un neu ragor o’r cwestiynau yn Nhabl 1 neu 2 oni bai bod y person wedi ateb y cwestiwn neu’r cwestiynau’n foddhaol.
  • (7) Ac eithrio fel yr awdurdodir gan y rheol hon, ni chaniateir ymholi ynglŷn â hawl unrhyw berson i bleidleisio.
  • (8) Yn y rheol hon, ystyr “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yw’r copïau a ddarperir gan y swyddog canlyniadau ar gyfer yr orsaf bleidleisio o dan reol 37(3)(b) ac (c) (copïau o’r gofrestr etholwyr berthnasol a chopïau o unrhyw hysbysiadau a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 sy’n ymwneud â’r gofrestr etholwyr berthnasol).

Herio pleidleisiwr

45

Ni chaniateir atal person rhag pleidleisio dim ond oherwydd—

  • (a) bod ymgeisydd neu asiant etholiad neu asiant pôl ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol gofrestredig yn datgan bod ganddynt achos rhesymol dros gredu bod y person wedi cyflawni trosedd cambersonadu, neu
  • (b) bod y person wedi ei arestio ar y sail yr amheuir ei fod wedi cyflawni neu ar fin cyflawni trosedd cambersonadu.

Gweithdrefn pleidleisio

46
  • (1) Rhaid rhoi papur pleidleisio i bleidleisiwr sy’n gwneud cais am un.
  • (2) Yn union cyn i’r papur pleidleisio gael ei roi—
  • (a) rhaid i rif yr etholwr, fel y’i nodir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, gael ei alw,
  • (b) oni bai bod gan yr etholwr gofnod dienw, rhaid i enw’r etholwr, fel y’i nodir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, gael ei alw hefyd,
  • (c) rhaid i rif yr etholwr gael ei farcio ar restr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio wrth ochr rhif y papur pleidleisio sydd i’w ddyroddi,
  • (d) rhaid gosod marc yn y copïau o’r cofnodion cofrestru gyferbyn â rhif yr etholwr i nodi bod papur pleidleisio wedi dod i law, ond heb ddangos y papur pleidleisio penodol sydd wedi dod i law, ac
  • (e) yn achos person sy’n gwneud cais am bapur pleidleisio fel dirprwy, rhaid gosod marc hefyd gyferbyn ag enw’r person yn y rhestr dirprwyon.
  • (3) Yn achos etholwr sydd â chofnod dienw—
  • (a) dim ond os dangosir cerdyn pleidleisio swyddogol yr etholwr neu, pan fo’r etholwr yn pleidleisio drwy ddirprwy, gerdyn pleidleisio swyddogol y dirprwy, i’r swyddog llywyddu y caniateir rhoi’r papur pleidleisio, a
  • (b) dim ond rhif yr etholwr y caniateir ei alw.
  • (4) Ar ôl cael y papur pleidleisio, rhaid i’r pleidleisiwr fynd ar unwaith i un o’r bythau yn yr orsaf bleidleisio.
  • (5) Heb oedi’n ddiangen, rhaid wedyn i’r pleidleisiwr—
  • (a) marcio’r papur pleidleisio’n gyfrinachol,
  • (b) plygu’r papur pleidleisio er mwyn cuddio’r bleidlais,
  • (c) dangos cefn y papur pleidleisio i’r swyddog llywyddu, er mwyn datgelu’r rhif a’r marc adnabod unigryw arall, a
  • (d) rhoi’r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio ym mhresenoldeb y swyddog llywyddu.
  • (6) Cyn gynted ag y bydd y pleidleisiwr wedi rhoi’r papur pleidleisio yn y blwch pleidleisio, rhaid i’r pleidleisiwr adael yr orsaf bleidleisio.
  • (7) Os bydd pleidleisiwr yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, wrth i’r pôl gau ac nad yw wedi gallu bwrw ei bleidlais eto, rhaid i’r swyddog llywyddu ganiatáu i’r pleidleisiwr fwrw ei bleidlais cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
  • (8) Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 44 (gweler paragraff (8) o’r rheol honno).

