The Senedd Cymru (Representation of the People) Order 2025
- (6) Rhaid hefyd i’r swyddog canlyniadau—
- (a) cyfrif y papurau pleidleisio drwy’r post sydd wedi eu dychwelyd yn briodol (gweler paragraff (7)), a
- (b) cofnodi’r nifer a gyfrifwyd.
- (7) Mae papur pleidleisio drwy’r post i’w drin fel pe bai wedi ei ddychwelyd yn briodol os yw’r papur pleidleisio a’r datganiad pleidlais drwy’r post sy’n mynd gydag ef sydd wedi eu cwblhau’n briodol—
- (a) wedi eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio cyn i’r pôl gau,
- (b) wedi eu rhoi â llaw i’r swyddog canlyniadau cyn i’r pôl gau, neu
- (c) wedi dod i law’r swyddog canlyniadau drwy’r post cyn i’r pôl gau.
- (8) Mae datganiad pleidlais drwy’r post wedi ei gwblhau’n briodol—
- (a) os yw wedi ei lofnodi gan yr etholwr neu’r dirprwy, oni bai bod y swyddog cofrestru wedi hepgor y gofyniad am lofnod,
- (b) os yw’n datgan dyddiad geni’r etholwr neu ddyddiad geni’r dirprwy, ac
- (c) mewn achos pan fo’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau gymryd camau i wirhau dyddiad geni a llofnod etholwr neu ddirprwy yn unol â pharagraff 23 o Atodlen 2, os yw’r swyddog canlyniadau wedi cymryd y camau hynny ac wedi gwirhau’r dyddiad geni ac, ac eithrio mewn achos pan fo’r gofyniad am lofnod wedi ei hepgor, y llofnod.
- (9) Pan fo person, wrth i’r pôl gau, yn yr orsaf bleidleisio, neu mewn ciw y tu allan i’r orsaf bleidleisio, at ddiben cyflwyno papur pleidleisio drwy’r post a datganiad pleidlais drwy’r post—
- (a) rhaid caniatáu i’r person gyflwyno’r papur pleidleisio a’r datganiad yn yr orsaf bleidleisio, a
- (b) pan fônt wedi eu cyflwyno, maent i’w trin fel pe baent wedi eu cyflwyno cyn i’r pôl gau at ddibenion y rheol hon.
- (10) Ni chaiff y swyddog canlyniadau gyfrif y pleidleisiau a roddwyd ar unrhyw bapur pleidleisio—
- (a) yn achos papurau pleidleisio drwy’r post, nes eu bod wedi eu cymysgu â’r papurau pleidleisio o un blwch pleidleisio o leiaf, a
- (b) yn achos papurau pleidleisio o flwch pleidleisio, nes eu bod wedi eu cymysgu â’r papurau pleidleisio o un blwch pleidleisio arall o leiaf.
- (11) Wrth gyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
- (a) cadw’r papurau pleidleisio â’u hwynebau i fyny, a
- (b) cymryd unrhyw ragofalon eraill sy’n briodol i atal unrhyw berson rhag gweld y rhifau neu’r marciau adnabod unigryw eraill a argraffwyd ar gefn y papurau.
Y cyfrif: cyffredinol
59
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r swyddog canlyniadau, i’r graddau y bo’n ymarferol, fwrw ymlaen yn ddi-dor â’r gwaith cyfrif pleidleisiau, gan ganiatáu amser ar gyfer lluniaeth yn unig.
- (2) Caiff y swyddog canlyniadau gytuno â’r asiantiaid cyfrif a benodwyd at ddibenion yr etholiad i eithrio unrhyw oriau rhwng 7.00 p.m. a 9.00 a.m. drannoeth, neu bob un o’r oriau hynny.
- (3) At ddibenion yr eithriad ym mharagraff (2), bydd cytundeb—
- (a) ymgeisydd unigol neu asiant etholiad yr ymgeisydd, neu
- (b) asiant etholiad plaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu,
yr un mor effeithiol â chytundeb asiantiaid cyfrif yr ymgeisydd neu’r blaid.
- (4) Yn ystod unrhyw amser sydd wedi ei eithrio, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
- (a) gosod y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill sy’n ymwneud â’r etholiad o dan sêl y swyddog canlyniadau a seliau unrhyw asiantiaid cyfrif sy’n dymuno gosod eu sêl, a
- (b) cymryd rhagofalon priodol fel arall ar gyfer diogelwch y papurau pleidleisio a’r dogfennau eraill.
Y cyfrif: papurau pleidleisio a wrthodwyd
60
- (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), mae’r papurau pleidleisio a ganlyn yn ddi-rym ac ni chaniateir eu cyfrif—
- (a) papur pleidleisio nad oes arno farc swyddogol;
- (b) papur pleidleisio y rhoddwyd mwy nag un bleidlais arno;
- (c) papur pleidleisio y mae unrhyw beth wedi ei ysgrifennu neu wedi ei farcio arno y gellir adnabod y pleidleisiwr drwyddo ac eithrio’r rhif printiedig a’r marc adnabod unigryw arall ar y cefn;
- (d) papur pleidleisio sydd heb ei farcio neu’n ddi-rym oherwydd ansicrwydd.
- (2) Mae paragraffau (3) a (4) yn gymwys i bapur pleidleisio y marciwyd pleidlais arno—
- (a) mewn lle heblaw’r lle priodol,
- (b) heblaw drwy gyfrwng croes, neu
- (c) drwy fwy nag un marc.
- (3) Nid yw’r papur pleidleisio i’w drin fel pe bai’n ddi-rym, naill ai’n gyfan gwbl neu o ran y bleidlais honno, oherwydd y modd y mae’r bleidlais wedi ei marcio yn unig—
- (a) os yw’n glir o’r papur pleidleisio fod y pleidleisiwr yn bwriadu pleidleisio dros un neu’r llall o’r ymgeiswyr,
- (b) os nad yw’r modd y mae’r papur pleidleisio wedi ei farcio ynddo’i hun yn dangos pwy yw’r pleidleisiwr, ac
- (c) os yw’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni na ellir adnabod y pleidleisiwr o’r papur pleidleisio.
- (4) Mae papur pleidleisio y mae pleidlais wedi ei marcio arno dros ymgeisydd rhestr plaid penodol ar restr plaid plaid wleidyddol gofrestredig, os yw fel arall yn ddilys, i’w drin fel pleidlais dros y blaid honno, pa un a oes pleidlais hefyd wedi ei marcio dros y blaid honno ai peidio.
- (5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau arnodi’r gair “gwrthodwyd” neu’r gair “rejected” neu’r ddau, ar unrhyw bapur pleidleisio nad yw, yn unol â’r rheol hon, i’w gyfrif.