Pleidleiswyr ag anabledd neu anallu i ddarllen: marcio pleidleisiau gan y swyddog llywyddu

47
  • (1) Caiff pleidleisiwr wneud cais i’r swyddog llywyddu am i’w bleidlais gael ei marcio—
  • (a) os nad yw’r pleidleisiwr, oherwydd amhariad difrifol ar y golwg neu anabledd arall, yn gallu pleidleisio yn y dull a gyfarwyddir gan y rheolau hyn, neu
  • (b) os yw’n datgan ar lafar nad yw’n gallu darllen.
  • (2) Pan wneir cais, rhaid i’r swyddog llywyddu, ym mhresenoldeb unrhyw asiantiaid pôl sydd yn yr orsaf bleidleisio pan wneir y cais—
  • (a) peri i bleidlais y pleidleisiwr gael ei marcio ar bapur pleidleisio yn y dull a gyfarwyddir gan y pleidleisiwr, a
  • (b) peri i’r papur pleidleisio gael ei osod yn y blwch pleidleisio.
  • (3) Pan fo pleidlais pleidleisiwr wedi ei marcio yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r swyddog llywyddu nodi’r manylion a ganlyn ar restr a gedwir gan y swyddog llywyddu at ddibenion y rheol hon (“y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu”)—
  • (a) enw a rhif y pleidleisiwr, fel y’u dangosir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, a
  • (b) y rheswm y cafodd y bleidlais ei marcio.
  • (4) Yn achos person sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, y rhif sydd i’w gofnodi ynghyd ag enw’r pleidleisiwr yn y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu yw rhif yr etholwr.
  • (5) Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 44 (gweler paragraff (8) o’r rheol honno).

Pleidleiswyr ag anabledd neu anallu i ddarllen: cymorth cymdeithion

48
  • (1) Caiff pleidleisiwr wneud cais i’r swyddog llywyddu, ar sail amhariad difrifol ar y golwg neu anabledd arall neu anallu i ddarllen, am ganiatâd i bleidleisio gyda chymorth cydymaith.
  • (2) Pan wneir cais, rhaid i’r swyddog llywyddu ei gwneud yn ofynnol i’r pleidleisiwr ddatgan, ar lafar neu mewn ysgrifen, a yw amhariad difrifol ar y golwg neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen, yn effeithio ar y pleidleisiwr fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith.
  • (3) Yn y darpariaethau a ganlyn yn y rheol hon, cyfeirir at bleidleisiwr sy’n datgan bod amhariad difrifol ar y golwg neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen, yn effeithio arno fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith fel pleidleisiwr ag anableddau.
  • (4) Pan wneir cais am bleidleisio gyda chymorth cydymaith, rhaid i’r cydymaith wneud datganiad ysgrifenedig gerbron y swyddog llywyddu fod y cydymaith—
  • (a) wedi cyrraedd 16 oed, a
  • (b) heb gynorthwyo mwy nag un pleidleisiwr ag anableddau o’r blaen i bleidleisio yn yr etholiad.
  • (5) Rhaid i ddatganiad y cydymaith—
  • (a) bod ar ffurf 20 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, a
  • (b) cael ei roi i’r swyddog llywyddu a rhaid i’r swyddog llywyddu ardystio iddo a’i gadw.
  • (6) Rhaid i’r swyddog llywyddu ganiatáu cais y pleidleisiwr am gymorth cydymaith os yw’r swyddog llywyddu—
  • (a) wedi ei fodloni bod amhariad difrifol ar y golwg neu anabledd arall, neu anallu i ddarllen, yn effeithio ar y pleidleisiwr fel na all bleidleisio heb gymorth cydymaith, a
  • (b) wedi ei fodloni hefyd gan ddatganiad ysgrifenedig y cydymaith fod y cydymaith wedi cyrraedd 16 oed ac nad yw’r cydymaith wedi cynorthwyo mwy nag un pleidleisiwr ag anabledd o’r blaen i bleidleisio yn yr etholiad.
  • (7) Pan ganiateir y cais—
  • (a) caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud o dan y rheolau hyn i’r pleidleisiwr mewn cysylltiad â rhoi’r bleidlais gael ei wneud yn hytrach i’r cydymaith, a
  • (b) caiff y pleidleisiwr wneud unrhyw beth y mae angen ei wneud mewn cysylltiad â rhoi’r bleidlais gyda chymorth y cydymaith.