- (6) Os bydd asiant cyfrif yn gwrthwynebu penderfyniad y swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau ychwanegu’r geiriau “gwrthwynebwyd y gwrthodiad” neu’r geiriau “rejection objected to” neu’r ddau, at yr arnodiad.
- (7) Rhaid i’r swyddog canlyniadau lunio datganiad yn dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd.
- (8) Rhaid i’r datganiad nodi’r nifer a wrthodwyd o dan bob un o’r penawdau ym mharagraff (1).
Ailgyfrif
61
- (1) Os ydynt yn bresennol pan fydd y cyfrif wedi ei gwblhau, caiff y personau a ganlyn ofyn i’r swyddog canlyniadau ailgyfrif y pleidleisiau—
- (a) ymgeisydd unigol, neu asiant etholiad yr ymgeisydd,
- (b) ymgeisydd rhestr plaid neu asiant etholiad ar gyfer y blaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu, neu
- (c) yn ddarostyngedig i baragraff (4), asiant cyfrif ar gyfer ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu.
- (2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau gydymffurfio â’r cais oni bai bod y swyddog canlyniadau o’r farn bod y cais yn afresymol.
- (3) Ni chaniateir cymryd unrhyw gam pan fydd y cyfrif wedi ei gwblhau nes bod yr ymgeiswyr, yr asiantiaid etholiad a’r asiantiaid cyfrif sy’n bresennol wedi cael cyfle rhesymol i ofyn i’r pleidleisiau gael eu hailgyfrif.
- (4) Pan na fo unrhyw ymgeisydd nac asiant etholiad yn bresennol pan fydd y cyfrif neu’r ailgyfrif pleidleisiau wedi ei gwblhau, yn ddarostyngedig i baragraff (5), caniateir i’r hawl a roddir i’r person hwnnw gan y rheol hon gael ei harfer gan asiant cyfrif y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c) sy’n bresennol os yw telerau penodi’r asiant cyfrif yn awdurdodi’r asiant hwnnw i arfer yr hawl hon.
- (5) Ni chaniateir penodi mwy nag un asiant cyfrif ar gyfer yr un ymgeisydd unigol neu’r un blaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu at ddibenion y rheol hon mewn perthynas â’r un etholaeth Senedd.
- (6) Pan fydd ailgyfrif yn digwydd, mae’r rheol hon hefyd yn gymwys mewn perthynas â’r ailgyfrif fel y caiff ymgeisydd neu asiant etholiad, er enghraifft, os yw’n bresennol pan fydd yr ailgyfrif wedi ei gwblhau, ofyn i’r swyddog canlyniadau ailgyfrif y pleidleisiau.
Penderfynu ar bapurau pleidleisio
62
Mae penderfyniad y swyddog canlyniadau ar unrhyw gwestiwn sy’n codi mewn cysylltiad â phapur pleidleisio yn derfynol, ond caniateir ei adolygu ar ddeiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd.
Canfod canlyniadau etholiad a ymleddir
63
- (1) Mewn etholiad a ymleddir, rhaid i’r swyddog canlyniadau ganfod canlyniadau’r pôl yn unol ag adrannau 8 a 9 o Ddeddf 2006.
- (2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad mewn ysgrifen i’r asiantiaid etholiad o’r lle a’r amser y bydd y swyddog canlyniadau yn dechrau canfod canlyniadau’r pôl, ynghyd ag unrhyw wybodaeth arall y mae’r swyddog canlyniadau yn ystyried ei bod yn briodol.
- (3) Oni bai bod y swyddog canlyniadau wedi caniatáu iddynt fod yn bresennol, dim ond y personau a ganlyn a gaiff fod yn bresennol yn y gweithdrefnau i ganfod y canlyniadau—
- (a) y swyddog canlyniadau ac aelodau o staff y swyddog canlyniadau,
- (b) pob ymgeisydd unigol ac ymgeisydd rhestr plaid ac un person arall a ddewiswyd gan bob un ohonynt,
- (c) yr asiantiaid etholiad, a
- (d) unrhyw berson sydd â hawlogaeth i fod yn bresennol yn rhinwedd adrannau 6A i 6D o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000 (cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol a sylwedyddion achrededig).
- (4) Ni chaniateir rhoi caniatâd o dan baragraff (3) oni bai bod y swyddog canlyniadau—
- (a) wedi ei fodloni na fydd presenoldeb y person yn llesteirio’r canlyniadau rhag cael eu canfod yn effeithlon, a
- (b) naill ai wedi ymgynghori â’r asiantiaid etholiad ynghylch a ddylid rhoi caniatâd neu wedi penderfynu nad yw’n ymarferol ymgynghori â hwy.
- (5) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi pob cyfleuster rhesymol i’r asiantiaid etholiad a’r ymgeiswyr ar gyfer goruchwylio’r gweithdrefnau, a’r holl wybodaeth amdanynt, gan gynnwys i’w bodloni eu hunain fod gwaith canfod y canlyniad y mae’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau ei wneud yn gywir, y gall y swyddog canlyniadau eu rhoi yn gyson â chynnal y gweithdrefnau yn drefnus a chyflawni dyletswyddau’r swyddog canlyniadau.
- (6) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ganfod dros dro ganlyniadau’r pôl a hysbysu’r personau a ganlyn, os ydynt yn bresennol, o’r canfyddiad dros dro—
- (a) ymgeisydd unigol neu asiant etholiad yr ymgeisydd, a
- (b) asiant etholiad plaid wleidyddol gofrestredig sy’n dal wedi ei henwebu neu, yn absenoldeb yr asiant, un o’r ymgeiswyr ar y rhestr a gyflwynwyd gan y blaid honno.
- (7) Caiff person y rhoddir hysbysiad iddo o dan baragraff (6) ei gwneud yn ofynnol i’r swyddog canlyniadau ganfod dros dro y canlyniadau hynny eto, ond caiff y swyddog canlyniadau wrthod gwneud hynny os yw’r swyddog canlyniadau o’r farn bod y cais yn afresymol.
- (8) Ni chaniateir cymryd unrhyw gam i gwblhau canfod y canlyniad nes bod y personau a hysbysir o dan baragraff (6) wedi cael cyfle rhesymol i arfer yr hawl a roddir o dan baragraff (7).
- (9) Pan fo’r swyddog canlyniadau wedi canfod dros dro y canlyniadau eto o dan baragraff (7), mae paragraffau (6) i (8) a’r paragraff hwn yn gymwys i’r canfyddiad dros dro pellach.