Pleidleisio gyda chymorth cydymaith: darpariaeth atodol

49
  • (1) Pan roddir pleidlais gyda chymorth cydymaith yn unol â rheol 48, rhaid i’r swyddog llywyddu wedyn nodi’r manylion a ganlyn mewn rhestr a gedwir gan y swyddog llywyddu (“y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith”)—
  • (a) enw a rhif y pleidleisiwr, fel y’u dangosir yn y copïau o’r cofnodion cofrestru, a
  • (b) enw a chyfeiriad y cydymaith.
  • (2) Yn achos person sy’n pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, y rhif sydd i’w nodi ynghyd ag enw’r pleidleisiwr yn y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith yw rhif yr etholwr.
  • (3) Pan fo gan y pleidleisiwr gofnod dienw, dim ond rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru y caniateir ei nodi yn y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith.
  • (4) Ni chaniateir codi ffi na thaliad arall mewn cysylltiad â datganiad a wneir gan gydymaith o dan reol 48(4).
  • (5) Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 44 (gweler paragraff (8) o’r rheol honno).

Papurau pleidleisio a dendrwyd: yr amgylchiadau pan fônt ar gael

50
  • (1) Caiff y weithdrefn ar gyfer rhoi’r bleidlais ei haddasu yn unol â pharagraff (2)—
  • (a) pan fo gan berson sy’n gwneud cais am bleidlais (“y ceisydd”) hawlogaeth i bleidleisio ar ôl ateb yn foddhaol y cwestiynau y caniateir eu gofyn yn y pôl yn unol â rheol 44, a
  • (b) pan fo’r ceisydd yn syrthio o fewn unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau a nodir ym mharagraffau (3) i (8).
  • (2) Rhaid i’r ceisydd—
  • (a) defnyddio papur pleidleisio sydd o liw gwahanol i bapurau pleidleisio eraill, a
  • (b) rhoi’r papur pleidleisio i’r swyddog llywyddu (yn hytrach na’i roi yn y blwch pleidleisio).

Papurau pleidleisio a dendrwyd: dyletswyddau’r swyddog llywyddu

51
  • (1) Mae’r rheol hon yn nodi dyletswyddau’r swyddog llywyddu mewn perthynas â phapurau pleidleisio a dendrwyd.
  • (2) Rhaid i’r swyddog llywyddu arnodi’r wybodaeth a ganlyn ar y papur pleidleisio—
  • (a) enw’r pleidleisiwr, a
  • (b) rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu, os yw’r pleidleisiwr yn pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, rif yr etholwr.
  • (3) Rhaid i’r swyddog llywyddu roi’r papur pleidleisio mewn pecyn ar wahân.
  • (4) Rhaid cofnodi’r wybodaeth a ganlyn ar restr (y “rhestr pleidleisiau a dendrwyd”)—
  • (a) enw’r pleidleisiwr, a
  • (b) rhif y pleidleisiwr yn y copïau o’r cofnodion cofrestru neu, os yw’r pleidleisiwr yn pleidleisio fel dirprwy ar ran etholwr, rif yr etholwr.
  • (5) Pan fo gan etholwr gofnod dienw, ni chaniateir i’r swyddog llywyddu gynnwys enw’r pleidleisiwr ar y papur pleidleisio nac yn y rhestr pleidleisiau a dendrwyd.
  • (6) Yn y rheol hon, mae i “y copïau o’r cofnodion cofrestru” yr un ystyr ag yn rheol 44 (gweler paragraff (8) o’r rheol honno).

Papurau pleidleisio a ddifethwyd

52
  • (1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo pleidleisiwr wedi ymdrin yn anfwriadol â’i bapur pleidleisio yn y fath ddull fel na ellir ei ddefnyddio’n gyfleus fel papur pleidleisio.
  • (2) Caiff y pleidleisiwr sicrhau papur pleidleisio arall—
  • (a) drwy roi’r papur pleidleisio yr ymdriniwyd ag ef yn anfwriadol (y “papur pleidleisio a ddifethwyd”) i’r swyddog llywyddu, a
  • (b) drwy brofi er boddhad y swyddog llywyddu yr ymdriniwyd ag ef yn anfwriadol.
  • (3) Pan roddir papur pleidleisio arall i’r pleidleisiwr, rhaid i’r papur pleidleisio a ddifethwyd gael ei ganslo ar unwaith.

Cywiro gwallau ar ddiwrnod y pôl

53

Rhaid i’r swyddog llywyddu gadw rhestr o bersonau y rhoddir papurau pleidleisio iddynt o ganlyniad i addasiad i’r gofrestr a wneir yn rhinwedd adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983 sy’n cymryd effaith ar ddiwrnod y pôl.

Gohirio’r pôl os ceir terfysg

54
  • (1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan dorrir ar draws y gweithdrefnau mewn unrhyw orsaf bleidleisio neu pan gânt eu rhwystro gan derfysg neu drais agored.
  • (2) Rhaid i’r swyddog llywyddu—
  • (a) gohirio’r gweithdrefnau tan drannoeth, a
  • (b) hysbysu’r swyddog canlyniadau ar unwaith.
  • (3) Pan gaiff y pôl ei ohirio mewn gorsaf bleidleisio—
  • (a) rhaid i’r oriau pleidleisio ar y diwrnod y caiff ei ohirio iddo fod yr un fath ag ar gyfer y diwrnod gwreiddiol, a
  • (b) mae cyfeiriadau yn y rheolau hyn at gau’r pôl i’w darllen fel cyfeiriadau at ddiwedd yr oriau pleidleisio ar y diwrnod y caiff ei ohirio iddo.