- (10) Wrth ganfod canlyniadau’r pôl, os yw’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau fwrw coelbren (gweler adran 9(9) o Ddeddf 2006), rhaid i’r swyddog canlyniadau ddyrannu’r sedd i’r ymgeisydd unigol neu’r blaid y mae’r coelbren yn mynd o’i blaid neu o’i phlaid.
- (11) Bernir bod y swyddog canlyniadau wedi cwblhau canfod canlyniadau’r pôl, ar ôl canfyddiad dros dro—
- (a) pan na wneir cais o dan baragraff (7) am i’r swyddog canlyniadau wneud canfyddiad dros dro pellach, neu
- (b) os gwneir cais o’r fath, pan fo’r swyddog canlyniadau yn gwrthod gwneud canfyddiad dros dro pellach.
Datgan y canlyniad
64
- (1) Ar ôl i’r swyddog canlyniadau ganfod canlyniadau’r pôl, rhaid i’r swyddog canlyniadau ar unwaith—
- (a) cyhoeddi, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yr ymgeiswyr unigol neu’r pleidiau gwleidyddol cofrestredig y dyrannwyd seddi iddynt, ynghyd ag enwau’r ymgeiswyr rhestr plaid sydd i lenwi’r seddi hynny;
- (b) datgan, yn Gymraeg ac yn Saesneg, fod yr ymgeiswyr unigol neu’r ymgeiswyr rhestr plaid hynny wedi eu hethol.
- (2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau roi hysbysiad i’r Clerc yn unol â pharagraff (6) yn nodi enwau’r ymgeiswyr a etholwyd, ac mewn cysylltiad ag unrhyw ymgeisydd rhestr plaid, enw’r blaid wleidyddol gofrestredig yr oedd yn ymgeisydd o’r fath ar ei chyfer.
- (3) Mewn etholiad etholaethol nas ymleddir, rhaid i’r datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd, yn ogystal â dangos y pleidiau gwleidyddol cofrestredig a’r personau eraill sy’n dal wedi eu henwebu, hefyd—
- (a) nodi’r ymgeiswyr unigol neu’r pleidiau gwleidyddol cofrestredig y dyrannwyd seddi iddynt, ynghyd ag enwau’r ymgeiswyr rhestr plaid sydd i lenwi’r seddi hynny, a
- (b) datgan bod yr ymgeiswyr unigol neu’r ymgeiswyr rhestr plaid hynny wedi eu hethol a’u dychwelyd,
a rhaid i’r swyddog canlyniadau ar unwaith ddychwelyd enwau’r personau hynny i’r Clerc (ac, mewn cysylltiad ag unrhyw ymgeisydd rhestr plaid, enw’r blaid wleidyddol gofrestredig yr oedd yn ymgeisydd o’r fath ar ei chyfer) yn unol â pharagraff (6).
- (4) Mewn etholiad etholaethol a ymleddir ac etholiad etholaethol nas ymleddir, rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd gyhoeddi hysbysiad, yn Gymraeg ac yn Saesneg,—
- (a) o enw unrhyw ymgeiswyr unigol a etholwyd,
- (b) o enw unrhyw ymgeiswyr rhestr plaid a etholwyd, ynghyd ag enw’r blaid wleidyddol gofrestredig yr oeddent yn ymgeisydd o’r fath ar ei chyfer,
- (c) o gyfanswm nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd unigol neu blaid wleidyddol gofrestredig,
- (d) o nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan bob pennawd a ddangosir yn y datganiad o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd (gweler rheol 60(7)), ac
- (e) mewn cysylltiad â nifer y pleidleisiau y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), o ddadansoddiad o nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob un o’r ymgeiswyr neu’r pleidiau hynny ym mhob etholaeth.
- (5) At ddibenion paragraffau (1) a (4), pan fo’r datganiad o’r pleidiau a’r personau a enwebwyd yn dangos enwau blaen neu gyfenwau a ddefnyddir yn gyffredin gan ymgeisydd, caiff y swyddog canlyniadau ddefnyddio’r enwau blaen neu’r cyfenwau hynny a ddefnyddir yn gyffredin i gyhoeddi canlyniadau’r etholiad a rhoi hysbysiad yn eu cylch.
- (6) At ddibenion paragraffau (2) a (3), rhaid i’r swyddog canlyniadau ddychwelyd yr enwau y mae’n ofynnol eu dychwelyd—
- (a) drwy gwblhau tystysgrif ar ffurf 22 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, a
- (b) drwy ddanfon y dystysgrif, neu achosi iddi gael ei danfon, at y Clerc.
Dychwelyd yr ernes neu ei fforffedu
65
- (1) Mae’r ernes a wneir o dan reol 11—
- (a) yn achos ymgeisydd unigol, i’w dychwelyd i’r person a’i gwnaeth, neu i gynrychiolwyr personol y person hwnnw,
- (b) yn achos plaid wleidyddol gofrestredig, i’w dychwelyd i swyddog enwebu cofrestredig y blaid a gyflwynodd y rhestr plaid y mae’r ernes yn gysylltiedig â hi, neu
- (c) i’w fforffedu (gweler paragraff (5)).
- (2) Ac eithrio yn yr achosion a nodir ym mharagraff (4), rhaid dychwelyd yr ernes dim hwyrach na thrannoeth y diwrnod y mae canlyniad yr etholiadau’n cael ei ddatgan neu ganlyniadau’r etholiadau’n cael eu datgan.
- (3) At ddibenion paragraff (2)—
- (a) rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod sy’n ddiwrnod eithriedig, a
- (b) bydd yr ernes yn cael ei thrin fel pe bai wedi ei dychwelyd ar ddiwrnod os bydd siec am swm yr ernes yn cael ei phostio ar y diwrnod hwnnw.
- (4) Rhaid—
- (a) pan na ddangosir bod ymgeisydd unigol yn dal wedi ei enwebu neu blaid wleidyddol gofrestredig yn dal wedi ei henwebu yn y datganiad sy’n ofynnol gan reol 17(1), neu
- (b) pan ddiddymir y pôl neu pan roddir y gorau iddo oherwydd marwolaeth ymgeisydd unigol,
dychwelyd yr ernes cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi’r datganiad hwnnw neu’r amser pan fo’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni bod yr ymgeisydd wedi marw.
- (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (4)—
- (a) bydd ernes ymgeisydd unigol yn cael ei fforffedu os canfyddir, ar ôl cynnal y pôl ac ar ôl cwblhau cyfrif y pleidleisiau, gan gynnwys unrhyw ailgyfrif, fod yr ymgeisydd wedi cael llai na 5% o gyfanswm nifer y pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholaeth yr oedd yr ymgeisydd yn dal wedi ei enwebu ynddi;
- (b) bydd ernes plaid wleidyddol gofrestredig yn cael ei fforffedu mewn cysylltiad ag etholaeth yr oedd y blaid yn dal wedi ei henwebu ynddi os canfyddir, ar ôl cynnal y pôl ac ar ôl cwblhau cyfrif y pleidleisiau, gan gynnwys unrhyw ailgyfrif, fod y blaid wedi cael llai na 5% o gyfanswm nifer y pleidleisiau a fwriwyd yn yr etholaeth honno.
Selio papurau pleidleisio mewn etholiadau a ymleddir
66
- (1) Mae’r rheol hon yn gymwys ar ôl cwblhau cyfrif y pleidleisiau mewn etholiad a ymleddir.
- (2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau selio mewn pecynnau ar wahân—
- (a) y papurau pleidleisio a gyfrifwyd, a
- (b) y papurau pleidleisio a wrthodwyd.
- (3) Ni chaiff y swyddog canlyniadau agor unrhyw becynnau a seliwyd o dan reol 55(3), na chaniatáu mynediad atynt, a’r rheini’n cynnwys—
- (a) papurau pleidleisio a dendrwyd,
- (b) copïau wedi eu marcio o’r rhestrau rhifau cyfatebol,
- (c) tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 41(5) neu (6), neu
- (d) copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru a’r rhestr dirprwyon.
Danfon dogfennau at y swyddog cofrestru mewn etholiadau a ymleddir
67
- (1) Mae’r rheol hon yn gymwys pan fo’r swyddog canlyniadau wedi selio’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd ac a wrthodwyd o dan reol 66(2).
- (2) Rhaid i’r swyddog canlyniadau anfon y dogfennau a ganlyn yn ddiogel at y swyddog cofrestru perthnasol—
- (a) y pecynnau o bapurau pleidleisio sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau;
- (b) y cyfriflenni papurau pleidleisio a luniwyd o dan reol 55(8);
- (c) y datganiadau o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd a luniwyd o dan reol 60(7);
- (d) y datganiadau ynglŷn â chanlyniad gwirhad y cyfriflenni papurau pleidleisio a luniwyd o dan reol 58(5);
- (e) y rhestrau a’r datganiadau a ganlyn—
- (i) y rhestrau pleidleisiau a farciwyd gan y swyddog llywyddu, ynghyd â datganiad o nifer y pleidleiswyr y mae eu pleidleisiau wedi eu marcio oherwydd eu bod yn anabl neu nad ydynt yn gallu darllen (gweler rheol 47);
- (ii) y datganiadau a wnaed gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau (gweler rheol 48);
- (iii) y rhestrau pleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gydymaith (gweler rheol 49);
- (iv) y rhestrau pleidleisiau a dendrwyd (gweler rheol 51);
- (v) y rhestrau a gadwyd o dan reol 53 (cywiro gwallau ar ddiwrnod y pôl);
- (f) y pecynnau sy’n cynnwys copïau wedi eu marcio o’r rhestrau rhifau cyfatebol;
- (g) y pecynnau sy’n cynnwys tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 41(5) neu (6);
- (h) y pecynnau sy’n cynnwys copïau o’r cofnodion cofrestru a’r rhestrau dirprwyon;
- (i) y pecynnau sy’n cynnwys y rhestr pleidleiswyr drwy’r post a’r rhestr pleidleiswyr drwy’r post drwy ddirprwy.
- (3) Mewn perthynas â phob pecyn, rhaid i’r swyddog canlyniadau ddarparu—
- (a) disgrifiad o gynnwys y pecyn,
- (b) dyddiad yr etholiad y mae’r pecyn yn gysylltiedig ag ef, ac
- (c) enw’r etholaeth Senedd y cynhaliwyd yr etholiad ar ei chyfer.
- (4) Rhaid i’r swyddog cofrestru perthnasol hefyd wneud trefniadau—
- (a) i storio’n ddiogel yr holl ddogfennau sy’n dod i law yn unol â’r rheol hon, a
- (b) i atal unrhyw fynediad heb awdurdod at y dogfennau hynny.
Dangos etc. dogfennau
68
- (1) Mae’r rheol hon yn gymwys mewn perthynas â’r dogfennau a ganlyn pan fyddant ym meddiant y swyddog cofrestru perthnasol neu o dan ei reolaeth, ar ôl cael eu hanfon o dan reol 67—
- (a) papurau pleidleisio a wrthodwyd ac a gyfrifwyd;
- (b) pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys copïau wedi eu marcio o’r rhestrau rhifau cyfatebol;
- (c) pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 41(5) neu (6).
- (2) Caiff yr Uchel Lys neu lys sirol wneud unrhyw un neu ragor o’r gorchmynion a ganlyn, os yw wedi ei fodloni gan dystiolaeth ar lw fod y gorchymyn yn ofynnol at ddiben naill ai cychwyn neu gynnal erlyniad am drosedd mewn perthynas â phapurau pleidleisio neu at ddiben deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd—
- (a) gorchymyn i edrych ar unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd neu i’w dangos;
- (b) gorchymyn i edrych ar unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd;
- (c) gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys—
- (i) copïau wedi eu marcio o’r rhestrau rhifau cyfatebol, neu
- (ii) tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 41(5) neu (6);
- (d) pan wneir gorchymyn o dan is-baragraff (c) i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd, gorchymyn i edrych ar y cynnwys i gyd neu ran ohono neu i ddangos y cynnwys i gyd neu ran ohono.
- (3) Caiff llys etholiadol wneud—
- (a) gorchymyn i edrych ar unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a gyfrifwyd;
- (b) gorchymyn i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys—
- (i) copïau wedi eu marcio o’r rhestrau rhifau cyfatebol, neu
- (ii) tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 41(5) neu (6);
- (c) pan wneir gorchymyn o dan is-baragraff (b) i agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd, gorchymyn i edrych ar y cynnwys i gyd neu ran ohono neu i ddangos y cynnwys i gyd neu ran ohono.
- (4) Caniateir i orchymyn o dan y rheol hon gael ei wneud yn ddarostyngedig i unrhyw un neu ragor o’r amodau a ganlyn y mae’r llys yn meddwl eu bod yn briodol—
- (a) amodau ynglŷn â phersonau;
- (b) amodau ynglŷn ag amser;
- (c) amodau ynglŷn â’r lle ar gyfer edrych a’r dull o edrych;
- (d) amodau ynglŷn â dangos neu agor.