Y weithdrefn wrth gau’r pôl

55
  • (1) Mae’r rheol hon yn nodi’r camau y mae rhaid i’r swyddog llywyddu eu cymryd cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i bob pleidleisiwr fwrw ei bleidlais.
  • (2) Ym mhresenoldeb unrhyw asiantiaid pôl sydd yn yr orsaf bleidleisio, rhaid i’r swyddog llywyddu—
  • (a) selio pob blwch pleidleisio a oedd yn cael ei ddefnyddio yn yr orsaf bleidleisio er mwyn atal gosod papurau pleidleisio ychwanegol ynddo, gan ddefnyddio sêl y swyddog llywyddu a seliau unrhyw asiantiaid pôl sy’n dymuno gosod eu sêl, a
  • (b) rhoi allwedd y blwch pleidleisio ynghlwm wrth y blwch pleidleisio.
  • (3) Rhaid i’r swyddog llywyddu osod pob un o’r canlynol mewn pecynnau ar wahân, wedi eu selio gan ddefnyddio sêl y swyddog llywyddu a seliau unrhyw asiantiaid pôl sy’n dymuno gosod eu sêl—
  • (a) y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd, gyda’i gilydd;
  • (b) y papurau pleidleisio a dendrwyd;
  • (c) y copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru a’r rhestr dirprwyon, gyda’i gilydd;
  • (d) rhestr rhifau cyfatebol yr orsaf bleidleisio, fel y’i marciwyd (gweler rheol 46(2)(c));
  • (e) unrhyw dystysgrifau a ildiwyd o dan reol 41(5) neu (6) (ildio tystysgrifau a ddyroddwyd i gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau);
  • (f) y rhestrau a’r datganiadau a ganlyn, gyda’i gilydd—
  • (i) y rhestr pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu, ynghyd â datganiad o nifer y pleidleiswyr y cafodd eu pleidleisiau eu marcio oherwydd eu bod yn anabl neu nad ydynt yn gallu darllen (gweler rheol 47);
  • (ii) y datganiadau a wnaed gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau (gweler rheol 48);
  • (iii) y rhestr pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith (gweler rheol 49);
  • (iv) y rhestr pleidleisiau a dendrwyd (gweler rheol 51);
  • (v) y rhestr a gadwyd o dan reol 53 (cywiro gwallau ar ddiwrnod y pôl);
  • (g) y papurau pleidleisio drwy’r post a’r datganiadau pleidleisiau drwy’r post a ddychwelwyd â llaw i’r orsaf bleidleisio (oni bai eu bod eisoes wedi eu casglu yn unol â pharagraff 19(3) o Atodlen 2).
  • (4) Rhaid i’r swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(a), (b), (e), (f) neu (g) yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantiaid pôl sydd yno.
  • (5) Caiff y swyddog llywyddu wneud unrhyw beth sy’n ofynnol gan baragraff (3)(c) neu (d)—
  • (a) yn yr orsaf bleidleisio, ym mhresenoldeb unrhyw asiantiaid pôl sydd yno, neu
  • (b) os yw’r swyddog llywyddu wedi hysbysu asiantiaid y pôl a rhoi cyfle iddynt fod yn bresennol, mewn unrhyw le arall y mae’r swyddog llywyddu yn ystyried ei fod yn briodol, ym mhresenoldeb unrhyw asiantiaid pôl sydd yno.
  • (6) Caniateir selio’r dogfennau a selir yn unol â pharagraffau (3)(c) a (d) a (5) mewn pecynnau ffisegol neu becynnau electronig, a chaniateir i’r seliau a osodir ar y pecynnau hynny gael eu gosod yn ffisegol neu’n electronig, fel y bo’n briodol.
  • (7) Rhaid i’r swyddog llywyddu ddanfon y blychau pleidleisio a’r pecynnau a seliwyd i’r swyddog canlyniadau neu achosi iddynt gael eu danfon yn unol â’r trefniadau diogelwch a mynediad a gymeradwywyd gan y swyddog canlyniadau.
  • (8) I fynd gyda’r pecynnau rhaid cael datganiad (“cyfriflen papurau pleidleisio”) a luniwyd gan y swyddog llywyddu ac sy’n dangos—
  • (a) nifer y papurau pleidleisio a roddwyd i’r swyddog llywyddu, a
  • (b) sut y rhoddwyd cyfrif am y papurau pleidleisio o dan y penawdau a ganlyn—
  • (i) nifer y papurau pleidleisio a ddyroddwyd ac na roddwyd cyfrif amdanynt fel arall;
  • (ii) nifer y papurau pleidleisio sydd heb eu defnyddio;
  • (iii) nifer y papurau pleidleisio a ddifethwyd;
  • (iv) nifer y papurau pleidleisio a dendrwyd.
  • (9) Yn y rheol hon, ystyr “y copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru” yw’r copïau o’r cofnodion cofrestru, fel y’u diffinnir gan reol 44(8), fel y’u marciwyd yn unol â’r rheolau hyn.

Trefniadau cyfrif y pleidleisiau

56
  • (1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i’r pleidleisiau gael eu cyfrif ym mhresenoldeb yr asiantiaid cyfrif cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r pôl gau.
  • (2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i’r asiantiaid cyfrif yn datgan yr amser a’r lle y bydd y swyddog canlyniadau yn dechrau cyfrif y pleidleisiau.