- (5) Rhaid i lys, wrth wneud gorchymyn o dan y rheol hon i edrych ar bapurau pleidleisio a gyfrifwyd neu i agor pecyn a seliwyd, osod unrhyw amodau o dan baragraff (4) y mae’r llys yn ystyried eu bod yn briodol i sicrhau na ddatgelir y modd y mae etholwr wedi rhoi ei bleidlais oni bai a hyd nes y profwyd—
- (a) bod yr etholwr wedi rhoi ei bleidlais, a
- (b) bod y bleidlais wedi ei datgan yn annilys gan lys cymwys.
- (6) Rhaid i unrhyw berson sy’n rhoi ei effaith i orchymyn o dan y rheol hon i edrych ar bapurau pleidleisio a gyfrifwyd neu i agor pecyn a seliwyd gymryd gofal i sicrhau na ddatgelir y modd y mae etholwr wedi rhoi ei bleidlais oni bai a hyd nes y profwyd—
- (a) bod yr etholwr wedi rhoi ei bleidlais, a
- (b) bod y bleidlais wedi ei datgan yn annilys gan lys cymwys.
- (7) At yr Uchel Lys y cyfeirir apêl sy’n deillio o orchymyn llys sirol o dan y rheol hon.
- (8) Caniateir i bwerau’r Uchel Lys neu lys sirol o dan y rheol hon gael eu harfer gan unrhyw un neu ragor o farnwyr y llys heblaw mewn llys agored.
- (9) Ac eithrio fel a ddarperir gan y rheol hon, ni chaiff neb—
- (a) edrych ar unrhyw un neu ragor o’r papurau pleidleisio a wrthodwyd neu a gyfrifwyd, na
- (b) agor unrhyw un neu ragor o’r pecynnau a seliwyd sy’n cynnwys—
- (i) copïau wedi eu marcio o’r rhestrau rhifau cyfatebol, neu
- (ii) tystysgrifau a ildiwyd gan gwnstabliaid neu staff swyddogion canlyniadau o dan reol 41(5) neu (6).
Gorchmynion i ddangos dogfennau: darpariaethau atodol
69
- (1) Mae paragraffau (2) a (3) yn gymwys pan wneir gorchymyn o dan reol 68 i swyddog cofrestru perthnasol ddangos dogfen, mewn fformat papur neu electronig, sydd ym meddiant y swyddog cofrestru neu o dan ei reolaeth, ac sy’n ymwneud ag etholiad a bennwyd yn y gorchymyn.
- (2) Mae dangos y ddogfen gan y swyddog cofrestru perthnasol neu asiant y swyddog cofrestru yn y dull a gyfarwyddir gan y gorchymyn yn dystiolaeth ddiwrthbrawf bod y ddogfen yn ymwneud â’r etholiad a bennwyd.
- (3) Os bydd pecyn o bapurau pleidleisio sydd ag arnodiad ar y pecyn yn cael ei ddangos gan y swyddog cofrestru perthnasol neu asiant y swyddog cofrestru i gydymffurfio â’r gorchymyn, mae’r arnodiad yn dystiolaeth prima facie mai’r papurau pleidleisio yw’r hyn y mae’r arnodiad yn dweud eu bod.
- (4) Mae paragraff (5) yn gymwys pan fo swyddog cofrestru perthnasol neu asiant swyddog cofrestru, er mwyn cydymffurfio â gorchymyn o dan reol 68, wedi dangos—
- (a) papur pleidleisio sy’n honni ei fod wedi ei ddefnyddio mewn etholiad, a
- (b) copi wedi ei farcio o restr rhifau cyfatebol a oedd yn cael ei defnyddio yn yr etholiad, gyda rhif wedi ei farcio mewn ysgrifen wrth ochr rhif y papur pleidleisio hwnnw ar y rhestr.
- (5) Mae dangos y papur pleidleisio a’r rhestr yn dystiolaeth prima facie mai’r etholwr y rhoddwyd ei bleidlais gan y papur pleidleisio hwnnw oedd y person yr oedd ei gofnod adeg yr etholiad yn y gofrestr etholwyr, neu ar hysbysiad a ddyroddwyd o dan adran 13B(3B) neu (3D) o Ddeddf 1983, yn cynnwys yr un rhif â’r rhif a ysgrifennwyd ar y papur pleidleisio.
Cadw a dinistrio dogfennau a anfonwyd at y swyddog cofrestru perthnasol
70
- (1) Rhaid i’r swyddog cofrestru perthnasol gadw’r holl ddogfennau a anfonwyd o dan reol 67 am gyfnod o flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y daethant i law’r swyddog cofrestru.
- (2) Ar ddiwedd y cyfnod hwnnw o flwyddyn, rhaid i’r swyddog cofrestru perthnasol achosi i’r dogfennau gael eu dinistrio oni chyfarwyddir fel arall gan orchymyn llys sirol, yr Uchel Lys, Llys y Goron, llys ynadon neu lys etholiadol.
- (3) Er gwaethaf dirymu Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007120, mae rheol 69 o Atodlen 5 i’r Gorchymyn hwnnw yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dogfennau a anfonwyd at y swyddog cofrestru perthnasol yn unol â’r Atodlen honno ac yr oedd rheol 69 yn gymwys iddynt.
Dinistrio ffurflenni cyfeiriad cartref gan y swyddog canlyniadau
71
- (1) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ddinistrio ffurflen cyfeiriad cartref pob ymgeisydd—
- (a) drannoeth y pymthegfed diwrnod ar hugain ar ôl i’r swyddog canlyniadau ddychwelyd enwau’r aelodau a etholwyd, oni bai bod deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd sy’n cwestiynu etholiad neu ddychweliad aelodau yn cael ei chyflwyno cyn y diwrnod hwnnw;
- (b) os cyflwynir deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd sy’n cwestiynu etholiad neu ddychweliad aelodau cyn y diwrnod hwnnw, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r achos ynglŷn â’r ddeiseb ddod i ben, gan gynnwys achos yr apêl, pan geir apêl.
- (2) Er mwyn penderfynu ar y diwrnod y mae rhaid dinistrio ffurflenni cyfeiriad cartref ymgeiswyr, rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod sy’n ddiwrnod eithriedig.
Marwolaeth ymgeisydd
72
- (1) Mewn etholiad a ymleddir, os yw’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni cyn i ganlyniadau’r etholiad gael eu datgan fod un o’r personau a enwyd neu sydd i’w enwi yn ymgeisydd ar y papur pleidleisio, pa un a yw’n ymgeisydd unigol neu’n ymgeisydd rhestr plaid, wedi marw a bod yr etholiad o ganlyniad i’r farwolaeth honno yn dod yn etholiad nas ymleddir, rhaid i’r swyddog canlyniadau—
- (a) diddymu hysbysiad y pôl, neu
- (b) os yw’r pleidleisio wedi dechrau, cyfarwyddo rhoi’r gorau i’r pôl.