Presenoldeb wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif

57
  • (1) Mae gan y personau a ganlyn hawlogaeth i fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif—
  • (a) y swyddog canlyniadau ac aelodau o staff y swyddog canlyniadau;
  • (b) pob ymgeisydd unigol ac ymgeisydd rhestr plaid a gwestai i bob ymgeisydd;
  • (c) yr asiantiaid etholiad;
  • (d) yr asiantiaid cyfrif;
  • (e) unrhyw berson sydd â hawlogaeth i fod yn bresennol yn rhinwedd adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig);
  • (f) y cwnstabliaid ar ddyletswydd.
  • (2) Caiff y swyddog canlyniadau ganiatáu i unrhyw berson arall fod yn bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif.
  • (3) Ni chaniateir rhoi caniatâd o dan baragraff (2) oni bai bod y swyddog canlyniadau—
  • (a) wedi ei fodloni na fydd presenoldeb y person yn llesteirio’r pleidleisiau rhag cael eu cyfrif yn effeithlon, a
  • (b) naill ai wedi ymgynghori â’r asiantiaid etholiad ynghylch a ddylid rhoi caniatâd neu wedi penderfynu nad yw’n ymarferol ymgynghori â hwy.
  • (4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi pob cyfleuster rhesymol i’r asiantiaid cyfrif ar gyfer goruchwylio’r gweithdrefnau, a’r holl wybodaeth amdanynt, y gall y swyddog canlyniadau eu rhoi yn gyson â chynnal y gweithdrefnau yn drefnus a chyflawni dyletswyddau’r swyddog canlyniadau.
  • (5) Yn benodol, pan fo’r pleidleisiau’n cael eu cyfrif drwy ddidoli’r papurau pleidleisio yn ôl—
  • (a) ymgeisydd unigol y rhoddir pleidlais iddo, neu
  • (b) plaid wleidyddol gofrestredig y rhoddir pleidlais iddi,

ac wedyn gyfrif nifer y papurau pleidleisio ar gyfer pob ymgeisydd neu blaid o’r fath, mae gan yr asiantiaid cyfrif hawlogaeth i’w bodloni eu hunain fod y papurau pleidleisio wedi eu didoli’n gywir.

  • (6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau wneud trefniadau i sicrhau bod pawb sy’n bresennol wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif (ac eithrio’r cwnstabliaid ar ddyletswydd) wedi cael hysbysiad yn nodi darpariaethau adran 66(2) a (6) o Ddeddf 1983119 (gofyniad cyfrinachedd).
  • (7) Yn y rheol hon, mae cyfeiriad at gwnstabl yn cynnwys cyfeiriad at berson a ddynodwyd yn swyddog cymorth cymunedol neu’n wirfoddolwr cymorth cymunedol o dan adran 38 o Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002 (pwerau’r heddlu i staff sy’n sifiliaid a gwirfoddolwyr).

Y cyfrif: camau

58
  • (1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd y camau a ganlyn.
  • (2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb yr asiantiaid cyfrif, agor pob blwch pleidleisio, tynnu’r papurau pleidleisio, eu cyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio.
  • (3) Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif unrhyw bapurau pleidleisio a dendrwyd.
  • (4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau, ym mhresenoldeb yr asiantiaid etholiad, wirhau pob cyfriflen papurau pleidleisio drwy ei chymharu â nifer y papurau pleidleisio a gofnodwyd, y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisiau a ddifethwyd sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd, gan agor ac ailselio’r pecynnau sy’n cynnwys y papurau pleidleisio heb eu defnyddio a’r papurau pleidleisio a ddifethwyd a’r rhestr pleidleisiau a dendrwyd.
  • (5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau lunio datganiad ynglŷn â chanlyniad y gwirhad a rhoi copi o’r datganiad i unrhyw asiant etholiad sy’n gofyn amdano.

Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.

This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence. legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.