- (2) Mewn etholiad a ymleddir, os yw’r swyddog canlyniadau wedi ei fodloni cyn i ganlyniadau’r etholiad gael eu datgan fod un o’r personau a enwyd neu sydd i’w enwi yn ymgeisydd ar y papur pleidleisio, pa un ai fel ymgeisydd unigol neu ymgeisydd rhestr plaid, wedi marw, ond er gwaethaf y farwolaeth honno fod yr etholiad yn parhau i gael ei ymladd, nid yw hysbysiad y pôl i’w ddiddymu na’r pôl i’w rhoi’r gorau iddo, ac nid yw’r farwolaeth i gael unrhyw effaith ar ddilysrwydd yr etholiad nac ar ddychwelyd unrhyw ymgeisydd arall yn yr etholiad.
- (3) Ond, pan fo paragraff (2) yn gymwys, rhaid i’r swyddog canlyniadau gymryd unrhyw gamau y mae’r swyddog canlyniadau yn ystyried eu bod yn rhesymol i roi cyhoeddusrwydd yn yr etholaeth y cynhelir yr etholiad ar ei chyfer—
- (a) i enw’r ymgeisydd (“Y”) a’r ffaith bod Y wedi marw,
- (b) i pa un a oedd Y yn ymgeisydd unigol neu’n ymgeisydd rhestr plaid, ac
- (c) os oedd Y yn ymgeisydd rhestr plaid, i enw’r blaid wleidyddol gofrestredig yr oedd Y yn ymgeisydd o’r fath ar ei chyfer.
- (4) Wrth gyflawni’r gofyniad i roi cyhoeddusrwydd i farwolaeth Y yn unol â pharagraff (3), rhaid i’r swyddog canlyniadau ystyried, yn benodol, osod hysbysiadau y tu allan i orsafoedd pleidleisio.
- (5) Mewn cysylltiad ag etholiad y mae paragraff (1) neu (2) yn gymwys iddo, nid yw’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys mewn perthynas â’r ymgeisydd sydd wedi marw—
- (a) rheol 41(1)(c) a (d) (derbyn i’r orsaf bleidleisio),
- (b) rheol 57(1)(b) i (d) (presenoldeb wrth i’r pleidleisiau gael eu cyfrif), ac
- (c) rheol 65(5) (fforffedu ernes), mewn perthynas ag ymgeisydd unigol yn unig.
Pôl y rhoddir y gorau iddo
73
- (1) Mae’r rheol hon yn gymwys i bôl y rhoddir y gorau iddo yn unol â rheol 72(1)(b) fel pe bai’n bôl mewn etholiad a ymleddir.
- (2) Rhaid i’r swyddog llywyddu mewn unrhyw orsaf bleidleisio sy’n cael ei defnyddio yn yr etholiad gymryd y camau, i’r graddau nad ydynt eisoes wedi eu cymryd, y byddai’n ofynnol i’r swyddogion llywyddu eu cymryd o dan reol 55 ar ôl i’r pôl gau, ac eithrio nad oes angen i’r swyddog llywyddu lunio cyfriflen papurau pleidleisio.
- (3) Nid oes unrhyw gam na cham pellach i’w gymryd er mwyn cyfrif y papurau pleidleisio na’r pleidleisiau.
- (4) Rhaid i’r swyddog canlyniadau ymdrin â phapurau pleidleisio a dogfennau eraill sydd ym meddiant y swyddog canlyniadau pan roddir y gorau i’r pôl, neu a ddanfonir at y swyddog canlyniadau wedyn er mwyn cydymffurfio â pharagraff (2), yn yr un modd ag y byddai’n ofynnol i’r swyddog canlyniadau ymdrin â phapurau pleidleisio a dogfennau eraill o dan reolau 66 a 67 ar ôl cwblhau cyfrif y pleidleisiau, ac eithrio—
- (a) bod rhaid i’r swyddog canlyniadau selio’r holl bapurau pleidleisio, pa un a yw’r pleidleisiau arnynt wedi eu cyfrif ai peidio, a
- (b) nad oes angen selio papurau pleidleisio a gyfrifwyd ac a wrthodwyd mewn pecynnau ar wahân.
- (5) Mae darpariaethau rheolau 68 i 70 yn gymwys i bapurau pleidleisio a dogfennau eraill sy’n ymwneud â’r pôl y rhoddwyd y gorau iddo oherwydd marwolaeth ymgeisydd, ac eithrio—
- (a) bod papurau pleidleisio na chafodd y pleidleisiau arnynt eu cyfrif na’u gwrthod i’w trin fel papurau pleidleisio a gyfrifwyd, a
- (b) y caniateir i orchymyn gael ei wneud o dan reol 68(2) a (3) dim ond at ddibenion cychwyn neu gynnal erlyniad am drosedd mewn perthynas â phapurau pleidleisio.
Dychwelyd aelodau o’r Senedd a’r cofnod dychweliadau etc.
74
- (1) Rhaid i’r Clerc, ar ôl cael tystysgrif a ddanfonwyd o dan reol 64(6), gofnodi’r wybodaeth a geir yn y dystysgrif mewn cofnod a gedwir at y diben hwnnw yn y Senedd, y cyfeirir ato yn y rheol hon fel “y cofnod dychweliadau”.
- (2) Caniateir cadw’r cofnod dychweliadau yn electronig.
- (3) Rhaid i’r cofnod dychweliadau fod yn agored i’r cyhoedd edrych arno ar amserau rhesymol a chaniateir i unrhyw berson, ar ôl talu ffi resymol, gael copïau oddi ar y cofnod.
Seddi gwag
75
- (1) Pan ddaw i sylw Llywydd y Senedd, y cyfeirir ato yn y rheol hon fel “y Llywydd”—
- (a) bod sedd aelod o’r Senedd a ddychwelwyd dros un o etholaethau’r Senedd yn wag, a
- (b) bod y person wedi ei ddychwelyd fel ymgeisydd unigol,
rhaid i’r Llywydd gofnodi yn y cofnod dychweliadau fod sedd wag yn yr etholaeth Senedd o dan sylw sydd, yn unol ag adran 11(2) o Ddeddf 2006121, i barhau i fod yn wag tan etholiad cyffredinol nesaf y Senedd.
- (2) Ac eithrio pan fo erthygl 102 (dyfarnu etholiad yn ddi-rym gan y llys etholiadol) yn gymwys, rhaid i’r Llywydd gymryd y camau ym mharagraff (3) pan ddaw i sylw’r Llywydd—
- (a) bod sedd aelod a ddychwelwyd dros un o etholaethau’r Senedd yn wag, a
- (b) bod y person wedi ei ddychwelyd fel ymgeisydd rhestr plaid.
- (3) Rhaid i’r Llywydd gofnodi’r sedd wag yn y cofnod dychweliadau ac anfon at swyddog canlyniadau’r etholaeth Senedd y mae’r sedd wag wedi codi ynddi hysbysiad—
- (a) yn datgan bod sedd wag yn bodoli, a
- (b) yn nodi enw’r person a oedd wedi ei ddychwelyd i lenwi’r sedd honno, ynghyd ag enw’r blaid wleidyddol gofrestredig yr oedd y person wedi ei gynnwys ar ei rhestr.
- (4) Ar ôl i hysbysiad o dan baragraff (3) ddod i law’r swyddog canlyniadau, rhaid i’r swyddog canlyniadau yn ddiymdroi—
- (a) canfod o’r rhestr a gyflwynwyd yn etholiad cyffredinol blaenorol y Senedd gan y blaid wleidyddol gofrestredig a enwir yn yr hysbysiad, enw a chyfeiriad y person y mae ei enw bellach yn ymddangos uchaf ar y rhestr honno (“y darpar aelod”), a
- (b) cymryd unrhyw gamau y mae’n ymddangos i’r swyddog canlyniadau eu bod yn rhesymol—
- (i) i gysylltu â’r darpar aelod (“D”) i ofyn a fydd D yn datgan bod D yn barod i wasanaethu fel aelod o’r Senedd dros yr etholaeth o dan sylw, a
- (ii) i gysylltu â swyddog enwebu cofrestredig y blaid wleidyddol gofrestredig y mae D wedi cael ei gynnwys ar ei rhestr, ac i hysbysu’r swyddog hwnnw am y camau y mae’r swyddog canlyniadau yn eu cymryd o dan baragraff (i).
- (5) Wrth gysylltu â D yn unol â pharagraff (4)(b)(i), rhaid i’r swyddog canlyniadau roi cyngor i D erbyn pa ddyddiad y mae rhaid i’r swyddog canlyniadau gael ymateb ysgrifenedig D yn cadarnhau a yw D yn barod i wasanaethu fel aelod o’r Senedd dros yr etholaeth o dan sylw, a rhaid i’r dyddiad hwnnw fod 21 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod pan fydd y swyddog canlyniadau yn cysylltu â D.
- (6) Wrth gysylltu â’r swyddog enwebu cofrestredig yn unol â pharagraff (4)(b)(ii), rhaid i’r swyddog canlyniadau roi gwybod i’r swyddog enwebu cofrestredig erbyn pa ddyddiad y cynghorwyd D i gadarnhau bod D yn barod i wasanaethu fel aelod o’r Senedd dros yr etholaeth o dan sylw.
- (7) Rhaid trin D fel pe bai wedi peidio â chael ei gynnwys ar restr at ddibenion llenwi sedd wag—
- (a) pan fo’r swyddog canlyniadau yn penderfynu bod y camau a gymerwyd i gysylltu â D wedi bod yn aflwyddiannus,
- (b) pan nad yw’r swyddog canlyniadau wedi cael cadarnhad ysgrifenedig gan D fod D yn barod i wasanaethu fel aelod dros yr etholaeth Senedd o dan sylw, o fewn yr amserlen a bennir yn unol â pharagraff (5),
- (c) pan fo D wedi datgan mewn ysgrifen nad yw D yn barod i wasanaethu felly fel aelod dros yr etholaeth Senedd o dan sylw, neu
- (d) pan fo’r ddau amgylchiad a nodir ym mharagraff (8) yn gymwys.
- (8) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (7)(d) yw—
- (a) bod y swyddog canlyniadau wedi ei fodloni nad yw D yn aelod o’r blaid wleidyddol gofrestredig y mae D wedi ei gynnwys ar ei rhestr, a
- (b) o fewn yr amserlen a bennir yn unol â pharagraff (5), fod hysbysiad a lofnodwyd gan swyddog enwebu cofrestredig y blaid honno yn dod i law’r swyddog canlyniadau nad yw’r Llywydd i gael ei hysbysu am enw D fel enw’r person sydd i lenwi’r sedd wag.
- (9) Pan fo D yn cael ei drin, yn unol â pharagraff (7), fel pe bai wedi peidio â chael ei gynnwys ar restr at ddibenion llenwi sedd wag, rhaid i’r swyddog canlyniadau yn ddiymdroi—
- (a) ailadrodd y weithdrefn sy’n ofynnol gan baragraff (4) mewn cysylltiad â’r person, os oes un, y mae ei enw a’i gyfeiriad yn ymddangos nesaf uchaf ar y rhestr honno, ac mae paragraffau (5) i (8) a’r paragraff hwn hefyd yn gymwys mewn cysylltiad â’r person hwnnw, a
- (b) hysbysu’r Llywydd na fydd D yn llenwi’r sedd wag a bod y weithdrefn i gael ei hailadrodd mewn cysylltiad â’r person, os oes un, y mae ei enw a’i gyfeiriad yn ymddangos nesaf uchaf ar y rhestr honno.
- (10) Rhaid i’r swyddog canlyniadau barhau i ailadrodd y weithdrefn nes bod y swyddog canlyniadau wedi hysbysu’r Llywydd am enw’r person sydd i lenwi’r sedd wag neu fod yr enwau ar y rhestr honno wedi eu dihysbyddu.
- (11) Yn ddarostyngedig i baragraffau (7)(d) ac (8), pan fo D, mewn ymateb i’r cwestiwn gan y swyddog canlyniadau o dan baragraff (4)(b)(i), gan gynnwys y paragraff hwnnw fel y’i cymhwysir gan baragraff (9)(a), yn datgan mewn ysgrifen ei fod yn barod i wasanaethu fel aelod dros yr etholaeth Senedd o dan sylw, rhaid i’r swyddog canlyniadau, oni bai bod paragraff (12) yn gymwys, yn ddiymdroi—
- (a) llenwi tystysgrif yn ffurf 23 a nodir yn Gymraeg a Saesneg yn Atodlen 10, a
- (b) ei danfon, neu achosi iddi gael ei danfon, at y Llywydd.
- (12) Pan fo’r canlynol yn digwydd cyn diwedd yr amserlen a ragnodir ym mharagraff (5)—
- (a) mae D yn datgan mewn ysgrifen fod D yn barod i wasanaethu,
- (b) nid yw’r amgylchiadau ym mharagraff (8) yn gymwys, ac
- (c) mae D yn rhoi gwybod i’r swyddog canlyniadau fod D wedi gwneud cais llwyddiannus i gofrestru fel etholwr llywodraeth leol yng Nghymru o dan adran 10ZC o Ddeddf 1983122, ond na fydd y cais yn cael effaith tan ar ôl yr amserlen a ragnodir ym mharagraff (5),
rhaid i’r swyddog canlyniadau gwblhau’r camau sy’n ofynnol gan baragraff (11) cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i gais D gael effaith.
- (13) At ddibenion paragraff (12)(c), rhaid i D ddarparu copi i’r swyddog canlyniadau o’r hysbysiad a ddarperir i D yn cadarnhau bod cais D wedi bod yn llwyddiannus a’r dyddiad y mae’r cais yn cael effaith.
- (14) Rhaid i’r swyddog canlyniadau hefyd yn ddiymdroi roi hysbysiad cyhoeddus am enw—
- (a) yr aelod i’w ddychwelyd, a
- (b) y blaid wleidyddol gofrestredig yr oedd yr aelod hwnnw yn ymgeisydd rhestr plaid ar ei chyfer.
- (15) Pan fo’r sedd yn parhau i fod yn wag ar ôl cymhwyso’r rheol hon, rhaid i’r swyddog canlyniadau yn ddiymdroi—
- (a) rhoi hysbysiad cyhoeddus na ellir llenwi’r sedd wag ac y bydd y sedd yn parhau i fod yn wag tan etholiad cyffredinol nesaf y Senedd yn rhinwedd adran 11(7) o Ddeddf 2006123,
- (b) cwblhau tystysgrif yn ffurf 24 a nodir yn Gymraeg ac yn Saesneg yn Atodlen 10, ac
- (c) ei danfon, neu achosi iddi gael ei danfon, at y Clerc.
- (16) Pan fo’r Llywydd yn cael tystysgrif gan swyddog canlyniadau o dan baragraff (11), rhaid i’r Llywydd gofnodi yn y cofnod dychweliadau—
- (a) enw’r person a bennir mewn hysbysiad sydd i lenwi’r sedd wag,
- (b) enw’r etholaeth Senedd berthnasol, ac
- (c) y dyddiad y daeth yr hysbysiad i law’r Llywydd.
- (17) Pan fo tystysgrif yn dod i law’r Clerc gan swyddog canlyniadau o dan baragraff (15)(c), rhaid i’r Clerc gofnodi yn y cofnod dychweliadau fod sedd wag yn yr etholaeth Senedd o dan sylw sydd i barhau i fod yn wag nes etholiad cyffredinol nesaf y Senedd o dan adran 11(7) o Ddeddf 2006.
- (18) Yn y rheol hon, ystyr “y cofnod dychweliadau” yw’r cofnod a gedwir yn unol â rheol 74(1).
Pleidiau gwleidyddol cofrestredig
76
- (1) At ddibenion cymhwyso’r rheolau hyn mewn perthynas ag etholiad i’r Senedd, ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig” yw plaid a gofrestrwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol 2000 ar y diwrnod (“y diwrnod perthnasol”) sydd 2 ddiwrnod cyn y diwrnod olaf ar gyfer danfon papurau enwebu yn yr etholiad yn unol â’r Tabl yn rheol 1(1).
- (2) Mae plaid wleidyddol gofrestredig yn blaid gymwys mewn perthynas ag etholaeth Senedd os oedd y blaid, ar y diwrnod perthnasol, wedi ei chofrestru mewn cysylltiad â Chymru yng nghofrestr Prydain Fawr a gynhelir o dan y Rhan honno o’r Ddeddf honno.
- (3) At ddibenion paragraff (1), rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod sy’n ddiwrnod eithriedig.
Swyddog enwebu cofrestredig plaid: cyflawni swyddogaethau
77
- (1) Caiff swyddog enwebu cofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig, mewn ysgrifen, benodi un neu ragor o bersonau i gyflawni pob un o swyddogaethau’r swyddog enwebu cofrestredig, neu unrhyw un neu ragor ohonynt, a roddir neu a osodir gan y rheolau hyn.
- (2) Pan wneir penodiad o dan baragraff (1), rhaid danfon copi o’r ddogfen sy’n cofnodi’r penodiad hwnnw at y swyddog canlyniadau.
- (3) Pan na fo swyddog canlyniadau yn cael copi o’r ddogfen sy’n ofynnol yn unol â pharagraff (2), mae gan y swyddog canlyniadau hawlogaeth i drin unrhyw un neu ragor o swyddogaethau’r swyddog enwebu cofrestredig yr honnir iddi gael ei harfer (neu sydd i’w harfer) ar ran y swyddog enwebu cofrestredig gan berson arall fel pe na bai wedi ei harfer (neu fel pe na bai’n arferadwy).
Dehongli
Rhoddion: rheolau cyffredinol
Nawdd
Taliadau etc. nad ydynt i’w hystyried yn rhoddion
Gwerth rhoddion
Gwahardd derbyn rhoddion oddi wrth roddwyr nas caniateir
Derbyn neu ddychwelyd rhoddion
Trosglwyddo rhoddion sy’n dod i law’r ymgeisydd i asiant etholiad
Efadu cyfyngiadau ar roddion
Datganiad o roddion perthnasol
Rhoddion gan roddwyr a ganiateir
Rhoddion gan roddwyr nas caniateir
Canllawiau gan y Comisiwn Etholiadol
Defnyddio ystafelloedd mewn mangre ysgol
Rhestr o ystafelloedd mewn mangre ysgol
Rhestr o ystafelloedd cyfarfod
Rhestrau i’w cadw gan y swyddog cofrestru
Edrych ar restrau
Deiseb etholiad ar gyfer etholiad i’r Senedd: addasu Rheolau Deisebau Etholiad 1960
Addasu rheol 2(2) (diffiniadau)
Addasu rheol 2(3) (swyddog rhagnodedig)
Addasu rheol 4(1) (ffurf deiseb)
Addasu rheol 9(3) (arddangos etc. hysbysiad am amser a lleoliad treial)
Addasu rheol 10(1) (nodi pleidleisiau sy’n bwnc dadl)
Addasu’r Atodlen (deiseb etholiad)
Addasu cyfeiriadau at adran o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983
Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020
Deddf Etholiadau 2022
Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001
Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu 2012
Rheoliadau Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu (Swyddogaethau Swyddogion Canlyniadau) 2012
Reading this document does not replace reading the official text published on legislation.gov.uk. Contains public sector information licensed under the Open Government Licence v3.0. We assume no responsibility for any inaccuracies arising from the conversion of the original CLML XML to this format.
This text is published under legislation.gov.uk's own terms of reuse, not a Legalize or public-domain licence.
legislation.gov.uk
Open Government Licence v3.0 (attribution required)
© Crown and database right. Derived from content available under the Open Government Licence v3.0 from legislation.gov.uk.